Adroddiad corfforaethol

Siart sefydliadol CThEF

Diweddarwyd 2 Rhagfyr 2025

Ysgrifenyddion Parhaol

John-Paul Marks – Prif Weithredwr, Prif Ysgrifennydd Parhaol a Swyddog Cyfrifyddu

Angela MacDonald – Dirprwy Brif Weithredwr, Ail Ysgrifennydd Parhaol

Y Pwyllgor Gweithredol

Pwyllgor Gweithredol CThEF yw prif fforwm gweithredol yr adran. Yn goruchwylio ac yn sicrhau ansawdd holl waith CThEF, ac yn gyfrifol am osod a darparu strategaeth. Darllenwch ragor am y Pwyllgor Gweithredol.

Myrtle Lloyd – Cyfarwyddwr Cyffredinol Gwasanaethau i Gwsmeriaid (Hyrwyddwr Llesiant)

Penny Ciniewicz – Cyfarwyddwr Cyffredinol Cydymffurfiad Cwsmeriaid (Hyrwyddwr Hil)

Jonathan Athow – Cyfarwyddwr Cyffredinol Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid (Hyrwyddwr Symudedd Cymdeithasol)

Justin Holliday – Prif Swyddog Cyllid, Comisiynydd Sicrwydd Treth (Hyrwyddwr Crefydd neu Gred)

Daljit Rehal – y grŵp Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol (CDIO) (Hyrwyddwr Hygyrchedd)

Alan Evans – Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyffredinol, Grŵp Cyfreithiol CThEF

Helen Pickles – Prif Swyddog Pobl

Carol Bristow – Cyfarwyddwr Cyffredinol Ffiniau a Masnach

Suzanne Newton – Cyfarwyddwr Cyffredinol y grŵp Cyflawni Newid (Hyrwyddwr Gofalwyr)

James Mitton – Cyfarwyddwr Cyffredinol y grŵp Trawsnewid Mentrau

Andrew Pemberton – Cyfarwyddwr Arweiniad a Gohebiaeth (Hyrwyddwr Cynaliadwyedd)

Jonathan Russell CB – Prif Weithredwr, Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Lucy Pink – Cyfarwyddwr Rheoli Portffolios

Aelodau Anweithredol CThEF

Mae ein Cyfarwyddwyr Anweithredol yn cynnig safbwynt allanol i’r sefydliad ac yn defnyddio’u sgiliau a’u profiadau i gynghori’r adran.

Aelodau anweithredol y Bwrdd

Y Fonesig Jayne-Anne Gadhia (Arweinydd Anweithredol)

Michael Hearty

Jen Tippin

Bill Dodwell

Heather Self

Sir Craig Mackey

Sachin Jogia

Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cyfarwyddwr Cyffredinol a Phrif Swyddog Cwsmeriaid: Myrtle Lloyd

Yn gyfrifol am wella profiad y cwsmeriaid yr ydym yn eu cefnogi er mwyn iddynt dalu’r swm cywir o dreth, cael y budd-daliadau cywir, ac i gael cymorth wrth iddynt dalu unrhyw ddyled sydd arnynt.

Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid

Cyfarwyddwr Gweithredol y Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid a Budd-daliadau, Teuluoedd a Thollau  

Cyfarwyddwr: Steve Long

Yn gyfrifol am berfformiad ac ymrwymiadau’r gwasanaeth ar draws y Gwasanaethau i Gwsmeriaid. Yn gyfrifol am ddarparu Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a Budd-dal Plant. Yn helpu cwsmeriaid, asiantau a chyflogwyr gyda’u cwestiynau ynghylch Profedigaeth, Yswiriant Gwladol a Thollau.

Trethi Arbenigol a Busnes

Cyfarwyddwr: Andrew McConnell (dirprwy dros dro)

Yn rheoli ystod amrywiol o waith gweithredol, gan gynnwys gwaith TAW, trethi stamp, elusennau, cynilion a buddsoddiadau, Treth Gorfforaeth ac Ecséis.

Gweithrediadau Treth Bersonol

Cyfarwyddwr: Marc Gill

Yn helpu cwsmeriaid, asiantau a chyflogwyr gyda’u cwestiynau ynghylch Yswiriant Gwladol, Talu Wrth Ennill (TWE) a Hunanasesiad, ac yn rhoi help ychwanegol i’r cwsmeriaid sydd ei angen.

Rheoli Dyledion

Cyfarwyddwr: Sue Young

Yn gyfrifol am gasglu taliadau dyledion, yn rhoi cyfrif am dollau treth a rhwymedigaethau eraill, ac yn sicrhau bod datganiadau a thaliadau hwyr yn dod i law.

Gweithrediadau Budd-daliadau a Chredydau

Cyfarwyddwr: Tamsin Woodeson

Yn gyfrifol am ddarparu Gofal Plant sy’n Rhydd o Dreth a Budd-dal Plant, ac yn cyd-weithio â’r Adran Gwaith a Phensiynau i reoli’r trosglwyddiad o gredydau treth i Gredyd Cynhwysol.

Rhagoriaeth Weithredol

Cyfarwyddwr: Richard Hawthorn

Yn gyfrifol am wella prosesau, rheoli data cwsmeriaid, cynorthwyro’r prif raglenni, ac yn goruchwylio gohebiaeth, cwynion, gwiriadau ansawdd a materion o atal twyll ar draws y gwasanaethau budd-daliadau a threth.

Gwasanaeth Strategaeth a Newid ar gyfer Cwsmeriaid

Cyfarwyddwyr: Mike Beddington

Yn sbarduno gwelliannau ar draws y gwasanaethau i gwsmeriaid, ac yn cefnogi’r adrannau gweithredol. Mae hyn, yn ei dro, yn galluogi cydweithwyr i ddarparu gwasanaeth gwell mewn ffordd fwy effeithlon. Yn chwarae rhan hollbwysig wrth gyflawni blaenoriaethau CThEF.

Rheoli Cofnodion a Chofrestriadau

Cyfarwyddwr: Richard Forster

Yn arwain ar y gwaith o greu dulliau effeithiol o reoli cofnodion a chofrestriadau cwsmeriaid. Rhoi offer menter ar waith, a’r offer hynny wedi’u dylunio i wella’r broses o ddilysu, awdurdodi, rheoli mynediad ac atal twyll.

Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad

Cyfarwyddwr: yn wag

Yn datblygu rhagolygon sy’n dangos llwythi gwaith a’r galw am y gwaith hwn, ac yn rhannu data ac adborth sy’n dod o gwsmeriaid. Yn cefnogi’r gwaith datblygu, yn monitro perfformiad a chynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac yn rhoi rheolaeth ariannol gadarn i’r Grŵp Gwasanaeth i Gwsmeriaid.

Profiad y Cwsmer

Cyfarwyddwr: Claire Walsh

Yn sbarduno CThEF i ddarparu gwasanaethau sy’n gweithio’n well i gwsmeriaid. Rydym yn defnyddio data ac adborth cwsmeriaid i lunio polisïau, sicrhau ein bod yn darparu gwasanaethau o ansawdd, ac yn rhoi cymorth i dimau wrth iddynt wella profiad y cwsmer.

Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid

Cyfarwyddwr Cyffredinol: Penny Ciniewicz

Yn sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu, ac yn cymryd camau pan na fydd hyn yn digwydd.

Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid

Gweithrediadau Cydymffurfio

Cyfarwyddwr: Janet Alexander

Yn arwain ar broffesiynoldeb, profiad y cwsmer, ac yn cynorthwyo’r hyn y gall y gwasanaeth sifil ei wneud o ran cydymffurfiad, gan gynnwys cynllunio adnoddau a recriwtio ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid (CCG). Yn chwarae rôl allweddol wrth reoli gwaith cynllunio gweithredol y CCG, ei berfformiad, ei systemau, ei brosesau a’i rheolaethau, yn ogystal â rheolaethau a dyluniadau’r risgiau cydymffurfio mwyaf arwyddocaol.

Cyflawni Strategaeth Cydymffurfio

Cyfarwyddwr: Chris Southworth

Yn diffinio strategaeth cydymffurfio ar draws CThEF, yn cefnogi penderfyniadau (ar sail tystiolaeth) sy’n ymwneud â gweithgarwch cydymffurfio. Yn datblygu mesurau a fydd yn mynd i’r afael â risgiau a’r bwlch treth ar draws polisïau, ac yn rhoi’r newidiadau hyn ar waith.

Gwrth-Arbed

Cyfarwyddwr: Jonathan Smith

Yn gyfrifol am ymyriadau cydymffurfio i gynlluniau arbed treth sydd wedi’u marchnata ar gyfer y farchnad dorfol, ac yn mynd i’r afael â’r sawl sy’n hyrwyddo ac yn galluogi cynlluniau arbed treth, yn ogystal â chydymffurfiad ehangach asiantau. Yn datblygu polisïau er mwyn atal cynlluniau arbed treth rhag cael eu hyrwyddo.

Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll

Cyfarwyddwr: Richard Las

Yn gyfrifol am ymchwiliadau sifil ac ymchwiliadau troseddol CThEF i dwyll difrifol, yn defnyddio ystod lawn o bwerau (gan gynnwys cyfrifoldebau goruchwyliwr o dan Reoliadau Gwyngalchu Arian) er mwyn diogelu cyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus y DU.

Cydymffurfiad Unigolion a Busnesau Bach

Cyfarwyddwr Dros Dro: Kevin Hubbard

Yn rheoli risgiau cydymffurfio ar draws y prif drethi a thollau, ac yn arwain ar y gwaith i gau’r bwlch treth ar gyfer unigolion a busnesau bach, mynd i’r afael â’r economi gudd, hwyluso masnach ryngwladol a sicrhau bod yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol yn cael ei fodloni.

Busnesau Mawr

Cyfarwyddwr: Nicole Newbury

Yn gweithredu rhwydwaith o Reolwyr Cydymffurfiad Cwsmeriaid sy’n canolbwyntio ar reoli risgiau cydymffurfio ar draws busnesau mwyaf y DU, o ran maint a chymhlethdod.

Gwasanaethau Risg a Chudd-wybodaeth

Cyfarwyddwr: Andy Leggett

Yn chwarae rôl graidd o ran gweithgarwch gorfodi a chydymffurfio, a hynny drwy alluogi CThEF i ddeall, i asesu ac i reoli risgiau ar draws y system dreth drwy gasglu gwybodaeth a dadansoddi data.

Trawsnewid

Cyfarwyddwr: Ann Conway-Hughes

Yn sbarduno newidiadau (sy’n ymwneud â budd-daliadau) i weithgarwch cydymffurfio ar draws y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid, ac yn hwyluso’r drefn o ran gwneud gwaith cydymffurfio a chyflenwi newid o raglenni ehangach CThEF, gan sicrhau bod yr arferion gorau yn cael eu rhannu a’u rhoi ar waith.

Cydymffurfiad Unigolion Cyfoethog a Busnesau o Faint Canolig

Cyfarwyddwr: Philippa Madelin

Yn rheoli’r risgiau cydymffurfio mewn perthynas ag unigolion cyfoethog, busnesau o faint canolig, cyrff cyhoeddus, ymddiriedolaethau ac elusennau. Mae hefyd yn delio â risgiau o ran statws cyflogaeth a chyfryngwyr, Treth Etifeddiant, a chymhellion a rhyddhadau amrywiol.

Cyllid a Chynllunio

Cyfarwyddwr: Francesca Roberts

Yn arwain ar waith cynllunio’r busnes, rheoli risg, sicrwydd, gwaith ‘parhad busnes’ a diogelwch ar gyfer y Grŵp Cydymffurfiad Cwsmeriaid, ac yn cefnogi rheolaeth ariannol a rheolaeth perfformiad drwy ddarparu data a gwasanaethau cyfrifyddu.

Academi Treth, Tollau a Chydymffurfiad

Cyfarwyddwr Dros Dro: Mike Howe

Mae’r Academi Treth, Tollau a Chydymffurfiad yn un o dair academi sy’n cynnig datblygiad proffesiynol ac addysg yn y meysydd treth, tollau a chydymffurfiad i gydweithwyr CThEF. Mae’r addysg hon wedi’i theilwra ar gyfer pob rôl a phob cam gyrfa.

Grŵp Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid

Cyfarwyddwr Cyffredinol: Jonathan Athow

Yn datblygu ac yn cyflawni diwygiadau i bolisïau system dreth y DU er mwyn cefnogi blaenoriaethau’r Llywodraeth. Mae’r gwaith hwn yn seiliedig ar waith dadansoddi, adborth o safon uchel gan gwsmeriaid, a thrwy gyd-weithio’n agos gyda Thrysorlys EF.

Cyfarwyddiaethau Strategaeth a Chynllunio Treth ar gyfer Cwsmeriaid

Strategaethau CThEF

Cyfarwyddwr: yn wag

Yn arwain ar benderfynu cyfeiriad strategol CThEF, ac yn sicrhau bod y cyfeiriad strategol hwn yn cyd-fynd â’n nod o fod yn adran dreth a thollau sy’n fodern ac yn ddibynadwy.

Gwybodaeth, Dadansoddi a Chudd-wybodaeth

Cyfarwyddwyr: Alison Woodhouse, Jessica Mitchell

Yn darparu dadansoddiadau, ymchwil ac ystadegau er mwyn llywio polisïau a phenderfyniadau ynghylch gwaith gweithredol, rhagolygon cyllidol ac adroddiadau CThEF, a dadansoddiadau traws-lywodraethol.​

Cyfryngwyr

Cyfarwyddwr: Rob Jones

Yn gweithredu fel catalydd i sbarduno CThEF i newid ei ddull o gyfryngu’r system dreth, codi safonau a gwella cydymffurfiad, effeithlonrwydd, a phrofiad y cwsmer.​

Pontio Polisi Strategol a Chyflawni

Cyfarwyddwr: Rosalind Kay

Yn gweithio ar draws CThEF, gydag adrannau eraill o’r Llywodraeth yn ogystal â’r gweinyddiaethau datganoledig, er mwyn datblygu polisïau mewn ffordd strategol ac i gydlynu’r polisïau hyn. Yn goruchwylio digwyddiadau cyllidol, cyflwyno’r newidiadau i bolisïau a sbarduno i’w gwella. ​

Gweinyddu Trethi

Cyfarwyddwr: Paul Riley

Yn gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw fframwaith deddfwriaethol a pholisïau at ddiben gweinyddu trethi mewn ffordd effeithlon, ac yn darparu arweiniad a chyngor technegol er mwyn cynnal y fframwaith hwn.​

Materion Busnes, Asedion a Rhyngwladol

Cyfarwyddwr: Jon Sherman, Elizabeth Arnold

Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a materion technegol sy’n ymwneud â busnesau, asedion (Treth Enillion Cyfalaf, Treth Etifeddiant a threthi stamp) ac ymddiriedolaethau sy’n cael eu trethi’n uniongyrchol, ac yn cyflawni ar waith o ran treth ryngwladol ac ymrwymiadau o ran tryloywder.

Treth Anuniongyrchol

Cyfarwyddwr: Rachel Nixon

Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a materion technegol sy’n ymwneud â TAW, Treth Premiwm Yswiriant, trethi trafnidiaeth ac amgylcheddol, tollau ecséis a hapchwarae.

Cyfarwyddiaeth Polisi Unigolion

Cyfarwyddwr: Cerys McDonald

Yn darparu goruchwyliaeth ar bolisïau a thechnoleg sy’n ymwneud â threthi a budd-daliadau sy’n cael effaith ar gwsmeriaid unigol.​

Cyllid, Cynllunio, Perfformio a Risg

Cyfarwyddwr: Theresa Knowles

Yn goruchwylio gweithrediadau corfforaethol, gan gynnwys gwaith cynllunio ar gyfer y busnes, dyrannu adnoddau, rheolaeth ariannol, monitro perfformiad, rheoli risg a gwirio bod mesurau sicrwydd a rheolaethau priodol ar waith. ​

Newid a Chydweithio Corfforaethol a Strategol

Arweinydd: Andy O’Loughlin

Rydym yn galluogi CSTD i wreiddio Gweithio Hybrid a chyflawni gwaith Cynllunio Gweithlu Strategol. Rydym hefyd yn cefnogi gweledigaeth 5 mlynedd CSTD o ran Rheolaeth Busnes, Diogelwch a Newid.

Grŵp Lleoedd a Phobloedd

Prif Swyddog Lleoedd a Phobloedd: Helen Pickles

Yn datblygu ac yn darparu goruchwyliaeth wrth i bolisïau AD CThEF (sy’n gwneud CThEF yn lle gwych i weithio) gael eu rhoi ar waith, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros gynllunio’r gweithlu, recriwtio, rheoli talent, gweithgareddau dysgu ac ystadau.

Prif Gyfarwyddiaeth Lleoedd a Phobloedd

Cyfarwyddwr Dysgu a Thalent

Cyfarwyddwr: Nicky Pattimore

Yn gyfrifol am strategaeth a thrawsnewid CThEF o ran dysgu, ac yn arwain ar gaffael talent gan gynnwys recriwtio gweithredol a llafur wrth gefn.

Trawsnewid y Gweithle a Phartneriaethau

Cyfarwyddwr: Kate Tilley

Pennaeth y proffesiwn AD ac yn gyfrifol am alluogi CThEF i drawsnewid y sefydliad a’r gweithlu ar gyfer y dyfodol, a hynny drwy broses o ddylunio o ran y sefydliad a’r gweithlu, effeithiolrwydd sefydliadol, datblygu a gweithredu strategaeth pobl CThEF, a chynllunio’r gweithlu mewn ffordd strategol.

Partneriaid Busnes

Cyfarwyddwr: Simon Fryer

Yn arwain Cyfarwyddwyr AD a thimau Partneriaid Busnes AD wrth iddynt gefnogi Grwpiau’r Busnes a’r Gwasanaeth Cynghori Arbenigol, ein swyddogaeth sy’n cefnogi’r gwaith achos AD.

Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer Cwsmeriaid

Cyfarwyddwr: Bobby Chatterjee

Mae’r Gwasanaethau Cynllunio ar gyfer Cwsmeriaid yn darparu ystod ehangach o wasanaethau arbenigol sy’n creu fframwaith effeithlon a chynhwysol o gyflogeion ar gyfer CThEF. Mae ein portffolio yn cwmpasu Polisi Cyflogai, Cysylltiadau â Chyflogai a Gwobrwyo, yn ogystal ag Amrywiaeth a Chynhwysiant Cydraddoldeb gan gynnwys Iechyd a Diogelwch, Llesiant, a Diogelwch Corfforaethol.

Rhaglen Ystadau a Lleoliadau

Cyfarwyddwr: Louis Roberts

Yn gyfrifol am ddarparu gweithleoedd arbenigol a swyddfeydd cynhwysol, sy’n fodern, diogel ac o safon uchel i gydweithwyr yn CThEF ac adrannau eraill o’r Llywodraeth.

Gwasanaethau Busnes Unity

Cyfarwyddwr: Toni Court

Yn gyfrifol am ddarparu cyswllt a gwasanaethau cymorth o ran caffael, cyllid ac AD gweithrediadol o safon uchel i holl gyflogeion CThEF, yr Adran Drafnidiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio (y VOA).

Rhaglen Unity

Cyfarwyddwr: Cath Rollo

Yn gyfrifol am y Rhaglen Unity a fydd yn cyflawni swyddogaeth o Gydwasanaethau AD a Chyllid gan ddefnyddio technoleg a phrosesau newydd i gefnogi CThEF, y Weinyddiaeth Dai, Cymunedau a Llywodraeth Leol o fis Mehefin 2024 ymlaen.

Grŵp y Prif Swyddog Cyllid

Yn cynnwys ein swyddogaeth fasnachol ac ariannol, yn ogystal â chyllid, AD a gwasanaethau bancio y darperir i CThEF ac adrannau eraill o’r Llywodraeth.

Prif Swyddog Cyllid: Justin Holliday

Cyfarwyddiaethau’r Prif Swyddog Cyllid

Buddsoddiad a Chyflawni Strategol

Cyfarwyddwr: Oliver Fisher

Yn gyfrifol am roi arbenigedd ariannol a sicrwydd annibynnol o’r ffordd y mae CThEF yn cyflawni newid ac yn gwneud penderfyniadau o ran buddsoddi.

Masnachol

Cyfarwyddwyr: John Hayes, Andrew Wilson

Yn gyfrifol am yr holl drefniadau masnachol, gan weithio mewn partneriaeth â pherchnogion contractau ledled CThEF i sicrhau gwell canlyniadau drwy ein cyflenwyr, sicrhau gwerth am arian, galluogi arloesedd a chreu cyfleoedd ar gyfer gwerth cymdeithasol.

Strategaeth a Pherfformiad Ariannol

Cyfarwyddwr: Ian Clarke

Yn gyfrifol am gynllunio, monitro, ac adrodd ar berfformiad a’r sefyllfa ariannol yn gyffredinol sydd wrth wraidd yr hyn y mae CThEF yn ei gyflawni.

Archwilio Mewnol

Cyfarwyddwr: Tim Addison

Yn darparu sicrwydd annibynnol i’r Prif Weithredwr drwy nodi bod y prosesau rheoli risg, llywodraethu a rheolaeth fewnol yn gweithredu mewn ffordd effeithiol ac effeithlon, a hynny er mwyn helpu i ddiogelu enw da CThEF.

Cyfrifyddu Ariannol, Risg a Rheoli

Cyfarwyddwr: Alison Bexfield

Yn gyfrifol am holl weithgarwch CThEF, gan gynnwys risg, rheolaeth a sicrwydd; newid cyllid; a systemau cyllid, achrediad a phrosesau ar gyfer CThEF, yn ogystal â chefnogi’r proffesiwn cyllid ledled CThEF.

Grŵp y Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol (CDIO)

Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol: Daljit Rehal

Yn cynllunio, datblygu, ac yn rhedeg gwasanaethau digidol a gwasanaethau gwybodaeth ar gyfer ein pobl a’n cwsmeriaid, a hynny wrth sicrhau ein bod yn cadw data mewn ffordd sy’n ddiogel ac yn bodloni gofynion y gyfraith.

Cyfarwyddiaethau’r Prif Swyddog Gwybodaeth a Gwasanaethau Digidol

Cyfarwyddwr Cyllid

Cyfarwyddwr Cyllid: David Swainston

Yn gyfrifol am gymryd cyfrifoldeb dros Fframwaith Llywodraethu CDIO, a’i ddatblygu, gan sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud ar sail y data sydd ar gael; datblygu ac olrhain achosion busnes cadarn, ac optimeiddio rheolaeth ariannol CDIO. Yn gyfrifol am wella Model gweithredu CDIO yn barhaus, a sicrhau bod perthynas strategol (cwsmer a chyflenwr) a gweithgareddau rheoli portffolio yn darparu’r gwerth mwyaf posibl i CThEF.

Prif Beiriannydd a Pherchennog Platfformau

Cyfarwyddwr Peirianneg a Phlatfformau: David Andrews

Yn gyfrifol am osod cyfeiriad a strategaeth ar gyfer y ddarpariaeth o blatfformau i fodloni anghenion gwasanaethau a chynhyrchion y busnes. Yn goruchwylio rheolaeth o blatfformau ac yn gosod ffiniau gwarchodol ar gyfer eu defnydd, gan fod yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod unrhyw beth sy’n mynd yn fyw yn bodloni’r safonau gofynnol. Yn berchen ar holl raglenni a phlatfformau ar gyfer diogelwch, gwytnwch, at ddibenion ansawdd data, ac yn gyfrifol am wneud yn siŵr bod yr holl blatfformau’n cael eu diweddaru’n aml.

Cyfarwyddwr y Brif Swyddfa Technoleg a Chynllunio

Cyfarwyddwr y Brif Swyddfa Technoleg a Chynllunio: Tom Skalycz

Yn gyfrifol am ddiffinio strategaeth TG, llunio cynlluniau a modelau a fydd yn galluogi platfformau a chynhyrchion i esblygu drwy ddatrysiadau TG. Yn sbarduno arloesedd ledled adrannau technoleg CThEF.

Diogelwch CThEF

Prif Swyddog Diogelwch: yn wag

Yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth ddiogelwch CThEF a rhoi gweithdrefnau a rheolaethau diogelwch (sy’n cydymffurfio â gofynion cyfreithiol a rheoliadol) ar waith, yn ogystal â dangos arfer da.

Prif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Ffiniau a Masnach

Prif Swyddog Gwybodaeth ar gyfer Ffiniau a Masnach: Nicolas Bourven

Yn gyfrifol am ddarparu’r dechnoleg ar gyfer gwaith Ffiniau a Masnach, ar draws y Llywodraeth, a fydd yn datblygu strategaeth 2025 i gefnogi agenda uchelgeisiol y Llywodraeth o ran sefydlu ymgyrch Ffiniau a Masnach yn y DU o’r radd flaenaf.

Cyfarwyddwr AD, CDIO

Cyfarwyddwr AD, CDIO: Breda O’Connor

Yn gyfrifol am gymryd cyfrifoldeb dros Gynllun Gweithlu Strategol y CDIO, a’i ddatblygu, gan weithio’n agos gyda’r Prif Swyddog Gweithredu i sicrhau bod yr ymyriadau cywir ar waith er mwyn cynyddu gallu pawb yn barhaus.

Pennaeth Unity, Cyfarwyddwr Technoleg

Pennaeth Unity, Cyfarwyddwr Technoleg: Simon Smith

Yn gyfrifol am ddarparu cydrannau technegol Saernïaeth Targed Unity ac yn cefnogi’r gwasanaeth ehangach. Yn berchen ac yn gyfrifol am reoli’r dechnoleg, yn gwneud y gwaith adeiladu a gweithredu cysylltiedig, ac yn gweithio ochr yn ochr â swyddogaethau eraill CDIO.

Prif Berchennog Cynhyrchion

Prif Berchennog Cynhyrchion: Sarah McMann

Yn atebol am ddatblygu a darparu gwasanaethau a chynhyrchion gan ddefnyddio cyfluniad o alluoedd presennol, strategaeth API ac integreiddio gallu’r platfform. Yn datblygu cynhyrchion yn unol â’r cyfarwyddiadau a strategaeth y cytunwyd arnynt.

Prif Swyddog Data

Prif Swyddog Data: Aydin Sheibani

Yn atebol am y gwaith strategaeth ddata, llywodraethu, rheoli a chyflawni gwaith datrysiadau data, a hynny ar draws yr holl fenter. Yn datblygu gallu CThEF o ran gwyddor data, gan sicrhau ei fod wedi’i ymgorffori yn ein cylch bywyd datblygu.

Grŵp Cyfreithiol CThEF

Cwnsler Cyffredinol a Chyfarwyddwr Cyffredinol: Alan Evans

Yn darparu gwasanaethau cyfreithiol i CThEF.

Cyfarwyddiaethau’r Gwasanaethau Cyfreithiol

Ymgyfreitha

Cyfarwyddwr: Samantha Pullin

Yn gyfrifol am ymgyfreitha gan CThEF.

Cyfarwyddiaeth Adolygiadau a Gwasanaethau Corfforaethol

Cyfarwyddwr: Mark Wilson

Yn cynnal adolygiadau statudol (penderfyniadau o ran cosbau/cydymffurfio) ac yn rheoli gohebiaeth weinidogol, ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth/ceisiadau gwrthrych am wybodaeth, cwestiynau seneddol a thrawsnewid. Yn darparu gwasanaethau cyfrifyddu ac ansolfedd i CThEF.

Ymgynghorwyr Treth Busnes a Chyfraith Ryngwladol

Cyfarwyddwr: John Evans

Yn darparu cyngor cyfreithiol i CThEF, ac yn llunio deddfwriaeth ar ei gyfer, sy’n cwmpasu’r holl drethi busnes, trethi amgylcheddol, ardrethi busnes, gwybodaeth gyfreithiol, tollau ac ecséis, masnach Ewropeaidd a masnach ryngwladol.

Ymgynghorwyr Cyfreithiol Unigolion a Chroestoriadau

Cyfarwyddwr: Jo Greenidge

Yn darparu cyngor cyfreithiol i CThEF, ac yn llunio deddfwriaeth ar ei gyfer, ar drethi personol, budd-daliadau a chredydau, gwrth-arbed, materion troseddol a masnachol.

Grŵp Ffiniau a Masnach

Cyfarwyddwr Cyffredinol: Carol Bristow

Yn cefnogi masnach ryngwladol y DU a’r casgliad o drethi a thollau ar fewnforion, ac yn gweithio’n agos gyda Llu’r Ffiniau ar ran y Swyddfa Gartref.

Cyfarwyddiaethau Ffiniau a Masnach

Polisi a Strategaeth Tollau: Cyfarwyddwr – Alex Pienaar

Mae’r gyfarwyddiaeth Polisi a Strategaeth Tollau yn gyfrifol am ddatblygu polisïau, rhoi’r datblygiadau hyn ar waith, cynnal a chadw a gwella cyfundrefn dollau’r DU, a hynny’n unol â blaenoriaethau’r Llywodraeth ac amcanion gweinidogol. 

Cyflawni Newid y Tollau: Cyfarwyddwr – Sarah Hartley

Mae’r gyfarwyddiaeth Cyflawni Newid y Tollau (CCD) yn cynllunio ac yn cyflawni rhaglenni newid Ffiniau a Masnach, a phrosiectau i gefnogi Model Gweithredu Targed Ffiniau a Masnach, yn ogystal â’n uchelgeisiau ar gyfer Cyfundrefn Dollau’r DU.

Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad: Cyfarwyddwr Cyllid – Imran Nazir

Mae’r gyfarwyddiaeth Cyllid, Cynllunio a Pherfformiad yn arwain ar ystod eang o gyfrifoldebau corfforaethol, ac yn darparu cymorth i’r Grŵp Busnes drwy reoli cyllid, risg a sicrwydd, llywodraethu, busnes, buddsoddiad a chynllunio gweithlu, yn adrodd am berfformiad corfforaethol a strategaethau ar gyfer lles a datblygiad ein pobl.

Gwasanaethau a Gweithrediadau’r Tollau: Cyfarwyddwr – Gill Evans

Mae’r gyfarwyddiaeth Gwasanaethau a Gweithrediadau’r Tollau yn gyfrifol am lunio a chyflawni gwasanaethau tollau a galluogrwydd y Grŵp Busnes, ac yn cyflawni canlyniadau effeithlon ac effeithiol ar gyfer masnachwyr a’r Llywodraeth, a hynny wrth wella gwytnwch, rheolaeth a sefydlogrwydd o fewn y Gyfundrefn Dollau.

Grŵp Cyflawni Newid

Cyfarwyddwr Cyffredinol: Suzanne Newton

Yn rheoli portffolio newid CThEF ac yn arwain ar rai o’r rhaglenni newid mwyaf, o ran maint a chymhlethdod.

Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Cyflawni Newid

Rhaglenni Trawsnewid Digidol

Cyfarwyddwr: Jade Ackers

Yn gyfrifol am ddarparu un profiad digidol i gwsmeriaid ar draws y we a sianelu symudol, drwy integreiddio a gwella’r gwasanaethau sydd ar gael ar hyn o bryd o fewn Cyfrifon Treth Personol a Chyfrifon Treth Busnes, a hynny er mwyn cynyddu nifer y cwsmeriaid a gwmpesir.

Y Cynllun Troi Treth yn Ddigidol

Cyfarwyddwr: Craig Ogilvie

Yn ceisio lleihau’r bwlch treth drwy ei gwneud yn ofynnol i gwsmeriaid gadw cofnodion digidol, defnyddio meddalwedd sy’n cydweddu â’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol, a chyflwyno diweddariadau bob chwarter, yn y gobaith y bydd hyn yn dod â’r system dreth yn agosach at fod yn amser real.

Trawsnewid Technoleg

Cyfarwyddwr: Paul Williams

Yn gyfrifol am gyflawni clwstwr o raglenni (sydd â sail dechnolegol) yn llwyddiannus, a fydd yn gwella iechyd technegol, trwsio hen systemau, a diweddaru technoleg sy’n heneiddio.

Rhaglenni Busnes a Pholisi

Cyfarwyddwr: Max Hacon

Yn gyfrifol am arwain clwstwr o brosiectau a rhaglenni CThEF a fydd yn allweddol i gyflawni agenda treth y Llywodraeth a strategaeth yr adran o ran gweinyddu trethi.

Rhaglenni Rheoli Cwsmeriaid

Cyfarwyddwr: Pete Walsh

Bydd yr adran Rheoli Cwsmeriaid yn disodli’r hen brosesau a systemau. Bydd yr adran hefyd yn defnyddio technolegau newydd ac offer safonol y diwydiant i wella taith y cwsmer, ac yn ei gwneud yn haws ac yn fwy diogel i ryngweithio.

Trawsnewid Dyledion a Chydymffurfiad

Cyfarwyddwr: Carolyn Pratley

Bydd ein gwaith o drawsnewid cydymffurfiad yn defnyddio ystod o raglenni i wella’r canlyniadau cydymffurfio, a bydd ein gwaith o drawsnewid dyledion yn cyflwyno system newydd sydd wedi’i chreu i ganolbwyntio ar safbwynt y cwsmer o ran dyledion.

Grŵp Trawsnewid Menter

Cyfarwyddwr Cyffredinol: James Mitton

Yn cynorthwyo CThEF i greu busnes digidol effeithiol sy’n rhoi profiad gwell i gydweithwyr a chwsmeriaid, a hynny wrth leihau’r bwlch treth drwy drawsnewid yr holl fenter.

Cyfarwyddiaethau’r Grŵp Trawsnewid Menter

Dylunio Digidol

Cyfarwyddwr: Colin Stewart

Yn gyfrifol am drawsnewid y ffordd yr ydym yn gweithio er mwyn gwella’r broses o gyflawni o’r dechrau i’r diwedd, a sbarduno gwelliannau ar gyfer cwsmeriaid a chydweithwyr.

Rheoli Portffolio

Cyfarwyddwr: Lucy Pink

Yn gyfrifol am optimeiddio’r broses o ddyrannu cyllid i newid mentrau, gan sicrhau bod CThEF yn cyflawni ei strategaeth ac yn cyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth, gan sylweddoli’r buddion ar gyfer ein pobl, ein gwaith a’n cwsmeriaid.

Prosesau a Dylunio ar gyfer Cwsmeriaid

Cyfarwyddwr: Jane Whittaker

Yn gyfrifol am uno’r gymuned saernïaeth â’r gymuned ddylunio (busnes a phroses) a llywodraethu’r gwaith hynny. Mae’r adran Dylunio Menter yn gyfrifol am arwain ar y gwaith o adolygu’r ffordd yr ydym yn cyflawni dylunio yn CThEF, ac yn rhoi ffyrdd newydd o wneud hynny ar waith.

Mewnwelediad, AI ac Arloesedd

Cyfarwyddwr: Simon Price

Yn gyfrifol am uno ac alinio gweithgareddau deallusrwydd artiffisial (AI) CThEF, a hynny er mwyn creu bwrlwm o gwmpas AI, ac i feithrin newid diwylliannol a fydd yn normaleiddio arloesedd o’r fath.

Arweiniad a Gohebiaeth CThEF

Cyfarwyddwr: Andrew Pemberton

Yn rhoi cyngor, cymorth a gwasanaethau gohebu i CThEF, yn ogystal â darparu a gwella arweiniad CThEF i gydweithwyr a chwsmeriaid. Yn ymgorffori Tîm Cynaladwyedd CThEF hefyd.

Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Prif Weithredwr: Jonathan Russell CB

Mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn asiantaeth weithredol sy’n cael ei noddi gan Gyllid a Thollau EF.

Cyfarwyddiaethau Asiantaeth y Swyddfa Brisio

Prif Brisiwr

Prif Brisiwr: Alan Colston

Yn darparu cyngor technegol a chyngor o ran prisio, yn hyrwyddo a sicrhau safonau proffesiynol, cysondeb, gwrthrychedd a thryloywder i ddarparu prisiadau dibynadwy o eiddo fel rhan o’i swydd fel Pennaeth y Proffesiwn Syrfeio gyda’r VOA . Mae hefyd yn Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid Systemau Busnes.

Grŵp Data Cyllid a Dadansoddi

Prif Swyddog Cyllid a Gwybodaeth: Toby Nerval

Yn gyfrifol am Bennu Risg a Sicrwydd, Lywodraethu a Chyllid y VOA, yn ogystal â Gwybodaeth, Data a Dadansoddi.

Prif Swyddog Gweithredu

Prif Swyddog Gweithredu: Paula Dixon

Yn gyfrifol am gyflawni gweithredol ledled y VOA o fewn 4 Uned Brisio Ranbarthol, 3 Canolfan Gwasanaeth Cwsmeriaid, y Tîm Treth Gyngor Cenedlaethol, y gyfarwyddiaeth Rhagoriaeth Weithredol a’r gyfarwyddiaeth Darparu Gwasanaethau.

Strategaeth a Thrawsnewid

Prif Swyddog Strategaeth a Thrawsnewid: Carolyn Bartlett

Yn gyfrifol am strategaeth, polisi a thrawsnewid. Uwch-swyddog Cyfrifol ar gyfer y rhaglen Diwygio Ardrethu (Ardrethi Busnes) NextGen.