Canllawiau

Credyd Cynhwysol a thai ar rent: canllaw ar gyfer landlordiaid

Diweddarwyd 13 May 2020

Os ydych yn landlord preifat neu sector cymdeithasol gallwch:

  • ystyried sut y gall Credyd Cynhwysol effeithio ar eich busnes
  • ystyried sut y gallai fod angen i chi addasu eich polisïau a phrosesau
  • ymgysylltu â’ch tenantiaid yn gynnar i nodi unrhyw anghenion cymorth a sicrhau eu bod yn deall bod angen iddynt wneud taliadau rhent

Gallwch gael mwy o wybodaeth lleol a chyngor am Gredyd Cynhwysol drwy gysylltu â’ch rheolwr partneriaeth rhanbarthol.

0.1 Helpu tenantiaid i baratoi am Gredyd Cynhwysol

Mae gan hawlwyr Credyd Cynhwysol gyfrif Credyd Cynhwysol ar-lein i reoli eu cais. Maent yn defnyddio eu cyfrif i roi gwybod am newidiadau, anfon negeseuon i’w hanogwr gwaith ac i ddod o hyd i gymorth.

Os nad oes gan eich tenantiaid fynediad i’r rhyngrwyd neu nid ydynt yn hyderus i ddefnyddio cyfrifiadur, gall eu canolfan gwaith ddweud wrthynt am wasanaethau lleol a all helpu.

Gall landlordiaid helpu tenantiaid i baratoi am  Gredyd Cynhwysol drwy eu hannog i:

  • fynd ar-lein a sefydlu cyfrif e-bost
  • agor cyfrif banc i dderbyn eu taliadau Credyd Cynhwysol
  • gwybod faint yw eu rhent a thaliadau gwasanaeth cymwys (gan gynnwys wythnosau o rent am ddim) a phwy yw eu landlord
  • sefydlu Debydau Uniongyrchol ar gyfer costau tai
  • gwneud cais am Gredyd Cynhwysol cyn gynted â phosibl er mwyn lleihau’r risg y bydd eu taliadau rhent yn cael eu gohirio

Gallwch ddefnyddio Credyd Cynhwysol a chi i lywio eich sgyrsiau gyda thenantiaid.

Gall tenantiaid hefyd fod yn gymwys i gael help arall gyda chostau tai..

0.2 Taliadau Credyd Cynhwysol

Yn y mwyafrif o achosion, mae Credyd Cynhwysol yn daliad sengl, misol sy’n cael ei dalu mewn ôl-ddyledion yn uniongyrchol i gyfrif banc yr hawlydd.

Mae’r taliad cyntaf fel arfer yn cael ei wneud 1 mis a 7 diwrnod ar ôl iddynt gyflwyno eu cais.

Darganfyddwch am ddyddiadau talu Credyd Cynhwysol i bobl sy’n byw yn yr Alban.

Mae’r swm o Gredyd Cynhwysol y mae eich tenant yn ei gael yn dibynnu ar eu hamgylchiadau unigol bob mis. Gelwir y rhain yn ‘gyfnodau asesu’.

Mae cymorth tai eich tenant yn seiliedig ar eu hamgylchiadau ar ddiwrnod olaf pob cyfnod asesu misol. Mae hyn yn golygu, os nad ydynt yn talu rhent ar y pwynt hwnnw, ni fyddant yn cael cymorth tuag at eu costau tai am y mis hwnnw.

Dylech wneud eich tenant yn ymwybodol o hyn, fel y gallant gynllunio i dalu unrhyw rent sy’n weddill.

Mae’r swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai yn helpu tenantiaid gyda’u costau rhent a thâl gwasanaeth. Mae’r taliadau’n cynnwys yr holl gostau tai cymwys.

Er mwyn bod yn gymwys i gael help gyda’u costau tai, rhaid i denant:

  • fod yn atebol i dalu rhent am yr eiddo
  • byw yn yr eiddo.

0.3 Tenantiaid y sector rhentu preifat

Ar gyfer tenantiaid y sector rhentu preifat, eu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai fydd p’un bynnag yw’r isaf o’u costau gwirioneddol neu’r gyfradd Lwfans Tai Lleol.

0.4 Tenantiaid y sector rhentu cymdeithasol

Ar gyfer tenantiaid y sector rhentu cymdeithasol, eu swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai fydd eu costau tai gwirioneddol gymwys ac unrhyw daliadau gwasanaeth a gwmpesir gan Gredyd Cynhwysol.

Ni fydd Credyd Cynhwysol yn darparu cymorth am gostau cyfleustodau, fel dŵr neu drydan.

Os oes gan denant y sector rhentu cymdeithasol unrhyw ystafelloedd gwely sbâr bydd eu swm ychwanegol ar gyfer costau tai yn cael ei leihau o:

  • 14% ar gyfer un ystafell wely sbâr

  • 25% ar gyfer 2 neu fwy o ystafelloedd gwely sbâr

0.5 Ni fydd y swm y mae tenant yn ei gael bob amser yn talu eu rhent cyfan

Er enghraifft, os yw eu rhent sector preifat yn fwy na’r gyfradd Lwfans Tai Lleol perthnasol, bydd angen iddynt dalu’r gwahaniaeth eu hunain.

Ac efallai y bydd tenantiaid yn y sector cymdeithasol sydd ag ystafell wely sbâr yn gweld gostyngiad yn y swm y maent yn ei dderbyn tuag at dai. Bydd angen iddynt hwy hefyd wneud i fyny’r gwahaniaeth.

1. Tystiolaeth tenantiaeth a rhent

Bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) yn gofyn i’r hawlydd Credyd Cynhwysol neu eu landlord i ddarparu tystiolaeth briodol i gefnogi eu cais Credyd Cynhwysol.

1.1 Tenantiaid y sector rhentu preifat

Mae’n rhaid i’ch tenant ddarparu tystiolaeth o’r atebolrwydd rhent a phrawf eu bod yn byw yn eich eiddo. Os nad oes gan denant gytundeb tenantiaeth ysgrifenedig neu lyfr rhent, gall DWP dderbyn llythyr gan eu landlord neu asiant gosod yn cadarnhau eu costau rhent a thaliadau gwasanaeth cyfredol.

Dylai’r dystiolaeth gadarnhau:

  • enw, cyfeiriad a manylion cyswllt y tenant a’r landlord
  • cyfeiriad yr eiddo
  • dyddiad y dechreuodd y denantiaeth a faint yw’r cyfnod
  • swm y rhent a pha mor aml mae’n cael ei dalu
  • unrhyw symiau o flaendal sy’n daladwy

Efallai bydd eich tenant hefyd yn gofyn i chi gadarnhau’n ysgrifenedig eu bod yn byw yn eich eiddo os nad oes ganddynt unrhyw dystiolaeth o hyn.

1.2 Tenantiaid y sector rhentu cymdeithasol

Os ydych yn landlord yn y sector rhentu cymdeithasol ac mae eich tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwn yn gofyn i chi ddilysu’r rhent a thaliadau gwasanaeth cymwys drwy naill ai:

  • cais i ddilysu drwy’r Porth Landlord - os oes gennych fynediad i’r porth
  • e-bost i chi gan reolwr achos eich tenant yn gofyn am ddilysu costau tai

1.3 Hysbysu landlordiaid bod tenantiaid yn hawlio Credyd Cynhwysol

Landlordiaid y sector rhentu preifat

Nid oes gan DWP y ddeddfwriaeth i’n caniatáu i hysbysu landlordiaid preifat bod eu tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol.

1.4 Landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol

Os ydych yn landlord yn y sector rhentu cymdeithasol ac mae eich tenant wedi gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, byddwch yn cael eich hysbysu trwy naill ai:

  • cais i ddilysu drwy’r Porth Landlord - - os oes gennych fynediad i’r porth
  • e-bost i chi gan reolwr achos eich tenant yn gofyn am ddilysu costau tai

Mae hyn yn unol â Rheoliadau Nawdd Cymdeithasol (Rhannu Gwybodaeth mewn Perthynas â Diwygio Gwasanaethau Lles) 2015 a fydd yn galluogi rhannu gwybodaeth gyfyngedig berthnasol gyda landlordiaid cymdeithasol.

Mae’r cyflenwad o wybodaeth a’i ddefnydd priodol yn cael ei lywodraethu gan ofynion y Ddeddf Diogelu Data 2018. Bydd gan landlordiaid cymdeithasol rwymedigaeth ond i ddefnyddio’r wybodaeth a ddarparwyd gan DWP ar gyfer ei ddibenion penodol a fwriadwyd.

2. Cyfrifo rhent

2.1 Cyfrifo rhent misol os yw rhent yn cael ei dalu’n wythnosol

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei dalu’n fisol. Os yw’r rhent yn cael ei dalu’n wythnosol, bydd swm misol yn cael ei weithio allan drwy luosi’r rhent wythnosol â 52 ac yna ei rannu â 12.

2.2 Amlder taliadau rhent eraill

Bydd amlder taliadau eraill yn cael eu cyfrifo fel a ganlyn:

  • mae taliadau bob 4 wythnos yn cael eu lluosi â 13 a’u rhannu â 12
  • mae taliadau bob 3 mis yn cael eu lluosi â 4 a’u rannu â 12
  • mae taliadau blynyddol yn cael eu rhannu â 12

2.3 Blynyddoedd 53 wythnos o daliadau rhent

Mae Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo yn seiliedig ar flwyddyn 52 wythnos, oni bai bod rhent yn cael ei godi am lai na 52 wythnos.

2.4 Wythnosau o rent am ddim

Os oes gan hawlydd wythnosau o rent am ddim fel rhan o’u tenantiaeth, bydd y taliad misol bob amser yn cael ei gyfrifo drwy dynnu’r wythnosau o rent am ddim o 52.

Er enghraifft, os oes 4 wythnos o rent am ddim mewn blwyddyn, mae’r 4 wythnos yn cael eu tynnu o’r 52. Bydd Credyd Cynhwysol yn cael ei gyfrifo fel rhent wythnosol wedi’i luosi â 48 a’i rannu â 12.

Dylai tenantiaid gael eu hysbysu am unrhyw wythnosau o rent am ddim sydd ganddynt er mwyn iddynt allu hysbysu DWP. Bydd hyn yn osgoi dryswch ac yn sicrhau bod taliadau’n gywir.

3. Taliadau gwasanaeth a Chredyd Cynhwysol

Bydd unrhyw daliadau gwasanaeth cymwys yn cael eu talu’n uniongyrchol i denantiaid fel rhan o’r taliad Credyd Cynhwysol sengl.

3.1 Sicrhau bod tenantiaid yn ymwybodol pa daliadau gwasanaeth sy’n gymwys ar gyfer Credyd Cynhwysol

Bydd landlordiaid yn y sector rhentu cymdeithasol yn gyfrifol am amlinellu’n glir i’r tenant pa rai o’u taliadau gwasanaeth sy’n gymwys, yn unol â’r rheoliadau a chanllawiau taliadau gwasanaeth cymwys. Bydd y tenant yn rhoi gwybod am y rhain fel rhan o’u cais.

Yn y sector rhentu preifat, mae cyfanswm rhent tenant fel arfer yn cynnwys rhent a thaliadau gwasanaeth, sydd ddim yn cael eu nodi ar wahân.

Ni fydd angen i DWP gasglu gwybodaeth tâl gwasanaeth ar wahân ar gyfer y grŵp sector rhentu preifat. Mae hyn oherwydd bydd DWP yn talu’r lleiaf o’r cyfanswm rhent neu’r Lwfans Tai Lleol priodol.

4. Talu rhent

4.1 Sicrhau bod y rhent yn cael ei dalu

Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu talu’n fisol mewn ôl-daliadau yn yr un ffordd â chyflogau. Bydd disgwyl i hawlwyr, ble mae’n bosib, drefnu eu taliadau rhent eu hunain.

Os yw landlordiaid yn flaenorol wedi derbyn taliadau uniongyrchol o Fudd-dal Tai gan y cyngor lleol, bydd angen iddynt siarad â’u tenantiaid i gytuno ar drefniadau ar gyfer casglu rhent ganddynt. Gallai sefydlu Debyd Uniongyrchol neu archeb sefydlog helpu eich tenant i reoli eu taliadau rhent.

4.2 Talu rhent wrth aros am eu taliad cyntaf o Gredyd Cynhwysol

Bydd llawer o hawlwyr newydd Credyd Cynhwysol yn dod o waith ac yn gallu cynnal eu hunain yn y mis cyntaf drwy ddefnyddio eu taliad terfynol o enillion.

Fodd bynnag, os bydd angen, gall hawlydd ofyn am daliad ymlaen llaw ar gyfer cais newydd am Gredyd Cynhwysol i helpu i dalu eu rhent os ydynt yn methu ag ymdopi tan eu taliad misol cyntaf o Gredyd Cynhwysol.

4.3 Trefniadau Talu Amgen (APAs)

Mae APAs ar gyfer tenantiaid sy’n ei chael hi’n anodd rheoli eu taliad Credyd Cynhwysol misol sengl neu dalu eu rhent. Gall y landlord, y tenant neu’r anogwr gwaith wneud cais am APA ar ddechrau cais neu ar unrhyw adeg.

Mae’r APAs canlynol ar gael i helpu tenantiaid sydd angen cymorth ychwanegol:

  • talu costau tai Credyd Cynhwysol yn uniongyrchol i’w landlord, a elwir yn Daliad a Reolir i Landlord
  • mwy aml na thaliadau misol
  • rhannu taliad o ddyfarniad rhwng partneriaid

Darganfyddwch fwy am Drefniadau Talu Amgen.

4.4 Taliad Wedi’i Reoli i Landlord (MPTL)

Os yw tenant yn cael problemau wrth reoli eu taliad misol sengl neu’n mynd i drafferthion gyda thalu eu rhent gall y tenant, eu landlord neu eu hanogwr gwaith wneud cais am Daliad Wedi’i Reoli i Landlord (MPTL).

Mae taliadau wedi’u rheoli yn talu costau tai’r Credyd Cynhwysol y tenant yn uniongyrchol i’w landlord.

Gall taliad wedi’i reoli fod yn gymwys o ddiwrnod cyntaf eu cais Credyd Cynhwysol neu ar unrhyw bwynt drwy gydol y cais UC.

Gall swm unrhyw daliad wedi’i reoli a gewch newid o fis i fis yn dibynnu ar ddyfarniad Credyd Cynhwysol y tenant, fel arfer hyd at uchafswm gwerth y costau tai cymwys.

4.5 Cymhwyster am daliad wedi’i reoli

Bydd staff UC yn ystyried yr angen am daliadau wedi’i reoli drwy ddefnyddio’r canllaw ffactor APA haen 1 a haen 2.

Gallai’r ffactorau APA gynnwys y canlynol:

  • problemau dibyniaeth
  • tenantiaid mewn ôl-ddyledion rhent
  • materion iechyd meddwl
  • anawsterau dysgu
  • digartref blaenorol

Nid yw’r rhestr hon yn gynhwysfawr. Gellir dod o hyd i fanylion mwy manwl am y ffactorau haen yn y canllaw Trefniadau Talu Amgen.

Mae pob APA yn destun adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod unrhyw daliad wedi’i reoli yn parhau i fod er lles yr hawlydd.

4.6 Gwneud cais i gael daliad wedi’i reoli

Os oes gennych denant sy’n cael Credyd Cynhwysol gallwch wneud cais ar unrhyw adeg drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Gwneud Cais am Daliad Rhent Uniongyrchol.

Os ydych yn landlord cymdeithasol gallwch hefyd wneud cais am daliad wedi’i reoli fel rhan o’r broses dilysu costau tai, unai drwy:

Unwaith y bydd y cais wedi’i brosesu byddwch yn cael eich hysbysu o’r penderfyniad. Os bydd y cais yn cael ei wrthod, ni fydd DWP yn gallu dweud wrthych y rheswm pam. Mae hyn oherwydd rheolaethau rhannu data a chyfrinachedd hawlwyr.

4.7 Sut mae taliadau wedi’u rheoli yn cael eu talu i landlordiaid

Landlordiaid y sector rhentu preifat

Ar gyfer landlordiaid preifat, telir taliad System Clirio Awtomataidd Banc (BACS) i’r cyfrif banc a enwebwyd gan y landlord 7 diwrnod ar ôl diwedd cyfnod asesu Credyd Cynhwysol yr hawlydd yn fisol.

Bydd y cyfeirnod tenantiaeth a ddarparwyd wrth wneud cais am daliad wedi’i reoli, neu god post ac enw llawn y tenant yn cael ei ddefnyddio fel dynodwr BACS. Bydd yn ymddangos ar y trafodiad taliad.

Landlordiaid y sector rhentu cymdeithasol

Ar gyfer landlordiaid cymdeithasol bydd y Cynllun Didyniadau Trydydd Parti (TPD) yn cael ei ddefnyddio i dalu’r taliad wedi’i reoli.

Mae gan y Cynllun TPD gylch talu bob pedair wythnos.

Telir taliadau Credyd Cynhwysol bob mis calendr ac mae’n cyfateb â 12 cyfnod asesu bob blwyddyn. Mae hyn yn golygu:

  • bydd DWP yn asesu pa ddidyniadau (fel taliadau wedi’u rheoli) y gellir cael eu gwneud o daliadau Credyd Cynhwysol 12 gwaith y flwyddyn ar ddiwedd pob cyfnod asesu
  • mae’r taliad wedi’i reoli yn cael ei dalu’n y cylch taliad TPD yn dilyn taliad Credyd Cynhwysol
  • pan mae cylch taliad TPD yn dod i ben cyn mae DWP yn asesu pa ddidyniadau a ellir eu gwneud o daliad Credyd Cynhwysol, yna bydd unrhyw daliad wedi’i reoli yn cael ei dalu yn y cylch taliad TPD nesaf
  • bydd 12 taliad wedi’i reoli yn cael eu talu mewn 12 o’r 13 cylch taliad TPD

Mae’r taliad wedi’i reoli cyntaf o’r system taliadau trydydd parti fel arfer yn cael ei dderbyn o fewn 6 i 8 wythnos o’r dyddiad mae didyniadau yn cychwyn, er enghraifft, o ddiwedd y cyfnod asesu ble mae taliadau wedi’i rheoli yn dechrau.

Mae’r taliad wedi’i reoli yn cael ei dalu ar yr un diwrnod ag y mae landlordiaid yn cael unrhyw ddidyniadau ôl-ddyledion rhent a byddant yn cael eu talu i gyfrif banc a enwebwyd gan y landlord.

Os oes gennych sawl eiddo gyda taliad wedi’i reoli, yna byddwch yn derbyn taliad sengl wedi’i gronni ar gyfer pob un o’ch tenantiaid ar gylch 28 diwrnod a bydd atodlen yn cael ei hanfon atoch gyda dadansoddiad o’r holl daliadau.

Bydd DWP yn defnyddio rhif cyfeirnod credydwr y landlord i dalu ôl-ddyledion rhent a’r taliad wedi’i reoli APA i’r landlord.

Bydd y taliadau’n cael eu dangos fel trafodion unigol, a byddant yn cynnwys dynodwr i ddangos a yw’r taliad yn ymwneud â thaliad ôl-ddyledion rhent (RA) neu daliad wedi’i reoli (MP).

Anfonir nodyn taliad i’r landlord sy’n dangos sut mae’r taliadau wedi’u torri i lawr.

Pan fydd taliad wedi’i reoli neu ddidyniad ôl-ddyledion rhent yn cael ei dalu drwy ddidyniadau trydydd parti, bydd eu rhif cyfeirnod hawlydd/tenant yn cael ei anodi ar y diwedd gyda naill ai:

  • RA ar gyfer taliadau ôl-ddyledion rhent
  • MP ar gyfer taliad wedi’i reoli 

Mae rhif cyfeirnod yr hawlydd neu’r tenant a ddangosir ar yr Atodlen Talu Trydydd Parti yn 18 nod.

I helpu gydag adnabod y 2 fath o daliad, mae rhif cyfeirnod y tenant yn 16 nod o hyd, gan ganiatáu ar gyfer yr ôl-ddodiad RA neu MP.

4.8 Canolfan Gyswllt Taliadau Trydydd Parti

Os oes gennych unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’ch atodlen taliad trydydd parti unwaith mae’r APA wedi cael eu sefydlu, gallwch gysylltu â’r ganolfan gyswllt taliadau trydydd parti.

Rhif ffôn: 0800 328 0128

(Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm)

Darganfyddwch fwy am gostau galwadau

4.9 Holi am daliad wedi’i reoli

Yn y lle cyntaf, dylai’r landlord ymgysylltu â’u tenant am y mater.

Gall y tenant ddefnyddio eu cyfrif ar-lein i gael mynediad a hysbysu eu landlord o unrhyw wybodaeth maent am ei ddarparu i’r landlord.

Gall y tenant rannu’r wybodaeth o’u cyfrif gyda’u landlord, neu gynrychiolydd arall os dymunant gan fod hyn yn cynnwys gwybodaeth am daliadau tai a wneir. Ni ddylai’r tenant byth rannu manylion diogelwch eu mynediad mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein gyda’u landlord neu ddarparu mynediad i’r landlord i’w cyfrif ar-lein.

Ni ddylai’r landlord:

  • ofyn am fanylion mewngofnodi gan y tenant
  • gwneud datgelu’r manylion hyn neu ganiatáu mynediad i gyfrif ar-lein tenant fel amod o’u tenantiaeth

Os oes angen mwy o gymorth, gall y tenant ofyn trwy eu dyddlyfr, wyneb yn wyneb gyda’u hanogwr gwaith neu drwy ffonio’r ganolfan wasanaeth.

Ar gyfer landlordiaid mae’n rhaid i’r tenant roi caniatâd penodol i rannu eu gwybodaeth bersonol gyda’u landlord neu gynrychiolydd arall. Gallant ddarparu’r caniatâd drwy eu dyddlyfr, wyneb yn wyneb gyda’u hanogwr gwaith neu drwy ffonio’r ganolfan gwasanaeth ar sail achos wrth achos.

Wrth gysylltu â Chredyd Cynhwysol, gofynnir i gynrychiolydd y tenant gadarnhau eu hunaniaeth fel y gall yr anogwr gwaith siarad â’r landlord yn uniongyrchol. Os na allwch ymgysylltu â’ch tenant, gallwch ffonio 0800 328 1744.

Darganfyddwch am gostau galwadau

Wrth ffonio’r ganolfan wasanaeth gan ddefnyddio’r rhif ffôn busnes fel arfer, 0800 328 5644, bydd y system ffôn integredig yn hidlo’r alwad i asiant sy’n delio â’r cais.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  • y rhif ffôn mae’r tenant wedi’i gofrestru gyda Chredyd Cynhwysol
  • eu cod post
  • llinell gyntaf eu cyfeiriad
  • eu dyddiad geni

Dylai’r tenant bob amser fod wrth law pan mae unrhyw gynrychiolydd yn cysylltu â’r ganolfan gwasanaeth UC ar ran y tenant maent yn ei gefnogi.

Mae gan Housing Queries Routeway fwy o wybodaeth.

Gallwch gael gwybodaeth lleol a chyngor am Gredyd Cynhwysol drwy gysylltu â’ch rheolwr partneriaeth rhanbarthol.

5. Adfer ôl-ddyledion rhent o gais Credyd Cynhwysol

Gall Credyd Cynhwysol ond gwneud didyniadau mewn perthynas ag ôl-ddyledion rhent am ddyled sy’n ddyledus ar gyfeiriad presennol y tenant. Os yw’r tenant yn newid cyfeiriad bydd unrhyw ddidyniadau a wneir yn dod i ben.

Mae ôl-ddyledion rhent a thaliadau gwasanaeth ar gyfer yr eiddo y mae’r tenant yn byw ynddo ar hyn o bryd yn cael eu cynnwys yn y rhestr o ddidyniadau y gellir eu gwneud o daliad Credyd Cynhwysol.

Os yw’ch tenant wedi cronni ôl-ddyledion rhent hyd at werth rhent 2 fis neu fwy, gallwch ofyn am daliad wedi’i reoli neu ddidyniad ôl-ddyledion rhent.

Y gyfradd uchaf y gellir gwneud didyniadau ar gyfer ôl-ddyledion rhent yw 20% o gyfanswm safonol Credyd Cynhwysol. Gall y swm yma amrywio yn dibynnu os oes unrhyw ddidyniadau eraill neu sancsiynau neu gosb twyll yn berthnasol.

Bydd y gyfradd a ddefnyddir yn dibynnu ar amgylchiadau’r hawlydd. Dim ond yr hawlydd all ofyn am newid i ganran y gyfradd trwy gysylltu â Chredyd Cynhwysol.

5.1 Sut mae didyniadau ôl-ddyledion rhent yn cael eu talu i’r landlord

Os cânt eu hawdurdodi, bydd didyniadau ôl-ddyledion rhent yn cael eu talu o dan y Cynllun Didyniad Trydydd Parti (TPD).

Rhif Cyfeirnod Credydwr

Mae’n bwysig eich bod yn darparu eich Rhif Cyfeirnod Credydwr yr Adran Gwaith a Phensiynau (os oes gennych un). Gellir dod o hyd i hwn ar eich atodlen taliad diwethaf, wedi’i ddilyn gan 5 sero. Os na fyddwch yn darparu’r rhif hwn gallai arwain at oedi sylweddol i daliadau.

Am fanylion ar sut i dderbyn atodlenni taliad, pecyn gwybodaeth neu wybodaeth bellach e-bostiwch: customerpayments.edi@dwp.gsi.gov.uk

6. Rhoi gwybod am newidiadau

6.1 Newidiadau a allai effeithio ar daliad Credyd Cynhwysol

Mae hawlwyr yn gyfrifol am ddweud wrth DWP am unrhyw newidiadau a allai effeithio ar eu taliad Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn cynnwys pethau fel:

  • newidiadau rhent blynyddol
  • newidiadau i ffioedd gwasanaeth cymwys
  • gwahanu oddi wrth bartner

Dylech annog eich tenantiaid i roi gwybod am newid mewn amgylchiadau, er mwyn sicrhau ein bod yn talu’r swm cywir iddynt.

Ble mae taliad wedi’i reoli mewn lle, mae landlordiaid yr un mor gyfrifol am ddweud wrth DWP am unrhyw newidiadau y mae’n rhesymol iddynt wybod gallai effeithio taliad Credyd Cynhwysol y tenant.

6.2 Newidiadau a allai effeithio neu stopio’r taliad wedi’i reoli

Tra mae taliad wedi’i reoli mewn lle mae’n rhaid i’r landlord hysbysu’r DWP o unrhyw newidiadau y mae’n rhesymol i ddisgwyl landlord wybod amdanynt a allai effeithio ar hawl y tenant i Gredyd Cynhwysol ar swm a ddyfarnwyd. Er enghraifft, mae’r tenant yn newid cyfeiriad.

Pan mae tenant yn newid cyfeiriad bydd y taliad wedi’i reoli yn dod i ben o ddiwedd y cyfnod asesu cyn i’r hawlydd newid cyfeiriad.

Os bydd eich tenant yn symud cartref ac rydych angen dod a thaliad wedi’i reoli i ben, dylech gysylltu â’r ganolfan gwasanaeth yn syth ar 0800 328 1744.

Darganfyddwch am gostau galwadau

Os yw’r taliad wedi’i reoli yn cael ei ordalu oherwydd newid sydd heb gael ei hysbysu gan naill ai’r tenant neu’r landlord, efallai y gofynnir i’r landlord i dalu’r gordaliad yn ôl. Mae taliadau Credyd Cynhwysol yn cael eu gwneud bob mis calendr ac yn cymryd i ystyriaeth newidiadau yn ystod y mis hwnnw.

Os oes gan denant enillion mewn mis penodol sy’n uwch na’r arferol, efallai y byddant yn cael taliad llai o Gredyd Cynhwysol am y mis hwnnw. Bydd hyn yn lleihau gwerth unrhyw daliad wedi’i reoli a allai fod mewn lle. Neu efallai na fydd unrhyw daliad yn cael ei dalu i’r landlord os yw enillion y tenant yn ddigon uchel fel nad ydynt bellach yn gymwys am Gredyd Cynhwysol.

Cyfrifoldeb y tenant yw talu unrhyw ddiffyg yn eu rhent i’r landlord.

Dylai DWP eich hysbysu pan fydd taliad wedi’i reoli yn dod i ben ond ni fyddant yn dweud wrthych beth yw’r rheswm. Mae hyn oherwydd rheolaethau rhannu data a chyfrinachedd hawlydd.

7. Talu am 2 gartref

Gall cymorth drwy Gredyd Cynhwysol gael ei dalu am 2 gartref os yw:

  • atebolrwydd ar gyfer 2 gartref wedi codi oherwydd ofn trais yn y cartref arferol – yn yr achos hwn gellir talu’r ddau atebolrwydd am hyd at 12 mis cyn belled bod bwriad i ddychwelyd i’r eiddo gwreiddiol
  • person anabl yn methu â symud i mewn i gartref newydd oherwydd bod angen addasiadau – yn yr achos hwn, mae’n rhaid i’r hawlydd ddangos bod yr oedi yn rhesymol, ac os felly, gall y ddau atebolrwydd gael eu talu am hyd at un mis
  • teulu wedi ei leoli mewn 2 gartref oherwydd maint y teulu. Nid yw hyn yn destun terfyn amser.

Gall y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai hefyd gael ei dalu pan nad yw rhywun yn gallu byw yn eu cartref oherwydd gwaith atgyweirio hanfodol. Ond bydd y swm hwn ond yn cwmpasu naill ai costau tai’r llety arall neu’r llety maent yn byw ynddo fel arfer fel eu cartref (nid y ddau).

Os na all rhywun symud i mewn i lety yn syth oherwydd eu bod yn yr ysbyty neu mewn cartref gofal, yna gall y swm ychwanegol o Gredyd Cynhwysol ar gyfer costau tai gael ei dalu ar gyfer y llety newydd am hyd at un mis.

8. Llety arbenigol

8.1 Thai â chymorth

Nid yw Credyd Cynhwysol yn darparu cefnogaeth gyda chostau tai ar gyfer hawlwyr sy’n byw mewn Llety Penodedig (Â Chymorth). Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd angen i hawlwyr wneud cais am Fudd-dal Tai gan eu hawdurdod lleol am gymorth gyda chostau tai.

8.2 Llety dros dro

Nid yw Credyd Cynhwysol yn darparu cefnogaeth gyda chostau tai ar gyfer hawlwyr sy’n byw mewn llety dros dro’r cyngor lleol oherwydd digartrefedd. Mewn amgylchiadau o’r fath, bydd angen i hawlwyr wneud cais am Fudd-dal Tai gan eu cyngor lleol am gymorth gyda chostau tai.

9. Cwynion

Gallwch roi adborth ar y gwasanaeth a gawsoch trwy ddefnyddio’r gwasanaeth cwynion ar-lein

Er bod hafan y porth yn cyfeirio at hawlwyr Lwfans Ceisio Gwaith (JSA) a Chredyd Cynhwysol, gall landlordiaid ddefnyddio’r porth i wneud sylw neu i gwyno.

Bydd y gwasanaeth cwynion yn gofyn am Rif Yswiriant Gwladol a bydd angen i chi roi rhif cyfeirnod mewn ffurf rhif Yswiriant Gwladol er mwyn symud ymlaen.

Gallwch hefyd gysylltu â ni drwy ddefnyddio’r wybodaeth sydd wedi’i gynnwys o fewn yr Housing Queries Route way.