Adroddiad ar y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd
Cyhoeddwyd 24 Mawrth 2026
1. Adroddiad ar y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd
Ar gyfer y cyfnod rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Tachwedd 2025
Fe’i cyflwynir i’r Senedd yn unol ag Adran 11(3) Deddf Pysgodfeydd 2020
Mawrth 2026
© Hawlfraint y Goron 2026
2. Crynodeb gweithredol
Dyma adroddiad statudol cyntaf y Cyd-ddatganiad Pysgodfeydd (JFS), sy’n ofynnol gan Ddeddf Pysgodfeydd 2020 (y Ddeddf). Mae’n asesu i ba raddau y mae polisïau’r JFS wedi cael eu gweithredu ers iddo gael ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2022 ac yn amlinellu i ba raddau y mae polisïau mewn cynlluniau rheoli pysgodfeydd (FMPau) perthnasol wedi cael eu gweithredu, ac i ba raddau y mae’r ddau wedi cyfrannu tuag at amcanion pysgodfeydd y Ddeddf.
2.1 Cefndir
Datganiad polisi yw’r JFS sy’n amlinellu’r cyfeiriad trosfwaol ar gyfer rheoli pysgodfeydd yn y Deyrnas Unedig. Mae’n rhan allweddol o Fframwaith Cyffredin ar Reoli a Chefnogi Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig (y Fframwaith Pysgodfeydd) a bydd yn cael ei adolygu’n gyfnodol i sicrhau bod yr uchelgeisiau polisi a geir ynddo yn aros yn berthnasol ac yn addas i’r diben.
Mae’r JFS yn amlinellu blaenoriaethau strategol yr awdurdodau polisi pysgodfeydd (yr Ysgrifennydd Gwladol, Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a’r Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA) yng Ngogledd Iwerddon) ar gyfer cyflawni, neu gyfrannu at gyflawni, wyth amcan pysgodfeydd y Ddeddf:
(a) yr amcan cynaliadwyedd
(b) yr amcan rhagofalus
(c) yr amcan ecosystem
(d) yr amcan tystiolaeth wyddonol
(e) yr amcan sgil-ddalfa
(f) yr amcan mynediad cyfartal
(g) yr amcan budd cenedlaethol
(h) yr amcan newid hinsawdd
Yn rhan o’r Fframwaith Pysgodfeydd ehangach, mae’r JFS yn sefydlu uchelgeisiau polisi cyffredin ar draws yr awdurdodau polisi pysgodfeydd. Mae’n darparu hyblygrwydd wrth weithredu, lle bo’n briodol, i barchu natur ddatganoledig pysgodfeydd. Mae hyn yn golygu bod rheoleiddwyr yn gallu gweithredu mewn ffordd sy’n gymesur â’r materion pysgodfeydd sy’n derbyn sylw yn eu hardaloedd.
Yn ehangach, mae’r JFS yn amlinellu uchelgais yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i barhau i ddarparu rheolaeth gynaliadwy, o’r radd flaenaf ar bysgodfeydd yn unol â’r amcanion pysgodfeydd, ac ymrwymiadau rhyngwladol ehangach y Deyrnas Unedig. Mae’n ceisio sicrhau buddion parhaol i gymunedau pysgota a chadwyn gyflenwi bwyd môr y Deyrnas Unedig, yn awr ac yn y dyfodol.
Yn ôl adran 11(1) y Ddeddf, “Mae’n rhaid i’r awdurdodau polisi pysgodfeydd, gan weithredu ar y cyd, mewn perthynas â phob cyfnod adrodd, baratoi a chyhoeddi adroddiad ar i ba raddau y mae’r polisïau a amlinellir mewn JFS perthnasol —
(a) wedi cael eu gweithredu, ac
(b) wedi cyflawni neu gyfrannu at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd.”
Y cyfnod adrodd cyntaf yw’r cyfnod o 3 blynedd sy’n dechrau ar y diwrnod y cyhoeddir y JFS cyntaf. Mae’n rhaid i adroddiadau gael eu cyhoeddi ar gyfer pob cyfnod dilynol o 3 blynedd ac mae’n rhaid iddynt hefyd “adrodd ar i ba raddau y mae’r polisïau a gynhwysir mewn cynllun rheoli pysgodfeydd perthnasol –
(a) wedi cael eu gweithredu, ac
(b) wedi effeithio ar lefelau stociau pysgod môr.”
Y cyfnod adrodd ar gyfer yr adroddiad hwn yw mis Tachwedd 2022 i fis Tachwedd 2025.
Bydd yr adroddiad nesaf yn cael ei gyhoeddi yn 2029, ar gyfer yr ail gyfnod adrodd rhwng mis Tachwedd 2025 a mis Tachwedd 2028.
2.2 Strwythur yr adroddiad a’r dull o’i ddatblygu
Mae’r adroddiad hwn yn dilyn strwythur y JFS, gan ymdrin â’r cyd-destun strategol a’r amcanion trosfwaol ar gyfer rheoli pysgodfeydd; y themâu polisi a’r dulliau cyflawni penodol; ac adrodd ar FMPau. Mae’r adroddiad yn amlygu gwaith a wnaed o dan bob un o themâu polisi’r JFS yn ystod y cyfnod adrodd cyntaf, yn amlygu cyfraniad y gwaith a wnaed at yr amcanion pysgodfeydd a hefyd yn amlinellu rhywfaint o’r gwaith y mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn bwriadu ei wneud yn y dyfodol.
3. Cyflawni’r JFS
3.1 Gwyddoniaeth a thystiolaeth
Mae’r Deyrnas Unedig yn mynd ati i reoli pysgodfeydd a dyframaethu mewn ffordd gydweithredol, wedi’i seilio ar dystiolaeth, gan ddefnyddio’r wyddoniaeth orau sydd ar gael a monitro cynhwysfawr i lywio penderfyniadau. Mae hyn yn galluogi’r Deyrnas Unedig i barhau i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol ac yn cefnogi ei huchelgais i fod yn arweinydd byd ym maes gwyddoniaeth ac arloesedd pysgodfeydd. Mae elfennau allweddol yn cynnwys:
Y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael
Yn ystod y cyfnod adrodd, mae’r Deyrnas Unedig wedi cynnal perthynas waith gref â’r Cyngor Rhyngwladol Archwilio’r Môr (ICES), trwy gynnwys tua 500 o wyddonwyr o’r Deyrnas Unedig mewn dros 100 o grwpiau arbenigol. Mae Grŵp Cynrychiolwyr Parhaol y Deyrnas Unedig i ICES (GUKPRI), sydd newydd ei sefydlu, yn cydlynu cyfraniad ac ymgysylltiad y Deyrnas Unedig, gan gynnwys adolygu Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng y Deyrnas Unedig ac ICES yn barhaus, sydd hefyd wedi cryfhau’r berthynas rhwng y Deyrnas Unedig ac ICES. Mae’r cyfarfodydd blynyddol rhwng ICES a cheiswyr Cyngor ICES hefyd yn gweithredu fel fforwm i adolygu a thrafod y cyngor y mae ICES yn ei roi i gefnogi pysgodfeydd cynaliadwy a rheoli ecosystemau morol.
Ymgysylltodd y Deyrnas Unedig yn weithredol â sefydliadau rhyngwladol, gan gynnwys Sefydliadau Rheoli Pysgodfeydd Rhanbarthol (RFMOau), sefydliadau amgylcheddol, a’r diwydiant, a oedd wedi’i galluogi i gefnogi mesurau sy’n gyson â’r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.
Yn ogystal, cydweithiodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd trwy Grŵp Llywio Gwyddoniaeth a Thystiolaeth Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig a Phanel Cynghori ar Wyddoniaeth Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig i gydlynu, datblygu a chaffael cyngor gwyddonol ar faterion pysgodfeydd.
Casglu a rhannu data gwyddonol
Mae’r Deyrnas Unedig yn sicrhau parhad a chysondeb ei data pysgodfeydd trwy raglen casglu data gydlynol o dan y Fframwaith Casglu Data (DCF), sy’n cynnwys Cynllun Gwaith y Deyrnas Unedig a thechnolegau monitro perthnasol. Yn ystod y cyfnod adrodd, dechreuasom ddadansoddi’r DCF i sicrhau ei fod yn addas i’r diben wrth symud ymlaen. Ar wahân, rydym hefyd wedi adolygu a chyhoeddi Cynllun Gwaith y Deyrnas Unedig yn flynyddol i sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni ein hymrwymiadau rhannu data domestig a rhyngwladol. Cyfrannodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd at gasglu data biolegol, economaidd a chymdeithasol hefyd, gan gynnwys ynglŷn â chynaliadwyedd stociau, trwy arolygon annibynnol pysgodfeydd, samplu sy’n dibynnu ar bysgodfeydd a monitro arall perthnasol.
Mae’r Deyrnas Unedig wedi parhau i hwyluso rhannu data cynhwysfawr ar draws yr awdurdodau polisi pysgodfeydd trwy’r Grŵp Cydlynu Data, ac mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol (yr Ysgrifennydd Gwladol, y Sefydliad Rheoli Morol (MMO), Gweinidogion yr Alban, Gweinidogion Cymru a DAERA) yn ceisio rhoi mynediad llawn ac agored i’w gilydd at wybodaeth wyddonol a thechnegol. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn rhannu data, ac mae’r rhan fwyaf o ddata’r DCF yn cael ei rannu’n rhyngwladol hefyd trwy ICES i gynhyrchu cyngor. Mae rhai mathau o ddata arbenigol, fel Systemau Monitro Cychod (VMS) a sgil-ddalfeydd, yn cael eu rhannu ar lefel y Deyrnas Unedig ar gyfer prosesu domestig. Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i rannu data’n briodol â gwledydd eraill, a hwylusir trwy aelodaeth ac ymgysylltiad ag ICES. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd wedi gwneud ymdrech i wella mynediad cyhoeddus at setiau data pysgodfeydd, gan gynnwys trwy offer arloesol fel apiau rhyngweithiol.
Gwella’r sylfaen dystiolaeth
Parhaodd y Deyrnas Unedig i gynnal ei sylfaen dystiolaeth, a’i gwella ymhellach, trwy ymchwil wedi’i thargedu yn ystod y cyfnod hwn. Rhyngddynt, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi canolbwyntio prosiectau ymchwil a datblygu penodol ar feysydd gan gynnwys, ymhlith eraill: offer pysgota detholus, sgil-ddalfa, monitro ar y glannau (gan gynnwys monitro a mesur dalfeydd mewn porthladdoedd), Ardaloedd Morol Gwarchodedig (MPAau), gwydnwch y fflyd ac adfer carbon glas. Ymatebodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i alwadau ICES am ddata, gan ddarparu data ar gyfer asesiadau stoc rhyngwladol ac ymwneud â chydweithrediadau ymchwil a sicrhau ansawdd allanol gyda labordai aelod-wledydd.
3.2 Gweithio mewn partneriaeth
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi annog perthnasoedd cydweithredol cryf i helpu i gyflawni uchelgeisiau polisi’r JFS a’r amcanion pysgodfeydd. Mae ymgysylltu agored â’r diwydiant, gwyddonwyr, grwpiau amgylcheddol, a chymunedau, wedi meithrin tryloywder, dysgu a rennir a datrys problemau ar y cyd. Mae’r dull cydweithredol hwn yn golygu y gellir rhannu arfer gorau a datrysiadau wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n cefnogi pysgodfeydd cynaliadwy, amgylcheddau morol iach, a chymunedau arfordirol gwydn.
Gwaith partneriaeth rheolaidd ledled y Deyrnas Unedig yw’r hyn sy’n troi data a thystiolaeth pysgodfeydd yn weithredu cydlynol yn y Deyrnas Unedig, lle bo’n briodol. Mae’r cynnydd a amlygir yn yr adroddiad hwn yn adlewyrchu cryfder a buddion y partneriaethau hyn, a’r ymrwymiad a rennir ar draws y Deyrnas Unedig i gyflawni canlyniadau cynaliadwy, hirdymor ar gyfer ein moroedd a’r rhai sy’n dibynnu arnynt.
3.3 Gwneud penderfyniadau cyfranogol
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi datblygu a chryfhau trefniadau ar gyfer cydweithio ar draws pysgodfeydd y Deyrnas Unedig gyda rhanddeiliaid â buddiant, a thrwy hynny hyrwyddo mwy o ymwneud mewn prosesau penderfynu. Er enghraifft, mae sefydlu grwpiau cynghori ar draws yr awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd yn hwyluso ymgysylltu â’r gymuned wrth ddylunio mesurau rheoli pysgodfeydd yn y dyfodol.
4. Rheoli pysgodfeydd yn gynaliadwy
4.1 Ein dull o reoli pysgodfeydd
Mae cynaliadwyedd, cefnogi bioamrywiaeth ac ystyried yr ecosystem ehangach wrth wraidd dull yr awdurdodau polisi pysgodfeydd o reoli pysgodfeydd, yn ddomestig ac yn rhyngwladol. Trwy’r JFS, rydym wedi ymrwymo i ddull wedi’i seilio ar ecosystem sy’n cefnogi pysgodfeydd proffidiol, hirdymor ar yr un pryd â lleihau effeithiau newid hinsawdd gymaint â phosibl.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i gydnabod rôl allweddol y sector bwyd môr a byddant yn sicrhau, trwy gydweithredu parhaus a chynllunio strategol, bod nodau amlweddog diogeledd bwyd, lles cymunedol, stiwardiaeth amgylcheddol, a gwydnwch economaidd yn cael eu bodloni yn awr ac yn y dyfodol.
Mae’r Ddeddf a’r JFS yn rhan o’r Fframwaith Pysgodfeydd ar gyfer cyflawni rheolaeth effeithiol a chynaliadwy ar bysgodfeydd ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein polisi FMP yn deillio o’n huchelgeisiau polisi yn y JFS, ac mae FMPau unigol yn amlinellu’r polisïau, y nodau, y camau gweithredu a’r mesurau ar gyfer rheoli pysgodfeydd neu stociau penodol yn gynaliadwy, yn ogystal â cheisio mynd i’r afael â materion rheoli pysgodfeydd ehangach, fel bylchau mewn tystiolaeth a’r ffordd orau o ddefnyddio technolegau newydd. Rhoddir mwy o wybodaeth yn yr adran ar yr FMP.
Mae Strategaeth Forol y Deyrnas Unedig (UKMS) hefyd yn llywio dull rheoli pysgodfeydd y Deyrnas Unedig. Mae’n cynnwys tair rhan, sy’n gweithio gyda’i gilydd i asesu cyflwr moroedd y Deyrnas Unedig, darparu data perthnasol i fonitro cynnydd tuag at gyflawni’r targed Statws Amgylcheddol Da (GES) statudol a gydnabyddir yn rhyngwladol, ac amlinellu’r mesurau sy’n angenrheidiol i gyflawni a chynnal Statws Amgylcheddol Da.
Mae Statws Amgylcheddol Da yn ymwneud â gwarchod yr amgylchedd morol, ei atal rhag dirywio, a’i adfer lle bo’n ymarferol, ar yr un pryd â chaniatáu defnydd cynaliadwy o adnoddau morol. Yn 2025, cyflawnwyd Statws Amgylcheddol Da yn nyfroedd y Deyrnas Unedig ar gyfer 2 o 15 o ddisgrifyddion/elfennau ecosystem (ewtroffigedd ac amodau hydrograffig). Mae’r Rhaglen Mesurau a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2025 yn cynnwys amcanion y Ddeddf a’r pysgodfeydd, y JFS ac FMPau fel mesurau newydd i gyfrannu at gyflawni neu gynnal Statws Amgylcheddol Da.
Mae mesurau eraill yn cynnwys:
- rhoi mesurau rheoli pysgodfeydd ar waith mewn MPAau ledled dyfroedd y Deyrnas Unedig, gan gynnwys dynodi Ardaloedd Morol Gwarchodedig Iawn (HPMAau) yn nyfroedd Lloegr
- cyflawni’r ymrwymiad a gydnabyddir yn rhyngwladol i warchod 30% o’n moroedd yn effeithiol erbyn 2030
- polisïau mewn Cynlluniau Morol, sy’n ofynnol i ystyried Statws Amgylcheddol Da
- gweithredu mesurau o fewn FMPau i warchod lefelau stociau pysgod ac ecosystemau morol
- rhaglenni ymchwil fel Asesiad Cyfalaf Naturiol ac Ecosystemau Morol (mNCEA) Defra a Phrosiect Asesu Gweithgareddau Pysgota Cymru Llywodraeth Cymru
Mae newid hinsawdd, gan gynnwys cyfrannu at dargedau carbon sero net, yn ystyriaeth allweddol o hyd wrth ddatblygu FMPau a dulliau eraill o reoli pysgodfeydd. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ymgysylltu â’r diwydiant pysgota a rhanddeiliaid ehangach i ddatblygu mesurau sy’n ceisio deall effeithiau andwyol pysgodfeydd ar newid hinsawdd yn well a’u lleihau gymaint â phosibl. Yn ogystal, rydym hefyd yn cydnabod yr effaith y mae newid hinsawdd yn ei chael ar dymheredd y môr ac felly dosbarthiad stociau ac, yn unol â’r JFS a thrwy FMPau, rydym yn ceisio addasu ac ymateb i’r heriau hyn.
Yn olaf, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cydnabod bod angen cymorth ariannol i helpu’r diwydiant pysgota a’r sector bwyd môr ehangach i fabwysiadu’r dulliau rheoli pysgodfeydd a’r uchelgeisiau polisi sy’n deillio o’r JFS.
I ddisodli Cronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop (EMFF) yn dilyn ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd, mae pob awdurdod polisi pysgodfeydd wedi rhoi eu cynlluniau cyllido domestig eu hunain ar waith, a luniwyd i gefnogi’r blaenoriaethau yn eu hardaloedd unigol. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- Mae DAERA wedi sefydlu’r Gronfa Amgylchedd Morol a Physgodfeydd i gefnogi twf cynaliadwy yn y sectorau morol a physgodfeydd ar yr un pryd â hyrwyddo nodau amgylcheddol sero net
- Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio, gyda chyfraniad gan randdeiliaid yng Nghymru, Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru a’r Gronfa Adeiladu Capasiti mewn Cymunedau Arfordirol i gefnogi dyfodol cynaliadwy ar gyfer diwydiant pysgota Cymru, cadwyni cyflenwi cysylltiedig, ein hamgylchedd morol gwerthfawr a chymunedau arfordirol
- Mae Llywodraeth yr Alban yn darparu Cronfa Forol flynyddol yr Alban (MFS), a luniwyd o amgylch meini prawf cytunedig gan gynnwys canlyniadau Gweledigaeth Economi Las yr Alban, i gefnogi prosiectau sy’n cyflawni arloesedd ac arferion cynaliadwy yn ei sectorau morol
- Yn Lloegr, darparodd Defra fuddsoddiad trwy’r Cynllun Pysgodfeydd a Bwyd Môr (FaSS) i ddiogelu cynaliadwyedd, gwydnwch a ffyniant hirdymor ei sector bwyd môr
- Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd wedi darparu Cronfa Bwyd Môr y Deyrnas Unedig. Er nad yw’r cynllun hwn (ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan) yn disodli cyllid EMFF yn uniongyrchol, roedd ar waith yn ystod y cyfnod adrodd
Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig y Gronfa Pysgota a Thwf Arfordirol, a fydd yn darparu £360 miliwn o gyllid yn ystod y 12 mlynedd nesaf i gefnogi’r sector pysgodfeydd a bwyd môr, a chymunedau arfordirol y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi penderfynu y bydd hyn yn cael ei ddyrannu ar sail fformiwla Barnett.
5. Cyflawni’r amcanion pysgodfeydd trwy ein polisïau
Mae’r JFS yn amlinellu’r uchelgeisiau polisi i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor ein stociau pysgod a chyflawni’r amcanion pysgodfeydd a amlinellir yn y Ddeddf. Mae’r polisïau canlyniadol – sydd wedi’u seilio ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael, penderfyniadau tryloyw, a chydweithio – wedi’u trefnu’n 16 thema sy’n ymdrin â physgodfeydd, dyframaethu a rheoli’r amgylchedd morol o fewn y JFS. Mae’r adran hon yn amlinellu’r gwaith a wnaed i weithredu polisïau o fewn pob thema. Mae adran olaf yr adroddiad hwn yn ystyried i ba raddau y mae’r polisïau hynny a weithredwyd wedi cyfrannu tuag at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd ac yn amlinellu rhywfaint o waith parhaus i barhau i ddatblygu polisïau’r JFS.
5.1 Cyfleoedd pysgota
Mae’r Deyrnas Unedig yn gweithio gyda Gwladwriaethau arfordirol partner i gytuno ar ystod o fesurau rheoli ar gyfer stociau a rennir, a’u gweithredu. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gosod terfynau dalfa, ymhlith eraill. Mae cyfran sylweddol o’r cyfleoedd pysgota ar gyfer fflyd y Deyrnas Unedig yn cyfeirio at yr uchafswm pysgod y ceir eu dal (cwota dalfa) a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Ar gyfer y rhan fwyaf o stociau, gwneir y penderfyniad yn flynyddol yn dilyn trafodaethau rhyngwladol. Mewn rhai amgylchiadau, fe allai cyfleoedd gael eu pennu ar sail dros dro. Er enghraifft, pan na fydd trafodaethau rhyngwladol wedi dod i ben erbyn i flwyddyn bysgota ddechrau.
Ar ôl i’r penderfyniad gael ei wneud, caiff yr Ysgrifennydd Gwladol ddosrannu cyfleoedd rhwng yr awdurdodau polisi pysgodfeydd. Yna, mater i bob awdurdod yw penderfynu sut i ddosbarthu ei gyfran i’r diwydiant.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn penderfynu ar gyfleoedd pysgota trwy ystyried yr amcanion pysgodfeydd a defnyddio’r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael. Mae hyn yn cefnogi cynnydd tuag at uchelgais y JFS i adfer a/neu gynnal yr holl stociau masnachol uwchben lefelau biomas er mwyn cefnogi cynnyrch cynaliadwy, ar yr un pryd â chydbwyso ystyriaethau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
A hithau’n Wladwriaeth arfordirol, mae’n ddyletswydd gyfreithiol ar y Deyrnas Unedig i reoli’r adnoddau byw o fewn ei Pharth Economaidd Neilltuedig (EEZ) yn gynaliadwy. Mae’r cyfrifoldeb hwn yn cynnwys cydweithio â Gwladwriaethau arfordirol eraill pan fydd stociau’n cael eu rhannu ar draws ffiniau, trwy broses o drafodaethau blynyddol. A hithau’n Wladwriaeth arfordirol yng Ngogledd-ddwyrain yr Iwerydd, mae’r Deyrnas Unedig yn cyflawni swyddogaeth lawn wrth gydreoli adnoddau pysgodfeydd a rennir. Mae’r Deyrnas Unedig bellach wedi ymwreiddio trafodaethau dwyochrog (gyda’r Undeb Ewropeaidd, gyda Norwy a chydag Ynysoedd Ffaro) a theirochrog (gyda’r Undeb Ewropeaidd a Norwy) â Gwladwriaethau arfordirol ynglŷn â stociau a rennir mewn prosesau busnes fel arfer. Ategir y rhain gan y data gorau sydd ar gael gan ICES, Canolfan Gwyddorau’r Amgylchedd, Pysgodfeydd a Dyframaethu (Cefas), Portffolio Gwyddoniaeth, Tystiolaeth, Data a Digidol y Gyfarwyddiaeth Forol, Sefydliad Bwyd-Amaeth a Biowyddorau (AFBI) Gogledd Iwerddon, tîm Gwyddor Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru a’r MMO. Yn ystod y cyfnod 2022 i 2025, sicrhaodd y Deyrnas Unedig gynnydd 25% o ran tunelledd a 24% o ran gwerth o’r trafodaethau hyn. Yn ystod y cyfnod adrodd, cyhoeddodd y Deyrnas Unedig ganlyniadau economaidd blynyddol trafodaethau sy’n ymwneud â chyfleoedd pysgota’r Deyrnas Unedig, gweler yma ar gyfer canlyniadau a gyhoeddwyd yn 2025 (https://www.gov.uk/government/publications/economic-outcomes-of-negotiations-for-uk-fishing-opportunities-2025/economic-outcomes-of-annual-negotiations-for-uk-fishing-opportunities-in-2025#executive-summary).
Mae’r Deyrnas Unedig hefyd wedi ymwreiddio cytuno ar ddulliau rheoli a thrafod dyraniadau cwota ar gyfer stociau a rennir, lle bo’n briodol, mewn prosesau busnes fel arfer o fewn RFMOau. Mae’r rhain yn cynnwys Sefydliad Pysgodfeydd Gogledd-orllewin yr Iwerydd, Comisiwn Pysgodfeydd Gogledd-ddwyrain yr Iwerydd (NEAFC), y Comisiwn Rhyngwladol ar gyfer Gwarchod Tiwna’r Iwerydd (ICCAT) a Chomisiwn Tiwna Cefnfor yr India (IOTC). Er enghraifft, mae canlyniadau trafodaethau ICCAT yn 2025 wedi arwain at gynyddu cwota tiwna asgell las y Deyrnas Unedig o 63 o dunelli i 231 o dunelli y flwyddyn ar gyfer 2026-2028. Dyma’r cynnydd mwyaf ymhlith unrhyw un o’r bron 20 o bartïon sy’n gysylltiedig.
Mae sefydlu dalfeydd mwyaf a ganiateir (TACau) a chyfrannau cwota yn elfen allweddol o’r trafodaethau rhyngwladol hynny. Mae Defra yn cyhoeddi adroddiad blynyddol, a gynhyrchir gan Cefas, sy’n dangos nifer y TACau domestig a rhyngwladol sy’n llwyddo asesiad cynaliadwyedd Cefas. Yn adroddiad 2022, llwyddodd 34% o’r TACau a osodwyd gan y Deyrnas Unedig asesiad Cefas, gan gynyddu i 46% yn adroddiad 2025. Mae Dangosydd Pysgota Cynaliadwy Llywodraeth yr Alban, a gyhoeddir yn flynyddol, hefyd yn crynhoi statws cynaliadwyedd stociau pysgod a physgod cregyn masnachol yn nyfroedd yr Alban, a dangosodd fod 73% o 38 o stociau wedi’u pysgota’n gynaliadwy yn 2023.
Weithiau, mae TACau yn cael eu gosod yn uwch na’r prif gyngor. Yn yr achosion hyn, mae’r Deyrnas Unedig wedi ceisio datblygu dulliau trafod a/neu reoli domestig sy’n rhoi sylw priodol i ystyriaethau cymdeithasol ac economaidd ehangach, er mwyn osgoi effeithiau andwyol ar y sectorau pysgota a bwyd môr. Mae’r Deyrnas Unedig yn hyrwyddo manteisio’n gynaliadwy ar stociau trwy gamau gweithredu y mae’n eu cymryd yn unochrog yn ogystal â thrwy gamau gweithredu ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol, er enghraifft:
- rhannu TACau, lle mae dwy Wladwriaeth arfordirol neu fwy yn cytuno ar TAC ar gyfer stoc a rennir a’i rhannu rhyngddyn nhw eu hunain yn seiliedig ar gyfrannau cytunedig
- gosod TACau sgil-ddalfa gyda’r Undeb Ewropeaidd i leihau risg dal pysgod nad oes eu hangen (‘choke risk’) ar gyfer stociau iach sy’n cael eu dal ochr yn ochr â stociau gwahardd dal mewn pysgodfeydd cymysg
- defnyddio grwpiau arbenigol i archwilio dulliau rheoli amgen ar gyfer stociau (fel morgathod)
- cydweithio â’r Undeb Ewropeaidd a Norwy i fynd i’r afael â heriau rheoli cyffredin (fel trwy’r Gweithgor Rheoli Penfras)
- parhau i weithio gyda’r Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd (SCF) i amlygu mesurau rheoli penodol i stoc, pan fydd angen. Sefydlwyd yr SCF o dan y Cytundeb Masnach a Chydweithredu rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd i reoli cydweithio rhwng pysgodfeydd y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd
- cydnabod y cyngor a geisir gan ICES i gefnogi’r sylfaen dystiolaeth ar gyfer llywio penderfyniadau rheoli
- gweithredu Strategaethau Rheoli Hirdymor ar gyfer stociau a reolir yn deirochrog gyda’r Undeb Ewropeaidd a Norwy (fel penwaig, a gytunwyd ac a weithredwyd ar gyfer 2026)
- parhau i ymgysylltu â Gwladwriaethau arfordirol eraill ynglŷn â datblygu trefniadau rhannu cynhwysfawr ar gyfer stociau na sefydlwyd trefniadau ar eu cyfer eto (fel mecryll, swtanod glas a phenwaig)
Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i gymhwyso’r un egwyddorion cynaliadwyedd wrth reoli ei stociau domestig. Mae’r holl awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i ddatblygu eu sylfeini data a thystiolaeth i lywio’r broses o reoli stociau yn eu dyfroedd unigol yn y dyfodol.
Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn dosrannu cyfleoedd pysgota rhwng yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn unol â Rheolau Rheoli Cwota (QMR) y Deyrnas Unedig. Mae’r QMR yn cael eu cyhoeddi ar GOV.UK ac fe’u diweddarwyd ddwywaith yn ystod y cyfnod hwn, ym mis Gorffennaf 2023 a mis Medi 2024, i adlewyrchu canlyniad yr ymgynghoriad ar ‘Reoli Cwotâu yn 2023 a Thu Hwnt,’ a gynhaliwyd yn 2022.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd yn rheoli cwota ychwanegol yn annibynnol ar gyfer rhai stociau yn eu dyfroedd. Archwiliwyd gwahanol ddulliau o ddyrannu cwota ychwanegol i fflydiau pob awdurdod trwy gynlluniau peilot, treialon a mentrau ymgeisio, yr oedd llawer ohonynt wedi’u seilio ar lefelau dalfeydd hanesyddol neu flaenoriaethu pysgotwyr sy’n defnyddio offer detholus neu dechnegau sy’n cael llai o effaith ar yr amgylchedd. Mae’r rhain yn cynnwys Cynllun Cwota Cymunedol Cernyw, pysgodfa fasnachol tiwna asgell las Lloegr, y Dull Cymhwyso Cwota yn Lloegr a menter ymgeisio newydd cwota ychwanegol penfras Gorllewin yr Alban.
5.2 Stociau heb gwota
Ochr yn ochr â stociau a reolir gan gwota, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn rheoli stociau heb gwota yn eu dyfroedd, y mae llawer ohonynt yn cael eu rheoli ar y cyd â’r Undeb Ewropeaidd. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i ddatblygu dulliau rheoli domestig cynaliadwy ar gyfer y stociau hyn, yn ogystal â cheisio datblygu strategaethau amlflwyddyn gyda’r Undeb Ewropeaidd trwy’r Pwyllgor Arbenigol ar Bysgodfeydd (SCF).
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
O ran rheolaeth ddomestig ar stociau heb gwota, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cyflawni rhaglen o FMPau i ddatblygu dulliau rheoli domestig priodol ar gyfer stociau heb gwota, fel draenogiaid môr, cregyn y brenin, crancod, cimychiaid a rhywogaethau pysgod asgellog a ceffalopodau cymysg eraill. Rhoddir mwy o wybodaeth yn yr adran ar yr FMP.
Cyflwynwyd Offeryn Statudol y Deyrnas Unedig, sef Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024 (https://www.legislation.gov.uk/uksi/2024/1028/made), ym mis Hydref 2024. Galluogodd yr Offeryn Statudol hwn gyflwyno mesurau rheoli i fwrw ymlaen â nodau o fewn rhai FMPau (gweler yr adran ar yr FMP ar gyfer manylion penodol).
Yn ystod y cyfnod adrodd, cyflwynodd DAERA [Reoliadau Safleoedd Gwella Cregyn Bylchog (Dulliau Pysgota Gwaharddedig) (Gogledd Iwerddon) 2022] (https://www.legislation.gov.uk/nisr/2022/272/made)(https://www.legislation.gov.uk/nisr/2022/272/made), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2023. Mae’r rheoliadau hyn yn gwahardd pysgota ar gyfer pysgod môr gan ddefnyddio offer symudol gwely’r môr a phlymio am gregyn bylchog mewn sawl ardal ddynodedig o fewn parth Gogledd Iwerddon a sefydlwyd fel safleoedd ailhadu cregyn bylchog. Mae DAERA hefyd wedi cyflwyno diwygiadau i’r rheoliadau ar gyfer pysgodfa crancod brown Gogledd Iwerddon ym mis Ionawr 2023 i wahardd glanio crancod cragen feddal.
Yn 2024, cyhoeddodd DAERA ei hymateb i’w hymgynghoriad a’i galwad am dystiolaeth ynglŷn â chasglu pysgod cregyn â llaw yn yr ardal rynglanw yng Ngogledd Iwerddon. Ychwanegwyd FMP newydd ar gyfer rhywogaethau sy’n cael eu cywain â llaw at Atodiad A y JFS, y cyhoeddwyd fersiwn ddiwygiedig ohono, yn dilyn ymgynghoriad, ym mis Rhagfyr 2024.
Cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynlluniau trwyddedu ar gyfer nifer o’i physgodfeydd stociau heb gwota yn ystod y cyfnod adrodd, gan gynnwys cocos a chregyn moch. Mae’r systemau rheoli hyn yn galluogi dull mwy amserol ac addasol o reoli’r pysgodfeydd stociau heb gwota yn y dyfodol trwy gynnwys amodau ar y trwyddedau.
Yn ystod y cyfnod adrodd, rhoddodd Llywodraeth yr Alban fesurau rheoli interim ar waith ar gyfer rhywogaethau allweddol heb gwota fel cam cyntaf o’i Rhaglen Rheoli a Gwella Pysgodfeydd y Glannau. Roedd y rhain yn cynnwys gwahardd glanio cimychiaid wyog yn ogystal â rheolaethau ar y categori mwyaf o gychod dal crancod. Dilynwyd hyn ym mis Mehefin 2025 gan gyhoeddi adroddiad ar ei galwad am dystiolaeth. Ceisiodd hwn safbwyntiau rhanddeiliaid ar ddatblygu’r fframwaith ystwyth, rhanbarthol yn yr Alban ar gyfer rheoli ein rhywogaethau pysgod a physgod cregyn y glannau y mae’r Rhaglen hon yn galw amdano.
Rhoddwyd Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Monitro Electronig o Bell a Rheoleiddio Pysgota am Gregyn Bylchog) (Yr Alban) 2024 (https://www.legislation.gov.uk/ssi/2024/165/contents/made) ar waith i gryfhau dulliau rheoli’r bysgodfa cregyn bylchog, gan fireinio rheolaethau i warchod stociau bregus ar yr un pryd â galluogi gweithgarwch cywain cyfrifol i barhau trwy ddefnyddio systemau Monitro Electronig o Bell (REM).
Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi bwrw ymlaen ag ymarfer cwmpasu a luniwyd i asesu gwasgariad a gwerth stociau heb gwota sy’n cael eu dal a’u glanio y manteisir arnynt yn fasnachol yn nyfroedd yr Alban. Bydd hyn yn helpu i lywio’r ffordd y mae FMPau stociau heb gwota yn cael eu hystyried a’u trin yn yr Alban.
5.3 Ymgysylltu rhyngwladol ehangach
Mae’r Deyrnas Unedig yn ymwneud yn weithredol â chyfarfodydd a thrafodaethau rhyngwladol ynglŷn â physgodfeydd trwy gyrff fel y Cenhedloedd Unedig, Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth y Cenhedloedd Unedig, y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) ac RFMOau. Mae’r Deyrnas Unedig hefyd wedi llofnodi Memoranda Cyd-ddealltwriaeth dwyochrog gyda Gwlad yr Iâ a’r Ynys Las i gryfhau cydweithio ar faterion pysgodfeydd. Yn ogystal â hyn, llofnodwyd Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Defra ac Adran Pysgodfeydd a Chefnforoedd Canada. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i gymryd rhan yn y rhain, a fforymau rhyngwladol eraill i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o reoli pysgodfeydd.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i ymwneud yn weithredol, dylanwadu a rhannu ei harbenigedd rheoli pysgodfeydd trwy ei haelodaeth â fforymau rhyngwladol fel Gwladwriaeth arfordirol annibynnol. Er enghraifft, sicrhau testun o fewn y canlynol:
- Penderfyniad Pysgodfeydd Cynaliadwy Cynulliad Cyffredinol y Cenhedloedd Unedig sy’n hyrwyddo pwysigrwydd tryloywder, llenwi bylchau data a’r dulliau ecosystem a rhagofalus o reoli pysgodfeydd
- Is-bwyllgor Rheoli Pysgodfeydd y Sefydliad Bwyd ac Amaethyddiaeth sy’n mynd i’r afael â bylchau tystiolaeth a data mewn perthynas â physgodfeydd y môr mawr
- Datganiad Cynhadledd Cefnforoedd y Cenhedloedd Unedig 2025 sy’n hyrwyddo rheolaeth wedi’i seilio ar wyddoniaeth
5.4 Capasiti pysgota
O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i sicrhau bod capasiti pysgota fflydiau’r Deyrnas Unedig yn cael ei gydbwyso rhwng cynnal eu hyfywedd economaidd, iechyd stociau pysgod a cheisio darparu buddion cymdeithasol i gymunedau arfordirol. Mae hyn yn cynnwys rhagdybiaeth yn erbyn dyrannu cyllid cyhoeddus i gychod pysgota newydd pan fydd hyn yn cynyddu’r capasiti pysgota y tu hwnt i lefelau cynaliadwy.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae capasiti fflyd y Deyrnas Unedig i bysgota, o ran stociau cwota, yn cael ei bennu i raddau helaeth gan y TACau a gytunir gan y Deyrnas Unedig mewn trafodaethau rhyngwladol. Mae manylion ar osod TAC a phrosesau trafod ar gael yn yr adran ar gyfleoedd pysgota.
FMPau yw un o’r dulliau gweithredol allweddol sydd ar gael i awdurdodau polisi pysgodfeydd o reoli’r cydbwysedd rhwng hyfywedd economaidd a therfynau stociau cynaliadwy. Maen nhw’n cefnogi diwydiannau pysgota proffidiol ar yr un pryd â chynnwys mesurau i addasu ymdrechion neu gapasiti pysgota os bydd stociau’n cael eu gorbysgota.
Mae mesurau monitro, rheoli a goruchwylio pysgodfeydd hefyd yn helpu i orfodi unrhyw derfynau dal cynaliadwy ar y fflyd ddomestig. Mae rhagor o fanylion am y gwaith hwn ar gael yn yr adran ar fonitro a gorfodi pysgodfeydd.
Mae camau eraill a weithredwyd gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd o dan y thema polisi hon yn cynnwys:
- Defra yn codi’r cap trwydded 350kg ar gyfer cychod llai na 10 metr yn Lloegr, gan alluogi cychod bach i bysgota am gyfran uwch o’r cwota
- DAERA yn lleihau nifer y trwyddedau ar gyfer pysgota masnachol ar Lough Erne a rheoli gweithgarwch yn weithredol ym mhysgodfa Lough Neagh trwy reoliadau cadwraeth
Yn fwy cyffredinol, er y defnyddir cyllid i gefnogi’r sector, yn unol ag ymrwymiadau rhyngwladol, mae’r Deyrnas Unedig yn sicrhau nad yw ei chefnogaeth i’r diwydiant yn cyfrannu at gynyddu capasiti cychod. Mae’r meini prawf y cytunwyd arnynt mewn cytundebau masnach rydd perthnasol a Chytundeb Sefydliad Masnach y Byd (WTO) ar Gymorthdaliadau Pysgodfeydd hefyd yn anghymell unrhyw weithredoedd a allai ddisbyddu stociau sy’n cael eu gorbysgota neu gynyddu capasiti pysgota cychod ymhellach.
5.5 Yr hawl i bysgota yn nyfroedd y Deyrnas Unedig
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn gyfrifol am reoleiddio mynediad pob cwch pysgota sy’n gweithredu yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Mae’r amcan mynediad cyfartal a amlinellir yn y Ddeddf yn nodi na ddylai fod cyfyngiadau ar hawl cwch pysgota o’r Deyrnas Unedig i fynd i unrhyw ardal o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain oherwydd lleoliad porthladd cartref y cwch pysgota neu gysylltiadau’r cwch pysgota neu unrhyw un o’i berchnogion ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn rhoi ystyriaeth lawn i amcan mynediad cyfartal y Ddeddf wrth ddatblygu a chyflawni eu polisïau a’u swyddogaethau gweinyddol a rheoli sy’n ymwneud â hawl cychod pysgota’r Deyrnas Unedig i bysgota yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Maen nhw’n parhau i barchu trefniadau mynediad voisinage cilyddol presennol sy’n berthnasol i’r terfyn 0-6 milltir fôr. Yn ogystal, mae rheidrwydd cyfreithiol ar bob cwch sy’n gweithredu yn nyfroedd y Deyrnas Unedig i gydymffurfio â’r rheolau a’r rheoliadau mynediad perthnasol sydd wedi’u cynnwys yn eu hamodau trwydded.
Trwy gyflawni FMPau, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cadw at egwyddorion mynediad cyfartal wrth reoli stociau penodol. Mae polisïau, nodau, camau gweithredu a mesurau o fewn cynlluniau unigol sy’n ymwneud â phwy sy’n gallu pysgota, ble ac o dan ba amodau yn gyson ac yn anwahaniaethol ar draws fflydiau sy’n pysgota yn nyfroedd y Deyrnas Unedig.
5.6 Monitro pysgodfeydd a gorfodi
Mae monitro pysgodfeydd a gorfodi yn rhoi sicrwydd ynglŷn â chydymffurfio yn ogystal â chynyddu hyder yn y data am gynhyrchion pysgodfeydd a godir o ddyfroedd y Deyrnas Unedig. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pysgota masnachol gan yr holl gychod yn nyfroedd y Deyrnas Unedig a chychod y Deyrnas Unedig, ble bynnag y maent yn gweithredu, yn destun camau gorfodi effeithiol gan ddefnyddio dulliau sy’n briodol, yn gymesur, wedi’u harwain gan wybodaeth neu eu seilio ar risg. Mae hyn yn cynnwys systemau i wella cywirdeb data dalfeydd pysgodfeydd, er mwyn annog pobl i beidio â gwaredu’n anghyfreithlon, a’n helpu i ddeall pam mae rhywogaethau sensitif yn cael eu dal fel sgil-ddalfa a pha mor aml y mae hynny’n digwydd. Mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol wedi ymrwymo i gydweithio, lle bo’n briodol, i sicrhau bod gorfodi’n bodloni gofynion deddfwriaethol a, lle bo’n ymarferol, yn hyrwyddo ac yn symleiddio gweithdrefnau presennol.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae cydweithio rhwng yr awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol yn hyrwyddo ymagwedd at reoli a gorfodi pysgodfeydd sy’n dod yn fwyfwy cyson ledled y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, mae cytundeb gweithredol gan Ganolfan Monitro Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig a gwblhawyd yn derfynol yn 2022 yn caniatáu i un endid fonitro gweithgarwch pysgota. Mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol hefyd yn cysylltu’n agos trwy gyfarfodydd chwarterol Grŵp Penaethiaid Gorfodi’r Deyrnas Unedig, sydd â’r amcanion allweddol o hyrwyddo cysondeb rhwng awdurdodau, adolygu ymchwiliadau a rhannu gwybodaeth.
Mae gorfodi ein rheoliadau pysgodfeydd ar y môr ac ar y lan yn cael ei flaenoriaethu ledled y Deyrnas Unedig. Mae nifer o batrolau ac ymgyrchoedd amlasiantaethol wedi cael eu cynnal ar hyd y cyfnod adrodd, gyda nifer o erlyniadau llwyddiannus.
Mae strategaeth orfodi’r Deyrnas Unedig wedi’i harwain gan wybodaeth a’i seilio ar risg, gan sicrhau y cydymffurfir â rhwymedigaethau domestig a rhyngwladol. Yn ystod y cyfnod adrodd hwn, parhaodd waith ar adolygu Rheoliad Rheoli’r Deyrnas Unedig, Rheoliad (Comisiwn Ewropeaidd) 1224/2009 (https://www.legislation.gov.uk/eur/2009/1224/contents), sy’n sefydlu systemau monitro, rheoli a goruchwylio a mesurau cydymffurfio i sicrhau bod yr holl gychod yn nyfroedd y Deyrnas Unedig yn cydymffurfio â rheoliadau pysgodfeydd. Yn rhyngwladol, mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol yn rhannu gwybodaeth, gan weithredu cytundebau pysgodfeydd a rheoli a wnaed gan bartïon rhyngwladol a gwledydd y mae gan y Deyrnas Unedig gytundebau pysgodfeydd â nhw.
Mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol hefyd wedi parhau i gryfhau systemau monitro, rheoli a goruchwylio yn ddomestig, gan gynnwys archwilio defnyddio technolegau REM a monitro cychod. Er enghraifft, ar lefel y Deyrnas Unedig, mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol yn ymgysylltu â’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd i sicrhau bod unrhyw systemau a phrosesau REM yn y dyfodol yn gallu rhyngweithredu, lle bo’n bosibl. Bydd hyn yn galluogi cychod i bysgota ar draws nifer o awdurdodaethau heb fod angen mwy nag un system REM i fodloni gofynion/safonau niferus.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd wedi bod yn datblygu ffyrdd o ddiwygio sut mae gwarediadau’n cael eu rheoli. Mae hyn yn cynnwys gweithio gyda’r diwydiant i fynd i’r afael â’r rhwystrau rhag defnyddio offer mwy detholus ac ystyried sut i gyfrif am warediadau, yn ogystal â glaniadau pysgod yn erbyn cwota. Yn ogystal, daeth Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Lloegr) 2025 (https://www.legislation.gov.uk/uksi/2025/92/contents/made) i rym ym mis Chwefror 2025 a wnaeth newidiadau i rai eithriadau rhwymedigaeth lanio (gwaredu) yn nyfroedd Lloegr.
Mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol wedi rhoi mesurau rheoli pysgodfeydd ar waith yn eu gwledydd eu hunain, hefyd. Yn benodol:
- sefydlu Canolfan Monitro Pysgodfeydd Cymru (Llywodraeth Cymru)
- cyflwyno system Cofnodi Dalfa ar gyfer cychod llai na 10m (Llywodraeth Cymru, Defra)
- cyflwyno REM gorfodol ar gyfer cychod pelagig a chregyn bylchog sy’n pysgota yn nyfroedd yr Alban, ac ar gyfer cychod pelagig a chregyn bylchog o’r Alban ble bynnag yn y byd y maent yn pysgota (Llywodraeth yr Alban)
- cyflwyno gofyniad am VMS y glannau (iVMS) ar gyfer cychod llai na 12m trwy ddeddfwriaeth ac amodau trwydded (Llywodraeth Cymru, Defra, cynlluniau tebyg ar gyfer Llywodraeth yr Alban)
- cyflwyno system drwyddedu electronig (Llywodraeth Cymru)
- ymgymryd â rheoli pysgodfa gocos Cilfach Tywyn o fis Mehefin 2025, pan newidiodd y bysgodfa o Orchymyn Rheoleiddio i bysgodfa gyhoeddus (Llywodraeth Cymru)
- defnyddio System Awyren Llywio o Bell taith fer, neu ddronau (Llywodraeth yr Alban)
- sefydlu rhaglen orfodi ar gyfer Pysgodfeydd Mewndirol (DAERA)
- cyflwyno cerdyn sgorio cytbwys ar gyfer staff yr Arolygiaeth Pysgodfeydd Môr (DAERA)
5.7 Pysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio
Mae pysgota anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio (IUU) yn fygythiad mawr i gynaliadwyedd a chynhyrchedd yr amgylchedd morol a bywoliaeth pobl sy’n byw ac yn gweithio mewn cymunedau arfordirol. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i gydweithio i roi rheolaethau effeithiol ar waith i atal IUU, annog pobl i beidio â gwneud hynny a’i ddileu yn gyfan gwbl. Mae hyn yn cynnwys rheolaethau cadarn ar y ffin i atal pysgod IUU rhag mynd i mewn i gadwyni cyflenwi’r Deyrnas Unedig; rhoi cytundebau rhyngwladol allweddol ar waith, fel y Cytundeb ar Fesurau Porthladd-Wladwriaethau (PSMA); mwy o dryloywder trwy well trefniadau casglu a rhannu data i gefnogi monitro, rheoli, goruchwylio a gorfodi pysgodfeydd; a chryfhau cydweithio a pholisi rhyngwladol. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd yn gweithio gyda’r sector bwyd môr i sicrhau bod allforwyr o’r Deyrnas Unedig yn gallu bodloni gofynion IUU gwledydd eraill.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r Deyrnas Unedig wedi cyflawni swyddogaeth allweddol o fewn fforymau rhyngwladol i gryfhau ymdrechion i fynd i’r afael â physgota IUU, gan gynnwys:
- cymeradwyo Argymhelliad yr OECD ar Ddileu Cefnogaeth y Llywodraeth i Bysgota IUU
- darparu cyllid i’r OECD ar gyfer gweithdy arbenigol ar dryloywder perchnogaeth fuddiol ar gychod pysgota
- llofnodi cytundeb yr WTO ar Gymorthdaliadau Pysgodfeydd, sy’n gwahardd cymorthdaliadau sy’n cyfrannu at bysgota IUU
- sicrhau cytundeb i rannu data am archwiliadau porthladd a gwrthod cychod tramor a gasglwyd o fewn system reoli porthladd-wladwriaeth NEAFC â System Cyfnewid Gwybodaeth Fyd-eang (GIES) FAO er mwyn cefnogi rhannu gwybodaeth a thryloywder yn unol â’r PSMA, ac annog defnyddio GIES o fewn fforymau rhyngwladol eraill
- arwain gwaith i sicrhau cytundeb o fewn ICCAT i gysylltu mesurau porthladd-wladwriaethau â’r rhai a amlinellir o dan y PSMA
- cydsefydlu a chydgadeirio’r Gynghrair Gweithredu ar Bysgota IUU, sef cynghrair fyd-eang sydd wedi ymrwymo i weithredu Addewid y Gynghrair Gweithredu ar IUU ar fynd i’r afael â physgota IUU, rhwng 2022 a 2024
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd yn rhoi mesurau ar waith i reoli bwyd môr sy’n cael ei fewnforio i’r Deyrnas Unedig o wledydd eraill. Mae hyn yn cynnwys gwahardd mewnforion a glaniadau pysgod a chynhyrchion pysgodfeydd o unrhyw gwch y nodwyd ei fod yn ymwneud â gweithgarwch IUU ac sydd wedi’i gynnwys ar restr cychod IUU y Deyrnas Unedig. Mae trefniadau tebyg yn berthnasol hefyd sy’n gwahardd mewnforion o rai gwledydd y nodwyd nad ydynt yn cydweithredu wrth fynd i’r afael â physgota IUU. Ar hyn o bryd, mae’r Deyrnas Unedig yn gwahardd mewnforion o Gambodia, Comoros a St Vincent a’r Grenadines.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi cynorthwyo allforwyr o’r Deyrnas Unedig i fodloni gofynion IUU gwledydd eraill trwy ddatblygu, gweithredu a chynnal y Gwasanaeth Allforio Pysgod (FES). Mae hyn yn galluogi allforwyr o’r Deyrnas Unedig i gynhyrchu’r dogfennau IUU wedi’u dilysu sy’n ofynnol ar gyfer allforio i wledydd o fewn a’r tu allan i’r Undeb Ewropeaidd sy’n gweithredu cynllun cofnodi dalfeydd. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymgysylltu’n helaeth â’r diwydiant yn y Deyrnas Unedig ar draws y gadwyn gyflenwi gyfan i’w helpu i baratoi ar gyfer cydymffurfio â gofynion IUU diweddaraf yr Undeb Ewropeaidd a gyflwynwyd ym mis Ionawr 2026. Mae hyn yn cynnwys cynnal cyfres o weminarau ar gyfer y diwydiant, ymgysylltu penodol ag allforwyr allweddol a lansio ymgyrch gyfathrebu o’r enw ‘Pysgota, Olrhain, Allforio’.
5.8 Lleihau sgil-ddalfeydd ac osgoi dal rhywogaethau sensitif
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i egwyddor lleihau sgil-ddalfeydd, gan gynnwys stociau pysgod sy’n llai na’r Maint Cyfeirio Cadwraethol Lleiaf (MCRS), a thaflu llai o bysgod yn ôl i’r môr. O dan y JFS, maen nhw’n gweithio tuag at sicrhau bod yr holl ddalfeydd yn cael eu cofnodi, gan ddatblygu ystod o fesurau rheoli ar y cyd â rhanddeiliaid i osgoi dal rhywogaethau cwota yn ddieisiau a lleihau faint o bysgod sy’n cael eu lladd yn ddiangen a’u taflu’n ôl i’r môr. Mae hyn yn cynnwys lleihau, ac atal lle bo’n bosibl, sgil-ddal a rhwydo rhywogaethau sensitif (gan gynnwys teulu’r morfil, morloi, adar môr ac elasmobranciaid) yn ddieisiau.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r Fenter Lliniaru Sgil-ddalfeydd (BMI) Bywyd Gwyllt Morol, a gyhoeddwyd yn 2022, yn amlinellu sut bydd y Deyrnas Unedig yn cyflawni ei huchelgeisiau i leihau ac atal, lle bynnag y bo’n bosibl, sgil-ddal rhywogaethau morol sensitif. Mae’n amlinellu amcanion polisi i amlygu ardaloedd ‘problemus’ neu risg uchel, mathau o offer a physgodfeydd i ganolbwyntio gwaith monitro arnynt, a datblygu a gweithredu mesurau effeithiol i leihau sgil-ddal a rhwydo gymaint â phosibl. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i ychwanegu at waith presennol i gyflawni amcanion y BMI. Er enghraifft, mae camau penodol wedi cynnwys treialon ymchwil a datblygu a gefnogir gan Lywodraeth yr Alban ac ar y cyd â’r sector i fynd i’r afael â sgil-ddal adar môr yn ei fflyd leiniau hir, ac asesiadau ac ymchwil barhaus Llywodraeth Cymru ynglŷn â sgil-ddalfeydd, a chamau gweithredu, sydd wedi’u cynnwys yn strategaeth gwarchod adar môr Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar.
Mae gwaith arall gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i leihau sgil-ddalfeydd yn cynnwys ymestyn rhaglen flaenllaw Defra, sef Clean Catch, am 3 blynedd arall a chyhoeddi ail gynllun treialu dulliau o fonitro a lliniaru sgil-ddalfeydd. Mae Defra hefyd wedi darparu cyllid ar gyfer treialu dulliau lliniaru (fel ‘pingwyr’ ar gyfer teulu’r morfil a dyfeisiau dychryn adar môr) a phrosiect tystiolaeth ‘fframwaith blaenoriaethu risg sgil-ddalfa’. Mae hefyd yn helpu i ddatblygu cynllun gweithredu i liniaru sgil-ddal adar môr yn nyfroedd Lloegr.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi ariannu prosiect Cynghrair Rwydo’r Alban, sy’n mynd i’r afael â rhwydo morfilod walbon, trwy’r MFS. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd wedi cydweithio â’r diwydiant i ddatblygu Polisi Dal yn y Dyfodol er mwyn lleihau sgil-ddal rhywogaethau morol sensitif trwy waith partneriaeth effeithiol i archwilio a chyflawni datrysiadau pragmatig sydd wedi’u teilwra i ystyried rhannau amrywiol y fflyd.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru alwad am dystiolaeth ym mis Ionawr 2025 ynglŷn â rhwydi ar y lan i geisio gwybodaeth am sgil-ddalfeydd. Mae astudiaeth wyddonol o sgil-ddalfeydd a system cofnodi dalfeydd wirfoddol wedi cael eu comisiynu ers hynny i gasglu mwy o dystiolaeth.
Mae DAERA wedi cynnal archwiliadau ar hap o offer a rhwydi mewn porthladdoedd i sicrhau y cydymffurfir â rheoliadau ardal bysgota. Mae hefyd wedi ariannu nifer o brosiectau trwy Gronfa’r Amgylchedd Morol a Physgodfeydd, yn ogystal â Chronfa’r Amgylchedd (Adfer Natur) i asesu risg sgil-ddal elasmobranciaid mewn pysgodfeydd masnachol ac archwilio dyfeisiau atal electromagnetig er mwyn lleihau hyn.
Mae FMPau cyhoeddedig yn cynnwys nodau a mesurau sy’n cefnogi mentrau polisi presennol sydd â’r nod o leihau sgil-ddalfeydd a dal cyn lleied o rywogaethau sensitif â phosibl. Lle bo’n berthnasol, mae FMPau yn cynnig canllawiau trin ar gyfer pysgotwyr hamdden a masnachol, sy’n helpu i gydymffurfio â rheoli stociau. Mewn sefydliadau rhyngwladol fel ICCAT ac IOTC, mae’r Deyrnas Unedig wedi sicrhau mesurau cryfach ar gyfer rhywogaethau sensitif, fel heulgwn a siarcod mawr gwyn, wedi ceisio gwelliannau i fesurau adar môr, ac wedi eirioli o blaid gwelliannau i ddulliau o reoli rhywogaethau eraill sensitif.
5.9 Dadleoli
O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i weithio gyda’r diwydiant pysgota i amlygu a mynd i’r afael â materion dadleoli, o ystyried ei effeithiau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol negyddol posibl. Mae hyn yn cynnwys gwella’r ddealltwriaeth o ble mae gweithgarwch pysgota’n digwydd, hwyluso cydleoli gweithgareddau a cheisio addasiadau priodol pan na ellir osgoi effeithiau.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Ystyriwyd lleoliad gwahanol bysgodfeydd, a’r ardaloedd mwyaf arwyddocaol ynddynt, wrth ddatblygu’r FMPau sydd wedi’u cyhoeddi hyd yma. Lle bo’n briodol, mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys camau gweithredu i fonitro a lliniaru gweithgarwch dadleoli. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi gweithio gyda rhanddeiliaid â buddiant ar draws y sector pysgodfeydd i amlygu bylchau mewn tystiolaeth ac mae rhai FMPau cyhoeddedig yn cynnwys camau gweithredu i gasglu mwy o dystiolaeth er mwyn helpu i amlygu ardaloedd sy’n bwysig i’r diwydiant pysgota.
Mae Cynlluniau Morol y Deyrnas Unedig hefyd yn cynnwys polisïau sy’n mynd i’r afael â materion dadleoli, er enghraifft diogelu pysgodfeydd allweddol rhag dadleoli amhriodol, gan gydnabod yr angen brys i ddatblygu ynni adnewyddadwy morol, darparu nodweddion fframwaith trosfwaol ar gyfer asesu cynaliadwyedd a chanolbwyntio ar gydfodolaeth cynigion â gweithgareddau morol eraill.
Er mwyn amlygu materion dadleoli sy’n dod i’r amlwg, mae Defra yn ymgysylltu’n rheolaidd â defnyddwyr y môr, gan gynnwys fflyd bysgota’r Deyrnas Unedig, a hynny trwy Grwpiau Pysgodfeydd Rhanbarthol yn arbennig.
Yn 2022, arweiniodd ymgynghoriad ffurfiol ar HPMAau yn nyfroedd Lloegr at ddynodi 3 safle ym mis Gorffennaf 2023. Yna, ymgynghorodd yr MMO ar is-ddeddf gwahardd pysgota sy’n rhychwantu’r safleoedd (manylir ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn yn yr adran ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig isod). Modelodd Cefas effeithiau dadleoli cychod pysgota’r Deyrnas Unedig ac ystyriwyd dadleoli cychod pysgota i ardaloedd y tu allan i’r HPMAau yn y ddau ymgynghoriad.
5.10 Cynllunio gofodol morol
Mae Datganiad Polisi Morol y Deyrnas Unedig (UKMPS) yn galluogi rheoli gweithgareddau yn ardal forol y Deyrnas Unedig mewn ffordd sy’n gwarchod yr amgylchedd morol, cefnogi datblygu cynaliadwy a hyrwyddo cydfodolaeth. O dan y JFS, ymrwymodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i sicrhau bod cynlluniau morol yn cynnwys polisïau sy’n ystyried pysgodfeydd, dyframaethu a chynefinoedd cynhaliol ar gyfer stociau pysgod. Roeddent hefyd wedi ymrwymo i ystyried y berthynas â chynllunio gofodol morol wrth ddatblygu FMPau. Drwy gydol y broses cynllunio morol, ymrwymodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i ymgynghori â defnyddwyr y môr ynglŷn â sut y dylid rheoli’r ardal forol.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r cynlluniau morol ar gyfer holl ddyfroedd y Deyrnas Unedig yn cael eu gweithredu, neu ar y trywydd iawn i gael eu gweithredu, yn unol â Deddf y Môr a Mynediad i’r Arfordir 2009 (https://www.legislation.gov.uk/ukpga/2009/23/contents), Deddf y Môr (Yr Alban) 2010 (https://www.legislation.gov.uk/asp/2010/5/contents), Deddf y Môr (Gogledd Iwerddon) 2013 (https://www.legislation.gov.uk/nia/2013/10/contents) ac UKMPS. Gwneir penderfyniadau rheoli pysgodfeydd yn unol â’r cynlluniau hyn.
Ar wahân i’r cynlluniau morol, mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, am y tro cyntaf, wedi rhoi cyfarwyddyd strategol i Ystad y Goron ar y risgiau a’r materion allweddol sy’n gysylltiedig ag ardaloedd ar gyfer datblygiad ynni gwynt alltraeth posibl yn y dyfodol yn nyfroedd Lloegr. Ystyriwyd yr effeithiau ar bysgodfeydd drwy gydol y broses hon, ac amlygwyd ardaloedd pwysig gan ddefnyddio’r data wedi’i mapio gorau sydd ar gael.
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru yn gweithio’n agos gyda’r Gweithredwr Systemau Ynni Cenedlaethol i ddatblygu’r Cynllun Ynni Gofodol Strategol, sy’n canolbwyntio ar seilwaith ynni ar draws y sectorau trydan a hydrogen daearol a morol ar lefel Prydain Fawr.
Ym mis Mehefin 2025, cyhoeddodd Gweinidogion Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig (https://www.gov.wales/written-statement-response-findings-independent-review-marine-planning-approaches-wales) ar ganfyddiadau adolygiad annibynnol o ddulliau cynllunio morol, a ddaeth i’r casgliad fod Cynllun Morol Cenedlaethol Cymru yn cyflawni cynllunio morol yn effeithiol yng Nghymru. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn parhau i ddatblygu ei Chynllun Morol Cenedlaethol 2 (NMP2) i helpu i ddatblygu ei moroedd yn gynaliadwy. Mae’r broses datblygu polisi ac asesiadau statudol ar gyfer NMP2 yn parhau, gan gynnwys ystyried yr adborth amrywiol a gafwyd yn ystod yr ymgynghoriad ar Ddatganiad o Sefyllfa Gynllunio NMP2, a ddaeth i ben yn y gwanwyn 2025.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd wedi amlinellu polisïau mewn FMPau cyhoeddedig i amlygu gorgyffyrddiad posibl â gweithgareddau morol presennol (e.e. MPAau, ffermydd gwynt) er mwyn ystyried mesurau lliniaru yn y dyfodol yn ystod cam gweithredu’r cynlluniau. Cynhaliwyd asesiadau wrth baratoi’r FMPau i sicrhau eu bod yn cyd-fynd â chynlluniau morol cenedlaethol perthnasol.
5.11 Ardaloedd Morol Gwarchodedig
Yn rhan o waith i gyflawni Statws Amgylcheddol Da a chefnogi ein hymrwymiad a rennir i warchod 30% o’n moroedd yn effeithiol erbyn 2030, mae’r Deyrnas Unedig yn parhau i ddatblygu rhwydwaith o safleoedd gwarchodedig ar y môr i ddiogelu cynefinoedd a rhywogaethau penodol o bwysigrwydd cenedlaethol neu ryngwladol o dan ddeddfwriaeth ryngwladol a chenedlaethol. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i sicrhau bod gweithgareddau pysgota’n cael eu rheoli fel bod safleoedd o fewn rhwydwaith MPA y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn gallu cyflawni eu hamcanion cadwraeth a chynnal cydlyniant ecolegol y rhwydwaith MPA. Cyflawnir hyn trwy fonitro safleoedd, rhoi mesurau rheoli ar waith a gorfodi cydymffurfio â mesurau rheoli.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn gweithio i alluogi safleoedd o fewn rhwydwaith MPA y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd ac yn y dyfodol i gyflawni eu hamcanion a chyfrannu tuag at Statws Amgylcheddol Da. Mae gan MPAau amcanion cadwraeth unigol yn dibynnu ar y cynefinoedd neu’r rhywogaethau y maent wedi’u dynodi i’w gwarchod, gan gynnwys rhag niwed a achosir gan weithgareddau dynol.
Ar gyfer HPMAau, yr amcan cadwraeth yw adfer eu hecosystem forol gyfan yn llwyr i gyflwr naturiol ac atal diraddio a niwed pellach. Yn Lloegr, mae’r targed MPA a sefydlwyd o dan Ddeddf yr Amgylchedd 2021 yn ysgogwr allweddol ar gyfer gweithredu mesurau rheoli pan fo angen, ac mae llinellau amser ar gyfer cyflawni wedi’u hamlinellu yng Nghynllun Gwella Amgylcheddol 2025.
Mae rhwydwaith cynhwysfawr o 181 o MPAau wedi’i sefydlu, gan gynnwys 3 HPMA, sy’n rhychwantu 40% o ddyfroedd Lloegr. Dynodwyd y 3 HPMA ym mis Gorffennaf 2023, yn dilyn ymgynghoriad ffurfiol yn 2022. Ar hyn o bryd, mae 60% o MPAau Lloegr wedi’u hamddiffyn gan is-ddeddfau sy’n cyfyngu ar ddefnyddio offer pysgota sy’n achosi difrod. Rhoddodd yr MMO is-ddeddfau ar waith yn 2022 a 2024 a arweiniodd at gyfyngu ar ddefnyddio offer pysgota sy’n achosi difrod dros rywogaethau sensitif mewn 17 o MPAau Lloegr.
Ymgynghorodd yr MMO ar is-ddeddfau arfaethedig ychwanegol ar gyfer 42 o MPAau Lloegr rhwng mis Mehefin a mis Medi 2025. Mae’r MMO bellach yn adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn drwyadl i sicrhau bod yr holl safbwyntiau a thystiolaeth ychwanegol yn cael eu hystyried yn ofalus i lywio unrhyw benderfyniadau. Ymgynghorodd yr MMO hefyd ar is-ddeddf arfaethedig i wahardd yr holl bysgota masnachol a hamdden yn HPMAau Lloegr, ac is-ddeddf i wahardd angori o fewn HPMA y glannau, sef Bae Allonby. Mae Awdurdodau Pysgodfeydd a Chadwraeth y Glannau (IFCAau) yn parhau i ddatblygu mesurau rheoli MPA pan fydd angen yn eu hardaloedd.
Yn yr Alban, adroddodd Llywodraeth yr Alban i Senedd yr Alban ar statws ei rhwydwaith MPA ar ddiwedd 2024. Ym mis Hydref 2025, daeth Gorchymyn Pysgota Alltraeth (Gwahardd Dulliau Pysgota) (Yr Alban) 2025 (https://www.legislation.gov.uk/ssi/2025/240/contents/made) i rym yn Senedd yr Alban, gan weithredu mesurau rheoli pysgodfeydd ar gyfer MPAau o fewn dyfroedd alltraeth yr Alban. Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu lansio ymgynghoriad 16 wythnos ar MPAau y glannau a’r 11 Nodwedd Forol â Blaenoriaeth sy’n fwyaf agored i fygythiad offer sy’n dod i gysylltiad â’r gwaelod ar ôl Etholiad Seneddol yr Alban ym mis Mai 2026.
Yng Ngogledd Iwerddon, cyflwynodd DAERA Reoliadau Ardaloedd Morol Gwarchodedig (Dulliau Pysgota Gwaharddedig) (Gogledd Iwerddon) 2022 (https://www.legislation.gov.uk/nisr/2022/292/contents), a ddaeth i rym ar 1 Ionawr 2023. Mae’r rheoliadau hyn yn gwahardd defnyddio dulliau pysgota penodol yr ystyrir eu bod yn niweidiol i gynefinoedd a rhywogaethau morol sensitif o fewn MPAau dynodedig.
Mae 139 MPA yn nyfroedd Cymru, sy’n rhychwantu 69% o’r glannau neu tua 50% o holl ddyfroedd Cymru. Yn yr haf 2025, cyhoeddodd Cyfoeth Naturiol Cymru yr asesiadau cynhwysfawr cyntaf o gyflwr yr holl Ardaloedd Cadwraeth Arbennig (ACAau) ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig (AGAau) sydd yng Nghymru ‘yn gyfan gwbl’, i ddisodli asesiadau blaenorol a gyhoeddwyd yn 2018. Dangosodd yr asesiadau nad oedd pysgota’n cael effaith andwyol ar unrhyw safleoedd.
5.12 Sbwriel môr ac offer pysgota sydd wedi dod i ddiwedd ei oes
Trwy’r JFS, ymrwymodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i gynorthwyo’r diwydiant wrth iddo symud tuag at leihau ei effaith amgylcheddol a chynyddu cynaliadwyedd i amddiffyn a gwarchod ein hamgylchedd morol trwy leihau sbwriel môr. Yn ogystal, cytunwyd i gefnogi twf yr economi gylchol trwy geisio cynyddu faint o offer pysgota a dyframaethu sydd wedi dod i ddiwedd ei oes sy’n cael ei gasglu a’i reoli’n gynaliadwy yn unol â’r hierarchaeth wastraff ac annog offer pysgota a dyframaethu newydd i gael ei ddylunio’n gylchol.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Er mwyn helpu’r diwydiant i leihau ei effeithiau amgylcheddol, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi cynnwys pwyslais ar offer pysgota sydd wedi’i adael, ei golli a’i waredu fel arall mewn rhai FMPau a darparu cyllid penodol ar gyfer prosiectau sy’n ceisio lleihau a chasglu sbwriel môr.
Mae Defra wedi darparu dros £250,000 o grantiau trwy’r FaSS ers mis Tachwedd 2022 ar gyfer 6 phrosiect sy’n canolbwyntio ar atal a chasglu sbwriel môr. Un o’r rhain oedd prosiect Pysgota am Sbwriel KIMO ledled Lloegr, sef menter wirfoddol sy’n annog y diwydiant pysgota i leihau sbwriel môr ar yr un pryd â chynyddu ymwybyddiaeth o’i effeithiau amgylcheddol ac economaidd. Roedd y fenter yn cynnwys tua 57 o gychod pysgota, a dynodwyd 35 o harbyrau yn Lloegr fel mannau gollwng sbwriel i’w gasglu. Arweiniodd hyn at gasglu tua 350 o dunelli o sbwriel. Trwy’r fenter hon, ymgysylltwyd â chymunedau lleol hefyd i hyrwyddo ymwybyddiaeth amgylcheddol ac arferion pysgota cynaliadwy.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i weithio gydag Odyssey Innovation i gynnal cynllun casglu offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes, a sefydlwyd yn 2022. Ym mis Ebrill 2025, roedd tua 15 o dunelli wedi’u casglu o harbyrau ledled Cymru.
Mae Llywodraeth yr Alban, trwy’r MFS, wedi darparu dros £2.5m o gyllid ers 2021 ar gyfer prosiectau sy’n gysylltiedig â sbwriel, gan gynnwys uwchraddio offer, ehangu galluoedd ailgylchu offer a chyfarpar cael gwared ar offer i’w ddefnyddio mewn harbyrau. Mae hyn yn cynnwys cyllid parhaus ar gyfer menter Pysgota am Sbwriel KIMO ledled yr Alban, y mae dros 480 o gychod yn cymryd rhan ynddi o 38 o borthladdoedd.
Yn ogystal, mae DAERA wedi cyflwyno amodau trwydded ar gyfer ei safleoedd dyframaethu gyda’r nod o leihau lefelau sbwriel ac mae’n cynnal ymgyrchoedd penodol ar gyfer genweirwyr hamdden i gynyddu ymwybyddiaeth o’u hoffer pysgota sy’n cael ei waredu a’i effaith bosibl ar fywyd gwyllt. Mae hefyd yn cefnogi Swyddog Cynaliadwyedd Amgylcheddol o fewn yr Awdurdod Harbyrau, y mae ei gyfrifoldebau’n cynnwys rheoli offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes. Mae gan Ystad y Goron yr Alban hefyd amodau les ar gyfer ei safleoedd dyframaethu lle y ceir gofyniad i gofnodi’r defnydd o blastig ar safleoedd a’u dull o reoli gwastraff, yn ogystal ag ymrwymo cyllid i ddatgomisiynu os bydd gweithrediadau’n dod i ben.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn annog offer pysgota a dyframaethu newydd i gael ei ddylunio’n gylchol. Er enghraifft, maen nhw’n cefnogi ymrwymiadau a wnaed yng Nghynllun Gweithredu Rhanbarthol OSPAR ar Sbwriel Môr yn 2022 ac wedi hyrwyddo safonau diwydiant newydd ar gyfer dylunio cylchol (BS EN 17988), a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024. Mae’r safon newydd hon sydd i’w defnyddio gan weithgynhyrchwyr, dylunwyr, defnyddwyr a rheolwyr gwastraff yn ceisio lleihau’r effaith amgylcheddol trwy ehangu’r defnydd a wneir o offer, gan leihau risg colli a gwella’r gallu i atgyweirio a chyfleoedd ar gyfer ailgylchu.
5.13 Dyfroedd arfordirol a dyfroedd croyw
Mae cynefinoedd arfordirol a chroyw yn hanfodol i amgylchedd morol iach a physgodfeydd ffyniannus. Maen nhw’n bwysig i gamau bywyd ystod eang o rywogaethau pysgod sy’n werthfawr i sector bwyd môr masnachol a hamdden y Deyrnas Unedig. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i weithredu mesurau sy’n angenrheidiol i reoli amgylcheddau arfordirol a dŵr croyw afonol y Deyrnas Unedig a’u heffeithiau canlyniadol ar iechyd yr amgylchedd morol, yn enwedig trwy’r UKMS a Chynlluniau Rheoli Basnau Afonydd (RBMPau).
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Ar lefel y Deyrnas Unedig, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cymryd camau i warchod stociau pysgod dŵr croyw, gan gynnwys adrodd am ddata dalfeydd eogiaid a llysywod yn rhyngwladol trwy ICES. O dan Fframwaith Windsor, mae rhai o reolau pysgodfeydd ac amgylcheddol yr Undeb Ewropeaidd yn berthnasol o hyd yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys meysydd fel cadwraeth llysywod, lle mae gofynion yr Undeb Ewropeaidd yn parhau i weithredu ym mharth Gogledd Iwerddon. Mae hyn yn sicrhau bod rheoliadau’n cyd-fynd â’r Undeb Ewropeaidd ar gyfer y mesurau penodol hynny tra bod polisi pysgodfeydd y Deyrnas Unedig yn parhau i ddatblygu. Mae fframwaith yr Undeb Ewropeaidd sy’n mynnu Cynlluniau Rheoli Llysywod (EMPau) yn berthnasol o hyd yng Ngogledd Iwerddon o dan Fframwaith Windsor ac yng Nghymru, Lloegr a’r Alban trwy ddeddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a gymathwyd, a chyhoeddodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd adroddiad cynnydd EMP y Deyrnas Unedig (https://assets.publishing.service.gov.uk/media/6758190df1e6b277c4f79ab6/UK_EMP_2024.pdf) ym mis Rhagfyr 2024.
Mae data y mae’n ofynnol ei gasglu i fodloni ymrwymiadau rhyngwladol ar gyfer asesu a rheoli stociau eogiaid Gogledd yr Iwerydd yn cael ei adrodd yn flynyddol trwy’r DCF. Mae’r data’n cael ei rannu i gynorthwyo Gweithgor ICES ar Eogiaid Gogledd yr Iwerydd i gynnal asesiadau stoc rhyngwladol a chynghori Sefydliad Cadwraeth Eogiaid Gogledd yr Iwerydd (NASCO).
Ym mis Mehefin 2025, cyflwynodd pob awdurdod polisi pysgodfeydd asesiad ar y pwysau ar eogiaid yr Iwerydd yng nghyfarfod blynyddol NASCO (a gynhaliwyd gan y Deyrnas Unedig yng Nghaerdydd), ac mae pob un bellach yn datblygu cynllun gweithredu 6 blynedd i fynd i’r afael â’r pwysau hyn ac arafu dirywiad eogiaid.
Mae Llywodraeth yr Alban wedi gweithredu i warchod eogiaid yn ei dyfroedd, ac yn parhau i wneud hynny. Mae’r Strategaeth Eogiaid Gwyllt yn darparu fframwaith trosfwaol i fynd i’r afael â’r ystod eang o ffactorau sy’n rhoi pwysau ar eogiaid gwyllt, a chyhoeddwyd Cynllun Gweithredu cysylltiedig ym mis Chwefror 2023 sy’n amlinellu camau gweithredu y mae Llywodraeth yr Alban a phartneriaid yn eu cymryd i warchod ac adfer poblogaethau eogiaid gwyllt. Mae’n gweithio ar weithgareddau monitro i gasglu data am ddalfeydd, cyfrifiadau, a chymhareb maint, oedran a rhyw eogiaid, gan felly asesu eu statws cadwraeth. Mae hyn yn pennu’r stociau hynny lle y gall pysgodfeydd gadw eogiaid, yn graddio afonydd sy’n pennu lle mae eogiaid yn ddarostyngedig i ddal a rhyddhau gorfodol oherwydd eu bod o statws cadwraeth gwael, ac yn llywio diweddariad blynyddol Rheoliadau Cadwraeth Eogiaid (Yr Alban) 2016 (https://www.legislation.gov.uk/ssi/2016/115/contents). Mae Llywodraeth yr Alban yn cynhyrchu ystadegau blynyddol ar eogiaid a brithyllod y môr yr Alban. Mae’r ystadegau hyn yn cael eu rhannu’n flynyddol i gynorthwyo Gweithgor ICES ar Eogiaid Gogledd yr Iwerydd sydd, yn ei dro, yn cynnal asesiad stoc rhyngwladol ac yn rhoi cyngor i NASCO.
Mae cadw eogiaid mewn dyfroedd arfordirol wedi’i wahardd o hyd yn yr Alban hyd nes y bydd statws cadwraeth eogiaid yn gwella digon. Mae’r angen am y gwaharddiad hwn yn cael ei adolygu’n flynyddol ac mae’n gam gweithredu yng Nghynllun Gweithredu 5 mlynedd Strategaeth Eogiaid Gwyllt yr Alban, a gyhoeddwyd yn 2022.
I warchod dyfroedd arfordirol, mae Defra ac Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amlygu 63 o ddyfroedd pysgod cregyn lle ceir cyfle go iawn i gydymffurfio â safonau microbaidd erbyn 2030, neu lle mae angen gweithredu pellach i’w hatal rhag dirywio. Mae Asiantaeth yr Amgylchedd wedi amlinellu camau gweithredu yn Rhaglen Amgylchedd Cenedlaethol y Diwydiant Dŵr sy’n mynnu bod cwmnïau dŵr yn archwilio camau i atal dirywio, gwella ansawdd dŵr neu gynnal ymchwiliadau pellach yn y 63 o ddyfroedd hynny.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi £2.1 filiwn i chwe Bwrdd Rheoli Maethynnau sy’n rhychwantu ACAau afonydd. Mae’r byrddau hyn yn cyflawni cynlluniau gweithredu lleol i wella ansawdd dŵr. Yn ogystal, darparwyd £9 miliwn i’r prosiect “Pedair Afon am Oes” i adfer afonydd Tywi, Teifi, Cleddau, ac Wysg. Er enghraifft, mae ymyriadau ar Afon Wysg yn cynnwys plannu coed glannau afon a gosod ffensys i greu lleiniau clustogi, lleihau maethynnau a gwaddodion ffo o dir amaethyddol, a gweithio’n uniongyrchol gyda dros 350 o ffermydd i weithredu arferion rheoli tir cynaliadwy. Mae’r mesurau hyn nid yn unig yn gwella cemeg dŵr ond hefyd yn sefydlogi glannau afonydd a gwella cymhlethdod cynefinoedd. Ers 2022, mae dros 136 o hectarau o orlifdiroedd a gwlyptiroedd wedi cael eu hadfer – gan hybu biomrywiaeth a gwella 776km o gynefinoedd afonydd.
Mae Cynlluniau Morol y Deyrnas Unedig hefyd yn cynnwys polisïau sy’n cefnogi’r UKMS ehangach ac RBMPau. Mae tîm Pysgodfeydd Mewndirol DAERA wedi cynnwys mesurau cynefin a rhwystr pysgod yn eu RBMPau Cyfarwyddeb Fframwaith Dŵr, ac archwiliwyd dros 400 o rwystrau yn 2024. Mae Cynllun Gweithredu Lough Neagh hefyd yn mynd i’r afael ag ansawdd dŵr ac adfer ecolegol yn un o gyrff dŵr croyw mwyaf arwyddocaol Gogledd Iwerddon.
5.14 Newid hinsawdd
Er mwyn ymateb i newid hinsawdd, mae’n rhaid i’r sector bwyd môr fod yn barod i liniaru ac addasu i’w effeithiau. I gyflawni hyn, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i amlygu newidiadau ymarferol i leihau allyriadau ar draws y gadwyn gyflenwi pysgodfeydd a chefnogi’r newid i sero net. I gydnabod pwysigrwydd cynefinoedd carbon glas i gefnogi mesurau lliniaru, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd wedi ymrwymo i weithio gyda’r gymuned wyddonol i ymchwilio i effeithiau gweithgarwch pysgota ar y cynefinoedd hyn, gan eu hystyried wrth lunio polisïau a gwneud penderfyniadau yn y dyfodol. Mae newid hinsawdd eisoes yn effeithio ar y sector bwyd môr, ac mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â’r sector i’w helpu i addasu, mynd i’r afael â heriau a manteisio ar gyfleoedd.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i ddatblygu polisi yn unol â’u deddfwriaeth sero net unigol, sy’n golygu bod rheidrwydd cyfreithiol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. Yn rhan o gynnydd tuag at sero net, cyhoeddodd yr Adran Drafnidiaeth Strategaeth Datgarboneiddio Morol ym mis Mawrth 2025, sy’n amlinellu llwybr i sector morol domestig y Deyrnas Unedig ddileu allyriadau nwyon tŷ gwydr o gylch oes tanwydd erbyn 2050.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi darparu cyllid ar gyfer prosiectau sy’n gweithio tuag at yr uchelgeisiau hyn. Mae hyn yn cynnwys rhaglen mNCEA Defra, a gydariannodd gystadleuaeth arian cyfatebol £2.1 filiwn gydag Innovate UK yn 2023 a 2024 i gynorthwyo busnesau bach a chanolig i ddatblygu galluoedd monitro morol arloesol, gan gynnwys cychod carbon niwtral a chychod a yrrir gan y gwynt neu’r tonnau. Lansiodd Cynllun Môr a Physgodfeydd Cymru rownd ariannu ym mis Ionawr 2023 ar gyfer addasu i’r newid yn yr hinsawdd i gefnogi’r diwydiant i wireddu arbedion carbon. Darparodd Cronfa Amgylchedd Morol a Physgodfeydd 2025/26 DAERA gyfleoedd i gefnogi buddsoddiadau arloesol sy’n ceisio amlygu camau a allai wireddu arbedion carbon, hybu amddiffyn ac adfer cynefinoedd carbon glas a gwella’r ffordd y mae bwyd môr carbon isel yn cael ei gynhyrchu a’i farchnata. Mae’r MFS wedi cefnogi prosiectau sydd wedi profi technolegau motor newydd i helpu i liniaru newid hinsawdd. Mae enghreifftiau’n cynnwys gosod pŵer solar ar gwch pysgota, a phrosiect data pŵer sero net.
Er mwyn monitro effeithiau’r diwydiant pysgota ar yr hinsawdd yn well, comisiynodd Llywodraeth Cymru archwiliad carbon o bysgodfeydd a dyframaethu yng Nghymru trwy Seafish ym mis Tachwedd 2025, gan ddefnyddio eu Hofferyn Proffilio Allyriadau Carbon Bwyd Môr a sefydlwyd yn ddiweddar. Mae Llywodraeth yr Alban wedi datblygu sylfaen dystiolaeth wedi’i seilio ar effeithiau pysgota ar yr hinsawdd, gan gynnwys gwybodaeth am allyriadau nwyon tŷ gwydr o fflyd yr Alban, arferion pysgota a chysyniadau cychod sero net.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi gweithredu i ddeall pwysigrwydd cynefinoedd carbon glas yn nyfroedd y Deyrnas Unedig er mwyn cefnogi camau gweithredu i warchod ac adfer y cynefinoedd hynny. Ar lefel y Deyrnas Unedig, sefydlodd Defra, yr Adran Diogeledd Ynni a Sero Net a’r llywodraethau datganoledig Bartneriaeth Tystiolaeth Carbon Glas draws-weinyddiaethol y Deyrnas Unedig yn 2022. Amlygodd Datganiad Anghenion Tystiolaeth y Bartneriaeth (a gyhoeddwyd yn 2023) fylchau tystiolaeth allweddol ynglŷn â chynefinoedd carbon glas yn nyfroedd y Deyrnas Unedig.
Er mwyn dechrau mynd i’r afael â’r bylchau hyn mewn tystiolaeth, ariannodd Defra brosiect 3 blynedd (2022-2025) i wella ein dealltwriaeth o storfeydd carbon yng ngwely’r môr a sut gallai gweithgareddau dynol effeithio arnynt.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn amlygu effeithiau carbon glas yn eu dyfroedd ac yn mynd i’r afael â nhw. Yn 2024, sefydlodd Llywodraeth Cymru Fforwm Carbon Glas Cymru. Cyhoeddodd DAERA ei Chynllun Gweithredu ar Garbon Glas ym mis Ebrill 2025, yn dilyn ymgynghoriad a gynhaliwyd y flwyddyn gynt. Ym mis Medi 2025, cyhoeddwyd Cynllun Gweithredu ar Garbon Glas yr Alban, sydd hefyd yn amlinellu blaenoriaethau ar gyfer cynefinoedd carbon glas yn yr Alban gyda chamau gweithredu i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth sy’n parhau.
Cymerodd tîm Cynllunio Morol DAERA, ar y cyd ag AFBI a’r diwydiant pysgota, ran mewn rhaglen pedair blynedd a ariannwyd gan Ymchwil ac Arloesi y DU, sef Cynllunio Gofodol Morol i Fynd i’r Afael ag Effeithiau’r Hinsawdd (MSPACE). Mae allbynnau cyhoeddedig y rhaglen MSPACE yn cynnwys astudiaeth achos yng Ngogledd Iwerddon, sydd wedi gwella sylfaen dystiolaeth carbon glas Gogledd Iwerddon.
Mae FMPau a gyhoeddwyd hyd yma yn cynnwys camau gweithredu wedi’u teilwra i ddatblygu dealltwriaeth well o effeithiau newid hinsawdd a mesurau addasu ategol. Er enghraifft, camau gweithredu i annog y diwydiant i gymryd rhan mewn mentrau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a gwella’r ddealltwriaeth o’r effaith y mae cychod cregyn y brenin yn ei chael ar yr amgylchedd morol (gan gynnwys gwely’r môr, carbon glas ac allyriadau CO2).
Mae trydydd Cynllun Addasu Cenedlaethol y Deyrnas Unedig (a gyhoeddwyd yn 2023), y Strategaeth Addasu i’r Hinsawdd ar gyfer Cymru (2024), a Chynllun Addasu Cenedlaethol 3 yr Alban (a gyhoeddwyd yn 2025) yn amlinellu sut y bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a’r llywodraethau datganoledig yn lliniaru’r risgiau newid hinsawdd a amlygwyd gan asesiad 5 mlynedd y Pwyllgor Newid Hinsawdd annibynnol. Wedi’u llywio gan hyn, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn helpu’r diwydiant pysgota i addasu i effeithiau newid hinsawdd ar y ffordd maen nhw’n gweithredu.
Er enghraifft, mae Defra, Llywodraeth Cymru a Llywodraeth yr Alban wedi rhoi cyllid i’r Bartneriaeth Effeithiau Newid Hinsawdd Morol, ledled y Deyrnas Unedig, sy’n adolygu tystiolaeth wyddonol o newidiadau amgylcheddol morol er mwyn rhoi diweddariadau tystiolaeth ar bynciau sy’n debygol o effeithio ar weithgarwch pysgota fflyd y Deyrnas Unedig, fel asideiddio cefnforoedd a thymheredd y môr. Mae Cefas wedi helpu i ddatblygu dangosydd penodol i bysgodfeydd sydd, yn seiliedig ar ‘dymheredd cymedrig y ddalfa’ ledled Cymru a Lloegr, yn cefnogi adroddiadau statudol y Pwyllgor Newid Hinsawdd ar addasu trwy gyfleu’r cydbwysedd rhwng pysgod a physgod cregyn sy’n ffafrio dŵr cynnes ac oer mewn glaniadau a adroddwyd.
Mae newidiadau amgylcheddol o ganlyniad i newid hinsawdd wedi achosi i wahanol rywogaethau ymddangos, neu ailymddangos, yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, yn nodedig tiwna asgell las. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi rhoi mesurau ar waith trwy ddeddfwriaeth i warchod y rhywogaeth hon, ac mae rhagor o fanylion ar gael yn yr adran ar bysgota môr hamdden.
5.15 Dyframaethu
Mae dyframaethu’n bwysig ar lefel y Deyrnas Unedig, gydag is-sectorau amrywiol, a diwydiannau cysylltiedig, sy’n cyfrannu at agenda diogeledd bwyd y genedl yn ogystal â diogelu’r amgylchedd morol. Mae’n arbennig o bwysig yn yr Alban, lle’r oedd cynhyrchu dyframaethu yn 2023 wedi creu £468 miliwn o Werth Ychwanegol Gros (GVA) a oedd yn cynrychioli 8% o GVA economi forol yr Alban. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i gefnogi datblygu cynaliadwy cytbwys, a arweinir gan y diwydiant, ar gyfer pob is-sector dyframaethu yn seiliedig ar y wyddoniaeth orau sydd ar gael. Maen nhw hefyd yn cydweithio i gynnal y safonau iechyd a lles uchel ar gyfer anifeiliaid dyfrol maen nhw eisoes wedi’u mabwysiadu.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Roedd cyflwyno Rheoliadau Iechyd Anifeiliaid Dyfrol (Diwygio) 2022(https://www.legislation.gov.uk/uksi/2022/835/contents/made), sy’n berthnasol i Brydain Fawr ond nid Gogledd Iwerddon, wedi dileu rhestrau o rywogaethau sy’n agored i ddal clefyd a rhywogaethau fector o’r ddeddfwriaeth, gan ganiatáu i’r rhestrau gael eu diweddaru’n gyflymach ac yn amlach yn y dyfodol. Mae hyn wedi helpu i warchod statws iechyd anifeiliaid dyfrol Prydain Fawr a chefnogi masnach â thrydydd gwledydd. Ym mis Medi 2024, diwygiodd Defra, Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru restrau Prydain Fawr o rywogaethau sy’n agored i ddal clefyd a rhywogaethau fector er mwyn iddynt gyd-fynd â thystiolaeth wyddonol gyfredol ac arweiniad Sefydliad Iechyd Anifeiliaid y Byd.
Ym mis Gorffennaf 2023, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban y ddogfen “Gweledigaeth ar gyfer Dyframaethu Gynaliadwy”. Mae’n amlinellu uchelgeisiau ar gyfer datblygu sector dyframaethu’r Alban yn gynaliadwy, o fewn terfynau amgylcheddol, hyd at 2045 ac yn cydnabod buddion cymdeithasol ac economaidd sylweddol y sector.
Mae datblygiadau yn yr Alban ynglŷn â goruchwylio a rheoli ffermio pysgod yn cynnwys sefydlu Tasglu Cydsynio ym mis Tachwedd 2022, sydd wedi datblygu proses gydsynio cyn-ymgeisio amlochrog newydd ar gyfer datblygiadau fferm bysgod. Ers mis Ionawr 2024, fe’i treialwyd yn ardaloedd awdurdodau lleol Ynysoedd Shetland a’r Ucheldiroedd. Cyhoeddwyd gwerthusiad annibynnol o’r cynlluniau peilot ar 29 Gorffennaf 2025 a roddodd argymhellion ar gyfer gwella’r broses ymhellach, ac mae gwaith yn mynd rhagddo bellach i fwrw ymlaen ag argymhellion yr adroddiad gwerthuso.
Ym mis Chwefror 2024, dechreuodd Asiantaeth Diogelu’r Amgylchedd yr Alban weithredu fframwaith newydd wedi’i seilio ar risg ar gyfer rheoli’r rhyngweithio rhwng llau pysgod o bysgod wedi’u ffermio ac eogiaid gwyllt yr Iwerydd. Ym mis Mawrth 2025, sefydlwyd fframwaith ar gyfer gwarchod poblogaethau brithyllod y môr. Ym mis Mehefin 2025, cyflwynodd Gweinidogion yr Alban Orchymyn Diwygio Cynllunio Gwlad a Thref (Ffermio Pysgod Môr) (Yr Alban) 2025 (https://www.legislation.gov.uk/sdsi/2025/9780111062760/introduction), sy’n gwneud awdurdodau cynllunio lleol perthnasol yn gyrff cyfrifol ar gyfer asesu a phenderfynu ar geisiadau cynllunio ffermydd pysgod a physgod cregyn allan hyd at 12 milltir fôr.
Ym mis Mai 2025, cyhoeddodd Defra arweiniad rheoleiddiol ar ddyframaethu gwymon er mwyn rhoi eglurder i ymgeiswyr ynglŷn â’r cydsyniadau a’r awdurdodiadau sy’n ofynnol i sefydlu, gweithredu a datgomisiynu fferm wymon yn nyfroedd morol glannau Lloegr.
5.16 Pysgota môr hamdden
O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i barhau i gydweithio, er mwyn sicrhau bod pysgota môr hamdden yn amgylcheddol, gymdeithasol ac economaidd gynaliadwy. Mae mesurau rheoli’n cael eu hategu gan annog casglu data am ddalfeydd, effaith economaidd, a data penodol i rywogaeth ar draws y sector pysgota môr hamdden, a sicrhau bod buddiannau hamdden yn rhan o brosesau ymgysylltu â rhanddeiliaid perthnasol.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Er mwyn ategu’r rhwymedigaethau casglu data statudol ar gyfer pysgota masnachol o dan y DCF, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi cynyddu gweithgarwch monitro pysgota môr hamdden. Er enghraifft, comisiynwyd Cefas gan Defra a Llywodraeth Cymru i gynnal cynllun adrodd am ddalfeydd gwirfoddol (prosiect Dyddiadur Genweirio Môr Hamdden) sy’n darparu ystadegau am weithgarwch genweirio hamdden ar lefel rhywogaeth a rhanbarth, ac mae DAERA yn rhoi ffurflenni casglu data i gychod genweirio siarter hamdden.
Gan fod mwy o diwna asgell las yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn datblygu polisïau i sicrhau bod pysgota’r rhywogaeth ar gyfer hamdden yn aros yn gynaliadwy ac yn cyd-fynd â rhwymedigaethau rhyngwladol ICCAT.
Daeth deddfwriaeth sy’n sefydlu cyfundrefnau trwyddedu ar gyfer targedu tiwna asgell las ar gyfer hamdden i rym yn y Deyrnas Unedig yn 2024, sy’n galluogi pob awdurdod polisi pysgodfeydd i bennu os, a phryd, i gyflwyno pysgodfa hamdden dal a rhyddhau tiwna asgell las yn eu dyfroedd. Yn 2024, agorodd pysgodfa hamdden tiwna asgell las yn Lloegr a physgodfa siarter asgell las yng Nghymru, ac fe’u hadnewyddwyd yn 2025. Mae’n ofynnol yn ôl y gyfraith i ddeiliaid trwydded yng Nghymru a Lloegr adrodd am bob taith a darparu data dalfeydd i gyfrannu at fonitro gweithgarwch.
Gwerthuswyd pysgodfa tiwna asgell las hamdden 2024 Lloegr yn annibynnol, gan gynnwys casglu a dadansoddi data dalfeydd a data cymdeithasol ac economaidd. Roedd y canfyddiadau hyn, ynghyd â mewnbwn gan Defra, y MMO, Cefas a chynrychiolwyr y sector, wedi llywio dyluniad y bysgodfa yn 2025.
Ym mis Medi 2025, cyhoeddodd DAERA ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i’r trefniadau presennol ar gyfer pysgota am grancod a chimychiaid ar gyfer hamdden yn nyfroedd Gogledd Iwerddon i wella rheolaeth a chynaliadwyedd y stociau.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn gweithio i ddatblygu mesurau ar gyfer pysgota stociau draenogiaid môr a morleision ar gyfer hamdden yn nyfroedd y Deyrnas Unedig. Mae mesurau rheoli presennol ac arfaethedig ar gyfer pysgota draenogiaid môr ar gyfer hamdden, fel cau am dymor a therfynau niferoedd, wedi’u cynnwys yn yr FMP draenogiaid môr. O ran morleision, cytunwyd ar derfyn niferoedd gorfodol o 3 physgodyn fesul pysgotwr fesul diwrnod yn nhrafodaethau dwyochrog 2025 rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd.
5.17 Cynhyrchu, marchnata a bwyta bwyd môr
Mae’r sector bwyd môr yn ffynhonnell gyflogaeth hanfodol mewn cymunedau ledled y Deyrnas Unedig, ac yn gwneud cyfraniad allweddol at yr agenda diogeledd bwyd genedlaethol. O dan y JFS, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i gynorthwyo’r sector bwyd môr i addasu i ofynion a heriau’r presennol a’r dyfodol. Mae hyn yn cynnwys annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant, cynyddu gwydnwch y gadwyn gyflenwi a’r sector prosesu bwyd môr, creu marchnad bwyd môr ffyniannus yn y Deyrnas Unedig ac yn rhyngwladol a chefnogi cyfleoedd i amrywiaethu.
Yr hyn rydym wedi’i weithredu
Er mwyn annog newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant bwyd môr, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi gweithio i wella eu dealltwriaeth o’r rhwystrau sy’n eu hwynebu. Er enghraifft, comisiynodd Defra Brosiect Gyrfaoedd Bwyd Môr y Deyrnas Unedig, a ddechreuodd yn yr hydref 2024, i asesu incwm yn y sector bwyd môr a helpu i fynd i’r afael ag arferion cydnabyddiaeth ariannol aneglur. O fis Ionawr i fis Mawrth 2025, cynhaliodd Defra Arolwg Cymdeithasol y Diwydiant Pysgota, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â’r diwydiant pysgota, sy’n canolbwyntio ar fywydau a lles pysgotwyr masnachol yn Lloegr. Mae setiau data sy’n deillio o’r ymatebion i’r arolwg yn cynnig gwybodaeth werthfawr ar gyfer datblygu polisi yn y dyfodol.
Er mwyn gwella amodau gwaith newydd-ddyfodiaid, mae Defra yn ymgysylltu ag Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau (MCA) a’r Adran Drafnidiaeth ynglŷn ag iechyd a diogelwch ar y môr. Er enghraifft, gweithiodd Defra gyda’r MCA yn 2024 i sicrhau rhanddirymiad o’r gofyniad i weithredwyr cychod pysgota masnachol llai na 10 metr gael tystysgrifau meddygol. Mae Canolfan Hyfforddi Sefydliad Cynhyrchwyr Pysgod Gogledd Iwerddon yn darparu hyfforddiant diogelwch gorfodol, gan gynnwys cyrsiau gloywi, yn ogystal â chyrsiau hyfforddi amrywiol sy’n gysylltiedig â chymhwysedd.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi sicrhau bod cyllid ar gael i gefnogi newydd-ddyfodiaid i’r diwydiant pysgota. Er enghraifft, ariannodd Llywodraeth Cymru astudiaeth ddichonoldeb i amlygu gofynion hyfforddi ar gyfer newydd-ddyfodiaid ym mis Tachwedd 2021 a arweiniodd at gyflwyno rhaglen hyfforddi ar gyfer pysgotwyr masnachol newydd a phrofiadol ym mis Hydref 2023 dan arweiniad Seafish. Cynorthwyodd yr MFS 37 o bysgotwyr ifanc i ddatblygu gyrfa yn y diwydiant pysgota, gan ddyfarnu gwerth dros £2.5 miliwn o grantiau rhwng 2021 a 2024. Mae Strategaeth Ariannu’r Amgylchedd Morol a Physgodfeydd DAERA yn darparu cyfleoedd i’r diwydiant hyrwyddo a datblygu gyrfa yn y sectorau pysgodfeydd a chefnogi cynlluniau sy’n ceisio gwella cydnabyddiaeth ariannol aelodau criw.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi darparu cyllid i helpu i greu cadwyn gyflenwi a sector prosesu bwyd môr gwydn. Er enghraifft, dyrannodd yr MFS £148.8 miliwn i’r sector prosesu bwyd môr ers 2021 i helpu busnesau i foderneiddio cyfleusterau, defnyddio llai o ynni a gwella effeithlonrwydd. Mae Cyllid yr Amgylchedd Morol a Physgodfeydd DAERA yn darparu cyfleoedd i gefnogi arloesedd yn ymwneud â llwyddiant economaidd. Mae’n caniatáu i randdeiliaid archwilio technolegau, modelau busnes a chyfleoedd marchnad newydd sy’n cyfrannu at ddiwydiant bwyd môr sy’n gallu addasu’n well ac sy’n barod am y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymwneud â datblygu proses map trywydd gwydnwch y Gadwyn Gyflenwi Bwyd Môr, dan arweiniad Seafish a Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, gan ychwanegu at waith a wnaed gan Brifysgol Bangor. Mae amodau cyswllt economaidd diwygiedig, a gyflwynwyd gan Lywodraeth yr Alban ym mis Ionawr 2023, wedi galluogi glanio tua £58 miliwn yn ychwanegol o fecryll a phenwaig yn yr Alban yn ystod y ddwy flynedd gyntaf yr oedd yr amodau newydd mewn grym. Rhoddodd Defra Fodel Gweithredu Targed y Ffin newydd ar waith ar gyfer allforion bwyd môr yn 2024 ac mae wedi annog y sector prosesu i gefnu ar ddibyniaeth ar fwyd môr a ddaliwyd yn Rwsia. Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn hyrwyddo bwyta mwy o fwyd môr cartref trwy’r ‘Cylch Bwyd Da’, sef strategaeth fwyd ar gyfer Lloegr a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2025.
Mae Llywodraeth Cymru, gan weithio mewn partneriaeth â Seafish a’u grwpiau cynghori, wedi comisiynu astudiaethau cymdeithasol ac economaidd o 11 o bysgodfeydd masnachol a hamdden i ddeall a meintioli, lle bo’n bosibl, buddion uniongyrchol ac anuniongyrchol y pysgodfeydd hyn i gymunedau arfordirol lleol a sut gellid eu mesur a’u cynyddu i’r eithaf.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn sicrhau bod gwybodaeth dal a chynhyrchu ar gael yn rhwydd i brynwyr masnachol trwy labelu a data cadwyn gyflenwi, gan sicrhau tryloywder i’r defnyddiwr. Ledled y Deyrnas Unedig, bob deufis, mae Seafish yn darparu, coladu, adrodd a rhannu data marchnad ynglŷn â bwyta bwyd môr a gwerthiannau manwerthu er mwyn helpu i hysbysu’r sector a chefnogi busnesau bwyd môr i hyrwyddo bwyd môr lleol.
Mae Defra wedi gweithio gyda Chyllid a Thollau Ei Fawrhydi i ddiweddaru’r llawlyfr tramwy i alluogi dalfeydd pysgod cregyn domestig a laniwyd ym mhorthladdoedd yr Undeb Ewropeaidd i ddychwelyd i Brydain Fawr yn fwy effeithlon. Mae’r rhywogaethau sydd wedi’u cynnwys ar restr Dynodiadau Masnachol y Deyrnas Unedig yn parhau i dyfu, gan gynyddu amrywiaeth y pysgod y gellir eu bwyta a’u prosesu yn y Deyrnas Unedig.
Mae DAERA wedi rhoi cymorth ariannol ar gyfer Llwybrau Bwyd Môr Gogledd Iwerddon, sef gwefan a thaflenni gyda mapiau sy’n cynnwys bwytai a manwerthwyr bwyd môr, treftadaeth a gweithgareddau addysgol. Mae Bwyd Môr yr Alban, gyda chefnogaeth Llywodraeth yr Alban, wedi treialu cyfres o weithdai mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y wlad ers 2023. Ymgysylltwyd â dros 1250 o ddisgyblion i helpu i gynyddu gwybodaeth cenedlaethau’r dyfodol am dreftadaeth bwyd môr yr Alban a’u cysylltiad â hi.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod cyllid ar gael i fusnesau i wella prosesau, amrywiaethu a marchnata cynhyrchion trwy Gynllun y Môr a Physgodfeydd Cymru a’r Cynllun Sbarduno Busnesau Bwyd. Cyflwynwyd gwasanaeth ‘animateur’ yng Nghymru ym mis Ionawr 2025 i gynorthwyo pysgotwyr i gael at y cynlluniau cyllido hyn ac mae wedi hwyluso cynnydd mewn ceisiadau llwyddiannus am gyllid.
Er mwyn creu marchnad ryngwladol ffyniannus ar gyfer bwyd môr y Deyrnas Unedig, cyflwynodd Defra, mewn partneriaeth â’r Adran Busnes a Masnach, Seafish a GREAT Food and Drink, y Pecyn Allforion Bwyd Môr (2022-2025), sy’n canolbwyntio ar hyrwyddo a chynyddu ymwybyddiaeth o fwyd môr y Deyrnas Unedig yn fyd-eang. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ariannu Bwyd Môr yr Alban (corff masnach a marchnata cenedlaethol) sydd wedi derbyn bron £10 miliwn o MFS Llywodraeth yr Alban ers 2021. Arddangosodd busnesau bwyd môr y Deyrnas Unedig ym mhafiliwn y Deyrnas Unedig yn Arddangosfa Bwyd Môr Fyd-eang 2025 yn Barcelona ac Arddangosfeydd eraill yn Tsieina, Japan a’r Unol Daleithiau. Mae Defra yn gweithio i agor marchnadoedd allforio newydd ar gyfer bwyd môr y Deyrnas Unedig, sicrhau mynediad parhaus i’r farchnad a mynd i’r afael â chymorthdaliadau pysgodfeydd niweidiol yn yr WTO. Mae’r Deyrnas Unedig wedi cytuno ar Gytundebau Masnach Rydd newydd ers 2022, yn nodedig gyda’r Cytundeb Cynhwysfawr a Blaengar ar gyfer Masnach y Môr Tawel ac India. Bydd y cytundebau hyn yn cynyddu masnach bwyd môr trwy newidiadau fel tariffau is a rheolau symlach.
5.18 Cynlluniau rheoli pysgodfeydd
Mae Cynlluniau Rheoli Pysgodfeydd (FMPau) yn gynlluniau gweithredu wedi’u seilio ar dystiolaeth sy’n amlinellu polisïau, nodau, camau gweithredu a mesurau a luniwyd i adfer un neu fwy o stociau pysgod môr i lefelau cynaliadwy, neu eu cadw ar y lefelau hynny. Mae’r cynlluniau’n cynnig ymyriadau newydd ar gyfer rheoli pysgodfeydd ac yn ystyried materion amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach i gyflawni eu dyheadau polisi ehangach dros y tymor byr, y tymor canolig a’r tymor hwy. Mae’r JFS yn ymrwymo’r awdurdodau polisi pysgodfeydd i gyhoeddi cyfanswm o 43 FMP. Amlinellir y dyddiadau cau ar gyfer cyhoeddi a’r awdurdodau cydlynu ar gyfer pob cynllun yn Atodiad A y JFS.
Ym mis Hydref 2024, lansiodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd ymgynghoriad a gynigiodd ddiwygio’r dyddiadau cau cyhoeddi yn Atodiad A y JFS ar gyfer yr FMPau hynny nad ydynt wedi’u cyhoeddi eto. Cynigiwyd y newidiadau hyn oherwydd dangosodd profiad o ddatblygu a chyhoeddi’r 5 FMP cyntaf fod angen mwy o amser i ymgysylltu’n ystyrlon â rhanddeiliaid wrth ddatblygu cynlluniau ac ymateb i newidiadau i’r cyngor gwyddonol ynglŷn â stociau pysgod. Yn ogystal, cynigiodd yr ymgynghoriad rai newidiadau technegol a daearyddol i rai cynlluniau er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â gwir natur rheoli pysgodfeydd a’r wyddoniaeth sydd ar gael. Roedd hefyd cynnig i ychwanegu FMP newydd, sef casglu pysgod cregyn â llaw yn yr ardal rynglanw yng Ngogledd Iwerddon. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr i’r ymgynghoriad yn cytuno â’r diwygiadau arfaethedig ac, o ganlyniad, gwnaed y newidiadau hynny a 2 newid ychwanegol a awgrymwyd gan yr ymatebwyr a diweddarwyd Atodiad A y JFS ym mis Rhagfyr 2024.
Mae un ar ddeg o’r 43 FMP a restrir yn Atodiad A y JFS wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r 32 sy’n weddill wrthi’n cael eu paratoi.
Datblygu FMP
Mabwysiadwyd dull cydweithredol o ddatblygu FMPau. Cyd-grëwyd y dogfennau hyn gydag ymgysylltu helaeth ar draws ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys pysgotwyr masnachol a hamdden, sefydliadau anllywodraethol amgylcheddol, academyddion a’r gadwyn gyflenwi ehangach. Ymgysylltwyd â rhanddeiliaid trwy weithgorau FMP, cyfarfodydd datblygu polisi penodol, blog FMP Defra a phrosesau ymgynghori ffurfiol. Mae Cyrff Hyd Braich, IFCAau (ar gyfer FMPau a arweinir gan Defra) a chyrff cadwraeth wedi cyfrannu at waith asesu amgylcheddol a chasglu tystiolaeth ategol, hefyd.
Yn rhan o ddatblygu FMP, mae’n rhaid mynd i’r afael â bylchau tystiolaeth er mwyn deall a symud tuag at reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy a chefnogi’r broses o weithredu polisïau, nodau, camau gweithredu a mesurau sydd wedi’u hamlinellu yn yr FMPau yn effeithiol.
Ym mis Tachwedd 2025, cyhoeddodd Llywodraeth yr Alban ymgynghoriad ar 11 FMP gwely’r môr a arweinir gan yr Alban sydd i’w cyhoeddi yn ystod ail hanner 2026. Mae’r FMPau hyn yn ymdrin â’r stociau pysgod canlynol ar draws dyfroedd y Deyrnas Unedig:
- Penfras Iwerydd
- Hadog Iwerydd
- Gwyniad Môr y Gogledd a Dwyrain y Sianel
- Hadog Môr y Gogledd a Gorllewin Arfordir yr Alban
- Lleden Fair Môr y Gogledd a Gorllewin Arfordir yr Alban
- Maelgi/Cythraul Môr y Gogledd a Gorllewin Arfordir yr Alban
- Chwitlyn Glas Môr y Gogledd a Gorllewin Arfordir yr Alban
- Penfras Ysgafell y Gogledd
- Cegddu Ysgafell y Gogledd
- Honos Ysgafell y Gogledd
- Gwyniad Môr Gorllewin Arfordir yr Alban
Ar hyd y cyfnod adrodd, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd wedi gwneud gwaith paratoadol sylweddol i ddatblygu a pharatoi’r 21 FMP hynny nad ydynt wedi bod yn destun ymgynghoriad nac wedi’u cyhoeddi eto. Mae’r rhain yn cynnwys: yr FMP crancod a chimychiaid cyntaf ar gyfer Cymru yn unig; FMPau pelagig a gwely’r môr ar gyfer Môr Iwerddon a arweinir gan DAERA; yr FMP pysgod cregyn heb gwota ar gyfer Gogledd Iwerddon yn unig; yr FMPau cimychiaid Norwy a phelagig a arweinir gan yr Alban a’r 4 FMP sy’n weddill a arweinir gan Defra.
FMPau cyhoeddedig
Mae’r 11 FMP sydd wedi cael eu cyhoeddi (sy’n cynnwys y rhai a gafodd gymeradwyaeth Weinidogol i’w cyhoeddi ym mis Tachwedd 2025) fel a ganlyn:
- FMP draenogiaid môr (https://www.gov.uk/government/publications/bass-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Cymru a Lloegr (Rhagfyr 2023)
- FMP rhywogaethau gwely’r môr y sianel heb gwota (https://www.gov.uk/government/publications/channel-demersal-non-quota-species-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Rhagfyr 2023)
- FMP crancod a chimychiaid ar gyfer dyfroedd Lloegr (https://www.gov.uk/government/publications/crab-and-lobster-fisheries-management-plan-fmp-for-english-waters) (Rhagfyr 2023)
- FMP Cregyn y Brenin (https://www.gov.uk/government/publications/king-scallop-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Cymru a Lloegr (Rhagfyr 2023)
- FMP cregyn moch (https://www.gov.uk/government/publications/whelk-fisheries-management-plan-fmp-for-English-waters) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Rhagfyr 2023)
- FMP lledod cymysg De Môr y Gogledd a Dwyrain y Sianel (https://www.gov.uk/government/publications/southern-north-sea-and-eastern-channel-mixed-flatfish-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Hydref 2024)
- FMP cocos (https://www.gov.uk/government/publications/cockle-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Rhagfyr 2025)
- FMP corbenwaig Môr y Gogledd a’r Sianel (https://www.gov.uk/government/publications/north-sea-and-channel-sprat-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Lloegr a’r Alban (Rhagfyr 2025)
- FMP Cregyn y Frenhines (https://www.gov.uk/government/publications/queen-scallop-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Rhagfyr 2025)
- FMP Morgathod De Môr y Gogledd a’r Sianel (https://www.gov.uk/government/publications/southern-north-sea-and-channel-skate-and-ray-fisheries-management-plan-fmp) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Rhagfyr 2025)
- FMP Gwely’r Môr Heb Gwota De Môr y Gogledd (https://www.gov.uk/government/publications/southern-north-sea-demersal-non-quota-species-fisheries-management-plan-fmp/southern-north-sea-demersal-non-quota-species-fisheries-management-plan) ar gyfer dyfroedd Lloegr (Rhagfyr 2025)
Gweithredu FMPau cyhoeddedig
Mae pob FMP yn amlinellu ymyriadau rheoli pysgodfeydd wedi’u teilwra a pholisïau, nodau, camau gweithredu a mesurau ehangach sy’n benodol i bob pysgodfa a/neu ardal y mae cynllun yn ei rhychwantu. Gweithredir cynlluniau trwy lawer o wahanol ddulliau, er enghraifft, mesurau gwirfoddol sy’n cael eu mabwysiadu gan ddiwydiant (ond nad ydynt yn cael eu gorfodi gan y gyfraith), Offerynnau Statudol, newidiadau i amodau trwydded, is-ddeddfau a chomisiynu ymchwil, y mae’r awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol wedi gweithio ar y cyd â rhanddeiliaid i’w hamlygu.
Mae gwaith yn mynd rhagddo i weithredu’r nodau a’r mesurau mewn FMPau cyhoeddedig. Mae pob cynllun unigol hefyd yn cynnwys dangosyddion i fonitro effeithiau FMPau cyhoeddedig o gymharu â’u nodau. Mae’r rhain yn amrywio o ddangosyddion i gynnal neu wella tystiolaeth ar gyfer cyflawni cynnyrch cynaliadwy mwyaf (MSY), lle bo’n briodol, i weithredu polisïau neu fesurau rheoli penodol.
Mae tystiolaeth ynglŷn â’r stociau sydd dan sylw yn yr FMPau cyntaf a gyhoeddwyd ar ddiwedd 2023 (a’r rhai hynny a gynhwyswyd mewn FMPau a gyhoeddwyd yn fwy diweddar) yn gyfyngedig o hyd. Er bod gwaith yn mynd rhagddo trwy’r FMPau i fynd i’r afael â’r bylchau hyn a chryfhau’r sylfaen dystiolaeth, mae’n rhy gynnar o hyd i’r ymdrechion hyn ddangos newidiadau mesuradwy i’r data sydd ar gael am stociau.
Yn ogystal â chyflawni mesurau rheoli a chamau gweithredu eraill a amlinellir yn yr FMPau cyhoeddedig, mae Defra yn cynnal rhaglen Ymchwil a Datblygu, a gyflwynir gan ei Chyrff Hyd Braich a’i phartneriaid allanol, er mwyn helpu i gasglu’r dystiolaeth i gyflwyno a gweithredu FMPau yn llwyddiannus. Mae hyn yn cynnwys ymchwil i wella asesiadau stoc, yn enwedig ar gyfer rhywogaethau y mae’r data amdanynt yn gyfyngedig, yn ogystal ag ymchwil ynglŷn ag effeithiau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach gweithredu FMPau, a dulliau o ddefnyddio ymagwedd wedi’i seilio ar ecosystem at reoli pysgodfeydd. Bydd hyn i gyd yn helpu i werthuso FMPau yn y dyfodol, trwy ganiatáu dealltwriaeth o sut mae stociau’n newid, a ph’un a yw FMPau yn cyflawni buddion i’r amgylchedd a’r diwydiant pysgota.
Mae’r Deyrnas Unedig yn hyrwyddo manteisio ar stociau’n gynaliadwy trwy gamau gweithredu unochrog a chamau gweithredu ar y cyd â phartneriaid rhyngwladol. Mae’r Deyrnas Unedig yn cydweithio â Gwladwriaethau arfordirol eraill lle mae stociau’n cael eu rhannu ar draws ffiniau trwy’r broses drafod flynyddol, y mae rhagor o wybodaeth amdani yn yr adran ar gyfleoedd pysgota.
Mesurau a weithredwyd o FMPau cyhoeddedig
Ym mis Hydref 2024, cyflwynwyd Offeryn Statudol y Deyrnas Unedig, sef Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) (Rhif 2) 2024, a oedd:
- wedi cynyddu’r MCRS ar gyfer cimychiaid cochion i 110mm (ardaloedd 7d a 7e ICES) (FMP Crancod a Chimychiaid)
- wedi cyflwyno MCRS ar gyfer lledod llyfn (250mm), torbytiaid (300mm) a lledod mannog (300mm) yn nyfroedd Lloegr Môr y Sianel (ardaloedd 7d a 7e ICES) (FMP Stociau Heb Gwota Gwely’r Môr y Sianel ac FMP Lledod Cymysg De Môr y Gogledd a Dwyrain y Sianel)
- wedi cyfyngu ar bŵer motor cychod (dros 221kW) sy’n defnyddio offer pysgota â sân a chynyddu isafswm maint rhwyll i 100mm ar gyfer pysgotwyr â sân yn nyfroedd Lloegr Môr y Sianel (ardaloedd 7d a 7e ICES) (FMP Stociau Heb Gwota Gwely’r Môr y Sianel)
- wedi newid terfynau dal masnachol ar gyfer draenogiaid môr yn y Deyrnas Unedig trwy amodau trwydded yn lle is-ddeddfwriaeth yn dilyn trafodaethau rhyngwladol (FMP Draenogiaid Môr)
Cyhoeddodd yr MMO gynllun gweithredu ystifflog (https://www.gov.uk/guidance/cuttlefish-fishery-action-plan) ym mis Ebrill 2025 i gefnogi rheolaeth gynaliadwy ar y bysgodfa ystifflog, yr amlygwyd ei bod yn rhywogaeth yr oedd diffyg data amdani ac yr oedd o bwysigrwydd economaidd uchel (FMP Stociau Heb Gwota Gwely’r Môr y Sianel). Cyflwynwyd codau newydd hefyd ar ‘Ap Cofnodi Dalfeydd’ yr MMO (https://www.gov.uk/guidance/record-your-catch#full-publication-update-history) i wahaniaethu rhwng rhywogaethau octopws, gan helpu i gasglu data a thystiolaeth newydd ynglŷn â dalfeydd octopws (FMP Stociau Heb Gwota Gwely’r Môr y Sianel).
Amlygwyd a chyhoeddwyd bylchau tystiolaeth ar gyfer Stociau Heb Gwota ehangach er mwyn gwella’r ddealltwriaeth ohonynt a’r gwaith y mae angen ei wneud i’w cau (FMP Stociau Heb Gwota Gwely’r Môr y Sianel). Yn ogystal, mae Defra wedi comisiynu Cyrff Hyd Braich i gynnal 20 prosiect ymchwil i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth a amlygwyd mewn FMPau eraill y mae’n arwain arnynt.
Yn 2024, sefydlodd Llywodraeth Cymru Grŵp Cynghori Cymru ar Ddraenogiaid Môr a Grŵp Cynghori Cymru ar Gregyn y Brenin i gyd-ddylunio’r broses o weithredu’r FMPau yng Nghymru. Sefydlodd Defra’r Grŵp Rheoli Draenogiaid Môr hefyd fel fforwm i ddiffinio’r ffordd orau o gyflawni’r ymrwymiadau yn yr FMP draenogiaid môr yn Lloegr. Mae’r grwpiau hyn yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau hamdden a masnachol, rheoleiddwyr, grwpiau amgylcheddol, cyrff gwyddonol, Defra a Llywodraeth Cymru.
Ym mis Hydref 2025, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar fesurau rheoli addasol ar gyfer pysgota am gregyn bylchog yng Nghymru i gefnogi’r FMP cyhoeddedig. Mae’r mesurau a gynigiwyd yn cynnwys rheoli llusgrwydo am gregyn y brenin yn gryfach, cyflwyno’r gallu i reoli pysgota am gregyn y brenin yn addasol a galluogi dulliau pysgota effaith isel, fel plymio â llaw neu bysgota â chewyll gyda goleuadau. Yn ogystal, roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys cynnig i addasu’r MCRS ar gyfer cregyn y frenhines yng Nghymru i gyd-fynd ag awdurdodaethau cyfagos er mwyn amddiffyn y stoc yn gryfach.
Diweddarodd yr MMO arweiniad ar bysgota am ddraenogiaid môr ar gyfer Cymru a Lloegr, a gyhoeddwyd ym mis Hydref 2025.
Mae Defra yn datblygu deddfwriaeth i ddiwygio adran 17(1) Deddf Pysgodfeydd Môr (Pysgod Cregyn) 1967 i wahardd glanio crancod (brown) cragen feddal ac sy’n silio (FMP Crancod a Chimychiaid).
Mae’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael yn cael ei defnyddio i lywio penderfyniadau ar weithredu, ar draws yr holl awdurdodau polisi pysgodfeydd. Er enghraifft, mae timau polisi wedi defnyddio’r dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael i lywio cynnydd fesul cam yn yr MCRS ar gyfer crancod a chimychiaid yn nyfroedd Lloegr dros 3 blynedd, ac i helpu i bennu hyd cau pysgodfeydd pysgod cregyn yn dymhorol i helpu i warchod stociau.
6. Cyfraniad at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd a gwaith yn y dyfodol
Bwriedir i’r 8 amcan pysgodfeydd a amlinellir yn y Ddeddf roi sail i bysgota a dyframaethu cynaliadwy, a’u diffinio ar y cyd, gan felly helpu’r awdurdodau polisi pysgodfeydd i gydbwyso sector bwyd môr sy’n ffynnu’n economaidd ac yn gymdeithasol â chynaliadwyedd hirdymor yr amgylchedd morol.
Bydd gweithio tuag at gyflawni’r amcanion pysgodfeydd yn gofyn am ymdrech barhaus gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd gan weithio ar y cyd â’r diwydiant pysgota a’r sector bwyd môr, yn ogystal â phartneriaid rhyngwladol. Mae datblygu a gweithredu polisïau pysgodfeydd mewn modd sy’n parchu ystod amrywiol o safbwyntiau rhanddeiliaid a ffactorau amgylcheddol, ochr yn ochr â defnyddio’r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael, yn hanfodol. Bydd yn cymryd amser i werthuso i ba raddau y mae’r JFS a’r polisïau FMP wedi cyfrannu at gyflawni’r amcanion, gan nodi y bydd ffactorau allanol yn dylanwadu ar hyn, hefyd.
Mae pob un o’r themâu polisi yn y JFS yn cyfrannu, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, at gyflawni un neu fwy o’r amcanion pysgodfeydd. Mae’r adran hon o’r adroddiad yn amlygu sut mae rhywfaint o’r gwaith a wnaed hyd yma yn cyfrannu at yr amcanion hynny.
O’i hystyried yn ei chyfanrwydd, mae’r wybodaeth yn yr adroddiad hwn yn dangos bod y Deyrnas Unedig wedi gwneud cyfraniad amlwg tuag at gyflawni amcanion pysgodfeydd y Ddeddf. Mae’r gwaith a wnaed ar draws holl themâu polisi’r JFS yn ystod y cyfnod adrodd cyntaf ers i’r JFS gael ei gyhoeddi yn dangos yn glir bod stiwardiaeth amgylcheddol wedi’i chryfhau o ran rheoli pysgodfeydd y Deyrnas Unedig.
Wrth edrych tua’r dyfodol, rydym wedi cynnwys yn yr adran hon amlinelliad o rai meysydd ar gyfer gwaith yn y dyfodol ar draws yr awdurdodau polisi pysgodfeydd wrth i ni barhau i gyflawni uchelgeisiau polisi’r JFS.
6.1 Cyfraniad at amcanion pysgodfeydd
Yr amcan cynaliadwyedd
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan cynaliadwyedd yw –
- bod gweithgareddau pysgota a dyframaethu –
- yn amgylcheddol gynaliadwy yn y tymor hir, ac
- yn cael eu rheoli fel eu bod yn esgor ar fanteision economaidd, cymdeithasol a chyflogaeth ac yn cyfrannu at y cyflenwadau bwyd sydd ar gael, a
- bod capasiti pysgota’r fflyd bysgota yn golygu bod y fflyd yn economaidd hyfyw ond nad yw’n gorbysgota stociau morol.”
Y brif ffordd y mae’r Deyrnas Unedig yn sicrhau bod stociau cwota’n cael eu pysgota’n gynaliadwy yw trwy TACau penodol i rywogaeth a gytunir gyda Gwladwriaethau arfordirol eraill, sydd wedi’u seilio ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ystyried y cyngor hwn ochr yn ochr â ffactorau cymdeithasol ac economaidd eraill er mwyn taro cydbwysedd rhwng cynaliadwyedd stociau a buddion cymdeithasol ac economaidd tymor hwy i’r diwydiant pysgota a’r sector bwyd môr. Mae Defra yn cyhoeddi adroddiadau blynyddol ar gynaliadwyedd terfynau dalfa pysgodfeydd a drafodwyd (https://www.gov.uk/government/publications/assessing-the-sustainability-of-fisheries-catch-limits-negotiated-by-the-uk-for-2025), a gynhyrchwyd gan Cefas. Mae’r rhain yn dangos tuedd gyffredinol o welliant cymedrol o ran nifer y TACau a gafodd asesiad cynaliadwyedd llwyddiannus gan Cefas yn ystod y cyfnod adrodd.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn ystyried bod cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod adrodd ar orfodi IUU a newidiadau i ddogfennau masnach yn cyfrannu at yr amcan cynaliadwyedd trwy wella’r gallu i olrhain, ac felly lleihau’r tebygolrwydd y bydd bwyd môr nad yw’n dod o ffynonellau cyfrifol yn mynd i mewn i gadwyni cyflenwi’r Deyrnas Unedig.
Ar lefel ryngwladol, mae’r Deyrnas Unedig wedi cryfhau ei rôl fel hyrwyddwr pysgota cynaliadwy trwy fabwysiadu cytundeb yr WTO ar wahardd cymorthdaliadau pysgodfeydd niweidiol, sy’n gallu cymell gorbysgota a pharhau i ddisbyddu stociau pysgod byd-eang.
Mae datblygu rhwydwaith MPA y Deyrnas Unedig yn ystod y cyfnod adrodd hwn hefyd yn dangos y cynnydd a wnaed tuag at yr amcan cynaliadwyedd. Mae HPMAau yn nyfroedd Lloegr, y dynodwyd y 3 cyntaf ohonynt ym mis Gorffennaf 2023, yn ceisio hyrwyddo adfer ecosystem gyfan a ddylai, yn y pen draw, arwain at fuddion hirdymor i lefel stociau pysgod a’r cymunedau sy’n dibynnu arnynt.
Mae rhaglenni ymchwil wedi cael eu cyflwyno, gan gynnwys mNCEA ac Arolwg Cymdeithasol y Diwydiant Pysgota. Mae’r rhain wedi darparu setiau data ecolegol, cymdeithasol ac economaidd gwerthfawr i’w defnyddio gan dimau polisi wrth iddynt gydbwyso ffactorau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol wrth ddatblygu polisi rheoli pysgodfeydd yn y dyfodol.
TACau yw’r brif ffordd y mae awdurdodau polisi pysgodfeydd yn sicrhau cynaliadwyedd stociau cwota, ond FMPau yw’r dull allweddol o sicrhau cynaliadwyedd Stociau Heb Gwota. Bu cryn gynnydd wrth ddatblygu FMPau, sy’n ceisio sicrhau cynaliadwyedd hirdymor y stociau cwota a heb gwota perthnasol ar gyfer cenedlaethau’r presennol a’r dyfodol. Mae cyflawni FMPau yn parhau i fod yn flaenoriaeth i’r holl awdurdodau polisi pysgodfeydd. Mae FMPau yn cynnwys nodau a mesurau nid yn unig i reoli stociau pysgod penodol, ond hefyd i fynd i’r afael â heriau amgylcheddol, cymdeithasol ac economaidd ehangach a wynebir yn y pysgodfeydd hynny. Mae gwaith yn mynd rhagddo i ddatblygu prosesau monitro hirdymor ar gyfer FMPau cyhoeddedig, a fydd yn rhoi dealltwriaeth well o’r heriau a’r buddion hyn, a bydd allbynnau o’r prosesau hyn yn cael eu defnyddio i fireinio cynlluniau wrth i amser fynd heibio.
Yr amcan rhagofalus
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan rhagofalus yw –
- bod pysgodfeydd yn cael eu rheoli mewn modd rhagofalus, a
- bod stociau morol yn cael eu pysgota mewn modd sy’n adfer ac yn cynnal poblogaethau’r rhywogaethau sy’n cael eu cywain uwchlaw’r lefelau biomas sy’n gallu cynhyrchu’r cynnyrch cynaliadwy mwyaf.”
Mae cymhwyso’r amcan rhagofalus yn atal yr awdurdodau polisi pysgodfeydd rhag gohirio mesurau rheoli neu beidio â’u rhoi ar waith i warchod rhywogaethau a’u hamgylcheddau mewn achosion pan na fydd digon o wybodaeth wyddonol ar gael.
Mae TACau y cytunwyd arnynt mewn trafodaethau gyda Gwladwriaethau arfordirol eraill wedi’u seilio ar y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael. Mae hyn yn dangos bod rheolaeth ragofalus yn cryfhau gan ei fod yn sicrhau eu bod yn cael eu gosod ar lefel a ddylai, yn ôl y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael, ddarparu cynnydd tuag at adfer a/neu gynnal stociau’n uwch na lefelau biomas, lle bynnag y bo’n bosibl. Mae Defra yn cyhoeddi asesiad blynyddol o gynaliadwyedd terfynau dalfa pysgodfeydd a drafodwyd (https://www.gov.uk/government/publications/assessing-the-sustainability-of-fisheries-catch-limits-negotiated-by-the-uk-for-2025), a gynhyrchwyd gan Cefas. Mae hyn yn dangos tuedd gyffredinol o welliant cymedrol yn ystod y cyfnod adrodd o ran nifer y TACau a osodwyd yn unol â’r cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael (gan gynnwys cyngor ar MSY).
Pan nad oes digon o dystiolaeth, nid yw’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi gohirio gwneud penderfyniadau rheoli anodd, gan ddefnyddio tystiolaeth ddirprwyol i wneud penderfyniadau, lle bo’n addas. Er enghraifft, yng Nghymru, cyflwynwyd dulliau rheoli addasol penodol i rywogaeth sy’n caniatáu i Lywodraeth Cymru sicrhau y gellir amrywio mesurau mewn modd prydlon i ymateb i sylfaen dystiolaeth sy’n newid.
Disgrifir cynnydd ar wella’r sylfaen dystiolaeth o dan yr amcan tystiolaeth wyddonol.
Defnyddir y dystiolaeth wyddonol orau sydd ar gael i ddatblygu polisïau, camau gweithredu, nodau a mesurau mewn FMPau. Pan nad oes digon o dystiolaeth i asesu MSY, mae’r FMPau, ochr yn ochr â nodau a chamau gweithredu penodol, yn cynnwys ymrwymiadau i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth yn y dyfodol, ac mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i amlygu’r rhain a mynd i’r afael â nhw.
Yr amcan ecosystem
Yn ôl y Ddeddf, ‘Yr amcan ecosystem yw –
- bod gweithgareddau pysgota a dyframaethu’n cael eu rheoli ar sail ecosystem er mwyn sicrhau bod eu heffeithiau negyddol ar ecosystemau’r môr yn cael eu cadw mor fach â phosibl a, lle bo’n bosibl, eu gwyrdroi, a
- bod cyn lleied o rywogaethau sensitif â phosibl yn cael eu dal yn ddamweiniol, a bod hynny’n cael ei osgoi’n llwyr os oes modd.”
Yn unol â’r BMI, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi datblygu gwaith ymchwil a monitro i wella ein dealltwriaeth o rywogaethau morol sensitif sy’n cael eu sgil-ddal yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, a gweithio mewn partneriaeth â’r sector pysgota i leihau nifer y rhywogaethau morol sensitif sy’n cael eu dal yn ddamweiniol mewn pysgodfeydd.
Gan ddefnyddio dull wedi’i seilio ar ecosystem trwy fesurau rheoli wedi’u targedu, rydym wedi gwneud cynnydd wrth gryfhau gwydnwch ecosystemau. Er enghraifft, penderfynodd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd perthnasol gau pysgodfeydd llymrïaid yn nyfroedd Môr y Gogledd Lloegr a holl ddyfroedd yr Alban. Arweiniodd hyn at ganlyniadau pendant a luniwyd i warchod dynameg gwe fwyd ehangach a chefnogi rhywogaethau morol sy’n dibynnu ar lymrïaid.
Mae cynlluniau cyllido hefyd wedi cyfrannu at welliannau amgylcheddol ymarferol trwy gefnogi mentrau fel casglu sbwriel morol. Mae’r ymdrechion hyn wedi helpu i leihau pwysau llygredd a chynnal cynefinoedd morol iachach.
Mae datblygu rhwydwaith MPA y Deyrnas Unedig wedi helpu i ddiogelu ecosystemau cyfan a chynefinoedd allweddol yn llwyddiannus, gan gynnwys gwelyau morwellt, maerl, fforestau lludwymon a systemau riff, gan eu hamddiffyn rhag gweithgarwch pysgota niweidiol.
Mae ystod o fentrau llwyddiannus sy’n canolbwyntio ar ecosystemau a ddatblygwyd gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cyfrannu tuag at gyflawni Statws Amgylcheddol Da, hefyd. Mae ymchwil a ariannwyd gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi gwella’r ddealltwriaeth o gynefinoedd carbon glas, addasu i’r hinsawdd a buddion dyframaethu i ecosystemau, gan gryfhau rheolaeth wedi’i seilio ar dystiolaeth.
Yn ogystal, mae FMPau cyhoeddedig yn dangos bod egwyddorion rheoli ecosystemau wedi’u hymgorffori mewn polisi ac ymarfer pysgodfeydd drwyddo draw.
Yr amcan tystiolaeth wyddonol
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan tystiolaeth wyddonol yw –
- bod data gwyddonol sy’n berthnasol i reoli gweithgareddau pysgota a dyframaethu yn cael ei gasglu,
- lle bo’n briodol, bod yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn cydweithio i gasglu a rhannu data gwyddonol o’r fath, a
- bod gweithgareddau pysgota a dyframaethu’n cael eu rheoli yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael.”
Er mwyn sicrhau bod dulliau o reoli gweithgareddau pysgota a dyframaethu’n cael eu llywio gan y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymgysylltu’n helaeth â sefydliadau gwyddonol, y diwydiannau pysgota a dyframaethu, sefydliadau amgylcheddol a phartneriaid rhyngwladol i gefnogi dysgu a rennir, hyrwyddo cysondeb methodolegol a gwella mynediad at ddata. Mae hyn yn cynnwys gwaith wedi’i gydlynu trwy Grŵp Llywio Gwyddor a Thystiolaeth Pysgodfeydd y Deyrnas Unedig, mentrau ymchwil ar y cyd, a gwelliannau i hygyrchedd data ar gyfer rheoleiddwyr a’r cyhoedd.
I gyflawni’r amcan, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi casglu a rhannu data gwyddonol ac wedi gwneud penderfyniadau rheoli yn seiliedig ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael. Dangosir hyn gan y ffaith bod y Deyrnas Unedig yn trafod TACau yn flynyddol gan ddefnyddio arweiniad gwyddonol o ansawdd uchel a chydweithio â phartneriaid rhyngwladol i gyfnewid data hanfodol.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi monitro gweithgarwch pysgota’n barhaus, sy’n darparu tystiolaeth gadarn ynglŷn â pha bysgod sy’n cael eu cymryd o ddyfroedd y Deyrnas Unedig a’u tarddleoedd. Mae’r wybodaeth hon yn allweddol i ffurfio strategaethau rheoli stoc effeithiol.
Er mwyn gwella’r sylfaen dystiolaeth, gwnaed cynnydd wrth fonitro pysgodfeydd ar hyd y cyfnod adrodd, sy’n sicrhau bod data cadarn am bysgodfeydd yn cael ei gasglu i lywio’r broses o gymhwyso’r egwyddor ragofalus i’w polisïau. Mae hyn yn cynnwys ehangu’r defnydd o VMS, REM, cofnodi dalfeydd ac iVMS ar draws yr awdurdodau polisi pysgodfeydd unigol.
Mae datblygu rhwydwaith MPA y Deyrnas Unedig hefyd wedi dangos bod yr amcan tystiolaeth wyddonol yn cael ei gymhwyso’n gadarn, gan ei fod wedi cael ei lywio gan ddata gwyddonol a thystiolaeth am weithgarwch pysgota a gasglwyd trwy brosesau ymgynghori ffurfiol. Yn ogystal, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i gasglu gwybodaeth am weithgarwch pysgota hamdden trwy fesurau adrodd gwirfoddol.
Mae FMPau yn cefnogi’r amcan tystiolaeth wyddonol ymhellach trwy ddibynnu ar y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael i lywio polisïau, nodau, camau gweithredu a mesurau sy’n ceisio adfer neu gynnal stociau pysgod ar lefelau cynaliadwy. Mae gwaith yn parhau i fynd i’r afael â’r bylchau tystiolaeth mwyaf arwyddocaol trwy brosiectau ymchwil wedi’u targedu.
Yr amcan sgil-ddalfa
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan sgil-ddalfa yw –
- lleihau neu osgoi sgil-ddal pysgod sydd o dan y maint cyfeirio cadwraethol lleiaf, a sgil-ddalfeydd eraill diangen,
- bod dalfeydd yn cael eu cofnodi ac y cyfrifir amdanynt, a
- bod y sgil-ddalfa bysgod yn cael ei glanio, ond dim ond pan fydd hynny’n briodol ac (yn arbennig) nad yw’n cymell pysgotwyr i ddal pysgod sydd o dan y maint cyfeirio cadwraethol lleiaf.”
Er mwyn cyfrannu at yr amcan hwn, mae’r Deyrnas Unedig wedi sicrhau bod sgil-ddalfa’n cael ei lleihau trwy osod safonau detholus lleiaf ar gyfer offer pysgota. Mae’r Polisi Dal ar gyfer y Dyfodol sy’n cael ei ddatblygu gan Lywodraeth yr Alban yn ceisio datblygu mesurau detholus ymhellach lle y bo’r angen. Mae mesurau ychwanegol yn cynnwys gosod TACau sgil-ddalfa yn aml trwy drafodaethau er mwyn lleihau risg dal pysgod nad oes eu hangen a sicrhau bod sgil-ddalfa na ellir ei hosgoi yn cael ei chofnodi a’i glanio, a mentrau monitro a lliniaru.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd o’r farn bod mesurau monitro, rheoli a goruchwylio’r Deyrnas Unedig wedi cyfrannu at yr amcan trwy helpu i gynyddu’r ddealltwriaeth o batrymau ac achosion sgil-ddalfa. Mae defnyddio VMS, iVMS, REM a menter Cyfrif Dalfeydd Defra hefyd yn rhoi darlun mwy cywir o batrymau sgil-ddalfa a physgod sy’n cael eu lladd, gan gefnogi ymyriadau mwy penodol a galluogi’r Deyrnas Unedig i gyfrif yn llawnach am ddalfeydd, gan gynnwys sgil-ddalfa na ellir ei hosgoi.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd o’r farn bod cynnydd wedi’i wneud o ran annog arloesedd o fewn y sector trwy dreialon cwota domestig, sydd wedi bod yn effeithiol trwy wobrwyo pysgotwyr sy’n defnyddio offer detholus ac arloesol. Mae’r dull hwn yn hyrwyddo arferion pysgota mwy cynaliadwy yn uniongyrchol trwy leihau effeithiau niweidiol ar ecosystemau morol gymaint â phosibl a lleihau sgil-ddalfa.
Ar lefel ryngwladol, mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi eirioli o blaid mesurau cryfach mewn ymgysylltiadau rhyngwladol, fel ICCAT ac IOTC, sy’n osgoi neu’n lleihau dal pysgod islaw MCRS a rhywogaethau eraill sensitif fel siarcod ac adar môr. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd o’r farn eu bod yn gwneud cynnydd tuag at yr amcan hwn trwy eu polisïau IUU, sy’n gweithio tuag at osgoi sgil-ddal trwy sicrhau bod dalfeydd yn cael eu cofnodi ac y cyfrifir amdanynt.
Mae FMPau yn atgyfnerthu’r ymdrechion hyn trwy amlinellu nodau a mesurau i leihau sgil-ddal rhywogaethau nad ydynt yn rhai targed a chyfyngu ar daflu pysgod rhy fach yn ôl i’r môr. Mae’r mesurau hyn yn cynnwys gosod terfynau maint priodol, ystyried polisïau i leihau taflu pysgod yn ôl i’r môr a lliniaru sgil-ddal rhywogaethau morol sensitif, annog adroddiadau cywir trwy’r Ap Dalfeydd, a hyrwyddo technolegau arloesol fel REM i fonitro dalfeydd yn well.
Yr amcan mynediad cyfartal
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan mynediad cyfartal yw na effeithir ar hawl cychod pysgota’r Deyrnas Unedig i fynd i unrhyw ardal o fewn terfynau pysgota Prydain gan –
- leoliad porthladd cartref y cwch pysgota, nac
- unrhyw rai eraill o gysylltiadau’r cwch pysgota neu unrhyw un o’i berchnogion, ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig.”
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd o’r farn eu bod yn cyflawni’r amcan hwn trwy fesurau arfaethedig, neu fesurau a gyflwynwyd, sy’n sicrhau nad yw lleoliad porthladd cartref neu borthladd cofrestru cychod pysgota’r Deyrnas Unedig yn effeithio ar eu mynediad i unrhyw ardal o ddyfroedd y Deyrnas Unedig. Dylai unrhyw gyfyngiadau ar allu cwch i bysgota mewn ardal gael eu seilio ar feini prawf gwrthrychol a’r angen i warchod stociau a’r amgylchedd morol.
Bydd unrhyw bolisïau newydd yn y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu’r ymrwymiad hwn. Yn ogystal, mae unrhyw ymyriadau rheoli mewn FMPau cyhoeddedig yn berthnasol i’r un graddau i’r holl gychod yn yr ardal bysgota sy’n ddarostyngedig i gynllun, a bydd y dull hwn yn parhau ar gyfer yr FMPau hynny a gyhoeddir yn y dyfodol.
Yr amcan budd cenedlaethol
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan budd cenedlaethol yw bod gweithgareddau pysgota cychod pysgota’r Deyrnas Unedig yn dod â buddiannau cymdeithasol neu economaidd i’r Deyrnas Unedig neu unrhyw ran ohoni.”
A hithau’n Wladwriaeth arfordirol, mae’r Deyrnas Unedig wedi sicrhau buddion nodedig i fflyd y Deyrnas Unedig, ac felly cymunedau pysgota, trwy drafodaethau blynyddol. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau â’r Undeb Ewropeaidd, Gwladwriaethau arfordirol eraill fel Norwy ac mewn sefydliadau rhyngwladol fel ICCAT, lle y sicrhaodd y Deyrnas Unedig gynnydd i’r cwota tiwna asgell las o 63 o dunelli i 231 o dunelli yn 2025.
Mae treialon cwota domestig wedi dyrannu cwota yn seiliedig ar y buddion cymdeithasol ac economaidd sy’n deillio o’r gweithgarwch pysgota cysylltiedig, gan annog mwy o fudd economaidd i’r Deyrnas Unedig. Mae mesurau polisi masnach yr awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd yn annog proseswyr i ddefnyddio cynnyrch a ddaliwyd neu a gyweiniwyd yn y Deyrnas Unedig, os yw ar gael ac yn addas, i hybu cynhyrchu domestig.
Mae’r Pecyn Allforion Bwyd Môr wedi helpu i gynnal a thyfu mynediad i’r farchnad, wrth i’r Alban yn unig allforio £1.2 biliwn o fwyd môr yn 2024, sy’n cynrychioli 55% o gyfanswm allforion bwyd y Deyrnas Unedig. Mae amodau cyswllt economaidd diwygiedig yn yr Alban (a ddaeth i rym yn 2023) hefyd wedi arwain at lanio gwerth tua £58 miliwn o fecryll a phenwaig yn yr Alban yn 2023 a 2024.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd wedi cyflwyno cymhellion i gynyddu gweithlu domestig y diwydiant pysgota a hybu twf economïau rhanbarthol ac arfordirol ar y tir ac ar y môr.
Mae’r sector dyframaethu yn gwneud cyfraniad sylweddol at economi’r Deyrnas Unedig a chymunedau arfordirol, yn enwedig trwy fasnach, cyflogaeth a buddsoddiad, ac mae eogiaid wedi’u ffermio wedi atgyfnerthu ei safle fel allforion bwyd mwyaf y Deyrnas Unedig o fewn cyfnod yr adroddiad hwn.
Mae FMPau yn blaenoriaethu nifer o rywogaethau o ganlyniad i’w gwerth economaidd a chymdeithasol ac maen nhw’n cynnwys camau rheoli i warchod y stociau hyn. Mae hyn yn sicrhau eu bod wedi’u cydbwyso’n briodol i ddarparu cynaliadwyedd hirdymor i’r cymunedau pysgota sy’n dibynnu arnynt.
Yr amcan newid hinsawdd
Yn ôl y Ddeddf, “Yr amcan newid hinsawdd yw –
- bod effeithiau andwyol gweithgareddau pysgota a dyframaethu ar y newid yn yr hinsawdd yn cael eu cadw mor fach â phosibl, a
- bod gweithgareddau pysgota a dyframaethu yn addasu i’r newid yn yr hinsawdd.”
Mae prosiectau ymchwil a datblygu yn y Deyrnas Unedig yn gwneud cynnydd wrth gasglu data am newid hinsawdd a’r hyn sy’n effeithio arno, yn enwedig effaith offer pysgota penodol ar gynefinoedd morol a graddau ac effaith asideiddio cefnforoedd. Mae’r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i lywio mesurau rheoli yn y dyfodol i helpu i addasu i effeithiau newid hinsawdd, a’u lliniaru.
Mae dull y Deyrnas Unedig o osod TAC yn dangos bod yr amcan newid hinsawdd yn cael ei gymhwyso’n gadarn. Mae’r broses o osod TAC yn cael ei harwain gan y cyngor gwyddonol gorau sydd ar gael gan ICES ac mae’n ystyried newid hinsawdd fel ffactor sy’n achosi pwysau penodol.
Mae mesurau a gefnogwyd neu a gynigiwyd gan yr awdurdodau polisi pysgodfeydd mewn fforymau rhyngwladol yn cyfrannu at yr amcan trwy sicrhau bod effeithiau andwyol gweithgareddau pysgota a dyframaethu yn y moroedd mawr yn cael eu lleihau gymaint â phosibl, a bod y gweithgareddau hyn yn gallu addasu i’r newid yn yr hinsawdd. Mae’r bysgodfa tiwna asgell las yn y Deyrnas Unedig yn enghraifft o stoc newydd yn ein dyfroedd y mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd yn sicrhau ei bod yn cael ei rheoli’n gynaliadwy o’r dechrau trwy ganiatáu pysgodfa gyfyngedig yn unig.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd o’r farn bod datblygu rhwydwaith MPA y Deyrnas Unedig yn dangos cynnydd wrth warchod cynefinoedd sy’n bwysig i storio carbon yn y tymor hir a’r rhai sy’n bwysig i amddiffyn rhag llifogydd ac erydu. Mae mesurau rheoli sydd ar waith yn cyfrannu at ddiogelu cynefinoedd sy’n allweddol i fioamrywiaeth a storio carbon glas, gan wella gwydnwch hinsawdd a lleihau effeithiau niweidiol gweithgareddau pysgota a dyframaethu ar newid hinsawdd gymaint â phosibl.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi parhau i ysgogi datblygiad cynaliadwy’r sector dyframaethu. Mae gan ddyframaethu rôl bwysig i’w chwarae wrth gyflawni sero net ac addasu i’r heriau sy’n deillio o’r newid yn yr hinsawdd. Mae Defra wedi ariannu ymchwil i’w fuddion i ecosystemau er mwyn datblygu dealltwriaeth o’r potensial hwn, a allai helpu i liniaru effeithiau’r hinsawdd yn y dyfodol.
Mae mesurau masnach y Deyrnas Unedig wedi gwneud cynnydd tuag at yr amcan hwn hefyd trwy annog mewnforwyr bwyd môr i ystyried eu hôl troed carbon a’i leihau ymhellach trwy ddefnyddio ynni adnewyddadwy a mesur allyriadau carbon ar gyfer eu busnesau gydag offer carbon. Bydd hyn yn lleihau effeithiau’r sector bwyd môr ar newid hinsawdd gymaint â phosibl.
Mae FMPau yn cynnwys nodau polisi a chamau gweithredu sy’n ceisio lliniaru effaith newid hinsawdd a helpu’r diwydiant i addasu iddi.
6.2 Gwaith yn y dyfodol
Bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i gyflawni polisïau’r JFS trwy arfer eu swyddogaethau ac yn unol â’r amcanion pysgodfeydd. Er bod llawer o waith wedi cael ei wneud i weithredu polisïau’r JFS, mae mwy i’w wneud o hyd, ac amlinellir rhai enghreifftiau o waith disgwyliedig isod. Mewn rhai achosion, mae’n bosibl y bydd cynnydd wedi’i wneud ar y gwaith y cyfeirir ato yn yr adran hon; bydd unrhyw ddatblygiadau’n cael eu cynnwys yn yr adroddiad JFS nesaf ar gyfer y cyfnod o fis Tachwedd 2025 i fis Tachwedd 2028.
Bydd gwaith yn parhau ar draws yr awdurdodau polisi pysgodfeydd i ddatblygu ac ymgynghori ar y 32 FMP sy’n weddill yn Atodiad A y JFS, nad ydynt wedi’u cyhoeddi eto.
Bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i lunio a chyflwyno cynlluniau cyllido yn unol â’u blaenoriaethau polisi pysgodfeydd a dyframaethu, a chyflawni’r uchelgeisiau sy’n deillio o’r JFS.
Bydd y Deyrnas Unedig yn parhau i weithio i sicrhau canlyniadau o drafodaethau rhyngwladol yn ymwneud â stociau cwota sy’n cefnogi eu cynaliadwyedd hirdymor ar yr un pryd â chydbwyso’r angen i sicrhau diwydiant pysgota ffyniannus. Bydd y Deyrnas Unedig hefyd yn parhau i gymryd rhan mewn trafodaethau i ddatblygu ail ran cytundeb yr WTO ar wahardd cymorthdaliadau pysgodfeydd niweidiol.
Er mwyn parhau i fonitro gweithgarwch pysgota’n effeithiol yn nyfroedd y Deyrnas Unedig, mae Defra yn bwriadu ehangu’r defnydd o REM yn nyfroedd Lloegr trwy broses weithredu fesul cam. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn gweithio i gynyddu’r defnydd o systemau monitro cychod (yn enwedig VMS ar gyfer cychod dros 12m) a systemau REM yng Nghymru, a’r buddion sy’n deillio ohonynt. Mae DAERA yn bwriadu gweithredu iVMS yn ehangach ar draws fflyd cychod llai na 12m Gogledd Iwerddon i wella tystiolaeth ofodol, cryfhau gweithgarwch cydymffurfio, a chefnogi penderfyniadau cynllunio morol a physgodfeydd yn y dyfodol, tra bod Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo i sicrhau bod iVMS ar waith ar gyfer yr holl gychod llai na 12m yn yr Alban erbyn diwedd 2026. Bydd Llywodraeth yr Alban hefyd yn ystyried opsiynau ar gyfer cyflwyno REM ymhellach i rannau ychwanegol o’r fflyd.
Bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn diweddaru’r wybodaeth sy’n ofynnol mewn Tystysgrifau Dalfeydd a dogfennau IUU eraill trwy Offeryn Statudol y disgwylir iddo ddod i rym yn 2026. Bydd hyn yn cynyddu’r gallu i olrhain ac yn sicrhau bod allforwyr y Deyrnas Unedig yn gallu parhau i ailallforio bwyd môr sy’n tarddu o wledydd eraill i’r Undeb Ewropeaidd. Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd hefyd yn bwriadu diweddaru Rhestr Cychod IUU y Deyrnas Unedig i sicrhau rheolaethau cadarn ar fewnforion bwyd môr sy’n dod i mewn i’r Deyrnas Unedig.
Disgwylir diweddariadau i Gynlluniau Morol y Deyrnas Unedig. Disgwylir i Gynllun Morol Gogledd Iwerddon gael ei gwblhau’n derfynol erbyn mis Mawrth 2026. Bydd Defra a’r MMO hefyd yn cydweithio â defnyddwyr y môr i ddiweddaru Cynllun Morol y Dwyrain. Mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn parhau i ddatblygu ei NMP2 i gefnogi datblygiad cynaliadwy ei moroedd.
Mae Defra wrthi ar hyn o bryd yn cynnal adolygiad o rwydwaith MPA Lloegr i archwilio ffyrdd o ddiweddaru dulliau amddiffyn a rheoli er mwyn mynd i’r afael â’r argyfwng natur yn well a gwella gwydnwch newid hinsawdd, ar yr un pryd â chefnogi blaenoriaethau’r Llywodraeth, fel twf a diogeledd bwyd. Mae Defra yn ymgysylltu â rhanddeiliaid yn rhan o’r adolygiad o’i rhwydwaith MPA i sicrhau bod effeithiau, buddion a chyfleoedd posibl sy’n cynrychioli gwahanol ddefnyddwyr y môr a’r amgylchedd yn cael eu hystyried.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dynodi Parthau Cadwraeth Morol ychwanegol, a disgwylir ymgynghoriadau cyhoeddus yn 2026. Disgwylir i strategaeth MPA DAERA ar gyfer 2025 i 2030 gael ei chyhoeddi hefyd yn y gwanwyn 2026. Mae Llywodraeth yr Alban yn bwriadu lansio ymgynghoriad 16 wythnos ar MPAau y glannau a’r 11 Nodwedd Forol â Blaenoriaeth sy’n fwyaf agored i fygythiad offer sy’n dod i gysylltiad â’r gwaelod ar ôl Etholiad Seneddol yr Alban ym mis Mai 2026.
Mae Defra hefyd yn datblygu’r defnydd o MPAau fel mesur digolledu amgylcheddol ar gyfer effeithiau datblygiadau ynni gwynt alltraeth ar gynefinoedd benthig, gan weithio’n agored gyda rhanddeiliaid.
Ar ôl i archwiliad carbon o fflyd Cymru gael ei gyhoeddi yn 2026, bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y canlyniadau er mwyn nodi’r prif ffynonellau allyriadau ac amlygu cyfleoedd ar gyfer datgarboneiddio yn y sector yn y dyfodol.
Mae DAERA wrthi ar hyn o bryd yn cwblhau trydedd Raglen Addasu i’r Newid Hinsawdd Gogledd Iwerddon yn derfynol yn barod ar gyfer ei chyhoeddi, ar ôl ymgynghori ar ddrafft yn yr haf 2025.
Mae DAERA wedi datblygu polisi dyframaethu yn rhan o Fil Pysgodfeydd a’r Amgylchedd Dŵr Gogledd Iwerddon, sy’n ceisio cyflwyno proses newydd symlach ar gyfer trwyddedu dyframaethu i sicrhau ei fod yn addas i’r diben ac yn gallu cefnogi datblygiad cynaliadwy’r holl is-sectorau dyframaethu yn y dyfodol.
Mae DAERA hefyd wedi cytuno i weithio gyda rhanddeiliaid y diwydiant i gefnogi newid o’r bysgodfa lusgrwydo draddodiadol i ffynonellau mwy cynaliadwy o grawn cregyn gleision ar gyfer y sector dyframaethu cregyn gleision a dyfir ar y gwaelod. Bydd hefyd yn defnyddio’r argymhellion o brosiect Algâu Cynaliadwy Gogledd Iwerddon a ariannwyd ganddi i helpu i ddatblygu dyframaethu gwymon yng Ngogledd Iwerddon.
O ran pysgota hamdden, bydd Defra a Llywodraeth Cymru yn parhau i hwyluso pysgota am diwna asgell las ar gyfer hamdden yn eu dyfroedd unigol, gan adeiladu ar lwyddiant pysgodfeydd 2024 a 2025. Mae Llywodraeth yr Alban a DAERA yn ystyried pysgodfeydd dal a rhyddhau tiwna asgell las ar gyfer hamdden yn y dyfodol.
Bydd yr awdurdodau polisi pysgodfeydd yn parhau i gynorthwyo allforwyr bwyd môr y Deyrnas Unedig i gydymffurfio â rheoliadau IUU newydd yr Undeb Ewropeaidd, a ddaeth i rym ar 10 Ionawr 2026. Mae gwaith hefyd yn mynd rhagddo i integreiddio FES â system CATCH yr Undeb Ewropeaidd er mwyn hwyluso trosglwyddo gwybodaeth yn ddigidol i sicrhau bod allforion bwyd môr y Deyrnas Unedig yn aros yn ddeniadol.
Bydd Defra yn parhau i weithio i agor marchnadoedd newydd ar gyfer bwyd môr y Deyrnas Unedig, ac mae’r Deyrnas Unedig yn gobeithio trafod Cytundebau Masnach Rydd gyda gwledydd fel De Korea, y Swistir a Gwladwriaethau Cyngor Cydweithredol y Gwlff.
Mae Llywodraeth yr Alban yn paratoi i ymgynghori ar fodel rheoli newydd ar gyfer pysgodfeydd y glannau. Nod y fenter Gwella Rheolaeth ar Bysgodfeydd y Glannau hon yw cyflawni cynaliadwyedd hirdymor, gwella ymatebolrwydd i dystiolaeth sy’n dod i’r amlwg, ac adlewyrchu blaenoriaethau rhanbarthol yn well.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu tystiolaeth ar gyfer asesiadau stoc i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor stociau allweddol Cymru. Yn ogystal, disgwylir canlyniadau ymchwil gymdeithasol ac economaidd ynglŷn â rhywogaethau pysgod a physgod cregyn dethol sydd o bwysigrwydd masnachol a hamdden ym mharth Cymru erbyn diwedd mis Mawrth 2026. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r rhain i lywio’r broses o gyflwyno systemau rheoli addasol ar gyfer pysgodfeydd a ganiateir a datblygu a gweithredu FMP, a ffurfio llinell sylfaen i fesur effeithiau ymyriadau mewn pysgodfeydd.
Bydd yr awdurdodau pysgodfeydd cenedlaethol yn parhau i gyflawni’r ymrwymiadau a wnaed mewn FMPau cyhoeddedig, gan ymgorffori nodau a mesurau o’r cynlluniau hynny mewn rhaglenni gwaith. Er enghraifft, cytunir ar gamau pellach i reoli’r bysgodfa cregyn bylchog yng Nghymru yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus. Mae prosiectau ymchwil ychwanegol yn cael eu comisiynu hefyd i fynd i’r afael â bylchau tystiolaeth mewn FMPau.
Mae’r awdurdodau polisi pysgodfeydd wedi ymrwymo i werthuso’r polisïau a weithredir ganddynt yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn addas i’r diben ac yn parhau i gyfrannu at yr amcanion pysgodfeydd.