Cofrestrwch fel ceidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill
Sut i gofrestru i gadw hyd at 49 o adar, gan gynnwys unrhyw adar rydych yn eu cadw fel anifeiliaid anwes.
Defnyddiwch y gwasanaeth hwn i gofrestru eich haid os ydych yn gyfrifol am ofalu am lai na 50 o adar o ddydd i ddydd.
Drwy gofrestru:
- gall yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) gysylltu â chi os bydd achosion o glefyd (megis ffliw adar) yn eich ardal
- byddwch yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu ac yn diogelu’r haid genedlaethol
Byddwn yn gofyn i chi am:
- eich manylion cyswllt a manylion perchennog yr adar (os nad chi yw’r perchennog)
- y lleoliad lle rydych yn cadw’r adar
- manylion yr adar rydych yn eu cadw (rhywogaethau, faint ohonynt rydych yn eu cadw a’r rheswm dros eu cadw)
Dylai gymryd tua 5 munud i gofrestru.
Ar ôl i chi gofrestru
Bydd angen i chi hysbysu APHA am unrhyw newidiadau i’r canlynol:
- y manylion rydych wedi’u darparu
- nifer a rhywogaethau’r anifeiliaid rydych yn eu cadw
E-bostiwch eich newidiadau i poultry.registration@apha.gov.uk.
Ffyrdd eraill o gofrestru
Gallwch hefyd gofrestru drwy e-bost neu’r post gan ddefnyddio’r ffurflen ‘cofrestrwch i fod yn geidwad llai na 50 o ddofednod neu adar caeth eraill (IRA82)’.
Cofrestru 50 o adar neu fwy
Mae’n ofyniad cyfreithiol i gofrestru os ydych yn cadw 50 o adar neu fwy. Rhaid i chi gwblhau’r ffurflen ‘cofrestrwch i fod yn geidwad 50 neu fwy o ddofednod neu adar caeth eraill (IRA81)’.
Cofrestru fel sefydliad colomennod rasio
Mae cofrestru fel sefydliad colomennod rasio yn wirfoddol, oni bai eich bod am symud colomennod i’r UE neu Ogledd Iwerddon i’w rhyddhau ar unwaith er mwyn iddynt rasio yn ôl i Brydain Fawr.
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 March 2024 + show all updates
-
We are experiencing a high volume of applications to register as a keeper of less than 50 poultry or other captive birds. We aim to process your application within 10 working days.
-
First published.