Canllawiau

Mehefin 2018: Cylchlythyr ymgysylltu â landlordiaid Credyd Cynhwysol

Diweddarwyd 1 April 2020

Rydym yn diweddaru ein gwybodaeth i landlordiaid yn rheolaidd, darllenwch y fersiwn diweddaraf o’r Canllaw Credyd Cynhwysol a’r Sector Tai ar Rent a defnyddiwch y ffurflen UC47 diweddaraf i wneud cais am daliad o rent o Gredyd Cynhwysol tenant.

1. Diweddariadau cyffredinol

1.1 Cyhoeddiadau Credyd Cynhwysol

Ar 7 Mehefin 2018, cadarnhaodd yr Ysgrifennydd Gwladol ymrwymiad y llywodraeth mewn datganiad ysgrifenedig y byddai cwsmeriaid sy’n cael eu symud i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau eraill gan yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), yn cael eu hawl presennol i fudd-dal wedi’i ddiogelu hyd nes y bydd eu hamgylchiadau’n newid.

Hefyd cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol newidiadau i sicrhau bod Credyd Cynhwysol yn cefnogi pobl i waith, diogelu cwsmeriaid bregus ac wedi’i dargedu at y sawl sydd ei angen.

Bydd y newidiadau hyn yn cefnogi cwsmeriaid sydd ar hyn o bryd yn derbyn Premiwm Anabledd Difrifol (SDP), y rheini a oedd â hawl i SDP o’r blaen cyn symud i Gredyd Cynhwysol, cwsmeriaid â chostau gofal plant, a thaliadau cyflog afreolaidd.

1.2 Gwneud cais am daliad wedi’i reoli i landlord

Os ydych yn landlord preifat neu’n landlord cymdeithasol sydd heb gyfeiriad e-bost diogel ac rydych yn gwneud cais am Daliad Wedi’i Reoli i Landlord (MPTL) oherwydd dyledion rhent, bydd angen i chi gwblhau’r UC47 nad yw’n ddiogel .

Os ydych chi’n gwneud cais am MPTL oherwydd ffactor haen un neu haen dau yn unig, bydd angen i chi lenwi’r fersiwn ddiogel o’r ffurflen UC47 ac egluro eich rhesymau yn y blwch gwybodaeth ychwanegol.

Gellir dod o hyd i’r fersiwn ddiogel o’r UC47 trwy ddewis ‘ydy’ i’r cwestiwn ar GOV.UK ‘A yw eich cyfeiriad e-bost yn cynnwys unrhyw un o’r canlynol? Unwaith y byddwch wedi rhoi cod post eich tenant, rhaid i chi wedyn anfon y ffurflen wedi’i llenwi atom os nad oes gennych gyfeiriad e-bost diogel.

Rydym yn edrych i ddatblygu proses ar-lein fwy syml ar gyfer landlordiaid sy’n gofyn am daliad wedi’i reoli i landlord APA trwy GOV.UK.

Bydd hyn yn gwella’r broses gyfredol, gan alluogi casglu gwybodaeth yn ddiogel a dileu’r angen am y fersiynau gwahanol o ffurflenni UC47.

Bydd profion defnyddwyr yn cael eu cynnal gyda landlordiaid i ddatblygu’r cynllunio. Bydd diogelwch wrth wraidd y broses newydd hon, er mwyn casglu’r rheswm dros yr APA a manylion banc y landlord yn ddiogel. Byddwn yn eich diweddaru mewn cylchlythyrau yn y dyfodol wrth i’r gwaith hwn ddatblygu.

Darganfyddwch fwy am Daliadau Uniongyrchol.

1.3 Canllaw Credyd Cynhwysol a landlordiaid

Mae’r canllaw Credyd Cynhwysol a landlordiaid wedi cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r newid i lety dros dro a gyflwynwyd o 11 Ebrill 2018.

1.4 Ystadegau Credyd Cynhwysol

Mae ystadegau Credyd Cynhwysol yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK. Mae’r ystadegau arbrofol UC diweddaraf yn cwmpasu’r nifer o geisiadau sydd wedi’u gwneud, dechreuad a phobl sydd ar Gredyd Cynhwysol hyd at 10 Mai 2018.

1.5 Symud pobl i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau oedran gweithio eraill

Cyhoeddwyd ymgynghoriad gan y Pwyllgor Cynghori ar Nawdd Cymdeithasol (SSAC) ar symud hawlwyr i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau oedran gweithio eraill.

Darllenwch ymgynghoriad SSAC ar symud hawlwyr i Gredyd Cynhwysol o fudd-daliadau oedran gweithio eraill..

1.6 Credyd Cynhwysol – gwybodaeth bellach i gyplau

Mae’r trosolwg o beth mae Credyd Cynhwysol yn ei olygu i gyplau sy’n gwneud cais ar y cyd, yn cynnwys pwy all wneud cais ar y cyd a beth fydd disgwyl iddynt ei wneud yn gyfnewid wedi’i ddiweddaru ar GOV.UK.

1.7 Newidiadau i gyfraddau’r Lwfans Gwaith

Mae gwybodaeth am newidiadau i lwfansau gwaith Credyd Cynhwysol wedi cael eu diweddaru.

Mae’r cyfraddau lwfans gwaith wedi newid ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd o £192 i £198 ac o £397 i £409. Mae newidiadau eraill yn cynnwys diweddaru gwybodaeth am gyfraddau tapr Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am lwfansau gwaith Credyd Cynhwysol.

1.8 Newidiadau tîm partneriaeth DWP

Sut i gysylltu â thimau partneriaeth DWP ar gyfer Cymru, Yr Alban a Lloegr.

Mae’r cyswllt ar gyfer Cymru wedi’i ddiweddaru. Mae ‘London and Home Counties’ wedi newid i ‘London and Essex’ ac ‘East Midlands’ i ‘East and Central Midlands’, fel yr ardaloedd daearyddol newydd ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am bartneriaethau DWP.

1.9 Canllaw i gredydwyr a chyflenwyr presennol

Canllaw i gredydwyr a chyflenwyr presennol, er enghraifft, cyflenwyr cyfleustodau a landlordiaid, ar sut mae’r cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio.

Mae’r ffurflen cynllun didyniadau o fudd-daliadau wedi’i ddiwygio ar GOV.UK – ‘Form to amend customer reference numbers’ (ePRS03).

Ewch i’r cynllun didyniadau o fudd-daliadau wedi’i ddiwygio – ffurflen ePRs03.

Am fwy o wybodaeth dewiswch:

  • mae gwybodaeth ddiwygiedig am ganolfannau cyswllt hefyd wedi’i gynnwys drwy’r llyfryn
  • sut mae’r cynllun didyniadau o fudd-daliadau yn gweithio: canllaw i gredydwyr neu gyflenwyr

1.10 Costau tai ar gyfer pobl 18 i 21 oed

Mae’r llywodraeth wedi cyhoeddi y bydd yn diwygio rheoliadau fel y bydd bob person 18 i 21 oed yn cael hawl i wneud cais am gymorth gyda chostau tai mewn Credyd Cynhwysol.

Ar hyn o bryd mae pobl 18 i 21 oed sy’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol mewn ardal gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol angen cwrdd â gofynion penodol er mwyn cael cymorth tai.

Mae’r newid hwn yn golygu y bydd pobl ifanc ar fudd-daliadau yn cael sicrwydd os byddant yn cael tenantiaeth, byddant yn cael cymorth tuag at eu costau tai.

Rydym yn cynllunio i wneud y newidiadau hyn cyn gynted ag sy’n ymarferol ac yn gweithio i’w cynnwys yn yr amserlen ddeddfwriaethol ochr yn ochr ar system gweithredu Credyd Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am gymorth tai i bobl ifanc.

1.11 Cyfraddau budd-dal a phensiwn ar gyfer 2018 i 2019

Mae’r cyfraddau budd-dal a phensiwn arfaethedig ar gyfer 2018 i 2019 wedi cael eu cyhoeddi ar GOV.UK fel y nodwyd yn y datganiad gweinidogol a waned gan y Gweinidog dros Gymorth Teulu, Tai a Chynhaliaeth Plant

Darganfyddwch fwy am gyfraddau budd-dal a phensiwn.

1.12 Cymorth Cynhwysol

Gall hawlwyr Credyd Cynhwysol gael help i wneud cais a rheoli eu taliadau o Gredyd Cynhwysol. Gelwir yr help hwn yn Gymorth Cynhwysol.

Darganfyddwch fwy am Gymorth Cynhwysol.

1.13 Digwyddiadau landlord

Rydym wedi bod yn cyflwyno cyflwyniadau am Gredyd Cynhwysol mewn digwyddiadau landlordiaid ledled y DU. Pwrpas y cyflwyniadau yw cefnogi landlordiaid trwy gynyddu eu gwybodaeth am wasanaeth llawn Credyd Cynhwysol a beth mae’n ei olygu i’w staff a’u tenantiaid. Mae’r holl ddigwyddiadau hyd yma wedi cael derbyniad da ac wedi creu cryn dipyn o drafodaeth ddefnyddiol. Mae niferoedd y cynrychiolwyr wedi amrywio o 35 i 75 ym mhob digwyddiad.

1.14 Digwyddiadau ymgysylltu allanol gyda landlordiaid:

Landlordiaid sector rhentu cymdeithasol

Rydym wedi cyflwyno 17 o ddigwyddiadau hyd yn hyn, gyda 3 arall i’w gynnal. Mae manylion y rhain fel â chanlyn:

  • Housing Quality Network – 6 digwyddiad wedi’u mynychu gyda 1 arall i’w wneud
  • National Housing Federation – 6 digwyddiad wedi’u mynychu gyda 1 arall i’w wneud
  • Chartered Institute of Housing – 1 digwyddiad wedi’i fynychu
  • Northern Housing Consortium – 1 digwyddiad wedi’i fynychu
  • Richmond Housing Association – 1 digwyddiad wedi’i fynychu
  • Hough Bellis – 2 digwyddiad wedi’u mynychu
  • Six Towns Housing – i’w wneud

Landlordiaid sector rhentu preifat

Rydym wedi bod yn cyflwyno cyflwyniadau mewn 4 digwyddiad hyd yn hyn gyda 6 arall i’w wneud. Mae manylion y rhain fel â chanlyn:

  • Residential Landlords Association – 3 digwyddiad wedi’u mynychu, gyda 4 mwy i’w gwneud
  • Eastern Landlord Association – 1 digwyddiad wedi’i fynychu
  • National Landlords Association – 2 o ddigwyddiadau i’w gwneud

Rydym nawr mewn trafodaethau gyda’r ‘Association of Residential Letting Agents’ i gyflwyno digwyddiadau i’w aelodau.

Am fwy o wybodaeth dylai landlordiaid gysylltu â’u cyrff masnachol perthnasol os hoffent fynychu un o’r digwyddiadau hyn.

1.15 Newyddion Touchbase

Mae argraffiad mis Mai o Touchbase wedi cael ei gyhoeddi ar GOV.UK. Mae Touchbase yn cynnwys newyddion yr Adran Gwaith a Phensiynau am waith, budd-daliadau oedran gwaith, pensiynau a gwasanaethau.

2. Gwybodaeth i landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol

2.1 Bwletinau Credyd Cynhwysol i awdurdodau lleol

Mae gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol i staff awdurdodau lleol wedi cael ei gyhoeddi ar GOV.UK Mae’r bwletinau Credyd Cynhwysol yn darparu staff awdurdodau lleol gyda diweddariadau ar ddatblygiadau gyda Chredyd Cynhwysol a Chymorth Cynhwysol.

Bydd y bwletinau hyn yn cael eu cyhoeddi pan fydd yr angen ac maent wedi’u cynllunio i fod yn debyg yr arddull cylchlythyrau Budd-dal Tai ar fwletinau mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu defnyddio i gyfathrebu ag awdurdodau lleol.

Darllenwch y Bwletinau Credyd Cynhwysol i awdurdodau lleol 2018.

2.2 Cwestiynau cyffredin am y trosglwyddo i daliad tai Credyd Cynhwysol

Mae cwestiynau cyffredin am y trosglwyddo i daliad tai Credyd Cynhwysol wedi cael eu cyhoeddi. Yn bennaf mae’r ddogfen hon wedi cael ei anelu at awdurdodau lleol ac mae wedi cael ei rannu gydag awdurdodau lleol fel rhan o’r bwletin gwybodaeth gyffredinol am Fudd-dal Tai (G5/2018) diweddar ar GOV.UK.

Bwletinau gwybodaeth gyffredinol am Fudd-dal Tai.

2.3 Porth landlord

Hyd at fis Mai 2018 rydym wedi ymrestru 265 o landlordiaid yn llwyddiannus i’r porth partner a landlord ymroddedig.

Byddwn yn parhau i ymrestru landlordiaid ble mae hynny’n bosibl gyda chyflwyno Credyd Cynhwysol a hefyd yn edrych i ymrestru landlordiaid sydd eisoes wedi symud i wasanaeth llawn. Byddwn yn diweddaru’r rhestr o landlordiaid sy’n fyw ar y porth ar wefan y Tŷ Cyffredin.

Rhestr o landlordiaid sydd wedi ymrestru ar y porth partner a landlord ymddiriedig.

2.4 Cyllido ar gyfer tai â chymorth

Mae ymateb dros dro wedi’i gyhoeddi i’r ymgynghoriadau sy’n ceisio barn ar gynigion y llywodraeth ar gyfer dull cyllido hyblyg ar gyfer y sector tai â chymorth.

Darllenwch yr ymateb interim – cyllido ar gyfer tai â chymorth – 2 ymgynghoriad.

3. Cylchlythyrau’r dyfodol i landlordiaid Credyd Cynhwysol

Rydym yn gobeithio eich bod wedi canfod y cylchlythyr hwn yn ddefnyddiol. Os oes unrhyw beth yr hoffech ei weld yn rhifynnau’r cylchlythyr hwn yn y dyfodol, rhowch wybod i’ch cynrychiolydd landlordiaid strategol.

Os nad oes gennych gynrychiolydd landlordiaid strategol, e-bostiwch: uc.strategiclandlordengagement@dwp.gsi.gov.uk

3.1 Sefydlu rhybuddion e-bost ar GOV.UK

Mae rhybuddion e-bost yn ffordd dda o dderbyn gwybodaeth am Gredyd Cynhwysol sydd wedi cael ei ddiweddaru ar GOV.UK.

I gofrestru am rybuddion e-bost ewch i waelod unrhyw dudalen GOV.UK a chlicio ar ‘publications’ yng ngwaelod de’r sgrin. Ar y dudalen nesaf gallwch ddewis yr hidlwyr perthnasol i adnabod beth rydych eisiau derbyn diweddariadau amdanynt - yna dewiswch ‘email’ a chwblhau manylion e-bost.

Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn fersiynau o’r cylchlythyr hwn yn y dyfodol pan gaiff ei gyhoeddi.