Guidance

Cael help gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio os oes angen cymorth ychwanegol arnoch

Updated 11 August 2022

Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio eich helpu os oes angen cymorth ychwanegol arnoch oherwydd eich cyflwr neu’ch amgylchiadau. Efallai y bydd angen cymorth ychwanegol arnoch os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg neu nam ar y clyw
  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol eraill
  • rydych yn profi caledi ariannol
  • mae angen gwybodaeth arnoch mewn iaith wahanol

Mae gwahanol ffyrdd y gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio eich helpu, gan gynnwys:

  • os na allwch ddefnyddio ffôn na chyfrifiadur
  • os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol
  • os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni, neu os oes angen mwy o amser arnoch oherwydd eich amgylchiadau
  • os oes angen gwybodaeth arnoch mewn iaith wahanol
  • os oes angen rhywun arnoch i siarad ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar eich rhan

1. Os na allwch ddefnyddio ffôn neu gyfrifiadur, ac mae angen ffordd wahanol o gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio arnoch

1.1 Anhawster wrth ddefnyddio ffôn:

Mae ffyrdd eraill o gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio os ydych yn cael anhawster wrth ddefnyddio’r ffôn. Efallai y bydd angen i chi ddefnyddio math arall o gyswllt os yw un neu fwy o’r canlynol yn wir:

  • rydych yn fyddar, â nam ar eich clyw neu’n drwm eich clyw
  • mae gennych nam ar eich lleferydd
  • rydych yn defnyddio Iaith Arwyddion Prydain (BSL)
  • mae defnyddio’r ffôn yn peri trafferth i chi

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan ddefnyddio’r gwasanaethau canlynol:

Relay UK

Mae ‘Relay UK’ yn wasanaeth a ddarperir gan BT i helpu pobl ag anawsterau clyw a lleferydd i gyfathrebu dros y ffôn.

I gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan ddefnyddio Relay UK, ffoniwch 18001 03000 501501.

Ffurflen Gyswllt

Gallwch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio gan ddefnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein.

1.2 Anhawster wrth ddefnyddio cyfrifiadur:

Os ydych yn cael trafferth defnyddio ein gwasanaethau ar-lein, gallwch gysylltu ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio dros y ffôn. Rhowch wybod i ni na allwch ddefnyddio’r gwasanaeth digidol oherwydd bod angen cymorth ychwanegol arnoch. Cewch gymorth i gael mynediad at y gwasanaeth mewn ffordd wahanol.

Ffôn

03000 505505 (Cymru)

03000 501501 (Lloegr)

Mae ein gwasanaeth ffôn ar gael rhwng 9:00am a 4.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Gallwch hefyd benodi rhywun i ddelio ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar eich rhan. Gall hyn fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol.

2. Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol

Mae gwybodaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar gael mewn gwahanol fformatau, megis:

  • Braille
  • Print bras
  • E-bost
  • Fformat arall

Os oes angen gwybodaeth arnoch mewn fformat gwahanol, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch.

3. Os oes angen help arnoch i lenwi ffurflenni, neu os oes angen mwy o amser arnoch oherwydd eich amgylchiadau

3.1 Help wrth lenwi ffurflenni:

Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio eich helpu i lenwi ffurflenni. Efallai y bydd angen help arnoch os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg neu nam ar y clyw
  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol eraill
  • rydych yn profi caledi ariannol

I gael help i lenwi ffurflenni, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch.

3.2 Angen rhagor o amser arnoch oherwydd eich amgylchiadau:

Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio dreulio mwy o amser gyda chi ar y ffôn neu, o dan rai amgylchiadau, roi estyniad i ddyddiad cau.

Er enghraifft, gallwch ofyn am fwy o amser os yw’r canlynol yn wir:

  • mae gennych anableddau synhwyraidd, megis nam ar y golwg neu nam ar y clyw
  • mae gennych gyflwr iechyd meddwl, megis iselder, straen neu orbryder
  • mae gennych ddyslecsia, awtistiaeth neu anawsterau gwybyddol eraill
  • rydych yn profi caledi ariannol
  • mae gennych gyflwr arall sy’n golygu bod angen rhagor o amser arnoch

I ofyn am ragor o amser oherwydd eich amgylchiadau, cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a rhowch wybod i ni beth sydd ei angen arnoch. Mae’n bosibl y bydd angen i chi brofi pam mae angen rhagor o amser arnoch, ac efallai na fydd hyn yn bosibl bob amser.

4. Os oes angen cyfieithydd ar y pryd arnoch

Gallwch ddefnyddio ffrind neu aelod o’r teulu fel cyfieithydd ar y pryd pan fyddwch yn ffonio Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Mae’n rhaid i’r unigolyn fod dros 16 oed, a bydd angen iddo fod yn yr un ystafell â chi pan fyddwch yn ein ffonio ni.

Gall Asiantaeth y Swyddfa Brisio hefyd drefnu cyfieithydd ar y pryd ar eich cyfer. Cysylltwch ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio a rhowch wybod i ni fod angen cyfieithydd ar y pryd arnoch.

5. Os oes angen rhywun arnoch i siarad ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar eich rhan

Gallwch hefyd benodi rhywun i ddelio ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar eich rhan. Gall hyn fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu neu’n ymgynghorydd o sefydliad gwirfoddol.

I benodi rhywun i ddelio ag Asiantaeth y Swyddfa Brisio ar eich rhan, ewch i’r dudalen Cynorthwyydd Dibynadwy ar gyfer trethi busnes, a’r dudalen Awdurdod i Weithredu ar gyfer y Dreth Gyngor.