Canllawiau

Credyd Cynhwysol a'ch Ymrwymiad Hawlydd

Diweddarwyd 25 October 2023

Eich ymrwymiad hawlydd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol bydd angen i chi dderbyn eich ymrwymiad hawlydd.

Bydd eich ymrwymiad hawlydd yn gosod allan beth rydych wedi’i gytuno i’w wneud i baratoi at ac i chwilio am waith, neu i gynyddu eich enillion os ydych eisoes yn gweithio. Bydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol a bydd yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru yn barhaus. Bob tro bydd yn cael ei ddiweddaru bydd angen i chi dderbyn ymrwymiad hawlydd newydd i barhau i gael Credyd Cynhwysol.

Yr ymrwymiad hawlydd yw eich cofnod o’r gofynion rydych wedi’u derbyn mewn cyfnewid am gael Credyd Cynhwysol ar goblygiadau o beidio a’u cwrdd.

Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu torri os na fyddwch yn cwrdd â’ch gofynion. Gelwir hwn yn sancsiwn.

Gallwch edrych ar eich ymrwymiad hawlydd diweddaraf ar-lein. Byddwch hefyd yn gallu diweddaru eich cynnydd ar eich nodau drwy ddefnyddio’r cyfrif hwnnw.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai fod gennych lai na 12 mis i fyw, ni fydd angen ymrwymiad hawlydd arnoch.

Os ydych yn byw gyda phartner

Os ydych yn byw gyda phartner, mae’n rhaid i’r ddau ohonnoch wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd angen i’r ddau ohonoch dderbyn ymrwymiad hawlydd.

Wedi’i deilwra i’ch sefyllfa

Mae Credyd Cynhwysol yn newid fel mae pethau’n newid yn eich bywyd. Bydd eich cyfrifoldebau yn eich ymrwymiad hawlydd yn amrywio yn dibynnu ar bethau fel eich teulu, eich iechyd a’ch potensial ar gyfer enillion yn y dyfodol.

Er enghraifft:

Eich sefyllfa Eich cyfrifoldebau
Os ydych yn ennill cymaint ag y gellir ei ddisgwyl Byddwch yn derbyn Credyd Cynhwysol heb unrhyw amodau eraill i gynyddu eich enillion.
Os ydych yn gallu ac ar gael i weithio Bydd angen i chi wneud popeth yn eich gallu i roi’r cyfle gorau i chi gael gwaith. Mae’n rhaid i baratoi at a chael gwaith fod eich ffocws llawn amser. Os nad ydych yn gwneud hyn heb reswm, efallai caiff eich Credyd Cynhwysol ei ostwng. Gelwir hwn yn sancsiwn.
Os oes gennych gyflwr iechyd neu anabledd sy’n meddwl bod gennych allu cyfyngedig i weithio, ar hyn o bryd, ond mae disgwyl i hyn newid dros amser Byddwch yn cael eich cefnogi hyd nes bydd eich amgylchiadau yn gwella a byddwch yn gallu gweithio. Bydd disgwyl i chi baratoi ar gyfer gwaith cyn belled ag y gallwch.
Os ydych gydag anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio Ni ofynnir i chi weithio, a byddwch yn cael eich cefnogi trwy Gredyd Cynhwysol.
Os ydych yn darparu gofal am o leiaf 35 awr yr wythnos i rywun sy’n cael budd-dal sy’n gysylltiedig ag iechyd neu anabledd Ni fydd ofyn i chi weithio, a byddwch yn cael eich cefnogi gan Gredyd Cynhwysol.

Os oes gennych blant

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol ac mae gennych blant, bydd angen i chi benodi prif ofalwr.

Os ydych yn rhiant unigol neu’r prif ofalwr, bydd eich cyfrifoldebau’n newid wrth i’ch plentyn ieuengaf fynd yn hŷn a byddant yn cael eu teilwra i’ch amgylchiadau personol.

Oedran eich plentyn ieuengaf: Eich cyfrifoldebau
Dan 1 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith.
1 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith. Yr unig weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi ei wneud yw i gael apwyntiadau rheolaidd i drafod cynlluniau i symud i mewn i waith yn y dyfodol.
2 oed Nid fydd disgwyl i chi chwilio am waith. Yr unig weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith y bydd disgwyl i chi eu gwneud yw i gael apwyntiadau rheolaidd gyda Chredyd Cynhwysol a gweithgareddau paratoi at waith, fel ysgrifennu eich CV.
Rhwng 3 a 12 oed Bydd disgwyl i chi weithio uchafswm o 30 awr yr wythnos, neu dreulio hyd at 30 awr yr wythnos ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel gwneud cais am swyddi.
13 oed a throsodd Bydd disgwyl i chi weithio hyd at 35 awr yr wythnos, neu dreulio hyd at 35 awr yr wythnos ar weithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith fel gwneud cais am swyddi.

Cymorth gan eich anogwr gwaith

Os oes angen i chi chwilio am waith, byddwch yn cael cymorth gan ‘anogwr gwaith’. Gall eich anogwr gwaith helpu gyda phethau fel ysgrifennu CV, cael mynediad at hyfforddiant a chwilio am waith yn eich ardal.

Byddant yn canolbwyntio ar eich mentora a’ch hyfforddi, i’ch helpu i gwrdd â’r gofynion sydd wedi’u cofnodi yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Os ydych yn gallu chwilio am neu baratoi am waith, bydd eich ymrwymiad hawlydd yn cynnwys pethau fel eich nodau swyddi, gweithgaredd chwiliad gwaith rheolaidd neu unrhyw gamau i baratoi ar gyfer gwaith mae’n rhaid i chi eu cwblhau i gael Credyd Cynhwysol.

 Bydd rhain yn yr adran ‘cynllun gwaith’ yn eich cyfrif ar-lein. Gallai gweithgarwch chwilio am waith gynnwys cofrestru gyda ‘Dod o hyd i swydd’ neu asiantaeth recriwtio, neu wneud cais am swyddi gwag a awgrymir.

Gallai gweithgareddau paratoi at waith gynnwys paratoi CV neu fynychu a chwblhau cwrs hyfforddi. Gall hefyd fod disgwyl i chi fynychu apwyntiadau rheolaidd i drafod eich cynnydd. Dylech feddwl am geisio gwiath fel swydd llawn amser.

Bydd yn ddisgwyl i chi edrych neu baratoi at waith am 35 awr yr wythnos, gan ddibynnu ar eich amgylchiadau.

Os nad ydych yn gwneud beth sydd yn eich ymrwymiad hawlydd

Bydd eich ymrwymiadau yn datgan yn glir beth fydd yn digwydd os byddwch yn methu â bodloni pob un o’ch gofynion. Efallai y byddwch yn cael gostyngiad yn eich budd-dal, a elwir yn sancsiwn, os nad ydych yn bodloni un o’ch gofynion ac yn methu rhoi rheswm da i egluro pam.

Mae pa mor hir y mae sancsiynau’n para yn dibynnu ar yr hyn rydych wedi methu â’i wneud a faint o weithiau rydych wedi methu â chyflawni’ch cyfrifoldebau, heb reswm da.

Os yw gweithiwr meddygol proffesiynol wedi dweud efallai bod gennych lai na 12 mis i fyw, ni fyddwch yn wynebu sancsiynau.