Adroddiad annibynnol

Adolygiad cysylltedd yr Undeb: adroddiad dros dro

Adroddiad dros dro Syr Peter Hendy yn ystyried cyflwr presennol cysylltedd trafnidiaeth o fewn y Deyrnas Unedig a’r achos dros fuddsoddiad yn y dyfodol.

Dogfennau

Adolygiad Cysylltedd yr Undeb: Adroddiad Dros Dro – Mawrth 2021 (Welsh version)

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch webmasterdft@dft.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Mae’r adroddiad dros dro hwn wedi ei gyflawni gan Syr Peter Hendy yn rhan o’r adolygiad o gysylltedd yr undeb. Mae:

  • yn ystyried y darlun cyfredol o gysylltedd trafnidiaeth o fewn y Deyrnas Unedig
  • yn darparu crynodeb o adborth a dderbyniwyd gan randdeiliaid
  • yn amlinellu methodoleg asesu Syr Peter, a fydd yn cael ei defnyddio i ddatblygu ei argymhellion terfynol

Mae’r adroddiad yn rhoi dadansoddiad o gysylltedd cyfredol ffyrdd, rheilffyrdd, awyr a môr yn y Deyrnas Unedig, ac yn sefydlu’r cyd-destun economaidd ar gyfer gwella cysylltedd. Mae’n amlinellu nifer o brosiectau trafnidiaeth cyfredol a ddylai, yn ôl y dystiolaeth a gyflwynwyd hyd yma, gael eu hystyried ar gyfer buddsoddiad yn y dyfodol, yn ogystal â datblygiad posibl rhwydwaith drafnidiaeth strategol newydd i’r Deyrnas Unedig. Yn olaf, mae’r adroddiad hefyd yn asesu effaith amgylcheddol cyfredol trafnidiaeth yn y Deyrnas Unedig.

Bydd yr adroddiad terfynol yn cael ei gyflwyno i’r llywodraeth yn ystod yr haf 2021 ac yn gwneud cyfres o argymhellion ar gyfer buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn y dyfodol rhwng cenhedloedd y Deyrnas Unedig.

Mae’r adroddiad dros dro hwn ar gael yn Saesneg, Cymraeg a Gwyddeleg.

Cyhoeddwyd ar 10 March 2021