Guidance

Welsh: Canllaw cyflym i Daliad Annibyniaeth Personol (PIP)

Updated 6 December 2018

Mae’r canllaw hwn ar gyfer ymgynghorwyr sy’n cefnogi pobl sy’n hawlio budd-daliadau anabledd. Ewch i gov.uk/dwp/pip-toolkit am fwy o wybodaeth, yn cynnwys llawlyfr PIP. Efallai y gall eich Rheolwr Partneriaeth DWP hefyd helpu. Ewch i gov.uk/pip am wybodaeth hawlwyr.

Amodau o hawl

Mae Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) ar gyfer pobl 16 oed i’r sawl sydd o dan oedran Pensiwn y Wladwriaeth.

Mae Lwfans Byw i’r Anabl (DLA) yn dod i ben ar gyfer pobl a oedd yn 16 oed a 64 ar 8 Ebrill 2013 (sef diwrnod cyflwyno PIP). Mae hefyd yn dod i ben ar gyfer pobl sy’n cyrredd 16 ar ôl y dyddiad hwnnw.

Ni all pobl wneud cais am DLA a PIP ar yr un pryd.

Mae’n rhaid i hawlwyr gael cyflwr iechyd neu anabledd hirdymor i fod yn gymwys am PIP.

Mae’n rhaid i hawlwyr fod yn bresennol ym Mhrydain Fawr am o leiaf 104 wythnos allan o’r 156 wythnos diwethaf i fod yn gymwys am PIP.

Caiff y ddwy elfen o PIP eu hatal o fod yn daladwy 28 diwrnod wedi i’r hawlydd fynd i mewn i ysbyty GIG.

Caiff yr elfen bywyd bod dydd o PIP ei atal o fod yn daladwy ar ôl 28 diwrnod o breswylio mewn cartref gofal ble mae’r costau yn cael eu cwrdd allan o arian cyhoeddus neu leol.

Caiff PIP ei atal o fod yn daladwy ar ôl 28 diwrnod lle mae rhywun yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Nid yw PIP yn destun i brawf modd a gellir ei dalu os yw hawlydd yn gweithio neu beidio.

Meini prawf asesiad

Asesir unigolion ar eu gallu i gwblhau nifer o weithgareddau bob dydd allweddol – canllaw asesiad.

Mae 10 o weithgareddau bywyd bob dydd allweddol a 2 o weithgareddau symudedd.

Mae gan bob gweithgaredd nifer o ddisgrifwyr yn cynrychioli lefelau gwahanol o allu i gwblhau’r gweithgaredd.

Er mwyn i ddisgrifydd fod yn berthnasol mae’n rhaid bod yr hawlydd yn gallu gwneud y gweithgaredd yn ddiogel, i safon dderbyniol, dro ar ôl tro ac mewn cyfnod amser rhesymol.

Bydd y gallu i wneud gweithgaredd yn cael ei ystyried dros gyfnod o amser i gymryd i ystyriaeth effeithiau cyflwr iechyd neu anabledd sy’n amrywio.

Mae’r asesiad yn cymryd i ystyriaeth ble mae hawlydd angen cymorth gan berson neu bersonau arall i wneud y gweithgaredd.

Mae’r asesiad yn cymryd i ystyriaeth ble mae unigolion angen cymhorthion neu offer i wneud gweithgareddau.

Bydd unigolion yn derbyn sgôr pwyntiau ar gyfer pob gweithgaredd a fydd yn penderfynu os oes elfen yn daladwy, ac os felly, ar ba gyfradd.

Ar gyfer pob elfen, bydd unigolion yn cael y gyfradd safonol os yw cyfanswm eu sgôr yn 8 i 11, neu’r gyfradd uwch os yw cyfanswm eu sgôr yn 12 pwynt neu fwy.

Hawlwyr Lwfans Byw i’r Anabl Presennol a PIP

Ym mis Hydref 2013 dechreuodd yr Adran Gwaith a Phensiynau wahodd rhai hawlwyr DLA presennol i hawlio PIP.

Dechreuom gysylltu â phobl sy’n byw mewn rhai codau post ac yn raddol wedi ychwanegu mwy o godau post dros gyfnod o amser.

O fis Gorffennaf 2015, dechreuom wahodd y gweddill o’r bobl sydd â dyfarniad tymor hir neu amhenodol o DLA I hawlio PIP.

Disability Living Allowance claimant journey

Cefnogi pobl ifanc

Bydd DLA yn parhau ar gyfer plant o dan 16 oed.

Ni fydd pobl ifanc yn cael gwahoddiad i wneud cais am PIP yn lle DLA hyd nes maent yn 16 oed.

Ni ofynnir i bobl ifanc sy’n cael DLA o dan y rheolau arbennig ar gyfer salwch terfynol i wneud cais am PIP.

Bydd DWP yn ysgrifennu at rieni neu warcheidwaid pobl ifanc cyn iddynt droi 16 oed i ddweud wrthynt beth sydd angen iddynt ei wneud nesaf.

Newid mewn amgylchiadau

Mae DWP angen gwybod os yw cyflwr yr hawlydd neu swm y cymorth sydd ei angen arnynt yn newid.

Efallai y bydd newidiadau eraill yn amgylchiadau’r hawlydd yn newid faint o PIP maent yn ei gael.

Mae’n bwysig bod hawlwyr yn dweud wrth DWP ar unwaith am unrhyw newidiadau yn eu bywyd a allai effeithio ar eu budd-dal.

Sut i wneud cais

I ddechrau cais am PIP gall yr hawlydd gysylltu â DWP drwy

Ffôn 0800 917 2222 Ffôn testun 0800 917 7777

Relay UK (os na allant glywed neu siarad dros y ffôn): 18001 then 0800 917 2222

Ewch i gov.uk/taliad-annibyniaeth-personnol am fwy o wybodaeth am sut i wneud cais. Trosolwg o’r broses gwneud cais: taith yr hawlydd

Mae’n bwysig i gael cymaint o wybodaeth wrth law cyn ffonio DWP.

Gall yr alwad ffôn gael ei wneud gan rywun sy’n cefnogi’r hawlydd ond rhaid i’r hawlydd fod yn bresennol.

Y dyddiad cais yw dyddiad yr alwad unwaith mae’r hawlydd wedi cytuno datganiad a fydd yn cael ei ddarllen iddynt gan yr asiant.

Anfonir ffurflen i’r hawlydd iddynt egluro sut mae eu cyflwr yn effeithio eu bywyd bob dydd.

Mae darpariaethau ar gyfer pobl sydd ddim yn siarad Cymraeg neu Saesneg fel eu hiaith gyntaf.

Gellir gofyn am ffurflen gais papur ar gyfer rhywun sy’n methu delio â DWP dros y ffôn ac sydd heb neb i’w helpu i wneud yr alwad ffôn.

Yn ystod yr alwad ffôn, os yw’r asiant teleffoni yn nodi bod yr hawlydd angen cymorth ychwanegol i gwblhau’r cais, gallant drefnu i swyddog ymweld DWP i gynorthwyo’r hawlydd.

Mae’r cyfnod o amser i gael penderfyniad ar gais yn dibynnu ar amgylchiadau unigol. Rydym yn cymryd camau i gyflymu’r broses ac yn delio â cheisiadau mor gyflym ag y gallwn.

Ni fydd unrhyw oedi a brofir gan hawlydd yn effeithio ar y dyddiad y bydd eu budd-dal yn cael ei dalu ohono.

Rheolau arbennig ar gyfer salwch terfynol

Mae rheolau arbennig sy’n caniatáu i bobl sydd â salwch terfynol gael cymorth yn gyflym wrth wneud cais am PIP.

Mae ceisiadau sy’n cael eu gwneud o dan y rheolau arbennig ar gyfer salwch terfynol yn dilyn proses gwahanol i geisiadau PIP safonol.

I wneud cais o dan y rheolau arbennig ar gyfer salwch terfynol, ffoniwch 0800 917 2222 - dylai galwyr dewis opsiwn 1 ar gyfer cais newydd ac yna opsiwn 3.

Bydd tîm rheolau arbennig ymroddedig yn cymryd yr alwad ac yn cwblhau’r ceisiadau. Os yw’r cais yn cael ei wneud o dan y rheolau hyn, gall yr alwad ffôn gael ei wneud gan rywun sy’n cefnogi’r hawlydd (fel sefydliad cymorth neu aelod o’r teulu) heb yr angen i’r hawlydd fod yn bresennol.

Mae’n bwysig bod gan yr hawlydd neu’r person sy’n gwneud yr alwad ffôn cymaint o wybodaeth â phosib yn barod cyn ffonio DWP neu gallai oedi delio â’r cais.

Ni anfonir y ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ i’r hawlydd os ydynt yn bodloni’r meini prawf ar gyfer dyfarniad o dan y rheolau arbennig.

Ni fydd hawlwyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer gwneud cais o dan y rheolau arbennig angen ymgynghoriad wyneb yn wyneb.

Mae hawlwyr yn cael eu hannog i gael adroddiad meddygol DS1500 gan eu gweithiwr iechyd proffesiynol i gefnogi’r cais.

Ni all DWP drin DS1500 fel cais am PIP. Mae’n bwysig bod cais am PIP yn cael ei wneud yn ychwanegol i ddarparu’r DS1500.

Cwblhau’r ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’

Pan mae cais am Daliad Annibyniaeth Personol (PIP) wedi cael ei wneud, bydd DWP yn anfon ffurflen ‘Sut mae eich anabledd yn effeithio arnoch’ i’r hawlydd – enghraifft o ffurflen.

Bydd y ffurflen yn bersonol i’r hawlydd ac ond hwy gall ei defnyddio.

Mae’r ffurflen yn cynnwys cwestiynau am allu hawlwyr i wneud gweithgareddau bob dydd allweddol.

Dylai hawlwyr ddarllen y llyfryn gwybodaeth sy’n dod gyda’r ffurflen cyn iddynt ddechrau llenwi’r ffurflen.

Dylai hawlydd ddychwelyd y ffurflen wedi’i chwblhau o fewn un mis calendar.

Ni fydd ffurflen yn cael ei hanfon i hawlwyr sy’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y rheolau arbennig ar gyfer salwch terfynol.

Gall hawlwyr anfon copïau o dystiolaeth ategol gyda’r ffurflen wedi’i chwblhau.

Y broses asesu a darparwyr

Bydd asesiad PIP yn cael ei gyflenwi gan ddarparwyr asesiad yn gweithio mewn partneriaeth â DWP.

Weithiau gallwn wneud penderfyniad drwy ond defnyddio’r wybodaeth ysgrifenedig mae hawlydd yn ei anfon atom ond efallai y gofynnir i rai pobl fynd am ymgynghoriad wyneb yn wyneb gyda gweithiwr iechyd proffesiynol.

Bydd proses asesiadau PIP yn cael ei rheoli gan ddau ddarparwr asesiadau.

Yn yr Alban, Gogledd Ddwyrain a Gogledd Orllewin Lloegr, ac yn Llundain a De Lloegr y darparwr asesiadau fydd ‘Independent Assessment Services’.

Yng Nghymru a Chanolbarth Lloegr, ac yng Ngogledd Iwerddon y darparwr asesiadau fydd Capita Health and Wellbeing.

Bydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn cwblhau’r asesiad ac yn anfon adroddiad yn ôl i ni.

Yna bydd swyddog penderfyniadau DWP yn defnyddio’r holl wybodaeth i benderfynu ar hawl i PIP.

Ni fydd y gweithiwr iechyd proffesiynol yn gwneud penderfyniad ar hawl i PIP.

Penderfyniad a thaliad

Bydd swyddog penderfyniadau DWP yn gwneud penderfyniad rhesymegol ar hawl i PIP.

Bydd swyddog penderfyniadau DWP yn gwneud eu penderfyniad yn seiliedig ar effaith cyflwr iechyd neu anabledd yr hawlydd ar eu bywyd bob dydd a’u gallu i fyw’n annibynnol.

Bydd hyd y dyfarniad yn seiliedig ar amgylchiadau’r unigolyn.

Bydd dyfarniadau hawlwyr yn cael eu hadolygu ar gyfnodau.

Bydd hawlwyr yn derbyn llythyr yn rhoi’r penderfyniad ar y cais am PIP ac eglurhad clir o sut y cyrhaeddwyd y penderfyniad.

Bydd y llythyr penderfyniad yn cynnwys y sgôr pwyntiau ar gyfer pob disgrifydd a bydd yn dangos sut mae’r dystiolaeth wedi llywio’r penderfyniad a wnaed.

Bydd y llythyr penderfyniad yn cynghori’r hawlydd y gallant gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydynt eisiau trafod y penderfyniad ymhellach. Bydd taliad fel arfer yn cael ei wneud bob pedair wythnos mewn ôl-ddyledion.

Bydd taliad yn cael ei wneud ymlaen llaw yn wythnosol ar gyfer dyfarniadau sydd wedi’u gwneud o dan y rheolau arbennig ar gyfer salwch terfynol.

Dylai hawlwyr ddweud wrth DWP am unrhyw newid yn eu hanghenion bywyd bob dydd neu symudedd cyn gynted â phosibl oherwydd gall y newid effeithio eu hawl.

Ni fydd bod mewn gwaith neu ddychwelyd i’r gwaith yn effeithio hawl rhywun oni bai bod eu hanghenion wedi newid.

Proses anghydfodau

Mae DWP wedi cyflwyno ailystyriaeth orfodol a chyflwyniad uniongyrchol ar gyfer apeliadau PIP.

Bydd hysbysiadau penderfyniad PIP yn dweud wrth hawlwyr beth fydd angen iddynt eu gwneud os ydynt yn anghytuno â’r phenderfyniad.

Ble mae penderfyniad PIP yn cael ei wrthod, neu fod lefel y dyfarniad yn cael ei leihau, bydd yr hawlydd yn cael gwybod y gallant gysylltu â’r Adran Gwaith a Phensiynau os ydynt eisiau trafod y penderfyniad ymhellach.

Mae gan hawlwyr 1 mis o ddyddiad eu llythyr penderfyniad i ofyn am ailystyriaeth orfodol.

Ni ellir cyflwyno apêl i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM (HMCTS) nes bydd DWP wedi ailystyried y penderfyniad.

Mynediad at fudd- daliadau a gwasanaethau eraill

Mae PIP yn darparu hawl neu ‘basbort’ i gael help a chefnogaeth arall a ddarperir gan DWP, Adrannau eraill y Llywodraeth a’r gweinyddiaethau datganoledig.

Ar y cyfan mae’r trefniadau hyn yr un fath ar rai sy’n weithredol ar gyfer Lwfans Byw i’r Anabl DLA.

Efallai bydd Llywodraethau Cymru a’r Alban yn dewis defnyddio rheolau pasbortio gwahanol i’r rhai sy’n berthnasol yn Lloegr ar gyfer eu cynlluniau hwy.