Cofrestru fel ceidwad adar
Rhaid i chi gofrestru o fewn mis o gadw dofednod neu adar caeth eraill ar unrhyw safle yng Nghymru neu Loegr.
Bydd cofrestru yn helpu i atal clefydau rhag lledaenu a diogelu’r holl adar a gedwir, gan gynnwys heidiau iard gefn. Rydych yn torri’r gyfraith drwy beidio â chofrestru.
Mae’r ffordd rydych yn cofrestru yn dibynnu ar b’un a ydych yn cadw:
- llai na 50 o adar
- 50 o adar neu fwy
Os byddwch yn cadw adar ysglyfaethus penodol, rhaid i chi hefyd eu cofrestru’n unigol.
Os byddwch yn cadw colomennod rasio, rhaid i chi gofrestru eich sefydliad colomennod rasio os hoffech symud colomennod rasio o’ch sefydliad i’r UE neu Ogledd Iwerddon i’w rhyddhau’n syth at ddibenion rasio nôl i Brydain Fawr (Cymru, Lloegr a’r Alban).
Os byddwch yn cadw adar yn yr Alban, cofrestrwch ar Gofrestr Adar a Gedwir yr Alban.