Elusennau a chyfarfodydd (CC48)
Gwybodaeth am redeg, cynllunio a chadw cofnod o gyfarfodydd a pha fath o gyfarfodydd y gall elusen eu cynnal.
Applies to England and Wales
Dogfennau
Manylion
Bydd dogfen lywodraethol eich elusen fel arfer yn dweud pa gyfarfodydd y mae’n rhaid i’ch elusen eu cynnal, sut a phryd. Mae’r rhan fwyaf o gyfarfodydd yn cynnwys yr ymddiriedolwyr yn unig, ond os oes gan eich elusen aelodau, byddant yn rhan o rai cyfarfodydd megis cyfarfod cyffredinol blynyddol (CCB). Pethau i’w cofio wrth gynnal cyfarfodydd elusennol yw:
- rhoi rhybudd ynghylch cyfarfod
- sicrhau bod cworwm yn bresennol (y nifer lleiaf o bobl i sicrhau bod y cyfarfod yn ddilys)
- datgan gwrthdrawiadau buddiannau
- pwy sy’n gallu gweld y cofnodion
Mae’r canllaw hwn yn esbonio i ymddiriedolwyr elusennau, yn enwedig y cadeirydd a’r ysgrifennydd, sut i gynnal cyfarfodydd yn gyfreithlon ac yn effeithiol. Mae’n cynnwys pwyntiau cyffredinol fel rôl y cadeirydd, a hefyd sut i gynnal mathau penodol o gyfarfod fel CCB.