Canllawiau

Gwneud newidiadau i gerbyd a chofrestru cerbydau wedi’u hadeiladu o git, cerbydau wedi’u trosi o git a cherbydau clasurol wedi’u hailadeiladu (INF318W)

Cyhoeddwyd 26 Awst 2025

Cyflwyniad

Rhoi gwybod i DVLA am newidiadau a wnaed i gerbyd

Mae gofyniad cyfreithiol i hysbysu DVLA am unrhyw newidiadau a wnaed i gerbyd sy’n effeithio ar y wybodaeth a ddangosir ar y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) fel ailosod yr injan. Gwiriwch pryd mae angen ichi ddiweddaru eich V5CW.

Diogelwch cerbydau

Mae ceidwad cerbyd yn gyfrifol am sicrhau bod ei gerbyd bob amser yn ddiogel i’w yrru (‘addas i’r ffordd fawr’). Gall cerbyd fod yn anniogel hyd yn oed os oes ganddo dystysgrif MOT gyfredol gan mai dim ond ar adeg y prawf y mae’r MOT yn profi addasrwydd y cerbyd ar gyfer y ffordd. Mae cosbau am yrru cerbyd mewn cyflwr peryglus.

Cael rhagor o wybodaeth am addasrwydd cerbyd ar gyfer y ffordd fawr a chosbau.

Cerbydau â rhifau cofrestru personol

Nid yw pob rhif cofrestru yn drosglwyddadwy. Gwiriwch eich tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) yn gyntaf. Efallai yr hoffech drefnu trosglwyddiad neu gadw’r rhif cofrestru cyn ichi wneud unrhyw addasiadau neu drosiadau.

Rhan 1 – atgyweiriadau, adferiadau ac addasiadau strwythurol

Atgyweiriadau ac adferiadau

Cerbydau sydd wedi’u hatgyweirio neu eu hadfer

Oni bai bod y wybodaeth am y cerbyd a ddangosir ar y V5CW wedi’i heffeithio (manylion a gedwir yn adran manylion y cerbyd ar y V5CW), nid oes gofyniad i hysbysu DVLA pan fydd cerbyd wedi’i atgyweirio neu ei adfer i’w ddychwelyd i’w safon gweithio gwreiddiol.

Bydd atgyweiriadau ac adferiadau yn cynnwys ailosod cydrannau neu baneli corff y cerbyd sydd wedi treulio, ar sail tebyg am debyg, ac o’r un safon â’r rhai gwreiddiol. Rhaid i ymddangosiad rhannau strwythurol y cerbyd fod yr un fath ag yr oeddent pan gafodd ei gynhyrchu’n wreiddiol, neu i fanyleb sy’n gywir ar gyfer y cyfnod.

Mae un ‘eithriad’ i’r uchod, sef amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm tebyg (ar gyfer beiciau modur) gan y byddai hyn yn adnewyddiad hysbysadwy - gweler yr adran am amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm (ar gyfer beiciau modur).

Er na fydd gwaith atgyweirio neu adfer yn effeithio ar fanylion cofrestru cerbyd, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno’ch cerbyd ar gyfer MOT fel gwiriad addasrwydd i’r ffordd fawr o’r gwaith sydd wedi’i wneud, gan mai chi sy’n gyfrifol am addasrwydd y cerbyd ar gyfer y ffordd fawr. Mae cosbau am yrru cerbyd mewn cyflwr peryglus.

Argymhellir hefyd eich bod yn cysylltu â darparwr yswiriant eich cerbyd i wirio a yw’r newidiadau’n effeithio ar eich yswiriant modur.

Enghreifftiau o atgyweiriadau ac adferiadau ar gyfer ceir a cherbydau nwyddau ysgafn (o dan 3,500kg)

Bydd atgyweiriadau ac adferiadau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • ailosod llawr cist y cerbyd
  • ailosod lleoedd traed
  • ailosod bwâu olwynion blaen neu gefn neu addasu adenydd blaen neu gefn i ganiatáu ar gyfer olwynion lletach
  • ailosod siliau
  • ailosod llyw neu hongiad
  • ailosod y gerflwch neu’r echelau
  • ychwanegu bar gwrthrolio neu gawell gwrthrolio
  • tynnu bar gwrthrolio neu gawell gwrthrolio sydd eisoes yn bodoli ar ôl ei gynhyrchu – rhaid weldio dros unrhyw dyllau cysylltu sydd ar ôl ar ôl eu tynnu, gan ddefnyddio asio sêm parhaus i ddychwelyd cerbyd i’w gyflwr gwreiddiol
  • amnewid paneli corff cerbydau sydd wedi’u difrodi neu wedi cyrydu
  • amnewid cydran neu banel tebyg am debyg gydag un sydd wedi’i wneud o wahanol ddefnyddiau â nodweddion perfformiad cyfartal neu well na’r gwreiddiol
  • ardaloedd wedi cyrydu o’r siasi neu gragen corff unigol wedi’u hatgyweirio gan ddefnyddio pats, ond rhaid eu weldio’n barhaus â sêm
  • ailosod is-fframiau
  • gosod gwregysau diogelwch (ar yr amod bod y rhain wedi’u gosod yn unol â chanllawiau’r gwneuthurwr)
  • gosod ategolion sy’n gywir ar gyfer y cyfnod (er enghraifft, lampau ychwanegol, bariau tynnu ac erialau radio)

Enghreifftiau o atgyweiriadau ac adferiadau ar gyfer beiciau modur

Bydd atgyweiriadau ac adferiadau yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • atgyweirio difrod neu gyrydu i ffrâm beic modur
  • ailosod y ffyrc

Atgyweiriadau ac adferiadau sy’n effeithio ar y Rhif Adnabod Cerbyd (VIN)

Os yw’r atgyweiriad neu’r adferiad yn effeithio ar allu gweld y VIN, bydd angen ail-stampio’r VIN neu’r plât VIN neu ei atodi i’r siasi, cragen corff unigol neu’r ffrâm a ailosodwyd gan garej sy’n darparu’r gwasanaeth hwn. Rydym yn argymell eich bod yn cadw tystiolaeth o’r gwaith a gwblhawyd (cyn ac ar ôl) yn dangos y VIN, gan y gallai hyn fod yn ofynnol pe bai hunaniaeth y cerbyd yn cael ei chwestiynu yn ddiweddarach.

Amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm (ar gyfer beiciau modur)

Pan fo siasi, cragen corff unigol neu ffrâm (ar gyfer beic modur) wedi cael ei amnewid tebyg am debyg (er enghraifft, heb newid ymddangosiad na dimensiynau’r cerbyd o’i fanyleb wreiddiol gan y gwneuthurwr), mae hyn yn cael ei ddosbarthu fel atgyweiriad, ond mae angen hysbysu DVLA gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Datganiad am rannau cerbydau’ (V627/1W).

Gall yr un amnewid fod naill ai’n newydd sbon neu’n ail-law ond rhaid iddo fod o’r un fanyleb â’r gwreiddiol, er y gellir amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm heb ei galfaneiddio gydag un galfanedig.

Rydym yn argymell cyflwyno’r cerbyd ar gyfer MOT gwirfoddol fel gwiriad addasrwydd ar gyfer y ffordd fawr ar ôl cwblhau ailosod y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm (ar gyfer beiciau modur). Fel arall, gellir cyflwyno car neu gerbyd nwyddau ysgafn ar gyfer archwiliad Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) gwirfoddol fel gwiriad diogelwch yn dilyn yr ailosodiad.

Os ydych chi’n defnyddio cerbyd ail-law, rhaid darparu tystiolaeth o hunaniaeth y cerbyd rhoddwr, gan gynnwys y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) ar gyfer y cerbyd rhoddwr, neu dderbynebau swyddogol gan gyflenwyr adnabyddadwy.

Lle defnyddir rhannau ail-law i atgyweirio neu adfer cerbyd, dylid eu cyrchu’n ofalus gyda dim ond cydrannau bach y gellir eu cymryd o gerbyd sydd wedi cael Tystysgrif Dinistrio (CoD). Darllenwch fwy am sgrapio eich cerbyd a cherbydau sydd wedi’u diddymu gan gwmni yswiriant.

Unwaith y bydd eich cais wedi’i brosesu, byddwn yn rhoi awdurdodiad i’r rhan gael ei hail-stampio gyda rhif VIN neu rif ffrâm y cerbyd. Rhaid ail-stampio hwn wrth ymyl neu yn yr un ardal â’r stampio presennol. Rhaid dileu unrhyw rif adnabod presennol yn rhannol drwy stampio cyfres o gymeriadau ‘–––––’. Os nad oes stampio presennol, dylid stampio’r VIN yn glir ar ochr dde’r cerbyd mewn man gweladwy a hygyrch, mewn modd na all ddirywio na chael ei ddinistrio.

Unwaith y byddwn wedi cael cadarnhad bod y VIN gwreiddiol wedi’i ail-stampio, byddwn yn cyhoeddi tystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log) newydd a fydd yn cynnwys marciwr yn yr adran Nodiadau Arbennig.

Addasiadau strwythurol

Cerbydau sydd wedi’u haddasu’n strwythurol o’u manyleb wreiddiol

Rhaid ichi hysbysu DVLA pan fydd cerbyd wedi cael addasiad strwythurol. Rhaid gwneud hyn gan ddefnyddio’r ffurflen ‘Datganiad am gerbyd sydd wedi’i addasu’ (V627/3W). Efallai y bydd angen prawf MOT - gweler y gofynion MOT ar gyfer addasiadau.

Dim ond person sydd â’r wybodaeth beirianneg berthnasol i wneud addasiad yn ddiogel ddylai wneud y gwaith hwn. Argymhellir hefyd eich bod yn cysylltu â’ch darparwr yswiriant cerbyd i wirio a yw’r newidiadau’n effeithio ar yr hyn a gynhwysir yn yr yswiriant modur.

Beth yw addasiad strwythurol?

Bydd addasiad strwythurol yn cynnwys torri i mewn i siasi cerbyd (yn achos cerbyd â siasi ar wahân), cragen corff unigol (yn achos cerbyd ungragen) neu ffrâm (ar gyfer beiciau modur) a newid ymddangosiad neu ddimensiynau cerbyd o’i fanyleb wreiddiol gan y gwneuthurwr.

Mae’n bwysig nodi bod torri i mewn i’r cydrannau uchod i’w hatgyweirio heb newid y fanyleb wreiddiol (er enghraifft, ailosod adran sydd wedi’i difrodi neu wedi rhydu), yn cael ei ddosbarthu fel atgyweiriad neu adferiad.

Diffiniadau cydrannau

Siasi: fframwaith dwyn llwyth cerbyd modur sydd wedi’i adeiladu gyda fframwaith ar wahân nad yw’n dwyn llwyth. Yn nodweddiadol, mae ar ffurf ffrâm debyg i ysgol y mae’r corff, y pwerwaith a’r hongiad wedi’u gosod arni.

Cragen corff unigol: math o adeiladwaith cerbyd lle mae’r corff a’r siasi wedi’u hintegreiddio i mewn i un strwythur cydlynol.

Ffrâm beic modur: strwythur craidd cerbyd ac mae’n cynnal yr injan a chydrannau eraill yn ogystal â’r beiciwr, y teithiwr a’r bagiau.

Enghreifftiau o addasiadau strwythurol ar gyfer ceir a cherbydau nwyddau ysgafn (o dan 3,500kg)

Bydd addasiad strwythurol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i’r canlynol:

  • ymestyn, byrhau, neu ledu siasi neu gragen corff unigol cerbyd i ddarparu ar gyfer siâp neu arddull fframwaith gwahanol neu i debygu i fath gwahanol o gerbyd (er enghraifft, newid manyleb neu ymddangosiad cerbyd o coupe i roadster neu newid ymddangosiad car neu fan i fod yn debyg i dryc codi)
  • torri un neu fwy o bileri to a’u hymestyn neu eu byrhau
  • tynnu’r to
  • tynnu cawell gwrthrolio integredig (er enghraifft, wedi’i ymgorffori yn y pileri to fel rhan o fanyleb wreiddiol cerbyd)
  • addasu dyluniad is-fframiau neu aelodau cynnal sy’n dwyn llwyth
  • tynnu is-fframiau neu aelodau cynnal sy’n dwyn llwyth
  • gwneud unrhyw dyllau ychwanegol o fewn 30cm o unrhyw bwynt gosod hongiad, llyw, breciau, neu wregys diogelwch
  • addasu beic modur i feic tair olwyn*
  • trosi i yriant trydan**

Enghreifftiau o addasiadau strwythurol ar gyfer beiciau modur

Bydd addasiad strwythurol yn cynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i, unrhyw ymestyn, byrhau neu ledu ffrâm cerbyd neu newid ei ymddangosiad.

*Addasu beic modur i feic tair olwyn

Lle mae trosi beic modur i feic tair olwyn wedi’i wneud gan ddefnyddio cit neu gynlluniau trosi, bydd y rhain yn cael eu hasesu yn unol â’r canllawiau wedi’i drosi o git. Gweler yr adran am gerbydau wedi’u trosi o git.

Lle mae beic modur wedi’i drosi’n feic tair olwyn heb ddefnyddio cit neu gynlluniau trosi, mae hyn yn cael ei ddosbarthu fel addasiad. Nodwch y canlynol:

  • lle mae’r system tair olwyn wedi’i weldio ar gerbyd, bydd VIN DVLA yn cael ei ddyrannu, a bydd yn ofynnol i’r cerbyd gael Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol Beic Modur (MSVA) cyn y gellir ei ddefnyddio ar ffyrdd cyhoeddus
  • lle mae’r system tair olwyn wedi’i bolltio ar gerbyd, nid oes angen MSVA

**Cerbydau wedi’u trosi i yriant trydan

Dim ond arbenigwr sydd â’r wybodaeth peirianneg drydanol sy’n angenrheidiol i gynnal trosiad yn ddiogel ddylai wneud y gwaith o drosi cerbyd ag injan tanio mewnol i yriant trydan.

Ystyrir bod y broses o drosi cerbyd o injan tanio mewnol i yriant trydan yn addasiad. Mae hyn oherwydd ei fod yn ei gwneud yn ofynnol i’r injan a’r trosglwyddiad gael eu tynnu a gwneud addasiadau sylweddol i systemau rheoli allweddol y cerbyd, gan gynnwys cymorth brecio a llywio, yn ogystal â newidiadau i ddarparu ar gyfer modur trydan a phecyn batri.

Mae gofyniad cyfreithiol i hysbysu DVLA am newid math o danwydd gan y gallai hyn effeithio ar y wybodaeth a ddangosir ar y V5CW. Rhaid i hyn gynnwys manylion llawn yr addasiadau sydd wedi’u gwneud i’r cerbyd fel rhan o’r trosiad i drydan. Mae’r gofynion MOT (dros neu o dan 40 oed) hefyd yn berthnasol ar gyfer trosiadau trydan.

Lle mae’r gyfraith yn caniatáu, bydd DVLA yn diwygio’r math o danwydd a’r dosbarth treth i drydan.

Mae ceir a cherbydau nwyddau ysgafn a gofrestrwyd gyntaf ar neu ar ôl 1 Mawrth 2001 yn cael eu trethu yn ôl y ffigur allyriadau CO2. Pan fydd cerbyd wedi’i drosi i yriant trydan, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i DVLA gadw’r ffigur allyriadau CO2 a gofnodwyd wrth gofrestru gyntaf. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i’r cerbyd aros mewn dosbarth treth sy’n seiliedig ar CO2 ac ni ellir ei symud i’r dosbarth treth trydan.

Gofynion MOT ar gyfer addasiadau

Cerbydau dros 40 oed:

I gyflwyno addasiad ar gyfer cerbydau dros 40 oed, bydd angen ichi ddarparu MOT.

Nodwch fod y gofyniad i gyflwyno MOT gyda’ch hysbysiad yn berthnasol i bob addasiad gan gynnwys trosi beic modur i feic tair olwyn a throsi i drydan.

Cerbydau o dan 40 oed:

Rydym yn eich cynghori i ystyried cyflwyno’r cerbyd ar gyfer archwiliad MOT gwirfoddol fel gwiriad addasrwydd ar gyfer y ffordd fawr ar ôl i’r addasiadau gael eu cwblhau. Fel arall, gellir cyflwyno car neu fan ar gyfer archwiliad Cymeradwyaeth Cerbyd Unigol (IVA) gwirfoddol fel gwiriad diogelwch o’r addasiadau.

Cael gwybod rhagor o wybodaeth am y gofynion MOT ar gyfer cerbydau sydd wedi cael eu newid yn sylweddol.

Addasu beic modur i feic tair olwyn:

Rydym yn eich cynghori i ystyried cyflwyno’r cerbyd ar gyfer MOT gwirfoddol fel gwiriad addasrwydd ar gyfer y ffordd fawr ar ôl i’r addasiadau gael eu cwblhau.

Os yw’r cerbyd dros 3 oed, gan y bydd dosbarth yr MOT yn cael ei effeithio gan y math hwn o drosiad, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith ichi gael MOT yn y dosbarth cywir. Rhaid darparu hyn fel rhan o’ch hysbysiad i DVLA. Mae hyn yn cynnwys cerbyd sydd dros 40 oed ac a oedd wedi’i eithrio o MOT yn flaenorol.

Rhifau adnabod cerbyd DVLA a rhifau cofrestru Q

Lle mae cwestiwn ynghylch hunaniaeth cerbyd, gall DVLA fynnu bod y cerbyd yn cael ei archwilio.

Lle na ellir pennu hunaniaeth neu oedran cerbyd, efallai y bydd angen ailgofrestru cerbyd gyda VIN DVLA, IVA/MSVA a rhif cofrestru Q.

Os ydych chi’n ystyried prynu cerbyd heb VIN neu rif cofrestru, dylech chi fod yn ofalus. Os yw’r heddlu’n amau bod y cerbyd wedi’i ddwyn, efallai y byddwch chi’n ei golli a’r arian a dalwyd gennych chi amdano. Ewch i GOV.UK i gael rhagor o gyngor am brynu cerbyd.

Rhoddir rhifau cofrestru ‘Q’ a ‘QNI’ lle nad yw oedran neu hunaniaeth y cerbyd yn hysbys. Mae arddangos rhif cofrestru ‘Q’ neu ‘QNI’ yn arwydd gweladwy i ddarpar brynwr bod oedran neu hunaniaeth y cerbyd yn cael ei amau. Rhaid i’r cerbyd gael IVA neu MSVA cyn y gellir defnyddio rhif cofrestru ‘Q’ neu ‘QNI’.

Bydd lefel cymeradwyaeth math a’r math o brawf sydd ei angen yn dibynnu ar y cerbyd. Os na ellir profi eich cerbyd neu os na all basio’r prawf, ni fydd DVLA yn ei gofrestru. Mae rhagor o wybodaeth am gymeradwyaeth math ar gael gan yr Asiantaeth Safonau Gyrwyr a Cherbydau (DVSA) ar 0300 123 9000, a’r Asiantaeth Gyrwyr a Cherbydau (DVA) ar 0300 200 7862.

Adnabod y cerbyd:

Gallai’r anallu i adnabod cerbyd ddigwydd (ond nid yw’n gyfyngedig i):

  • pan gyflwynir cerbyd i’w gofrestru heb ei ddogfennau gwreiddiol a lle nad yw clwb yn gallu dyddio cerbyd yn gywir
  • pan nad yw cerbyd yn arddangos rhif VIN na siasi neu mae wedi’i addasu i’r graddau na ellir ei adnabod
  • mae’r rhif VIN neu’r siasi wedi’i golli ac ni ellir darparu tystiolaeth ddilys i gadarnhau ei hunaniaeth
  • ni chyflwynir cerbyd ar gyfer archwiliad gofynnol
  • nid yw canlyniadau archwiliad yn cadarnhau hunaniaeth y cerbyd

Gwneud eich hysbysiad

Amnewid siasi, cragen corff unigol neu ffrâm (ar gyfer beiciau modur):

Bydd angen y dystysgrif gofrestru V5CW gyfredol arnoch neu ‘Cais am dystysgrif gofrestru cerbyd’ (V62W) wedi’i gwblhau.

Bydd angen tystiolaeth ffotograffig arnoch ar gyfer y cerbyd sy’n derbyn y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm sy’n cael ei ailosod (cerbyd y derbynnydd) yn dangos y canlynol:

  • y cerbyd cyfan, gan gynnwys y blaen, y cefn, yr ochrau, y tu mewn a’r plât rhif cofrestru
  • rhif VIN neu siasi wedi’i stampio ar y siasi, y gragen corff unigol, neu’r ffrâm bresennol (yr un sy’n cael ei amnewid)
  • sticer VIN os yw ar gael (fel arfer wedi’i leoli ble bydd y drws yn cael ei gau), y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm bresennol (yr un sy’n cael ei amnewid)
  • plât VIN a’i leoliad ar gerbyd y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm bresennol (yr un sy’n cael ei amnewid)
  • rhif injan y cerbyd presennol

Bydd angen ichi gael ‘Datganiad am rannau cerbyd’ V627/1W wedi’i gwblhau, sy’n rhoi manylion llawn y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm sy’n cael ei amnewid.

Rhaid i dystiolaeth ar gyfer y siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm sydd wedi’i amnewid gynnwys naill ai copi o’r dderbynneb neu’r anfoneb gan y cyflenwr sy’n tystio i’w fanyleb neu’r dystysgrif gofrestru V5CW ddiweddaraf (llyfr log) ar gyfer y cerbyd hwn, os yw’r cerbyd newydd yn cael ei gymryd o gerbyd cofrestredig.

Addasiadau strwythurol:

Cynhwyswch y dogfennau ategol canlynol ar gyfer hysbysiad addasu:

  • ‘Datganiad am gerbyd sydd wedi’i addasu’ V627/3W wedi’i gwblhau, gan gynnwys rhif cofrestru’r cerbyd a manylion llawn yr addasiadau sydd wedi’u gwneud i’r cerbyd
  • V5CW gyfredol y cerbyd
  • tystiolaeth o MOT cyfredol (os oes angen)
  • tystiolaeth ategol gan glwb perchnogion (os oes angen)
  • MSVA – ar gyfer addasiadau o feic modur i feic tair olwyn lle mae’r cysylltiad wedi’i weldio arno

Beth sy’n digwydd nesaf

Cyn belled nad oes unrhyw bryderon ynghylch hunaniaeth cerbyd, bydd cerbyd wedi’i addasu’n strwythurol yn cadw ei VIN a’i rif cofrestru gwreiddiol. Cyhoeddir V5CW newydd i adlewyrchu unrhyw newidiadau i fanylion y cerbyd.

Bydd esboniad hefyd wedi’i gynnwys yn adran ‘Nodiadau Arbennig’ y V5CW bod y cerbyd wedi’i addasu o’i fanyleb wreiddiol gan y gwneuthurwr. Dyma enghreifftiau o’r nodiadau arbennig:

  • ‘Ailadeiladwyd’ – wedi’i adeiladu o rannau nad oeddent yn newydd, rhai ohonynt neu’r cyfan ohonynt
  • ‘Wedi’i addasu’ – mae’r siasi, y gragen corff unigol neu’r ffrâm wreiddiol wedi’i addasu o fanyleb wreiddiol y gwneuthurwr*
  • ‘Trosi trydanol’ – mae’r injan tanio wreiddiol wedi’i amnewid gan fodur trydan a batri*

*Bydd y marcwyr newydd hyn ar gael yn y dyfodol, ond am y tro, bydd y marciwr ‘Ailadeiladwyd’ presennol yn dal i gael ei ddefnyddio oherwydd ei fod yn dangos yn effeithiol bod newidiadau wedi’u gwneud i’r cerbyd. Unwaith y bydd y marcwyr newydd ar gael, byddant yn cael eu cymhwyso i unrhyw geisiadau a brosesir ar ôl y dyddiad hwnnw.

Rhan 2 – cerbydau wedi’u hadeiladu o git, wedi’u trosi o git a’u hailadeiladu

Cerbydau wedi’u hadeiladu o git

Os yw holl rannau cerbyd yn cael eu darparu o’r newydd gan y gwneuthurwr, bydd rhif cofrestru cyfredol yn cael ei ddyrannu i’r cerbyd cyn belled â bod derbynebau boddhaol a thystysgrif newydd-deb yn cael eu darparu.

Bydd ceir wedi’u hadeiladu o git, a adeiladwyd gan ddefnyddio dim mwy nag un gydran wedi’i hadnewyddu hefyd yn cael eu cofrestru o dan rif cofrestru cyfredol, cyn belled â bod tystiolaeth foddhaol bod y gydran wedi’i hadnewyddu i safon ‘fel newydd’ wedi’i darparu. Rhaid i’r cerbyd gael IVA neu MSVA.

Cerbydau wedi’u trosi o git

Dyma le mae pecyn o rannau newydd yn cael ei ychwanegu at gerbyd presennol, neu lle mae hen rannau’n cael eu hychwanegu at becyn o gorff, siasi neu gragen corff unigol wedi’i weithgynhyrchu. Bydd ymddangosiad cyffredinol y cerbyd yn newid ac yn arwain at ddisgrifiad gwahanol yn cael ei roi ar y dystysgrif gofrestru V5CW (llyfr log).

Bydd cerbyd yn cadw rhif cofrestru’r cerbyd gwreiddiol os defnyddir y siasi neu’r gragen corff unigol wreiddiol heb ei newid ynghyd â 2 gydran fawr arall o’r cerbyd gwreiddiol.

Os defnyddir cragen corff unigol neu siasi newydd gan wneuthurwr cit arbenigol (neu siasi neu fframwaith wedi’i addasu o gerbyd presennol) gyda 2 gydran fawr wreiddiol o’r cerbyd rhoddwr, bydd rhif cofrestru newydd yn cael ei gyhoeddi yn seiliedig ar oedran y cerbyd rhoddwr. Rhaid i’r cerbyd gael IVA neu MSVA. Bydd dyddiad cynhyrchu’r cerbyd yn cael ei gymryd o’r dystysgrif IVA neu MSVA. Lle nad oes digon o rannau o gerbyd rhoddwr yn cael eu defnyddio neu mewn achosion lle nad yw’r cofrestriad gwreiddiol yn hysbys, bydd angen IVA neu MSVA i gofrestru’r cerbyd a bydd rhif cofrestru ‘Q’ neu ‘QNI’ yn cael ei ddyrannu.

Cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu

Bwriad y categori cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu yw cefnogi adfer cerbydau clasurol heb eu cofrestru. Rhaid i gerbydau wedi’u hailadeiladu fod wedi’u gwneud o gydrannau cyfnod dilys sydd dros 25 mlwydd oed ac o’r un fanyleb. Rhaid i’r clwb selogion cerbydau priodol ar gyfer y brand (gwneuthuriad) gadarnhau yn ysgrifenedig, ar ôl archwiliad, eu bod yn dilysu bod y cerbyd yn wir adlewyrchu’r brand hwnnw a’i fod yn bodloni’r meini prawf uchod.

Rhaid anfon y cadarnhad ysgrifenedig hwn ynghyd â ‘Cais am dreth cerbyd cyntaf a chofrestru cerbyd modur ail-law’ (V55/5W). Bydd rhif cofrestru sy’n gysylltiedig ag oedran yn cael ei gyhoeddi yn seiliedig ar oedran y gydran ieuengaf a ddefnyddiwyd. Bydd cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu neu gerbydau clasurol sydd wedi’u hatgynhyrchu a adeiladwyd i fanylebau gwreiddiol gan ddefnyddio cymysgedd o gydrannau newydd ac ail-law, yn cael rhif cofrestru ‘Q’ neu ‘QNI’. Rhaid i’r cerbyd gael IVA neu MSVA.

Gwneud eich cais

Cynhwyswch y dogfennau ategol canlynol gyda’ch cais:

Anfonwch lungopi o’ch trwydded yrru cerdyn-llun y DU gyda’ch ffurflen gais i brofi pwy ydych chi. Peidiwch ag anfon y gwreiddiol.

Os na allwch wneud hyn, rhaid ichi anfon llungopïau o un ddogfen sy’n profi eich enw a dogfen arall sy’n profi eich cyfeiriad.

Dogfennau y byddwn yn eu derbyn i gadarnhau eich enw yw:

  • pasbort
  • tystysgrif priodas neu bartneriaeth sifil
  • dogfen ysgariad neu ddiwedd partneriaeth sifil (archddyfarniad amodol, archddyfarniad absoliwt, gorchymyn amodol neu orchymyn terfynol)
  • tystysgrif geni neu dystysgrif mabwysiadu
  • tystysgrif cydnabod rhywedd

Dogfennau y byddwn yn eu derbyn i gadarnhau eich cyfeiriad yw:

  • bil nwy, trydan, dŵr neu ffôn llinell dir a gyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
  • bil y dreth gyngor ar gyfer y flwyddyn gyfredol
  • datganiad banc neu gymdeithas adeiladu a gyhoeddwyd yn ystod y 3 mis diwethaf
  • cerdyn neu lythyr meddygol

Beth sy’n digwydd nesaf

Cerbydau wedi’u hadeiladu o git – rhoddir rhif cofrestru cyfredol i gerbyd wedi’i adeiladu o git sy’n defnyddio dim mwy nag un gydran wedi’i hadnewyddu. Os oes gan y cerbyd fwy nag un gydran wedi’i hadnewyddu, rhoddir rhif cofrestru ‘Q’ iddo.

Cerbydau wedi’u haddasu o git – yn dibynnu ar y rhannau a ddefnyddir, gellir aseinio’r rhif cofrestru gwreiddiol, rhif cofrestru sy’n gysylltiedig ag oedran neu VRN ‘Q’ i gerbyd wedi’i addasu o git.

Cerbydau clasurol wedi’u hailadeiladu – bydd rhif cofrestru sy’n gysylltiedig ag oedran yn cael ei aseinio i gerbydau newydd sydd wedi’u hadeiladu. Lle mae cerbyd wedi’i adeiladu gyda chymysgedd o rannau newydd ac ail-law, bydd rhif cofrestru ‘Q’ yn cael ei aseinio.

Bydd esboniad hefyd wedi’i gynnwys yn adran ‘Nodiadau Arbennig’ y V5CW. Dyma enghreifftiau o’r nodiadau arbennig:

  • ‘Wedi’i ailadeiladu’ – wedi’i gydosod o rannau nad oedd rhai ohonynt neu’r cyfan ohonynt yn newydd
  • ‘Wedi’i drosi drwy ailadeiladu o git’ – wedi’i gydosod o rannau nad ydynt o bosibl yn newydd i gyd

Ble i anfon eich cais

Anfonwch eich cais a’ch dogfennau ategol i’r cyfeiriad isod:

Cerbydau Cit ac Wedi’u Hailadeiladu
D10
DVLA
Abertawe
SA99 1ZZ