Guidance

Credyd Cynhwysol a thai ar rent: canllaw ar gyfer landlordiaid

Updated 3 April 2017

1. Cyflwyniad

Mae’r ddogfen hon yn darparu landlordiaid yn y sector preifat a chymdeithasol gyda’r wybodaeth gyfredol am Gredyd Cynhwysol ac yn eu helpu i ddeall yr hyn y gallant ei wneud i helpu eu tenantiaid baratoi ar gyfer y newid i daliadau uniongyrchol.

Mae’n egluro sut y bydd Credyd Cynhwysol yn sicrhau bod amddiffyniadau a dulliau diogelu priodol yn eu lle – y pwyntiau sbardun ar gyfer ymyrraeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ac adennill ôl-ddyledion lle maent yn digwydd.

Mae hefyd yn cwmpasu pa gymorth cyllidebu a thaliadau sydd ar gael i denantiaid sydd efallai angen cymorth i symud i’r system newydd. Mae hyn yn cynnwys trefniadau talu amgen os yw hawlwyr yn ei chael yn anodd rheoli eu taliad Credyd Cynhwysol a thalu eu landlord eu hunain.

2. Taliadau Credyd Cynhwysol a helpu tenantiaid i baratoi

2.1 Taliadau Credyd Cynhwysol

Yn y mwyafrif o achosion, bydd Credyd Cynhwysol yn daliad sengl, misol sy’n cael ei dalu mewn ôl-ddyledion yn uniongyrchol i gyfrif yr hawlydd. Bydd taliadau yn cynnwys yr holl gostau tai cymwys - sy’n golygu y bydd hawlwyr yn gyfrifol am dalu eu rhent eu hunain.

Bydd cyplau sy’n byw yn yr un cartref yn cael un taliad misol rhyngddynt; gall hwn gael ei dalu i gyfrif ar y cyd neu gyfrif sengl yn enw’r naill berson neu’r llall.

Bydd oedolion eraill sy’n byw yn yr un cartref sy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn cael eu talu ar wahân.

2.2 Help gyda chostau tai o dan Gredyd Cynhwysol

Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn cynnwys gwahanol symiau yn dibynnu ar anghenion unigol yr hawlydd.

Mae’r swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai yn helpu tenantiaid gyda’u costau rhent a ffioedd gwasanaeth cymwys. Mae’r rheoliadau yn datgan bod yn rhaid i hawlwyr fodloni 3 amod - taliad, atebolrwydd a galwedigaeth - i fod yn gymwys am gymorth gyda’u costau tai.

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau, yn y mwyafrif o achosion, yn talu costau tai cymwys yn uniongyrchol i’r hawlydd fel rhan o’r taliad Credyd Cynhwysol sengl. Ar gyfer tenantiaid y sector preifat, eu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol fydd p’un bynnag yw’r isaf o’u costau gwirioneddol neu’r gyfradd Lwfans Tai Lleol.

Ar gyfer tenantiaid y sector cymdeithasol, eu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol fydd eu costau tai gwirioneddol. Ni all hyn gynnwys ffioedd gwasanaeth sydd ddim yn cael eu cwmpasu gan Gredyd Cynhwysol neu gostau ar gyfer cyfleustodau, fel dŵr neu drydan.

Os oes gan denant y sector cymdeithasol unrhyw ystafelloedd gwely nad ydynt yn eu defnyddio bydd eu swm ychwanegol ar gyfer costau tai yn cael ei leihau o:

  • 14% ar gyfer un ystafell wely sbar
  • 25% ar gyfer dau neu fwy o ystafelloedd gwely sbar

2.3 Diogelwch ar gyfer landlordiaid y sector cymdeithasol a’r sector preifat

Bydd gwell diogelwch mewn lle ar gyfer landlordiaid a thenantiaid yn erbyn ôl-ddyledion o dan Gredyd Cynhwysol.

Mae llawer o landlordiaid yn y sector rhentu cymdeithasol yn derbyn eu taliadau costau tai yn uniongyrchol gan eu hawdurdod lleol. Bydd Credyd Cynhwysol yn daliad sengl, misol (gan gynnwys costau tai cymwys), wedi’i dalu’n uniongyrchol i hawlwyr. Efallai y bydd angen i landlordiaid cymdeithasol edrych ar sut a phryd y maent yn casglu eu rhent, a’r lefel o gymorth y bydd ei angen ar rai tenantiaid i wneud y trawsnewid i un taliad misol, uniongyrchol.

Gall landlordiaid baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol drwy:

  • ymgyfarwyddo eu hunain â’r newidiadau ac edrych ar sut y gallai fod angen iddynt addasu eu polisïau a phrosesau
  • ymgysylltu â’u tenantiaid yn gynnar, i ddechrau asesu eu hanghenion, a sicrhau eu bod yn deall eu cyfrifoldebau a’r cymorth sydd ar gael

Ni fydd y rhan fwyaf o landlordiaid yn y sector preifat yn gweld unrhyw newid drwy gyflwyno Credyd Cynhwysol. Mae hyn oherwydd bod y rhan fwyaf o hawlwyr o oedran gweithio yn y sector rhentu preifat eisoes yn gyfarwydd a derbyn eu taliadau Budd-dal Tai/Lwfans Tai Lleol yn uniongyrchol ac yn gyfrifol am dalu eu rhent i’w landlord.

Rydym yn annog y landlordiaid hynny yn y sector preifat sydd ar hyn o bryd yn derbyn taliad wedi’i reoli gan yr awdurdod lleol i ymgyfarwyddo â’r newidiadau ac i edrych ar sut y gallant baratoi eu hunain.

Gallwch gael mwy o wybodaeth drwy gysylltu â’ch rheolwr partneriaeth rhanbarthol am gyngor neu arweiniad penodol.

Ni fydd darparwyr llety â chymorth eithriedig yn gweld unrhyw newid oherwydd bydd eu trigolion yn cael help gyda’u costau tai ar wahân i Gredyd Cynhwysol mewn ffordd debyg i Fudd-dal Tai.

2.4 Helpu tenantiaid i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol

Gall landlordiaid helpu tenantiaid i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol drwy eu hannog i:

  • mynd ar-lein – mae Credyd Cynhwysol wedi’i gynllunio i geisiadau gael eu gwneud ar-lein, os nad oes gan denantiaid fynediad i’r rhyngrwyd neu nid ydynt yn hyderus i ddefnyddio cyfrifiadur gall y Ganolfan Gwaith ddweud wrthynt am wasanaethau lleol all helpu
  • agor cyfrif banc i dderbyn taliadau – fel arfer bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol mewn ôl-ddyledion i mewn i gyfrif sengl felly byddant angen gallu sefydlu debydau uniongyrchol neu archebion sefydlog ar gyfer talu eu biliau a’u rhent
  • defnyddio’r Cynllunydd Personol Credyd Cynhwysol sy’n gwirio pa newidiadau y gallai fod angen iddynt eu gwneud i baratoi ar gyfer Credyd Cynhwysol
  • darllen y Canllaw Croeso – mae pob hawlydd yn derbyn Canllaw Croeso i Gredyd Cynhwysol pan maent yn gwneud eu cais am Gredyd Cynhwysol, er mwyn eu cynorthwyo drwy’r newidiadau

Mae’r Canllaw hwn ar gael ar-lein a gallwch ei ddefnyddio fel sail i’ch sgyrsiau gyda thenantiaid.

2.5 Cymorth i helpu tenantiaid gyda chyllidebu

Mae nifer o fesurau diogelu mewn lle i gefnogi tenantiaid a’u helpu i reoli eu harian. Bydd cymorth cyllidebu yn cael ei gynnig pan fydd hawlwyr yn cael Credyd Cynhwysol yn y lle cyntaf. Gall y cymorth hyn fod yn gyngor ariannol neu, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol, taliad o fudd-dal ymlaen llaw.

Gall hawlydd ofyn am daliad ymlaen llaw ar gyfer cais newydd am Gredyd Cynhwysol os ydynt mewn angen ariannol ac yn methu ymdopi tan eu taliadau misol cyntaf o Gredyd Cynhwysol. Bydd hwn yn gyfran o’r taliad llawn a bydd yn cael ei ad-ennill dros gyfnod o amser.

Bydd Trefniadau Talu Amgen ar gael mewn rhai amgylchiadau ar gyfer rhai hawlwyr sy’n wirioneddol yn methu â rheoli eu taliad misol. Gallai hyn gynnwys cael taliad wedi’i reoli ei wneud i’w landlord, taliad wedi’i rannu neu daliad yn fwy aml (gweler yr adran ar ‘Cymorth a Threfniadau Talu Amgen’ am fwy o wybodaeth).

3. Talu Rhent

3.1 Sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu

Ble mae’n bosib, bydd disgwyl i hawlwyr drefnu eu taliadau rhent eu hunain fel y byddent pe baent yn gweithio’n llawn amser.

Mae angen i landlordiaid feddwl am sut y bydd hyn yn cyd-fynd â’u calendrau talu eu hunain. Os yw landlordiaid wedi derbyn taliadau rhent wedi’u rheoli yn flaenorol gan yr awdurdod lleol, bydd angen iddynt siarad â’u tenantiaid i gytuno ar drefniadau ar gyfer casglu rhent ganddynt.

Mewn lleiafrif o achosion gall Trefniadau Talu Amgen gael eu rhoi ar waith i gefnogi hawlwyr (gweler yr adran ar ‘Cymorth a Threfniadau Talu Amgen’).

3.2 Taliad Credyd Cynhwysol cyntaf

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei asesu’n fisol ac yn cael ei dalu’n fisol mewn ôl-ddyledion. Fel arfer bydd y taliad cyntaf yn cael ei dderbyn mis ac 14 diwrnod ar ôl iddynt gyflwyno eu cais.

3.3 Talu rhent tra’n aros am eu taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol

Bydd llawer o hawlwyr newydd Credyd Cynhwysol yn dod o waith ac yn gallu cynnal eu hunain yn y mis cyntaf gan ddefnyddio eu taliad terfynol o enillion.

Fodd bynnag, os bydd angen, gall hawlydd ofyn am daliad ymlaen llaw ar gyfer cais newydd am Gredyd Cynhwysol os ydynt mewn angen ariannol ac yn methu ymdopi tan eu taliad misol cyntaf o Gredyd Cynhwysol.

4. Gofynion tystiolaeth a gwirio ceisiadau

4.1 Gwiriadau’r Adran Gwaith a Phensiynau o ran rhent a thenantiaethau o dan Gredyd Cynhwysol

Gofynnir i’r hawlydd ddarparu’r dystiolaeth briodol i gefnogi eu cais am Gredyd Cynhwysol.

Os nad oes gan denant copi o’u cytundeb tenantiaeth, effallai y bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau’n derbyn llythyr gan y landlord yn cadarnhau’r rhent a’r tâl gwasanaeth presennol.

4.2 Codiadau rhent blynyddol

Dylai hawlwyr ddweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eu taliad Credyd Cynhwysol, gan gynnwys codiadau rhent blynyddol.

4.3 Hysbysu landlordiaid bod tenantiaid yn hawlio Credyd Cynhwysol

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn anfon llythyr at landlordiaid cymdeithasol ym mhob ardal Credyd Cynhwysol yn nodi os yw’r tenant yn hawlydd Credyd Cynhwysol. Bydd y llythyr yn cael ei anfon pan mae tenant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd y wybodaeth yn helpu landlordiaid i asesu pa hawlwyr Credyd Cynhwysol all fod angen cyngor a chymorth mewn cysylltiad â rheoli eu materion ariannol.

Mae hyn yn unol â Rheolaethau Nawdd Cymdeithasol (Rhannu Gwybodaeth mewn Perthynas â Gwasanaethau Lles ac ati.) (Diwygiad) 2015 a fydd yn galluogi rhannu gwybodaeth gyfyngedig gyda landlordiaid cymdeithasol. Mae’r cyflenwad o wybodaeth a’i ddefnydd priodol yn cael ei lywodraethu gan ofynion y Ddeddf Diogelu Data. Bydd gan landlordiaid cymdeithasol rwymedigaeth ond i ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau ar gyfer ei ddibenion penodol a fwriadwyd.

4.4 Gwybodaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau ddim yn cyfateb â’r tenant

Os na fydd y wybodaeth a ddarperir gan yr Adran Gwaith a Phensiynau yn cyfateb â’ch tenant, gallwch e-bostio uc.servicecentrehousing@dwp.gsi.gov.uk i’w hysbysu cyn gynted â phosib. Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ymchwilio i unrhyw anghysondebau yn y wybodaeth a ddarparwyd.

5. Cyfrifo rhent

5.1 Cyfrifo rhent misol os yw rhent hawlydd yn cael ei dalu’n wythnosol

Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol. Bydd rhenti wythnosol yn cael eu cyfrifo gan ddefnyddio’r fformiwla ganlynol: rhent wythnosol wedi’i luosi gan 52 a’i rannu â 12.

5.2 Amlder taliadau rhent eraill

Bydd amlder taliadau eraill yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

  • mae taliadau bob pedair wythnos yn cael eu lluosi â 13 a’u rhannu â 12
  • mae taliadau bob tri mis yn cael eu lluosi â 4 a’u rannu â 12
  • mae taliadau blynyddol yn cael eu rhannu â 12

5.3 Blynyddoedd 53 wythnos

Bydd Credyd Cynhwysol bob amser yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar flwyddyn 52 wythnos, oni bai bod rhent yn cael ei godi am lai na 52 wythnos.

5.4 Wythnosau rhent am ddim

Os yw rhent yn cael ei godi dros lai na 52 wythnos, bydd y taliad misol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar y nifer o wythnosau mae rhent yn cael ei godi. Er enghraifft, os yw’r rhent yn daladwy am 48 wythnos y flwyddyn, bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo fel rhent wythnosol wedi’i luosi â 48 a’i rannu â 12.

Dylai tenantiaid gael eu hysbysu am unrhyw wythnosau rhent am ddim y gallent fod â hawl iddynt er mwyn iddynt allu hysbysu’r Adran Gwaith a Phensiynau. Bydd hyn yn osgoi dryswch ac yn sicrhau bod taliadau’n gywir.

6. Talu am 2 gartref

6.1 Taliadau Credyd Cynhwysol am 2 gartref

Gall cymorth drwy Gredyd Cynhwysol gael ei dalu am 2 gartref os yw:

  • atebolrwydd ar gyfer dau gartref wedi codi oherwydd ofn trais yn y cartref arferol – yn yr achos hyn gellir talu’r ddau atebolrwydd am hyd at 12 mis cyn belled bod bwriad i ddychwelyd i’r eiddo gwreiddiol
  • person anabl yn methu â symud i mewn i gartref newydd oherwydd bod angen addasiadau – yn yr achos hwn, mae’n rhaid i’r hawlydd ddangos bod yr oedi yn rhesymol, ac os felly, gall y ddau atebolrwydd gael eu talu am hyd at fis

Gall cartrefi lluosog gael eu trin fel cartref unigol, at ddibenion budd-daliadau, lle mae teulu wedi ei leoli mewn 2 gartref oherwydd maint y teulu. Nid yw hyn yn destun terfyn amser.

Gall y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai hefyd gael ei dalu pan nad yw rhywun yn gallu byw yn eu cartref oherwydd gwaith atgyweirio hanfodol ond bydd ond yn cwmpasu unai’r costau tai y llety arall neu’r llety maent yn byw ynddo fel arfer fel eu cartref (nid y ddau).

Os na all rhywun symud i mewn i lety ar unwaith oherwydd eu bod ef/hi yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, yna gall y swm Credyd Cynhwysol ar gyfer costau tai gael ei dalu ar gyfer y llety newydd am hyd at fis.

7. Taliadau gwasanaeth

7.1 Credyd Cynhwysol a thaliadau gwasanaeth

Bydd unrhyw daliadau gwasanaeth cymwys yn cael eu talu’n uniongyrchol i denantiaid fel rhan o’r swm ychwanegol tai o’u taliad Credyd Cynhwysol.

Am fwy o fanylion gweler Taliadau gwasananeth Credyd Cynhwysol – canllaw i landlordiaid.

7.2 Sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol pa daliadau gwasanaeth sy’n gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol

Bydd landlordiaid yn y sector rhentu cymdeithasol yn gyfrifol am amlinellu’n glir i’r tenant pa daliadau gwasanaeth a ganiateir - yn unol â’r rheolaethau a chanllawiau taliadau gwasanaeth cymwys. Bydd yr hawlydd yn hysbysu hyn fel rhan o’u cais.

Yn y sector rhentu preifat, mae cyfanswm rhent tenant fel arfer yn cynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth, sydd heb eu nodi ar wahân. Ni fydd angen i’r Adran Gwaith a Phensiynau gasglu gwybodaeth tâl gwasanaeth ar wahân ar gyfer y grŵp sector rhentu preifat oherwydd bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn talu’r lleiaf o’r cyfanswm rhent neu’r Lwfans Tai Lleol priodol.

8. Cymorth a Threfniadau Talu Amgen

8.1 Trefniadau Talu Amgen a rheoli ôl-ddyledion rhent

Am wybodaeth fwy manwl gweler y canllaw i Gymorth Cyllidebu Personol a Threfniadau Talu Amgen.

8.2 Tenant mewn ôl-ddyledion

Byddem yn disgwyl i landlordiaid dilyn eu harferion casglu rhent arferol. Fodd bynnag, os yw’r hawlydd yn methu neu’n anfodlon i ddatrys mater taliad sy’n eu rhoi mewn perygl o gael eu troi allan, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau helpu landlordiaid drwy ystyried os yw taliad a reolir i’r landlord (Trefniant Talu Amgen) yn briodol.

Pan fydd ôl-ddyledion yn cyfateb i fis o rent, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn adolygu’r sefyllfa yn dilyn hysbysiad gan yr hawlydd neu’r landlord. Yn y fan hon gall yr Adran Gwaith a Phensiynau gynnig cymorth cyllidebu i’r hawlydd a gall benderfynu talu’r rhent yn uniongyrchol i’r landlord.

Pan fydd ôl-ddyledion yn cyfateb i 2 fis o rent gall y landlord (neu’r hawlydd) ofyn i’r Adran Gwaith a Phensiynau ystyried a fyddai Trefniant Talu Amgen yn ffordd addas i weithredu.

I roi gwybod i’r Adran Gwaith a Phensiynau yn naill ai cam un neu ddau fis, agorwch Credyd Cynhwysol: Ffurflen Ôl-ddyledion Rhent a naill ai ei e-bostio (os oes gennych fynediad i system e-bost diogel) neu ei bostio i’r Adran Gwaith a Phensiynau – mae cyfarwyddiadau llawn yn cael eu cynnwys ar y ffurflen.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau yn cynnig cyfeiriad e-bost i landlordiaid i’w defnyddio ar gyfer ymholiadau brys: uc.servicecentrehousing@dwp.gsi.gov.uk. Dylai hyn ond cael ei ddefnyddio ar gyfer achosion sy’n wynebu cael eu troi allan neu mewn achosion lle mae landlordiaid angen ymateb ar frys.

Bydd y mesurau hyn yn helpu i osgoi cronni lefelau gormodol o ôl-ddyledion rhent a lleihau’r risgiau i landlordiaid.

8.3 Talu rhent yn uniongyrchol i landlordiaid o ddechrau cais

Pan fydd cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei wneud, bydd yn cael ei benderfynu os yw hawlydd angen cymorth gyda chyllidebu a gall hyn gynnwys rhoi Trefniant Taliad Amgen ar waith lle mae anghenion cymorth sylweddol yn cael eu nodi. Yn yr achosion hyn bydd staff yr Adran Gwaith a Phensiynau yn ystyried gwybodaeth gan denantiaid a landlordiaid cyn gwneud penderfyniad.

8.4 Tenantiaid eisoes mewn ôl-ddyledion pan fyddant yn gwneud cais am Gredyd Cynhwysol

Pan fydd cais am Gredyd Cynhwysol yn cael ei wneud, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn gweithio gyda’r hawlydd ar landlord i benderfynu os ydynt angen cymorth cyllidebu neu os oes angen Trefniant Taliad Amgen o’r cychwyn cyntaf.

Bydd pob achos yn cael ei ystyried ar sail unigol.

8.5 Tenantiaid sydd ar hyn o bryd yn cael taliad rhent a reolir i’w landlord o dan y Lwfans Tai Lleol

Os yw tenant eisoes yn cael taliad a reolir o dan y Lwfans Tai Lleol ac yna’n hawlio Credyd Cynhwysol, bydd yr achos yn cael ei ystyried ar sail unigol i weld a ddylai’r taliad rhent uniongyrchol barhau. Mae Credyd Cynhwysol yn disgwyl i hawlwyr gymryd cyfrifoldeb am eu cyllid eu hunain, ond bydd cymorth yn cael ei ddarparu ar gyfer y rhai sydd ei angen.

8.6 Adennill ôl-ddyledion rhent trwy ddidyniad o’u Credyd Cynhwysol?

Mae ôl-ddyledion rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer yr eiddo mae tenant yn byw ynddo ar hyn o bryd yn cael eu cynnwys yn y rhestr o ddidyniadau y gellir eu gwneud o daliad Credyd Cynhwysol.

Uchafswm y gyfradd y gellir gwneud didyniadau ar gyfer ôl-ddyledion rhent yw 20%. Bydd y gyfradd a ddefnyddir yn dibynnu ar amgylchiadau’r hawlydd.

Gall landlordiaid gysylltu â Chanolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol drwy ffonio 0345 600 3018 i ofyn am ‘didyniad trydydd parti’ ar gyfer ôl-ddyledion rhent pan fyddant yn cyrraedd yr hyn sy’n cyfateb i 2 fis rent. Darganfyddwch am gostau galwadau.

8.7 Datgelu gwybodaeth i landlordiaid

Pan fydd landlordiaid yn ffonio’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol, bydd yr asiant ffôn yn gwirio eu hunaniaeth fel landlord yr hawlydd cyn mynd ymlaen gyda’r ymholiad. Ble mae taliad a reolir/didyniad trydydd parti ar gyfer ôl-ddyledion rhent yn ei le, gall yr asiant ffôn ddatgelu’r manylion canlynol:

(ar gyfer landlordiaid cymdeithasol)

  • dyddiad dechrau’r taliad a reolir neu’r didyniad trydydd parti
  • pryd y gallwch ddisgwyl derbyn y taliad cyntaf o’r taliad a reolir neu’r didyniad trydydd parti gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
  • swm y taliad cyntaf
  • uchafswm y swm ychwanegol ar gyfer costau tai sy’n daladwy yn y taliad nesaf o Gredyd Cynhwysol (gall hyn ostwng os oes newid yn amgylchiadau’r hawlydd - er enghraifft, yn eu henillion)

(ar gyfer landlordiaid preifat)

  • pryd i ddisgwyl derbyn taliad nesaf y swm ychwanegol ar gyfer costau tai neu ddidyniad trydydd parti.
  • swm y taliad a’r cyfnod mae’n ei gwmpasu (gall hyn ostwng os oes newid yn amgylchiadau’r hawlydd - er enghraifft, mewn enillion)

Nid yw’r asiant ffôn yn gallu datgelu unrhyw wybodaeth ychwanegol dros y ffôn i naill ai landlordiaid cymdeithasol neu breifat.

8.8 Dweud wrth yr Adran Gwaith a Phensiynau bod hawlydd yn debygol o fod angen cymorth

Gall gwybodaeth gan drydydd parti (e.e. aelodau o’r teulu, gweithwyr cymorth, landlord yr hawlydd) gael ei hystyried wrth asesu gallu hawlydd i reoli eu harian.

Ar gyfer yr hawlwyr hynny nad ydynt eto mewn ôl-ddyledion gyda’u rhent, ond y gallai elwa o rywfaint o gymorth cyllidebu, gall yr Adran Gwaith a Phensiynau gyfeirio’r trydydd parti, aelod o’r teulu neu’r landlord at sefydliadau cymorth perthnasol. Efallai bydd Cymorth Cyllidebu Personol neu Drefniant Taliad Amgen yn cael ei ystyried i fod yn addas.

Gall trydydd parti perthnasol gysylltu â’r Ganolfan Gwasanaeth Credyd Cynhwysol drwy ffonio 0345 600 3018 i hysbysu am bryderon sydd ganddynt am allu ariannol hawlydd. Darganfyddwch am gostau galwadau.

9. Cymorth cyllidebu

9.1 Cymorth cyllidebu sydd ar gael gan yr Adran Gwaith a Phensiynau

Gall Cymorth Cyllidebu Personol gael ei gynnig i unrhyw un sy’n gwneud cais am Gredyd Cynhwysol. Bydd hawlwyr sydd angen cymorth gyda chyllidebu misol yn cael eu nodi yn ystod sgyrsiau gyda’u hanogwr gwaith Credyd Cynhwysol.

Bydd llawer o hawlwyr yn gallu helpu eu hunain drwy’r gwasanaethau cymorth cyllidebu ar-lein sydd eisoes ar gael, ond bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau yn helpu unrhyw hawlwyr sydd ag angen clir am gefnogaeth fwy dwys.

Bydd cyngor ar arian yn cael ei gynnig ar lefel genedlaethol a lleol, a bydd yn cynnwys cymysgedd o wasanaethau ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb.

Am fwy o wybodaeth ar gymorth cyllidebu os ydych yn byw mewn llety rhent (neu os oes gennych denantiaid) gweler gwefan y Gwasanaeth Cynghori Arian. Mae ganddynt declyn cymorth rheoli arian ar-lein sy’n darparu gwybodaeth a chyngor cyllidebu am ddim a di-duedd yn seiliedig ar eich amgylchiadau personol chi (neu eich tenantiaid).

9.2 Talu Credyd Cynhwysol yn amlach nag unwaith y mis

Taliadau mwy aml yw un o’r opsiynau a fydd yn cael eu hystyried os yw hawlydd yn cael problem cyllidebu.

Dylai’r hawlydd gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau i gael eu hystyried am Drefniant Taliad Amgen. Byddant hefyd yn cael cynnig cymorth cyllidebu personol.

Am fwy o wybodaeth gweler y canllaw i Gymorth Cyllidebu Personol a Threrfniadau Taliad Amgen.

9.3 Cyfrifon cyllidebu (neu ‘pot jam’)

Tra bydd y rhan fwyaf o hawlwyr Credyd Cynhwysol yn parhau i gael eu talu drwy gyfrifon banc cyfredol neu sylfaenol prif ffrwd, rydym yn edrych ar ffyrdd o wneud cyfrifon gydag ymarferoldeb cyllidebu i fod ar gael yn fwy eang.

Rydym yn ymgynghori â darparwyr ariannol ar draws y sectorau preifat, cymdeithasol a thrydydd ac yn ystyried y ffyrdd gorau i wella argaeledd y mathau hyn o gynnyrch.

10. Taliadau Tai Dewisol

Gall hawlwyr Credyd Cynhwysol cysylltu â’u Hawdurdod Lleol a gwneud cais am Daliad Tai Dewisol. Mae’r taliad hwn yn rhoi cymorth ariannol ychwanegol i’r hawliwr er mwyn iddynt ddiwallu diffyg rhent neu gostau tai eraill. Mae’r penderfyniad ynghylch a ddylid dyfarnu Taliad Tai Dewisol yn eistedd gyda’r awdurdod lleol.

11. Cymorth Cynhwysol – yn cael ei gyflenwi’n lleol

11.1 Cymorth i’r rhai sy’n methu gwneud a rheoli cais yn annibynnol

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau ar hyn o bryd yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau’r sector gwirfoddol, mewn Grwpiau Cyflenwi Lleol, i gefnogi hawlwyr gyda’r trosglwyddiad i Gredyd Cynhwysol. Bydd hawlwyr sy’n newydd i gyllidebu misol neu fynd ar-lein yn cael yr help maent ei angen i reoli’r broses hon.

Yn ychwanegol mae’r Adran Gwaith a Phensiynau wedi datblygu Cymorth Cynhwysol – yn cael ei gyflenwi’n lleol (y Fframwaith Gwasanaethau Cymorth Lleol yn flaenorol). Bydd hyn yn datblygu’n bellach y cymorth i hawlwyr sydd ag anghenion ychwanegol i’w helpu i wneud a rheoli cais o dan Gredyd Cynhwysol.

Mae mwy o wybodaeth ar gael yn Cymorth Cynhwysol – yn cael ei gyflenwi’n lleol.

11.2 Landlordiaid a phartneriaethau cyflenwi lleol

Gofynnwyd i Reolwyr Dosbarth yr Adran Gwaith a Phensiynau a rheolwyr awdurdodau lleol i weithio gyda’u gilydd i greu Grwpiau Cyflenwi Lleol ar gyfer datblygu gwasanaethau ar gyfer hawlwyr sydd ag anghenion cymhleth. Dylai darparwyr tai sydd â diddordeb mewn bod yn rhan o Grŵp Cyflawni Lleol siarad â’u hawdurdod lleol am yr hyn sy’n digwydd yn lleol i gynllunio ar gyfer Credyd Cynhwysol.

Mae gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol unigolyn sy’n arwain ar gynllunio ar gyfer diwygio lles. Os na ellir adnabod y person hwn yn hawdd, yna dylai landlordiaid gysylltu â’r timau Refeniw a Budd-daliadau yn yr awdurdod lleol.

12. Anghenion llety arbenigol

12.1 Credyd Cynhwysol a thai â chymorth

Bydd trigolion llety â chymorth eithriedig yn cael help gyda’u costau tai wedi’i ddarparu ar wahân i Gredyd Cynhwysol mewn ffordd debyg i Fudd-dal Tai yn y tymor byr.

Mae’r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd yn ystyried y posibilrwydd o gynllun lleol i gwrdd ag anghenion darparwyr unigol a’u tenantiaid.

12.2 Credyd Cynhwysol a llety dros dro

Nid oes unrhyw wahaniaeth yn y ffordd mae llety penodedig yn cael ei drin yng ngwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol o’i gymharu â’r gwasanaeth Credyd Cynhwysol byw. Mae’r un trefniadau’n berthnasol, felly bydd disgwyl i hawlwyr sy’n byw mewn llety penodedig hawlio budd-dal tai mewn perthynas â’u costau tai. Os yw’r hawlydd yn byw mewn ardal gwasanaeth llawn Credyd Cynhwysol byddant yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol ar gyfer eu lwfans safonol. Fodd bynnag, mae hawlwyr sy’n byw mewn llety dros dro yn cael eu hatal rhag gwneud cais am Gredyd Cynhwysol yn yr ardaloedd gwasanaeth byw gan y porth deddfwriaethol ac felly bydd angen iddynt hawlio budd-daliadau eraill.

Os yw hawlydd Credyd Cynhwysol (naill ai mewn gwasanaeth byw neu lawn) yn byw mewn llety dros dro byddant yn cael y swm ychwanegol Tai o Gredyd Cynhwysol yn seiliedig ar gyfraddau Lwfans Tai Lleol ar gyfer maint y cartref, gan gynnwys cyfradd llety a rennir.

Mae rhestr o ardaloedd Canolfannau Gwaith lle mae Credyd Cynhwysol ar gael i gyplau a theuluoedd hefyd yn rhoi manylion am ble mae’r gwasanaeth llawn yn cael ei ddarparu.