Canllawiau

OPG InTouch: Gwanwyn 2018 (version y we)

Diweddarwyd 17 May 2018

Applies to England and Wales

Diogelu asedion cyllidol y person yr ydych chi’n gweithredu drosto

Fel dirprwy eiddo a materion, rydych chi’n gyfrifol am ddiogelu asedion cyllidol y person yr ydych chi’n gweithredu drosto.

Yn ôl y gyfraith, dylech reoli arian yr unigolyn gyda mwy o ofal na’ch arian chi. Efallai bod hyn yn gweld yn hynod anodd, ond mae’n gyraeddadwy gyda’r drefn ofalus a dealltwriaeth dda o’ch dyletswyddau.

Unwaith rydych wedi eich penodi yn ddirprwy, byddwch yn derbyn galwad ffôn ‘setlo mewn’ gan eich rheolwr achos yn trafod y ffordd orau o ddiogelu asedion cyllidol y person yr ydych chi’n gweithredu drosto. Ni allwn gynnig cyngor cyfreithiol nac ariannol ond gallwn eich helpu i wneud penderfyniadau da ar gyfer yr unigolyn.

Dyma rai o’r pethau y byddant yn gofyn i chi wneud yn gyntaf:

  • Rhestru incwm ac asedau’r unigolyn - adolygu’r holl filiau, talu unrhyw filiau sydd yn weddill a chanslo unrhyw daliadau nad oes angen yn bellach.

  • Gwnewch stocrestr o’u meddiannau - rhestrwch unrhywbeth o werth yng nghartref yr unigolyn. Mae’n bosib y bydd gan rai pobl gasgliadau gwerthfawr ac rydym wedi gweld pethau megis medalau rhyfel, casgliadau stampiau ac hyd yn oed cotiau ffwr sydd rhaid cael eu gofalu amdanynt a’u hamddiffyn rhag ddifrod. Trefnwch yswiriant ar eu cyfer a sicrhewch eu bod yn cael eu cadw yn ddiogel tan ddiwedd eich cyfnod fel dirprwy.

  • Bydd ein adroddiad newydd ar gyfer dirprwyon, a drafodir yn y cylchlythyr hwn, yn helpu bob dirprwy newydd a phawb sy’n gwneud eu adroddiad blynyddol ar-lein yn cofnodi’r wybodaeth hon yn awtomatig.
  • Dywedwch wrth bob parti perthnasol mai chi yw’r dirprwy - bydd hyn yn cynnwys sefydliadau megis banciau a chymdeithasau adeiladu, cwmnïau buddsoddi, neu’r Adran Waith a Phensiynau (DWP). Os bydd y person yn dal cyfrannau mewn cwmnïau unigol, ysgrifennwch at gofrestrydd y cwmni.

    Bydd angen i chi ddangos i’r cyrff hyn gopi gwreiddiol, wedi ei selio, o’r gorchymyn llys, a phrawf o’ch enw a’ch cyfeiriad chi a’r unigolyn.
  • Ailgyfeirio pensiynau a buddion - mae’n bosib bod y DWP yn eu talu i drydydd parti o dan drefn benodedig. Mae gorchymyn dirprwyaeth yn disodli trefn benodedig - ond mae rhaid dweud wrth y DWP er mwyn i hwn gael effaith. Trefnu bod buddion neu bensiwn yr unigolyn yn cael ei dalu mewn cyfrif dirprwyaeth.

    Bydd angen gwneud yr un peth os yw’r awdurdod lleol yn gwneud taliadau am ofal yr unigolyn i drydydd parti. Gofyn i’r cyngor aildrefnu taliadau i’r cyfrif dirprwyaeth.

Fel y bydd eich dirprwyaeth yn mynd yn ei blaen, dylech barhau i reoli arian yr unigolyn mewn ffordd gyfrifol sy’n amlhau enillion cyllidol ar ei gyfer heb beryg at risg eithafol.

Dyma rai syniadau i helpu chi wneud hyn:

  1. Cadwch eich arian chi ac arian yr unigolyn ar wahân

    Ar gyfer bancio bob dydd, ychwanegwch eich enw at eu cyfrif, er enghraifft: ‘Mr John Smith fel dirprwy ar gyfer Mrs Jane Jones.’ Os oes ganddynt gyfrif ar y cyd (er enghraifft, gyda’u priod), byddwch yn gweld bod yn haws i’w reoli ac adroddwch i’r OPG os fyddwch yn creu cyfrif dirprwyaeth newydd ar gyfer eu incwm a thaliadau allan yn unig.

  2. Ceisiwch osgoi defnyddio arian parod

    Ceisiwch osgoi cadw symiau sylweddol o’u harian fel mân arian i dalu ar gyfer eitemau personol neu fanion bethau pob dydd. Os ydych am brynu unrhywbeth ar eu cyfer, ceisiwch dalu gyda debydau uniongyrchol a phryniannau cerdyn debyd ble bynnag y bo modd. Mae hyn yn rhannol ar gyfer diogelwch ac yn rhannol oherwydd ei bod yn gliriach a fydd yn gwneud y dasg o adrodd i OPG yn haws. Bydd hefyd yn eich helpu i fonitro eich gwario ar gyfer yr adroddiad blynyddol.

  3. Gwiriwch pa fuddion sydd ar gael

    Sicrhau bod yr unigolyn yn derbyn yr holl fuddion y gall fod yn gymwys i’w cael. Bydd eich rheolwr achos yn gallu eich cefnogi yn darganfod beth gall fod ar gael i’r unigolyn.

  4. Diogelwch arian yr unigolyn rhag fethiannau sefydliadau cyllidol

    Os bydd sefydliad cyllidol yn mynd i’r wal, bydd y Cynllun Digolledu Gwasanaethau Ariannol (FSCS) yn diogolledu cwsmeriaid am unrhyw arian a golli hyd at derfyn gosod o £85,000 yr adneuwr (£170,000 ar gyfer dalwyr cyfrifon ar y cyd).

    Mae’r terfyn hwn yn gymwys i holl asedion y cwsmer a ddalir gan y sefydliad wedi’i fethu ac nid i gyfrifon unigol. Felly, os oes gan y person ddau gyfrif gyda’r sefydliad, gyda £50,000 yr un yn y ddau gyfrif, byddai’r person ond yn derbyn £85,000 os methodd y sefydliad - sef colled o £15,000.

    Gall un ‘sefydliad’ unig gynnwys nifer o fanciau a chymdeithasau adeiladu gwahanol. Os oes gan yr unigolyn yr ydych yn gweithredu drosto fwy na £85,000 gydag un sefydliad cyllidol unig, dylech ystyried ailddosbarthu’r asedion.

  5. Diogelwch eiddo’r unigolyn

    Sicrhewch fod yswiriant adeiladau a chynnwys mewn grym. Bydd angen dweud wrth y cwmni yswiriant, os yw’r eiddo yn wag, i sicrhau na fydd y polisi yn ddirym.

    Gwnewch unrhyw waith atgyweirio i gadw’r eiddo yn ddiddos a diogel. Ystyriwch adael y gwres ymlaen yn isel dros y gaeaf, os yw’r eiddo yn wag, i osgoi pibellau yn byrstio. Os bydd yr eiddo yn wag am amser hir, caewch y stop tap mewnol a draeniwch y gwresogyddion.

    Sicrhewch fod y ffenestri a’r drysau yn ddiogel i leihau’r risg o ladrata ac ystyriwch gael lamp gydag amserydd arni i wneud y lle yn edrych fel ‘sa bod rhywun yn byw yno. Gwiriwch yr eiddo yn aml, cadwch yr ardd yn daclus a chasglwch unrhyw bost.

    Bydd angen i’r dirprwy ond gofyn am ganiatâd i werthu tŷ’r personos yw’r gorchymyn cyfredol yn benodol yn gwahardd gwerthiant. Fel arall, bydd yr hawl i werthu yn hanfodol fel rhan o awdurdodau rheoli cyffredinol y gorchymyn.

  6. Gofalwch am unrhyw gerbydau sydd gan yr unigolyn

    Dywedwch wrth y DVLA am unrhyw gerbydau sydd yn eich gofal er mwyn iddynt gofnodi chi fel y ceidwad cofrestredig. Bydd modd i chi drethu’r car, a threfnu MOT ac yswiriant ar ei gyfer. Er hynny, efallai byddai’n syniad i ystyried gwerthu’r cerbyd os nad yw’r cleient yn cael unrhyw fudd ohono rhagor.

  7. Sicrhewch fod eich bond diogelu ar y lefel iawn

    Os derbynnir y person swm mawr o arian, er enghraifft, o …. neu hawlio digolled, gwiriwch eich bond diogelu i weld os yw’r lefel cyfredol o ddiogelwch arno (fel a nodir yn eich gorchymyn) yn cynnig lefel digonol o ddiogelwch. Os oes angen cael mwy o ddiogelwch, dylech wneud cais i’r Llys Gwarchod i wneud hyn - nid oes gan yr OPG neu’r cwmni bondiau awdurdod i’w newid.

  8. Gofynnwch am gyngor proffesiynol os oes angen

    Efallai byddai’n syniad ichi ddefnyddio cyfrifydd neu gyfreithiwr os oes gan yr unigolyn faterion cyllidol cymhleth. Byddai’n rhesymol er enghraifft i ddefnyddio cyfrifydd ar gyfer drafftio datganiad treth incwm yr unigolyn. Byddai’n synhwyrol i gael cynghorwr cyllidol, i sicrhau eich bod yn trin â’ch arian yr unigolyn yn unol â’ch dyletswyddau fel dirprwy.

Beth ddylwn i wneud os nad yw’r banc yn adnabod fy ngorchymyn llys?

Dylech gysylltu â’ch gweithiwr achos os nad yw’r banc neu sefydliad cyllidol yn adnabod eich gorchymyn llys dirprwy. Er na fyddwn ni’n gallu ymyrryd yn y mater yn uniongyrchol, byddwn ni’n gallu dod â’r mater at sylw y banc.

Gweler enghraifft o orchymyn llys dilys a all gael ei defnyddio i ddangos ei dilysrwydd i’r banciau. Mae hefyd cyfarwyddyd cyffredinol am ddelio gyda banciau

Deall treuliau fel dirprwy lleyg

Fel dirprwy lleyg, gall fod yn gymhleth yn deall beth y gallwch chi hawlio amdano a beth na allwch chi hawlio amdano. Byddwch chi’n derbyn gorchymyn llys gan y Llys Gwarchod, fel un o’r pethau cyntaf, pan fyddwch chi’n cael eich penodi fel dirprwy lleyg. Esbonia Paragraff 4 y gorchymyn llys fod modd i chi hawlio treuliau fel rhan o’ch rôl.

Dywed Paragraff 4:

Mae hawl gan y ddirprwy gael ei ad-dalu am unrhyw dreuliau rhesymol a godir, oni bai bod y treuliau cymesur â maint ystad (ychwanegwch enw y cleient) a’r swyddogaeth a wneir gan y dirprwy.

Mae nifer o ddirprwyon wedi dweud wrthym fod cymhlethdod o hyd ynglŷn â beth y gallwch chi hawlio amdano a beth na allwch chi hawlio amdano. Y peth mwyaf pwysig i gofio yw nad yw treuliau yn dâl am yr amser a dreulir yn gweithredu fel dirprwy.

Fel rheol, yr unig ddirprwyon sydd yn cael eu talu am eu hamser yw’r rhai proffesiynol, megis cyfreithwyr a benodir i’r rôl. Os dych chi’n dymuno derbyn tâl ar gyfer yr amser wedi’i dreulio yn gwneud eich rôl, bydd angen ichi ofyn i’r Llys Gwarchod yn gyntaf am ganiatâd.

Gallwch hawlio treuliau ar gyfer:

  • costau a gafwyd yn teithio i ymweld â’r cleient yn eich rôl fel dirprwy
  • costau cludiant
  • galwadau ffôn
  • unrhyw filiau a dalwyd gennych ar ran y cleient (er enghraifft, biliau defnydd-debau, ffioedd gofal, ffioedd cyfreithiwr neu ffioedd llys)

Ni allwch hawlio treuliau ar gyfer:

  • costau teithio ar gyfer rhesymau teuluol a chymdeithasol
  • coll enillion
  • amser a dreulir yn cadw cofnodion neu wneud gwaith gweinyddol arall

Os byddwch yn hawlio treuliau fel rhan o’ch rôl fel dirprwy, gwnewch yn siwr eich bod yn cadw cofnod ohonynt - bydd gofyn ichi eu hadrodd i’r OPG yn eich adroddiad dirprwy. Cofiwch hefyd os ystyrir eich treuliau i fod yn afresymol, efallai bydd gofyn ichi ad-dalu’r costau. Gall y mater waethygu mewn rhai achosion eithafol ac efallai bydd eich rôl fel dirprwy yn cael ei thynnu oddi wrthych gan y Llys Gwarchod.

Er bod cymal yn eich gorchymyn llys yn esbonio bod modd ichi hawlio treuliau, nid oes rhaid ichi wneud hyn oni bai eich bod yn dymuno gwneud.

Sut i ganfod mwy

Os ydych chi dal yn ansicr ynglŷn â hawlio treuliau, cysylltwch â’n tîm cymorth dirprwyon lleyg.

Gallwch:

Gallwch hefyd ddarllen ein cyfarwyddyd ar gyfer dirprwyon

Y diweddaraf am ein gwasanaeth adrodd ar-lein ar gyfer dirprwyon

Cyflwynwyd gwasanaeth adrodd ar-lein ar gyfer dirprwyon lleyg ym Mehefin 2016. Ers hynny, rydym wedi bod yn defnyddio eich adborth i wneud gwelliannau a’i gwneud yn symlach byth i ddirprwyon lleyg gyflwyno eu hadroddiadau blynyddol ar-lein. Ar ddiwedd 2017, roedd mwy na 5,300 o ddirprwyon lleyg wedi cofrestru a chyflwyno eu hadroddiad ar-lein.

Rydym wedi gwneud nifer o newidiadau, ers Medi 2017, a fydd yn gwneud pethau’n haws wrth gyflwyno eich adroddiadau. Mae’r newidiadau yn cynnwys y canlynol:

  • opsiwn i gwblhau eich adroddiadau iechyd a lles ar-lein ar yr un amser â’ch un eiddo a chyllid, os yn berthnasol.

  • gall mwy nag un dirprwy gael ei gofrestru â’r un cleient ar-lein. Gallai’r naill neu’r llall o’r cyd-ddirprwyon gwblhau a chyflwyno adroddiadau ar gyfer y cleient hwnnw, yn hytrach na dibynnu ar un dirprwy cofrestredig i ymdrin â’r holl broses

  • gallwch nawr lwytho dogfennau megis datganiadau banc i gefnogi eich penderfyniadau ariannol. Mae hyn yn rhoi modd i chi anfon dogfennau yn brydlon os a phryd y bydd rheolwr achos yn gofyn amdanynt. Mae’n hefyd yn arbed ar gostau cludiant.

  • mantolen cyfrifon newydd yn dangos cyfanswm cyfredol o’r incwm a’r taliadau allan, a fydd yn helpu chi monitro eich gwario yn well

Yn dilyn adborth gan ein dirprwyon, rydym yn bwriadu, yn y misoedd nesaf, gwella’r ffordd y mae’r adrannau ‘arian mewn’ ac ‘arian allan’ yn eu ymddangos . Byddwn ni hefyd yn cyflwyno offer i newid ac ailgyflwyno adroddiadau blynyddol o’r blynyddoedd yng nghynt.

Os hoffech gwblhau eich adroddiad ar-lein, ewch i www.gov.uk/become-deputy/complete-your-annual-report

I greu cyfrif, bydd angen i chi gael eich rhif achos (rhif cyfeirio Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar y llythyrau a dderbyniwch) a’ch cyfeiriad e-bost wrth law.

Dirprwyon awdurdodau cyhoeddus

Lansiwyd gwasanaeth adrodd ar-lein ar gyfer dirprwyon awdurdodau cyhoeddus ym Mehefin 2017. Hyd yn hyn, mae 17 o awdurodau wedi cyflwyno adroddiadau ac mae adborth cadarnhaol wedi bod am y gwasanaeth. Os oes gennych ddiddordeb mewn defnyddio’r gwasanaeth i reoli adroddiadau eich cleientiaid, cysylltwch â’r Tîm Dirprwyon yr Awdurdodau Cyhoeddus gan:

Dirprwyon proffesiynol

Nid yw’r gwasanaeth adrodd ar-lein ar gael i ddirprwyon proffesiynol ar hyn o bryd. Ond, mae’r ymchwil wedi dechrau ar gyfer ymestyn y gwasanaeth i’r grŵp hwn ac rydym yn anelu at gael y gwasanaeth yn barod erbyn haf 2018.

Mae adrodd ar-lein yn gwneud proses bapur hir ac aml hynod anodd yn haws a rhwyddach. Mae opsiwn i lenwi adroddiadau cymaint ac mor aml â hoffech chi drwy’r flwyddyn, a dod yn ôl iddi pan fydd mwy o wybodaeth gyda chi i’w hychwanegu, mae’n gwneud y dasg o fonitro eich cyfrifon yn llawer mwy syml.

Os nad ydych chi eisoes wedi ei gwneud, rydym wir yn annog i ddirprwyon lleyg a dirprwyon awdurdodau cyhoeddus i gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein. Bydd yn gwneud y dasg o gyflwyno eich adroddiad blynyddol yn gyflymach a mwy syml.

Dilyn pum prif egwyddor Deddf Galluedd Meddyliol wrth wneud penderfyniadau

Fel dirprwy, rydych chi’n gyfrifol am wneud penderfyniadau ar ran rhywun sydd efallai â diffyg galluedd i wneud hyn. Pan fyddwch chi’n derbyn eich gorchymyn llys yn gyntaf, mae’n bosib y byddwch yn adnabod yr unigolyn yn dda iawn, neu ddim o gwbl, yn dibynnu os yw’ch rôl chi yn ddirprwy lleyg, dirprwy proffesiynol neu ddirprwy awdurdod cyhoeddus. Bydd hyn yn cael effaith ar y ffordd yr ydych yn gwneud penderfyniadau drostynt.

Rydym bob amser yn dweud, yn Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus, y dylech ddod i adnabod y person rydych yn gwneud penderfyniadau ar eu rhan, os nad ydych eisoes yn eu hadnabod, fel y cam cyntaf wrth dderbyn eich gorchymyn llys. Bydd hyn yn eich helpu ar adeg pan fydd angen ichi wneud penderfyniad, yna fyddwch chi’n gwybod pe gallai’r unigolyn wneud y penderfyniad ar ei ben ei hun. Os nad yw’r unigolyn yn gallu gwneud penderfyniad ar ei ben ei hun, bydd modd ichi ddewis y pethiawn sydd er budd pennaf yr unigolyn.

Dylech bob amser yn dilyn Deddf Galluedd Meddyliol 2005 (MCA), hyd yn oed os ydych chi’n adnabod y person yn dda. Noda Adran 1 Deddf Galluedd Meddyliol bum egwyddor allweddol y mae’n rhaid eu dilyn wrth weithio gydag unigolion dros 16 mlwydd oed:

  1. Rhaid cymryd bod unigolyn â galluedd oni bai y canfyddir bod diffyg galluedd ganddynt (isadran 2)

  2. Ni ddylid trin unigolyn fel un nad yw’n gallu gwneud penderfyniad oni bai y cymerwyd pob cam ymarferol i’w helpu heb lwyddiant (isadran 3)

  3. Ni ddylid trin unigolyn fel un nad yw’n gallu gwneud penderfyniad oherwydd iddynt ond yn gwneud penderfyniad annoeth (isadran 4)

  4. Rhaid gweithredu, neu wneud penderfyniad, o dan Deddf Galluedd Meddyliol ar gyfer neu ar ran unigolyn sydd â diffyg galluedd er lles gorau yr unigolyn (isadran 5)

  5. Cyn y gweithredir neu y gwneir penderfyniad, rhaid ystyried a yw’n bosibl gweithredu neu benderfynu mewn ffordd a fyddai’n amharu llai ar hawliau a rhyddid gweithredu’r unigolyn (isadran 6)

Y pum egwyddor yn gweithio

Mae gan Poppy anabledd dysgu ac mae’n byw mewn llety â chymorth. Mae ei brawd wedi cael ei benodi gan y llys fel ei dirprwy lles personol. Mae ganddi chwarren thyroid tanweithredol ac mae gofyn iddi gael profion gwaed yn aml a fynycha yn rheolaidd heb unrhyw broblemau.

Ar ymweliad diweddar i weld y nyrs ymarfer, gwrthododd Poppy dorchi ei llewys ar gyfer y prawf a phlygu eu breichiau yn dynn. Ceisiodd y gweithiwr cefnogi yn dringar i’w hannog, ond gwnaeth yn amlwg iawn ei bod yn gwrthod cael y prawf.

Beth ddywed y Ddeddf am sefyllfaoedd fel hyn?

Mae Adran 1 y Ddeddf yn cadarnhau’r egwyddor rhaid cymryd bod pobl dros 16 mlwydd oed â galluedd i wneud penderfyniadau eu hunain. Gall yr hawl sylfaenol hon ond yn cael ei diystyru os bydd Poppy yn cael ei hasesu i fod â diffyg galluedd.

Felly, dylai dirprwyon, gweithwyr iechyd proffesiynol, gweithwyr cymdeithasol a staff cynorthwyol bob amser yn ymdrin â gwneud penderfyniad gyda’r cyfeiriad meddwl rhaid cymryd bod unigolyn â galluedd i wneud penderfyniadau eu hunain S1(2).

Sut gallwn ni ddatrys y sefyllfa hon?

Mae angen gohirio’r prawf gwaed er mwyn cadarnhau a yw Poppy yn deall pam bod angen iddi ei gael. Mae hyn yn bodloni ail egwyddor S1(3). Wrth gymryd mwy o amser yn esbonio pam mae angen gwneud y profion, mae’r dirprwy a’r tîm cymorth yn cymryd ‘camau ymarferol’ yn sicrhau ei bod yn ymwneud â’r broses o wneud pendefyniad gymaint ag sy’n bosib.

Gallai’r staff a’r dirprwy wneud hyn drwy siarad â hi neu ddefnyddio lluniau i sicrhau bod ganddi ddigon o wybodaeth, neu’r ‘pwuntiau amlycaf’, i wneud y penderfyniad dros ei hunan.

Mae angen darganfod pam fod hi’n gwrthod cael y prawf a cheisio ei galluogi i wneud y penderfyniad, ar ei phen ei hun, dros gael y prawf. Yn yr achos hwn, gallai Poppy fod yn gwneud ‘penderfyniad annoeth’ fel a amlinellir uchod S1(4). Os rhown ni ein hunain ynesgidiau Poppy, rydym weithiau yn gohirio gwneud pethau annifyr am ddim rheswm am y ffaith na allwn ni eu hwynebu ar y pryd. Os oes gan Poppy alluedd i wneud y penderfyniad annoeth hwn, mae modd iddi wneud hyn yn gyfreithlon.

Os nad yw’r galluedd â Poppy i wneud y penderfyniad hwn, bydd eisiau i’r dirpwy, gyda’r clinigwyra’r tîm cymorth, gytuno ar benderfyniad ‘er budd pennaf’ S1(5). Bydd angen iddynt bwyso a mesur y manteision a’r anfanteision o Poppy yn cael y prawf, o beidio â chael y prawf a’r effaith bosib arni os caiff hi’r prawf yn erbyn ei hewyllys. Rydym yn canolbwyntio ar egwyddorion ‘llai cyfyngedig’.

Mae’r Côd Ymarfer yn Deddf Galluedd Meddyliol (2005) yn rhoi llawer o awgrymiadau a chymorth ym mhennod 4 yn cynnig cyfarwyddyd ychwanegol a fydd efallai o ddefnydd i ddirprwyon.

Cofiwch, pan fyddwch yn gwneud penderfyniad dros rywun sydd wedi colli ei alluedd meddyliol, nid yw’r dull ‘one size fits all’ yn gweithio. Mae llawer o resymau pam mae pobl yn colli eu galluedd meddyliol, ac mae angen i’r dull yr ymgymerir ag ef er mwyn eu cefnogi fod yn unigryw, fel y mae yn achos pob unigolyn.

Os oes angen help arnoch yn gwneud penderfyniad, darllenwch:

Bondiau Dirprwyon: Howden

Cofiwch allwch chi gysylltu â’n cyflenwr cymeradwyedig ar gyfer bondiau dirprwyon (Howden UK Group Limited) gan:

Gallwch gael dyfynbris am eich bond, neu adnewyddu un gan gyflenwr blaenorol, a’i dderbyn ar unwaith. Fel cyflenwr cymeradwyedig yr OPG, rydym yn monitro gwasanaethau Howden yn dynn.

Nid oes rhaid ichi drosglwyddo eich bondiau o gyflenwyr eraill oni bai bod chi eisiau gwneud hynny.

Nodyn ymarfer diwygiedig am roi rhoddion

Rydym wedi diwygio ein nodyn ymarfer i ddirprwyon ac atwrneiod ar sut y dylent fynd ati i wneud rhodd ar ran yr unigolyn y maent yn gweithredu drosto.

Mae ein nodyn ymarfer diwygiedig yn esbonio’r fframwaith cyfreithiol ynghlwm wrth roi rhodd ac rydym wedi ei ddiweddaru i adlewyrchu barnau diweddar am roi rhodd gan y Llys Gwarchod.

Fel dirprwy, gallwch chi roi rhoddion ar ran y person yr ydych chi’n gweithredu drosto. Er hynny, mae angen bod yn ofalus. Os byddwch yn camddefnyddio’ch awdurdod yn rhoi rhodd neu rywbeth nad yw o ‘gwerth rhesymol’, yna mae’n bosib y byddwn ni’n:

  • gofyn ichi dalu’r rhodd yn ôl
  • gofyn ichi wneud cais am gymeradwyaeth ôl-weithredol
  • dechrau ymchwiliad

Mae’r cyfarwyddyd hwn ar gael yn Gymraeg, a gallwn ni ddosbarthu copïau papur naill ai yn Saesneg neu’r Gymraeg ar gais.

Arweiniad cyffredinol ar roi rhoddion ar gael a gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth am roi rhodd gan siarad â’ch rheolwr achos.

Bob amser yn ymdrechu i wella sut yr ydym yn amddiffyn ein cwsmeriaid

Mae OPG yn cefnogi hawliau’r bobl sydd efallai â diffyg galluedd meddyliol i wneud rhai penderfyniadau dros eu hunain. Un o’r ffyrdd mwyaf pwysig yr ydym yn cefnogi pobl yw gan ‘diogelu’ neu eu hamddiffyn rhag gamdriniaeth neu esgeulustod. Rydym yn rhannu’r flaenoriaeth hon gyda nifer o wasanaethau cyhoeddus ac awdurdodau lleol.

Hydref 2017 oedd ein penblwydd 10 mlynedd. Ers inni gychwyn, mae’r nifer o bobl yr ydym yn amddiffyn wedi cynyddu bob blwyddyn. O Ebrill 2013 i Ebrill 2017, cododd y nifer o ddirprwyon a oruchwyliwyd gennym gan bron yn chwarter o 46,804 i 57,702.

Fel yr ydym wedi tyfu fel sefydliad, rydym bob amser wedi ymdrechu i sicrhau ein bod yn gwneud popeth sy’n bosib i ddiogelu’r bobl sydd ein hangen ni. Mae diogelu yn rhan bwysig iawn o beth wnawn ni - ac rydym wedi bod yn gwneud llawer o waith yn ddiweddar i wella’r ffordd yr ydym yn gwneud pethau yn bellach.

Gwneud ein prosesau yn gliriach i’n cwsmeriaid

Gwnaethom arolwg llynedd i helpu ni ddeall os oedd y bobl a gysylltodd â ni i godi pryder wedi deall ein proses ddiogelu ac ymchwilio.

Dangoswyd rhai canlyniadau yr arolwg bod ein cwsmeriaid:

  • wedi gweld nad yw’n bob amser yn glir beth y gallwn ni wneud a beth na allwn ni wneud o fewn ein hawdurdod i amddiffyn oedolion mewn perygl
  • wedi bod yn ansicr weithiau am ba sefydliad i ofyn iddo am help
  • wedi cael eu pasio o un sefydliad i’r llall wrth geisio dilyn pryder am ddiogelu

Rydym yn defnyddio’r canlyniadau hyn i’n helpu yn ysgrifennu strategaeth diogelu newydd. Bydd hyn yn ein helpu yn rhwystro materion rhag godi, a bydd hefyd yn gosod sut fyddwn ni’n ymchwilio pryderon a sut fyddwn ni’n mynd ati i’w datrys.

Bydd y strategaeth newydd yn amnewid ein polisi diogelu cyfredol, a ganolbwyntia ar yr ochr ymchwil. Bydd y strategaeth hefydd yn darparu chi a’n partneriaid megis yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol ac asiantaethau llywodraeth eraill gyda gwybodaeth am beth sydd o fewn ein hawdurdod i amddiffyn ein cwsmeriaid.

Bydd adegau pan fyddwch yn adrodd pryder inni a bydd rhaid inni ofyn ichi gysylltu â rhywun arall i sicrhau fod y mater yn cael ei ymdrin yn y ffordd iawn. Efallai byddwn ni’n awgrymu bod chi’n cysylltu â gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, safonau masnach, Comisiwn Ansawdd Gofal Lloegr neu Arolygiaeth Gofal Cymru neu weithwyr proffesiynol gofal iechyd.

Bydd y strategaeth yn ein helpu yn gweithio’n agosach gyda’r sefydliadau hyn i helpu rhwystro pryderon diogelu rhag ddigwydd ac helpu ymchwilio a’u datrys. Bydd hefyd yn sicrhau bod chi’n cael eich cyfeirio i’r lle iawn yn eich helpu i’w dilyn.

Bydd y strategaeth newydd ar gael ar ein gwefan GOV.UK o’r gwanwyn ymlaen.

Eleni, rydym hefyd yn parhau ein hastudiaeth am ddiogelu, yn edrych ar y ffordd yr ydym yn ymdrin ag atgyfeiriadau yn yr OPG. Rydym yn edrych, drwy’r astudiaeth, ar wella prosesau yn ogystal â gwella hyfforddiant ac ymwybyddiaeth ar gyfer ein staff.

Yn ychwanegol, rydym eisiau canlyniadau’r astudiaeth i helpu ni weithio’n agosach gyda’n partneriaid allanol, megis gwasanaethau cymdeithasol, yr heddlu, sefydliadau cyllidol, a darparwyr iechyd a gofal. Mae hyn yn golygu sicrhau eu bod yn gwybod pwy yr ydym a beth gwnawn ni, er mwyn inni fod yn gallu gweithio gyda’i gilydd yn brydlon ac yn effeithiol wrth amddiffyn pobl â diffyg galluedd meddyliol.

Sut yr ydym yn gweithio gyda sefydliadau partner

Rydym yn cynnal digwyddiadau rhwydweithio yn aml fel un o’n ffyrdd am weithio gyda sefydliadau sector cyhoeddus eraill sy’n amddiffyn pobl mewn perygl. Mae ein grwpiau bord gron diogelu yn ddau o’n digwyddiadau rhwydweithio, a gynhelir yn Lloegr a Chymru, wedi’u cadeirio gan Alan Eccles, Prif Weithredwr yr OPG a’r Gwarcheidwad Cyhoeddus.

Yn Hydref 2017, yn ein grwpiau bord gron mwyaf diweddar, ymunodd cynrychiolwyr â ni o sefydliadau megis Comisiwn Ansawdd Gofal, Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Oedolion, yr heddlu, GIG Lloegr, a Llywodraeth Cymru.

Gwnaethom ganolbwyntio ar ymchwil newydd am gamdriniaeth cyllidol o bobl â diffyg galluedd meddyliol a’r gwelliannau a wneir i’n gwasanaeth i’w datrys. Yn y digwyddiad Llundain, rhannodd ein siaradwr gwadd, Dr Gillian Dalley o Brifysgol Brunel yn Llundain, ganlyniadau ei hymchwil am gamdriniaeth cyllidol o bobl â diffyg galluedd meddyliol i reoli eu materion eu hunain.

Rhoddwyd cyflwyniad gan y Farwnes Ilora Finlay, Cadeirydd y Fforwm Galluedd Meddyliol Cenedlaethol, am wneud penderfyniadau wedi’u canolbwyntio ar bobl ac enghreifftiau wedi eu rhannu o ymarfer da.

Rhannon ni hefyd rhai o’n ymchwil yn y ddau ddigwyddiad. Yn OPG, rydym wedi ymchwilio pa mor dda y mae gweithwyr sector cyhoeddus a’r trydydd sector yn deall rôl yr OPG, a’r rhesymau dros ddefnyddio LPAs a gorchmynion llys. Gwelsom fod y dealltwriaeth rhwng ymatebwyr am yr OPG a’r dyletswyddau llys penodedig. Mae hyn yn ardal arall lle y byddwn ni’n gweithio’n agosach gyda sefydliadau eraill drwy 2018 i wella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth am rôl yr OPGa’r rôl y dirprwy.

Am fwy o wybodaeth am y digwyddiadau, dilynwch ein cyfrif Trydar neu ddarllenwch ein blog

Diwrnod ym mywyd rheoli cysylltiadau cwsmeriaid

Mae Mandy yn Rheolwr Cysylltiadau Cwsmeriaid gyda’r OPG, ac mae hi’n ymchwilio boddhad ein cwsmeriaid am ein gwasanaethau. Gall ‘Cwsmeriaid’ yn golygu ein dirprwyon neu clientiaid, atwrneiod neu gyfranwyr.

Siarada ei thîm â sefydliadau yr ymdrinir ein cwsmeriaid â hwy bob dydd gan gynnwys sefydliadau cyllidol, y sector iechyd ac awdurdodau lleol.

Symudodd Mandy i’r byd ymchwil ar ôl cael ei gofyn i weithio ar wella ein offer pŵer atwrnai parhaus (LPA) ar-lein. Meddai Mandy:

Gofynnwyd i fy nhîm i os oedd gennym unrhyw adnoddau i’w helpu, ac fi oedd y person hwnnw. Ro’n i’n gweld mod i’n mwynhau’r gwaith a mod i’n dda yn ei wneud - rwy’n wrth fy modd yn ei wneud. Credaf fod y cyfle wedi dod ar funud lwcus.

Mae staff yr OPG yn gweithio o swyddfa felly nid ydym yn cwrdd â llawer o’n cwsmeriaid. I Mandy, mae rheoli cyslltiadau cwsmeriaid yn rhoi cyfle iddi weld y bobl yr ydym yn eu helpu bob dydd wyneb-yn-wyneb.

Nid oes dau brosiect ymchwil yr un peth. Gall hyn gynnwys arolygon boddhad cwsmeriaid neu brosiect ymchwil penodol i roi gwybodaeth ac adborth gan ein cwsmeriaid er mwyn inni ystyried effaith unrhyw newidiadau ar ein cwsmeriaid.

Ar hyn o bryd, dewiswn grŵp o ddirprwyon yn fisol ar hap a gofyn iddynt am eu barnau ar gyfer ein arolwg boddhad cwsmeriaid, ond rydym yn adolygu hyn i weld sut allwn ni ei gwneud mor effeithiol â phosib.

Un enghraifft am un o’n arolygon penodol yw ein arolwg ‘ôl-cofrestru’. Mae hyn yn cynnwys sut brofiad yw cyflwyno eich gorchymyn dirprwyaeth neu LPA i fanciau neu sefydliadau eraill megis y sector iechyd neu gwmnïau gwasanaethau. Meddai Mandy:

Mae’r tîm partneriaeth yn defnyddio’r arolwg hwn yn llawer gan ei fod yn rhoi syniad da inni sut mae’r sefydliadau a weithia gyda ni yn helpu ein cwsmeriaid.

Rydym hefyd newydd gyflwyno ‘arolwg ymwybyddiaeth ar gyfer sefydliadau.’ Rydym wedi mynd at sefydliadau yn hytrach na’r cwsmeriaid yn gofyn iddynt sut brofiad y mae amdanyn nhw, i weld os ydynt yn ymwybodol o’r OPG. Rydym wedi darganfod bod tipyn o waith o hyd i’w wneud o ran gwella ymwybyddiaeth ar gyfer y LPA a gorchmynion dirprwyaeth.

Rydym wedi darganfod bod ymwybyddiaeth ar gyfer gorchmynion llys dirprwyaeth yn isel iawn ymysg sefydliadau yn cymharu â’r ymwybyddiaeth ar gyfer y LPA, felly bydd hyn yn rhywbeth y bydd ein tîm partneriaeth yn gweithio arno.

I sicrhau ein bod wedi casglu cymaint o wybodaeth ag sy’n bosib ynglŷn â beth mae ein cwsmeriaid yn meddwl, ymgymer Mandy dau fath o ymchwil:

  • ‘ymchwil mesurol’ - gofynnir cwestiynau ag ymatebion cyfyngedig i lawer o bobl. Gall hyn gael ei wneud ar-lein neu drwy’r bost.
  • ‘ymchwil ansoddol’ - gofynnir cwestiynau mwy fanwl i nifer llai o bobl. Gall hyn olygu ymweld â phoblyn eu cartref. Rydyn ni’n tueddu i wneud rhwng 40-50 o gyfweliadau wyneb yn wyneb ar gyfer ymchwil ansoddol.

Meddai Mandy:

Os oedd dewis gyda fi, byddwn i’n dewis ymchwil wyneb-yn-wyneb yn hytrach nag ymchwil ar-lein. Rwy’n meddwl eich bod yn cael llawer mwy allan ohoni.

Rydym yn cyfweld nid yn unig â dirprwyon ac atwrneiod ond gyda chlientiaid a chyfranwyr pan fo modd. Mae hyn yn hyfryd oherwydd nad yw’r OPG yn cael cyfle i ryngweithio gyda’r cyfranwr neu’r cleient yn aml felly mae’n braf cael cyfle i weld sut maen nhw’n teimlo am ein gwasanaethau.

Rwyf wedi cwrdd â phobl mor hyfryd, rwyf wedi clywed rhai storïau trist iawn ond rwyf hefyd wedi clywed rhai storïau ysbyrdoledig. Mae pobl yn datgelu llawer, ond maen nhw’n dal yn siriol iawn.

Sut ydym yn cynnal ein ymchwil

Rydym yn dewis ymatebion ar hap o’n cronfeydd data. Ceisiwn gael cydbwsedd da o ymatebion o ran oedran, rhyw ac ardaloedd daearyddol.

Os ydym am siarad â phobl wyneb yn wyneb, byddwn ni’n eu ffonio yn trefnu dyddiad ac amser sydd yn gyfleus iddyn nhw. Nid oes rhaid cwrdd yn eu cartref, ond mae’r mwyafrif o bobl yn dewis hynny. Ychwanega Mandy:

Rwyf wedi cyfweld â rhywun mewn llyfrgell gan nad oedd y person yn gyfforddus yn cael dieithryn yn ei gartref.

Os byddwn ni’n cyfweld â chyfranwr neu gleient, meddai Mandy:

Weithiau, bydd angen inni drefnu cefnogaeth ar eu cyfer. Mae’r natur bod mewn dirprwyaeth yn golygu bod yr unigolyn wedi colli galluedd i wneud penderfyniadau cyllidol ond nad yw hynny yn golygu bod diffyg galluedd ganddynt i roi caniatâd gwybodus i gymryd rhan yn yr ymchwil.

Mae’n bosib y byddwn yn gofyn i’r gofalwr, rheolwr cartref gofal neu’r dirprwy os yr ydym yn meddwl bod y cleient neu’r cyfranwr â galluedd digonol i’w gyfweld.

Hoffai Mandy weld mwy o bobl yn ymateb i arolygon.

Yn aml iawn, mae pobl ond yn llenwi holiadur pan maen nhw’n anfodlon. Rydyn ni eisiau derbyn adborth da a drwg, achos mae adborth da yn dda yn ei hun, - mae’n dangos ymarfer da. Os welwn ni fod pobl yn dweud bod rhan o’n gwasanaeth yn dda, yna fyddwn ni’n edrych ar sut i ailadrodd hynny.

Mae pob barn yn bwysig inni. Mae llawer o bobl yn meddwl ‘Wel, dw i ddim yn credu bod gen i unrhywbeth i gynnig,’ ond maen nhw.

Os hoffech chi gymryd rhan mewn unrhyw brosiectau ymchwil arbennig neu brofion defnyddioldeb o bryd i’w gilydd, rydym yn cadw rhestr o wirfoddolwyr ac mae modd ymrestru

Byddwn ni’n wrth ein boddau clywed gennych - byddwn ni’n ond yn cysylltu â chi pan fyddwn ni’n cynnal un o’n prosiectau ymchwil penodol.

Byddwn ni’n defnyddio canlyniadau ein ymchwil i:

  1. ddeall sut brofiad yw bod yn ddirprwy
  2. ddysgu mwy amdanoch chi
  3. ganfod materion nad ydym wedi dod ar eu traws o’r blaen

Un esiampl o fater yr ydym wedi ei wella gan ddefnyddio eich adborth yw’r ffaith nad oeddech chi’n gallu cael ateb gennym ar y ffôn yn ystod amseroed prysur. I ddatrys hyn, rydym wedi trefnu bod mwy o’n pobl ar y ffonau yn ystod amseroedd prysur.

Rydym wedi rhannu eich adborth gyda sefydliadau cyllidol, i’w gwneud yn fwy ymwybodol o’r problemau a wynebir yn defnyddio eich gorchmynion llys ac helpu staff blaen y gad i’w deall yn well.

Sut yr ydym yn ymdrin â chwynion - edrych ar oruchwylio

Yn OPG, rydym yn ymrwymedig at ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel i’n cwsmeriaid i gyd, ond rydym yn cydnabod nad ydym bob amser yn ei chael yn iawn. Rydyn ni’n diffinio cŵyn fel:

Mynegiant o anfodlonrwydd sy’n gofyn am weithredu neu ymateb.

Cwyno am oruchwyliaeth

Mae ein tîm oruchwylio yn cofnodi’r holl gwynion a dderbynir dros y ffôn, drwy e-bost ac yn ysgrifenedig. Ein bwriad ni yw rhoi ymateb ichi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os nad yw’n bosib gwneud hyn, byddwn ni’n eich diweddaru chi gyda chynnydd eich cŵyn a dweud wrthych pryd y gallwch ddisgwyl derbyn ymateb.

Achosion mwyaf cyffredin o gwyno

Ar gyfartaledd, derbyniwn rhyw 56 o gwynion y mis am sut yr ydym yn arolygu dirprwyon.

Pan fo’r cwsmeriaid yn cwyno am y tîm oruchwylio, mae’n aml am y gwasanaeth a roddwyd. Er enghraifft, efallai nad ydynt yn hapus am lythyr a anfonwyd gennym.

Os derbyniwn gŵyn am y ffordd yr ydym yn cyfathrebu, gwnawn gofnod ohoni. Rydyn ni’n ei defnyddio i ddatblygu ein hyfforddiant ar gyfer rheolwyr achos, i sicrhau ein bod yn cyfathrebu gyda chi yn y ffordd orau bosib.

Weithiau, mae’n well i siarad â chi yn hytrach nag ysgrifennu atoch felly rydym yn lleihau’r nifer o lythyrau a anfonir gennym ac yn annog pobl i gysylltu â ni dros y ffôn yn lle.

Mae gennym hefyd broses rheoli ansawdd i’n helpu yn deall unrhyw dueddiadau o ran cwyno ac unrhyw ofynion hyfforddiant.

Mae ffioedd yn achos arall o gwyno a gyfeirir gennym. Cred nifer o bobl fod yn annheg bod disgwyl iddynt gwblhau adroddiad a thalu amdano hefyd.

Rydym yn codi ffi arolygu blynyddol o £320. Mae’r Senedd yn gosod y ffi hon, ac mae’r naill lywodraeth ar ôl y llall wedi gweld y dylai ein costau gael eu talu gan y rhai sy’n defnyddio ein gwasanaethau ac nid gan drethdalwyr fel arfer.

Mae’r ffi yn angenrheidiol er mwyn inni fod yn gallu gwneud ein gwaith yn goruchwylio dirprwyon llys penodedig. Mae’n hefyd yn cynnwys gwasanaethau cyfrannol megis ein canolfan gyswllt a’n cydsyniad pwysig a swyddogaethau ymchwilio.

Weithiau bydd perthynas bryderus neu ffrind o berson â dirprwy yn cysylltu â ni yn dweud wrthym am rywbeth sy’n eu poeni. Gall achos fod, er enghraifft, lle mae’r brawd neu chwaer yn anhapus gyda’r person wedi’i benodi fel dirprwy.

Ceisiwn gynnig sicrwydd yn yr amgylchiadau hyn, ac esbonio ein bod wedi ymchwilio’r pryderon a godwyd ynglŷn ag ymddygiad y dirprwy, neu fyddwn yn esbonio’r rhesymau pam os nad ydym wedi gwneud hyn.

Os bydd rhywun yn cysylltu â ni gyda phryder bod rhywunâ dirprwy mewn perygl o gamdriniaeth, rydym yn ymdrin â hyn fel atgyfeiriad diogelu a’i ystyried yn briodol. Rydym yn cymryd diogelu yn hollol ddifrif ac edrych mewn i’r holl bryderon a godir gennych.

Os bydd y mater yn gysylltiedig â rhywbeth nad yw’n rhan o’r gorchymyn llys, byddwn ni’n eich cyfeirio at sefydliad arall a fydd yn gallu helpu.

Os oes camgymeriad wedi’i wneud gennym, byddwn ni’n ymddiheuro ac yn esbonio beth sydd wedi digwydd a’r gweithredu a gymerwyd i wneud pethau’n iawn.

Sut i wneud cŵyn

Ffôn: 0300 456 0300 (yn y Saesneg)
E-bost: customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk

Ysgrifennwch aton ni:

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Beth i’w wneud os nad ydych yn hapus gyda’ch ymateb

Os nad ydych yn hapus gyda’n hymateb, gallwch ysgrifennu at ein Prif Weithredwr, Alan Eccles. Bydd y Prif Weithredwr yn edrych ar sut triniwyd eich cŵyn a’r canlyniad ohono, a bydd yn bwriadu ymateb ichi o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os nad ydych yn fodlon gydag ymateb y prif weithredwr, gallwch gysylltu â’ch AS i gyfeirio’r cŵyn i’r Ombwdsmon Llywodraeth a’r Gwasanaeth Iechyd.

Gellir darllen am ein trefn cwyno

Cysylltiadau defnyddiol

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG)

Mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus yn gyfrifol am gofrestru atwrniaethau parhaus ac arhosol, fel bod modd i bobl ddewis pwy y maent eisiau eu cael i wneud penderfyniadau ar eu rhan pan, ac os, nad oes ganddynt y gallu yn bellach. Rydym yn cynnal y gofrestr gyhoeddus o ddirprwyon a phobl sydd wedi derbyn atwrniaethau parhaus ac arhosol.

Rydym hefyd yn goruwchwylio ac yn cefnogi dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod ac yn archwilio adroddiadau am gamdriniaeth a wnaed gan ddirprwyon neu dwrneiod cofrestredig.

Swyddfa'r Gwarcheidwad Cyhoeddus
Blwch Post 16185
Birmingham
B2 2WH

Gwefan: www.gov.uk/government/organisations/office-of-the-public-guardian.cy

Canolfan Gyswllt Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Ffôn: 0300 456 0300

Oriau agor

Dydd Llun i Ddydd Gwener: 9yb tan 5yh Dydd Mercher: 10yb tan 5yh

Ni chodir costau uwch am alwadau na’r gyfradd alw genedlaethol

E-bost: customerservices@publicguardian.gsi.gov.uk

Os oes gennych anawsterau lleferydd neu glyw ac mae gennych ffôn testun, gallwch ddefnyddio ffôn testun ar: 0115 9342778

Ffacs: 0870 739 5780

Y Llys Gwarchod

Mae’r Llys Gwarchod (COP) yn llys arbenigol ar gyfer pob mater sy’n ymwneud â phobl sy’n brin o’r galluedd i wneud penderfyniadau penodol. Gwna’r llys benderfyniadau ac yn penodi dirprwyon i wneud penderfyniadau o’r budd mwyaf i’r rheiny sydd heb y galluedd i wneud hynny.

Y Llys Gwarchod
Blwch Post 70185
First Avenue House,
42 - 49 High Holborn
Llundain,
WC1A 9JA

Ffôn: 0300 456 4600

I lawrlwytho ffurflenni’r Llys Gwarchod, ewch i dudalen Ffurflenni a Thaflenni Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EM

Ar gyfer gwybodaeth am benderfyniadau’r Llys Gwarchod