Ffurflen

Dofednod ac adar caeth eraill: rheolau a ffurflenni cofrestru

Sut a phryd y mae'n rhaid i chi gofrestru fel ceidwad adar (gan gynnwys ar gyfer unrhyw adar rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes).

Dogfennau

Cofrestrwch i fod yn geidwad 50 neu fwy o ddofednod neu adar caeth eraill (IRA81) – gorfodol

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Cofrestrwch i fod yn geidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill (IRA82) – gwirfoddol

Gwneud cais am fformat hygyrch.
Os ydych chi'n defnyddio technoleg gynorthwyol (er enghraifft, rhaglen darllen sgrin) a bod angen fersiwn o'r ddogfen hon arnoch mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch contentteam@defra.gov.uk. Rhowch wybod i ni pa fformat sydd ei angen arnoch. Bydd yn ein helpu ni os byddwch chi'n dweud pa dechnoleg gynorthwyol rydych chi'n ei defnyddio.

Manylion

Yn y canllaw hwn mae dofednod ac adar caeth eraill yn cynnwys:

  • ieir
  • twrcwn
  • adar a gedwir mewn adardai
  • adar ysglyfaethus
  • casowarïaid
  • hwyaid
  • emiwiaid
  • gwyddau
  • ieir gini
  • ciwïod
  • estrys
  • petris
  • ffesantod
  • colomennod
  • adar parotaidd (er enghraifft parotiaid, byjis a pharotiaid copog)
  • soflieir
  • rheaod

Mae hyn yn cynnwys unrhyw rai o’r rhywogaethau hyn rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes.

Rydych yn geidwad os ydych yn gyfrifol am ofalu am yr adar o ddydd i ddydd.

Cofrestru gorfodol –  50 o adar neu fwy

Rhaid i chi gofrestru gan ddefnyddio’r ffurflen gofrestru orfodol o fewn mis o gadw 50 o adar neu fwy ar eich safle. Rydych yn torri’r gyfraith drwy beidio â chofrestru. Mae’r gyfraith yn gymwys os ydych yn cadw’r canlynol:

  • 50 o adar neu fwy yn gaeth am unrhyw gyfnod
  • heidiau o wahanol rywogaethau, megis ieir, hwyaid neu wyddau
  • adar ar gyfer bwyta cig ac wyau neu ailstocio adar hela neu at ddibenion masnachol eraill neu fridio at unrhyw rai o’r tri diben hyn

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau’r ffurflen:

  • eich manylion cyswllt a manylion y person neu’r cwmni sy’n berchen ar eich safle neu sy’n ei rentu
  • lleoliad eich safle a’ch rhif daliad plwyf sir (CPH) - (dewch o hyd i sut i gael rhif CPH parhaol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban)
  • manylion yr adar rydych yn eu cadw a’r ffordd rydych yn eu ffermio (rhywogaethau, faint rydych fel arfer yn eu cadw, y rheswm dros eu cadw, eich system ffermio)
  • faint o adar o bob rhywogaeth rydych fel arfer yn eu cadw bob mis (eich trefniadau stocio)
  • manylion unrhyw fusnesau rydych yn cyflenwi eich dofednod ar eu cyfer
  • rhestr o dda byw eraill rydych yn eu cadw ar y safle

Cofrestru gwirfoddol - llai na 50 o adar

Gallwch gofrestru 49 o adar neu lai, gan gynnwys unrhyw adar rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes. Mae APHA yn eich annog i gofrestru hyd yn oed os nad oes rhaid i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Drwy gofrestru:

  • gall APHA gysylltu â chi os bydd achosion o glefyd (megis ffliw adar) yn eich ardal
  • byddwch yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu ac yn diogelu’r haid genedlaethol

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau eich cais:

  • eich manylion cyswllt a manylion perchennog yr adar (os nad chi yw’r perchennog)
  • y lleoliad lle rydych yn cadw’r adar
  • manylion yr adar rydych yn eu cadw (rhywogaethau, faint ohonynt rydych yn eu cadw a’r rheswm dros eu cadw)

Gallwch gofrestru ar-lein drwy naill ai:

Ble i anfon eich cais

Anfonwch eich cais drwy e-bost i customer.registration@apha.gov.uk neu drwy’r post i:

Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid Caerdydd
Cromlin West
Parc Busnes Cardiff Edge
Longwood Drive
Yr Eglwys Newydd
Caerdydd
CF14 7YU

Fel arall, gallwch ffonio’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) ar 03000 200 301 a gwneud cais dros y ffôn.

Er mwyn cofrestru llai na 50 o adar yn wirfoddol gallwch hefyd ychwanegu.

Cael cymorth

Os bydd angen help arnoch i gwblhau’r ffurflenni, cysylltwch â llinell gymorth Cofrestr Dofednod Prydain Fawr:

Rhybuddion am glefydau

Nid oes angen i chi gofrestru i gael rhybuddion am glefydau dofednod hysbysadwy os ydych wedi’ch cofrestru ar gofrestr dofednod Prydain Fawr.

Er mwyn cael rhybuddion am glefydau egsotig hysbysadwy eraill ar ffurf e-byst neu negeseuon testun cofrestrwch â gwasanaeth rhybuddion APHA.

Trwyddedau atal a rheoli llygredd (PPC)

Os gall eich safle gadw mwy na 40,000 o adar, mae’n bosibl y bydd angen i chi wneud cais am drwydded PPC. Darllenwch y canllawiau gan:

Mae cyfieithiad Cymraeg o’r ffurflenni a’r canllawiau hefyd ar gael.

Cyhoeddwyd ar 6 November 2018
Diweddarwyd ddiwethaf ar 12 December 2023 + show all updates
  1. Updated the forms and guidance. Added a link to new online service for voluntary registration.

  2. Removed coronavirus (COVID-19) references relating to applications.

  3. Updated the forms with a new office address.

  4. Added coronavirus statement on sending application by email.

  5. Disease alerts section updated

  6. Documents updated with email address

  7. Document IRA81 and IRA81(Welsh) updated

  8. Documents updated

  9. Added translation

  10. First published.