Cwnsler a Chyfreithiwr Cyffredinol

Alan Evans

Bywgraffiad

Penodwyd Alan Evans yn Gwnsler Cyffredinol a Chyfreithiwr i Gyllid a Thollau EF (CThEF) ym mis Ionawr 2019. Mae wedi cael nifer o uwch swyddi cyfreithiol eraill yn y llywodraeth - gan gynnwys Cyfarwyddwr Cyfreithiol yn Defra, BEIS a CThEF.

Yn gynharach yn ei yrfa, roedd Alan yn gynghorydd cyfreithiol i Swyddfa’r Cabinet ac yn y Comisiwn Ewropeaidd. Cyn gweithio yn y Llywodraeth, bu Alan yn ymgyfreithiwr masnachol yn y Ddinas. Mae’n gyn-aelod o Bwyllgorau Ewropeaidd a Chyfraith Cyflogaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr.

Cwnsler a Chyfreithiwr Cyffredinol

Mae’r Cwnsler a’r Cyfreithiwr Cyffredinol yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau cyfreithiol, cyfrifeg, adolygu treth ac ymgyfreitha i CThEF.

Mae gwaith Swyddfa’r Cyfreithiwr a’r grŵp Gwasanaethau Cyfreithiol yn cynnwys:

  • cynghori CThEM ar bob agwedd ar y gyfraith
  • cynnal ymgyfreitha sifil yr adran
  • darparu cyngor cyfreithiol a chyfrifeg ar fentrau polisi
  • gweithio ar ddeddfwriaeth newydd, megis y Bil Cyllid a Biliau eraill, a hefyd is-ddeddfwriaeth

Cyllid a Thollau EF