Canllawiau

Gwneud cais am Gredyd Cynhywsol: gwybodaeth i bobl digartref

Diweddarwyd 20 November 2023

Mae’r canllaw hwn yn eich tywys trwy’r pethau sylfaenol o sut i wneud a rheoli cais am Gredyd Cynhwysol. Nid yw’n cwmpasu popeth felly siaradwch â’ch anogwr gwaith neu’ch gweithiwr cefnogol os oes gennych gwestiynau pellach.

Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol yn disodli’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol fel arfer. Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn cynnwys lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol sy’n berthnasol i chi, er enghraifft os oes:

  • gennych blant
  • gennych anabledd neu gyflwr iechyd
  • angen help arnoch i dalu eich costau tai

Nid yw Credyd Cynhwysol yn cynnwys cymorth i dalu am Dreth Cyngor. Pan fydd gennych denantiaeth eich hunan, bydd angen i chi wneud cais am hyn ar wahân; siaradwch â’ch anogwr gwaith am ragor o wybodaeth.

Enghraifft o’r profiad o wneud cais am Gredyd Cynhwysol?

  1. Nid oes gennyf gyfeiriad ac weithiau yn aros mewn hostel. Rwy’n mynd i’r ganolfan gwaith i wneud cais am Gredyd Cynhwysol.
  2. Rwy’n cael cymorth i lenwi’r ffurflen ar-lein a defnyddio fy hostel neu’r ganolfan gwaith fel fy nghyfeiriad ‘dan ofal’. Rwy’n defnyddio ffôn y ganolfan gwaith i drefnu fy ‘Nghyfweliad Tystiolaeth Gychwynnol’.
  3. Rwy’n mynychu fy ‘Nghyfweliad Tystiolaeth Gychwynnol’ ac yn cael cymorth i brofi fy hunaniaeth a sefydlu cyfrif banc. Rwy’n mynychu ‘Cyfweliad Cais Newydd’ ac yn cytuno ar fy Ymrwymiad Hawlydd. Rwy’n glir ac yn onest am fy sefyllfa a’r anawsterau a wynebaf ac yn cael y cymorth a’r cyngor sydd ei angen arnaf.
  4. Gallaf gael arian ar unwaith trwy wneud cais am daliad ymlaen llaw ac rwy’n gwybod bod cyngor cyllidebu hefyd ar gael.
  5. Rwyf angen help gyda’m tai, felly gofynnaf i’m hanogwr gwaith i’m cyfeirio at awdurdod lleol ar gyfer cymorth tai. Byddaf angen gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai gan nad yw Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth gyda chostau rentu ar gyfer hostel.
  6. Rwy’n pryderu am gael fy nhalu’n fisol felly gofynnaf am gael taliadau yn amlach. Yna gofynnir i mi ymweld â’r Ganolfan Gwaith ymhen 4 wythnos. Gallaf ofyn i’m hanogwr gwaith pa gymorth arall sydd ar gael yn lleol.
  7. Mae fy nhŷ wedi’i sortio allan felly dywedaf wrth fy anogwr gwaith. Os yw costau tai yn cael eu cynnwys yn fy Nghredyd Cynhwysol gallaf ofyn am gael taliadau rhent wedi’u hanfon yn uniongyrchol at fy landlord.
  8. Rwy’n barod i ddechrau chwilio am waith neu baratoi ar gyfer gwaith. Bydd fy anogwr gwaith yn fy helpu i ddod o hyd i’r gefnogaeth neu’r hyfforddiant cywir i mi.

Rhestr enghreifftiol o beth fydd anogwr gwaith yn y ganolfan gwaith yn ei wneud

  1. Caiff ceisiadau am Gredyd Cynhwysol fel arfer eu gwneud ar-lein. Os ydych angen help i wneud cais ar-lein, dylech ymweld â’ch canolfan gwaith leol neu ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol (0800 328 1744. Ar gyfer y llinell Saesneg ffoniwch 0800 328 5644 ac os ydych angen defnyddio ffôn testun ffoniwch 0800 328 1344).
  2. Efallai bydd aelod o staff yn eich cyfeirio am gymorth annibynnol a di-duedd gan Help i Wneud Cais a gyflenwir gan Cyngor Ar Bopeth. Gall cyfeiriad yr hostel neu ganolfan gwaith gael ei ddefnyddio fel cyfeiriad gohebiaeth. Gall yr ymgynghorydd Help i Wneud Cais eich helpu gyda phob agwedd o sefydlu eich cais hyd nes mae’r taliad cywir cyflawn cyntaf wedi cael ei wneud.
  3. Mae’r anogwr gwaith yn cadarnhau eich hunaniaeth trwy gyfres o gwestiynau ac yn eich cynorthwyo i sefydlu cyfrif banc neu gyfrif cerdyn Swyddfa’r Post. Yn y cyfweliad cais newydd mae’r Ymrwymiad Hawlydd (cytundeb sy’n nodi eich cyfrifoldebau) yn cael ei deilwra i adlewyrchu eich amgylchiadau personol. Mae’r anogwr gwaith hefyd yn cynghori y byddant yn defnyddio hawddfraint fel nad oes rhaid i chi chwilio am waith i chi allu canolbwyntio ar ddod o hyd i lety.
  4. Mae’r anogwr gwaith yn eich cyfeirio am gymorth tai gan eich awdurdod lleol. Byddwch angen gwneud cais newydd am Fudd-dal Tai os ydych yn aros mewn hostel.
  5. Mae’r anogwr gwaith yn cynnig trefnu taliad ymlaen llaw ar unwaith. Cynigir atgyfeiriad (wyneb yn wyneb neu dros y ffôn) i’ch helpu i reoli’ch arian.
  6. Mae’r anogwr gwaith yn trafod cyllidebu gyda chi ac yn cytuno i sefydlu taliadau mwy aml na misol. Bydd yr anogwr gwaith yn ystyried pa gefnogaeth leol arall y byddwch ei angen
  7. Mae’r anogwr gwaith yn eich helpu i roi gwybod am newid yn eich amgylchiadau ac ychwanegu manylion costau tai newydd ar y system ar-lein (oni bai eich bod yn aros mewn hostel). Gallai eich hawl gyffredinol misol nawr gynnwys costau tai. Os yw hyn yn berthnasol gellir sefydlu taliadau rhent uniongyrchol i’r landlord.
  8. Mae’r anogwr gwaith yn eich helpu i ddechrau paratoi ar gyfer gwaith trwy awgrymu cyrsiau neu raglenni eraill a allai eich helpu.

Taliadau Ymlaen Llaw

Gallwch ofyn am daliad ymlaen llaw o’ch Credyd Cynhwysol os ydych mewn angen ariannol wrth i chi aros am eich taliad cyntaf, er enghraifft, os nad ydych yn gallu fforddio costau byw cyffredinol.

I wneud cais am daliad ymlaen llaw Credyd Cynhwysol gallwch naill ai:

Mae llinellau ffôn yn brysurach na’r arfer ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Gallwch gysylltu â Chredyd Cynhwysol gan ddefnyddio’ch cyfrif ar-lein.

Gallwch wneud cais am hyd at 100% o’ch cais Credyd Cynhwysol.

Yna, caiff didyniadau eu cymryd o’ch taliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol i ad-dalu eich taliad ymlaen llaw. Ni fydd y didyniad yn fwy na 25% o lwfans safonol Credyd Cynhwysol.

Mae rhaid i chi dalu’r taliad ymlaen llaw yn ôl o fewn:

  • 24 mis os gwnewch gais ar neu ar ôl 12 Ebrill 2021
  • 12 mis os gwnaethoch gais cyn 12 Ebrill 2021

Gallwch ofyn i’ch ad-daliad gael ei oedi am hyd at 3 mis os na allwch eu fforddio. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir hyn.

Bod yn agored am eich sefyllfa

Rydym yn deall ei fod weithiau’n anodd i chi siarad â ni am faterion neu heriau rydych yn eu hwynebu, ond mae eich anogwr gwaith yno i’ch helpu. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith am unrhyw faterion y gallai fod gennych, gan gynnwys digartrefedd, dibyniaeth neu iechyd meddwl gwael. Cyn gynted y bydd yr anogwr gwaith yn gwybod, cyn gynted y gallant ddechrau rhoi’r cymorth rydych ei angen. Mae eich Ymrwymiad Hawlydd yn nodi’r hyn rydych wedi cytuno i’w wneud i baratoi am neu chwilio am waith yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol, felly gellir ei deilwra i ystyried eich amgylchiadau.

Dylid adolygu’r Ymrwymiad Hawlydd yn rheolaidd. Siaradwch â’ch anogwr gwaith os ydych yn cael trafferth gyda’r tasgau yn eich Ymrwymiad Hawlydd unrhyw bryd neu os yw’ch sefyllfa’n newid.

Ffyrdd o reoli’ch cais

Oherwydd bod Credyd Cynhwysol yn system ar-lein fel arfer bydd angen i chi edrych ar eich cyfrif i weld a yw eich anogwr gwaith wedi gosod camau gweithredu i chi eu cwblhau, gelwir y rhain yn ‘pethau i’w wneud’.

Hawddfreinitiau

Os ydych yn ddigartref neu mewn perygl o fod yn ddigartref, gall eich anogwr gwaith benderfynu a ddylai’r Ymrwymiad Hawlydd gael ei deilwra neu os ddylai eich gofynion gael eu dileu am gyfnod o amser.

Gelwir hyn yn hawddfraint. Bydd angen i chi fod yn chwilio am lety sefydlog a bydd y camau hyn wedi’u nodi ar eich Ymrwymiad Hawlydd.