Ffurflen

Canllawiau: cofrestr ceidwaid ffuredau a mustelinae eraill

Cyhoeddwyd 14 June 2021

Applies to England and Wales

Gall ceidwaid ffuredau a mustelinae eraill ymuno â chofrestr i rannu gwybodaeth am eu hanifeiliaid â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) yng Nghymru a Lloegr.Bydd APHA yn defnyddio’r wybodaeth ar y gofrestr i gysylltu â chi er mwyn rhoi gwybodaeth ac arweiniad i chi mewn perthynas ag atal clefydau os bydd achosion o glefydau yn effeithio ar eich anifeiliaid.

Bydd hefyd yn helpu APHA i ddeall faint o ffuredau a mustelinae eraill a gedwir ym Mhrydain Fawr, a ble maen nhw.

Pwy ddylai gofrestru

Gallwch gofrestru os ydych yn cadw un mustelinae neu fwy, gan gynnwys

  • ffuredau
  • ffwlbartiaid
  • carlymod
  • mincod
  • croesiadau o’r anifeiliaid hyn

Rydych yn geidwad os ydych yn gyfrifol am ofalu am yr anifeiliaid o ddydd i ddydd. Mae hyn yn cynnwys anifeiliaid a gedwir fel anifeiliaid anwes.

Nid oes rhaid i chi ymuno â’r gofrestr yn ôl y gyfraith ar hyn o bryd. Mae’n debygol o ddod yn orfodol yn y dyfodol os byddwch yn cadw mwy na nifer penodol o ffuredau neu mustelinae eraill. Nid yw’r nifer hwn wedi cael ei bennu eto.

Mae APHA yn eich annog i gofrestru hyd yn oed os nad oes rhaid i chi wneud hynny yn ôl y gyfraith.

Os byddwch yn ymuno â’r gofrestr wirfoddol, bydd APHA yn cynnwys eich manylion ar y gofrestr orfodol pan gaiff ei chreu. Ni fydd angen i chi ailgofrestru.

Pam mae gennym gofrestr

Mae ffuredau, mincod ac aelodau eraill o deulu’r mustelinae yn arbennig o agored i ddal SARS-CoV-2, sef y feirws sy’n achosi COVID-19. Gallant heintio aelodau o’u rhywogaeth eu hunain, a cheir tystiolaeth y gall mincod drosglwyddo’r haint yn ôl i fodau dynol.

Os caiff achos o SARS-CoV-2 ei gadarnhau ymhlith ffuredau, mae’n bosibl y cysylltir â chi i roi gwybodaeth a chyngor i chi ynglŷn â mesurau atal clefydau.

Mae’n bosibl y cyfyngir ar symud anifeiliaid sydd wedi’u heintio â SARS-CoV-2 yn unol â’r Gorchymyn Milheintiau (1989) fel y’i diwygiwyd.

Sut i gofrestru

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i ymuno â’r gofrestr

  • y cyfeiriad lle rydych yn cadw’r anifeiliaid
  • cyfeirnod map y cyfeiriad
  • nifer yr anifeiliaid rydych yn eu cadw
  • y rhywogaeth rydych yn ei chadw
  • enw a manylion cyswllt y ceidwad
  • y rheswm rydych yn cadw’r anifail, er enghraifft fel anifail anwes neu anifail gwaith

Yng Nghymru a Lloegr, dylech lawrlwytho eich ffurflen a’i hanfon drwy e-bost i Ferret.Registration@apha.gov.uk. Gallwch hefyd ymuno â’r gofrestr dros y ffôn. Ffoniwch 0800 6341 112.