Canllawiau

Canllaw cyfrifon cwmni

Diweddarwyd 6 Medi 2019

1. Cyflwyniad

Mae’r canllaw hwn yn sôn am y dogfennau y mae’n rhaid i gwmni eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau bob blwyddyn – hyd yn oed oes yw’r cwmni yn gwmni segur. Os na fyddwch yn cydymffurfio, gallai’r canlyniadau fod yn ddifrifol. Gallai’r Cofrestrydd gymryd nad yw’r cwmni’n dilyn busnes nac yn weithredol mwyach, gan fynd ati i’w ddileu o’r gofrestr. Os bydd y Cofrestrydd yn dileu cwmni o’r gofrestr, ni fydd yn bodoli mwyach, a bydd ei asedau yn eiddo i’r Goron.

Pan fo cwmni yn weithredol, gallai swyddogion y cwmni gael eu herlyn oherwydd eu bod nhw yn gyfrifol, ar lefel bersonol, am sicrhau eu bod yn cyflwyno gwybodaeth am y cwmni mewn pryd. Mae methu gwneud hynny yn cyfateb i drosedd. Yn ogystal, ceir cosb sifil awtomatig am gyflwyno cyfrifon yn hwyr. Mae’r gofyniad i ffeilio dogfennau blynyddol yn berthnasol i bob cwmni, gan gynnwys cwmnïau bach fel cwmnïau rheoli fflatiau.

Dylech ddarllen y canllaw hwn ar y cyd â Deddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau perthnasol, y mae modd eu gweld ar wefan deddfwriaeth DU.

1.1 Deddfwriaeth berthnasol

Rhai o’r prif reoliadau y bydd angen i chi gyfeirio atynt yw:

  • Deddf Cwmnïau 2006
  • Rheoliadau Cwmnïau a Grwpiau Bach (Cyfrifon ac Adroddiad y Cyfarwyddwyr) 2008
  • Rheoliadau Cwmnïau a Grwpiau Mawr a Chanolig (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008
  • Rheoliadau Partneriaethau (Cyfrifon) 2008
  • Rheoliadau Cwmnïau a Phartneriaethau Atebolrwydd Cyfyngedig (Cyfrifon ac Eithriadau rhag Archwilio a’r Newid i’r Fframwaith Cyfrifo) 2012
  • Rheoliadau Cwmnïau Bychain (Cyfrifon Micro-Endidau) 2013

2. Dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg

2.1 Blwyddyn ariannol cwmni

Fel arfer, mae blwyddyn ariannol yn gyfnod o 12 mis y byddwch yn paratoi cyfrifon yn ei gylch. Rhaid i bob cwmni baratoi cyfrifon sy’n adrodd am berfformiad a gweithgareddau’r cwmni yn ystod y flwyddyn ariannol. Bydd hon yn cychwyn ar y diwrnod ar ôl i’r flwyddyn ariannol ddiwethaf ddod i ben neu, yn achos cwmni newydd, ar y dyddiad corffori.

Pennir blynyddoedd ariannol trwy wneud cyfeiriad at gyfnod cyfeirnod cyfrifeg sy’n diwedd ar dyddiad penodol a elwir Dyddiad Cyfeirnod Cyfrifeg (DCC).

Gall cwmnïau ddewis rhwng paratoi eu cyfrifon hyd at y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg neu at ddyddiad sydd hyd at saith diwrnod y naill ochr neu’r llall i’r dyddiad hwn.

2.2 Sut y pennir DCC y cwmni

Ar gyfer pob cwmni newydd bydd dyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf diwrnod olaf y mis pan fo’r cwmni’n dathlu ei ben-blwydd cyntaf. Bydd y dyddiadau cyfeirnod cyfrifeg dilynol yn digwydd ar yr un dyddiad bob blwyddyn yn awtomatig.

Er enghraifft, os corfforwyd y cwmni ar 6 Ebrill 2016, ei ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg cyntaf fyddai 30 Ebrill 2017 a 30 Ebrill bob blwyddyn wedi hynny.

2.3 Sut i newid DCC y cwmni

Gallwch newid y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg presennol neu’r un yn union o’i flaen i estyn neu fyrhau’r cyfnod. Er mwyn gwneud hyn, rhaid i chi hysbysu Tŷ’r Cwmnïau o’r ffaith bod y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn newid ar Ffurflen AA01c.

Rhaid i chi gyflwyno dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd derbyniol cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio’r cyfrifon ar gyfer y cyfnod yr ydych yn dymuno’i newid. Mewn geiriau eraill, os bydd cyfrifon am gyfnod cyfeirnod cyfrifeg yn ddyledus, mae’n rhy hwyr i chi newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg.

Gallwch newid y dyddiad cyfeirnod cyfrifeg trwy gyfrwng ein gwasanaethau Software Filing neu wasanaethau ffeilo ar-lein neu trwy anfon y ffurflenni papur perthnasol i Dŷ’r Cwmnïau.

Ar ôl diwedd pob cyfnod cyfeirnod cyfrifeg, bydd gan gwmnïau preifat 9 mis a chwmnïau cyhoeddus 6 mis i gyflwyno’u cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau. Mae’r cyfnod a ganiateir er mwyn cyflwyno cyfrifon cyntaf cwmni ac er mwyn newid ei ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn wahanol, a byddwn yn esbonio hyn yn ein callawiau ar gyfnodau cyfrifeg cyntaf.

2.4 Gyfyngiadau ynghylch newid y DCC

Mae modd newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg trwy fyrhau cyfnod cyfeirnod cyfrifeg mor aml ag y byddwch yn ei ddymuno, ac am gymaint o fisoedd ag y byddwch yn ei ddymuno.

Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau ynghylch ymestyn cyfnodau cyfeirnod cyfrifeg:

  • ni chewch ymestyn cyfnod er mwyn iddo fod dros 18 mis o ddyddiad cychwyn y cyfnod cyfrifeg, oni bai bod y cwmni yn mynd i ddwylo gweinyddydd;
  • ni chewch ei ymestyn fwy nag unwaith o fewn cyfnod o 5 mlynedd oni bai:
  • bod y cwmni yn nwylo gweinyddydd
  • bod yr Ysgrifennydd Gwladol wedi cymeradwyo hyn
  • fod y cwmni yn cymryd camau i sicrhau bod ei ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg yn cyd-fynd â dyddiad cyfeirnod cyfrifeg is-gwmni neu riant-gwmni dan gyfraith y DU neu wladwriaeth arall yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)

Does dim cyfyngiadau eraill ynghylch newid DCC cyntaf eich cwmni. Pan fyddwch yn ymestyn eich cyfnod cyfrifeg cyntaf i’r uchafswm o 18 mis, dylech nodi bod yn rhaid i chi ystyried y dyddiad corffori fel diwrnod cyntaf y cyfnod. Mae nifer o gwmnïau yn gwneud camgymeriad trwy ychwanegu 6 mis i ddiwedd y cyfnod ac mewn rhai achosion, gall hyn ymestyn y cyfnod y tu hwnt i 18 mis ac yn arwain at y cais cael ei wrthod.

3. Cofnodion Cyfrifeg

Rhaid i bob cwmni, os ydynt yn masnachu neu beidio, gadw cofnodion cyfrifeg. Rhaid i ‘r rhain gynnwys:

  • cofnodion sy’n dangos yr holl arian y mae’r cwmni wedi’i dderbyn a’i wario
  • cofnod o asedau a rhwymedigaethau’r cwmni

Yn ogystal, pan fo busnes cwmni yn ymwneud â delio gyda nwyddau, rhaid i’r cofnodion gynnwys:

  • datganiadau ynghylch y stoc y mae’r cwmni yn ei ddal ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol
  • yr holl ddatganiadau derbyniadau stoc yr ydych wedi manteisio arnynt er mwyn cymryd neu baratoi unrhyw ddatganiadau stoc
  • datganiad o’r holl nwyddau a werthwyd ac a brynwyd, ac eithrio trwy gyfrwng masnachu adwerthol arferol. Dylai hwn restru’r nwyddau, y prynwyr a’r gwerthwyr.

Rhaid i riant-gwmnïau sicrhau bod unrhyw is-ymgymeriad yn cadw cofnodion cyfrifeg digonol er mwyn sicrhau bod cyfarwyddwyr y rhiant-gwmni yn gallu paratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio gyda’r Ddeddf Cwmnïau neu Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol.

3.1 Ble mae’n rhaid i’ch cwmni gadw ei gofnodion cyfrifeg

Rhaid i gwmni gadw ei gofnodion cyfrifeg yng nghyfeiriad ei swyddfa gofrestredig neu mewn man sy’n addas ym marn y cyfarwyddwyr. Rhaid i’r cofnodion fod ar gael i’w harchwilio gan swyddogion y cwmni ar unrhyw adeg.

Os bydd y cwmni yn cadw’r cofnodion mewn man y tu allan i’r DU, rhaid iddo anfon cyfrifon a ffurflenni o leiaf bob chwe mis, a’u cadw yn y DU. Rhaid i’r cyfrifon a’r ffurflenni hynny ddatgelu’r sefyllfa ariannol a galluogi’r aelodau i baratoi cyfrifon sy’n cydymffurfio gyda gofynion y Ddeddf Cwmnïau, gan gynnwys y man lle y caiff y cyfrifon eu paratoi gan ddefnyddio Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol.

3.2 Pa mor hir y bydd yn rhaid cadw cofnodion cyfrifeg

Rhaid i gwmnïau preifat gadw cofnodion cyfrifeg am 3 blynedd o’r dyddiad y’u paratowyd. Rhaid i gwmnïau cyhoeddus eu cadw am 6 blynedd.

4. Cyfrifon ar gyfer eich aelodau

Rhaid i gyfarwyddwyr pob cwmni baratoi cyfrifon ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Gelwir y rhain yn gyfrifon unigol. Yn ogystal, rhaid i riant-gwmni baratoi cyfrifon grŵp (ond i riant-gwmnïau a ddiffinnir fel rhai bach, mae hyn yn ddewisol).

Gall rhai cwmnïau segur sy’n is-gwmnïau hawlio eithriad rhag paratoi neu ffeilio cyfrifon o dan amgylchiadau penodol hefyd. Mae rhagor o wybodaeth ar hyn ar gael yn ein canllawiau ar eithriadau a gofynion archwilio.

4.1 Cynnwys cyfrifon eich cwmni

Yn gyffredinol, rhaid i gyfrifon gynnwys:

  • cyfrif elw a cholled (neu gyfrif incwm a gwariant os nad yw’r cwmni yn masnachu er mwyn gwneud elw)
  • mantolen wedi’i llofnodi gan gyfarwyddwr ar ran y bwrdd ac enw’r cyfarwyddwr wedi ei brintio arni
  • nodiadau i’r cyfrifon
  • cyfrifon grŵp (pan fo hynny’n briodol)

Ac yn gyffredinol rhaid cyflwyno’r canlynol gyda’r cyfrifon;

  • adroddiad y cyfarwyddwyr wedi ei lofnodi gan ysgrifennydd neu gyfarwyddwr ac enw’r person hwnnw wedi ei brintio, gan gynnwys adolygiad busnes (neu adroddiad stratgeol) os nad yw’r cwmni yn gwmni bach
  • adroddiad archwilwyr ariannol sy’n datgan enw’r archwilydd ac arno lofnod yr archwilydd a dyddiad y llofnod (oni bai bod y cwmni wedi cael ei eithrio rhag archwiliad).

Ni cheir unrhyw ofyniad i gwmnïau fanteisio ar wasanaeth cyfrifydd proffesiynol i baratoi eu cyfrifon. Fodd bynnag, dylai cyfarwyddwyr fod yn ymwybodol o’u cyfrifoldebau cyfreithiol ynghylch cyfrifon ac os na fyddant yn siŵr am y gofynion, efallai y byddant yn ystyried ceisio cyngor proffesiynol.

4.2 Anfon cyfrifon at aelodau’r cwmni

Rhaid i bob cwmni anfon copi o’i gyfrifon blynyddol ar gyfer pob blwyddyn ariannol at –

  • holl aelodau’r cwmni
  • holl ddyledebwyr y cwmni
  • pob unigolyn y mae ganddynt yr hawl i gael hysbysiad ynghylch cyfarfodydd cyffredinol

Ni fydd hyn yn berthnasol i rai is-gwmnïau segur sydd wedi eu heithrio rhag paratoi cyfrifon. Mae rhagor o wybodaeth ar hyn ar gael yn ein canllawiau ar eithriadau a gofynion archwilio.

Ni cheir gofyniad statudol mwyach i gwmnïau preifat gyflwyno’u cyfrifon gerbron aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol. Os bydd erthyglau cwmni preifat yn nodi bod yn rhaid i’r cwmni gyflwyno cyfrifon gerbron aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol ar hyn o bryd, gall wneud penderfyniad arbennig i waredu’r ddarpariaeth honno. Rhaid i gwmni cyhoeddus gyflwyno ei gyfrifon gerbron ei aelodau yn ystod cyfarfod cyffredinol blynyddol.

Gall cwmni mabwysiadu penderfyniad neu wneud darpariaeth yn ei erthyglau a fydd yn sicrhau ei fod yn gallu anfon neu ddarparu dogfennau i’r aelodau, gan gynnwys cyfrifon, trwy gyfrwng gwefan. Nid oes yn rhaid i’r aelodau gytuno ar drefniant cyfathrebu o’r fath ac mae ganddynt yr hawl i ofyn am gopi papur.

4.3 Cymeradwyo a llofnodi cyfrifon

Rhaid i fwrdd cyfarwyddwyr y cwmni gymeradwyo’r cyfrifon cyn iddynt eu hanfon at aelodau’r cwmni:

  • rhaid i gyfarwyddwr lofnodi’r fantolen ar ran y bwrdd a phrintio ei enw/henw, a rhaid i unrhyw ddatganiadau eithrio ymddangos uwchben llofnod y cyfarwyddwr
  • rhaid i gyfarwyddwr neu ysgrifennydd y cwmni lofnodi adroddiad y cyfarwyddwyr ar ran y bwrdd, a phrintio ei enw/henw. Rhaid i unrhyw ddatganiad ynghylch y ffaith ei fod wedi cael ei baratoi dan y gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach, ymddangos uwchben y llofnod
  • os oes angen i’r cwmni atodi adroddiad yr archwilydd at y cyfrifon, rhaid i’r adroddiad gynnwys llofnod yr archwilydd a rhaid ei [h]enw wedi ei brintio
  • pan fo’r archwilydd yn gwmni, rhaid i adroddiad yr archwilydd nodi enw’r archwilydd ac enw’r unigolyn a’i llofnododd fel uwch-archwilydd statudol ar ran y cwmni.

5. Cyfrifon ar gyfer Tŷ’r Cwmnïau

5.1 Cwmnïau cyhoeddus a chyfyngedig preifat

Rhaid i bob cwmni cyhoeddus a chyfyngedig preifat ffeilio’u cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Rhaid ffeilio copi o’r cyfrifon yr ydych eisoes wedi’u paratoi ar gyfer yr aelodau/cyfranddeiliaid, yn Nhŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, caiff cwmnïau bach a micro-endidau baratoi fersiwn dalfyredig o’r cyfrifon hynny sydd â llai o fanylion trwy hepgor rhai eitemau o’r fantolen – rhoddir mwy o fanylion yn ein canllawiau ar gyfrifon cwmnïau bach a chyfrifon micro-endidau.

Gall cwmnïau segur cymwys gyflwyno cyfrifon blynyddol symlach fyth i Dŷ’r Cwmnïau rhoddir mwy o fanylion yn ein canllawiau ar gyfrifon cwmnïau segur.

5.2 Cwmnïau anghyfyngedig

Y bydd angen i gwmnïau anghyfyngedig gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau dim ond os oedd unrhyw rai o’r elfennau canlynol yn berthnasol i’r cwmni yn ystod y cyfnod y mae’r cyfrifon yn delio ag ef:

  • roedd y cwmni yn is-ymgymeriad neu’n rhiant-gwmni ymgymeriad cyfyngedig
  • roedd y cwmni yn gwmni bancio neu yswiriant (neu’n rhiant-gwmni cwmni bancio neu yswiriant)

neu

  • mae pob un o’i aelodau yn –
  • gwmni cyfyngedig
  • gwmni anghyfyngedig arall y mae pob un o’i aelodau yn gwmni cyfyngedig
  • partneriaeth Albanaidd y mae ei holl aelodau yn gwmni cyfyngedig

Hwyrach y gall is-gwmnïau segur hawlio eithriad rhag paratoi neu ffeilio eu cyfrifon o dan rai amgylchiadau penodol – cewch ragor o fanylion yn ein canllawiau ar gyfrifon cwmni segur.

Ni all Tŷ’r Cwmnïau roi cyngor techngol ar eich cyfrifon. Dim ond arweiniad cyffredinol y bydd modd i ni ei roi, nid cyngor technegol ynghylch materion cyfreithiol neu faterion cyfrifeg penodol. Mae’ch cyfrifon yn rhwym i ofynion cyfreithiol ac nid ydym yn gymwys i gynnig cyngor arbenigol. Efallai y byddwch yn dymuno ystyried ymgynghori â chyfrifydd os bydd angen cyngor o’r math hwn arnoch.

5.3 Ffeilio’ch cyfrifon gydag adrannau eraill o’r llywodraeth

Rhaid i chi ffeilio cyfrifon eich cwmni yn Nhŷ’r Cwmnïau yn unol â Deddf Cwmnïau 2006. Rhaid i chi ffeilio gyda chyrff rheoleiddio eraill o hyd, yn unol â’u gofynion a’u terfynau amser nhw ar gyfer ffeilio. Cysylltwch y sefydliad perthnasol am ragor o wybodaeth am ofynion sefydliaid eraill y llywodraeth.

Dylai cwmnïau elusennol nodi, os ydynt yn paratoi eu cyfrifon yn y fformat a gynghorir gan y Comisiwn Elusennau, yna ni fyddant yn gallu defnyddio gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau i ffeilio eu cyfrifon gyda’r cofrestrydd. Mae Tŷ’r Cwmnïau’n gweithio gyda’r Comisiwn Elusennau ar ddarparu gwasanaeth ffeilio electronig ar y cyd ar gyfer cyfrifon cwmnïau elusennol. Hyd nes y caiff gwasanaeth o’r fath ei lansio, bydd angen i gwmnïau elusennol ffeilio eu cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau ar bapur.

Yn ddiweddar mae’r Comisiwn Elusennau wedi cyhoeddi templed newydd i gynorthwyo cwmnïau elusennol wrth iddynt baratoi eu cyfrifon. Ar ôl ei gwblhau gellir hefyd anfon copi o’r templed hwn i Dŷ’r Cwmnïau er mwyn bodloni ein gofynion ffeilio. Gellir cael mwy o wybodaeth a chopi o’r templed ar wefan y Comisiwn Elusennau.

6. Terfynau amser ar gyfer ffeilio cyfrifon

Oni bai eich bod yn ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni (gweler isod), mae’r amser a ganiateir er mwyn cyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau fel arfer:

  • 9 mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg ar gyfer cwmni preifat
  • 6 mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg ar gyfer cwmni cyhoeddus

Dylech fod yn ymwybodol o’r diffiniad ar gyfer cyfnod o fisoedd mewn cysylltiad â ffeilio cyfrifon. Bydd cyfnod o fisoedd ar ôl dyddiad penodedig yn dod i ben ar y dyddiad cyfatebol yn y mis priodol.

Enghraifft Bydd gan gwmni preifat y mae ganddo ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg o 4 Ebrill, tan ganol nos ar 4 Ionawr yn ystod y flwyddyn ddilynol i gyflwyno’i gyfrifon, (nid 31 Ionawr).

Ni fydd hyn yn berthnasol os mai diwrnod olaf y mis yw’ch dyddiad cyfeirnod cyfrifeg. Yn yr achos hwn, byddai’r cyfnod a ganiateir er mwyn ffeilio cyfrifon yn dod i ben ar ddiwrnod olaf y mis priodol.

Enghraifft Bydd gan gwmni preifat y mae ganddo ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg o 30 Ebrill, tan ganol nos ar 31 Ionawr y flwyddyn ddilynol er mwyn cyflwyno’i gyfrifon, (nid 30 Ionawr).

Os bydd terfyn amser ar gyfer ffeilio yn syrthio ar ddydd Sul neu ar Ŵyl y Banc, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio’r cyfrifon erbyn y dyddiad hwnnw o hyd. Er mwyn osgoi cael cosb, dylech sicrhau eich bod yn anfon cyfrifon derbyniol mewn da bryd, er mwyn iddynt gyrraedd cyn y terfyn amser.

Y dyddiad pwysig yw’r dyddiad pan dderbynnir yn Nhŷ’r Cwmnïau gyfrifon derbyniol sy’n bodloni’r gofynion cyfreithiol perthnasol, ac nid y dyddiad pan fyddwch yn anfon y cyfrifon.

6.1 Terfynau amser ar gyfer cyflwyno cyfrifon cyntaf eich cwmni

Os ydych yn ffeilio cyfrifon cyntaf eich cwmni a bod y cyfrifon hynny yn delio â chyfnod o dros 12 mis, rhaid i chi eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau:

  • cyn pen 21 mis i’r dyddiad corffori ar gyfer cwmnïau preifat
  • cyn pen 18 mis i’r dyddiad corffori ar gyfer cwmnïau cyhoeddus
  • 3 mis o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg, pa un bynnag yw’r hiraf

Caiff y terfyn amser ar gyfer cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ei gyfrifo i’r union ddiwrnod.

Enghraifft Bydd gan gwmni preifat a gorfforwyd ar 1 Ionawr 2011 ac y mae ganddo ddyddiad cyfeirnod cyfrifeg o 31 Ionawr, tan ganol nos ar 1 Hydref 2012 (21 mis o’r dyddiad corffori) er mwyn cyflwyno’i gyfrifon.

Os bydd y cyfrifon cyntaf yn delio â chyfnod o 12 mis neu lai, bydd y cyfnodau arferol a ganiateir ar gyfer cyflwyno cyfrifon yn berthnasol.

6.2 Terfyn amser ar gyfer ffeilio cyfrifon eich cwmni pan fydd cwmni yn byrhau ei gyfnod cyfrifeg

Pan fydd cwmni yn byrhau ei gyfnod cyfrifeg, y terfyn amser newydd ar gyfer ffeilio fydd yr hiraf o’r ddau ddewis canlynol;

  • 9 mis ar gyfer cwmni preifat (neu 6 mis ar gyfer cwmni cyhoeddus) o’r dyddiad cyfeirnod cyfrifeg newydd
  • 3 mis o ddyddiad cael yr hysbysiad (newid dyddiad cyfeirnod cyfrifeg – ffurflen AA01c)

6.3 Gwneud cais am amser ychwanegol i ffeilio cyfrifon eich cwmni

Gallwch wneud cais i ymestyn eich dyddiad terfyn amser ar gyfer ffeilio os bydd digwyddiad heb ei gynllunio yn eich atal rhag ffeilio’ch cyfrifon.

7. Cosbau am fethu â ffeilio cyfrifon

7.1 Ffeilio cyfrifon yn hwyr

Mae methiant i gyflwyno cyfrifon prydlon yn dramgwydd troesddol. At hynny, mae’r gyfraith yn gosod cosb sifil am ffeilio cyfrifon yn hwyr ar y cwmni. Mae swm y gosb yn dibynnu ar ba mor hwyr mae’r cyfrifon yn cyrraedd ac a yw’r cwmni’n un preifat neu’n un cyhoeddus ar ddyddiad y fantolen, fel y dangosir yn y tabl isod:

Hyd y cyfnod Cwmni preifat Cwmni cyhoeddus
Heb fod yn fwy nag 1 mis £150 £750
Mwy nag 1 mis ond heb fod yn fwy na 3 mis £375 £1,500
Mwy na 3 mis ond heb fod yn fwy na 6 mis £750 £3,000
Mwy na 6 mis £1,500 £7,500

Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar gosbau ffeilio hwyr.

7.2 Canlyniadau methu â chyflwyno cyfrifon â Dŷ’r Cwmnïau

Os bydd y cofrestrydd yn credu nad yw cwmni yn weithredol mwyach, gallai ei ddileu o’r gofrestr a’i ddiddymu. Os bydd hyn yn digwydd, bydd holl asedau’r cwmni, gan gynnwys ei gyfrif banc a’i eiddo, yn gyffredinol yn trosglwyddo i berchnogaeth y Goron.

Mae methiant i gyflwyno cyfrifon prydlon yn dramgwydd troesddol. Mae perygl y caiff holl gyfarwyddwyr y cwmni eu herlyn. Ar ôl cael euogfarn, gallai cyfarwyddwr fod â record droseddu a chael dirwy ddigyfyngiad am bob trosedd. Mae hyn ar wahân i’r gosb sifil a osodir ar y cwmni am ffeilio cyfrifon yn hwyr.

8. Sut i ffeilio’ch cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau

8.1 Ffeilio’ch cyfrifon ar lein

Gallwch gyflwyno’r cyfrifon canlynol ar-lein gan ddefyddio gwasanaeth WebFiling Tŷ’r Cwmnïau:

  • cyfrifon segur ar gyfer cwmnïau nad ydynt erioed wedi masnachu
  • cyfrifon micro-endidau
  • cyfrifon cryno bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio (ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn unig sy’n dechrau cyn 01/01/2016)

Mae hefyd amrywiaeth o ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig amrywiaeth o becynnau cyfrifyddu y gellir eu defnyddio i baratoi a ffeilio cyfrifon. Gellir ffeilio’r rhan fwyaf o fathau o gyfrifon trwy feddalwedd, gan ddibynnu ar swyddogaethau’r pecyn meddalwedd yr ydych yn ei ddefnyddio.

8.2 Cyd-ffeilio’r un cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM)

Os ydych chi wedi paratoi cyfrifon bach sydd wedi eu heithrio rhag archwilio ariannol neu gyfrifon micro endidau, mae’n bosibl y gallwch ffeilio’r cyfrifon drwy ddefnyddio’r gwasanaeth Cyfrifon Cwmni a Threth Ar-lein (CATO) sy’n caniatáu ichi nodi data’ch cyfrifon unwaith a’i gyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau ac i CThEM.

I ddefnyddio’r opsiwn hwn, bydd arnoch chi angen:

Bydd yr opsiwn cyd-ffeilio yn caniatáu ichi gyflwyno cyfrifon, sydd wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol, o’r mathau canlynol i’r ddau sefydliad:

  • llawn,
  • talfyredig (abridged), neu
  • micro-endidau

Caiff defnyddwyr hefyd ddewis dileu rhai rhannau penodol o’u cyfrifon (megis y cyfrif elw a cholled ac adroddiad y cyfarwyddwyr) nad oes angen i gwmnïau bach eu ffeilio i Dŷ’r Cwmnïau. I gael mwy o wybodaeth ynghylch a yw hyn yn addas i’ch cwmni chi dylech edrych ar y cwestiynau cyffredin am gyd-ffeilio ar ein gwefan.

Mae gan Dŷ’r Cwmnïau a CThEM ddyddiadau cau gwahanol ar gyfer ffeilio a chosbau gwahanol am ffeilio’n hwyr. Cyfrifoldeb y cyfarwyddwyr yw sicrhau eu bod yn gwybod beth yw’r dyddiadau cau.

8.3 Ffeilio’ch cyfrifon ar bapur

Cewch anfon copi papur o gyfrifon eich cwmni i Dŷ’r Cwmnïau o hyd. Os ydych yn ffeilio’ch cyfrifon ar bapur mae’n hanfodol ichi sicrhau bod eich cyfrifon yn ein cyrraedd digon o amser cyn y terfyn amser ar gyfer ffeilio gan na roddir unrhyw amser ychwanegol ichi os cânt eu gwrthod.

Rhaid i enw a rhif y cwmni ymddangos ar un o’r dogfennau cyfun yn y cyfrifon megis adroddiad y cyfarwyddwyr neu fantolen. Cewch hefyd ddangos yr enw a’r rhif ar unrhyw ddalen glawr a gyflwynir gyda’r cyfrifon. At hynny, rhaid i’r copi o gyfrifon eich cwmni yr ydych yn ei ffeilio fodloni’r gofynion canlynol:

  • rhaid i’r copi o’r fantolen ddangos enw printiedig y cyfarwyddwr a’i llofnododd ar ran y bwrdd
  • rhaid i’r copi o’r fantolen hefyd gael ei llofnodi gan gyfarwyddwr
  • rhaid i’r copi o adroddiad y cyfarwyddwyr gynnwys enw printiedig y cyfarwyddwr neu ysgrifennydd cwmni a lofnododd yr adroddiad
  • os oes rhaid i’r cwmni atodi adroddiad archwilydd ariannol wrth y cyfrifon, rhaid i’r copi o adroddiad yr archwilydd ddatgan enw’r archwilydd

Dylid nodi na fydd llofnod darllenadwy ar fantolen yn bodloni’r gofyniad ychwanegol am enw printiedig. Bydd Tŷ’r Cwmnïau yn gwrthod unrhyw gyfrifon os nad ydynt yn bodloni’r gofynion uchod.

Lle mae’r archwilydd yn ffyrm, rhaid i adroddiad yr archwilydd ddatgan enw’r archwilydd ac enw’r sawl a’i llofnododd fel uwch-archwilydd statudol ar ran y ffyrm. Am ragor o fanylion, gan gynnwys manylion yr amgylchiadau lle gellir hepgor enwau archwilwyr, gweler ein canllawiau ar Archwilwyr.

8.4 Ffeilio cyfrifon mewn iaith ac eithrio Saesneg

Os byddwch yn paratoi cyfrifon mewn iaith ac eithrio Saesneg, bydd yn rhaid i chi anfon cyfieithiad Saesneg ardystiedig ohonynt hefyd. Os yw swyddfa gofrestredig y cwmni yng Nghymru, fodd bynnag, dim ond y cyfrifon Cymraeg y bydd yn rhaid i chi eu hanfon os byddwch yn dewis gwneud hynny. Bydd y cofrestrydd yn trefnu am y cyfieithiad ardystiedig yn Saesneg a bydd y ddogfen Gymreig ynghyd â’i chyfieithiad Saesneg yn cael ei rhoi ar y cofnod cyhoeddus ar yr un pryd. Yn ogystal, bydd modd i gwmnïau anfon cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol. Dim ond mewn ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd i chi anfon cyfieithiadau gwirfoddol ardystiedig, ac mae’n rhaid i chi eu hanfon gyda ffurflen VT01 wedi’i llenwi hefyd.

9. Cyfrifon micro-endidau

Wrth baratoi eich cyfrifon, dylech gofio bod cwmnïau’n cael eu rhannu yn 3 dosbarth yn ôl maint, sef; bach, canolig neu fawr. O fewn y dosbarth cwmnïau bach, mae yna is-set o’r enw micro-endid, sy’n berthnasol i gwmnïau bach iawn. Mae dosbarthiad y cwmnïau’n dibynnu ar drothwyon o ran trosiant, cyfanswm mantolenni (sef cyfanswm yr asedau sefydlog a chyfredol) a nifer gyfartalog y bobl a gyflogir gan y cwmni, a’r rhain sy’n pennu a yw eich cwmni’n ficro-endid, yn gwmni bach neu’n gwmni canolig.

Cwmni mawr yw unrhyw gwmni nad yw’n bodloni’r meini prawf i fod yn ficro-endid, yn gwmni bach neu’n gwmni canolig, ac mae hyn golygu bod angen iddo baratoi a chyflwyno cyfrifon llawn.

Gall micro-endidau baratoi a ffeilio mantolen â set lai o wybodaeth nag sydd ei hangen ar gyfer cwmni bach, canolig neu fawr. Yn ogystal, gall micro-endid elwa ar yr eithriadau sydd ar gael i gwmnïau bach, fel yr eithriad rhag archwilio, a’r gofyniad i ffeilio adroddiad y cyfarwyddwyr neu gyfrif elw a cholled gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae angen o hyd i ficro-endidau anfon cyfrifon at eu haelodau yn ogystal â’u ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Os ydych chi’n meddwl bod eich cwmni’n cymhwyso fel micro-endid, mae’n bosibl y byddwch eisiau ymgynghori â chyfrifydd proffesiynol cyn ichi baratoi cyfrifon micro-endid.

9.1 Amodau sy’n gwneud cwmni’n gymwys i fod yn ficro-endid

Rhaid i ficro-endid fodloni o leiaf dau o’r meini prawf canlynol:

  • ni all ei drosiant fod yn fwy na £632,000
  • ni all cyfanswm ei fantolen fod yn fwy na £316,000
  • ni all nifer cyfartalog y bobl a gyflogir ganddo fod yn fwy na 10

9.2 Endidau na all baratoi a chyflwyno cyfrifon micro-endid

Ni all endid baratoi a chyflwyno cyfrifon micro-endid os yw’n un o’r canlynol neu os oedd felly ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol;

  • partneriaeth cyfyngedig
  • partneriaeth gymwys yn ôl diffiniad Rheoliadau Partneriaethau (Cyfrifon) 2008
  • cwmni cyfyngedig cyhoeddus
  • cwmni tramor
  • cwmni heb ei gofrestru
  • cwmni ag awdurdod i gofrestru o dan adran 1040 o Ddeddf Cwmnïau 2006
  • cwmni elusennol
  • cwmni sydd wedi ei eithrio o’r drefn ar gyfer cwmnïau bychain o dan adran 384 o Ddeddf Cwmnïau 2006, neu sydd wedi ei eithrio rhag cael ei drin fel micro-endid o dan adran 384B o Ddeddf Cwmnïau 2006.

9.3 Yn gymwys i fod yn ficro-endid bob blwyddyn

Ar y cyfan, mae cwmni’n gymwys i fod yn ficro-endid yn ystod ei flwyddyn ariannol gyntaf os yw’n bodloni’r meini prawf ar gyfer y flwyddyn honno. Mewn unrhyw flynyddoedd canlynol, rhaid i’r cwmni fodloni’r meini prawf ar gyfer y flwyddyn honno a’r flwyddyn flaenorol.

Fodd bynnag, os nad yw cwmni a oedd yn gymwys i fod yn ficro-endid un flwyddyn yn dal i fodloni’r meini prawf yn ystod y flwyddyn nesaf, gall barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael yn ystod y flwyddyn nesaf.

Os yw’r cwmni’n dychwelyd i fod yn ficro-endid wedyn trwy fodloni’r meini prawf yn ystod y flwyddyn ariannol ganlynol, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor.

9.4 Cynnwys cyfrifon micro-endid

Mae angen i ficro-endid baratoi cyfrifon sy’n cynnwys yr elfennau canlynol:

  • Mantolen sy’n cydymffurfio ag un o’r fformatau a bennwyd yn y rheoliadau perthnasol, ynghyd ag unrhyw droednodiadau
  • Adroddiad y cyfarwyddwyr
  • Cyfrif elw a cholled sy’n cydymffurfio â’r fformat a bennwyd yn y rheoliadau perthnasol
  • Adroddiad yr archwilwyr, oni bai bod y cwmni’n hawlio eithriad rhag archwilio fel cwmni bach
  • Unrhyw nodiadau ar y cyfrifon

Rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad mewn man amlwg, uwchben llofnod y cyfarwyddwr a’r enw wedi ei brintio, sy’n dweud bod y cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau ar gyfer micro-endidau. Dylai’r datganiad hwn ymddangos yn y cyfrifon gwreiddiol yn ogystal â’r copi a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau.

Nid oes yn rhaid i ficro-endidau gyflwyno copi o adroddiad y cyfarwyddwyr na’r cyfrif elw a cholled i Dŷ’r Cwmnïau.

9.5 Eithriadau rhag archwilio sydd ar gael i ficro-endidau

Fel cwmni bach, gall micro-endid hawlio eithriad rhag archwilio, Os yw’n bodloni’r meini prawf cymhwyster ar gyfer yr eithriad hwn, gall gyflwyno cyfrifon heb eu harchwilio. Am ragor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar eithriadau rhag archwilio.

10. Cwmnïau bach

Wrth baratoi eich cyfrifon, dylech gofio bod cwmnïau’n cael eu rhannu yn 3 dosbarth yn ôl maint, sef; bach, canolig neu fawr. O fewn y dosbarth cwmnïau bach, mae yna is-set o’r enw micro-endid, sy’n berthnasol i gwmnïau bach iawn. Mae dosbarthiad y cwmnïau’n dibynnu ar drothwyon o ran trosiant, cyfanswm mantolenni (sef cyfanswm yr asedau sefydlog a chyfredol) a nifer gyfartalog y bobl a gyflogir gan y cwmni, a’r rhain sy’n pennu a yw eich cwmni’n ficro-endid, yn gwmni bach neu’n gwmni canolig. Cwmni mawr yw unrhyw gwmni nad yw’n bodloni’r meini prawf i fod yn ficro-endid, yn gwmni bach neu’n gwmni canolig, ac mae hyn golygu bod angen iddo baratoi a chyflwyno cyfrifon llawn.

Gall cwmni bach baratoi a chyflwyno cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig yn Neddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau perthnasol. Mae hyn yn golygu y gallant ddewis datgelu llai o wybodaeth na chwmnïau canolig a mawr. Os ydych yn credu bod eich cwmni chi yn gymwys i gael ei ystyried fel cwmni bach, efallai y byddwch yn dymuno cysylltu gyda chyfrifydd proffesiynol cyn i chi baratoi cyfrifon yn unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n destun y gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach.

10.1 Amodau ar gyfer bod yn gymwys fel cwmni bach

Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu ar ôl 01/01/2016 rhaid i gwmni bach fodloni o leiaf ddau o’r amodau canlynol:

  • ni ddylai’r trosiant blynyddol fod dros £10.2 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen fod dros £5.1 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog y gweithwyr fod dros 50

Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 01/01/16 roedd y trothwyau:

  • ni ddylai’r trosiant blynyddol fod dros £6.5 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen fod dros £3.26 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog y gweithwyr fod dros 50

10.2 Endidau nad ydynt yn cael paratoi a chyflwyno cyfrifon bach

Ni all cwmni baratoi a chyflwyno cyfrifon cwmni bach os yw, neu os oedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o’r canlynol;

  • cwmni cyhoeddus
  • aelod o grŵp anghymwys (gweler isod)
  • cwmni yswiriant awdurdodedig, cwmni bancio, dosbarthydd e-arian, cwmni buddsoddi MiFID (h.y. y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid) neu gwmni rheoli UCITS (h.y. Ymgymeriadau ar gyfer Cyd-fuddsoddi mewn Gwarannoedd Trosglwyddadwy) neu’n un sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant.

Bydd grŵp yn anghymwys os bydd unrhyw un o’i aelodau:

  • yn gwmni cyhoeddus
  • yn gorff corfforaethol (ar wahân i gwmni) y mae ei gyfrannau yn cael eu derbyn i’w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio yn un o Wladwriaethau’r AEE
  • yn unigolyn (ar wahân i gwmni bach) sydd wedi sicrhau caniatâd dan Ran IV Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio
  • yn gwmni bach sy’n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi MiFID neu’n gwmni rheoli UCITS
  • unigolyn sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant

Mae modd i gwmnïau a fyddai’n gymwys fel cwmnïau bach fel arall, ond sydd yn aelodau o grwpiau anghymwys, fanteisio o hyd ar yr eithriad rhag cynnwys adolygiad busnes (neu adroddiad strategol) yn adroddiad y cyfarwyddwyr sy’n cael ei baratoi ar gyfer aelodau, a rhag ffeilio adroddiad y cyfarwyddwyr yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r cwmnïau gwasanaeth ariannol sydd wedi eu heithrio rhag y drefn cwmnïau bach, cysylltwch â’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol ar eu gwefan.

10.3 Yn gymwys fel cwmni bach bob blwyddyn

Yn gyffredinol, bydd cwmni yn gymwys fel cwmni bach yn ystod ei gyfnod cyfrifeg cyntaf os bydd yn bodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn unrhyw gyfnodau dilynol, rhaid i gwmni fodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn ystod y cyfnod cyn hynny.

Os na fydd cwmni a oedd yn gymwys fel cwmni bach yn ystod un cyfnod, yn bodloni’r meini prawf mwyach yn ystod y cyfnod nesaf, gall barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf. Yna, os bydd y cwmni yn mynd yn ôl i fod yn gwmni bach trwy fodloni’r meini prawf ar gyfer y cyfnod canlynol, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor.

10.4 Amodau er mwyn bod yn gymwys fel grŵp bach

Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau ar neu ar ôl 01/01/2016 er mwyn bod yn gymwys fel grŵp bach, rhaid i grŵp o gwmnïau fodloni o leiaf ddau o’r amodau canlynol:

  • ni ddylai’r trosiant cyfanred fod yn uwch na £10.2 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen gyfanred fod yn uwch na £5.1 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn uwch na 50

Ar gyfer cyfnodau cyfrifeg yn dechrau cyn 01/01/2016 roedd y trothwyau:

  • ni ddylai’r trosiant cyfanred fod yn uwch na £6.5 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen gyfanred fod yn uwch na £3.26 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog cyfanred y gweithwyr fod yn uwch na 50

10.5 Cynnwys cyfrifon cwmni bach

Yn gyffredinol, bydd cyfrifon cwmni bach sy’n cael eu paratoi ar gyfer aelodau yn cynnwys:

  • cyfrif elw a cholled
  • mantolen sydd wedi ei llofnodi gan gyfarwyddwr ar ran y bwrdd ac enw printiedig y cyfarwyddwr hwnnw
  • nodiadau i’r cyfrifon
  • cyfrifon grŵp (os bydd rhiant-gwmni bach yn dewis eu paratoi)

A dylai’r canlynol gael eu cyflwyno gyda nhw:

  • adroddiad y cyfarwyddwyr wedi ei lofnodi gan ysgrifennydd neu gyfarwyddwr ac enw printiedig y person hwnnw
  • adroddiad archwilwyr ariannol gydag enw printiedig yr archwilydd cofrestredig (oni bai bod y cwmni yn gymwys i gael ei eithrio rhag archwilio, gan fanteisio ar yr eithriad hwnnw).

Rhaid i’r fantolen gynnwys datganiad mewn lle amlwg uwchben llofnod y cyfarwyddwr a’r enw printiedig sy’n nodi bod y cyfrifon wedi cael eu paratoi yn unol â’r darpariaethau arbennig sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n destun y gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach.

Nid oes yn rhaid i gwmnïau bach gyflwyno copi o adroddiad y cyfarwyddwyr na’r cyfrif elw a cholled i Dŷ’r Cwmnïau. Fodd bynnag, os ydynt yn dewis peidio â chyflwyno copi o’r cyfrif elw a cholled, mae’n rhaid i’r cwmni nodi hyn ar y fantolen.

Nodir y gofynion ar gyfer cwmnïau sy’n rhwym i’r gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach yn Rhannau 15 ac 16 Deddf Cwmnïau 2006. Gellir gweld gwybodaeth bellach am gynnwys a diwyg manwl y cyfrifon ar gyfer cwmnïau bach yn y rheoliadau perthnasol.

10.6 Cyfrifon talfyredig (abridged) cwmnïau bach

Cyflwynodd Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau a Grwpiau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2015 gysyniad cyfrifon talfyredig. Mae cyfrifon talfyredig yn cynnwys mantolen ac ynddi is-set o’r wybodaeth a geir ar fantolen lawn. Yn yr un modd, caiff y cyfrif elw a cholled gynnwys is-set o’r wybodaeth a geir mewn cyfrif elw a cholled llawn.

Yn awr mae’n rhaid i gwmnïau baratoi a ffeilio’r un set o gyfrifon i’w haelodau ag i’r cofnod cyhoeddus. Mae hyn yn golygu y bydd cwmni’n penderfynu ar yr adeg y mae’n paratoi ei gyfrifon a fydd yn eu talfyrru ai peidio (neu’n paratoi cyfrifon micro-endid). O’r blaen byddai cwmni’n paratoi cyfrifon llawn i’w aelodau ac yna’n penderfynu eu talfyrru ai peidio ar gyfer y cofnod cyhoeddus.

Os ydych yn dewis ffeilio mantolen a/neu gyfrif elw a cholled talfyredig, yna mae’n rhaid ichi gynnwys datganiad ar y fantolen bod yr aelodau wedi cytuno i gyfrifon talfyredig gael eu paratoi ar gyfer y cyfnod cyfrifyddu hwn yn unol ag adran 444(2A).

Mae’n rhaid i gwmnïau bach sy’n paratoi cyfrifon Safonau Cyfrifyddu Rhyngwladol gyflwyno mantolen lawn i Dŷ’r Cwmnïau.

10.7 Cyfrifon cryno cwmnïau bach

Diddymodd Rheoliadau Cwmnïau, Partneriaethau a Grwpiau (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2015 gyfrifon cryno. Mae hyn yn golygu na ellir paratoi a ffeilio cyfrifon cryno ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016.

10.8 Eithriadau eraill sydd ar gael i gwmnïau bach

Nododd Deddf Cwmnïau 2006 a’i rheoliadau hefyd beth mae’n rhaid i adroddiad cyfarwyddwyr cwmni bach ei gynnwys. Nid oes yn rhaid i’r fath adroddiad gynnwys adolygiad busnes (neu adroddiad strategol) neu ddatganiad ynghylch y swm mae’r cyfarwyddwyr yn argymell ei dalu fel difidend. Os yw’r cwmni wedi manteisio ar yr eithriad cwmnïau bach wrth baratoi adroddiad y cyfarwyddwyr, mae’n rhaid iddo gynnwys datganiad uwchben llofnod ac enw printiedig y cyfarwyddwr neu’r ysgrifennydd i’r perwyl hwnnw.

Fel arfer caiff cwmni bach hawlio eithriad rhag archwilio ariannol hefyd. Os yw’n bodloni’r meini prawf cymhwyso ar gyfer yr eithriad, caiff gyflwyno cyfrifon heb eu harchwilio. Trowch at ein canllawiau ar eithriadau rhag archwilio ariannol i gael mwy o wybodaeth.

Caiff cwmni bach sydd wedi dewis peidio â ffeilio ei gyfrif elw a cholled hefyd ddewis peidio â ffeilio copi o adroddiad yr archwilydd ariannol ar ei gyfrifon. Yn yr achos hwn rhaid iddo wneud y datgeliadau canlynol yn y nodiadau i’w gyfrifon: enw’r archwilydd ariannol (os mai cwmni oedd yr archwilydd ariannol, enw’r uwch archwilydd ariannol statudol), a oedd adroddiad yr archwilydd ariannol yn amodol neu’n ddiamod, ac, os oedd yr adroddiad yn amodol, beth oedd yr amod.

10.9 Rheolau arbennig i grwpiau bach

Nid oes angen i riant-gwmni sy’n cymhwyso fel cwmni bach baratoi cyfrifon grŵp na’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau os yw’r grŵp yn fach a heb fod yn anghymwys - gweler cwestiwn 4 uchod. Os yw rhiant-gwmni bach yn penderfynu paratoi cyfrifon grŵp, mae eu cynnwys wedi’i ragnodi gan Ddeddf 2006 a chan Atodlen 6 i Reoliadau Cwmnïau a Grwpiau Bach (Cyfrifon ac Adroddiad y Cyfarwyddwyr) 2008.

Os ydych chi’n paratoi cyfrifon grŵp mae’n rhaid iddynt gynnwys datganiad uwchben yr enw printiedig a’r llofnod ar y fantolen, yn cadarnhau eu bod wedi’u paratoi’n unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bach.

11. Eithriadau rhag archwilio ariannol ar gyfer cwmnïau bach a micro-endidau

Ceir eithriad rhag archwilio ariannol ar gyfer cwmnïau bach penodol, ond dim ond os ydynt yn gymwys ac yn dymuno manteisio arno. Pe bai cwmni yn gymwys fel micro-endid, felly mae’n gymwys fel cwmni bach hefyd ac felly gall manteisio ar yr eithriadau hyn.

Ar gyfer cyfnodau cyfrifyddu sy’n dechrau ar neu ar ôl 01/01/2016, i fod yn gymwys i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol, mae’n rhaid i gwmni gymhwyso fel un bach, mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol honno. Mewn geiriau eraill, mae’n rhaid iddo fodloni unrhyw ddau o’r canlynol:

  • rhaid i’r trosiant blynyddol beidio â bod yn fwy na £10.2 miliwn
  • rhaid i gyfanswm y fantolen beidio â bod yn fwy na £5.1miliwn
  • rhaid i nifer gyfartalog y cyflogeion beidio â bod yn fwy na 50

Hyd yn oed os bydd cwmni bach yn bodloni’r meini prawf hyn, bydd yn rhaid i’w gyfrifon gael eu harchwilio o hyd os bydd aelod neu aelodau sy’n dal o leiaf 10% o werth nominal y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig neu sy’n dal 10% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau yn mynnu hynny; neu – yn achos cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant – 10% o’i aelodau o ran eu nifer. Dylai’r galw i archwilio cyfrifon fod ar ffurf hysbysiad i’r cwmni, a gaiff ei adneuo yn y swyddfa gofrestredig o leiaf fis cyn diwedd y flwyddyn ariannol dan sylw. Ni ellir rhoi’r hysbysiad cyn y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

11.1 Endidau na allant hawlio eithriad rhag archwilio ariannol fel cwmni bach

Rhaid i chi gyflwyno cyfrifon archwiliedig i Dŷ’r Cwmnïau os bydd y cwmni yn perthyn i unrhyw un o’r categorïau canlynol:

  • rhiant-gwmni neu is-ymgymeriad (oni bai ei fod yn segur yn ystod y cyfnod pan oedd yn is-gwmni) ac eithrio:
    • pan fo’r grŵp yn gymwys fel grŵp bach neu fe fyddai’n gymwys pe bai pob corff corfforaethol (gan g ynnwys cyrff anghorfforedig y tu allan i’r DU) o fewn y grŵp yn gwmnïau
    • pan na fo’r trosiant ar gyfer y grŵp cyfan yn werth mwy na £10.2 miliwn net (neu £12.2 miliwn gros)
    • phan na fo cyfanswm mantolen gyfunol y grŵp yn werth mwy na £5.1 miliwn net (neu £6.1 miliwn gros)
  • cwmni cyhoeddus (CCC)
  • cwmni a oedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw —
  • yn gwmni sy’n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi MiFID (h.y. y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid) neu’n gwmni rheoli UCITS
  • yn gwmni sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant
  • gorff cofrestr arbennig yn unol â’r diffiniad yn adran 117(1) Deddf (Cydgyfnerthu) Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur 1992 (c. 52) neu’n gymdeithas gyflogwyr yn unol â’r diffiniad yn adran 122 y Deddf honno neu Erthygl 4 Gorchymyn Cysylltiadau Diwydiannol (Gogledd Iwerddon) 1992 (O.S. 1992/807 (N.I. 5)

Gellir eithrio rhai is-gwmnïau rhag archwilio os ydynt yn bodloni amodau penodedig ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu’n ddiweddarach. Trowch at ein canllawiau ar eithriad rhag archwilio ariannol i is-gwmnïau i gael mwy o wybodaeth.

Efallai y bydd yn rhaid i rai cwmnïau rheoli fflatiau a fyddai’n gymwys i fanteisio ar eithriad fel arall, baratoi cyfrifon archwiliedig er mwyn cydymffurfio gydag amodau eu prydles. Os ceir unrhyw amheuaeth, dylech ystyried ceisio cyngor proffesiynol.

11.2 Gofynion mae’n rhaid i gwmni bach gydymffurfio â hwy er mwyn hawlio eithriad rhag archwilio ariannol

Os bydd cwmni yn gymwys i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol, gall gyflwyno cyfrifon heb eu harchwilio i Dŷ’r Cwmnïau. Yn y naill achos neu’r llall, rhaid i’r fantolen gynnwys geiriad i effaith y datganiadau canlynol uwchben llofnod ac enw printiedig y cyfarwyddwr:

  • Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………(dd/mm/bbbb), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 477 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar gwmnïau bach..
  • Nid yw’r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o’i gyfrifon am y flwyddyn dan sylw yn unol ag adran 476
  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon
  • Paratowyd y cyfrifon hyn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gwmnïau’n perthyn i’r drefn cwmnïau bach”

11.3 Eithriad rhag archwilio ariannol i gwmnïau elusennol bach

Nid oes categori penodol ar gyfer cwmnïau elusennol wedi’u heithrio rhag archwilio ariannol yng Nghymru a Lloegr neu’r Alban. Byddant yn gymwys i gael eu heithrio rhag archwilio ariannol o dan gyfraith cwmnïau yn yr un modd ag unrhyw gwmni arall. Mae’n bosibl hefyd i gwmnïau elusennol fod yn destun gofynion ar wahân ar gyfer archwilio ariannol neu graffu ar eu cyfrifon mewn ffordd arall o dan gyfraith elusennau. I gael mwy o wybodaeth trowch at wefan y Comisiwn Elusennau.

O’r blaen roedd trothwyon gwahanol ar gyfer eithriad rhag archwilio ariannol i gwmnïau elusennol Gogledd Iwerddon ond ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016 cânt hawlio eithriad rhag archwilio ariannol ar yr amod eu bod yn bodloni’r un meini prawf â chwmnïau eraill yn y Deyrnas Unedig.

Mae hyn yn disodli’r trothwyon blaenorol i gwmnïau elusennol Gogledd Iwerddon ar gyfer blynyddoedd ariannol yn dechrau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2016. Ar gyfer blynyddoedd ariannol oedd yn dechrau cyn y dyddiad hwnnw mae’r trothwyon i hawlio eithriad rhag archwilio ariannol i gwmnïau elusennol bach Gogledd Iwerddon yn aros yr un peth, sef:

  • rhaid i’r incwm gros beidio â bod yn fwy na £90,000, a
  • rhaid i gyfanswm ei fantolen ar gyfer y flwyddyn honno beidio â bod yn fwy na £2.8 miliwn.

Neu, ar gyfer blynyddoedd ariannol oedd yn dechrau cyn 1 Ionawr 2016, mae’n bosibl y bydd elusen yn cael eithriad rhannol rhag y gofyniad am archwiliad ariannol os oes adroddiad cyfrifyddion addas i’r cyfrifon ac os yw’r cwmni’n bodloni’r ddau amod canlynol mewn perthynas â blwyddyn ariannol:

  • rhaid i’r incwm gros fod yn fwy na £90,000 ac nid yn fwy na £250,000
  • rhaid i gyfanswm ei fantolen ar gyfer y flwyddyn honno beidio â bod yn fwy nag £1.4 miliwn Mae’n rhaid i elusennau Gogledd Iwerddon sydd eisiau hawlio eithriad rhag archwilio ariannol ar gyfer blynyddoedd ariannol cyn 1 Ionawr 2016 ddangos y datganiadau canlynol ar eu mantolen uwchben llofnod y cyfarwyddwr:
  • Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben (insert date) roedd gan y cwmni’r hawl i eithriad o dan Erthygl 257A(1) (neu Erthygl 257A(2) yn achos eithriad rhannol) o Orchymyn Cwmnïau (Gogledd Iwerddon) 1986. Nid yw unrhyw aelodau wedi mynnu i’r cwmni gael archwiliad ariannol o’i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn unol ag Erthygl 257B(2).
  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion Deddf Cwmnïau 2006 mewn perthynas â chofnodion cyfrifyddu a pharatoi cyfrifon.
  • Rhaid i gyfrifon cwmnïau bach/cryno hefyd wneud y datganiad canlynol ar y fantolen uwchben llofnod y cyfarwyddwr:
  • Mae’r cyfrifon hyn wedi cael eu paratoi’n unol â’r darpariaethau sy’n berthnasol i gwmnïau sy’n ddarostyngedig i’r drefn cwmnïau bach.

12. Cyfrifon cwmni canolig

Yn yr un modd â chwmni bach, pennir cwmni canolig gan ei drosiant, cyfanswm ei fantolen (sy’n golygu cyfanswm yr asedau) a nifer cyfartalog y gweithwyr. Gall cwmni canolig baratoi cyfrifon yn unol â darpariaethau arbennig sy’n berthnasol ar gyfer cwmnïau canolig. Mae hyn yn golygu y gallant ddewis cyflwyno llai o wybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau.

Os ydych o’r farn y gallai cwmni fod yn gymwys fel cwmni canolig, dylech ystyried cysylltu â chyfrifydd proffesiynol cyn i chi baratoi cyfrifon.

12.1 Amodau er mwyn bod yn gymwys fel cwmni canolig

Er mwyn bod yn gwmni canolig, rhaid i chi fodloni o leiaf ddau o’r amodau canlynol:

  • ni ddylai’r trosiant blynyddol fod yn uwch na £36 miliwn
  • ni ddylai cyfanswm y fantolen fod yn uwch na £18 miliwn
  • ni ddylai nifer cyfartalog y gweithwyr fod yn uwch na 250

12.2 Endidau na allant baratoi a chyflwyno cyfrifon cwmni canolig

Ni fydd modd trin cwmni fel cwmni canolig os yw, neu os oedd ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol, yn un o’r canlynol:

  • cwmni cyhoeddus
  • cwmni sydd wedi sicrhau caniatâd dan Ran 4 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio neu sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant
  • aelod o grŵp anghymwys

Bydd grŵp yn anghymwys os bydd unrhyw un o’i aelodau:

  • yn gwmni cyhoeddus
  • yn gorff corfforaethol (ar wahân i gwmni) y mae ei gyfrannau yn cael eu derbyn i’w masnachu mewn marchnad wedi ei rheoleiddio
  • yn unigolyn (ar wahân i gwmni bach) sydd wedi sicrhau caniatâd dan Ran 4 Deddf Gwasanaethau a Marchnadoedd Ariannol 2000 i ddilyn gweithgarwch wedi ei reoleiddio
  • yn gwmni bach sy’n gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi MiFID (h.y. y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid) neu’n gwmni rheoli UCITS (hy Ymgymeriadau ar gyfer Cyd-fuddsoddi mewn Gwarannoedd Trosglwyddadwy)
  • unigolyn sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant

12.3 Yn gymwys fel cwmni canolig bob blwyddyn

Yn gyffredinol, bydd cwmni yn gymwys fel cwmni ‘canolig’ yn ystod ei gyfnod cyfrifeg cyntaf os bydd yn bodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw. Mewn unrhyw gyfnod dilynol, rhaid i gwmni fodloni’r amodau yn ystod y cyfnod hwnnw ac yn ystod y cyfnod cyn hynny.

Fodd bynnag, os na fydd cwmni a oedd yn gymwys fel cwmni canolig yn ystod un cyfnod, yn bodloni’r meini prawf mwyach yn ystod y cyfnod nesaf, gall barhau i hawlio’r eithriadau sydd ar gael ar gyfer y cyfnod nesaf. Yna, os bydd y cwmni yn mynd yn ôl i fod yn gwmni canolig trwy fodloni’r meini prawf, bydd yr eithriad yn parhau yn ddi-dor.

12.4 Cynnwys cyfrifon cwmni canolig

Rhaid i gyfrifon cwmni canolig gynnwys:

  • cyfrif elw a cholled
  • mantolen, sy’n dangos enw printiedig a llofnod y cyfarwyddwr
  • nodiadau i’r cyfrifon
  • cyfrifon grŵp (pan fo hynny’n briodol)

A dylai’r canlynol gael eu cyflwyno gyda nhw:

  • adroddiad cyfarwyddwyr gan gynnwys adolygiad busnes (neu adroddiad strategol) gydag enw printiedig yr ysgrifennydd neu’r cyfarwyddwr sy’n cymeradwyo’r cyfrifon
  • adroddiad archwilydd ariannol sy’n cynnwys enw’r archwilydd cofrestredig oni bai bod y cwmni wedi’i eithrio rhag archwilio ariannol.

Mae’n rhaid i gwmni canolig gyflwyno’r holl rannau cyfansoddol o’i gyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau.

12.5 Eithriadau sydd ar gael ar gyfer cwmnïau canolig

Gall cwmnïau canolig hepgor gwybodaeth benodol o’r adolygiad busnes (neu’r adroddiad stratgeol) yn eu hadroddiad cyfarwyddwyr (hynny yw, dadansoddiad gan ddefnyddio dangosyddion perfformiad allweddol i’r graddau y maent yn ymwneud â gwybodaeth anariannol). Yn ogystal, mae modd i gwmni canolig sy’n rhan o grŵp anghymwys fanteisio o hyd ar yr eithriad rhag datgelu dangosyddion perfformiad allweddol anariannol yn yr adolygiad busnes (neu’s adroddiad strategol).

Gall cwmnïau canolig sy’n paratoi cyfrifon dan y Ddeddf Cwmnïau hepgor datgelu ynghylch cydymffurfiaeth gyda safonau cyfrifeg a thrafodion parti cysylltiedig o’r cyfrifon y byddant yn eu hanfon at eu haelodau. Gall cwmnïau canolig sy’n paratoi cyfrifon dan y Ddeddf Cwmnïau ddewis ffeilio fersiwn ychydig yn fyrrach o’r cyfrif elw a cholled. (gweler rheoliad 4 Rheoliadau Grwpiau a Chwmnïau Mawr a Chanolig (Cyfrifon ac Adroddiadau) 2008).

Gall rhai is-gwmnïau gael eu heithrio rhag archwiliad ariannol os ydyn nhw’n bodloni amodau penodol ar gyfer blynyddoedd ariannol sy’n dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu’n ddiweddarach. Trowch at ein canllawiau ar eithriad rhag archwilio ariannol i is-gwmnïau i gael mwy o wybodaeth.

12.6 Grwpiau canolig

Does dim rheolau arbennig ar gyfer grwpiau canolig. Rhaid i riant-gwmni canolig baratoi cyfrifon grŵp a’u cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau.

13. Cyfrifon cwmnïau segur

Rhaid i bob cwmni cyfyngedig, os ydynt yn masnachu neu beidio, cyflwyno cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau. Sut bynnag mae cwmni yn segur os na fydd wedi cael unrhyw ‘drafodion cyfrifeg arwyddocaol’ yn ystod y cyfnod cyfrifeg. Mae trafodion cyfrifeg arwyddocaol yn drafodion y dylai’r cwmni eu nodi yn ei gofnodion cyfrifeg. Caiff cwmnïau segur hawlio eithriad rhag archwilio ariannol yn unol ag adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006.

Wrth bennu a yw cwmni yn segur neu beidio, gallwch ddiystyru’r trafodion canlynol:

  • taliadau am gyfrannau a dderbynnir gan danysgrifwyr i’r memorandwm cymdeithasiad
  • ffioedd a delir i’r Cofrestrydd Cwmnïau am newid enw cwmni, ailgofrestru cwmni a ffeilio datganiadau cadarnhau neu ffurflenni blynyddol
  • talu cosb sifil am ffeilio cyfrifon yn hwyr

13.1 Amodau y mae’n rhaid i gwmni segur eu bodloni er mwyn cael ei eithrio rhag archwilio ariannol

Bydd cwmni segur yn cael ei eithrio o’r gofyniad i gael archwiliad ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol honno:

  • os yw wedi bod yn segur ers y’i ffurfiwyd neu
  • os yw wedi bod yn segur ers diwedd y flwyddyn ariannol flaenorol ac yn bodloni’r amodau canlynol:
  • mae ganddo’r hawl i baratoi cyfrifon unigol yn unol â’r gyfundrefn ar gyfer cwmnïau bach
  • nid oes yn rhaid iddo baratoi cyfrifon grŵp
  • mae’n gymwys fel ‘cwmni bach’ mewn perthynas â’r flwyddyn honno,neu byddai wedi bod yn gymwys fel cwmni bach pe na bai’n gwmni cyhoeddus neu’n aelod o grŵp anghymwys

13.2 Eithriadau eraill sydd ar gael i gwmnïau segur

Mewn rhai amgylchiadau penodol, mae cwmni segur sydd hefyd yn is-gwmni yn cael hawlio eithriad rhag paratoi a/neu ffeilio ei gyfrifon fel y nodir yn yr adran o’r canllawiau hyn ar yr eithriad i is-gwmni segur.

13.3 Endidau na allant hawlio rhag archwilio ariannol fel cwmni segur

Ni chaiff cwmni fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ariannol y gall cwmni segur fanteisio arno, os bydd unrhyw rai o’r canlynol yn berthnasol iddo ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol dan sylw:

  • roedd yn gwmni yswiriant awdurdodedig, yn gwmni bancio, yn ddosbarthydd e-arian, yn gwmni buddsoddi MiFID (h.y. y Gyfarwyddeb Marchnadoedd Offerynnau Cyllid) neu’n gwmni rheoli UCITS (h.y. Ymgymeriadau ar gyfer Cyd-fuddsoddi mewn Gwarannoedd Trosglwyddadwy)
  • gwmni sy’n dilyn gweithgarwch yn y farchnad yswiriant

Ni chaiff cwmni fanteisio ar yr eithriad rhag archwilio ariannol y gall cwmni segur fanteisio arno os bydd aelod neu aelodau sy’n dal o leiaf 10% o werth nominal y cyfalaf cyfrannau dosbarthedig neu sy’n dal 10% o unrhyw ddosbarth o gyfrannau yn gofyn am archwiliad; neu – yn achos cwmni wedi ei gyfyngu drwy warant – 10% o’i aelodau o ran eu nifer. Dylai’r galw i archwilio cyfrifon fod ar ffurf hysbysiad i’r cwmni, a gaiff ei adneuo yn y swyddfa gofrestredig o leiaf fis cyn diwedd y flwyddyn ariannol dan sylw. Ni ellir rhoi’r hysbysiad cyn y flwyddyn ariannol y mae’n ymwneud â hi.

13.4 Cynnwys cyfrifon cwmni segur

Ni fydd angen i gyfrifon cwmni segur a gyflwynir i Dŷ’r Cwmnïau gynnwys cyfrif elw a cholled nac adroddiad y cyfarwyddwyr. Mae cyfrifon cwmni segur heb eu harchwilio lawer yn haws na chyfrifon cwmni sy’n masnachu, ond mae’n rhaid iddynt gynnwys:

  • mantolen sy’n cynnwys datganiadau uwchben enw printiedig a llofnod y cyfarwyddwr sy’n nodi bod y cwmni wedi bod yn segur trwy gydol y cyfnod cyfrifeg
  • unrhyw ffigurau ar gyfer y flwyddyn flaenorol at ddibenion cymharu – er na cheir eitemau incwm neu wariant ar gyfer y flwyddyn gyfredol
  • nodiadau penodol ar gyfer y fantolen

Ni fydd yr hawl i baratoi mantolen cwmni segur i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau yn effeithio ar rwymedigaethau’r cwmni i baratoi cyfrifon llawn ar gyfer ei aelodau.

13.5 Y gofynion mae’n rhaid i gwmni segur gydymffurfio â hwy i hawlio eithriad rhag archwilio ariannol

Os byddwch yn cyflwyno copi papur o’ch cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cynnwys y datganiadau canlynol uwchben enw printiedig a llofnod y cyfarwyddwr:

  • Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar ………………………. (dd/mm/bbbb), yr oedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 480 o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar gwmnïau segur.
  • Nid yw’r aelodau wedi mynnu gan y cwmni sicrhau archwiliad ariannol o’i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn unol ag adran 476
  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau am gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon Dylai cwmni preifat sy’n gymwys fel cwmni bach, gynnwys y datganiad canlynol yn y fantolen hefyd:
  • Paratowyd y cyfrifon hyn yn unol â’r darpariaethau sy’n gymwys i gwmnïau’n perthyn i’r drefn cwmnïau bach

Bydd cyfrifon a fydd yn cael eu cyflwyno ar-lein yn cynnwys camau gwirio mewnol a fydd yn atal camgymeriadau cyffredin a diffygion o ran y datganiadau angenrheidiol.

13.6 Ffurflen safonol ar gyfer cyfrifon segur

Mae WebFiling yn cynnig ffurflen syml ar y we sy’n galluogi cwmnïau sydd erioed wedi masnachu i gyflwyno cyfrifon cwmnïau segur yn rhwydd ac yn gyflym trwy gyfryngau electronig. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael ar gyfer cwmnïau sydd wedi eu cyfyngu drwy gyfrannau a thrwy warant ill dau erbyn hyn. Mae’r rhain yn cynnwys camau gwirio mewnol er mwyn sicrhau nad ydych wedi hepgor unrhyw wybodaeth allweddol.

Gallwch hefyd lawrlwytho ffurflen bapur AA02, sydd ar gyfer cwmni segur nad yw wedi masnachu ers iddo gael ei gorffori.

Nid yw’r ffurflen AA02 yn addas ar gyfer pob cwmni segur, er enghraifft, ni all is-gwmnïau segur ffeilio ffurflen AA02 am na all y ffurflen ddarparu ar gyfer y manylion penodedig y mae angen i is-gwmnïau segur eu cyflwyno.

Nid yw’r ffurflen hon yn addas ar gyfer cwmnïau sydd wedi mynd yn segur ar ôl masnachu. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi baratoi cyfrifon segur fel y’u disgrifir yn adran y canllawiau hyn ar gynnwys cyfrifon segur.

13.7 Terfynau amser i gyflwyno cyfrifon cwmni segur i Dŷ’r Cwmnïau

Bydd gennych yr un amser ag a ganiateir ar gyfer ffeilio, a rhoddir yr un cosbau am ffeilio hwyr, ag sy’n berthnasol ar gyfer cyfrifon eraill.

13.8 Cwmnïau segur sy’n dechrau masnachu unwaith eto

Ni fydd y cwmni yn cael ei eithrio rhag archwilio ariannol fel cwmni segur mwyach:

  • os bydd yn cychwyn ar weithgareddau masnachu yn ystod y cyfnod ariannol
  • os na fydd yn gymwys mwyach am ryw reswm arall, e.e. oherwydd y bu trafodion cyfrifeg sylweddol y mae angen eu cofnodi yn ei gofnodion cyfrifeg.

Pe bai un o’r rhain yn digwydd, efallai y byddai’n rhaid i chi gyflwyno cyfrifon llawn ar gyfer y flwyddyn ariannol pan nad oedd modd i’r cwmni gael ei eithrio mwyach, ac efallai y bydd angen i’r cyfarwyddwyr benodi archwilwyr ar gyfer y cwmni. Fodd bynnag, efallai y byddai’r cwmni yn gymwys i fanteisio ar eithriadau fel cwmni bach.

14. Hawlio eithriad rhag ffeilio cyfrifon fel is-gwmni segur

Mae’n bosibl na fydd rhaid i’ch is-gwmni ffeilio cyfrifon blynyddol yn Nhŷ’r Cwmnïau:

  • os yw’n segur trwy gydol y flwyddyn ariannol
  • os yw ei gyfnod cyfrifyddu’n dod i ben ar neu ar ôl 1 Hydref 2012
  • os yw ei riant-gwmni wedi’i sefydlu o dan gyfraith un o wladwriaethau’r Ardal Economaidd Ewropeaidd

Mae’n bosibl y gallwch hawlio eithriad rhag:

  • paratoi cyfrifon o dan adran 394A o Ddeddf Cwmnïau 2006
  • ffeilio cyfrifon yn Nhŷ’r Cwmnïau o dan adran 448A

Os ydych chi’n hawlio eithriad rhag paratoi cyfrifon, nid oes rhaid ichi baratoi cyfrifon blynyddol i aelodau’r is-gwmni na’u hanfon at Dŷ’r Cwmnïau.

Os ydych chi’n hawlio eithriad rhag ffeilio cyfrifon, bydd angen o hyd ichi baratoi cyfrifon blynyddol ar gyfer yr is-gwmni – ond nid oes rhaid ichi eu hanfon at Dŷ’r Cwmnïau.

Gallwch hefyd hawlio eithriad rhag archwilio ariannol fel is-gwmni.

14.1  Yr hyn mae angen ichi ei anfon atom

Gall y rhiant-gwmni ffeilio pecyn o ddogfennau ategol ar gyfer ei is-gwmnïau yn lle anfon cyfrifon atom. Mae’r pecyn yn cynnwys 3 dogfen:

  1. Hysbysiad cytundeb ysgrifenedig gan aelodau’r is-gwmni.
  2. Datganiad o warant oddi wrth y rhiant-gwmni – ffurflen AA06.
  3. Copi o gyfrifon cyfunol y rhiant-gwmni.

Rhaid ichi gyflwyno’r 3 dogfen i Dŷ’r Cwmnïau cyn dyddiad dyledus cyfrifon yr is-gwmni.

 Cytundeb

Y cytundeb yw hysbysiad cydsyniad ysgrifenedig bod pob aelod o’r is-gwmni’n cytuno i’r eithriad ar gyfer y flwyddyn ariannol. Rhaid iddo ddangos yn glir:

  • enw a rhif cofrestredig yr is-gwmni
  • yr adran y gwnaethpwyd y cytundeb o dani

Datganiad (ffurflen AA06)

Mae ffurflen AA06 yn ddatganiad oddi wrth y rhiant-gwmni ei fod yn gwarantu’r is-gwmni ar gyfer y flwyddyn ariannol. Gwneir y warant o dan naill ai:

  • adran 394C – eithriad rhag paratoi cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
  • adran 448C – eithriad rhag ffeilio cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur

Rhaid i’r datganiad gynnwys:

  • enw a rhif cofrestredig yr is-gwmni
  • blwyddyn ariannol yr is-gwmni mae’r warant ar ei chyfer
  • dyddiad datganiad
  • enw a rhif cofrestredig y rhiant-gwmni
  • y wlad lle cofrestrwyd y rhiant-gwmni a’i rif cofrestru (os nad yw yn y Deyrnas Unedig)
  • rhif yr adran o Ddeddf Cwmnïau 2006 y gwneir y warant o dani
  • llofnodion ar ran y rhiant-gwmni a’r is-gwmni – hyd yn oed os yw’r un person yn llofnodi ar gyfer y ddau

Cyfrifon y rhiant-gwmni

Rhaid ichi anfon atom gopi o gyfrifon cyfunol y rhiant-gwmni ar gyfer y flwyddyn ariannol (neu ddyddiad cynharach yn yr un flwyddyn ariannol).

Rhaid i’r cyfrifon hyn gynnwys:

  • copi o adroddiad yr archwilydd ariannol
  • yr adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hynny
  • enw a rhif cofrestredig yr is-gwmni

Rhaid iddynt hefyd ddweud yn glir bod yr is-gwmni wedi’i eithrio rhag naill ai:

  • paratoi cyfrifon unigol o dan adran 394A; neu
  • ffeilio cyfrifon unigol o dan adran 448A

Byddai o gymorth ysgrifennu enw a rhif cofrestredig yr is-gwmni ar y dudalen flaen fel cyfeirnod.

14.2 Beth mae’r eithriad yn ei olygu a phryd mae’n dod i rym

Mae’r eithriad yn dod i rym ar yr adeg y derbyniwn bob un o’r 3 dogfen. Mae’n golygu bod y rhiant-gwmni’n gwarantu holl rwymedigaethau’r is-gwmni sydd heb eu talu ar ddiwedd y flwyddyn ariannol.

Mae’r eithriad yn aros mewn grym hyd nes i’r holl rwymedigaethau gael eu talu.

14.3 Sut i anfon eich dogfennau atom

Ar hyn o bryd, dim ond ar bapur y gallwch ffeilio’r dogfennau hyn. Bydd angen ichi anfon eich dogfennau at swyddfa Tŷ’r Cwmnïau lle mae’r cwmni wedi’i gofrestru.

Gallwch eu hanfon atom ar wahân, ond mae’n gyflymach ac yn haws inni eu prosesu os ydych yn eu hanfon gyda’i gilydd.

I’n helpu i drosglwyddo’ch dogfennau i’r tîm cywir ac osgoi oedi wrth eu prosesu, gallech gynnwys llythyr eglurhaol sy’n nodi:

  • mai cyfrifon is-gwmni segur yw’r rhain
  • enw a rhif cofrestredig yr is-gwmni
  • cynnwys y pecyn
  • ble i ddod o hyd i enw a datganiadau eithriad yr is-gwmni yng nghyfrifon y rhiant-gwmni (megis rhifau tudalennau)

14.4 Is-gwmnïau na allant hawlio eithriad

Ni all is-gwmni segur hawlio eithriad os bu ar unrhyw adeg yn y flwyddyn ariannol:

15. Cyfrifon partneriaeth

Mae Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008 yn mynnu bod aelodau ‘partneriaethau cymwys’ yn paratoi cyfrifon, a rhaid i’r aelodau hynny sy’n gwmnïau cyfyngedig atodi eu cyfrifon eu hunain i’w ffeilio gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae partneriaeth gymwys yn bartneriaeth a sefydlwyd dan gyfraith unrhyw ran o’r Deyrnas Unedig os bydd pob aelod (neu yn achos partneriaeth gyfyngedig, pob un o’i bartneriaid cyffredinol) yn:

  • yn gwmni cyfyngedig
  • yn gwmni anghyfyngedig, y mae pob un o’i aelodau yn gwmnïau cyfyngedig
  • yn bartneriaeth gyfyngedig yn yr Alban, y mae pob un o’i bartneriaid cyffredinol yn gwmnïau cyfyngedig
  • yn unrhyw bartneriaeth arall yn yr Alban, y mae pob un o’i aelodau yn gwmnïau cyfyngedig

(a) Dylid cymryd bod unrhyw gyfeiriad uchod at gwmni cyfyngedig, cwmni anghyfyngedig, neu bartneriaeth (gan gynnwys partneriaeth Albanaidd) yn cynnwys unrhyw ymgymeriad tebyg dan gyfreithiau unrhyw wlad neu diriogaeth arall y tu allan i’r Deyrnas Unedig.

(b) Ar gyfer partneriaethau cymwys sy’n bartneriaethau cyfyngedig:

  • mae’r gofyniad am i’r aelodau gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau’n ymestyn i’r partneriaid cyffredinol yn y bartneriaeth gymwys yn unig
  • yn y canllawiau hyn, dylid cymryd bod unrhyw gyfeiriad at “aelodau” partneriaeth gymwys yn cyfeirio at y partneriaid cyffredinol yn unig

(c) Os oes unrhyw “aelodau” o bartneriaeth yn bartneriaeth yn yr Alban, neu’n gwmni cyfyngedig, mae’r gofyniad i gyflwyno cyfrifon i Dŷ’r Cwmnïau yn ymestyn hefyd i aelodau’r ymgymeriad hwnnw, ond os yw’n bartneriaeth gyfyngedig yn yr Alban, mae’r gofyniad yn ymestyn i’r partneriaid cyffredinol yn unig. Dylid darllen cyfeiriadau at “aelodau” yn y canllawiau hyn yn unol â hynny.

(ch) Os oes unrhyw “aelod” o bartneriaeth gymwys yn ymgymeriad cyffelyb i gwmni neu bartneriaeth yn yr Alban a ffurfiwyd o dan gyfreithiau unrhyw wlad neu diriogaeth y tu hwnt i’r DU, mae’r gofyniad i gyflwyno cyfrifon yn ymestyn i aelodau’r ymgymeriad hwnnw sy’n gyffelyb â’r aelodau neu’r partneriaid cyffredinol (fel y bo hynny’n briodol) mewn ymgymeriad cyffelyb yn y DU. Eto, dylid darllen cyfeiriadau at “aelodau” yn y canllawiau yn unol â hynny.

15.1 Gofynion y mae’n rhaid i’r bartneriaeth paratoi cyfrifon

Rhaid i aelodau’r bartneriaeth gymwys baratoi cyfrifon archwiliedig fel petai’r bartneriaeth gymwys yn gwmni cyfyngedig. Rhaid i’r cyfrifon gydymffurfio gyda gofynion Deddf Cwmnïau 2006 a’r rheoliadau cysylltiedig. Dan reoliad 7 Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008, ni fydd yn rhaid i’r aelodau partneriaeth gymwys baratoi cyfrifon partneriaeth os bydd y bartneriaeth yn cael ei thrin ar sail gyfunol mewn cyfrifon grŵp a baratowyd naill ai gan:

  • aelod o’r bartneriaeth gymwys a sefydlwyd dan gyfraith gwladwriaeth aelodol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
  • riant-ymgymeriad aelod o’r fath

Yn yr achosion hyn, rhaid i’r cyfrifon grŵp gael eu paratoi a’u harchwilio dan gyfraith y Wladwriaeth AEE yn unol â’r Seithfed Gyfarwyddeb ar y Gyfraith Gwmnïau neu Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol. Rhaid i nodyn i’r cyfrifon grŵp ddatgelu y manteisiwyd ar yr eithriad hwn.

15.2 Cyfnod y mae’n rhaid i’r aelodau baratoi’r cyfrifon partneriaeth

Gall y cyfrifon gynnwys unrhyw gyfnod hyd at 18 mis, y mae modd ei nodi yng nghytundeb y bartneriaeth. Os na fydd y cytundeb partneriaeth yn nodi cyfnod, rhaid i’r aelodau baratoi’r cyfrifon ar gyfer pob cyfnod o 12 mis sy’n dod i ben ar 31 Mawrth bob blwyddyn.

Mae Rheoliadau Cwmnïau a Phartneriaethau (Cyfrifon ac Archwilio) 2013 yn diwygio Rheoliadau Partneriaethau (Cyfrifon) 2008. Bydd y rhain yn berthnasol i flynyddoedd cyfrifo sy’n cychwyn ar 1 Hydref 2013 neu’n ddiweddarach. Felly os nad yw’r cytundeb partneriaeth yn pennu unrhyw gyfnod cyfrifeg, y cyfnod cyfrifeg cyntaf a fyddai’n amodol i’r rheoliadau diwygiedig fyddai’r flwyddyn ariannol sy’n dod i ben ar 31 Mawrth 2015.

15.3 Terfyn amser i baratoi cyfrifon partneriaeth

Rhaid i chi baratoi’r cyfrifon partneriaeth cyn pen 9 mis ar ôl diwedd y flwyddyn ariannol.

15.4 Terfyn amser i gyflwyno a chyhoeddi cyfrifon partneriaeth

Os ydych yn gwmni cyfyngedig sy’n aelod o bartneriaeth gymwys, rhaid i chi atodi’r cyfrifon partneriaeth wrth y cyfrifon nesaf y byddwch yn eu cyflwyno i Dŷ’r Cwmnïau. Yn ogystal, rhaid i chi ddarparu’r canlynol i unrhyw unigolyn os byddant yn gofyn amdanynt:

  • enw pob aelod y mae gofyn iddynt gyflwyno copïau o’r cyfrifon partneriaeth i Dŷ’r Cwmnïau
  • enw pob aelod wedi ei gorffori mewn Gwladwriaeth AEE arall, y mae’n rhaid iddynt gyhoeddi’r cyfrifon partneriaeth yn y wladwriaeth honno.

Os nad oes unrhyw un o aelodau partneriaeth gymwys yn gwmni cyfyngedig, neu’n ymgymeriad cyffelyb i gwmni cyfyngedig sydd wedi ei gorffori yn un o wladwriaethau eraill yr AEE, yna rhaid i’r bartneriaeth ryddhau ei chyfrifon i unrhyw berson eu harchwilio, heb godi tâl, ym mhrif leoliad gwaith y bartneriaeth yn ystod oriau busnes (ynghyd â chyfieithiad ardystiedig, os nad yw’r gwreiddiol ar gael yn Saesneg). Lle bo prif le busnes y cwmni wedi symud y tu hwnt i’r DU, rhaid i’r bartneriaeth rhyddhau’r cyfrifon ar gyfer blynyddoedd cyfrifeg sy’n dechrau ar 1 Hydref 2013 neu’n ddiweddarach i’w harchwilio yn yr un modd.

  • ym mhrif le busnes neu brif swyddfa unrhyw “aelod” o’r bartneriaeth sydd â’i brif swyddfa neu brif le busnes yn y DU
  • lle nad oes gan unrhyw “aelod” o’r bartneriaeth brif swyddfa neu brif leoliad busnes yn y DU, mewn cyfeiriad yn y DU sydd wedi ei enwebu gan “aelodau” y bartneriaeth gymwys.

Mae’n rhaid i bob aelod o’r bartneriaeth hefyd ddarparu copi o gyfrifon diweddaraf y bartneriaeth i unrhyw unigolyn yn ôl y gofyn (ynghyd â chyfieithiad os nad yw’r copi gwreiddiol yn gopi Saesneg). Gellir codi ffi am y gost weinyddol o ddarparu’r copi, ond dim mwy.

15.5 Eithriadau i’r rheolau ynghylch cyhoeddi

Dan reoliad 7 Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008, nid oes yn rhaid i aelodau partneriaeth gymwys gyhoeddi cyfrifon partneriaeth os bydd y bartneriaeth yn cael ei thrin ar sail gyfunol mewn cyfrifon grŵp a baratowyd gan:

  • aelod o’r bartneriaeth gymwys a sefydlwyd dan gyfraith gwladwriaeth aelodol o’r Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE)
  • riant-ymgymeriad aelod o’r fath

Yn yr achosion hyn, rhaid iddynt baratoi ac archwilio cyfrifon grŵp dan gyfraith y wladwriaeth aelodol yn unol â’r Seithfed Gyfarwyddeb ar y Gyfraith Gwmnïau neu safonau cyfrifeg rhyngwladol. Rhaid i nodyn i’r cyfrifon grŵp ddatgelu y manteisiwyd ar yr eithriad hwn.

15.6 Cosbau i bartneriaethau cymwys nad ydynt yn cydymffurfio

Gallai pob aelod mewn partneriaeth gymwys neu bob cyfarwyddwr cwmni sy’n aelod, gael eu herlyn gan gael cofnod troseddol a dirwy ddigyfyngiad bosibl gan y llys.

15.7 Gofynion archwilio ariannol partneriaethau cymwys

Mae rhan 3 o’r Rheoliadau (Cyfrifon) Partneriaethau 2008 yn cynnwys gofynion sy’n ymwneud â phenodi a diswyddo archwilwyr, llofnodi adroddiadau archwilwyr a datgelu cydnabyddiaeth archwilwyr, sy’n cyfateb i’r gofynion ar gyfer cwmnïau.

15.8 Gwahaniaethau o ran sut y mae’r gofynion hyn yn berthnasol i unrhyw fathau penodol o bartneriaethau cymwys

Mae rhai partneriaethau cymwys sy’n bartneriaethau cyfyngedig wedi cofrestru fel Cronfeydd Tryloyw o ran Trethi, sy’n golygu bod rhai gwahaniaethau yn eu cofrestriad gyda Thŷ’r Cwmnïau. Mae gan y partneriaethau hyn gofrestriad ar wahân hefyd gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) fel math penodol o UCITS (“Ymgymeriad Cydfuddsoddi mewn Gwarannau Trosglwyddadwy”). Ceir rhagor o wybodaeth yma.

Y partneriaethau cymwys eraill yw Cronfeydd Buddsoddi Amgen, sy’n cael eu cofrestru ar wahân hefyd gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Mae llawer o’r deunydd a baratowyd yn rhan o gyfrifon ac adroddiadau’r partneriaethau cymwys yn unol â Deddf Cwmnïau 2006, yn addas i’w ffeilio gyda’r FCA er mwyn bodloni eu gofynion ffeilio ar gyfer UCITS ac AIFs. At ddibenion ffeilio gyda’r FCA, rhaid i bartneriaethau cymwys sydd wedi eu cofrestru fel UCITS neu AIFs gydymffurfio â chanllawiau canlynol yr FCA.

16. Cwmnïau Buddiant Cymunedol (CBCau)

Nid yw Cwmnïau Buddiant Cymunedol yn wahanol i gwmnïau eraill o ran y gofynion ynghylch paratoi a ffeilio cyfrifon. Mae angen iddynt ffeilio eu cyfrifon, ynghyd â chopi o adroddiad y CBC.

16.1 Gofynion ychwanegol ar gyfer Cwmnïau Buddiant Cymunedol

Rhaid i Gwmnïau Buddiant Cymunedol baratoi a chyflwyno ‘adroddiad cwmni buddiant cymunedol’ i Dŷ’r Cwmnïau, sy’n cyd-fynd â dyddiad y cyfrifon.

Rhaid i chi anfon ffi o £15 gydag adroddiad CIC34. A fyddech cystal â gwneud unrhyw sieciau yn daladwy i ‘Tŷ’r Cwmnïau’.

Mae’n rhaid i chi baratoi a chyflawni’r adroddiad beth bynnag fo maint y cwmni neu’r eithriadau y mae wedi manteisio arnynt.

Am wybodaeth bellach, anfonwch e-bost at cicregulator@companieshouse.gov.uk neu ffoniwch 029 2034 6228.

17. Eithriad rhag archwilio ariannol i is-gwmnïau

Gall is-gwmni hawlio eithriad rhag archwilio o dan amgylchiadau penodol os sefydlwyd ei riant-gwmni o dan gyfraith un o wladwriaethau AEE. Er mwyn manteisio ar yr eithriad hwn, bydd angen i chi gyflwyno’r dogfennau canlynol i’r Cofrestrydd cyn dyddiad dyledus eich cyfrifon:

  • hysbysiad ysgrifenedig sy’n datgan bod holl aelodau’r is-gwmni yn cydsynio i’r eithriad mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol o dan sylw
  • ffurflen AA06 sydd wedi cael ei llenwi’n gywir – datganiad gan y rhiant-ymgymeriad i ddatgan ei fod yn gwarantu’r is-gwmni o dan adran 479C o Ddeddf Cwmnïau 2006 mewn perthynas â’r flwyddyn ariannol o dan sylw
  • copi o gyfrifon cyfunol y rhiant-ymgymeriad gan gynnwys copi o adroddiad yr archwilydd ariannol a’r adroddiad blynyddol ar y cyfrifon hyn

Sylwer:

  • rhaid cynnwys yr is-gwmni yn y cyfrifon cyfunol ar gyfer y flwyddyn ariannol neu hyd at ddyddiad cynharach yn ystod yr un flwyddyn ariannol. Rhaid i’r rhiant-ymgymeriad ddatgelu bod yr is-gwmni wedi cael ei eithrio o’r gofynion i baratoi cyfrifon unigol o dan adran 479A o Ddeddf Cwmnïau 2006 yn y nodiadau ar y cyfrifon cyfunol
  • rhaid i’r datganiad cydsynio a chyfrifon cyfunol y rhiant-gwmni ddangos enw’r is-gwmni a’i rif cofrestredig mewn lle amlwg ar y ddogfen
  • nid yw’r eithriadau hyn ar gael oni bai bod blwyddyn ariannol eich cwmni yn dod i ben ar 1 Hydref 2012 neu’n ddiweddarach

17.1 Endidau na allant hawlio eithriad rhag archwilio ariannol fel is-gwmni

Nid all is-gwmni hawlio eithriad os oedd yn unrhyw un o’r canlynol ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn ariannol o dan sylw:

  • cwmni a restrwyd ar y farchnad stoc
  • cwmni sydd:
  • yn gwmni yswiriant awdurdodedig, cwmni bancio, dosbarthydd e-Arian, cwmni buddsoddi, cwmni rheoli UCITS
  • yn cyflawni gweithgarwch ar y farchnad yswiriant
  • corff cofrestr arbennig fel y’i diffinnir o dan adran 117(1) o Ddeddf Undebau Llafur a Chysylltiadau Llafur (Cydgrynhoi) 1992 (a 52) neu gymdeithas cyflogwyr yn ôl diffiniad adran 122 o’r Ddeddf honno neu Erthygl 4 o Orchymyn Cysylltiadau Diwydiannol (Gogledd Iwerddon) 1992 (O.S. 1992/807 (NI 5)

17.2 Gwybodaeth y mae angen ei chynnwys ar y ffurflen AA06

Rhaid i’r datganiad gynnwys y wybodaeth ganlynol:

  • enw cofrestredig a rhif yr is-gwmni
  • blwyddyn ariannol yr is-gwmni y mae’r warant yn ei chwmpasu
  • dyddiad y datganiad
  • manylion yr adran o Ddeddf Cwmnïau 2006 y rhoddir y warant odani:
  • adran 394c – eithriad rhag paratoi cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
  • adran 448c – eithriad rhag ffeilio cyfrifon ar gyfer is-gwmni segur
  • adran 479C – eithriad rhag archwilio ar gyfer is-ymgymeriad
  • Naill ai:
  • cafodd y rhiant-gwmni ei gorffori yn y DU, ei enw cofrestredig a’i rif cofrestredig (os yw’n berthnasol)
  • os cafodd y rhiant-gwmni ei gorffori a’i gofrestru (yn yr un wlad) yn un o wladwriaethau eraill yr AEE, ei enw cofrestredig, rhif cofrestru a manylion y gofrestr lle cafodd ei gofrestru.

17.3 Effaith y warant, a phryd daw’r warant i rym

Effaith y warant yw bod y rhiant-ymgymeriad yn gwarantu’r holl rwymedigaethau dyledus y mae’r is-gwmni yn rhwym iddynt ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Daw’r warant i rym pan fydd yn dod i law’r cofrestrydd a bydd yn aros mewn grym nes y caiff yr holl rwymedigaethau eu diwallu.

17.4 Y gofynion mae’n rhaid i gwmni bach gydymffurfio â hwy i hawlio eithriad rhag archwilio ariannol

Rhaid i’r is-gwmni gynnwys datganiadau ar fantolen ei gyfrifon unigol ar hyd y trywydd hwn:

  • Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ar (dd/mm/bbbb), roedd gan y cwmni hawl i gael ei eithrio rhag archwilio ariannol o dan adran 479A o Ddeddf Cwmnïau 2006 gyda golwg ar is-gwmnïau segur.
  • Nid yw’r aelodau wedi mynnu bod y cwmni’n sicrhau archwiliad ariannol o’i gyfrifon ar gyfer y flwyddyn dan sylw yn unol ag adran 476
  • Mae’r cyfarwyddwyr yn cydnabod eu cyfrifoldebau dros gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ynglŷn â chofnodion cyfrifeg a pharatoi cyfrifon

17.5 Archwilwyr

Mae archwilydd yn unigolyn sy’n paratoi adroddiad annibynnol ar gyfer aelodau cwmni, ynghylch a yw’r cwmni wedi paratoi ei ddatganiadau ariannol yn unol â’r Gyfraith Gwmnïau a’r fframwaith adrodd ariannol perthnasol. Yn ogystal, rhaid i’r adroddiad nodi a yw cyfrifon cwmni yn cynnig golwg wir a theg ar ei sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn.

17.6 Sut i benodi archwilydd

Rhaid penodi archwilydd ar gyfer pob blwyddyn ariannol, oni bai bod y cyfarwyddwyr yn penderfynu fel arall mewn ffordd resymol, ar y sail nad yw’n debygol y bydd cyfrifon archwiliedig yn angenrheidiol. Mae’r rheolau yn wahanol ar gyfer cwmnïau cyhoeddus a phreifat.

Ar gyfer cwmnïau cyhoeddus, bydd y cyfarwyddwyr yn penodi archwilydd cyntaf y cwmni. Yna, bydd yr archwilydd yn cyflawni ei swydd tan ddiwedd cyfarfod cyntaf y cwmni, lle y bydd y cyfarwyddwyr yn cyflwyno’i gyfrifon gerbron yr aelodau. Yn ystod y cyfarfod hwnnw, gall aelodau’r cwmni ailbenodi’r archwilydd neu benodi archwilydd gwahanol, a fydd yn cyflawni’r swydd o ddiwedd y cyfarfod hwnnw tan ddiwedd y cyfarfod nesaf lle y bydd y cyfarwyddwyr yn cyflwyno cyfrifon.

Ar gyfer cwmnïau preifat, bydd y cyfarwyddwyr yn penodi archwilydd cyntaf y cwmni. Yna, gall yr aelodau benodi neu ailbenodi archwilydd bob blwyddyn yn ystod cyfarfod aelodau’r cwmni, neu trwy gyfrwng penderfyniad ysgrifenedig, cyn pen 28 diwrnod i’r adeg pan fydd y cyfarwyddwyr yn anfon y cyfrifon at yr aelodau. Os na fyddant yn gwneud hynny,am flwyddyn penodol, fodd bynnag, bydd yr archwilydd a benodwyd yn parhau i gyflawni’r swydd nes bydd yr aelodau yn gwneud penderfyniad i’w ailbenodi neu i’w ddiswyddo fel archwilydd (gall 5% o’r aelodau, neu lai os yw’r erthyglau yn nodi hynny, orfodi’r cam o ystyried penderfyniad i waredu archwilydd.) Fodd bynnag, nid yw’r ddarpariaeth hon ynghylch parhau i gyflawni’r swydd yn berthnasol os oedd penodiad mwyaf diweddar yr archwilydd wedi cael ei wneud gan y cyfarwyddwyr neu os bydd erthyglau’r cwmni yn gofyn am benodiad blynyddol.

17.7 Yr hyn y mae archwilydd yn ei wneud

Mae’r archwilydd yn cynnal yr archwiliad yn unol â Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (y DU ac Iwerddon) a gyhoeddwyd gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae archwiliad yn cynnwys craffu ar y dystiolaeth sy’n berthnasol ynghylch y symiau a’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol. Yn ogystal, mae’n cynnwys asesiad o’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau arwyddocaol a wnaethpwyd gan y cyfarwyddwyr wrth baratoi’r datganiadau ariannol.

17.8 Yr hyn y mae adroddiad archwilydd ariannol yn ei gynnwys

Rhaid i adroddiad archwilydd ariannol gynnwys:

  • cyflwyniad sy’n nodi manylion y cyfrifon a oedd yn destun yr archwiliad
  • disgrifiad o gwmpas yr archwiliad gan nodi’r safonau cyfrifeg a ddefnyddiwyd a’r fframwaith adrodd ariannol a ddefnyddiwyd wrth baratoi’r cyfrifon
  • datganiad ynghylch a yw’r cyfrifon wedi cael eu paratoi, ym marn yr archwilwyr, yn unol â Deddf Cwmnïau 2006 a, phan fo hynny’n briodol, yn unol ag Erthygl 4 Rheoliad yr UE ar Safonau Cyfrifeg Rhyngwladol (Rheoliad (CE) 1606/2002, “Rheoliad IAS”)
  • datganiad ynghylch a ydynt yn cynnig golwg wir a theg ar y cwmni neu (yn achos cyfrifon grŵp), sefyllfa ariannol y grŵp;
  • datganiad ynghylch a yw adroddiad y cyfarwyddwyr yn cyd-fynd â’r cyfrifon
  • os yw’r archwilwyr o’r farn nad yw’r cwmni wedi cadw cofnodion cyfrifeg digonol, datganiad sy’n nodi hynny
  • os nad yw’r cwmni wedi darparu’r holl wybodaeth i’r archwilwyr y bydd ei hangen arnynt er mwyn cwblhau’r adroddiad, datganiad sy’n nodi hynny

Rhaid i adroddiad yr archwilwyr ariannol fod yn ddiamod neu’n amodol, gan gyfeirio at unrhyw faterion y mae’r archwilwyr yn dymuno tynnu sylw atyn nhw o ran pwyslais heb amodi’r adroddiad. Bydd yr archwilwyr yn amodi’r adroddiad lle y bu cyfyngiad o ran cwmpas gwaith yr archwilwyr neu pan geir anghytundeb o sylwedd rhwng y cwmni a’r archwilwyr ynghylch y cyfrifon.

17.9 Cyfrifoldeb am lofnodi adroddiad yr archwilwyr ariannol

Rhaid i’r archwilwyr brintio eu henw, llofnodi a dyddio’r adroddiad y byddant yn ei ddarparu i’r cwmni ar ôl cwblhau’r archwiliad.

Pan fo’r archwilydd yn gwmni, rhaid i’r uwch-archwilydd statudol lofnodi adroddiad yr archwilwyr ariannol gwreiddiol yn ei enw ef, ar ran y cwmni. Yn ogystal, rhaid iddo ddyddio’r llofnod. Rhaid i’r cwmni nodi enw’r uwch-archwilydd statudol yng nghopïau adroddiad yr archwilwyr ariannol a gyhoeddir ganddo. Rhaid i gopïau o adroddiadau archwilwyr ariannol a gyflwynir i’r cofrestrydd nodi enw’r cwmni archwilio a’r uwch-archwilydd statudol, ond does dim angen eu llofnodi

17.10 Eithriadau rhag nodi enw’r archwilydd ar adroddiad yr archwilwyr ariannol

Os yw’r cwmni o’r farn bod risg y byddai’r archwilydd neu unrhyw unigolyn arall mewn perygl o ddioddef bygythiad neu drais difrifol pe bai enw’r archwilydd (neu enw’r “uwch-archwilydd statudol” a lofnododd yr adroddiad ar ran y cwmni) yn ymddangos ar gopïau o’r adroddiad a ffeiliwyd neu a gyhoeddwyd, caiff fabwysiadu penderfyniad i hepgor yr enw o’r copïau hynny.

Ni ddylech anfon copi o’r penderfyniad i Dŷ’r Cwmnïau, ond dylech anfon hysbysiad yn ei gylch i’r cyfeiriad canlynol:

Yr Ysgrifennydd Gwladol
Blwch Post 4082
Caerdydd
CF14 3WE

Rhaid i’r hysbysiad nodi:

  • enw a rhif cofrestru’r cwmni
  • blwyddyn ariannol y cwmni y mae’r adroddiad yn ymwneud â hi
  • enw’r archwilydd a (phan fo’r archwilydd yn gwmni), enw’r unigolyn a lofnododd yr adroddiad fel uwch-archwilydd statudol

Byddai angen i adroddiad yr archwilwyr a fyddai’n cael ei atodi wrth y cyfrifon, gynnwys y datganiad canlynol: ‘Mae’r cwmni wedi mabwysiadu penderfyniad, yn unol ag adran 506 Deddf Cwmnïau 2006, na ddylid nodi enw’r archwilydd.’

17.11 Gofynion wrth ddewis archwilydd

Rhaid i archwilydd fod yn annibynnol ar y cwmni. Felly, ni allwch benodi unigolyn i fod yn archwilydd os ydynt:

  • yn swyddog neu’n weithiwr yn y cwmni neu mewn cwmni cysylltiedig
  • bartner neu’n weithiwr i unigolyn o’r fath, neu’n bartneriaeth y mae unigolyn o’r fath yn bartner ynddi

Os na fydd eich cyfrifydd yn perthyn i un o’r categorïau uchod, ac os bydd ganddo ef/ganddi hi dystysgrif archwilio ariannol gyfredol a ddyfarnwyd gan gorff goruchwylio cydnabyddedig, gallant weithredu fel archwilwyr y cwmni.

Nid yw pob aelod o gorff goruchwylio cydnabyddedig yn gymwys i weithredu fel archwilydd ariannol. Bydd y corff goruchwylio priodol yn gallu dweud wrthych a oes gan unigolyn neu gwmni penodol dystysgrif ymarfer archwilio ariannol gyfredol.

17.12 Cyrff goruchwylio cydnabyddedig

Mae’r Bwrdd Goruchwylio Proffesiynol yn cydnabod bod gan y cyrff hyn reolau a gynlluniwyd i sicrhau bod archwilwyr yn meddu ar y lefelau priodol o ran cymhwystra proffesiynol. Mae gan bob corff cydnabyddedig reoliadau llym a chod disgyblu sy’n llywodraethu gweithredoedd eu harchwilwyr cofrestredig.

Mae’r pedwar corff cydnabyddedig fel a ganlyn:

The Institute of Chartered Accountants of Scotland

21 Haymarket Yards
Edinburgh
EH12 5BH

The Institute of Chartered Accountants in England and Wales

Level 1
Metropolitan House
321 Avebury Boulevard
Milton Keynes
MK9 2FZ

The Institute of Chartered Accountants in Ireland

The Linenhall
32-38 Linenhall Street
Belfast
BT2 8BG

The Association of Chartered Certified Accountants

29 Lincoln’s Inn Fields
London
WC2A 3EE

17.13 Dyletswyddau archwilwyr

Yn unol â safonau moesegol y Bwrdd Arferion Archwilio, mae dyletswyddau statudol archwilwyr wedi’u cyfyngu i archwilio bod cofnodion a llyfrau digonol yn bodoli, ac i adrodd am y cyfrifon ariannol. O dan y safonau moesol hyn eto, does dim byd sy’n rhwystro cwmni rhag cyflogi archwilydd at ddibenion eraill, megis cadw trefn ar y llyfrau neu lenwi’r ffurflen dreth, ar yr amod nad yw ef (neu hi) yn cymryd rhan yn y gwaith o reoli’r cwmni.

Dylech gytuno ar lythyr cyflogi sy’n nodi cwmpas cyflogaeth yr archwilydd, ynghyd â ffurf unrhyw adroddiadau y bydd yr archwilydd yn eu paratoi.

17.14 Diswyddo archwilwyr ariannol

Gall aelodau cwmni ddiswyddo archwilydd ar unrhyw adeg yn ystod eu cyfnod yn y swydd. Rhaid iddynt neu’r cyfarwyddwyr roi 28 diwrnod o rybudd o’u bwriad i gyflwyno penderfyniad gerbron cyfarfod cyffredinol i ddiswyddo’r archwilydd. Rhaid i’r cwmni anfon copi o’r hysbysiad ynghylch y penderfyniad arfaethedig at yr archwilydd, a bydd gan yr archwilydd yr hawl i baratoi ymateb ysgrifenedig ac i fynnu bod y cwmni yn ei anfon at aelodau’r cwmni, ac i siarad yn ystod y cyfarfod pan fydd y penderfyniad yn cael ei ystyried.

Rhaid i’r cwmni gyflwyno ffurflen AA03 (Saesneg yn unig) i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 14 diwrnod i’r adeg pan wneir y penderfyniad i ddiswyddo’r archwilydd.

Er y gall cwmni ddiswyddo archwilydd ar unrhyw adeg, efallai y bydd gan yr archwilydd yr hawl i gael iawndal neu ddigollediad am y ffaith bod y penodiad wedi cael ei derfynu.

Fel arall, gall cwmni benderfynu peidio ag ailbenodi’r archwilydd am dymor pellach.

Ar gyfer cwmni preifat, gall ailbenodiad tybiedig yr archwilydd gael ei atal gan yr aelodau drwy benderfyniad cyffredin. Gall hefyd gael ei atal os bydd aelodau sy’n dal o leiaf 5% o hawliau pleidleisio’r cwmni yn rhoi gwybod i’r cwmni i’r perwyl hwnnw. Rhaid i’r hysbysiadau ddod i law cyn diwedd y cyfnod cyfeirnod cyfrifeg o flaen yr ailbenodi tybiedig.

17.15 Beth fydd yn rhaid i archwilydd ei wneud pan na fydd yn cyflawni’r swydd mwyach

Os na fydd archwilydd yn cyflawni ei swydd mwyach am unrhyw reswm, rhaid iddo adneuo datganiad yn swyddfa gofrestredig y cwmni. Os nad yw’r cwmni wedi’i restru ar gyfnewidfa stoc, dylai’r datganiad nodi unrhyw amgylchiadau sy’n gysylltiedig gyda’r ffaith nad yw’n cyflawni’r swydd mwyach, y dylid dwyn sylw aelodau a chredydwyr y cwmni atynt yn ei farn ef. Os yw’r cwmni wedi’i restru, rhaid iddo nodi’r amgylchiadau, os oes angen dwyn sylw aelodau a chredydwyr y cwmni atynt neu beidio yn ei farn ef.

  • os nodir yr amgylchiadau yn y datganiad, rhaid i’r cwmni anfon copi o’r datganiad at holl aelodau’r cwmni oni bai ei fod yn gwneud cais llwyddiannus i’r llys er mwyn atal hyn rhag digwydd. Os na fydd yr archwilydd yn cael hysbysiad o gais i’r llys cyn pen 21 diwrnod i adneuo’r datganiad gyda’r cwmni, rhaid i’r archwilydd anfon copi o’r datganiad i Dŷ’r Cwmnïau cyn pen 7 diwrnod pellach, ar gyfer cofnod cyhoeddus y cwmni
  • os (yn achos cwmni heb ei restru) nad yw’r amgylchiadau yn cael eu nodi yn y datganiad, rhaid i’r archwilydd adneuo datganiad gyda’r cwmni i’r perwyl hwnnw. Nid oes yn rhaid i’r cwmni gylchredeg y datganiad hwn ymhlith yr aelodau.

Yn y naill achos a’r llall, os nad yw’r archwilydd yn cael hysbysiad y gwnaed cais i’r llys cyn pen 21 diwrnod o adneuo’r datganiad gyda’r cwmni, rhaid i’r archwilydd anfon copi o’r datganiad i Dŷ’r Cwmnïau at ddibenion cofnod cyhoeddus y cwmni, a hynny cyn pen 7 diwrnod pellach.

Hefyd, lle bo’r yr archwilydd yn ymddiswyddo neu’n cael ei ddiswyddo yn ystod ei gyfnod yn y swydd, mae rhwymedigaethau ar yr archwilydd ariannol a’r cwmni hysbysu’r “awdurdod archwilio priodol”. Mae canllawiau manylach am y darpariaethau hyn ar wefan y Cyngor Adrodd Ariannol. 

18. Ansawdd dogfennau

18.1 Dogfennau sy’n cael eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau

Byddwn yn sganio’r dogfennau a’r ffurflenni y byddwch yn eu cyflwyno i ni er mwyn creu delwedd electronig. Yna, byddwn yn storio’r dogfennau papur gwreiddiol, gan ddefnyddio’r ddelwedd electronig fel y ddogfen waith. Pan fydd cwsmer yn chwilio cofnod y cwmni, atgynhyrchir y ddelwedd electronig ar-lein. Felly, mae’n bwysig bod y ddogfen wreiddiol yn ddarllenadwy, a’i bod yn gallu creu copi clir hefyd.

Pan fyddwch yn ffeilio dogfen yn electronig, byddwn yn creu delwedd electronig o’r data a ddarparwyd gennych yn awtomatig.

Mae’r bennod hon yn cynnig rhai canllawiau i’w dilyn wrth baratoi dogfen i’w ffeilio yn Nhŷ’r Cwmnïau.

18.2 Sut i roi trefn ar y dogfennau

Dogfennau sy’n cael eu ffeilio yn electronig

Caiff dogfennau sy’n cael eu ffeilio trwy WebFiling eu fformadu yn unol â’r manylebau a bennwyd gan y cofrestrydd yn ei reolau am ffeilio electronig. Cyhoeddwyd y rhain ar wefan Tŷ’r Cwmnïau. Rhaid i ddarparwyr meddalwedd sy’n cynnig cyfleusterau ffeilio electronig sicrhau bod dogfennau a gyflwynir gan ddefnyddio eu meddalwedd yn cael fformadu yn unol â rheolau’r cofrestrydd hefyd. Mae rhestr o ddarparwyr meddalwedd cyfredol ar gael ar ein gwefan.

Dogfennau papur

Yn gyffredinol, rhaid i bob dogfen bapur a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau nodi enw a rhif cofrestru y cwmni mewn man amlwg. Ceir rhai eithriadau i’r rheol hon, a nodir yn rheolau cyhoeddedig y cofrestrydd.

Dylai dogfennau papur fod ar bapur gwyn plaen A4, a gorffeniad di-sglein. Dylai’r testun fod yn ddu, yn eglur, yn ddarllenadwy a dylai’r dwysedd fod yn unffurf. Rhaid i lythrennau a rhifau fod yn eglur ac yn ddarllenadwy er mwyn sicrhau bod modd i ni baratoi copi derbyniol o’r ddogfen. Gallai’r canllawiau canlynol fod o gymorth. Mae methu â dilyn y canllawiau hyn yn debyg o arwain at wrthod y ddogfen.

Pan fyddwch yn llenwi ffurflen, cofiwch:

  • defnyddio inc du neu deip du
  • defnyddio llythrennau trwm (bydd rhai pennau ysgrifennu ac wynebau teip tenau a chain yn creu copïau o ansawdd gwael)
  • ni ddylech anfon copi carbon
  • ni ddylech ddefnyddio matrics-argraffydd

Cofiwch - gall llungopïau roi arlliw llwyd na fyddant yn sganio’n dda.

Pan fyddwch yn cwblhau dogfennau eraill, cofiwch:

  • y pwyntiau a wnaethpwyd eisoes am lenwi ffurflenni
  • y dylech ddefnyddio papur A4 gydag ymyl hael
  • eu darparu ar ffurf diwyg portread (hynny yw, yr ymyl byrraf ar draws y brig)
  • cynnwys rhif ac enw’r cwmni

18.3 Arweiniad pellach

Am arweiniad pellach am ein gofynion argraffu ewch i’n gwefan neu e-bostiwch eich ymholiad neu ffoniwch 0303 1234 500.

19. Gwybodaeth Bellach

19.1 Cyflwyno gwybodaeth i Dŷ’r Cwmnïau

Am fanylion llawn am yr holl ffyrdd o gyflwyno dogfennau i Dŷ’r Cwmnïau, yn electronig neu ar bapur, a fyddech cystal â throi at reolau’r cofrestrydd sy’n ymddangos ar ein gwefan. Y ffordd fwyaf diogel o gyflwyno gwybodaeth statudol i Dŷ’r Cwmnïau yw trwy ddefnyddio ein gwasanaethau ffeilio ar-lein. Am ragor o wybodaeth a manylion cofrestru, a fyddech cystal â throi at ein gwefan.

Os ydych yn anfon dogfennau yn y post, gyda negesydd, gyda’r Gwasanaeth Cyfnewid Dogfennau (DX) neu Bost Cyfreithiol (yn yr Alban), ac os hoffech gael derbynneb, bydd Tŷ’r Cwmnïau yn darparu nodyn cydnabod os byddwch yn cynnwys copi o’ch llythyr esboniadol gydag amlen â chyfeiriad a stamp arni er mwyn ei ddychwelyd. Byddwn yn nodi cod bar ar eich copi chi o’ch llythyr, gan nodi’r dyddiad y’i cyflwynwyd, a’i ddychwelyd atoch yn yr amlen a ddarparwyd.

Sylwer: nid yw nodyn sy’n cydnabod bod dogfen wedi cyrraedd, yn golygu bod dogfen wedi cael ei derbyn i’w chofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Sylwer: Nid yw Tŷ’r Cwmnïau yn derbyn unrhyw ddogfennau statudol trwy gyfrwng neges ffacs, PDF(ac eithrio copïau ardystiedig o offerynnau arwystl sy’n cael eu ffeilio’n electronig) neu e-bost.

19.2 Y ffioedd ar gyfer ffeilio dogfennau

Ni fydd yn rhaid i chi dalu ffi am nifer o’r dogfennau y bydd yn rhaid i chi eu hanfon i Dŷ’r Cwmnïau, ond bydd angen talu ffi ar gyfer rhai ac ni fyddwn yn eu derbyn er mwyn eu cofrestru heb y ffi hon. Darllen mwy am ein ffioedd ffeilio.

19.3 Ffeilio dogfennau mewn ieithoedd eraill

Fel arfer, mae’r gyfraith yn mynnu eich bod yn ffeilio dogfennau a anfonir i Dŷ’r Cwmnïau yn Saesneg. Ceir eithriadau i’r rheol hon, fel y nodir isod. Gall cwmnïau gyflwyno’r dogfennau canlynol mewn ieithoedd eraill os anfonir cyfieithiad Saesneg ardystiedig o’r ddogfen hefyd:

  • penderfyniadau a chytundebau sy’n effeithio ar gyfansoddiad cwmni wedi’u cyflwyno o dan Bennod 3 o Ran 3 o’r Ddeddf
  • cyfrifon grwpiau mwy o fewn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd (AEE), cyfrifon y grŵp ac adroddiad blynyddol y rhiant-ymgymeriad
  • cyfrifon grwpiau mwy y tu allan i’r AEE, cyfrifon y grŵp, a phan fo’n briodol, yr adroddiad blynyddol cyfunol
  • offerynnau arwystlon neu gopïau o offerynnau arwystlon
  • adroddiad prisio y mae’n ofynnol ei gyflwyno i’r cofrestrydd o dan adran 94(2)(d) y Ddeddf
  • erthyglau cymdeithasu; memorandwm cymdeithasu
  • gorchmynion llys

Yn ogystal, gall cwmnïau ffeilio cyfieithiadau ardystiedig gwirfoddol unrhyw ddogfen sy’n rhwym i ofynion datgelu’r Gyfarwyddeb Gyntaf ar y Gyfraith Gwmnïau. Mae’r rhain fel a ganlyn:

  • dogfennau cyfansoddiadol megis y memorandwm a’r erthyglau cymdeithasiad
  • penodiadau cyfarwyddwyr, newid manylion neu derfyniadau; Cyfrifon, adroddiadau, Datganiadau cadarnhau a ffurflenni blynyddol; Hysbysiad o unrhyw newidiadau i swyddfa gofrestredig cwmni; Dogfennau dirwyn i ben; Dogfennau cyfalaf cyfrannau (cwmnïau cyhoeddus yn unig); Dogfennau sy’n ymwneud ag uno a rhannu (cwmnïau cyhoeddus yn unig); a Dogfennau sy’n ymwneud â chwmnïau tramor.

Rhaid i’r cyfieithiad gwirfoddol ymwneud â dogfen a gyflwynwyd i Dŷ’r Cwmnïau ar neu ar ôl 1 Ionawr 2007. Dim ond yn un o ieithoedd swyddogol yr Undeb Ewropeaidd y bydd modd ffeilio cyfieithiadau gwirfoddol, ac mae’n rhaid cyflwyno Ffurflen VT01 gyda nhw, a fydd yn cysylltu’r cyfieithiad gyda’r ddogfen wreiddiol.

Mae yna eithriadau gwahanol ar gyfer cwmnïau Cymreig (sef y rhai sy’n cydymffurfio ag adran 88 o’r Ddeddf) sydd â hawl i lunio a chyflwyno dogfennau penodol yn Gymraeg heb fod angen cyfieithiad Saesneg ardystiedig i gyd-fynd â nhw. Mae rhestr lawn o’r dogfennau sydd wedi’u heithrio i’w gweld yn ein canllawiau o dan y teitl ‘Cynnal busnes yn y Gymraeg (GP05)’ sydd ar gael o’n gwefan.

19.4 Ble i gael ffurflenni a chanllawiau

Mae modd cael pob canllaw a ffurflen statudol, yn rhad ac am ddim, gan Dŷ’r Cwmnïau. Y ffordd gyflymaf o’u cael yw trwy droi at ein gwefan neu ffonio 0303 1234 500.

Yn ogystal, gallwch gael ffurflenni gan ddogfenwyr cyfraith cwmnïau, cyfrifwyr, cyfreithwyr ac asiantiaid ffurfio cwmnïau.