Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 9: atwrneiaethau a thir cofrestredig

Diweddarwyd 18 December 2023

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Pan fyddwn yn cofrestru dogfen wedi ei harwyddo gan atwrnai, rhaid i ni fod yn siwr fod y ddogfen yn rhwymo’r unigolyn neu’r cwmni y cafodd ei harwyddo ar ei ran. Gwneir hyn trwy sicrhau’r canlynol am yr atwrneiaeth:

  • y cafodd ei chyflawni’n ddilys fel gweithred
  • yr oedd mewn grym o hyd ar ddyddiad y ddogfen
  • ei bod yn awdurdodi’r atwrnai i gymryd y camau o dan sylw
  • lle bo angen, iddi gael ei gwneud o dan y ddarpariaeth statudol gywir

Ceir achosion lle, er nad yw’r atwrneiaeth yn cwrdd â’r gofynion hyn, y gall yr unigolyn oedd yn dibynnu ar y ddogfen gymryd i’r atwrneiaeth gael ei gwneud yn gywir neu ei bod mewn grym o hyd ar yr adeg y cafodd ei defnyddio. Bryd hynny, mae’n bosibl y bydd angen tystiolaeth gadarnhaol gan yr unigolyn hwnnw.

Pa fo unigolyn yn cyflawni gweithred, rhaid iddo fod yn glir yr arwyddir y ddogfen fel gweithred a rhaid arwyddo ym mhresenoldeb tyst sy’n ardystio’r llofnod. Mae cyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd yn ymdrin yn fanwl â chyflawni gweithredoedd gan wahanol bersonau cyfreithiol.

Er bod yn rhaid i enw’r atwrnai ymddangos yn y cymal gweithredu, nid oes angen i’w enw ymddangos yn y panel perthnasol fel trosglwyddwr/prydleswr/morgeisiwr (neu fel trosglwyddai neu brydlesai lle mae’r rhoddwr yn caffael yr eiddo ac felly ef yw’r person sydd â hawl i gael ei gofrestru). Felly, er enghraifft, rhaid i enw’r rhoddwr ymddangos fel y trosglwyddwr ym mhanel 4 ffurflen TR1.

Nid yw’r cyfarwyddyd hwn yn ymdrin â’r materion cysylltiedig cymhlethach pan fo atwrneiaeth yn cael ei rhoi o dan gyfraith awdurdodaeth arall. Mewn achos o’r fath, mae’n bosibl y byddwn am gael barn am y materion a nodir uchod gan gyfreithiwr gyda chymwysterau yn yr awdurdodaeth honno. Mae adran 4 o gyfarwyddyd ymarfer 78: cwmnïau tramor a phartneriaethau atebolrwydd cyfyngedig yn cynnwys manylion pellach am y gofynion pan fo’r endid sy’n rhoi’r atwrneiaeth yn gwmni tramor. Mae cyflawni o dan atwrneiaeth dramor yn cynnwys manylion y gofynion pan fo unigolyn yn rhoi atwrneiaeth o dan gyfreithiau awdurdodaeth heblaw Cymru a Lloegr.

2. Mathau o atwrneiaethau

2.1 Atwrneiaethau cyffredinol o dan adran 10 o Ddeddf Atwrneiaeth 1971

Mae Deddf Atwrneiaeth 1971 yn darparu ffurf fer o atwrneiaeth gyffredinol y gellir ei defnyddio gan unig berchennog llesiannol tir. Mae’n gweithredu i roi awdurdod i’r atwrnai wneud unrhyw beth y gall y rhoddwr ei wneud yn gyfreithiol trwy atwrnai. Fodd bynnag, nid yw atwrneiaethau yn y ffurf honno wedi eu dyddio cyn 1 Mawrth 2000 fyth yn addas ar gyfer delio â thir y mae’r rhoddwr yn gydberchennog arno. Gellir defnyddio’r rhai sydd wedi eu dyddio ar ôl 29 Chwefror 2000 gan gydberchennog dim ond os oes gan y rhoddwr fudd llesiannol yn y tir. Bydd marwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr yn diddymu’r atwrneiaeth ar unwaith. Gall y rhoddwr ei ddiddymu ar unrhyw adeg hefyd.

2.2 Atwrneiaethau cyffredinol a phenodol eraill

Nid oes yn rhaid i berson sydd am benodi atwrnai ddilyn y ffurf a osodir o dan Ddeddf Atwrneiaeth 1971. Yr unig ofyniad caeth yw bod yn rhaid i’r rhoddwr gyflawni’r atwrneiaeth fel gweithred. Gall y rhoddwr ddefnyddio unrhyw ffurf ar eiriad, gan roi atwrneiaeth gyffredinol neu atwrneiaethau cyfyngedig i’r atwrnai weithredu, er enghraifft mewn cysylltiad â thrafodiad arbennig neu ddeliadau ag eiddo penodol. Gellir defnyddio atwrneiaeth nad yw’n dilyn unrhyw ffurf statudol ar ran rhoddwr sy’n gydberchennog o dan yr amodau canlynol yn unig:

  • os yw wedi ei dyddio ar ôl 29 Chwefror 2000
  • os oes gan y rhoddwr fudd llesiannol yn y tir, ac
  • os nad oes awgrym yn yr atwrneiaeth nad oedd y rhoddwr yn bwriadu i’r atwrnai weithredu swyddogaethau ymddiriedolwr

Oni bai ei bod yn atwrneiaeth arwystl, gall y rhoddwr ddiddymu atwrneiaeth o’r fath a bydd marwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr yn ei diddymu ar unwaith.

2.3 Atwrneiaethau arwystl

Atwrneiaeth a fynegir na ellir ei diddymu yw atwrneiaeth arwystl. Fe’i rhoddir i arwystlo:

  • budd perchnogol yr atwrnai
  • cyflawni rhwymedigaeth sy’n ddyledus i’r atwrnai

Tra bo gan y rhoddwr y budd, neu hyd nes y rhyddheir y rhwymedigaeth, gall y rhoddwr ddiddymu’r atwrneiaeth gyda chaniatâd yr atwrnai yn unig, ac nid yw marwolaeth, methdaliad neu anallu meddyliol y rhoddwr yn ei diddymu.

2.4 Atwrneiaethau parhaus

Atwrneiaeth barhaus yw un a wneir gan berson o dan Ddeddf Atwrneiaeth 1985. Diddymwyd (adran 66(1)(b) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005) y Ddeddf hon ac mae’r darpariaethau sy’n berthnasol i atwrneiaethau parhaus nawr wedi’u cynnwys yn Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Nid oes modd creu atwrneiaethau parhaus newydd ar ôl 30 Medi 2007 er y bydd y rhai a grëwyd cyn 1 Hydref 2007 yn parhau mewn grym (adran 66(3) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Mae’n rhaid i atwrneiaeth barhaus fod ar y ffurflen a bennir gan Reoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurflenni Penodedig) 1986, 1987, 1990 neu 2005 neu’r Rheoliadau Atwrneiaethau Parhaus (Ffurflen Benodedig Gymraeg) 2000 fel y bo’n briodol, yn ôl pryd cyflawnwyd yr atwrneiaeth ac ym mha iaith. Rhaid i’r rhoddwr a’r atwrnai gyflawni’r atwrneiaeth yn y dull penodedig ac mae’n rhaid iddo gynnwys ar adeg ei chyflawni y wybodaeth eglurhaol benodedig. Ni all atwrneiaeth sy’n rhoi i’r atwrnai hawl i benodi dirprwy neu olynydd fod yn atwrneiaeth barhaus (Atodlen 4, paragraff 2(6) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Nid yw anallu meddyliol y rhoddwr yn diddymu atwrneiaeth barhaus. Os oes gan yr atwrnai reswm dros gredu bod y rhoddwr yn analluog neu’n dechrau mynd yn analluog, mae’n rhaid iddo wneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth gyda’r Gwarcheidwad Cyhoeddus; gall hwnnw gofrestru’r atwrneiaeth ond, o dan rai amgylchiadau, dim ond trwy gyfarwyddyd y Llys Gwarchod. Ar ôl i’r atwrneiaeth gael ei chofrestru ni ellir ei diddymu ond gan y rhoddwr gyda chadarnhad y Llys Gwarchod, neu ar farwolaeth y rhoddwr, methdaliad y rhoddwr neu’r rhoddai neu gan y Llys Gwarchod. Gellir defnyddio atwrneiaethau parhaus wedi eu dyddio ar ôl 29 Chwefror 2000 ac atwrneiaethau blaenorol a ddefnyddiwyd mewn trafodion dyddiedig ar ôl 28 Chwefror 2000 a wnaed gan un o gydberchnogion dim ond yn yr achosion canlynol:

Neu o ran atwrneiaethau parhaus dyddiedig cyn 1 Mawrth 2000 os yw’r atwrneiaeth wedi ei chofrestru gyda’r Llys Gwarchod yn dilyn cais a wnaed i’r llys cyn 1 Mawrth 2001.

Neu, os yw cais a wnaed i’r llys ar gyfer cofrestru’r atwrneiaeth cyn 1 Mawrth 2001 heb ei wrthod yn derfynol.

Gall atwrnai o dan atwrneiaeth barhaus wneud rhoddion a chyflwyno buddion ar ran y rhoddwr mewn amgylchiadau cyfyngedig yn unig – gweler Atodlen 4, paragraffau 3(2) a 3(3) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Bydd Cofrestrfa Tir EF fel rheol yn gwrthod cofrestru gwarediad yn ymwneud ag elfen o rodd neu fudd (gan gynnwys trafodiad ar werth ymddangosiadol is, neu fenthyciad) sy’n cael ei gyflawni gan atwrneiaeth barhaus oni bai fod y llys wedi awdurdodi’r gwarediad o dan Atodlen 4, paragraff 16(2)(e) i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005.

2.5 Atwrneiaethau Deddf Ymddiriedolwyr

Mae adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925 yn caniatáu i ymddiriedolwr roi atwrneiaeth sy’n dirprwyo ei swyddogaethau fel ymddiriedolwr i’r atwrnai.

Mae adran 25 yn rhoi ffurf fer ar atwrneiaeth sy’n fodd i roddwr unigol ddirprwyo swyddogaethau ymddiriedolwr o dan ymddiried unigol i roddwr unigol. Gall ymddiriedolwyr ddefnyddio ffurfiau eraill. Ni fyddai’r ffurf fer yn briodol er enghraifft lle byddai’r rhoddwr yn dymuno dirprwyo swyddogaethau o dan sawl ymddiried i un atwrnai neu pan fo’n dymuno cyfyngu ystod y swyddogaethau sydd i’w dirprwyo.

Gellir rhoi atwrneiaeth Deddf Ymddiriedolwyr 1925 am gyfnod hyd at 12 mis yn unig. Mae’r cyfnod yn dechrau ar ddyddiad yr atwrneiaeth oni bai ei fod yn nodi dyddiad gwahanol.

Barn Cofrestrfa Tir EF yw y dylid dehongli ‘dyddiad gwahanol’ fel ar neu ar ôl dyddiad gweithredu’r atwrneiaeth.

Gellir defnyddio atwrneiaeth Deddf Ymddiriedolwyr 1925, tra bo mewn grym, i gyflawni gwarediadau o dir ar ran rhoddwr sy’n gydberchennog, os oes gan y rhoddwr fudd llesiannol yn y tir neu beidio. Mae modd rhoi atwrneiaeth o’r fath i atwrnai sydd hefyd yr unig ymddiriedolwr arall o dan yr ymddiried. Serch hynny, lle nad oes dim ond 2 ymddiriedolwr, byddai’n ddoeth penodi trydydd parti oherwydd, fel yr eglurir yn Cydberchnogion: derbynebau am arian cyfalaf, ni fydd modd i ymddiriedolwr sy’n gweithredu fel atwrnai ar ran yr unig gyd-ymddiriedolwr arall roi derbynebau dilys am arian cyfalaf.

2.6 Atwrneiaeth a roddwyd gan yr holl ymddiriedolwyr i fuddiolwr o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Gall holl ymddiriedolwyr ymddiried tir gyda’i gilydd benodi buddiolwr neu’r buddiolwyr i weithredu eu swyddogaethau ynglŷn â’r tir. Ond ni all yr atwrnai roi derbynneb am yr arian cyfalaf, felly byddai’n rhaid i’r ymddiriedolwyr ymuno ag unrhyw warediad o’r tir pan fyddai angen derbynneb o’r fath. Mae’n annhebygol felly cael y math hwn o atwrneiaeth yng nghyd-destun gwarediadau o dir cofrestredig. Gellir ei defnyddio’n effeithiol dim ond pan nad oes arian cyfalaf yn codi, er enghraifft wrth roi prydles am grogrent. Lle defnyddir y math hwn o atwrneiaeth ar gyfer gwarediad cofrestredig, gall y cofrestrydd fynnu tystiolaeth o dan reol 63 o Reolau Cofrestru Tir 2003 bod y person(au) yn delio â’r atwrnai:

  • wedi gweithredu’n ddidwyll
  • heb wybod ar adeg cwblhau’r trafodiad nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid dirprwyo iddo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr ynglŷn â’r tir y mae’r cais yn cyfeirio ato o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996

Ar yr achlysuron prin pan fo’r cofrestrydd yn mynnu’r dystiolaeth hon, rhaid ei darparu ar ffurflen 3 (gweler Atodiad C) gan fod naill ai’n ddatganiad statudol neu’n ddatganiad o wirionedd gan y person sy’n delio â’r atwrnai neu yn dystysgrif a roddwyd gan drawsgludwr y person. Os yw’r cofrestrydd hefyd yn mynnu tystiolaeth nad yw wedi ei diddymu (gweler Atwrneiaethau sy’n hŷn na 12 mis oed: tystiolaeth nad yw’r atwrneiaeth wedi ei diddymu) rhaid defnyddio ffurflen 2.

2.7 Atwrneiaethau arhosol

Mae atwrneiaethau arhosol wedi disodli atwrneiaethau parhaus fel y prif ddull o ddewis rhywun i wneud penderfyniadau os yw unigolyn yn mynd yn analluog. Gall rhoddwr benodi atwrnai i wneud penderfyniadau ynghylch ei les bersonol, yn ogystal â’i eiddo a materion ariannol, ar gyfer amser pan na fydd yn gallu gwneud y fath benderfyniadau ei hun.

Gellir defnyddio atwrneiaethau arhosol mewn perthynas ag eiddo a materion ariannol cyn ac ar ôl i’r rhoddwr fynd yn analluog, yn dibynnu ar eu dymuniadau. Os yw’r rhoddwr wedi nodi yn yr atwrneiaeth arhosol mai dim ond ar ôl iddo golli galluedd y gall yr atwrnai weithredu, ar gyfer unrhyw warediad gan yr atwrnai, mae angen cadarnhad ysgrifenedig arnom gan feddyg neu ymarferydd arbenigol iechyd meddwl bod y rhoddwr wedi colli ei alluedd. Ymhob achos, mae’n rhaid cofrestru atwrneiaeth arhosol gyda Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus cyn y gellir ei defnyddio. Rhaid i’r sawl sy’n gwneud cais i gofrestru’r atwrneiaeth gyflwyno rhybudd yn gyntaf. Wrth weithredu o dan atwrneiaeth arhosol, rhaid i atwrneiod gymhwyso’r egwyddorion o dan God Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol 2005 a, lle bo’n briodol, rhaid iddynt weithredu er lles gorau’r unigolyn sy’n analluog wrth wneud penderfyniad penodol.

Mae’n rhaid i roddwr atwrneiaeth arhosol yn berthnasol i eiddo a materion ariannol fod dros 18 oed a rhaid ei fod yn gallu cyflawni atwrneiaeth arhosol. Rhaid i’r rhoddai fod dros 18 oed a heb fod yn fethdalwr neu’n gorfforaeth ymddiried. Mae modd penodi atwrneiod ar y cyd i weithredu ar y cyd, ar y cyd ac unigol, neu ar y cyd o ran materion penodol ac ar y cyd ac yn unigol o ran materion eraill. Gall atwrneiaeth arhosol enwebu dirprwy roddai i weithredu o dan amgylchiadau penodol sy’n terfynu penodiad y rhoddai gwreiddiol, (adran 10(8) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005), ond ni all rhoddai benodi dirprwy roddai (adran 10(8)(a)).

Os cofrestrwyd atwrneiaeth arhosol ond na chrëwyd atwrneiaeth arhosol mewn gwirionedd, bydd trafodiad rhwng y rhoddai a rhywun arall yr un mor ddilys o blaid y person hwnnw â phe byddai’r atwrneiaeth wedi bodoli, oni bai i’r person hwnnw wybod ar adeg y trafodiad bod atwrneiaeth arhosol heb ei chreu, neu ei fod yn ymwybodol o amgylchiadau a fyddai wedi terfynu awdurdod y rhoddai i weithredu pe byddai atwrneiaeth arhosol wedi ei chreu (adran 14(3) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005).

Mae rhagdybiaeth derfynol o blaid prynwr, y mae ei fudd yn dibynnu ar ddilysrwydd y trafodiad hwnnw yn rhinwedd yr adran honno, bod y trafodiad yn ddilys naill ai os cwblhawyd y trafodiad o fewn 12 mis o gofrestru’r atwrneiaeth, neu os yw’r prynwr yn gwneud datganiad statudol, cyn neu o fewn tri mis ar ôl cwblhau’r pryniant, nad oedd ganddo/ganddi unrhyw reswm ar adeg y trafodiad dros amau nad oedd gan y rhoddai’r awdurdod i waredu’r eiddo a oedd yn destun y trafodiad (adran 14(4) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). At ddibenion cofrestru tir o dan reol 62 o Reolau Cofrestru Tir 2003, gall y datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd fod ar ffurflen 2 Atodlen 3 i Reolau Cofrestru Tir 2003 (gweler Atodiad B).

Mae manylion llawn y gofynion mewn perthynas â pharatoi a chofrestru atwrneiaethau arhosol i’w gweld yn Rheoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 fel y’u newidiwyd gan Reoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2007 (Newidiad) 2009 a Rheoliadau Atwrneiaethau Arhosol, Atwrneiaethau Parhaus a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus 2015.

Nid yw atwrneiaeth arhosol sy’n ymwneud ag eiddo a materion ariannol yn awdurdodi’r atwrnai i wneud rhoddion o eiddo’r rhoddwr ac eithrio i’r graddau y cyfeirir at y mater yn adran 12(2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 neu a awdurdodwyd gan y Llys Gwarchod o dan adran 23(4) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Mae hyn yn caniatáu i’r atwrnai wneud rhoddion o dan yr un amgylchiadau â’r rhai a amlinellwyd yn Atwrneiaethau parhaus. Fodd bynnag, bydd rhodd o eiddo’r rhoddwr y tu allan i gwmpas adran 12(2) a heb sancsiwn y Llys Gwarchod yn ddi-rym (gweler Chandler v Lombardi [2022] EWHC 22 (Ch.)).

3. Atwrneiod ar y cyd ar gyfer unig berchennog (sydd wedi goroesi) lle ceir cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr

Lle ceir unig berchennog cofrestredig neu unig berchennog cofrestredig sydd wedi goroesi a cheir cyfyngiad Ffurf A yn y gofrestr a chaiff trosglwyddiad ei gyflawni gan ei atwrneiod ar y cyd, er bod 2 (neu ragor) o atwrneiod wedi cyflawni’r trosglwyddiad, maent yn atwrneiod ar gyfer un perchennog ac nid ydynt yn ymddiriedolwyr yr ystad gyfreithiol neu â hawl i gael eu cofrestru fel perchnogion. O ganlyniad, mae’r trosglwyddiad i bob pwrpas gan unig berchennog a chaiff ei ddal gan gyfyngiad Ffurf A, ac nid yw darpariaethau gorgyrhaeddol Deddf Cyfraith Eiddo 1925 yn cael eu bodloni.

Mae’n bosibl penodi ymddiriedolwr newydd i weithredu gyda’r atwrneiod er mwyn gorgyrraedd y buddion llesiannol a chaniatáu i’r cyfyngiad gael ei ddileu yn awtomatig. Fel arall, efallai y bydd modd gwneud cais i ddileu’r cyfyngiad, er enghraifft os yw’r perchennog unigol (sydd wedi goroesi) wedi meddu ar yr eiddo’n gyfreithiol a llesiannol ac unigol. Gweler adran 6.2 o gyfarwyddyd ymarfer 24 am ragor o wybodaeth am y dystiolaeth sy’n ofynnol i gael gwared ar gyfyngiad Ffurf A.

Gan ei bod yn ymddangos bod yr unig berchennog cofrestredig neu’r unig berchennog cofrestredig sy’n goroesi yn ymddiriedolwr (oherwydd ceir cyfyngiad Ffurf A) mae adran 1(1) o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999 yn gymwys – gweler Cydberchnogion: tystiolaeth y bu gan roddwr atwrneiaeth fudd llesiannol.

4. Cydberchnogion: derbynebau am arian cyfalaf

Ar gyfer gwarediadau wedi eu dyddio ar ôl 29 Chwefror 2000, mae adran 7 o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999 yn darparu y bydd y dderbynneb am arian cyfalaf yn gorgyrraedd buddion llesiannol dim ond os yw atwrnai yn gweithredu gydag o leiaf un person arall. Mae hyn yn golygu nad yw cymal derbynneb mewn gwarediad gan gydberchnogion yn dderbyniol os yw’r gwarediad yn cael ei gyflwyno gan un person yn unig fel perchennog ac atwrnai ar gyfer y perchennog/perchnogion eraill, neu gan un person fel atwrnai ar gyfer yr holl berchnogion.

Gall dirprwyo gan 2 neu ragor o ymddiriedolwyr (gan weithredu ar y cyd trwy gyflawni’r un offeryn) i asiant unigol fel atwrnai (“dirprwyo cyfunol” o dan adran 11 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 2000) fod yn effeithiol at ddibenion cofrestru, er mwyn i warediad a gyflawnwyd gan atwrnai unigol ar ran y cydberchnogion gael ei gofrestru. Ni all atwrneiaeth at y diben fod yn atwrneiaeth barhaus neu arhosol (adran 9(6) o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, a ddiwygiwyd gan adran 67(1) ac Atodlen 6 paragraff 42(1), (2) o Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005). Fodd bynnag, os oes cyfyngiad Ffurf A, B, J, K, II neu JJ yn y gofrestr, bydd yn rhaid ystyried gorgyrraedd er mwyn penderfynu a oes unrhyw fuddion llesiannol wedi gorgyrraedd ai peidio a bod modd tynnu’r cyfyngiad ymaith ar gofrestriad y gwarediad.

Lle ceir 2 neu ragor o berchnogion a chyfyngiad yn y gofrestr perchnogaeth sy’n awgrymu bodolaeth posibl budd llesiannol – er enghraifft, ar ffurf safonol Ffurf A, B, J, K, II neu JJ – a gwarediad lle y mae arian cyfalaf yn codi yn cael ei gyflawni gan un person, naill ai (i) fel atwrnai ar gyfer yr holl berchnogion neu (ii) fel un o’r perchnogion ac fel atwrnai ar gyfer y perchennog (perchnogion) sy’n weddill, byddwn yn dychwelyd y ddogfen i’w chyflawni gan roddwr yr atwrneiaeth. Fodd bynnag, ni fydd rhoddwr atwrneiaeth arhosol neu barhaus yn gallu cyflawni dogfen os ydynt yn analluog. (O dan yr amgylchiadau hyn gall atwrnai arall gyflawni’r ddogfen ar ran y rhoddwr, wrth gwrs, os penodwyd un ar y cyd ac yn unigol neu, lle y cofrestrwyd atwrneiaeth, gan ymddiriedolwr ychwanegol a benodwyd naill ai gan y cydberchennog arall neu gan yr atwrnai o dan adran 8 o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999.)

Os yw ceisydd yn dymuno bwrw ymlaen â’i gais heb ailgyflawni, byddwn yn cwblhau cofrestriad y trosglwyddiad ac yn gadael unrhyw gyfyngiadau perthnasol sy’n bodoli yn ymwneud â buddion llesiannol yn y gofrestr.

5. Cydberchnogion: tystiolaeth y bu gan roddwr atwrneiaeth fudd llesiannol

Mae pob cydberchennog yn dal yr ystad gyfreithiol gofrestredig fel ymddiriedolwr. Efallai bydd rhai unig berchenogion hefyd yn dal yr ystad gyfreithiol gofrestredig fel ymddiriedolwr (gellir nodi hyn gan gyfyngiad Ffurf A, B, J, K, II neu JJ). Gellir defnyddio atwrneiaeth gyffredinol, barhaus neu arhosol wedi ei dyddio ar ôl 29 Chwefror 2000 mewn perthynas ag eiddo ymddiried ar yr amod bod gan roddwr yr atwrneiaeth fudd llesiannol yn yr eiddo hwnnw ar adeg defnyddio’r atwrneiaeth, oni bai fod bwriad i’r gwrthwyneb yn amlwg o’r atwrneiaeth (adran 1(1) o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999).

Mae datganiad ysgrifenedig gan yr atwrnai a roddwyd o fewn tri mis i ddyddiad y ddogfen yn cadarnhau y bu gan y rhoddwr fudd llesiannol yn yr eiddo, yn dystiolaeth gadarnhaol o blaid prynwr y gellid defnyddio’r atwrneiaeth (adran 2 (2) o Ddeddf Dirprwyo Ymddiriedolwyr 1999).

Y lle mwyaf cyfleus i’r atwrnai wneud y datganiad ysgrifenedig hwn yw yn y gwarediad ei hunan. Gall yr atwrnai gynnwys datganiad tebyg i’r canlynol ym mhanel darpariaethau ychwanegol ffurflen TR1 neu ffurflen benodedig arall, neu yng nghorff prydles neu arwystl:

‘Mae (enw’r atwrnai) yn cadarnhau bod gan (rhoddwr yr atwrneiaeth) fudd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad y (trosglwyddiad, arwystl ac ati) hwn)’

Fel arall, gall yr atwrnai addasu’r cymal ardystio fel a ganlyn:

‘Arwyddwyd fel gweithred gan (enw rhoddwr yr atwrneiaeth), sydd â budd llesiannol yn yr eiddo ar ddyddiad y (trosglwyddiad, arwystl ac ati) hwn, yn gweithredu trwy ei (h)atwrnai (enw’r atwrnai) ym mhresenoldeb’

Neu gall yr atwrnai ehangu geiriau’r arwyddo fel a ganlyn:

‘John Smith trwy ei atwrnai Jane Brown sy’n cadarnhau fod gan y rhoddwr fudd llesiannol yn yr eiddo ar y dyddiad hwn.’

Gellir gwneud y datganiad ysgrifenedig ar wahân os yw wedi ei ddyddio o fewn tri mis i ddyddiad y ddogfen.

Os na all ceisydd am gofrestriad gyflwyno datganiad o’r fath, byddwn yn ystyried tystiolaeth arall y bu gan y rhoddwr fudd llesiannol ar yr adeg berthnasol. Bydd datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd (gweler cyfarwyddyd ymarfer 73: datganiadau o wirionedd) ynghylch hyn gan berson cyfrifol sydd â gwybodaeth lawn o’r ffeithiau yn dderbyniol mewn rhai achosion. Ond os na fydd y ceisydd yn cyflwyno tystiolaeth ddigonol am hawl lesiannol y rhoddwr, bydd yn rhaid i roddwr yr atwrneiaeth gyflawni’r ddogfen.

6. Atwrneiaethau sy’n hŷn na 12 mis: tystiolaeth nad yw’r atwrneiaeth wedi ei diddymu

Mae hawl gan brynwr oddi wrth berson sydd wedi delio ag atwrnai gymryd nad yw atwrneiaeth yr atwrnai wedi ei ddiddymu os gwnaed y trafodiad o dan sylw o fewn 12 mis i’r dyddiad y daeth yr atwrneiaeth i rym.

Er, o dan reol 62 o Reolau Cofrestru Tir 2003 y gall Cofrestrfa Tir EF fynnu tystiolaeth nad yw’r atwrneiaeth wedi ei diddymu os yw’r atwrneiaeth yn hŷn na 12 mis, o dan amgylchiadau arferol NI FYDD angen tystiolaeth o’r fath.

Ar yr achlysuron prin pan fydd y cofrestrydd yn mynnu tystiolaeth nad yw’r atwrneiaeth wedi ei diddymu, rhaid iddi fod ar ffurflen 2 (gweler Atodiad B), sef naill ai:

  • datganiad statudol neu ddatganiad o wirionedd gan y person fu’n delio â’r atwrnai, er enghraifft prynwr oddi wrth yr atwrnai
  • tystysgrif gan drawsgludwr y person hwnnw

Oherwydd mai am 12 mis yn unig y gall atwrneiaethau Deddf Ymddiriedolwyr 1925 weithredu, ni fydd angen tystiolaeth nad yw’r atwrneiaethau hyn wedi eu diddymu arnom fyth.

7. Tystiolaeth o’r atwrneiaeth

Bydd yn rhaid i Gofrestrfa Tir EF weld un o’r canlynol:

Byddwn yn cadw’r dystiolaeth a gyflwynir yn ein ffeiliau. Os, felly, bydd angen i chi gadw’r gwreiddiol, dylech gyflwyno copi gyda’ch cais. Mae Adran 3 o Ddeddf Atwrneiaeth 1971 yn nodi dull caeth o brofi cynnwys atwrneiaeth. Er mwyn dilyn y drefn hon, rhaid i roddwr yr atwrneiaeth, cyfreithiwr, notari cyhoeddus neu frocer stoc neu (o 18 Tachwedd 2023) swyddog gweithredol cyfreithiol siartredig ardystio:

  • ar ddiwedd llungopi o’r atwrneiaeth ei fod yn gopi gwir a chyflawn o’r gwreiddiol
  • ar bob tudalen o’r llungopi, os yw’r atwrneiaeth yn cynnwys mwy nag un dudalen, fod y dudalen yn gopi gwir a chyflawn o dudalen gyfatebol y gwreiddiol

Yn ymarferol, byddwn fel rheol yn derbyn llungopi sydd wedi ei ardystio gan drawsgludwr neu gan swyddog gweithredol cyfreithiol siartredig ei fod yn gopi gwir o’r atwrneiaeth wreiddiol. Fodd bynnag, mewn unrhyw achos o amheuaeth, byddai’n rhaid gofyn i chi gyflwyno’r gwreiddiol neu gopi wedi ei ardystio’n fwy ffurfiol yn y dull y cyfeirir ato uchod.

7.1 Taflen grynodeb a gynhyrchir gan wasanaeth Defnyddio/Gweld atwrneiaeth arhosol Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Lle cafwyd y cod mynediad cyn 4 Gorffennaf 2023, dim ond pan nad yw’r atwrneiaeth arhosol yn cynnwys unrhyw ‘gyfarwyddiadau’ y gellir cyflwyno’r daflen grynodeb. Ar gyfer codau mynediad a gafwyd ar neu ar ôl 4 Gorffennaf 2023, bydd y daflen grynodeb yn cynnwys unrhyw ‘gyfarwyddiadau’, a gellir eu cyflwyno. Rhaid i’r cais gael ei gyflwyno mewn lliw gan drawsgludwr.

Os yw crynodeb yr atwrneiaeth arhosol rhwng 2 a 12 mis oed ar ddyddiad y gwarediad, rhaid cynnwys tystysgrif gan drawsgludwr yn nodi na hysbyswyd Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus am unrhyw newidiadau ers y dyddiad ar grynodeb yr atwrneiaeth arhosol a fyddai’n effeithio ar awdurdod yr atwrnai(atwrneiod) a enwir yn y gwarediad.

Rydym yn cadw’r hawl i alw am gopi o’r atwrneiaeth arhosol lawn hyd yn oed lle cyflwynir crynodeb. Gellir gweld rhagor o wybodaeth yn Gweld atwrneiaeth arhosol.

8. Cyflawni o dan atwrneiaeth dramor

Gall atwrnai gael ei benodi gan atwrneiaeth a grëwyd ac a lywodraethir gan gyfraith awdurdodaeth heblaw am Gymru a Lloegr. Gall atwrneiaethau o’r fath ganiatáu i’r rhoddai gyflawni dogfennau ar ran y rhoddwr.

Gweler adran 10.5 o gyfarwyddyd ymarfer 8: cyflawni gweithredoedd ar gyfer cymalau cyflawni addas i’w defnyddio pan fo atwrnai’n cyflawni dogfen ar ran unigolyn o dan atwrneiaeth (gan gynnwys atwrneiaeth dramor).

Lle caiff unrhyw ddogfen ei chyflawni’n unol ag atwrneiaeth dramor, rhaid i’r ceisydd ddarparu:

  • copi ardystiedig o’r atwrneiaeth (ynghyd â chyfieithiad wedi ei ddilysu o’r atwrneiaeth os nad yw yn Gymraeg neu Saesneg), a
  • barn gyfreithiol fel y nodir isod

Lle caiff unrhyw ddogfen ei chyflawni’n unol ag atwrneiaeth dramor, rhaid i’r ceisydd ddarparu barn gyfreithiol gan gyfreithiwr sy’n gymwys i ymarfer yn y diriogaeth honno yn cadarnhau:

  • y caniateir cyflawni gan atwrnai gan gyfreithiau’r awdurdodaeth berthnasol
  • bod gan y rhoddwr y gallu cyfreithiol i benodi atwrnai
  • bod y rhoddwr wedi cydymffurfio ag unrhyw ffurfioldebau sy’n llywodraethu penodi atwrnai yn yr awdurdodaeth berthnasol a’i fod yn rhwym i’r atwrneiaeth
  • bod yr atwrienaeth yn awdurdodi’r derbynnydd i gyflawni’r ddogfen berthnasol ar ran y rhoddwr, a
  • bod yr atwrneiaeth wedi parhau’n ddilys ar adeg ei chyflawni

Ni ddylai unrhyw farn gyfreithiol fod yn amodol. Os yw mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg, rhaid i’r ceisydd ddarparu cyfieithiad ardystiedig ohono.

9. Rhestrau gwirio

Gobeithiwn y bydd y rhestrau gwirio canlynol o gymorth i chi, ar gyfer y materion yr ymdrinnir â hwy, er mwyn cyflwyno’r dogfennau a’r dystiolaeth cywir gyda’ch ceisiadau. Oni bai y gallwch ateb yn gadarnhaol i’r holl gwestiynau sy’n gymwys, bydd yn rhaid i roddwr yr atwrneiaeth gyflawni’r ddogfen yn bersonol cyn i ni allu ei chofrestru.

9.1 Atwrneiaeth a roddwyd gan unig berchennog (nad yw’n ymddiriedolwr)

  • ydych chi’n gallu cyflwyno ffurflen 1 neu’r gwreiddiol neu gopi wedi ai ardystio o’r atwrneiaeth (dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a’r ardystiedig)?
  • ydy’r atwrneiaeth wedi ei chyflawni’n ddilys fel gweithred?
  • ydy’r atwrneiaeth yn ddigon eang i ganiatáu’r hyn y mae’r atwrnai wedi ei wneud?

9.2 Atwrneiaeth a roddwyd gan un o gydberchnogion wedi ei dyddio ar ôl 29 Chwefror 2000

  • ydych chi’n gallu cyflwyno ffurflen 1 neu’r gwreiddiol neu gopi wedi ei ardystio o’r atwrneiaeth (dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a’r ardystiedig)?
  • ydy’r atwrneiaeth wedi ei chyflawni’n ddilys fel gweithred?
  • ydy’r atwrneiaeth wedi ei gwneud o dan Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925? (Gweler adran 25 o Ddeddf Ymddiriedolwyr 1925)

neu

9.3 Atwrneiaeth a roddwyd i fuddiolwyr gan holl gydberchnogion y tir

  • ydych chi’n gallu cyflwyno ffurflen 1 neu’r gwreiddiol neu gopi wedi ei ardystio o’r atwrneiaeth (dim ond copïau ardystiedig o weithredoedd neu ddogfennau yr ydych yn eu hanfon atom gyda cheisiadau Cofrestrfa Tir EF sydd eu hangen arnom. Unwaith y byddwn wedi gwneud copi o’r dogfennau a anfonir atom, byddwn yn eu dinistrio. Mae hyn yn wir am y gwreiddiol a’r ardystiedig)?
  • ydy’r atwrneiaeth wedi ei chyflawni’n ddilys fel gweithred?
  • ydy’r atwrneiaeth wedi ei gwneud o dan Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996? (Gweler Atwrneiaeth a roddwyd gan yr holl ymddiriedolwyr i fuddiolwr o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996)
  • ydy’r atwrneiaeth yn ddigon eang i ganiatáu’r hyn y mae’r atwrnai wedi ei wneud?
  • os oedd y trafodiad yn cynnwys talu arian cyfalaf, a ymunodd yr ymddiriedolwyr i roi derbynneb?

10. Atodiad A

Ffurf 1: tystysgrif ynghylch cyflawni atwrneiaeth (rheol 61)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Rhoddai yr atwrneiaeth

Yr wyf i/Rydym ni [enw(au)] o [cyfeiriad/cyfeiriadau]

yn tystio:

  • bod yr atwrneiaeth mewn bodolaeth [ac wedi ei wneud a, lle bo angen, wedi ei chofrestru o dan (nodwch o dan ba ddarpariaeth statudol y gwneir yr atwrneiaeth, os yw’n berthnasol)]
  • bod yr atwrneiaeth yn ddyddiedig (rhowch y dyddiad)
  • Yr wyf i/yr ydym ni yn fodlon y cyflawnwyd yr atwrneiaeth yn ddilys fel gweithred a’i bod yn awdurdodi’r atwrnai i gyflawni’r ddogfen ar ran rhoddwr yr atwrneiaeth hwnnw, ac
  • Yr wyf i/yr ydym ni yn dal [yr offeryn sy’n creu’r yr atwrneiaeth] neu [gopi o’r atwrneiaeth trwy’r hwn y bydd modd profi ei chynnwys o dan adran 3 o Ddeddf Atwrneiaeth 1971] neu [ddogfen sydd, o dan adran 4 o Ddeddf Tystiolaeth ac Atwrneiaethau 1940, paragraff 16 Rhan 2 Atodlen 1, neu baragraff 15 (3) Rhan 5 Atodlen 4 i Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 yn dystiolaeth ddigonol o gynnwys yr atwrneiaeth]

Llofnod y trawsgludwr [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

11. Atodiad B

Ffurf 2: datganiad statudol/tystysgrif/datganiad o wirionedd bod atwrneiaethau heb eu diddymu ar gyfer atwrneiaethau sy’n hŷn na 12 mis oed ar ddyddiad y gwarediad y cânt eu defnyddio ar ei gyfer (rheol 62)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Yr wyf i [enw] o [cyfeiriad]

yn ddifrifol ac yn ddiffuant yn [datgan] neu [’n ardystio] nad oedd ar adeg cwblhau’r

i mi/fy nghleient, gennyf fi/gennym ni/gan fy nghleient wybodaeth ynghylch:

  • diddymiad yr atwrneiaeth, neu
  • marwolaeth neu fethdaliad y rhoddwr, neu os yw’r rhoddwr yn gorff corfforaethol, ei ddirwyn i ben neu ei derfynu, neu
  • unrhyw anallu’r rhoddwr lle nad yw’r atwrneiaeth yn atwrneiaeth arhosol neu barhaus dilys, neu

Lle mae’r atwrneiaeth ar y ffurf a benodwyd ar gyfer atwrneiaeth arhosol:

  • na chrëwyd atwrneiaeth arhosol, neu
  • am amgylchiadau a fyddai wedi terfynu awdurdod yr atwrnai i weithredu fel atwrnai, pe byddai’r atwrneiaeth arhosol wedi ei chreu, neu

Lle mae’r atwrneiaeth ar ffurf a benodwyd ar gyfer atwrneiaeth barhaus:

  • nad oedd yr atwrneiaeth mewn gwirionedd yn atwrneiaeth barhaus dilys, neu
  • gorchymyn neu gyfarwyddyd y Llys Gwarchod a ddiddymodd yr atwrneiaeth, neu
  • methdaliad yr atwrnai, neu

Lle rhoddwyd yr atwrneiaeth o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996:

  • penodiad ymddiriedolwr arall o’r tir o dan sylw, neu
  • unrhyw ddigwyddiad arall a fyddai wedi arwain at ddiddymu’r atwrneiaeth, neu
  • unrhyw ddiffyg didwylledd ar ran y person(au) a ymdriniodd â’r atwrnai, neu
  • nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid fod wedi dirprwyo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr iddo o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996, neu

Lle mae’r atwrneiaeth wedi ei mynegi i’w rhoi fel arwystl:

  • na roddwyd yr atwrneiaeth mewn gwirionedd fel arwystl, neu
  • unrhyw ddiddymiad o’r atwrneiaeth gyda chaniatâd yr atwrnai, neu
  • unrhyw ddigwyddiad arall a fyddai wedi arwain at ddiddymu’r atwrneiaeth

Lle rhoddir tystysgrif:

Llofnod y trawsgludwr [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un)

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran…) neu

Lle gwneir Datganiad Statudol:

Ac yr wyf fi’n gwneud y datganiad dwys hwn gan gredu’n gydwybodol ei fod yn wir ac yn rhinwedd darpariaethau Deddf Datganiadau Statudol 1835.

Llofnod y Datganwr(wyr) [llofnod(ion)] Dyddiad [dyddiad ]

DATGANWYD yn ger fy mron i, person sydd â’r hawl i weinyddu llwon.

Enw

Cyfeiriad

Cymhwyster

Llofnod

Lle gwneir datganiad o wirionedd:

Credaf fod y ffeithiau a’r materion yn y datganiad hwn yn wir.

Llofnod [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un) neu unrhyw drawsgludwr sy’n arwyddo

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran…) neu

RHYBUDD

  1. Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r 2.

  2. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflen hon gyda’r gofal priodol gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli os yw camgymeriad yn cael ei wneud yn y gofrestr o ganlyniad i hyn.

  3. O dan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 mae’r rhan fwyaf o ddogfennau (gan gynnwys y ffurflen hon) a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chais a gyflwynir i’r cofrestrydd neu y cyfeirir ato yn y gofrestr ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio a’u copïo. Os ydych yn credu bod dogfen yn cynnwys gwybodaeth niweidiol, gallwch wneud cais i’r rhan honno o’r ddogfen gael ei heithrio trwy ddefnyddio Ffurflen EX1, o dan reol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

12. Atodiad C

Ffurf 3: datganiad statudol/tystysgrif /datganiad o wirionedd yn cefnogi atwrneiaeth dirprwyo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr i fuddiolwr (rheol 633)

Dyddiad yr atwrneiaeth

Rhoddwr yr atwrneiaeth

Yr wyf i [enw] o [cyfeiriad]

yn ddifrifol ac yn ddiffuant yn [datgan] neu [’n ardystio] nad oedd ar adeg cwblhau’r

i mi/fy nghleient, gennyf fi/gan fy nghleient wybodaeth ynghylch –

  • unrhyw ddiffyg didwylledd ar ran y person(au) a ymdriniodd â’r atwrnai, neu
  • nad oedd yr atwrnai yn berson y gellid fod wedi dirprwyo swyddogaethau’r ymddiriedolwyr iddo o dan adran 9 o Ddeddf Ymddiriedau Tir a Phenodiadau Ymddiriedolwyr 1996.

Lle rhoddir tystysgrif:

Llofnod y trawsgludwr [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un)

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran…); neu

Lle gwneir Datganiad Statudol:

Ac yr wyf fi’n gwneud y datganiad dwys hwn gan gredu’n gydwybodol ei fod yn wir ac yn rhinwedd darpariaethau Deddf Datganiadau Statudol 1835.

Llofnod y Datganwr(wyr) [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

DATGANWYD yn [lleoliad] ger fy mron i, person sydd â’r hawl i weinyddu llwon.

Enw

Cyfeiriad

Cymhwyster

Llofnod neu

Lle gwneir datganiad o wirionedd:

Credaf fod y ffeithiau a’r materion yn y datganiad hwn yn wir.

Llofnod [llofnod] Dyddiad [dyddiad]

Enw mewn prif lythrennau

Enw’r cwmni neu gyflogwr (os oes un) neu unrhyw drawsgludwr sy’n arwyddo

Swyddogaeth (er enghraifft yn gweithredu ar ran…)

RHYBUDD

  1. Os ydych yn rhoi gwybodaeth mewn modd anonest neu’n gwneud datganiad y gwyddoch ei fod, neu a allai fod yn anwir neu’n gamarweiniol, ac yn bwriadu, trwy wneud hynny, gynnig mantais i chi neu rywun arall, neu achosi colled neu’r risg o golled i rywun arall, gallech fod yn cyflawni’r trosedd o dwyll o dan adran 1 o Ddeddf Twyll 2006, a’r uchafgosb ar gyfer hyn yw carchar o 10 mlynedd neu ddirwy ddiderfyn, neu’r 2.

  2. Os nad ydych yn llenwi’r ffurflen hon gyda’r gofal priodol gall diogelwch o dan Ddeddf Cofrestru Tir 2002 gael ei golli os yw camgymeriad yn cael ei wneud yn y gofrestr o ganlyniad i hyn.

  3. O dan adran 66 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002 mae’r rhan fwyaf o ddogfennau (gan gynnwys y ffurflen hon) a gedwir gan y cofrestrydd sy’n ymwneud â chais a gyflwynir i’r cofrestrydd neu y cyfeirir ato yn y gofrestr ar gael i’r cyhoedd eu harchwilio a’u copïo. Os ydych yn credu bod dogfen yn cynnwys gwybodaeth niweidiol, gallwch wneud cais i’r rhan honno o’r ddogfen gael ei heithrio trwy ddefnyddio Ffurflen EX1, o dan reol 136 o Reolau Cofrestru Tir 2003.

13. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.