Cofrestr ffuredau a mustelinae eraill
Anfonwch wybodaeth am eich ffuredau neu mustelinae eraill i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os ydych yng Nghymru neu Loegr.
Yn berthnasol i Gymru a Loegr
Dogfennau
Manylion
Dylech gofrestru eich ffuredau neu mustelinae eraill fel y gall APHA gysylltu â chi i roi arweiniad i chi ar atal clefydau os bydd achosion o glefydau yn effeithio ar eich anifeiliaid.
Mae ffuredau, mincod ac aelodau eraill o deulu’r mustelinae yn arbennig o agored i ddal y feirws sy’n achosi COVID-19. Gallant heintio aelodau o’u rhywogaeth eu hunain, a cheir tystiolaeth y gall mincod drosglwyddo’r haint yn ôl i fodau dynol.
I gofrestru, darllenwch y canllawiau, llenwch y ffurflen ac anfonwch hi drwy e-bost i: Ferret.Registration@apha.gov.uk