Guidance

Credyd Cynhwysol a Chi

Updated 6 April 2020

1. Gwneud cais

1.1 Cyflwyniad i Gredyd Cynhywsol

Mae Credyd Cynhwysol yn fudd-dal mewn gwaith ac allan o waith. Mae wedi’i gyflwyno i roi i chi’r cymorth rydych ei angen i ddod o hyd i waith a datblygu mewn gwaith. Rydym eisiau i chi allu elwa o’r holl bethau cadarnhaol a ddaw gyda gwaith. Bydd y canllaw hwn yn eich helpu i wneud hynny.

Y gwasanaeth Credyd Cynhwysol

Mae Credyd Cynhwysol wedi cael ei gyflwyno i ddisodli’r budd-daliadau canlynol:

  • Credyd Treth Plant
  • Budd-dal Tai
  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • Credyd Treth Gwaith

Gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Os oes gennych gyfweliad wedi’i drefnu, nid oes angen i chi fynd iddo ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud yn lle hynny.

Fel arfer mae ceisiadau am Gredyd Cynhwysol yn cael eu gwneud ar-lein. Yna byddwch chi’n cwrdd â’ch anogwr gwaith mewn cyfweliad yn eich canolfan waith leol. Bydd yr anogwr gwaith yn gallu eich tywys a’ch cefnogi a, lle bo hynny’n briodol, eich helpu i mewn i waith trwy ddarparu cyngor wedi’i bersonoli gan ddefnyddio eu gwybodaeth am gyfleoedd gwaith lleol.

Fel arall, efallai y cewch reolwr achos i’ch helpu. Os na allwch ddefnyddio’r broses gwneud cais ar-lein, hyd yn oed gyda chymorth - er enghraifft, ni allwch gael mynediad i’r rhyngrwyd oherwydd cyflwr iechyd neu anabledd sy’n cyfyngu ar yr hyn y gallwch ei wneud, byddwch angen ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Beth fyddwch ei angen i wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Mae angen cael nifer o bethau i wneud cais am Gredyd Cynhwysol:

  • cyfeiriad (gall hwn fod yn gyfeiriad ‘dan ofal’)

  • cyfeiriad e-bost

  • rhif ffôn

  • manylion cyfrif banc (gellir dal gwneud cais heb gyfrif banc)

  • prawf o pwy ydych chi

Ar-lein

Mae’r mwyafrif o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn rheoli eu cais Credyd Cynhwysol drwy eu cyfrif ar-lein. Gallwch ddefnyddio eich cyfrif i roi gwybod am newidiadau, cael cymorth a defnyddio eich dyddlyfr i anfon negeseuon i’ch anogwr gwaith.

Bydd bron pob cais Credyd Cynhwysol yn cael eu rheoli drwy ddefnyddio cyfrif ar-lein. Os ydych angen rhywfaint o help i ddefnyddio’r rhyngrwyd, siaradwch â’ch anogwr gwaith neu reolwr achos am y cymorth sydd ar gael yn eich ardal.

Ymweliadau cartref

Gall Tîm Ymweliadau yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), mewn rhai amgylchiadau, ymweld â hawlwyr yn eu cartrefi i’w helpu gyda’u cais am Gredyd Cynhwysol. Gellir gwneud cais am ymweliad cartref drwy eich dyddlyfr ar-lein neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Gall ymweliadau cymorth ddigwydd yn rhywle heblaw eich cartref, er enghraifft, mewn ysbyty.

Gellir trefnu ymweliad os, er enghraifft, rydych:

  • yn methu mynychu canolfan gwaith oherwydd anabledd neu gyflwr iechyd

  • yn berson ifanc bregus sy’n gwneud cais am y tro cyntaf

    a:

  • heb neb arall i’ch helpu

  • yn methu gwneud cais am Gredyd Cynhwysol mewn unrhyw ffordd arall

Beth i’w ddisgwyl

Bydd Tîm Ymweliadau DWP yn eich ffonio i drefnu ymweliad a dweud wrthych beth i’w ddisgwyl, yn cynnwys sut i gysylltu â ni.

Yn ystod yr alwad cychwynnol bydd y Tîm Ymweliadau DWP yn dweud wrthych am:

  • dyddiad ac amser yr ymweliad – gallwch ei aildrefnu os byddwch angen

  • ble fydd yr ymweliad yn digwydd

  • sut i gysylltu â’r Tîm Ymweliadau

  • pwy fydd yn ymweld â chi – byddwch yn cael enw’r swyddog ymweld

  • diogelwch ar gyfer yr ymweliad

  • pa ddogfennau hunaniaeth fydd angen i chi eu dangos i’r swyddog ymweld

  • beth fydd angen i chi ei ddweud wrth DWP am eich incwm, cynilion a thai

  • beth ddylech ddweud wrthym am eich iechyd

Yn dilyn yr alwad byddwch yn derbyn cadarnhad o’r trefniadau trwy lythyr neu neges destun (os ydych wedi darparu rhif ffôn symudol).

Byddwch yn gallu cysylltu â Thîm Ymweliadau DWP cyn yr ymweliad os oes gennych unrhyw gwestiynau. Mae’r rhif i wneud hyn wedi’i gynnwys yn y llythyr a neges tesun o gadarnhad.

Gellir hefyd defnyddio’r rhif hwn i:

  • aildrefnu eich ymweliad

  • newid ble rydych am i’r ymweliad ddigwydd

  • trefnu i gyfrinair gael ei ddefnyddio rhyngddoch chi a’r swyddog ymweld i wirio eich hunaniaeth

Yn ystod yr ymweliad, efallai bydd y swyddog ymweld, ymysg pethau eraill:

  • yn eich helpu trwy gais dros y ffôn

  • edrych i weld os oes gennych hawl i unrhyw fudd-daliadau eraill

  • eich cyfeirio i unrhyw wasanaethau ychwanegol a allai fod ar gael

Gan fod pob ymweliad yn wahanol nid yw’n bosibl dweud pa mor hir y bydd yr ymweliad yn ei gymryd na pha gamau yn union y gall y swyddog ymweld eu cymryd i’ch helpu.

Gwirio hunaniaeth y swyddog ymweld

Gallwch wirio hunaniaeth y swyddog ymweld trwy:

  • cymharu’r enw ar gerdyn adnabod y swyddog ymweld â’r enw ar eich llythyr neu neges destun cadarnhau

  • cytuno ar gyfrinair i’r swyddog ymweld ei ddweud pan fyddant yn cyrraedd. Rhaid i chi drefnu hyn trwy ffonio’r rhif ar y llythyr neu neges destun cadarnhau cyn yr ymweliad

  • ffonio Tîm Ymweliadau DWP ar y rhif ar y llythyr neu neges destun cadarnhau a darparu enw’r swyddog ymweld

Dyddiad y cais

Os ydych angen help i wneud eich cais Credyd Cynhwysol trwy ymweliad cartref, dyddiad y cais fydd dyddiad y cyswllt cyntaf. Mae hyn yn wir hyd yn oed pan na allwch gwblhau’r cais ar yr un diwrnod.

Rhoi gwybod am newidiadau

Mae’n bwysig eich bod yn dweud wrthym am unrhyw newidiadau yn syth. Er enghraifft:

  • rydych yn newid cyfeiriad
  • rydych yn newid eich rhif ffôn
  • rydych yn dod o hyd i waith neu stopio gweithio
  • rydych yn mynd neu’n cynllunio i fynd dramor
  • rydych yn talu am ofal plant pan rydych yn gweithio neu bod eich incwm neu gyfalaf yn newid

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr.

Defnyddiwch eich cyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i roi gwybod am newidiadau drwy ateb y cwestiynau ar y sgrîn. Bydd y gwasanaeth Credyd Cynhywsol ar-lein hefyd yn egluro sut i roi gwybod am newidiadau nad ydych yn gallu dweud amdanynt ar-lein ar hyn o bryd.

Help i Wneud Cais

Mae Cyngor Ar Bopeth (Cymru a Lloegr) a Chyngor Ar Bopeth yr Alban yn cyflenwi gwasanaeth ‘Help i Wneud Cais’ newydd i unrhyw un sydd angen cymorth i wneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys unrhyw un sy’n symud o fudd-dal arall i Gredyd Cynhwysol yn dilyn newid mewn amgylchiadau.

Mae gwasanaeth Help i Wneud Cais Cyngor Ar Bopeth yn cynnig cymorth ymarferol a phersonol i’ch helpu i wneud cais am Gredyd Cynhwysol hyd at gael eich taliad cywir cyntaf.

Gellir cael mynediad i Help i Wneud Cais unrhyw bryd hyd at mae eich taliad llawn cyntaf o Gredyd Cynhwysol mewn lle. Gallwch gael mynediad i’r gwasanaeth drwy sgyrsiau gwe, drwy rif ffôn rhadffôn a wyneb i wyneb drwy eich gwasanaeth Cyngor Ar Bopeth lleol.

Mwy o wybodaeth am Help i Wneud Cais os ydych yn byw yng Nghymru neu Loegr.

Mwy o wybodaeth am Help i Wneud Cais os ydych yn byw yn yr Alban.

1.2 Eich cyfrifoldebau

Pan fyddwch yn hawlio Credyd Cynhwysol, mae nifer o weithgareddau rydych yn dod yn gyfrifol amdanynt er mwyn cael eich taliad.

Cwblhau Ymrwymiad Hawlydd gyda’ch anogwr gwaith.

Cwblhau gweithgareddau chwiliad gwaith yn unol â beth rydych wedi’i gytuno yn eich Ymrwymiad Hawlydd.

Talu eich rent a chostau tai eraill eich hun.

Rhoi gwybod am newid mewn amgylchiadau drwy eich cyfrif ar-lein neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

Rheoli eich taliadau a chyllidebu yn fisol.

Efallai y gallwch gael taliad ymlaen llaw i’ch helpu i ymdopi tan eich taliad cyntaf.

Gallwch hefyd chwilio am waith ychwanegol a chynyddu eich enillion os ydych yn gweithio’n rhan amser.

1.3 Eich Ymrwymiad Hawlydd

Pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, bydd angen i chi gwblhau a derbyn Ymrwymiad Hawlydd wedi’i deilwra.

Yn y rhan fwyaf o achosion bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn cael ei lunio yn ystod sgwrs gyda’ch anogwr gwaith yn eich canolfan gwaith leol. Bydd yn nodi’r hyn rydych wedi cytuno i’w wneud i baratoi ar gyfer gwaith a chwilio am waith (lle bo’n briodol), neu i gynyddu eich enillion os ydych eisoes yn gweithio.

Gellir dod o hyd i’ch Ymrwymiad Hawlydd yn eich cyfrif ar-lein. Bydd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol a bydd yn cymryd eich iechyd i ystyriaeth. Caiff ei adolygu a’i ddiweddaru ar sail barhaus. Bob tro y caiff ei ddiweddaru, bydd angen i chi dderbyn Ymrwymiad Hawlydd newydd i barhau i gael Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, bydd angen i’r ddau ohonoch dderbyn Ymrwymiad Hawlydd unigol. Efallai y caiff eich Ymrwymiad Hawlydd ei effeithio os bydd eich partner yn dechrau gweithio neu fod eu hamgylchiadau’n newid.

Bod yn agored am eich sefyllfa

Rydym yn deall ei bod weithiau’n anodd i chi siarad â ni am faterion neu heriau rydych yn eu gwynebu, ond mae eich anogwr gwaith yno i’ch helpu. Mae’n bwysig iawn eich bod yn dweud wrth eich anogwr gwaith am unrhyw faterion sydd gennych, gan gynnwys digartrefedd, dibyniaeth neu iechyd meddwl gwael.

Gall eich anogwr gwaith deilwra eich Ymrwymiad Hawlydd i gymryd i ystyried eich amgylchiadau.

Ddim yn cwrdd â’ch cyfrifoldebau

Bydd eich Ymrwymiad Hawlydd yn datgan yn glir beth fydd yn digwydd os na fyddwch yn cwrdd ag un neu fwy o’ch cyfrifoldebau. Gall eich taliadau Credyd Cynhwysol gael eu lleihau am gyfnod penodol o amser os ydych yn methu â cwrdd ag un neu fwy o’ch cyfrifoldebau ac yn methu rhoi rheswm da i egluro pam.

Gelwir hyn yn sancsiwn.

Os ydych yn ennill cymaint ag y gellir ei ddisgwyl yn dibynnu ar eich amgylchiadau presennol.

Byddwch yn cael cefnogaeth ariannol heb unrhyw amodau eraill i gynyddu eich enillion.

Os ydych yn gallu gweithio ac ar gael i weithio

Bydd angen i chi wneud popeth rhesymol y gallwch i roi’r cyfle gorau i chi ddod o hyd i waith. Bydd disgwyl i chi dreulio’r nifer o oriau y cytunwyd arnynt yn eich Ymrwymiad Hawlydd yn paratoi am a chael swydd. Os na fyddwch yn gwneud hyn heb reswm da efallai y cewch sancsiwn.

Os oes gennych allu cyfyngedig i weithio ar hyn o bryd yn ymwneud ag anabledd neu gyflwr iechyd, ond disgwylir i hyn newid dros amser.

Byddwch yn cael eich cefnogi hyd nes bydd eich amgylchiadau’n gwella a gallwch weithio. Bydd disgwyl i chi i baratoi ar gyfer gwaith cyn belled ag y gallwch.

Os oes gennych anabledd neu gyflwr iechyd sy’n eich atal rhag gweithio.

Ni fydd gofyn i chi weithio neu baratoi i weithio, a cewch eich cefnogi drwy Gredyd Cynhwysol.

Os ydych yn gofalu am berson sydd ag anabledd difrifol am o leiaf 35 awr yr wythnos.

Ni fydd gofyn i chi weithio, a chewch eich cefnogi drwy Gredyd Cynhwysol.

Os mai chi yw prif ofalwr plentyn.

Byddwch yn cael eich cefnogi’n eich amgylchiadau presennol. Bydd yr hyn a ddisgwylir i chi ei wneud fel prif ofalwr yn gyfnewid am gael Credyd Cynhwysol yn cael ei seilio ar oedran y plentyn ieuengaf yn eich cartref.

1.4 Hawddfreintiau

Hawddfreintiau yw gostwng neu gael gwared o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith.

Mewn rhai sefyllfaoedd gall eich gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith gael eu gostwng am gyfnod o amser oherwydd eich amgylchiadau. Mae DWP yn galw’r newidiadau hyn yn hawddfreintiau. Mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich anogwr gwaith os ydych yn gwybod os yw unrhyw un o’r sefyllfaoedd isod yn berthnasol i chi, er mwyn iddynt allu gytuno gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith addas ar gyfer eich Ymrwymiad Hawlydd.

Sefyllfaoedd sy’n arwain at hawddfraint gorfodol o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith ar gyfer y sawl mae angen iddynt chwilio am waith:

Sefyllfa Cyfnod Gwybodaeth
Gorfodol    
Marwolaeth partner neu blentyn 6 mis Hawddfraint o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith am gyfnod o 6 mis.
Trais yn y cartref 3 neu 6 mis Hawddfraint o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith ble mae meini prawf wedi ei gwrdd. Mae hwn am 6 mis ar gyfer prif ofalwr plentyn.
Dibyniaeth ar gyffuriau neu alcohol Hyd at 6 mis Os yn derbyn triniaeth strwythurol, mae hawddfraint o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn berthnasol. Adolygir amgylchiadau’n rheolaidd i gadarnhau cymryd rhan yn y driniaeth.
Pryder am blentyn 1 mis – unwaith bob 6 mis am hyd at 2 flynedd Mae hawddfraint o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn berthnasol os oes angen darparu cymorth ychwanegol i blentyn yn dilyn marwolaeth rhiant/brawd neu chwaer/prif ofalwr neu os yw’r plentyn wedi bod yn dyst i neu wedi profi trais yn y cartref neu gam drin
Gwneud dyletswydd cyhoeddus Cyfnod wedi’i gwmpasu gan yr amgylchiadau Yn cynnwys diffoddwr tân gwirfoddol, aelod o griw bad achub, gwyliwr y glannau gwirfoddol, cynghorydd, person wrth gefn yn y TA, mynychu gwasanaeth rheithgor, cyfranogwr craidd mewn ymchwiliad cyhoeddus neu annibynnol, er enghraifft, ymchwiliad i gam-drin plant yn rhywiol.
Analluog i weithio Cyfnod y Dystiolaeth Meddygol neu hyd at ddyddiad yr Asesiad Gallu i Weithio (WCA) Hawlydd yn parhau i beidio bod ar gael ei weithio.
Analluog i weithio Hyd at yr 14 diwrnod cyntaf o salwch mewn unrhyw un cyfnod Mae hawddfraint o ofynion chwiliad gwaith yn berthnasol os yw hwn y cyfnod cyntaf neu ail gyfnod o salwch mewn cyfnod parhaus o 12 mis. Mae disgresiwn anogwr gwaith yn berthnasol i osod gofynion sy’n canolbwyntio ar waith/paratoi at waith rhesymol.
Absenoldeb dros dro dramor i dderbyn triniaeth feddygol neu i deithio gyda phlentyn neu bartner. Hyd at 6 mis Mae hawddfraint o ofynion chwiliad gwaith a bod ar gael i weithio yn berthnasol os yn derbyn triniaeth meddygol wedi’i gymeradwyo dramor neu’n teithio gyda phlentyn neu bartner.
Trin fel bod â gallu cyfyngedig i weithio (LCW) Hyd at ganlyniad y (WCA) Mae hawddfraint LCW o ofynion chwiliad gwaith yn berthnasol, hyd at ganlyniad WCA. Efallai bydd cyfweliadau sy’n canolbwyntio ar waith a gweithgareddau i baratoi at waith yn cael eu gosod os yn rhesymol ar gyflwr iechyd yr hawlydd a byddant yn cael eu trafod gyda’r anogwr gwaith.
Trin fel bod â gallu cyfyngedig i weithio a gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith, yn cynnwys bod â salwch terfynol (LCWRA) Hyd at ganlyniad y WCA Ar gyfer hawlwyr sy’n cael eu trin i fod â LCWRA ar gyfer gweithgareddau sy’n gysylltiedig â gwaith, mae’n rhaid rhoi hawddfraint ar bob gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith tan eu asesiad gallu i weithio.
Diogelwch Tystion Hyd at 3 mis I’r rhai y gwnaed trefniadau o dan adran 82 o Ddeddf Troseddau Cyfundrefnol Difrifol a’r Heddlu 2005. Bydd hawddfraint o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith yn berthnasol.

Hawddfraint o ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith dewisol ar gyfer y sawl sydd angen chwilio am waith.

Gellir cymhwyso hawddfreintiau dewisol ar ddisgresiwn anogwr gwaith ble y byddai’n afresymol i osod gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith. Mae’r rhain yn cwmpasu achosion o argyfwng domestig, digartrefedd a gofal plant dros dro.

1.5 Taliadau

Sut, pryd a ble?

Telir Credyd Cynhwysol yn fisol yn uniongyrchol i’r cyfrif rydych yn ei ddweud wrthym amdano pan rydych yn gwneud eich cais. Cyfrifir y swm a gewch bob mis, ac mae’n dibynnu ar eich amgylchiadau ac enillion yn ystod y cyfnod hwnnw. Gelwir hwn yn Gyfnod Asesu.

Gwneir eich taliad Credyd Cynhwysol i fyny o swm sylfaenol a elwir yn lwfans safonol ac unrhyw symiau ychwanegol yn dibynu ar eich amgylchiadau chi a’ch cartref.

Dylech dderbyn eich taliad cyntaf 7 diwrnod ar ôl diwedd eich Cyfnod Asesu cyntaf. Byddwch wedyn yn gallu gweld eich manylion talu yn eich cyfrif ar-lein. Ni allwn gadarnhau faint y byddwch yn ei gael cyn hynny, oherwydd mae’r swm yn dibynnu ar eich amgylchiadau, er enghraifft, os ydych yn gofalu am rywun arall a/neu os ydych wedi derbyn unrhyw incwm neu enillion y mis hwnnw.

Bydd eich taliad fel arfer yn cyrraedd yr un dyddiad bob mis (neu’n gynharach os bydd y dyddiad yn disgyn ar benwythnos neu wyl banc). Os ydych chi’n gyflogedig, bydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) yn dweud wrthym am unrhyw arian rydych wedi’i ennill.

Os oeddech yn derbyn credydau treth yn flaenorol, mae’n bwysig nodi y bydd eich credydau treth yn dod i ben cyn gynted ag y byddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Credyd Cynhwysol a help gyda rheoli eich arian.

Cyfnod Asesu 1 mis calendr

Asesir a thelir Credyd Cynhwysol mewn ôl-dalaidau, yn fisol, mewn un taliad sengl.

Asesir eich amgylchiadau personol i gyfrifo swm y Credyd Cynhwysol mae gennych hawl iddo.

7 Diwrnod a Thaliadau

Fel arfer, bydd eich taliadau yn cael eu cyfrifo o’r diwrnod y byddwch yn cyflwyno eich cais a chewch eich taliad cyntaf 7 diwrnod ar ôl diwedd eich Cyfnod Asesu cyntaf.

Yna gwneir eich taliad ar yr un dyddiad bob mis tra byddwch yn parhau i fod â hawl i gael Credyd Cynhwysol. Os yw eich dyddiad talu ar ŵyl y banc neu benwythnos byddwch yn cael eich talu ar y diwrnod gwaith olaf cyn gŵyl y banc neu benwythnos.

Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’r cyfrif a ddewiswyd gennych.

1.6 Taliadau Ymlaen Llaw

Gallwch gael help ychwanegol yn ystod eich mis cyntaf o hawlio Credyd Cynhwysol.

Telir Credyd Cynhwysol bob mis a bydd gofyn i chi gyllidebu’n fisol (bydd y taliad Credyd Cynhwysol cyntaf yn cael ei wneud 7 diwrnod ar ôl diwedd eich Cyfnod Asesu cyntaf). Os ydych yn teimlo y gallech brofi problemau ariannol yn ystod yr amser rhwng gwneud eich cais a chael eich taliad cyntaf, gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw o Gredyd Cynhwysol.

Gallwch wneud cais am hyd at 100% o’ch hawl amcangyfrifedig i Gredyd Cynhwysol (gallai hyn gynnwys swm am gostau tai).

Bydd angen i chi dalu’n ôl y taliad ymlaen llaw o’ch taliadau Credyd Cynhywsol y dyfodol dros fwyafswm o 12 mis.

Mae didyniadau i dalu’n ôl y taliad ymlaen llaw yn cael eu cymryd o’ch taliad Credyd Cynhywsol misol. Mae’r didyniad cyntaf yn cael ei wneud ar y diwrnod rydych yn cael eich taliad cyntaf. Gallwch ofyn i’ch didyniadau gael eu hoedi am hyd at 3 mis os na allwch eu fforddio. Dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y caniateir hyn.

Fel arfer telir y taliadau ymlaen llaw i’r cyfrif banc rydych yn ei ddefnyddio ar gyfer eich cais Credyd Cynhwysol o fewn tri diwrnod gwaith. Os oes angen taliad yn gyflymach, gall DWP wneud taliad yr un diwrnod. Dim ond lle mae amgylchiadau eithriadol y bydd y rhain yn cael eu gwneud, er enghraifft, lle nad oes gennych ddigon o arian i barhau am y 3 diwrnod gwaith nes bydd y taliad ymlaen llaw yn cael ei dalu.

Gallwch wneud cais am daliad ymlaen llaw drwy eich cyfrif ar-lein, drwy ofyn i’ch anogwr gwaith y ganolfan gwaith neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

I wneud cais, byddwch angen:

  • egluro pam eich bod angen taliad ymlaen llaw
  • darparu manylion cyfrif banc lle dylid talu’r taliad ymlaen llaw

  • dilysu pwy ydych chi (byddwch angen gwneud hyn yn y ganolfan gwaith yn ystod eich cyfweliad cyntaf)

Os oes gennych gyfweliad wedi’i drefnu, nid oes angen i chi fynd iddo ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud yn lle hynny.

Mwy o wybodaeth am hyn a mathau eraill o daliadau ymlaen llaw sydd ar gael.

1.7 Trefniadau Talu Amgen (APAs)

Os na allwch reoli’r taliad misol sengl gellir ystyried Trefniadau Talu Amgen. Ni chaniateir pob cais am Drefniadau Talu Amgen gan y bydd pob cais yn cael ei ystyried yn ôl ei rinweddau ei hun ac yn erbyn y meini prawf cymwys.

Os ydych yn gymwys, gallwch gael:

  • arian wedi’i dalu’n uniongyrchol i’ch landlord ar gyfer rhent – mae hyn yn golygu y bydd y rhan costau tai o’ch taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n awtomatig bob mis i’ch landlord
  • taliadau yn cael eu gwneud ddwywaith y mis neu mewn achosion eithriadol 4 gwaith y mis yn hytrach na bob mis - gall hyn eich helpu i beidio rhedeg allan o arian os ydych yn cael trafferth i wneud eich taliad barhau am fis cyfan.
  • taliadau wedi’u rhannu i 2 gyfrif banc yn lle un (cyplau yn unig) – gall hyn eich helpu i reoli eich arian eich hun os oes gennych gyfrifoldebau sy’n wahanol i’ch partner, neu os ydych wedi bod yn ddioddefwr cam-driniaeth ac eisiau rheoli eich arian eich hun.

Gall Trefniadau Talu Amgen gael eu hystyried ar unrhyw adeg yn ystod eich cais Credyd Cynhwysol. Os ydych ar hyn o bryd yn gwneud cais, neu am wneud cais am Gredyd Cynhwysol, gallwch ofyn am Drefniadau Talu Amgen yn eich cyfweliad.

Mae angen i chi hefyd fod yn ymwybodol pe byddech yn mynd i ôl-ddyledion rhent, gall eich landlord wneud cais am ddidyniad trydydd parti yn uniongyrchol o’ch taliad Credyd Cynhwysol. Bydd hyn ond yn berthnasol os ydych o leiaf 2 fis mewn ôl-ddyledion gyda’ch rhent.

Efallai y byddwch am siarad â’ch landlord a dod i drefniant (er mwyn osgoi’r didyniadau hyn) os ydych yn o leiaf 2 fis mewn ôl-ddyledion gyda’ch rhent.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith am fwy o wybodaeth os ydych eisoes yn cael Credyd Cynhwysol.

1.8 Amodoldeb

Mae amodoldeb yn derm sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio grwp o amodau bydd yn rhaid i chi eu cwrdd yn seiliedig ar eich galluoedd ac amgylchiadau. Bydd pob oedolyn cymwys yn disgyn i un o bedwar grwp amodoldeb.

Holl ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae’n rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i ddod o hyd i swydd neu ennill mwy. Mae hyn yn cynnwys chwilio am swyddi, ceisio am swyddi a mynd i gyfweliadau.

Gofynion cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith a pharatoi at waith yn unig

Mae’n rhaid i chi gwrdd â’ch anogwr gwaith yn rheolaidd a pharatoi ar gyfer gwaith hefyd. Mae hyn yn cynnwys pethau fel ysgrifennu CV a mynd ar hyfforddiant neu brofiad gwaith.

Gofynion cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith yn unig

Mae’n rhaid i chi fynd i gyfarfodydd rheolaidd â’ch anogwr gwaith.

Os oes gennych gyfweliad wedi’i drefnu, nid oes angen i chi fynd iddo ar hyn o bryd oherwydd coronafeirws (COVID-19). Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn cysylltu â chi i roi gwybod i chi beth sydd angen i chi ei wneud yn lle hynny.

Dim gofynion sy’n gysylltiedig â gwaith

Nid oes rhaid i chi wneud unrhyw beth i baratoi am neu chwilio am waith

1.9 Chwiliad gwaith llawn amser

Os yw eich Ymrwymiad Hawlydd yn cynnwys chwilio am waith, bydd disgwyl i chi wneud popeth resymol y gallwch i baratoi ar gyfer gwaith a dod o hyd i waith. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd angen i chi gwblhau hyd at 35 awr o weithgaredd chwiliad gwaith yr wythnos er mwyn cael Credyd Cynhwysol.

Gallai hyn gynnwys rhai neu bob un o’r canlynol:

  • paratoi eich CV

  • teilwra eich CV ar gyfer bob swydd

  • paratoi nodyn eglurhaol eich CV

  • ymchwilio i gyflogwyr a chysylltiadau trafnidiaeth

  • chwilio am waith a gosod rhybuddion swyddi ar-lein

  • gwneud cais am swyddi addas

  • dilyn i fyny ar geisiadau

  • ei gwneud yn hawdd i chi gael eich canfod ar-lein

  • rhyngweithio gyda ffrindiau, teulu a chyfryngau cymdeithasol

  • paratoi am eich cyfweliad

  • cofnodi eich gweithgareddau i olrhain eich cynnydd

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Am ragor o awgrymiadau a syniadau ewch i Camau Dyddiol i Waith.

1.10 Sancsiynau

Os ydych yn methu â chwrdd ag unrhyw un o’r cyfrifoldebau rydych wedi cytuno arnynt yn eich Ymrwymiad Hawlydd heb reswm da, efallai y byddwch yn cael gostyngiad yn eich budd-dal, a elwir yn sancsiwn.

Yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19), ni fyddwch yn cael sancsiwn os na fyddwch yn cadw at eich Ymrwymiad Hawlydd.

Byddwn yn rhoi gwybod i chi pa mor hir y mae’r sancsiwn yn para pan fyddwn yn dweud wrthych am ein penderfyniad. Os byddwn yn gofyn i chi gwblhau gweithgaredd i gyfyngu ar hyd y sancsiwn, bydd pa mor hir y bydd y sancsiwn yn para yn dibynnu ar ba mor gyflym rydych yn cwblhau’r weithgaredd honno.

Mae yna 4 lefel o sancsiwn:

  • uwch
  • canolig
  • is
  • isaf

Bydd cyfnod y gostyngiad yn cynyddu os byddwch yn methu â bodloni gofynion nifer o weithiau ym mhob lefel.

Lefel uwch

Byddwch yn cael eich sancsiynu am 91 diwrnod (13 wythnos) am eich sancsiwn lefel uwch cyntaf a 182 diwrnod (26 wythnos) am eich ail, a phob sancsiwn lefel uwch ddilynol mewn unrhyw gyfnod o 364 diwrnod os:

  • oes yn rhaid i chi gwrdd â ‘gofyniad chwiliad gwaith’, ac rydych yn methu â gwneud cais am swydd benodol lle dywedir wrthych am wneud hynny

  • oes yn rhaid i chi gwrdd â ‘gofyniad argaeledd gwaith’, ac rydych yn gwrthod cynnig swydd

  • rydych yn gadael gwaith neu’n lleihau eich oriau gwaith, boed yn wirfoddol neu o ganlyniad i ‘gamymddwyn’ (tra’n hawlio Credyd Cynhwysol neu ychydig cyn i chi wneud cais)

Mae yna reolau arbennig ar gyfer pa mor hir y bydd eich sancsiwn yn para os yw oherwydd gadael gwaith cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19), ni fyddwch yn cael sancsiwn os na fyddwch yn cadw at eich Ymrwymiad Hawlydd.

Lefel canolig

Byddwch yn cael eich sancsiynu am 28 diwrnod ar gyfer eich sancsiwn lefel ganolig cyntaf mewn unrhyw gyfnod o 364 diwrnod, neu 91 diwrnod ar gyfer eich ail os oes:

  • angen i chi gwrdd â gofyniad chwiliad gwaith a’ch bod yn methu â chymryd pob cam rhesymol i ddod o hyd i waith â thâl neu gynyddu eich enillion o waith

  • angen i chi gwrdd â gofyniad argaeledd gwaith ac nad ydych ar gael i ddechrau gweithio neu fynd i gyfweliadau

Yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19), ni fyddwch yn cael sancsiwn os na fyddwch yn cadw at eich Ymrwymiad Hawlydd.

Lefel is

Maent yn para hyd nes y byddwch yn gwneud beth bynnag y cawsoch eich sancsiynu am fethu â gwneud, yn ogystal â 7 diwrnod i’ch sancsiwn lefel is cyntaf mewn unrhyw gyfnod o 364 diwrnod, 14 diwrnod ar gyfer eich ail, neu 28 diwrnod ar gyfer eich trydedd os ydych:

  • yn methu mynychu neu gymryd rhan mewn cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith, ac nid yw lefel sancsiwn isaf yn gymwys

  • yn methu mynychu neu gymryd rhan mewn cwrs hyfforddiant

  • yn methu cymryd camau penodol i gael gwaith â thâl, neu i gynyddu eich enillion o waith

Yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19), ni fyddwch yn cael sancsiwn os na fyddwch yn cadw at eich Ymrwymiad Hawlydd.

Lefel isaf

Mae’r rhain yn berthnasol os oes dim ond rhaid i chi gwrdd â’r gofyniad cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith, ac rydych yn methu â mynychu neu gymryd rhan mewn cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith, maent yn para hyd nes y byddwch yn cymryd rhan mewn un.

Mae sancsiwn yn lleihau swm eich lwfans safonol Credyd Cynhwysol (swm y Credyd Cynhwysol nad yw’n cynnwys arian ychwanegol ar gyfer pethau fel plant a chostau tai) sy’n cael ei dalu hyd at 100% ar gyfer hawlydd sengl neu hyd at 50% ar gyfer pob aelod o gwpl (bydd % llai yn cael ei gymhwyso i’r rhai hynny sydd ddim yn y grwp amodoldeb holl ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith).

Yn ystod yr achos o goronafeirws (COVID-19), ni fyddwch yn cael sancsiwn os na fyddwch yn cadw at eich Ymrwymiad Hawlydd.

Gostyngiad i sancsiynau o Gredyd Cynhwysol

Ni allwch gael 2 sancsiwn ar unwaith, fodd bynnag gall sancsiynau rhedeg yn gefn-wrth-gefn. Pan fyddwch yn cael eich sancsiynu, fel arfer eich taliad nesaf, neu gyfres o daliadau Credyd Cynhwysol yn y dyfodol, sy’n cael eu heffeithio.

Caiff gostyngiadau sancsiynau eu cymhwyso ar ôl cymryd enillion ac incwm heb ei ennill i ystyriaeth. Os nad oes digon o Gredyd Cynhwysol yn weddill ar ôl hyn i gymryd swm llawn y sancsiwn, bydd y sancsiwn yn lleihau’r dyfarniad i ddim ac yn cael ei drin fel pe bai wedi’i wneud yn llawn. Byddwch yn parhau i fod â hawl i Gredyd Cynhwysol ac felly bydd gennych fynediad i fudd-daliadau ‘pasbort’ fel presgripsiynau am ddim.

Gall pobl 16 ac 17 oed ddisgyn i unrhyw un o’r 4 grŵp amodoldeb:

  • Holl ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith

  • Gofynion cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith a pharatoi at waith yn unig

  • gofynion cyfweliad sy’n canolbwyntio ar waith yn unig a

  • Dim gweithgarwch sy’n gysylltiedig â gwaith

Mae’r gyfundrefn sancsiynau ar gyfer pobl 16 a 17 oed yn adlewyrchu’r drefn ar gyfer oedolion, ond mae ganddynt symiau sancsiwn is, 40% o’r Lwfans Safonol, a chyfnodau byrrach.

Os nad ydych yn cytuno â sancsiwn Credyd Cynhwysol: Gallwch ofyn am adolygiad o fewn mis i ddyddiad penderfyniad, rydym yn galw hyn y ailystyriaeth orfodol. Mae’n rhaid i chi ysgrifennu i’r adran a roddodd y penderfyniad (bydd y cyfeiriad i ysgrifennu iddo ar y llythyr penderfyniad) a dweud pam y credwch fod y penderfyniad yn anghywir, gan ddarparu unrhyw dystiolaeth.

Taliadau Caledi Adferiadwy

Efallai y gallwch gael taliad caledi os cewch sancsiwn. Byddwch yn ei ad-dalu trwy’ch taliadau Credyd Cynhwysol a fydd yn is tan eich bod wedi’i dalu’n ôl.

Cymhwyster

Gallwch gael taliad caledi os gallwch ddangos na allwch dalu am:

  • rhent

  • gwres

  • anghenion bwyd neu hylendid i chi neu’ch cartref

Rhaid i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac mae’n rhaid bod eich taliad Credyd Cynhwysol wedi cael ei stopio neu ei leihau oherwydd sancsiwn. Ni allwch wneud cais am daliad caledi oni bai bod hyn wedi digwydd. Os cawsoch sancsiwn am beidio â gwneud rhywbeth fel mynychu cyfarfod ac nad oes dyddiad terfyn i’r sancsiwn hwnnw, ni allwch gael taliad caledi nes i chi wneud yr hyn y gofynnwyd i chi ei wneud.

Rhaid i chi ddangos eich bod wedi gwneud popeth yn rhesymol i chwilio am waith yn y 7 niwrnod cyn gwneud cais am daliad caledi. Os nad ydych, ni chewch daliad caledi.

Asesir pob achos yn unigol. Bydd yn rhaid i chi ddangos eich bod wedi ceisio canfod yr arian o rywle arall a dim ond wedi gwario arian ar bethau hanfodol.

Sut i wneud cais

Ffoniwch llinell gymorth Credyd Cynhwysol.

2. Gweithio

2.1 Tapr

Mae Credyd Cynhwysol wedi’i gynllunio i sicrhau eich bod yn well eich byd mewn gwaith, drwy ychwanegu at eich cyflog bob mis tra rydych ei angen.

Mae eich taliad Credyd Cynhwysol yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy (sef tapr), a bydd yn cynyddu eto os yw eich swydd yn dod i ben neu os yw eich enillion yn gostwng.

Gallwch ennill swm penodol, sy’n seiliedig ar eich amgylchiadau unigol, cyn bod eich taliad Credyd Cynhwysol yn cael ei leihau. Po fwyaf y byddwch yn ei ennill, yr uchaf y bydd cyfanswm eich incwm, sy’n helpu i sicrhau y byddwch yn well eich byd mewn gwaith.

Defnyddiwch gyfrifiannell budd-dal i weld sut y bydd dechrau swydd neu gynyddu eich oriau’n effeithio ar eich budd-daliadau.

2.2 Lwfansau Gwaith

Pan fyddwch yn dechrau gweithio, bydd swm y Credyd Cynhwysol a gewch yn lleihau’n raddol wrth i chi ennill mwy. Ond yn wahanol i Lwfans Ceisio Gwaith, ni fydd eich taliad yn stopio os ydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Cyfanswm eich incwm fydd eich enillion, ynghyd â’ch taliad Credyd Cynhwysol. Po fwyaf y byddwch yn ei ennill, yr uchaf fydd cyfanswm eich incwm. Mae’ch cais yn parhau pan fyddwch yn dechrau gweithio, felly gallwch gymryd swyddi dros dro neu dymhorol heb boeni am wneud cais newydd sbon nac unrhyw fylchau rhwng diwrnodau cyflog wrth i chi symud i mewn ac allan o waith.

Mewn rhai achosion, efallai y byddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith. Lwfans gwaith yw’r swm y gallwch ei ennill cyn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol.

Byddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith os oes gennych chi (a/neu’ch partner) naill ai:

  • gyfrifoldeb dros blentyn

  • gallu cyfyngedig i weithio

Mae’r lwfansau gwaith misol wedi’u gosod ar:

  • £292 – os yw eich Credyd Cynhywsol yn cynnwys cymorth tai
  • £512 – os nad ydych yn cael cymorth tai

Os oes gennych enillion ond nad ydych chi (na’ch partner) yn gyfrifol am blentyn neu nad oes gennych allu cyfyngedig i weithio ni fyddwch yn gymwys i gael lwfans gwaith.

2.3 Enillion

Taliadau o enillion sydd ddim bob mis calendr

Tra rydych yn gweithio, os nad yw eich cyflogwr yn eich talu fesul mis calendr, efallai eich bod yn cael eich talu bob 4 wythnos, bob pythefnos, bob wythnos neu ar ddiwrnod penodol bob mis, a allai olygu ar gyfer rhai misoedd y byddwch yn derbyn 2 neu fwy cyflog yn ystod un cyfnod asesu Credyd Cynhwysol (AP).

Gall hyn leihau eich taliad Credyd Cynhwysol neu mewn rhai achosion olygu na fyddwch yn cael unrhyw Gredyd Cynhwysol am y mis hwnnw.

Dyddiau cyflog sefydlog

Dyma pan rydych yn cael eich talu gan eich cyflogwr ar ddyddiad sefydlog bob mis. Mewn rhai misoedd, efallai y byddwch yn derbyn eich cyflog cyn eich diwrnod cyflog arferol, er mwyn osgoi talu ar benwythnos neu wyl banc (mae penwythnosau a gwyliau banc yn cael eu galw’n ddyddiau nad ydych yn gallu bancio).

Os nad yw cyflogwyr yn dilyn cyfarwyddyd CThEM yn gywir ac yn rhoi gwybod y dyddiad talu anghywir i CThEM gall hyn effeithio ar eich taliad Credyd Cynhwysol. Os bydd hyn yn digwydd, rhaid i chi godi hyn gyda’ch cyflogwr.

Mwy o arweiniad ar pa mor aml rydych yn cael eich talu a sut y gall hynny effeithio ar daliadau Credyd Cynhwysol.

Enillion dros ben

Os yw eich enillion misol yn fwy na £2,500 dros y swm ble mae eich taliad Credyd Cynhwysol wedi stopio, mae hyn yn dod yn ‘enillion dros ben’.

Bydd eich enillion dros ben yn cael eu cario drosodd i’r mis canlynol, lle maent yn cyfrif tuag at eich enillion. Os yw’ch enillion (gan gynnwys eich enillion dros ben) yn dal i fod dros y swm lle mae’ch taliad yn stopio, ni fyddwch yn cael taliad Credyd Cynhwysol.

Os yw’ch enillion yn disgyn o dan y swm lle daeth eich taliad i ben, bydd eich enillion dros ben yn gostwng. Ar ôl i’ch enillion dros ben fynd, byddwch yn gallu cael taliad Credyd Cynhwysol eto.

Bydd angen i chi ail hawlio Credyd Cynhwysol bob mis nes bod eich enillion wedi gostwng digon i gael taliad arall.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith am fwy o wybodaeth am enillion dros ben.

Bydd y datganiad yn eich dyddlyfr ar-lein yn dangos eich lwfans gwaith a phan mae enillion dros ben yn gostwng.

2.4 Hunangyflogaeth

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol neu os oes gennych gais sy’n bodoli eisoes a’ch bod yn penderfynu mynd yn hunangyflogedig, bydd Credyd Cynhwysol yn darparu cefnogaeth i’ch helpu i dyfu eich busnes. Mae miloedd o bobl yn penderfynu cychwyn eu busnes eu hunain bob blwyddyn.

Canllaw hunangyflogaeth

Bydd canllaw hunangyflogaeth yn cael ei roi i chi pan fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn hunangyflogedig. Mae’n dweud wrthych beth i’w ddisgwyl gan eich anogwr gwaith, beth i ddod gyda chi i’ch cyfweliad cyntaf a sut i roi gwybod am enillion hunangyflogedig.

Beth mae’n ei olygu i fod yn hunangyflogedig â thâl?

Pan fyddwch yn dweud wrthym eich bod yn hunangyflogedig, mae angen i ni benderfynu ai hunangyflogaeth yw’r ffordd fwyaf priodol i chi ddod yn annibynnol yn ariannol. Y cam cyntaf tuag at wneud y penderfyniad hwn yw asesu p’un ag ydych yn ‘hunangyflogedig â thâl’.

Mae hyn yn golygu y dylai hunangyflogaeth mewn masnach, proffesiwn neu alwedigaeth fod eich prif alwedigaeth. Rhaid i’ch busnes gael ei ddatblygu yn y disgwyliad o wneud elw.

Profi eich bod yn hunangyflogedig â thâl

Bydd eich anogwr gwaith yn gofyn i chi am eich busnes a’ch enillion a bydd yn rhaid i chi ddarparu tystiolaeth i gefnogi hyn, mae pethau fel ffurflenni treth, eich Cyfeirnod Treth Unigryw gan Gyllid a Thollau EM, eich cynllun busnes, rhestrau cwsmeriaid neu ddeunyddiau marchnata i gyd yn dderbyniol.

Er mwyn gwneud penderfyniad ynghylch ai hunangyflogaeth yw eich prif alwedigaeth, byddwn yn edrych ar faint o oriau rydych yn eu treulio yn ymgymryd â gweithgaredd hunangyflogedig a faint rydych yn ei ennill ohono.

Os penderfynwn eich bod yn hunangyflogedig â thâl, cewch eich eithrio o’r holl ofynion sy’n gysylltiedig â gwaith Credyd Cynhwysol, sy’n golygu y gallwch ganolbwyntio’n llwyr ar eich busnes.

Llawr Isafswm Incwm

Mae Credyd Cynhwysol yn cynnwys ‘Llawr Isafswm Incwm’ (MIF) os ydych yn hunangyflogedig â thâl, ac mae eich busnes wedi bod yn rhedeg am fwy na 12 mis. Mae’r MIF yn lefel tybiedig o enillion. Rydym yn selio hwn ar beth fyddwn yn disgwyl i berson cyflogedig ei dderbyn mewn amgylchiadau tebyg i chi.

Mae’r MIF yn cael ei gyfrifo gan ddefnyddio’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol ar gyfer eich grŵp oedran, wedi’i luosi â nifer yr oriau y mae disgwyl i chi chwilio am a bod ar gael i weithio. Mae hefyd yn cynnwys didyniad tybiannol (amcangyfrifedig) ar gyfer treth ac Yswiriant Gwladol.

Os yw’ch enillion hunangyflogedig yn is na’r MIF rydym wedi’i gyfrifo ar eich cyfer, byddwn yn defnyddio’r MIF i gyfrifo’ch dyfarniad Credyd Cynhwysol yn lle’ch enillion gwirioneddol.

Cyfnod dechrau busnes

Os byddwn yn penderfynu eich bod yn hunangyflogedig â thâl, rydych o fewn blwyddyn o ddechrau hunangyflogaeth a’ch bod yn cymryd camau gweithredol i gynyddu eich enillion, efallai y byddwch yn gymwys am gyfnod dechrau busnes. Mae hwn yn gyfnod o hyd at ddeuddeng mis lle na chymhwysir y Llawr Isafswm Incwm, ac ni fydd yn ofynnol i chi chwilio am waith neu gymryd gwaith arall.

Ystyrir eich enillion gwirioneddol i gyfrifo eich dyfarniad Credyd Cynhwysol. Disgwylir i chi gymryd camau i adeiladu eich busnes a chynyddu eich enillion, a byddwn yn gofyn i chi ddarparu tystiolaeth o hyn yn ystod eich cyfweliadau chwarterol.

Cymorth anogwr gwaith

Os ydych yn y cyfnod dechrau busnes, cewch gefnogaeth unigol gan eich anogwr gwaith i’ch helpu i dyfu eich busnes a chynyddu eich enillion.

2.5 Os oes gennych bartner sy’n gweithio

Gall enillion eich partner effeithio ar lefel y MIF a gymhwysir i’ch cais mewn rhai amgylchiadau. Defnyddir incwm y cartref i gyfrifo swm y Credyd Cynhwysol a gewch, felly efallai y gall enillion eich partner effeithio ar eich taliad.

Os oes gennych bartner sydd hefyd yn hunangyflogedig

Byddai gan y ddau ohonoch MIF eich hun, ac fe’i cyfrifir yn dibynnu ar eich amgylchiadau, cyfunir y rhain i gyfrifo dyfarniad eich cartref.

Newidiadau i’ch hunangyflogaeth

Byddwch angen rhoi gwybod am unrhyw newid mewn amgylchiadau cyn gynted â phosibl. Gallwch wneud hyn drwy eich cyfrif ar-lein neu drwy ffonio llinell gymorth Credyd Cynhwysol..

Yn dibynnu ar y newid, er enghraifft os ydych wedi rhoi’r gorau i fasnachu neu yn methu â gweithio yn eich busnes mwyach, efallai y bydd angen i ni gynnal prawf hunangyflogaeth â thâl newydd i benderfynu a oes angen dod â’ch cyfnod dechrau busnes i ben.

Efallai y byddwch yn newid y math o hunangyflogaeth rydych yn cymryd rhan ynddo, er enghraifft, os byddwch yn penderfynu cychwyn math gwahanol o fusnes. Nid yw hyn yn golygu y byddwch yn cael cyfnod dechrau busnes arall yn awtomatig.

Dim ond os yw’r ddau ganlynol yn berthnasol y mae gennych hawl i gyfnod dechrau busnes newydd:

  • Rydych wedi newid y math o hunangyflogaeth rydych yn ei wneud

  • Mae wedi bod yn 5 mlynedd ers eich cyfnod dechrau busnes diwethaf

2.6 Cymorth i bawb o 18 i 21 oed

Darperir rhaglen o gefnogaeth ddwys i bob person 18 i 21 oed sy’n gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol. Gelwir hyn yn Rhaglen Gymorth Gorfodaeth Ieuenctid.

Ei nod yw annog a chefnogi pob person ifanc i gyflogaeth, hyfforddiant sy’n cysylltiedig â gwaith neu brentisiaeth.

Os ydych yn 18 i 21 oed ac yn gwneud cais newydd am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn derbyn rhaglen o gefnogaeth ddwys, yn seiliedig ar dystiolaeth o’r hyn sy’n gweithio, wedi’i deilwra i’ch anghenion a’ch nodau swydd.

Trwy gydol hyn, byddwch yn parhau i gael Credyd Cynhwysol yn unol â’r cytundebau a wnaed yn eich Ymrwymiad Hawlydd. Os ydych yn mynychu hyfforddiant neu brofiad gwaith efallai y cewch ad-daliad am gostau teithio neu ofal plant.

Bydd eich anogwr gwaith yn trafod y gefnogaeth orau i chi yn eich cyfarfod cyntaf.

3. Plant

Bydd gennych hawl i swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol dros unrhyw blant a aned cyn 6 Ebrill 2017.

Ni fydd Credyd Cynhwysol yn talu swm ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blentyn dilynol a aned ar neu ar ôl 6 Ebrill 2017, oni fydd amgylchiadau arbennig yn gymwys.

Er enghraifft, os ydych eisoes yn hawlio Credyd Cynhwysol, gyda chyfrifoldeb am 2 blentyn a’ch bod wedyn yn rhoi genedigaeth i blentyn newydd, ni fyddwch yn cael swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn newydd hwnnw, oni fydd amgylchiadau arbennig yn gymwys.

Bydd dal gennych hawl i gael cymorth ychwanegol mewn perthynas ag unrhyw blant anabl, hyd yn oed os nad ydych yn cael swm plentyn ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer y plentyn anabl.

Os ydych yn gyfrifol am blentyn neu blant drwy drefniant mabwysiadu neu fel rhan o drefniant gofalu heb fod yn rhiant, yna byddwch yn gallu cael swm ychwanegol ar gyfer y plant hyn. Ni fydd hyn yn effeithio ar unrhyw symiau a gewch ar gyfer unrhyw blant eraill yn eich cartref. Bydd angen i chi ddarparu dogfennau i gefnogi hyn.

Amgylchiadau arbennig

Rydym yn galw’r amgylchiadau arbennig hyn yn “eithriadau”.

Mae rhai eithriadau os ydych yn gyfrifol am drydydd plentyn neu blentyn dilynol a’u bod yn bodloni’r meini prawf ar gyfer genedigaethau lluosog neu feichiogiad nad oedd yn gydsyniol, restrir y rhain isod.

Genedigaethau lluosog

Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer eich trydydd plentyn a phlant dilynol os cânt eu geni fel rhan o enedigaeth luosog, heblaw am 1 plentyn yn yr enedigaeth honno. Mae hyn yn golygu bod yr eithriad yn gymwys i’r plant ychwanegol yn yr enedigaeth honno.

Er enghraifft, os ydych eisoes yn cael symiau ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer 2 blentyn presennol, a’ch bod wedyn yn cael efeilliaid, byddwn yn talu swm plentyn ychwanegol arall o Gredyd Cynhwysol ar gyfer un o’r efeilliaid hynny (sy’n golygu y bydd gennych hawl i gael swm ar gyfer 3 allan o 4 o’ch plant).

Os mai’r plentyn cyntaf o’r enedigaeth luosog yw’r plentyn cyntaf neu’r ail blentyn yn y cartref, byddwn yn talu swm plentyn ar gyfer pob plentyn a anwyd fel rhan o’r enedigaeth luosog.

Plant y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol nad oedd yn gydsyniol (yn cynnwys trais), neu ar adeg pan oedd yr hawlydd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus gan riant biolegol arall eich plentyn

Gallwch gael Credyd Cynhwysol ychwanegol ar gyfer trydydd plentyn neu blant dilynol yn eich cartref y mae’n debygol eu bod wedi cael eu beichiogi o ganlyniad i weithred rywiol na wnaethoch roi cydsyniad iddi neu nad oedd yn bosibl i chi wneud hynny.

Mae hyn yn cynnwys treisio neu ble roeddech mewn perthynas oedd yn agored i reolaeth neu orfodaeth barhaus â rhiant biolegol arall y plenty ar amser y beichiogi.

Er mwyn bod yn gymwys i gael yr eithriad hwn ni ddylech fod yn byw gyda rhiant biolegol y plentyn mwyach.

Rydym yn cydnabod bod angen mynd i’r afael â’r eithriad hwn mewn modd hynod sensitif. Fodd bynnag, mae’n bwysig iawn cael yr eithriad hwn er mwyn eich helpu os ydych yn y sefyllfa hon.

Ni fydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn eich holi am y digwyddiad heblaw am dderbyn y cais a’r wybodaeth ategol. Caiff unrhyw wybodaeth a dderbynnir ei thrin yn unol â’r rheolau y mae’r Adran Gwaith a Phensiynau eisoes yn eu defnyddio ar gyfer trin a defnyddio gwybodaeth hynod sensitif.

Mwy o wybodaeth manwl ar wneud cais am Gredyd Cynhwysol am fwy na 2 o blant.

3.1 Gofal Plant

Mae help gyda chostau gofal plant cymwys Credyd Cynhwysol yn helpu rhieni sy’n gweithio drwy ddarparu cymorth ariannol ar gyfer gofal plant cymwys, waeth faint o oriau rydych yn eu gweithio. Os ydych yn gwneud cais gyda phartner fel arfer bydd angen i’r ddau ohonoch fod mewn gwaith i gael y cymorth hwn.

Mae hefyd ar gael os ydych yn hawlio Credyd Cynhwysol ac yn cael:

  • Tâl Salwch Statudol
  • Tâl Mamolaeth Statudol
  • Tâl Tadolaeth Statudol Cyffredin
  • Tâl Tadolaeth Statudol Ychwanegol
  • Tâl Tadolaeth a Rennir
  • Tâl Mabwysiadu Statudol
  • Lwfans Mamolaeth

Gallwch hawlio hyd at 85% o’ch costau gofal plant gwirioneddol a dalwyd allan os ydych yn bodloni’r amodau cymhwyso a bod eich costau gofal plant yn gymwys.

Gallwch ddweud wrthm am eich costau gofal plant yn eich cyfrif ar-lein.

Gall hawlwyr sydd â chynnig swydd gadarn sydd wedi’i derbyn wneud cais am gostau gofal plant cymwys mis cyn dechrau gweithio. Siaradwch â’ch anogwr gwaith cyn gynted â phosibl am eich cynnig swydd a’r opsiynau cymorth sydd ar gael i chi o ran helpu gyda chael trefn mewn lle ar gyfer pan fyddwch yn dechrau gweithio.

Telir Credyd Cynhwysol ar gyfer costau gofal plant cymwys mewn ôl-daliadau, felly os ydych yn meddwl eich bod angen help gyda chostau ymlaen llaw, dylech drafod hyn gyda’ch anogwr gwaith. Gall cymorth ychwanegol i gwrdd â thaliad cychwynnol ar gyfer costau gofal plant cymwys fod ar gael, yn amodol ar rai amodau.

Gall Credyd Cynhwysol ar gyfer costau gofal plant cymwys hefyd gael eu hawlio am o leiaf mis ar ôl i’ch cyflogaeth ddod i ben, a all eich helpu i gynnal gofal plant wrth i chi symud rhwng swyddi.

Mae help i dalu am gostau gofal plant cymwys o fewn Credyd Cynhwysol yn berthsaol i daliadau i ddarparwyr gofal plant cofrestredig neu gymeradwy. Yn gyffredinol, golyga hyn bod y darparwr gofal plant wedi’i gofrestru gyda’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (CSSIW), OFSTED yn Lloegr ar ‘Care Inspectorate’ yn yr Alban.

Gall gofal plant cymeradwy gynnwys gofal a ddarperir yn yr ysgol neu mewn lle arall drwy warchodwr plant, cynllun chwarae, meithrinfa neu glwb. Dylai eich darparwr gofal plant cymeradwy ddarparu rhif cofrestru i chi.

Ni allwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau gofal plant cymwys i dalu am unrhyw ddarpariaeth am ddim. Fodd bynnag, gallwch wneud cais am Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau gofal plant cymwys i dalu am gost yr oriau y tu hwnt i’r ddarpariaeth am ddim. Os yw eich plentyn yn dechrau cael gofal plant am ddim, dylech ddweud wrthym am y newid ar unwaith.

Os ydych yn gweithio ac yn gyfrifol am blentyn, efallai y bydd eich cyflogwr yn gallu eich helpu gyda chostau gofal plant drwy Gymorth Gofal Plant Cyflogwr ar ffurf talebau gofal plant. Bydd Cymorth Gofal Plant Cyflogwr yn cau i geisiadau newydd o fis Ebrill 2018.

I wneud cais bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o leoliad(au) eih gofal plant a chost gwirioneddol y gofal plant gyda derbyniadau.

Help arall gyda chostau gofal plant

Gall pob plentyn 3 a 4 oed yn Lloegr gael 570 awr o addysg gynnar neu ofal plant bob blwyddyn am ddim. Mae hyn fel arfer yn cael ei gymryd fel 15 awr bob wythnos am 38 wythnos y flwyddyn. Mae rhai plant 2 oed hefyd yn gymwys.

Ers Medi 2017 bydd yr hawl gofal plant am ddim yn Lloegr yn cael ei ddyblu i 30 awr yr wythnos i rieni plant 3 a 4 oed sy’n gweithio (mae rhai amodau’n berthnasol).

Mae cynlluniau gwahanol ar gael yn yr Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon.

Mae’r cynllun Gofal Plant Di-dreth yn cefnogi rhieni gyda’u costau gofal plant. Os ydych yn cael Credyd Cynhwysol, ni fyddwch yn gymwys i gael Gofal Plant Di-dreth ar yr un pryd, felly bydd angen i chi ddewis rhwng cael costau gofal plant Credyd Cynhwysol a Gofal Plant Di-dreth.

Os ydych angen help gyda hyn, dylech siarad â’ch anogwr gwaith.

Mwy o wybodaeth am ystod o wahanol gynlluniau gofal plant, gofal plant am ddim a chymorth gofal plant arall.

Help gyda threfniadau cynnal plant

Gallwch gael help gyda threfnu Cynnal plant gan ‘Opsiynnau Cynnal Plant’. Mae hwn yn wasanaeth am ddim a di-duedd i rieni sy’n byw ar wahân.

Am fwy o wybodaeth, ffoniwch 0800 953 0191.

4. Tai

Os ydych chi a/neu eich partner yn gyfrifol am dalu’r rhent (gan gynnwys unrhyw daliadau gwasanaeth cymwys) ar gyfer y cartref rydych yn byw ynddo, neu os oes gennych forgais, efallai y gall Credyd Cynhwysol roi cymorth tuag at y gost. Rydym yn galw hyn yn Costau Tai Credyd Cynhwysol.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, eich cyfrifoldeb chi yw cyllidebu’n gywir a sicrhau eich bod yn talu eich rhent a chostau tai eraill yn uniongyrchol i’ch landlord neu fenthyciwr morgais neu fenthyciwr arall yn llawn. Mae bod yn gyfrifol am dalu’r rhent yn golygu bod gennych gytundeb i wneud taliadau rhent ac mae gennych gontract neu gytundeb rhentu ysgrifenedig gyda landlord, sefydliad neu asiantaeth.

Os ydych yn gwneud cais am gostau tai o dan Gredyd Cynhwysol ac yn rheoli eich cais trwy gyfrif ar-lein ac yn byw yn y sector tai cymdeithasol, bydd y ganolfan gwasanaeth yn e-bostio ffurflen Gwirio Costau Tai i’ch landlord. Unwaith y bydd hon wedi cael ei dychwelyd, bydd y wybodaeth yn cael ei wirio yn erbyn eich datganiad hawlydd.

Byddwn yn gwirio a dilysu eich tystiolaeth cyn talu Costau Tai Credyd Cynhwysol.

Byddwn hefyd yn gwirio’r lefelau rhent lleol yn eich ardal. Os na fyddwch yn darparu’r dystiolaeth yma efallai y bydd oedi wrth dalu Costau Tai Credyd Cynhwysol.

4.1 Os ydych yn cael Budd-dal Tai cyn i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol

Er mwyn eich helpu’n ariannol, bydd eich Budd-dal Tai yn parhau i gael ei dalu am 2 wythnos ar ôl i chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol. Gwneir y taliad hwn gan eich Awdurdod Lleol.

Mae’r taliad Budd-dal Tai dwy wythnos ychwanegol hwn i’ch cefnogi pan fyddwch yn symud o Fudd-dal Tai i Credyd Cynhwysol yn y lle cyntaf. Nid oes angen i chi ad-dalu’r arian ychwanegol hwn ac ni chaiff ei ystyried fel incwm gan Gredyd Cynhwysol. Nid oes angen i chi wneud cais am y 2 wythnos ychwanegol yma o Fudd-dal Tai, bydd yn cael ei dalu’n awtomatig pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn y lle cyntaf.

Os telir eich Budd-dal Tai yn uniongyrchol i’ch landlord, bydd yr arian ychwanegol hefyd yn cael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord, oni bai eich bod yn gwneud cais newydd i Gredyd Cynhwysol oherwydd newid cyfeiriad.

Mwy o wybodaeth am symud o Fudd-dal Tai i Gredyd Cynhwysol.

Os telir eich Budd-dal Tai yn uniongyrchol i chi, telir yr arian ychwanegol yn uniongyrchol i chi hefyd pan fyddwch yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

Mwy o wybodaeth am sut i wneud cais.

4.2 Os ydych mewn llety dros dro, brys, cefnogol neu gysgodol

Ni allwch gael Credyd Cynhywsol i dalu am lety dros dro, brys, cefnogol neu gysgodol. Bydd angen i chi wneud cais am Fudd-dal Tai trwy eich cyngor lleol i helpu tuag at eich costau tai.

Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI)

Os ydych chi a/neu’ch partner yn berchen ar y cartref rydych yn byw ynddo a bod gennych forgais neu fenthyciad arall wedi’i sicrhau ar yr eiddo, efallai y byddwch chi’n gymwys i gael Cymorth ar gyfer Llog Morgais (SMI).

Telir SMI fel benthyciad, y bydd angen i chi ei dalu’n ôl pan werthir yr eiddo neu y trosglwyddir perchenogaeth. Bydd y swm a gewch yn seiliedig ar gyfradd llog safonol a gymhwysir i’ch morgais sy’n weddill. Fe’i telir yn uniongyrchol i’ch benthyciwr morgais.

Unwaith y byddwch chi neu’ch partner yn derbyn incwm o waith, ni fyddwch yn gymwys i dderbyn taliadau benthyciad SMI mwyach. Bydd angen i chi ad-dalu’r arian a gewch pan fyddwch yn gwerthu neu’n trosglwyddo perchenogaeth eich cartref.

Os yw’ch tŷ yn brydlesol, efallai y byddwch hefyd yn cael help gyda rhai taliadau gwasanaeth fel rhan o’ch Credyd Cynhwysol.

Mwy o wybodaeth am Gymorth ar gyfer Llog Morgais.

Taliadau Tai Dewisol (DHP)

Yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw, efallai na fydd yr arian a delir i chi yn eich taliad Credyd Cynhwysol yn cwmpasu eich holl gostau tai. Lle mae hyn yn digwydd, dylech ystyried gwneud cais am Daliadau Tai Dewisol.

Mae’r taliadau hyn yn cael eu gwneud gan eich Awdurdod Lleol a gallant gwmpasu’r canlynol:

  • gostyngiadau mewn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol lle mae’r cap ar fudd-daliadau wedi’i gymhwyso

  • gostyngiadau mewn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol oherwydd dileu’r cymhorthdal ystafell sbâr

  • gostyngiadau mewn Budd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol o ganlyniad i gyfyngiadau Lwfans Tai Lleol

  • cyfyngiadau swyddog rhentu fel rhent cyfeirio lleol neu gyfradd llety a rennir

  • didyniadau pobl annibynnol mewn Budd-dal Tai, neu gyfraniadau cost tai mewn Credyd Cynhwysol

  • diffygion rhent i atal cartref rhag mynd yn ddigartref tra bod yr awdurdod tai yn edrych i mewn i opsiynau eraill

  • gostyngiad mewn tapr incwm

  • polisi i gyfyngu budd-dal i ddau blentyn

  • unrhyw newid polisi arall sy’n cyfyngu ar swm y Budd-dal Tai sy’n daladwy, er enghraifft dileu’r premiwm teulu

Gall DHP hefyd gael ei ddyfarnu ar gyfer blaendal rhent neu rent ymlaen llaw am eiddo nad yw’r hawlydd wedi symud i mewn iddo eto os oes ganddynt hawl i Fudd-dal Tai neu Gredyd Cynhwysol yn eu cartref presennol.

Gostyngiad Treth Cyngor Lleol

Efallai y gallech gael help gan eich awdurdod lleol gyda’ch Treth Cyngor os ydych ar incwm isel neu’n hawlio budd-daliadau, gan gynnwys Credyd Cynhwysol. Mae’r cymorth a gewch yn dibynnu ar ble rydych yn byw, eich amgylchiadau, incwm eich cartref - gan gynnwys cynilon a phensiynau, os oes unrhyw blant neu oedolion yn byw gyda chi a chynllun gostyngiad Treth Cyngor eich cyngor lleol.

Os ydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol am y tro cyntaf, byddem yn eich cynghori i wneud cais am Ostyngiad Treth Cyngor Lleol (LCTR) yn syth, gan na fydd llawer o awdurdodau lleol yn ei ôl-ddyddio i chi. Nid oes angen i chi aros nes bod eich cais am Gredyd Cynhwysol wedi cael ei asesu a/neu ei dalu.

Bydd Gostyngiad Treth Cyngor Lleol yn mynd a chi yn uniongyrchol i’r dudalen berthnasol ar wefan eich cyngor lleol, a fydd yn dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.

5. Iechyd ac Anabledd

Pan rydych yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol fe ofynnir i chi os oes gennych nail a’i gyflwr iechyd neu anabledd sy’n eich atal, neu’n cyfyngu eich gallu i weithio. Os ydych yn ateb ‘oes’ efallai y gofynnir i chi fynychu Asesiad Gallu i Weithio (WCA).

Yn y rhan fwyaf o amgylchiadau, os byddwch yn parhau i fethu â gweithio oherwydd eich cyflwr iechyd am 4 wythnos, byddwch yn cael eich cyfeirio am WCA ar ddiwrnod 29 o’ch cais.

Efallai y cewch eich cyfeirio am WCA ar ddiwrnod cyntaf eich cais pan mae un o’r canlynol yn berthnasol:

  • mae gennych salwch terfynol

  • rydych yn feichiog ac mae perygl difrifol o niwed i’ch iechyd chi, neu i iechyd y plentyn sydd heb ei eni os nad ydych yn atal rhag gweithio neu weithgaredd sy’n gysylltiedig â gwaith

  • rydych yn derbyn neu ar fin derbyn triniaeth ar gyfer cancer drwy gyfrwng cemotherapi neu radiotherapi – neu os ydych yn gwella o’r fath driniaeth

  • rydych yn yr ysbyty neu sefydliad tebyg am 24 awr neu fwy

  • rydych yn cael eich atal rhag gweithio gan y gyfraith

  • rydych yn derbyn triniaeth fel dialysis, plasmapheresis neu “total parenteral nutrition for gross impairment of enteric function” neu rydych yn gwella ar ôl derbyn un neu fwy o’r mathau hyn o driniaeth

Os ydych eisoes wedi gwneud cais am Gredyd Cynhywsol bydd angen rhoi gwybod am gyflwr iechyd neu anabledd newydd fel newid mewn amgylchiadau.

Gallwch roi gwybod am gyfnodau o salwch o hyd at 14 diwrnod fel cyfnod o salwch dros dro.

Gallwch hefyd siarad â staff yn eich canolfan gwaith leol neu eich anogwr gwaith.

6. Cymorth arall

6.1 Cymorth sydd ar gael

Rheoli eich arian

Os ydych angen rhywfaint o help gyda rheoli’ch arian gallwch ddefnyddio’r Rheolwr Arian ar-lein.

Mae’r Rheolwr Arian yn declyn digidol rhyngweithiol, sy’n eiddo i’r Gwasanaeth Cynghori Ariannol, sy’n cynnig cyngor personol ar reoli arian.

Mae’r cyngor yn cynnwys sut i agor cyfrif banc, delio ag ôl-ddyledion rhent a biliau rheolaidd a gwasanaethau cynghori ar ddyledion. Mae yna ffordd gyflym a hawdd o ddefnyddio awgrymiadau’r cynllunydd cyllideb a rheoli arian, gan gynnwys sut i leihau eich biliau cartref. Mae gan hwn hefyd wybodaeth am wneud cais am Gredyd Cynhwysol fel cwpl, gwneud cais gyda phlant, gwybodaeth i ofalwyr, dolenni i awdurdodau lleol a chanolfannau gwybodaeth eraill.

Os na allwch ddefnyddio’r teclyn Rheolwr Arian Ar-lein ac rydych angen help i reoli’ch arian, siaradwch â’ch anogwr gwaith neu reolwr achos am y gefnogaeth cyllidebu personol lleol sydd ar gael yn eich ardal chi. Gellir cynnig cyngor ariannol ar-lein, dros y ffôn neu wyneb i wyneb ac mae’n cael ei gyflenwi gan sefydliadau allanol gyda’r profiad perthnasol i wneud hyn.

Siaradwch â’ch anogwr gwaith am fwy o wybodaeth.

Taliad cyllidebu ymlaen llaw

Efallai y gallwch gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw i helpu gyda:

  • costau argyfwng yn y cartref fel prynu popty newydd yn lle un sydd wedi malu
  • cael swydd neu aros mewn gwaith
  • costau angladd

Byddwch yn ei dalu’n ôl drwy eich taliadau Credyd Cynhywsol rheolaidd – bydd y rhain yn llai nes y byddwch wedi’i dalu’n ôl. Os byddwch yn stopio cael Credyd Cynhwysol bydd angen i chi dalu’r arian yn ôl mewn ffordd arall.

Y swm lleiaf allwch chi ei fenthyg yw £100. Gallwch gael hyd at:

  • £348 os ydych yn sengl

  • £464 os ydych n rhan o gwpwl

  • £812 os oes gennych blant

Mae beth a gewch yn dibynnu ar os oes gennych gynilion o dros £1,000 ac eich bod yn gallu talu’r benthyciad yn ôl.

I gael Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw, mae’n rhaid i’r cyfan o’r canlynol fod yn berthnasol:

  • rydych wedi bod yn cael Credyd Cynhywsol, Lwfans Cyflogaeth a Chymorth, Cymhorthdal Incwm, Lwfans Ceisio Gwaith neu Credyd Pensiwn y Wladwriaeth am 6 mis neu fwy, oni bai eich bod eisiau’r arian i’ch helpu i ddechrau swydd newydd neu i aros mewn gwaith

  • rydych wedi ennill llai na £2,600 (£3,600 gyda’u gilydd ar gyfer cyplau) yn y 6 mis diwethaf

  • rydych wedi talu’n ôl unrhyw fenthyciadau Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw blaenorol

Cysylltwch â’ch anogwr gwaith yn eich canolfan gwaith leol i wneud cais am fenthyciadau Taliad Cyllidebu Ymlaen Llaw.

Help i Gynilo

Mae Help i Gynilo yn gynllun cynilo newydd gan y llywodraeth i gefnogi pobl sy’n gweithio ar incwm isel i adeiladu eu cynilion.

Gwneud cais yn yr Alban (Scottish Choices)

Os byddwch yn gwneud cais newydd yn yr Alban, gofynnir i chi os ydych eisiau cael eich talu unwaith neu ddwy waith y mis.

Pan fyddwch yn symud i lety gofynnir i chi os ydych eisiau i’r swm tai gael ei dalu’n uniongyrchol i’ch landlord. Dywedir wrth eich landlord os ydych yn dewis hyn.

Bydd yr opsiynau hyn ond yn cael eu cynnig ar ôl eich cyfnod asesu cyntaf.

Gwneud cais yng Ngogledd Iwerddon

Yng Ngogledd Iwerddon mae Credyd Cynhwysol fel arfer yn cael ei dalu ddwy waith y mis i gartref, fodd bynnag gallwch ofyn am daliad misol.

Efallai y byddwch hefyd yn cael arian i helpu dalu eich costau tai. Bydd eich cymhwyster a faint fyddwch yn ei gael yn dibynnu ar eich oedran ac amgylchiadau. Gall y taliad gwmpasu:

  • rhent

  • llog ar forgais (Cymorth ar gyfer Llog Morgais)

  • rhai taliadau gwasanaeth

  • llog ar fenthyciad sydd wedi’i sicrhau yn erbyn eu cartref

Yng Ngogledd Iwerddon bydd y taliadau hyn yn cael eu gwneud yn uniongyrchol i’ch landlord neu fenthyciwr morgais. Gallwch ofyn iddo gael ei dalu i’ch cartref gan adael i chi dalu eich rhent eich hun.

7. Budd-daliadau eraill

Yn isod fe restrir nifer o fudd-daliadau eraill efallai y bydd gennych hawl iddynt yn dibynnu ar eich amgylchiadau unigol.

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, gallwch hefyd ddefnyddio cyfrifiannell budd-daliadau.

Lwfans Ceisio Gwaith Dull Newydd (JSA Dull Newydd)

Efallai y byddwch yn gallu cael JSA Dull Newydd os ydych wedi gweithio a thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Bydd angen i chi fod wedi talu neu gael eich credydu gyda digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gallwch gael JSA Dull Newydd am hyd at 182 diwrnod. Ar ôl hyn bydd eich anogwr gwaith yn siarad â chi am eich opsiynau.

Gallwch gael JSA Dull Newydd ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Os ydych yn gwneud cais am y ddau fudd-dal, bydd unrhyw JSA Dull Newydd y mae gennych hawl i’w gael yn cael ei ddidynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Pan fydd eich JSA dull newydd yn dod i ben byddwch yn symud ymlaen i gael yr hawl llawn o Gredyd Cynhwysol.

Mae JSA Dull Newydd:

  • yn cael ei dalu bob pythefnos mewn ôl-daliadau

  • yn denu cyfraniad Yswiriant Gwladol dosbarth 1 am bob wythnos a hawlir

  • ddim yn cael ei effeithio gan enillion partner neu unrhyw gynilion sydd gennych

Mwy o wybodaeth am JSA Dull Newydd.

Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Dull Newydd (ESA Dull Newydd)

Efallai y byddwch yn gallu cael ESA Dull Newydd os ydych yn sâl ac yn methu â gweithio ac wedi gweithio a thalu cyfraniadau Yswiriant Gwladol yn y gorffennol.

Bydd angen i chi gael nodyn ffitrwydd a bod wedi talu neu gael eich credydu gyda digon o gyfraniadau Yswiriant Gwladol.

Gallwch gael ESA Dull Newydd ar ei ben ei hun neu ar yr un pryd â Chredyd Cynhwysol. Os ydych yn gwneud cais am y ddau fudd-dal, bydd unrhyw ESA Dull Newydd y mae gennych hawl i’w gael yn cael ei ddidynnu o’ch taliad Credyd Cynhwysol.

Mae ESA Dull Newydd:

  • yn cael ei dalu bob pythefnos mewn ôl-daliadau

  • yn denu cyfraniad Yswiriant Gwladol dosbarth 1 am bob wythnos a hawlir

  • ddim yn cael ei effeithio gan enillion partner neu unrhyw gynilion sydd gennych

Mwy o wybodaeth am ESA Dull Newydd.

Mae budd-daliadau eraill y gallai fod gennych hawl iddynt yn cynnwys:

  • Lwfans Gweini

  • Pensiwn Sylfaenol y Wladwriaeth

  • Lwfans Gofalwr

  • Budd-dal Plant

  • Lwfans Byw i’r Anabl

  • Budd-daliadau Anafiadau Diwydiannol

  • Cynlluniau cymorth Treth Cyngor Lleol

  • Darpariaeth Lles Lleol

  • Pensiwn Newydd y Wladwriaeth

  • Credyd Pensiwn

  • Taliad Annibyniaeth Personol

  • Budd-daliadau profedigaeth

  • Lwfans Mamolaeth

Gofynnwch i’ch anogwr gwaith am y budd-daliadau hyn.

Budd-daliadau Pasbort

Budd-daliadau pasbort yw budd-daliadau neu gynlluniau y mae gan rai grwpiau o bobl hawl i’w cael oherwydd eu bod yn cael Credyd Cynhwysol. Gall y cymorth ychwanegol y gallai hawlwyr fod a hawl iddynt gynnwys:

  • help gyda chostau iechyd, yn cynnwys presgripsiynau a thriniaeth ddeintyddol

  • prydau ysgol am ddim a buddion addysgol eraill

  • talebau Cychwyn Cadarn

  • cymorth cyfreithiol

  • help gyda defnyddio’r llysoedd neu dribiwnlysoedd

  • help gyda chostau ymweld â’r carchar

  • help gan gyflenwyr ynni a dŵr

  • gostyngiad cartref cynnes

  • taliadau tywydd oer

  • grantiau mamolaeth cychwyn cadarn

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr, ond rhain yw’r prif fuddion.

Cymorth ariannol eraill sydd ar gael.

Cymorth ychwanegol i hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n byw yn Lloegr

Cymorth ychwanegol i hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n byw yn yr Alban

Cymorth ychwanegol i hawlwyr Credyd Cynhwysol sy’n byw yng Nghymru