Sefydliadau Corfforedig Elusennol (SCE): newid eich dogfen lywodraethol
Diweddarwyd 25 Mehefin 2026
Yn berthnasol i Loegr a Chymru
Dilynwch reolau gwahanol ar gyfer newid dogfen llywodraethu eich elusen os yw’n:
Os yw eich elusen yn cael ei llywodraethu gan Ddeddf Seneddol, cysylltwch â ni.
Os yw eich elusen yn elusen eithriedig, cysylltwch â’ch prif reoleiddiwr. D
Dogfen llywodraethu Sefydliad Elusennol Corfforedig (CIO) yw ei gyfansoddiad.
Dylech adolygu eich cyfansoddiad yn rheolaidd a’i gadw’n gyfredol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod eich elusen yn gweithio’n dda nawr ac yn y dyfodol.
Gallwch ddiwygio eich cyfansoddiad, ond rhaid i chi:
- dim ond gwneud newidiadau sydd er lles pennaf eich elusen
- dilyn y rheolau cywir i wneud eich newidiadau
- cael cymeradwyaeth eich aelodau ar ffurf penderfyniad aelodau
- cael awdurdod y Comisiwn Elusennau cyn y gall rhai newidiadau ddod i rym
- rheoli unrhyw wrthdaro buddiannau
Dylech:
- cadw cofnod o unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth rydych wedi’i defnyddio i wneud eich penderfyniad
- ymgynghori ag aelodau eich elusen ynghylch y newid arfaethedig cyn iddynt basio eu penderfyniad
- pan fo’n briodol, ymgynghori â buddiolwyr eich elusen a rhanddeiliaid eraill fel rhan o’ch proses gwneud penderfyniadau
Rhaid i chi gydymffurfio â’ch dyletswyddau ymddiriedolwr wrth wneud penderfyniadau. Bydd hyn yn eich helpu i:
- esbonio eich rhesymau dros bob newid a wnaed yn eich cyfansoddiad
- dangos eich bod wedi gweithredu’n briodol
Rhaid i chi ddweud wrth y Comisiwn am bob newid a wnaed yn eich cyfansoddiad.
Mae rhai pethau y mae’n rhaid i gyfansoddiad eich CIO eu cynnwys ac na allwch eu tynnu. Rhaid i chi ddefnyddio ein cyfansoddiad CIO enghreifftiol (neu mor agos at y ffurf honno â phosib). Mae gan ein cyfansoddiadau enghreifftiol nodiadau a chanllawiau sy’n esbonio pa newidiadau y gallwch eu gwneud yn yr enghraifft i adlewyrchu anghenion eich elusen.
Nid yw’r canllawiau hyn yn ymwneud â newid y math o ffurf gyfreithiol y mae elusen yn ei chymryd. Er enghraifft, o CIO i gwmni elusennol. Os ydych am newid ffurf gyfreithiol eich elusen, darllenwch ein canllawiau am newid strwythur eich elusen.
Os, ar ôl darllen y canllaw hwn, nad ydych yn siŵr sut i wneud newidiadau yng nghyfansoddiad eich elusen, ceisiwch gyngor proffesiynol.
Nid yw’r rheolau ym mhrif ran y canllaw hwn yn berthnasol i waddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig. Er enghraifft, adeilad y mae’n rhaid ei ddefnyddio fel ysgol neu fuddsoddiadau lle dim ond yr incwm y gellir ei wario.
Efallai bod eich CIO yn ymddiriedolwr gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaeth arbennig. Disgwylir y bydd eich elusen yn dal asedau o’r fath ar ymddiriedolaeth.
Bydd gan yr asedau ddogfen llywodraethu wahanol i gyfansoddiad eich elusen.
Gweler adran 7, i newid sut mae eich elusen yn defnyddio’r asedau hyn. D
Newid dogfen llywodraethu eich elusen
Mae 2 fath o CIO: sefydliad a chymdeithas. Mae gan CIO Sefydliad ymddiriedolwyr sy’n unig aelodau’r elusen. Mae gan CIO Cymdeithas aelodaeth sy’n ehangach na’r ymddiriedolwyr.
Mae gan bob CIO bŵer diwygio sy’n dod o gyfraith elusennau i wneud newidiadau yn eu cyfansoddiad.
Pryd bynnag y byddwch yn defnyddio’r pŵer diwygio, rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio’r pŵer yn gywir. Mae hyn yn golygu deall y rheolau a nodir yn y gyfraith. Mae hefyd yn golygu gwirio eich cyfansoddiad i weld a yw’n cynnwys unrhyw reolau ychwanegol y mae angen i chi eu dilyn. Rhaid i chi ddilyn unrhyw amodau neu gamau y mae eich cyfansoddiad yn eu nodi.
Er enghraifft, gallai ddweud bod rhaid i’r newid rydych am ei wneud gael ei awdurdodi gan:
- y Comisiwn Elusennau
- sylfaenydd eich elusen
- canran uwch na’r arfer o aelodau eich elusen
Rhaid i chi ddilyn unrhyw amodau neu gamau oni bai naill ai:
- bod holl aelodau eich CIO yn cytuno i’r newid
- bod gennych awdurdod gan y Comisiwn
Wrth ddefnyddio’r pŵer diwygio, rhaid i chi wneud penderfyniadau sydd er lles pennaf yr elusen.
Gallwch ddefnyddio ein cyfansoddiad CIO enghreifftiol i’ch helpu i ysgrifennu eich cymal newydd.
Newidiadau y gallwch eu gwneud heb awdurdod y Comisiwn Elusennau
Gall eich elusen wneud y rhan fwyaf o newidiadau yn eich cyfansoddiad heb awdurdod y Comisiwn.
Er enghraifft, newid sut mae eich elusen yn:
- penodi ymddiriedolwyr
- derbyn aelodau
- cyfathrebu â’i haelodau
- trefnu a chynnal cyfarfodydd
Newidiadau y mae’n rhaid i’r Comisiwn Elusennau eu hawdurdodi
Rhaid i chi ofyn am awdurdod y Comisiwn os bydd eich diwygiad yn:
- newid dibenion eich elusen
- caniatáu i ymddiriedolwyr, aelodau, a phobl neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â nhw elwa o’ch elusen
- newid yr hyn sy’n digwydd i arian neu eiddo eich elusen os penderfynwch ei chau’n wirfoddol
Gelwir y newidiadau hyn yn ‘newidiadau rheoleiddiedig’, a nodir rhagor o wybodaeth am bob un ohonynt isod.
Dylech ofyn am awdurdod y Comisiwn cyn i chi gytuno ar newidiadau rheoleiddiedig gydag aelodau eich elusen. Rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn cyn y gall y newidiadau hyn ddod i rym.
Efallai y bydd angen awdurdod y Comisiwn ar newidiadau eraill nad ydynt yn ‘newidiadau rheoleiddiedig’ hefyd, fel y rhai sy’n cynnwys gwrthdaro buddiannau na allwch eu rheoli.
Newid dibenion eich elusen
Dylech adolygu dibenion eich elusen yn gyson i wneud yn siŵr eu bod yn parhau i fod yn ffordd effeithiol o ddefnyddio arian ac eiddo eich elusen.
Os daw’n amlwg, er enghraifft, na allwch ddefnyddio eiddo eich elusen i hyrwyddo dibenion eich elusen yn effeithiol – ddim o gwbl neu’n rhannol – rhaid i chi gymryd camau i’w newid.
Er enghraifft, mae grŵp buddiolwyr elusen wedi lleihau’n sylweddol dros amser, a phob blwyddyn mae ganddi fwy o gronfeydd dros ben. Rhaid i ymddiriedolwyr yr elusen ystyried newid dibenion yr elusen. Un opsiwn yw ehangu’r nifer o bobl y gall yr elusen eu helpu.
I ddeall a oes rhaid i chi newid eich dibenion, a pha newidiadau i’w gwneud, ystyriwch, er enghraifft:
- a yw anghenion a sefyllfa buddiolwyr eich elusen wedi newid
- a oes amgylchiadau newydd sy’n effeithio ar bwy yw eich buddiolwyr, neu sut rydych chi’n eu diffinio
- a oes amgylchiadau newydd sy’n effeithio ar sut rydych chi’n gweithio gyda’ch buddiolwyr neu’n eu cefnogi
Mae angen i’ch dibenion newydd fod yn ymarferol nawr ac yn y dyfodol rhagweladwy.
Rhaid i’ch dibenion newydd fod yn elusennol ac er budd y cyhoedd.
Rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn i newid dibenion eich elusen.
Dim ond os ydym yn fodlon bod eich dibenion newydd er lles pennaf eich elusen y bydd y Comisiwn yn rhoi awdurdod. Bydd y Comisiwn yn ystyried:
- dibenion gwreiddiol yr elusen
- y tebygrwydd rhwng dibenion presennol yr elusen a’r dibenion newydd arfaethedig, cyn belled ag y bo modd ac yn ddymunol
- yr angen i’r dibenion newydd fod yn addas ac yn effeithiol yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol
Bydd angen i chi esbonio i’r Comisiwn pam eich bod wedi penderfynu newid dibenion eich elusen, gan gynnwys sut y gwnaethoch ystyried y ffactorau uchod wrth benderfynu ar ddibenion newydd arfaethedig eich elusen.
Cadwch gofnod o unrhyw wybodaeth neu dystiolaeth rydych wedi’i defnyddio i wneud eich penderfyniad.
Byddwch yn ymwybodol:
- gall hyd yn oed newidiadau bach i eiriad dibenion effeithio ar eu hystyr, a byddai angen awdurdod y Comisiwn arnynt
- gall newidiadau yn adrannau eraill o’ch cyfansoddiad effeithio ar eich dibenion, ac os felly, bydd angen awdurdod y Comisiwn arnynt. Er enghraifft, cymal sy’n diffinio’r ardal lle mae eich elusen yn gweithio ynddi neu pwy yw ei buddiolwyr
Nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch i ail-rifo cymalau.
Dim ond os ydym yn fodlon bod eich dibenion newydd er lles pennaf eich elusen y bydd y Comisiwn yn rhoi awdurdod. Bydd angen i chi esbonio:
- beth oedd dibenion gwreiddiol eich elusen pan gafodd ei sefydlu (os ydych chi’n gwybod)
- sut mae’r dibenion newydd yn debyg i ddibenion presennol eich elusen, ac os nad ydynt, pam
- sut mae’r dibenion newydd yn addas ac yn effeithiol yn yr amgylchiadau cymdeithasol ac economaidd presennol
- y ffactorau a ystyrioch wrth wneud eich penderfyniad
- sut mae’r newid dibenion er lles pennaf eich elusen
- sut y bydd y newid yn effeithio ar fuddiolwyr presennol eich elusen
- sut y byddwch yn hyrwyddo’r dibenion newydd, gan gynnwys gweithgareddau y bydd eich elusen yn eu cynnal neu gyllid rydych wedi’i sicrhau
- a allai’r newid fod yn ddadleuol neu er budd y cyhoedd
- sut rydych wedi ymgynghori (er enghraifft, â’ch buddiolwyr) ynghylch y newid, ac wedi ystyried yr adborth a gawsoch
- sut rydych wedi rheoli gwrthdaro buddiannau
Gofynnwch i’r Comisiwn awdurdodi newid yn nibenion eich elusen. D
Newidiadau sy’n caniatáu buddion i ymddiriedolwyr, aelodau, a phobl neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â hwy
Mae’r newidiadau hyn yn disgyn i ddau gategori: ‘newidiadau heb eu rheoleiddio’ a ‘newidiadau rheoleiddiedig’.
Newidiadau heb eu rheoleiddio
Mae’r gyfraith yn caniatáu rhai buddion i ymddiriedolwyr, megis ar gyfer:
- darparu nwyddau a/neu wasanaethau mewn rhai amgylchiadau
- yswiriant indemniad ymddiriedolwyr
Os oes gan eich cyfansoddiad gymal sy’n atal y buddion a ganiateir gan y gyfraith, gallwch ei ddiwygio i gael gwared ar y cymal gan nad yw hwn yn newid rheoleiddiedig.
Nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch i wneud y math hwn o newid, oni bai bod gwrthdaro buddiannau na allwch ei reoli, megis pan:
- yr unig aelodau o’ch elusen yw ei hymddiriedolwyr, neu
- nid oes digon o aelodau nad ydynt hefyd yn ymddiriedolwyr i bleidleisio ar y newid
Gallwch ychwanegu neu ddiwygio cymal sy’n dweud mai dim ond gydag awdurdod y Comisiwn y byddai budd yn cael ei ganiatáu. Nid oes angen awdurdod y Comisiwn arnoch i wneud y newid hwn. Fodd bynnag, rhaid i chi wedyn gael awdurdod y Comisiwn bob tro yr hoffech ddarparu budd o dan y cymal hwn.
Newidiadau rheoleiddiedig
Mae’n newid rheoleiddiedig defnyddio’r pŵer statudol i gyflwyno buddion heblaw’r rhai a ganiateir yn ôl y gyfraith (fel yr hyn uchod) i ymddiriedolwyr, aelodau, a phobl neu sefydliadau sy’n gysylltiedig â hwy.
Er enghraifft, i ychwanegu cymal newydd neu ddiwygio cymal sydd eisoes yn bodoli sy’n caniatáu i’ch elusen:
- talu ymddiriedolwr am gyflawni ei rôl fel ymddiriedolwr
- cyflogi ymddiriedolwr, aelod neu berson cysylltiedig
- talu (neu gynyddu) llog i ymddiriedolwr ar fenthyciad y maent yn ei ddarparu i’r elusen
Mae Adran 249 Deddf Elusennau 2011 yn diffinio pwy sy’n ‘berson cysylltiedig’. Mae’n cynnwys rhai pobl neu sefydliadau sydd â chysylltiad agos ag ymddiriedolwr neu aelod, megis:
- plentyn, rhiant, ŵyr, wyres, tad-cu, mam-gu, brawd neu chwaer yr ymddiriedolwr neu aelod
- priod neu bartner sifil ymddiriedolwr, aelod neu berthynas a restrir uchod
- partner busnes ymddiriedolwr, aelod neu berthynas a restrir uchod
- sefydliadau y mae gan yr ymddiriedolwr, yr aelod neu unrhyw un o’r rhai uchod fuddiant rheoli neu sylweddol ynddynt
Gwiriwch rhestr adran 249 neu ceisiwch gyngor cyfreithiol os ydych yn ansicr a yw person neu sefydliad yn berson cysylltiedig o dan y gyfraith.
Cyn i chi wneud newidiadau, dylech ddarllen ein canllawiau ynghylch:
- taliadau a buddion ymddiriedolwyr, sy’n cynnwys pryd y gellir talu ymddiriedolwyr am ddarparu nwyddau a gwasanaethau
- gwrthdaro buddiannau
Dim ond os ydym yn fodlon ei fod er lles pennaf eich elusen y bydd y Comisiwn yn rhoi awdurdod. Bydd angen i chi esbonio pam eich bod yn gwneud y newid, gan gynnwys:
- beth mae eich cyfansoddiad yn ei ddweud ar hyn o bryd am fuddion
- y ffactorau a ystyrioch wrth wneud eich penderfyniad
- sut rydych wedi rheoli’r gwrthdaro buddiannau
Newid beth sy’n digwydd i eiddo eich elusen pan fydd yn cau
Bydd cyfansoddiad eich elusen yn nodi beth sy’n gorfod digwydd i’w harian neu eiddo os penderfynwch ei chau’n wirfoddol. Gelwir hyn yn gymal ‘dirwyn i ben’ neu ‘ddiddymu’.
Rhaid i chi ofyn am awdurdod y Comisiwn i newid yr hyn y mae’r cymal diddymu yn eich cyfansoddiad yn ei ddweud am sut y gallwch ddefnyddio arian ac eiddo eich elusen yn yr amgylchiadau hyn.
Gall rheolau gwahanol fod yn berthnasol os ydych chi’n ystyried a oes angen i chi gau eich elusen oherwydd ei bod mewn anhawster ariannol.
Fel arfer, bydd y cymal yn dweud, cyn diddymu, bod rhaid i chi roi arian neu eiddo eich elusen i elusennau sydd â’r un dibenion neu ddibenion tebyg.
Rhaid i chi gael awdurdod y Comisiwn i newid cymal diddymu eich elusen sydd, er enghraifft:
- yn caniatáu i elusennau â gwahanol ddibenion dderbyn arian neu eiddo eich elusen ar ôl diddymu
- yn newid yr elusennau sydd wedi’u henwi ar hyn o bryd yn y cymal fel rhai sydd â hawl i dderbyn arian neu eiddo eich elusen ar ôl diddymu
Mewn rhai achosion, gall ychwanegu neu ddiwygio pŵer i uno ag elusen arall fod yn newid rheoleiddiedig i’r cymal diddymu. Os felly, bydd angen awdurdod y Comisiwn arnoch.
Dim ond os ydym yn fodlon ei fod er lles pennaf eich elusen y bydd y Comisiwn yn rhoi awdurdod. Bydd angen i chi esbonio pam eich bod yn gwneud y newid, gan gynnwys y ffactorau a ystyrioch wrth wneud eich penderfyniad.
Gofynnwch i’r Comisiwn awdurdodi newid yng nghymal diddymu eich elusen.
Hysbysiad cyhoeddus neu ymgynghoriad
Dylech ddweud wrth y Comisiwn os ydych chi’n credu y gallai eich newid rheoleiddiedig arfaethedig fod yn ddadleuol neu er budd y cyhoedd.
Dylech, mewn rhai amgylchiadau, gynnal ymgynghoriad â’ch rhanddeiliaid cyn gwneud eich penderfyniad (a chyn gwneud cais am ein hawdurdod). Er enghraifft:
- newid dibenion eich elusen, oni bai eu bod yn fach iawn; ac
- unrhyw newidiadau sylweddol, fel y rhai a allai effeithio ar fuddiolwyr eich elusen
Dylai’r ymddiriedolwyr benderfynu pa fath o ymgynghoriad sy’n briodol. Bydd hyn yn dibynnu ar y newid arfaethedig, ei effaith (er enghraifft ar fuddiolwyr) a maint yr elusen.
Mewn rhai amgylchiadau, cyn i’r Comisiwn roi ei awdurdod, gallwn ofyn i chi roi hysbysiad cyhoeddus o’ch newidiadau. Byddwn yn cytuno â chi ar y dull priodol o roi hysbysiad i alluogi’r rhai yr effeithir arnynt i gael gwybod am y newidiadau arfaethedig.
Gallwn hefyd ddewis rhoi hysbysiad cyhoeddus ein hunain.
Sut i wneud newidiadau
Bydd angen i’r ymddiriedolwyr benderfynu cyflwyno’r newid i aelodau’r elusen. I wneud hyn, rhaid pasio penderfyniad gan fwyafrif holl ymddiriedolwyr eich elusen.
Yna, rhaid i aelodau eich elusen basio penderfyniad i wneud y newid. Fel arfer, maent yn gwneud hyn mewn cyfarfod cyffredinol.
Os yw eich CIO yn CIO Sefydliad, eich ymddiriedolwyr yw unig aelodau’r elusen. Rhaid i chi basio penderfyniad aelodau ar wahân o hyd.
Ar gyfer newidiadau rheoleiddiedig, dylech ofyn am awdurdod y Comisiwn cyn i chi gytuno ar y newid gydag aelodau eich elusen. Bydd hyn yn arbed costau trefnu cyfarfod i chi i bleidleisio ar newid nad yw’r Comisiwn yn ei awdurdodi.
Sut i basio penderfyniad
Er mwyn i’ch aelodau basio penderfyniad, mae’r gyfraith yn gwneud y canlynol yn ofynnol:
- os yw mewn cyfarfod cyffredinol: cytundeb o leiaf 75% o aelodau eich elusen sy’n pleidleisio mewn cyfarfod cyffredinol (gan gynnwys y rhai sy’n pleidleisio drwy ddirprwy neu drwy’r post); neu
- os nad yw mewn cyfarfod cyffredinol: cytundeb holl aelodau eich elusen mewn ffordd arall y mae eich cyfansoddiad yn ei chaniatáu, megis yn ysgrifenedig, ar-lein neu drwy’r post
Gwiriwch a yw eich cyfansoddiad yn nodi canran uwch o aelodau y mae angen iddynt bleidleisio i wneud y newid. Rhaid i chi ddilyn y rheolau yn eich cyfansoddiad.
Mae rhagor o wybodaeth am basio penderfyniadau yn ein canllawiau am gyfarfodydd elusennau.
Dweud wrth y Comisiwn Elusennau
Rhaid i chi anfon y dogfennau canlynol at y Comisiwn o fewn 15 diwrnod i basio eich penderfyniad:
- copi wedi’i ddiweddaru o’ch cyfansoddiad diwygiedig
- enw a rhif cofrestru eich elusen
- union eiriad unrhyw gymal rydych wedi’i ddiwygio
- union eiriad unrhyw gymal newydd rydych wedi’i ychwanegu
- copi o benderfyniad eich aelodau
- os cafodd ei basio mewn cyfarfod aelodau, dyddiad y cyfarfod a chadarnhad bod y cworwm gofynnol i wneud penderfyniadau dilys yn y cyfarfod
- os cafodd ei basio mewn ffordd arall y mae eich cyfansoddiad yn ei ganiatáu, megis yn ysgrifenedig, ar-lein neu drwy’r post, cadarnhad bod y penderfyniad wedi’i basio gan holl aelodau eich elusen
- ar gyfer newidiadau rheoleiddiedig, cadarnhad bod gennych awdurdod y Comisiwn
- datganiad eich bod wedi dilyn unrhyw amodau ychwanegol a nodir yn eich cyfansoddiad
Mae hyn er mwyn i ni allu cadw cofnod eich elusen ar y gofrestr elusennau yn gyfredol.
Rhaid i chi ddweud wrth y Comisiwn am y newidiadau a wnewch.
Pryd bydd newidiadau’n dod i rym
Newid dibenion eich elusen
Mae newidiadau yn nibenion eich elusen yn dod i rym ar naill ai:
- y diwrnod y mae’r Comisiwn yn cofrestru’r newid, neu
- dyddiad diweddarach a nodir gennych yn benderfyniad eich aelodau, ond rhaid i hyn fod ar neu ar ôl i’r Comisiwn gofrestru’r newid
Ni allwch gofrestru newidiadau dibenion tan i’r Comisiwn roi ei awdurdod ar gyfer y newid.
Dylech ofyn am awdurdod cyn i chi gytuno ar y newid gydag aelodau eich elusen. Bydd hyn yn arbed costau trefnu cyfarfod i chi i bleidleisio ar newid nad yw’r Comisiwn yn ei awdurdodi.
Newidiadau eraill
Mae’r rhain yn dod i rym ar naill ai:
- y diwrnod y mae aelodau eich elusen yn pasio’r penderfyniad, neu
- dyddiad diweddarach a nodir gennych am benderfyniad yr aelodau
Gallwch ddewis dyddiad diweddarach, fel bod eich newid yn dod i rym ar yr un pryd â digwyddiad arall, megis diwedd y flwyddyn ariannol.
Gwaddol parhaol, tir dynodedig ac ymddiriedolaethau arbennig
Yn syml, gwaddol parhaol yw eiddo y mae’n rhaid i elusen ei gadw yn hytrach na’i wario. Mae dau brif fath o waddol parhaol:
- arian neu asedau eraill a roddir i’ch elusen i’w buddsoddi. Dim ond yr incwm buddsoddi y gellir ei wario
- eiddo a roddir i’ch elusen y mae’n rhaid ei ddefnyddio at ddiben penodol yn unig. Er enghraifft, tir neu adeiladau a roddir i’w defnyddio fel ysgol neu faes hamdden. Weithiau gelwir hyn yn ‘dir dynodedig’
Bydd gan asedau o’r fath ddogfen llywodraethu wahanol i gyfansoddiad eich CIO.
Ymddiriedolaethau arbennig yw arian neu eiddo y mae’n rhaid i’ch elusen ei ddefnyddio at ddibenion penodol yn unig, sy’n fwy cul na dibenion eich elusen.
Dysgwch sut, fel ymddiriedolwr, y gall eich CIO newid sut y gall ddefnyddio:
I wneud yn siŵr bod eich newidiadau’n ddilys, gwnewch yn siŵr eich bod yn:
- diwygio’r ddogfen llywodraethu gywir
- dilyn y rheolau cywir i newid sut y gall eich CIO ddefnyddio gwaddol parhaol, tir dynodedig neu ymddiriedolaethau arbennig
Dysgwch ragor am waddol parhaol neu dir dynodedig a cheisiwch gyngor proffesiynol os ydych yn ansicr.
Crynodeb
Mae’r crynodeb hwn yn nodi’r camau allweddol. Peidiwch â dibynnu ar y crynodeb hwn yn unig. Gwnewch yn siŵr eich bod yn darllen y canllawiau.
Cam 1. Sicrhewch eich bod yn deall y newid rydych am ei wneud a pham
Cam 2. Gwiriwch a ddylech ymgynghori â rhanddeiliaid eich elusen cyn gwneud y newid
Cam 3. Penderfynwch a ddylech wneud y newid – cadwch gofnod clir o pam rydych yn gwneud eich penderfyniad
Cam 4. Gwiriwch ddogfen llywodraethu eich elusen am unrhyw reolau ychwanegol y mae’n rhaid i chi eu dilyn i wneud y newid
Cam 5. Gwiriwch a oes gwrthdaro buddiannau y mae angen i chi ei reoli
Cam 6. Gwnewch y gwelliant
- gwiriwch a ydych chi’n gwneud newid rheoleiddiedig
- pasiwch benderfyniad ymddiriedolwyr
- sicrhewch awdurdod y Comisiwn Elusennau os ydych yn gwneud newid rheoleiddiedig neu oherwydd eich bod yn wynebu gwrthdaro buddiannau na allwch ei reoli (nodwch, gall y Comisiwn ofyn i chi roi hysbysiad cyhoeddus o’r newid)
- pasiwch benderfyniad aelodau
Cam 7. Dywedwch wrth y Comisiwn. Anfonwch y wybodaeth ofynnol o fewn 15 diwrnod i basio penderfyniad yr aelodau
Cam 8. Sicrhewch eich bod yn deall pryd y daw’r newid i rym. Nid dyma ddyddiad eich penderfyniad aelodau bob amser.