Adroddiad ar y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd
Dyma’r adroddiad statudol cyntaf ar y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Tachwedd 2025.
Dogfennau
Manylion
Fel sy’n ofynnol gan Adran 11 Deddf Pysgodfeydd 2020, paratowyd yr adroddiad hwn ar y cyd gan awdurdodau polisi pysgodfeydd y Deyrnas Unedig (yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon).
Mae’n amlinellu i ba raddau y mae polisïau yn y Cyd-ddatganiad y DU ar Bysgodfeydd (JFS), ac mewn cynlluniau rheoli pysgodfeydd (FMPau), wedi cael eu gweithredu yn ystod y cyfnod adrodd 3 blynedd cyntaf ers i’r JFS gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022.
Mae hefyd yn adrodd ar i ba raddau y mae’r gwaith hwn wedi cyflawni, neu gyfrannu at, yr wyth amcan pysgodfeydd a amlinellir yn Adran 1 y Ddeddf Pysgodfeydd.