Canllawiau

Cofrestru partner ar gyfer Hunanasesiad ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 2

Cofrestru ar gyfer Hunanasesiad ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 pan rydych wedi ymuno â phartneriaeth gan ddefnyddio ffurflen SA401.

Os mai chi yw’r partner enwebedig, gallwch gofrestru fel partner ar gyfer Hunanasesiad a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 gan ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein. Os na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth ar-lein, gallwch gofrestru drwy anfon ffurflen bost at CThEF.

Cyn i chi ddechrau

Bydd angen y canlynol arnoch:

  • eich rhif Yswiriant Gwladol
  • eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych* eich Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR), os oes un gennych
  • y dyddiad y dechreuodd eich hunangyflogaeth* y dyddiad y dechreuodd eich hunangyflogaeth
  • y dyddiad y gwnaethoch ymuno â’r bartneriaeth
  • enw, cyfeiriad a UTR y bartneriaeth
  • Rhif Cofrestru’r Cwmni (CRN) os yw’r bartneriaeth yn bartneriaeth atebolrwydd cyfyngedig (PAC) neu’n bartneriaeth gyfyngedig sydd wedi’i chofrestru gyda Thŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 25 Hydref 2010

Dim ond y partner enwebedig all gofrestru ar-lein. Os nad chi yw’r partner enwebedig a’ch bod yn ymuno â phartneriaeth, mae’n rhaid i chi gofrestru drwy’r post.

Cofrestru ar-lein

Bydd angen Dynodydd Defnyddiwr (ID) a chyfrinair ar gyfer Porth y Llywodraeth arnoch. Os nad oes gennych ID Defnyddiwr, gallwch greu un wrth gofrestru.

Cofrestru nawr

Cofrestru drwy’r post

Os na allwch gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post.

Gallwch wneud un o’r canlynol:

  • llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen, ac yna’i hargraffu
  • llenwi’r fersiwn PDF o’r ffurflen ar y sgrin, ac yna’i hargraffu
  • argraffu’r fersiwn PDF o’r ffurflen, ac yna’i llenwi

Yna, bydd angen i chi anfon eich ffurflen wedi’i llenwi at CThEF.

Llenwi fersiwn ar-lein o’r ffurflen

I ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen mae angen i chi:

  1. Casglwch eich holl wybodaeth at ei gilydd cyn i chi ddechrau. Byddwch yn llenwi’r ffurflen hon ar-lein, ac ni fydd modd i chi gadw’ch cynnydd.

  2. Cofrestrwch gan ddefnyddio’r fersiwn ar-lein o’r ffurflen ‘Cofrestru partner ar gyfer Hunanasesiad a CYG Dosbarth 2 (SA401).

  3. Argraffwch y ffurflen a’i hanfon drwy’r post at CThEF gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Efallai na fydd y ffeil hon yn addas ar eich cyfer os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol (megis darllenydd sgrin). Os oes angen fformat mwy hygyrch arnoch, e-bostiwch gwasanaeth.cymraeg@hmrc.gov.uk a rhoi gwybod i ni ba fformat sydd ei angen arnoch. Bydd o gymorth i ni os nodwch pa dechnoleg gynorthwyol yr ydych yn ei defnyddio. Darllenwch y datganiad hygyrchedd ar gyfer ffurflenni CThEF (yn agor tudalen Saesneg).

Llenwch fersiwn PDF o’r ffurflen

Gallwch wneud y naill neu’r llall o’r canlynol:

  • argraffwch y ffurflen a’i llenwi
  • llenwch y ffurflen ar y sgrin, ac yna ei hargraffu

Yna, bydd angen i chi bostio’ch ffurflen wedi’i llenwi i CThEF, gan ddefnyddio’r cyfeiriad post a ddangosir ar y ffurflen.

I gwblhau’r ffurflen ar y sgrin, mae angen i chi wneud y canlynol:

  1. Lawrlwytho’r ffurflen a’i chadw ar eich cyfrifiadur.

  2. Agorwch y ffurflen gan ddefnyddio’r fersiwn ddiweddaraf o Adobe Reader (yn agor tudalen Saesneg) sy’n rhad ac am ddim.

  3. Llenwch y ffurflen ar y sgrin.

Cofrestru partner ar gyfer Hunanasesiad a chyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 2 (SA401)

Request an accessible format.
If you use assistive technology (such as a screen reader) and need a version of this document in a more accessible format, please email different.format@hmrc.gov.uk. Please tell us what format you need. It will help us if you say what assistive technology you use.

Efallai na fydd y ffurflen yn gweithio os byddwch yn ceisio’i hagor yn eich porwr rhyngrwyd. Os nad yw’r ffurflen yn agor, cysylltwch â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cymraeg CThEF.

Ar ôl i chi gofrestru

Fel arfer, byddwn yn cysylltu â chi cyn pen 15 diwrnod i’r dyddiad y daw eich ffurflen i law, ond gall hyn gymryd yn hirach yn ystod cyfnodau prysur.

Os gwnaethoch gofrestru ar-lein, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael eich UTR yn gynt drwy ddefnyddio Ap CThEF neu’ch cyfrif treth personol.

Os na fyddwn wedi cysylltu â chi ar ôl 3 wythnos, gallwch wirio pryd y gallwch ddisgwyl ateb.

Ffurflenni ac arweiniad cysylltiedig

Gallwch wirio’r hyn y gall asiant sy’n cael ei dalu ei wneud ar eich rhan.

Mae sut yr ydych yn awdurdodi’r asiant yn dibynnu ar y dreth, ac efallai bydd yn rhaid i chi ddefnyddio ffurflen bapur 64-8 neu wasanaeth ar-lein.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 23 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf ar 17 Rhagfyr 2024 show all updates
  1. Information on what you'll need before you start has been added.

  2. Added translation

Argraffu'r dudalen hon