Canllawiau

Cyfarwyddyd ymarfer 56: rhent-dâl

Diweddarwyd 26 February 2024

Applies to England and Wales

Sylwer bod cyfarwyddiadau ymarfer Cofrestrfa Tir EF wedi eu hanelu’n bennaf at gyfreithwyr a thrawsgludwyr eraill. Maent yn aml yn delio â materion cymhleth ac yn defnyddio termau cyfreithiol.

1. Cyflwyniad

Swm o arian mae’n rhaid ei dalu’n flynyddol fel arfer, ac sy’n arwystl dros dir, yw rhent-dâl. Fel arfer bydd, rhent-dâl yn cael ei greu wrth drawsgludo neu drosglwyddo. Mae’r parti sy’n gwerthu’r tir yn neilltuo rhent mae’n rhaid ei dalu iddynt a’u holynwyr mewn teitl bob blwyddyn ac sy’n arwystl dros y tir a werthwyd.

Er 22 Awst 1977, mae creu’r rhan fwyaf o fathau o rent-daliadau wedi ei wahardd. Gelwir y prif ddosbarth o rent-dâl sydd wedi ei eithrio o’r gwaharddiad cyffredinol yn rhent-dâl ystad (adran 2(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977).

Gall hwn fod yn rhent-dâl sydd naill ai’n:

  • swm enwol at ddiben gwneud cyfamodau i’w cyflawni gan y tirfeddiannwr y gellir ei orfodi gan berchennog y rhent yn erbyn perchennog presennol y tir

  • swm rhesymol i dalu neu gyfrannu at y gost sy’n codi i berchennog y rhent o gyflawni’r cyfamodau ar gyfer darparu gwasanaethau, cynnal a chadw neu atgyweirio ac yswiriant a thaliadau eraill er budd y tir a effeithir gan y rhent-dâl

1.1 Yr hyn sydd o dan sylw yn y cyfarwyddyd ymarfer hwn

Mae’r cyfarwyddyd hwn yn rhoi sylw i’r canlynol:

  • sut i wneud cais i gofrestru rhent-daliadau ystad wedi eu creu o dir cofrestredig, ac unrhyw hawliau mynediad cysylltiedig
  • dosrannu rhent-daliadau wedi eu nodi a rhent-daliadau cofrestredig (trwy statud a thrwy weithred)
  • amrywio telerau rhent-dâl neu hawliau mynediad cysylltiedig
  • terfynu rhent-daliadau

1.2 Diffiniadau

Defnyddir y termau canlynol yn y cyfarwyddyd hwn:

‘tir wedi ei arwystlo’ – yr ystad rydd-ddaliol neu brydlesol sy’n ddarostyngedig i’r rhent-dâl

‘tirfeddiannwr’ – perchennog cofrestredig y tir sy’n ddarostyngedig i’r rhent-dâl

‘perchennog y rhent’ – perchennog y rhent-dâl

‘rhent-dâl ystad’ – rhent-dâl a ganiateir o dan adran 2(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977

2. Sut i wneud cais i gofrestru rhent-dâl wedi ei greu o dir cofrestredig

Lle mae rhent-dâl ystad wedi ei greu o ystad gofrestredig ar neu ar ôl 13 Hydref 2003, rhaid iddo gael ei gofrestru er mwyn bod yn effeithiol yn unol â’r gyfraith (adran 27 o Ddeddf Cofrestru Tir 2002). Lle mae trosglwyddiad o dir cofrestredig neu brydles cymalau penodedig sy’n effeithio ar dir cofrestredig yn cynnwys creu rhent-dâl ystad (ac ar yr amod, yn achos prydles cymalau penodedig, y cyfeirir at y rhent-dâl yng nghymal LR12) byddwn yn nodi’r rhent-dâl yn awtomatig yng nghofrestr teitl cofrestredig y tir wedi ei arwystlo (rheol 72(4), 72A(2) neu 72C(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003). Fodd bynnag, er mwyn bodloni’r gofynion cofrestru o dan adran 27 a pharagraff 7 o Atodlen 2 i Ddeddf Cofrestru Tir 2002, bydd angen gwneud cais penodol i gofrestru’r rhent-dâl bob amser.

Lle mae’r rhent-dâl wedi ei greu gan weithred ar wahân, ni fyddwn yn gwneud unrhyw gofnod yn awtomatig ar gyfer y rhent-dâl oni bai bod cais i gofrestru neu nodi’r rhent-dâl yn cael ei wneud.

Er mwyn osgoi unrhyw amheuaeth, dylid gwneud ceisiadau ar wahân i gofrestru’r gwarediad o’r tir a’r rhent-dâl ar ffurflen AP1.

Mae ffi o £40 (£20 lle cyflwynir y cais trwy ddulliau electronig) yn daladwy o dan Erthygl 12 o’r gorchymyn ffi cyfredol ar gyfer cofrestru rhent-dâl wedi ei greu o ystad gofrestredig, ar gyfer pob rhent-dâl.

Mae rhent-dâl ystad yn fudd y gellir ei warchod gan chwiliad swyddogol â blaenoriaeth. Dylid gwneud cais ar ffurflen OS1 neu drwy ein gwasanaethau electronig yn ôl yr arfer. Os yw’r rhent-dâl yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig yn unig bydd angen cynllun, a dylid gwneud cais ar ffurflen OS2. Dylid defnyddio’r opsiwn ‘prynu’.

2.1 Creu’r rhent-dâl

O 22 Awst 1977, dim ond rhent-daliadau a ganiateir gan Ddeddf Rhent-daliadau 1977 all gael eu creu. Rhaid creu rhent-dâl cyfreithiol trwy gyfrwng gweithred (adran 52(1) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) mewn meddiant a naill ai’n fythol-barhaus neu am gyfnod o flynyddoedd absoliwt. Yn achos rhent-daliadau wedi eu creu o dir cofrestredig, mae gan berchennog cofrestredig neu berson sydd â hawl i gael ei gofrestru fel perchennog y pŵer i wneud gwarediad o unrhyw fath a ganiateir gan y gyfraith gyffredin.

Er nad oes geiriad statudol i greu rhent-dâl o deitl cofrestredig byddwn yn derbyn cymalau hanfodol tebyg i’r canlynol:

Enghraifft o roi rhent-dâl

Mae’r [Trosglwyddai] yn rhoi o’r Eiddo i’r [Cwmni Rheoli] rent-dâl bythol-barhaus wedi ei gyfrifo ac yn daladwy fel y nodir yn atodlen 1.

Enghraifft o neilltuo rhent-dâl

Mae rhent-dâl bythol-barhaus wedi ei neilltuo i’r [Trosglwyddwr] wedi ei gyfrifo ac yn daladwy fel y nodir yn atodlen 1.

2.1.1 Datganiadau sy’n dangos nad yw rhent-dâl yn rhent-dâl ystad

Os yw gweithred sy’n creu rhent-dâl yn cynnwys datganiad neu gytundeb sy’n nodi nad yw’r rhent-dâl wedi ei fwriadu i fod yn rhent-dâl at ddibenion Deddf Rhent-daliadau 1977 byddwn yn dychwelyd y weithred i’w diwygio.

Gan fod Deddf Rhent-daliadau 1977 yn cynnwys gwaharddiad cyffredinol yn erbyn creu rhent-daliadau newydd, ac eithrio, ymhlith pethau eraill, rhent-daliadau ystad, os nad yw’r rhent-dâl sydd wedi ei greu yn y weithred yn rhent-dâl ystad, bydd yn ddi-rym o dan adran 2 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.

Byddwn yn gofyn i’r weithred gael ei diwygio i ddileu unrhyw ansicrwydd ynghylch a yw rhent-dâl ystad wedi cael ei greu neu beidio.

2.2 Sut i lenwi ffurflen AP1

Panel 2: rhowch rif teitl y tir wedi ei arwystlo bob amser. Byddwn yn nodi’r rhent-dâl yng nghofrestr y tir wedi ei arwystlo (os nad yw wedi ei nodi eisoes) ac yn cofrestru’r rhent-dâl ar wahân hefyd o dan ei rif teitl ei hun.

Panel 4: nodwch natur y cais fel “Cofrestru rhent-dâl”.

Panel 5: cyflwynwch gopi o’r trosglwyddiad neu’r brydles a greodd y rhent-dâl. Fel arall, os yw’r trosglwyddiad neu’r brydles eisoes wedi ei chofrestru rhowch “Gweler copi o’r trosglwyddiad/prydles dyddiedig [rhowch y dyddiad] wedi ei gofrestru o dan y teitl [rhowch y teitl]”.

Panel 6: rhowch fanylion y person sydd i’w gofrestru fel perchennog y rhent-dâl (perchennog y rhent). Os nad hwn yw’r person gwreiddiol y rhoddwyd neu y neilltuwyd y rhent-dâl iddo, rhaid darparu tystiolaeth o ddisgyniad teitl i’r rhent-dâl a’i rhestru ym mhanel 5.

Panel 9: sicrhewch eich bod yn rhoi cyfeiriad ar gyfer gohebu ar gyfer perchennog y rhent.

Panel 12: nid oes angen cadarnhau hunaniaeth ar gyfer cais i gofrestru rhent-dâl yn unig. Os gwneir y cais yr un pryd â chais i gofrestru’r trosglwyddiad neu’r brydles y mae’r rhent-dâl wedi ei roi neu ei neilltuo ohono, bydd angen cadarnhau hunaniaeth mewn perthynas â’r partïon i’r trosglwyddiad neu’r brydles – gweler cyfarwyddyd ymarfer 67: tystiolaeth hunaniaeth.

2.3 Y dogfennau gofynnol

Rhaid cyflwyno’r weithred a greodd y rhent-dâl (neu gopi ardystiedig) oni bai ei bod wedi ei chofrestru eisoes (er enghraifft ar ystad dai newydd lle mae’r trosglwyddiad o’r llain tŷ sy’n rhoi rhent-dâl eisoes wedi ei gofrestru).

Os nad yw’r cais i gofrestru’r person y rhoddwyd y rhent-dâl iddo yn wreiddiol, rhaid darparu tystiolaeth o ddisgyniad teitl i’r person sydd i’w gofrestru fel perchennog y rhent-dâl.

2.4 Rhent-dâl yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig neu dir wedi ei drosglwyddo

Lle mae rhent-dâl yn effeithio ar ran o deitl cofrestredig neu ran o dir sy’n cael ei drosglwyddo yn unig, rhaid darparu cynllun sy’n dangos stent y tir sydd wedi ei gynnwys yn y rhent-dâl a’i lofnodi gan y gwaredwr (rheol 213 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.5 Cofrestru rhent-dâl yn Nhŷ’r Cwmnïau

Lle mae rhent-dâl yn cael ei greu ac mae’r tirfeddiannwr yn gwmni sydd wedi ei gofrestru yn Nhŷ’r Cwmnïau, gellir cofrestru’r rhent-dâl yn Nhŷ’r Cwmnïau.

Os na chyflwynir tystysgrif cofrestru gyda’r cais, byddwn yn gwneud nodyn i’r cofnod yn y gofrestr yn nodi y gall y teitl i’r rhent-dâl fod yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adran 859H o Ddeddf Cwmnïau 2006 os ac i’r graddau mae’r adran honno’n berthnasol i’r rhent-dâl (rheol 111 o Reolau Cofrestru Tir 2003).

2.6 Pwyntiau eraill

Yn achos datblygiad cysylltwch â ni i drafod a yw’r rhent-daliadau i’w cofrestru o dan un teitl cyfunol neu ar wahân.

Gellir defnyddio un AP1 i gofrestru nifer o rent-daliadau ond mae ffi ar wahân yn daladwy ar gyfer cofrestru pob rhent-dâl, p’un ai ydynt yn cael eu cyflwyno i’w cofrestru gyda’i gilydd neu ar wahân.

Os yw’r cais i gofrestru rhent-dâl newydd a’i ychwanegu at deitl cofrestredig sy’n bodoli eisoes, dylech gynnwys “Cyfuno â [rhowch y rhif teitl]” ym mhanel 4 AP1.

2.7 Gweithredu gan Gofrestrfa Tir EF

Pan gawn gais, byddwn yn rhoi rhif teitl newydd i gofrestru’r rhent-dâl.

Mewn llawer o achosion, bydd y rhent-dâl wedi ei nodi eisoes ar y tir wedi ei arwystlo (o dan reol 72(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003); byddwn yn diweddaru’r cofnod o’r rhent-dâl yn y gofrestr ar y tir wedi ei arwystlo i nodi rhif teitl y rhent-dâl. Os nad yw wedi ei nodi eisoes, gallwn roi rhybudd i’r tirfeddiannwr o’n bwriad i wneud cofnod mewn perthynas â’r rhent-dâl.

Fel rheol, byddwn yn gwneud cofnod tebyg i’r canlynol yn y gofrestr ar gyfer y tir wedi ei arwystlo:

Mae Trosglwyddiad o’r tir yn y teitl hwn dyddiedig 1 Ionawr 2019 a wnaed rhwng (1) Adeiladwr Tai Cyfyngedig a (2) Rhywun Arall yn cynnwys rhoi rhent-dâl fel y crybwyllir ynddo. Mae’r Weithred ddywededig hefyd yn cynnwys cyfamodau.

NODYN 1: Rhent-dâl wedi ei gofrestru o dan rif teitl AB987654*

¬NODYN 2: Copi wedi ei ffeilio.

*Os yw’r rhent-dâl wedi ei gofrestru.

Ar deitl y rhent-dâl byddwn yn gwneud cofnod yn nodi manylion y weithred a greodd y rhent-dâl. Gan nad yw Cofrestrfa Tir EF mewn sefyllfa i benderfynu a yw rhent-dâl yn un a ganiateir o dan Ddeddf Rhent-daliadau 1977 byddwn hefyd yn gwneud cofnod tebyg i’r canlynol:

Mae’r teitl i’r rhent-dâl hwn wedi ei gofrestru ar yr amod ei fod yn cydymffurfio ag adran 2(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977.

Lle mae nifer o rent-daliadau yn cael eu cofrestru gyda’i gilydd o dan un teitl, bydd manylion y gweithredoedd sy’n creu’r rhent-daliadau yn cael eu cofnodi mewn atodlen.

3. Hawl mynediad

Mae hawliau mynediad yn y cyfarwyddyd ymarfer hwn yn golygu rhwymedïau ar gyfer adennill y symiau rhent-daliadau sy’n ddyledus, yn hytrach na hawddfraint sy’n caniatáu i berchennog y rhent gael mynediad i’r tir wedi ei arwystlo i gyflawni ei ddyletswyddau.

Mae hawliau mynediad sydd wedi eu hatodi i rent-dâl cyfreithiol yn fudd cyfreithiol ar wahân (adran 1(2)(e) o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925) ac mae hefyd yn ofynnol iddynt gael eu cwblhau trwy gofrestru o dan adran 27(2)(e) o Ddeddf Cofrestru Tir 2002.

Yn gyffredinol maent yn caniatáu i berchennog y rhent ddod i feddiannu’r tir wedi ei arwystlo os na chaiff y rhent-dâl ei dalu.

Ar hyn o bryd, mae rhwymedïau statudol o dan adran 121 o Ddeddf Cyfraith Eiddo 1925 sy’n cynnwys hawl mynediad. Ni fyddwn yn cyfeirio at yr hawl mynediad statudol yn y gofrestr ond os yw telerau rhent-dâl wedi ei greu mewn trosglwyddiad neu brydles tir cofrestredig yn cynnwys hawliau mynediad datganedig byddwn yn nodi’r rhain yn awtomatig yn y gofrestr ar gyfer y tir wedi ei arwystlo wrth gofrestru’r trosglwyddiad neu brydles (rheol 72(4) a rheol 72A(2) o Reolau Cofrestru Tir 2003) fel a ganlyn:

Mae’r Trosglwyddiad dyddiedig 1 Ionawr 2019 y cyfeirir ato uchod yn cynnwys hawl mynediad sydd wedi ei atodi i’r rhent-dâl a neilltuir ynddo.

Lle mae’r rhent-dâl wedi ei gofrestru o dan ei rif teitl ei hun, byddwn yn gwneud cofnod tebyg i’r canlynol hefyd:

Mae’r Trosglwyddiad dyddiedig 1 Ionawr 2019 y cyfeirir ato uchod hefyd yn rhoi hawliau mynediad, sydd wedi eu hatodi i’r rhent-dâl cofrestredig.

4. Dosrannu rhent-dâl

Tirfeddiannwr pob rhan o’r tir wedi ei arwystlo sy’n gyfrifol am y swm cyfan oni bai bod y rhent-dâl yn cael ei ddosrannu. Gall dosraniad fod trwy weithred neu o dan orchymyn dosrannu a wneir o dan adran 4 o Ddeddf Rhent-daliadau 1977. Gall dosraniadau fod yn gyfreithiol (ffurfiol) neu’n ecwitïol (anffurfiol). Er mwyn i ddosraniad trwy weithred fod yn gyfreithiol (hynny yw, yn rhwymol ar berchennog y rhent) rhaid i berchennog y rhent fod yn barti i’r dosraniad.

Nid ydym yn gwneud cofnod yn ymwneud â dosrannu a rhyddhau anffurfiol oni bai eich bod yn gofyn yn benodol am hyn.

4.1 Cais i nodi gweithred dosrannu neu orchymyn dosrannu

Nid yw’r adran hon yn berthnasol i orchymyn dosrannu sy’n amodol ar adbrynu’r rhent-dâl. Lle mae gorchymyn dosrannu rhent-dâl wedi ei wneud sy’n amodol ar adbrynu, dylech wneud cais i Gofrestrfa Tir EF i derfynu’r rhent-dâl pan fydd y dystysgrif adbrynu gennych; gweler Terfynu rhent-dâl.

Dogfennau gofynnol – rhent-dâl wedi ei gofrestru

Your application must: Rhaid i’ch cais:

  • gael ei wneud ar ffurflen AP1 (disgrifiwch natur y cais ym mhanel 4 AP1 fel ‘Dosrannu Rhent-dâl’)

  • cynnwys rhif teitl y rhent-dâl cofrestredig a’r tir wedi ei arwystlo ym mhanel 2

  • cynnwys copi ardystiedig o’r gorchymyn dosrannu a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru, neu adran arall o’r llywodraeth, neu
  • gynnwys copi ardystiedig o’r weithred dosrannu, ac

  • amgáu’r ffi (gweler Ffïoedd)

4.1.2 Dogfennau gofynnol – rhent-dâl wedi ei nodi

Rhaid i’ch cais:

  • gael ei wneud ar ffurflen AN1

  • cynnwys copi ardystiedig o’r gorchymyn dosrannu a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru, neu adran arall o’r llywodraeth, neu

  • gynnwys copi ardystiedig o’r weithred dosrannu, ac

  • amgáu’r ffi (gweler Ffïoedd)

4.1.3 Ffïoedd

Ar gyfer cais ar ffurflen AP1, o dan Atodlen 3, Rhan 1(13) o’r Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol, mae ffi o £20 yn daladwy lle cyflwynir y cais yn electronig neu £40 lle cyflwynir y cais trwy unrhyw ddull arall a ganiateir (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

Ar gyfer cais ar ffurflen AN1, mae ffi sefydlog yn daladwy o dan Atodlen 3, Rhan 1(1)(b) y Gorchymyn Ffi. Lle cyflwynir y cais trwy ddulliau electronig, bydd y ffi sy’n daladwy yn cael ei gostwng gan 50%. Nid yw ffi yn daladwy o dan Atodlen 3, Rhan 1(1) os cyflwynir ffurflen AN1 gyda chais ffi ar raddfa neu gais arall sy’n denu ffi o dan yr un paragraff (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

Gweler hefyd Lle ystyrir gwerthu.

4.2 Ystadau sy’n datblygu yn ddarostyngedig i rent-dâl wedi ei greu cyn gwerthu lleiniau

Weithiau bydd ystad sy’n datblygu yn ddarostyngedig i rent-dâl sy’n effeithio ar y datblygiad cyfan cyn gwerthu’r lleiniau, a chaiff ei dosrannu pan werthir pob llain. I fod yn ddosraniad cyfreithiol, rhaid i berchennog y rhent gytuno ar y dosraniad.

Gellir dangos cytundeb perchennog y rhent i’r dosraniad naill ai trwy ei gyfranogiad yn y trosglwyddiad o ran o’r ystad rydd-ddaliol neu trwy gydsyniad blaenorol diamwys i’r dosraniad (megis trwy gyfrwng cymal priodol yn y weithred rhent-dâl wreiddiol).

Lle rydym yn fodlon bod y dosraniad yn rhwymol ar bob parti, byddwn yn nodi’r rhent-dâl a’r dosraniad (os yw yn y trosglwyddiad llain) ar y tir wedi ei arwystlo wrth gofrestru llain sydd wedi ei gwerthu. Os yw’r rhent-dâl wedi ei gofrestru, byddwn hefyd yn nodi’r dosraniad ar deitl y rhent-dâl ar yr amod bod rhif teitl y rhent-dâl wedi ei restru ar ffurflen gais AP1.

Os yw’r dosraniad mewn gweithred ar wahân (ac nid yn y trosglwyddiad llain) gweler Cais i nodi gweithred dosrannu neu orchymyn dosrannu.

5. Gweithredoedd amrywio rhent-dâl

Os yw’r rhent-dâl yn gofrestredig dylid gwneud cais i gofnodi’r weithred amrywio ar ffurflen AP1, gan ddyfynnu rhif teitl y tir wedi ei arwystlo a theitl y rhent-dâl. Y ffi yw £40 (£20 os caiff ei dalu trwy ddulliau electronig). Os nad yw’r rhent-dâl wedi ei gofrestru ond wedi ei nodi yn y gofrestr ar gyfer y tir wedi ei arwystlo, dylid gwneud cais ar ffurflen AN1. Y ffi yw £40 (£20 os caiff ei thalu trwy ddulliau electronig) ond nid yw ffi yn daladwy os cyflwynir cais ffi ar raddfa gyda’r cais (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru).

Dylai gweithred a fynegir i amrywio telerau’r trosglwyddiad a greodd y rhent-dâl gael ei gwneud gan bob parti i’r trosglwyddiad (neu eu holynwyr mewn teitl), gan gynnwys y trosglwyddwr a’r perchennog rhent.

Gellir gwneud gweithred a fynegir i amrywio telerau’r rhent-dâl rhwng y perchennog rhent a’r tirfeddiannwr.

Ni ddylid defnyddio gweithred amrywio i derfynu rhent-dâl neu ryddhau hawl mynediad trwy gyfrwng newid telerau gwreiddiol y weithred sy’n creu’r rhent-dâl. Os nad oes angen rhent-dâl neu hawl mynediad mwyach dylid defnyddio gweithred rhyddhau.

Os nad yw’r rhent-dâl wedi ei gofrestru ac mae’r berchnogaeth ohono wedi mynd heibio ers iddo gael ei roi’n wreiddiol, bydd angen tystiolaeth arnom o ddisgyniad teitl i berchennog y rhent.

6. Terfynu rhent-dâl

Rhaid gwneud cais i gau neu gau’n rhannol deitl rhent-dâl cofrestredig ar ffurflen AP1 a’i gefnogi gan gopi ardystiedig o’r weithred rhyddhau neu dystiolaeth arall i fodloni’r cofrestrydd bod y rhent-dâl wedi ei derfynu. Bydd teitl y rhent-dâl yn cael ei gau neu, lle rydym wedi cofrestru nifer o rent-daliadau o dan un teitl, ei ddileu o ran y rhan berthnasol. Byddwn yn dileu’r rhybudd o’r rhent-dâl yn awtomatig o gofrestr y tir wedi ei arwystlo.

Rhaid gwneud cais i ddileu’r rhybudd o rent-dâl o’r tir wedi ei arwystlo lle nad yw’r rhent-dâl wedi ei gofrestru ar ffurflen CN1.

Os nad ydym yn fodlon bod y budd a warchodir gan y rhybudd wedi dod i ben, gallwn gofnodi yn y gofrestr fanylion yr amgylchiadau y mae’r ceisydd yn hawlio bod y budd wedi ei derfynu (rheol 87(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003).

Mae ffi sefydlog yn daladwy p’un a yw’r rhent-dâl wedi ei nodi neu ei gofrestru, oni bai bod cais ffi ar raddfa yn cael ei gyflwyno gyda’r cais; gweler Lle ystyrir gwerthu.

6.1 Lle ystyrir gwerthu

Lle mae cais i

  • ddileu rhybudd o rent-dâl

  • cau neu gau’n rhannol deitl rhent-dâl cofrestredig, neu

  • nodi bod dosraniad o rent-dâl i’w wneud cyn gwerthu

gallai fod yn well i’r prynwr wneud y cais yr un pryd â’r cais i gofrestru’r trosglwyddiad. Y rheswm am hyn yw oherwydd nad oes ffi yn daladwy ar gyfer y ceisiadau hyn os anfonir y cais hwnnw i Gofrestrfa Tir EF ynghyd ag un sy’n denu ffi ar raddfa o dan y Gorchymyn Ffi Cofrestru Tir cyfredol (gweler Cofrestrfa Tir EF: Ffïoedd Gwasanaethau Cofrestru)..

6.2 Dulliau terfynu

Y dulliau mwyaf cyffredin o derfynu yw trwy:

  • weithred

  • tystysgrif adbrynu statudol

  • cyd-doddi

  • meddiant gwrthgefn

Trwy weithred

Rhaid i gais i ddileu’r rhybudd o rent-dâl neu gau teitl rhent-dâl cofrestredig gael ei gefnogi gan gopi ardystiedig o’r weithred rhyddhau a gyflawnwyd gan berchennog y rhent.

Lle nad yw rhent-dâl wedi ei gofrestru ac ni ddarperir tystiolaeth o deitl i’r rhent-dâl (gan ddechrau gyda gwreiddyn teitl da sydd o leiaf 15 mlwydd oed), gallwn wneud cofnod amodol o dan reol 87(4) o Reolau Cofrestru Tir 2003.

Lle mae’r ceisydd yn bwriadu rhyddhau rhent-dâl trwy ddogfen sydd heb ei chyflawni fel gweithred gallwn wneud cofnod yn nodi yr hawlir bod y rhent-dâl wedi ei ryddhau:

Trwy [llythyr] dyddiedig 1 Ionawr 2019 cydnabu Perchennog Rhent Cyfyngedig ei fod wedi derbyn y swm o £100 sef y swm y cytunwyd arno ar gyfer adbrynu’r rhent-dâl sydd wedi ei gynnwys yn y Trawsgludiad dyddiedig 9 Ebrill 1923 y cyfeirir ato uchod.

6.2.2 Trwy dystysgrif adbrynu statudol

Darperir manylion y broses adbrynu rhent-dâl trwy ddefnyddio darpariaethau Deddf Rhent-daliadau 1977 ar GOV.UK.

Darparwch gopi ardystiedig o’r dystysgrif adbrynu a roddir gan yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru, neu adran arall o’r llywodraeth. Os cafodd y rhent-dâl ei ddosrannu cyn adbrynu, darparwch gopi ardystiedig o’r gorchymyn dosrannu hefyd.

Sylwer na all yr Ysgrifennydd Gwladol neu Weinidogion Cymru adbrynu rhent-dâl ystad yn statudol (adran 8(4) o Ddeddf Rhent-daliadau 1977).

Cyd-doddi

Er mwyn i gyd-doddi ddigwydd, rhaid i’r rhent-dâl a’r tir wedi ei arwystlo gael eu dal gan yr un parti yn yr un rhinwedd a rhaid i’r person sy’n dal y ddwy ystad fwriadu i’r cyd-doddi ddigwydd. Rhaid i’r ceisydd sy’n gwneud cais am (un o’r isod) sefydlu’r bwriad i fyd-doddi gofynnol:

  • gwneud cais i ddileu’r rhybudd o’r rhent-dâl ar ffurflen CN1

  • gwneud cais i gau teitl y rhent-dâl cofrestredig ar ffurflen AP1

  • gwneud cais sydd wedi ei gynnwys mewn trosglwyddiad neu lythyr eglurhaol a gyflwynir gydag AP1

6.2.4 Meddiant gwrthgefn

Gweler adran 12 o gyfarwyddyd ymarfer 4: meddiant gwrthgefn tir cofrestredig ac adran 8 o gyfarwyddyd ymarfer 5: meddiant gwrthgefn (1) tir digofrestredig a (2) tir cofrestredig lle caffaelwyd yr hawl i gofrestru cyn 13 Hydref 2003.

7. Pethau i’w cofio

Dim ond gwybodaeth ffeithiol a chyngor diduedd ynghylch ein gweithdrefnau rydym yn eu darparu. Darllenwch ragor am y cyngor rydym yn ei roi.