Hunanasesiad: Cofrestru partner ar gyfer Hunanasesiad a CYG Dosbarth 2 (SA401)
Defnyddiwch y ffurflen SA401 i gofrestru ar gyfer Hunanasesiad os ydych wedi ymuno â phartneriaeth.
Dogfennau
Manylion
Defnyddiwch yr SA401 i gofrestru fel partner ar gyfer Hunanasesiad a CYG Dosbarth 2.
Gallwch lenwi’r ffurflen ar-lein, ei hargraffu a’i phostio i Gyllid a Thollau EM (CThEM).
Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth ar-lein, bydd angen Dynodydd Defnyddiwr a chyfrinair Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych Ddynodydd Defnyddiwr, gallwch greu un pan fyddwch yn defnyddio’r gwasanaeth.
Os cewch broblemau yn agor y ffurflen ar-lein gallwch ddefnyddio’r fersiwn PDF o’r SA401. Bydd yn rhaid i chi argraffu’r fersiwn hwn a’i lenwi â llaw.
Cyn i chi ddechrau
Os ydych yn defnyddio hen borwr, e.e. Internet Explorer 8, bydd yn rhaid i chi ei ddiweddaru neu ddefnyddio porwr gwahanol. Rhagor o wybodaeth ynghylch porwyr.
Bydd yn rhaid i chi lenwi’r ffurflen yn gyfan gwbl cyn i chi allu ei hargraffu. Ni allwch gadw ffurflen sydd wedi’i chwblhau’n rhannol felly rydym yn awgrymu eich bod yn casglu’ch holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau ei llenwi.
Ffurflenni ac arweiniad perthynol
Diweddarwyd ddiwethaf ar 6 April 2016 + show all updates
-
Rates, allowances and duties have been updated for the tax year 2016 to 2017.
-
An online service is now available.
-
Added translation