Ffurflen

Ffurflen WCA50: Holiadur gallu i weithio

Dylech ond llenwi’r holiadur gallu i weithio hwn os gofynnir i chi wneud hynny, nid ffurflen gais yw hon.

Yn berthnasol i Loegr, yr Alban a Chymru

Dogfennau

Holiadur Gallu i Weithio

Manylion

Mae’r ffurflen hon yn disodli ffurflenni ESA50W a UC50W. Bydd y ffurflen WCA50W newydd hon yn cael ei hanfon gan ein Darparwyr Asesiad o 24 Tachwedd 2025.

Os ydych eisoes wedi llenwi ffurflen ESA50W neu UC50W, bydd hyn yn cael ei dderbyn gan y Gwasanaeth Cynghori Asesiadau Iechyd.

Dylech ond llenwi’r ffurflen hon os gofynnir i chi wneud Asesiad Gallu i Weithio.

Darganfyddwch sut i wneud cais am:

Cyn i chi ddechrau’r ffurflen hon

Os ydych yn byw yng Ngogledd Iwerddon

Darganfyddwch sut i wneud cais am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yng Ngogledd Iwerddon.

Darganfyddwch sut i wneud cais am Gredyd Cynhwysol yng Ngogledd Iwerddon.

Os ydych yn defnyddio ffôn symudol neu dabled

Ni allwch lenwi’r ffurflen gan ddefnyddio ffôn symudol neu dabled. Mae’n rhaid i chi naill ai:

  • ddefnyddio cyfrifiadur neu liniadur
  • argraffu’r ffurflen a’i llenwi â llaw

Os ydych yn defnyddio cyfrifiadur neu liniadur

Defnyddiwch ddarllenydd PDF i agor a llenwi’r ffurflen hon. Gallwch lawrlwytho darllenydd PDF am ddim ar-lein.

Os ydych yn defnyddio meddalwedd darllenydd sgrin i gael mynediad i’r ffurflen, rydym yn argymell eich bod yn adolygu’r holl nodiadau a’r cwestiynau ar y ffurflen cyn i chi ei chwblhau. Wrth i chi lenwi’r ffurflen, byddwch yn cael eich tywys drwy’r cwestiynau yn seiliedig ar yr ymatebion rydych yn eu darparu.

Peidiwch â defnyddio porwr eich cyfrifiadur neu, os ydych yn ddefnyddiwr Apple Macintosh, y cyfleuster Preview.

Gallwch arbed data wedi’i deipio yn y ffurflen hon os ydych yn defnyddio darllenydd PDF. Mae hyn yn golygu nad oes rhaid i chi lenwi’r ffurflen mewn un sesiwn.

Mae yna broblemau dibynadwyedd gyda rhywfaint o feddalwedd gynorthwyol, agallai olygu na fydd y ffurflen yn arbed yn iawn.

Bydd y ffurflen hon ond yn arbed os yw:

  • wedi’i arbed ar eich cyfrifiadur
  • wedi’i agor mewn fersiwn ddiweddar o ddarllenydd PDF

Ni chaiff y ffurflen ei harbed yn:

  • fersiynau o Acrobat Reader sy’n hŷn na fersiwn XI
  • rhai darllenwyr PDF eraill, er enghraifft Preview ar Mac neu Foxit ar Gyfrifiadur

Cymorth i ddefnyddio’r ffurflen gais PDF hon

Cymorth Lwfans Cyflogaeth a Chymorth

Am gymorth a chyngor ar y wybodaeth y mae angen i chi ei rhoi ar y ffurflen neu am Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Cymorth gyda Chredyd Cynhwysol

Ni fyddwch yn gallu cael atebion i unrhyw gwestiynau sydd gennych am eich budd-dal. Ar gyfer hyn bydd angen i chi naill ai:

  • fewngofnodi i’ch cyfrif Credyd Cynhwysol os oes gennych un
  • ffonio linell gymorth Credyd Cynhwysol os nad oes gennych gyfrif ar-lein

Llinell gymorth Credyd Cynhwysol

Ffôn: 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Relay UK (os na allwch glywed na siarad dros y ffôn): 18001 yna 0800 328 5644
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Llinell Gymraeg: 0800 328 1744
Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych yn cael anawsterau technegol

Cysylltwch â Desg Gymorth Ar-lein DWP os ydych yn cael trafferthion i:

  • lawrlwytho’r ffurflen
  • symud o gwmpas y ffurflen
  • argraffu’r ffurflen

Desg gymorth ar-lein DWP

E-bost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk

Ffôn 0800 169 0154

Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a phob gŵyl gyhoeddus a gŵyl y banc

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os ydych angen y ffurflen hon mewn ffurf gwahanol

Gallwn anfon y ffurflen atoch yn y ffurfiau canlynol:

  • copi wedi’i argraffu
  • ffurf gwahanol, fel print bras, braille neu CD sain

Os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac angen ffurf gwahanol, ffoniwch Credyd Cynhwysol. Gallwch ddod o hyd i’r rhif ar frig unrhyw lythyrau rydym wedi’u hanfon atoch, neu ddweud wrthym drwy ddefnyddio’ch dyddlyfr ar-lein os oes gennych un.

Os ydych yn hawlio Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ac angen ffurf gwahanol, cysylltwch â’r Ganolfan Byd Gwaith.

Os ydych yn cael anawsterau technegol

Cysylltwch â Desg Gymorth Ar-lein DWP os ydych yn cael trafferthion i:

  • lawrlwytho’r ffurflen
  • symud o gwmpas y ffurflen
  • argraffu’r ffurflen

Desg gymorth ar-lein DWP

E-bost dwponline.helpdesk@dwp.gov.uk

Ffôn 0800 169 0154

Dydd Llun i ddydd Gwener 8am i 6pm
Ar gau ar benwythnosau a phob gŵyl gyhoeddus a gŵyl y banc

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 24 Tachwedd 2025

Argraffu'r dudalen hon