Rhifyn mis Awst 2025 o Fwletin y Cyflogwr
Cyhoeddwyd 20 Awst 2025
Rhagarweiniad
Ar 21 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd y llywodraeth ddeddfwriaeth ddrafft ar gyfer y Mesur Cyllid 2025-26 (yn agor tudalen Saesneg), yn amlinellu pecyn uchelgeisiol gyda’r nod o gau’r bwlch treth a moderneiddio gweinyddiaeth dreth.
Mae mesurau allweddol o ddiddordeb i gyflogwyr yn cynnwys:
- Yn agosáu at hyrwyddwyr arbed treth wedi’u marchnata (yn agor tudalen Saesneg)
- Moderneiddio a mandadu cofrestru ymgynghorydd treth (yn agor tudalen Saesneg)
- Mynd i’r afael â diffyg cydymffurfio treth ym marchnad cwmnïau ambarél (yn agor tudalen Saesneg)
- Newidiadau i’r Cynllun Perchnogaeth Ceir Cyflogeion (ECOS) (yn agor tudalen Saesneg)
- PISCES: Gwarantau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg)
Yn rhifyn y mis hwn o Fwletin y Cyflogwr, mae diweddariadau a gwybodaeth bwysig am y canlynol:
TWE
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
-
Gweminar fyw — newidiadau i’r Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor
-
Peidiwch â gadael i’ch contractwyr syrthio i fagl cyngor treth gwael
-
Atgoffa rhieni pobl ifanc i fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant erbyn 31 Awst 2025
Cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt
Mae egwyddorion cymorth CThEF i gwsmeriaid y mae angen mwy o help arnynt yn amlinellu ein hymrwymiad i helpu cwsmeriaid yn ôl eu hanghenion, ac maent yn tanategu Siarter CThEF.
Dysgwch sut i gael help, ac am y cymorth ychwanegol sydd ar gael.
TWE
P11D a P11D(b) ar gyfer y flwyddyn dreth 2024 i 2025
Dyddiadau cau ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) a thalu
Roedd y dyddiad cau i chi roi gwybod i CThEF ar-lein am unrhyw Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sy’n ddyledus gennych ar gyfer y flwyddyn dreth sy’n dod i ben ar 05 Ebrill 2025 ar 06 Gorffennaf 2025. Os nad ydych wedi gwneud hyn o hyd, mae angen i chi gyflwyno heb oedi er mwyn osgoi unrhyw gosbau pellach y gellir eu rhoi.
Mae’n rhaid bod unrhyw Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A sydd arnoch wedi’i dalu erbyn 22 Gorffennaf 2025.
Mae nifer o weminarau byw ar gael sy’n cwmpasu’r broses ar gyfer cyflwyno P11D a P11D(b) (yn agor tudalen Saesneg). Mae arweiniad pellach ar gael.
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein
Sut i gyflwyno ffurflenni P11D a P11D(b) ar-lein
Gallwch gyflwyno gan ddefnyddio’r naill neu’r llall o’r canlynol:
Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, mewn un cyflwyniad ar-lein.
Yr hyn i’w gyflwyno
Os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau a/neu dreuliau nad ydynt wedi’u heithrio, neu os ydych wedi talu unrhyw fuddiannau drwy’r gyflogres, bydd angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b). Cofiwch gynnwys cyfanswm y buddiannau sy’n agored i Gyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A, hyd yn oed os ydych wedi trethu rhai ohonynt – neu bob un – drwy gyflogau’ch cyflogeion.
Defnyddir y P11D(b) i roi gwybod am rwymedigaeth cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A unrhyw gyflogwr.
Mae angen i chi gyflwyno ffurflen P11D ar gyfer pob cyflogai sy’n cael buddiannau a threuliau nad ydynt wedi’u heithrio, oni bai eich bod wedi cofrestru gyda ni ar-lein cyn 06 Ebrill 2024 i’w trethu trwy’ch cyflogres. Os na wnaethoch gofrestru ar-lein ond yna aethoch ymlaen i drethu rhai buddiannau – neu bob un – drwy’ch cyflogres, mae’n dal i fod yn rhaid i chi gyflwyno ffurflen P11D ar-lein ar gyfer yr holl fuddiannau na chawsant eu talu drwy’r gyflogres.
Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ar-lein i dalu buddiannau’ch cwmni drwy’r gyflogres, mae’n bosibl yr hoffech wneud hynny nawr cyn blwyddyn dreth 2026 i 2027 drwy ddilyn yr arweiniad sut i ddefnyddio’r gwasanaeth talu buddiannau a threuliau ar-lein drwy’r gyflogres. Bydd hyn yn golygu na fydd angen i chi anfon ffurflenni P11D mwyach, os gallwch dalu’ch holl fuddiannau drwy’r gyflogres.
Nid yw CThEF yn derbyn trefniadau talu drwy’r gyflogres yn anffurfiol.
Dim byd i’w ddatgan
Mae ond angen i chi wneud datganiad os yw CThEF wedi gofyn i chi gyflwyno P11D(b) ac nad oes gennych unrhyw beth i’w ddatgan.
Does dim angen i chi roi gwybod i CThEF nad oes angen i chi gyflwyno ffurflen P11D(b), oni bai ein bod wedi anfon hysbysiad i gyflwyno ffurflen P11D(b) atoch yn electronig neu lythyr yn eich atgoffa i gyflwyno ffurflen P11D(b). Gallwch roi gwybod i ni drwy lenwi ffurflen nad ydych yn cyflwyno ffurflen cyfraniadau Yswiriant Gwladol Dosbarth 1A.
Awgrymiadau defnyddiol wrth gwblhau P11D a P11D(b)
Dyma rai awgrymiadau defnyddiol i osgoi camgymeriadau cyffredin wrth lenwi P11D a P11D(b):
-
peidiwch â rhoi ‘06 Ebrill 2024’ fel y dyddiad dechrau na ‘05 Ebrill 2025’ fel y dyddiad dod i ben ar gyfer eich ceir cwmni, oni bai mai dyna’n union beth oedd y dyddiadau pan wnaeth eich cyflogai gael neu ddychwelyd car cwmni
-
cyflwynwch yr holl ffurflenni P11D a P11D(b) gyda’i gilydd, ni allwch gyflwyno dros sawl diwrnod — cyflwynwch ar ôl i chi lenwi’r holl ffurflenni P11D a’ch P11D(b) yn unig, os gwnewch gamgymeriad bydd angen i chi gyflwyno sawl ffurflen ddiwygio a fydd yn arafu’r broses yn sylweddol
-
gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy wrth roi gwybod am gar trydan llawn
-
gwnewch yn siŵr eich bod wedi cynnwys y ffigur allyriadau CO2 cymeradwy rhwng 1 a 50 ac wedi cynnwys y milltiroedd allyriadau sero cymeradwy wrth roi gwybod am gar hybrid
-
anfonwch un ffurflen P11D(b) yn unig fesul cynllun, a dangoswch y cyfanswm sy’n ddyledus. Peidiwch ag anfon ffurflenni ar wahân ar gyfer cyflogeion a chyfarwyddwyr, gan ein bod yn trin pob ffurflen P11D(b) wahanol fel diwygiad i unrhyw ffurflen sydd eisoes wedi ein cyrraedd
Gwiriwch y ffurflen P11D(b) i weld a oes angen i chi ddefnyddio’r adran ‘addasiadau’.
Cyfrifiannell Treth Car Cwmni
Mae fersiwn newydd y Cyfrifiannell Treth Car Cwmni ar gael. Ar gyfer unrhyw newidiadau car y mae cyflogai yn eu gwneud o fewn y Flwyddyn Dreth, mae’n rhaid cyflwyno ffurflen P46 Car.
Cytundeb Setliad TWE — cyfrifiadau a thalu
Cyflwyno’ch cyfrifiad
Y ffordd hawsaf o anfon eich cyfrifiad PSA yw ar-lein. Mae’r gwasanaeth Rhoi gwybod i CThEF am werth eitemau sydd wedi’u cynnwys yn eich Cytundeb Setliad TWE (yn agor tudalen Saesneg) yn wasanaeth i gyflogwyr gyflwyno eu cyfrifiadau blynyddol ar-lein. Bydd hyn yn pennu swm y dreth ac Yswiriant Gwladol Dosbarth 1B sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.
Os nad oes gennych unrhyw fuddiannau i’w datgan rhaid i chi gyflwyno cyfrifiad dim.
Er mwyn cyflwyno’ch cyfrifiad, bydd angen y canlynol arnoch:
-
eich Cyfeirnod TWE y Cyflogwr
-
blwyddyn dreth eich cyfrifiad PSA — bydd yn rhaid i chi anfon cyfrifiad, hyd yn oed os yw’n ddatganiad ‘dim’
-
y math o dreuliau a buddiannau — dim ond y rhai sydd wedi’u cynnwys yn y PSA y dylech roi gwybod amdanynt
-
nifer y cyflogeion sy’n cael pob cost neu fuddiant, gan gynnwys unrhyw gyflogeion sy’n ennill llai na’r lwfans treth personol
-
y gyfradd dreth gywir ar gyfer pob cyflogai
Mae’n rhaid i chi grwpio’r costau ar gyfer pob buddiant gyda’i gilydd. Er enghraifft, os yw gwesteia staff wedi’i gynnwys yn eich cytundeb ac mae gennych 5 digwyddiad sy’n dod o dan y categori hwnnw, ychwanegwch yr holl gostau at ei gilydd yn hytrach na gwneud 5 cofnod ar wahân.
Mae’n rhaid i chi gynnwys eich holl gyfrifiadau (Cymraeg, Saesneg ac Albanaidd) mewn un cyflwyniad. Gall cyflwyno cyflwyniadau ar wahân ar gyfer pob un oedi prosesu’ch cyfrifiadau.
Gwneud taliad
Mae’n rhaid talu unrhyw dreth ac Yswiriant Gwladol erbyn 22 Hydref 2025 os ydych yn talu’n electronig ac erbyn 19 Hydref 2025 os ydych yn talu drwy’r post.
Bydd CThEF yn anfon slip cyflog yn awtomatig yn cadarnhau’r swm sy’n ddyledus a’ch cyfeirnod talu pan fydd eich cyfrifiad wedi’i brosesu. Dylid gwneud pob taliad am symiau sy’n ddyledus o dan gytundeb erbyn y dyddiad dyledus. Mae’n rhaid i chi gyflwyno’ch cyfrifiadau cyn gwneud taliad. Nid oes angen i chi aros nes bod CThEF wedi prosesu’ch cyfrifiad PSA i wneud taliad. Mae’n bosibl y codir llog arnoch ar unrhyw symiau a delir yn hwyr.
Os nad oes gennych slip cyflog, mae’n rhaid i chi ddefnyddio’r cyfeirnod a nodwyd yn y llythyr eglurhaol pan gafodd eich PSA parhaol ei ffurfioli gyntaf. Gelwir hyn yn gyfeirnod SAFE. Gallwch gael eich cyfeirnod SAFE drwy ffonio’r Ganolfan Cyswllt Cymraeg ar 0300 200 1900. Peidiwch â defnyddio’ch cyfeirnod cyflwyno, cyfeirnod Swyddfa Gyfrifon TWE na chyfeirnod TWE.
I gael unrhyw ymholiadau am daliadau, cysylltwch â’r Llinell Gymorth Gymraeg ar gyfer Taliadau ar 0300 200 3860.
Mae rhagor o wybodaeth am Gytundebau Setliad TWE (yn agor tudalen Saesneg) ar gael a gellir dod o hyd i gymorth ychwanegol yn y fideos PSA ar-lein canlynol:
-
sut i wneud cais am Gytundeb Setliad TWE (yn agor tudalen Saesneg)
-
sut ydw i’n cyflwyno cyfrifiad Cytundeb Setliad TWE ar-lein (yn agor tudalen Saesneg)
Taliadau TWE y cyflogwr sydd wedi’u herio
O 31 Gorffennaf 2025 ymlaen, bydd cyflogwyr yn gallu rhoi gwybod am anghydfod ynghylch TWE i CThEF gan ddefnyddio ffurflen ar-lein newydd. Gallwch gael mynediad at y ffurflen yn cael help i gywiro bil TWE y cyflogwr (yn agor tudalen Saesneg).
O 31 Awst 2025 ymlaen, ni fyddwch yn gallu rhoi gwybod am anghydfod ynghylch TWE y Cyflogwyr drwy ein llinellau cymorth na’n sgwrs dros y we.
Mae CThEF wedi ennill achos y Tribiwnlys Haen Uchaf yn erbyn twyll gan gwmnïau ambarél bychain
Mae twyll gan gwmnïau ambarél bychain yn fath o dwyll o fewn y farchnad lafur dros dro.
O fis Ebrill 2026 ymlaen, bydd asiantaethau recriwtio yn gyfrifol am sicrhau bod y dreth gywir yn cael ei thalu ar incwm gweithwyr. Lle nad oes asiantaeth yn gysylltiedig, y cleient terfynol fydd yn atebol.
Ar 17 Gorffennaf 2025, dyfarnodd y Tribiwnlys Haen Uchaf Trethi a Siawnsri fod y model cwmni ambarél bychan a ddefnyddiwyd yn yr achos yn dwyllodrus. Darllenwch (1) ELPHYSIC LIMITED (2) PHYARREIDON LIMITED (3) ROSSCANA LIMITED (4) ZRAYTUMBIAX LIMITED v THE COMMISSIONERS FOR HIS MAJESTY’S REVENUE AND CUSTOMS [2025] UKUT 00236 (TCC) (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn cadarnhau gallu CThEF i ddatgofrestru’r cwmnïau hyn o TAW.
Cadarnhaodd y tribiwnlys fod y cwmnïau ambarél bychain hyn yn manteisio ar y Cynllun Cyfradd Unffurf TAW yn dwyllodrus. Cymhelliant gan y llywodraeth yw hwn sydd wedi’i gynllunio i leihau’r baich gweinyddol ar fusnesau bach, gonest.
Mae cwmnïau ambarél bychan hefyd yn manteisio ar y Lwfans Cyflogaeth. Mae hon yn fenter gan y llywodraeth sy’n lleihau rhwymedigaeth Yswiriant Gwladol cyflogwr cymwys.
Meddai Richard Las, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ymchwilio i Dwyll CThEF:
“Rydym yn falch bod y tribiwnlys yn cytuno bod y model cwmni ambarél bychan a ddefnyddir yn yr achosion hyn yn dwyllodrus. Mae twyll cwmnïau ambarél bychan yn creu sefyllfa annheg i fusnesau sy’n dilyn y rheolau. Rydym yn parhau i ddefnyddio ein pwerau sifil a throseddol i fynd i’r afael â’r rhai sy’n hwyluso’r math hwn o dwyll.”
Nid oes model safonol o dwyll cwmni ambarél bychan. Fel arfer mae’n golygu gwahanu gweithluoedd yn gwmnïau llai. Mae hyn er mwyn arbed treth a manteisio ar gymhellion y llywodraeth.
Bydd penderfyniad y tribiwnlys hwn yn helpu i greu cystadleuaeth deg i fusnesau cyfreithlon. Mae hefyd yn amddiffyn gweithwyr sy’n dod yn ddioddefwyr y cynlluniau twyllodrus hyn yn anfwriadol.
Mae CThEF wedi cyhoeddi arweiniad ar dwyll cwmnïau ambarél bychan (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth benodol i weithwyr sy’n dioddef y twyll hwn heb yn wybod iddynt. Gellir rhoi gwybod i CThEF am unrhyw wybodaeth am unrhyw fath o dwyll neu arbed treth. Os ydych chi’n amau bod cwmnïau ambarél bychan yn gysylltiedig, soniwch am hynny yn eich atgyfeiriad.
Diweddariadau treth a newidiadau i’r arweiniad
Spotlight 69 — diddymu Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig a ddefnyddir i osgoi Treth Enillion Cyfalaf
Mae Spotlight 69 (yn agor tudalen Saesneg) yn tynnu sylw at gynllun arbed treth sy’n cael ei farchnata i landlordiaid, sy’n eu galluogi i drosglwyddo eu busnes eiddo i gwmni sy’n defnyddio Partneriaeth Atebolrwydd Cyfyngedig (PAC), er mwyn arbed Treth Enillion Cyfalaf (CGT).
Honnir fel arfer bod y cynlluniau’n gweithio fel a ganlyn:
-
Mae busnes presennol yn gweithredu am y rhan fwyaf o’i oes weithredol fel busnes anghorfforedig.
-
Mae’r landlord unigol yn ymgorffori PAC.
-
Mae’r landlord yn trosglwyddo ei eiddo rhent, yn aml gydag enillion cyfalaf cronedig sylweddol, i’r PAC am werth y farchnad.
-
Ar ôl cyfnod byr, caiff y PAC ei roi mewn Datodiad Gwirfoddol Aelodau (MVL).
-
Yna caiff yr eiddo eu gwerthu i gwmni cyfyngedig sy’n eiddo i’r landlord neu bartïon cysylltiedig — os ydynt yn parhau â’r busnes.
-
At ddibenion MVL, ystyrir bod y PAC yn caffael ei asedion ar adeg y cyfraniad am ei werth marchnad.
Honnir bod y strwythur hwn yn osgoi Treth Enillion Cyfalaf, Treth Stamp a Threth Tir, a bod ganddo fanteision posibl o ran Treth Etifeddiaant.
Dylech fod yn effro i’r manylion sydd wedi’u cynnwys yn Spotlight 69 gan mai barn CThEF yw nad yw’r cynlluniau hyn yn gweithio, a byddwn yn herio unrhyw un sy’n hyrwyddo trefniadau o’r fath. Mae’n bosibl y bydd yn rhaid i bobl sy’n defnyddio’r trefniadau hyn dalu mwy na’r dreth y ceision nhw ei harbed yn ogystal â thalu llog, cosbau a ffioedd uchel am ddefnyddio cynlluniau o’r fath.
Os ydych o’r farn eich bod eisoes yn rhan o’r trefniant hwn ac eisiau gadael, gall CThEF helpu. Mae CThEF yn cynnig amrywiaeth o gymorth i’ch cael chi’n ôl ar y trywydd cywir neu i osgoi cael eich dal allan yn y lle cyntaf. Cysylltwch â CThEF am help i gael allan o gynllun arbed (yn agor tudalen Saesneg) os oes gennych unrhyw bryderon.
Gallwch roi gwybod am dwyll treth a threfniadau arbed treth, cynlluniau a’r person sy’n eu cynnig i chi i CThEF drwy ddefnyddio ein ffurflen ar-lein i roi gwybod am dwyll treth.
Gweithredu’r Bil Hawliau Cyflogaeth
Mae’r Cynllun Gwneud i Waith Dalu (yn agor tudalen Saesneg) yn nodi agenda arwyddocaol ac uchelgeisiol i sicrhau bod hawliau gweithle yn addas ar gyfer economi fodern, yn grymuso pobl sy’n gweithio ac yn cyfrannu at dwf economaidd.
Bydd y Bil Hawliau Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg) yn darparu llinell sylfaen newydd o ddiogelwch i weithwyr gan gynnwys:
-
trwy amddiffyniad rhag diswyddo annheg o’r ddiwrnod cyntaf
-
cynyddu amddiffyniad rhag aflonyddu rhywiol
-
cryfhau Tâl Salwch Statudol
-
dod â chontractau dim oriau camfanteisiol i ben a mynd i’r afael â di-swyddo ac ail-gyflogi
Ar 1 Gorffennaf 2025, cyhoeddodd y llywodraeth y Cynllun Gweithredu Bil Hawliau Cyflogaeth (yn agor tudalen Saesneg). Mae’r Cynllun yn darparu eglurder i gyflogwyr a gweithwyr ar sut a phryd y bydd y llywodraeth yn cysylltu â nhw a’u cymryd i ystyriaeth ar weithredu manwl mesurau’r Bil cyn iddo ddod yn gyfraith, a phryd y bydd y mesurau’n dod i rym.
Amserlen y polisi
Bydd rhai mesurau sy’n ymwneud â gweithredu diwydiannol ac undebau llafur yn dod i rym yn 2025. Yna. bydd mesurau polisi’n cael eu cyflwyno fesul cam o fis Ebrill 2026 ymlaen, er enghraifft, bydd rhieni newydd yn gallu cymryd Absenoldeb Tadolaeth ac Absenoldeb Di-dâl i Rieni o ddiwrnod cyntaf cyflogaeth.
Dod â chontractau dim oriau sy’n camfanteisio ar weithwyr i ben, gan roi oriau ac incwm rhagweladwy iddynt, gan sicrhau gwaith tecach a mwy diogel i bawb. Bydd hyn yn cael ei gyflwyno o 2027 ymlaen.
Bydd yr Adran Busnes a Masnach yn mabwysiadu dull graddol o ymgynghori dros haf, hydref a gaeaf 2025 hyd at ddechrau 2026.
Paratoi busnesau ar gyfer y Doll Cynhyrchion Fepio a chynllun Stampiau’r Doll Fepio
Mae Llywodraeth y DU yn cyflwyno Toll Cynhyrchion Fepio (VPD) ar gyfradd wastad o £2.20 fesul 10ml o hylif fepio, ochr yn ochr â chynllun Stampiau’r Doll Fepio (VDS) sy’n ei gwneud yn ofynnol i stampiau gael eu gosod ar gynhyrchion fepio.
O 1 Ebrill 2026 ymlaen, mae’n rhaid i fusnesau sy’n cynhyrchu, mewnforio neu storio cynhyrchion fepio yn y DU wneud cais am gymeradwyaeth ar gyfer y cynllun VPD a VDS, cyn iddynt ddod i rym ar 1 Hydref 2026.
Mae’r arweiniad paratoi ar gyfer Toll Cynhyrchion Fepio a’r cynllun Stampiau’r Doll Fepio (yn agor tudalen Saesneg) yn cwmpasu:
- pwy mae’r tollau hyn yn effeithio arnynt
- pa gynhyrchion fepio sydd wedi’u cynnwys
- gwneud cais am gymeradwyaeth
- sut i gadw cofnodion
- camau nesaf a gwybodaeth gyswllt
Gwybodaeth gyffredinol a chymorth i gwsmeriaid
Gweminar fyw — newidiadau i’r Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor
O 6 Ebrill 2025 ymlaen, daeth y rheolau blaenorol ar gyfer statws nad yw’n ddomisil i ben ac maent wedi cael eu disodli gan system yn seiliedig ar breswylio treth.
Yn amodol ar drefniadau trosiannol, bydd gweithwyr sy’n gymwys i gael rhyddhad incwm ac enillion tramor hefyd yn gymwys i gael rhyddhad ar incwm cyflogaeth perthnasol sy’n ymwneud â dyletswyddau a gyflawnir y tu allan i’r DU. Gelwir hyn yn Rhyddhad Diwrnod Gwaith Dramor.
Bydd y weminar hwn yn eich helpu i ddeall y prif newidiadau y mae angen i chi fod yn ymwybodol ohonynt, gan gynnwys:
-
sut mae rhyddhad diwrnod gwaith dramor wedi newid
-
terfynau ariannol newydd
-
y trefniadau trosiannol
-
gofynion cyflogeion o ran cadw cofnodion
Peidiwch â gadael i’ch contractwyr syrthio i fagl cyngor treth gwael
Mae ymgyrch ‘peidiwch â chael eich dal wrthi’ (yn agor tudalen Saesneg) CThEF yn helpu pobl sy’n gweithio fel contractwyr drwy eu grymuso i weld yr arwyddion rhybuddio o arbed treth, ac yn rhoi cymorth i fynd allan a dychwelyd ar y trywydd cywir os ydynt yn ymwneud ag arbed treth.
Er mwyn helpu’ch contractwyr i osgoi peryglon ariannol arbed treth, byddem yn eich annog i rannu’r canlynol:
-
ein harweiniad ar-lein sy’n esbonio sut i ganfod arbed treth a fideo byr YouTube yn esbonio sut mae cwmnïau ambarél yn gweithredu (yn agor tudalen Saesneg)
-
ein hofferynnau rhyngweithiol sy’n helpu gweithwyr i wirio a yw eu contractau’n cynnwys arbed treth neu adolygu eu slipiau cyflog, fel y gallant fod yn hyderus eu bod yn talu’r swm cywir o dreth
-
ein straeon bywyd go iawn a rennir gan bobl sydd eisiau helpu eraill i osgoi arbed treth
Drwy rannu’r wybodaeth hon, gallwch arfogi’ch gweithwyr â’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau gwybodus a chydymffurfiol.
Gall contractwyr hefyd adolygu ein rhestr gyhoeddedig o gynlluniau arbed treth a enwir a’u hyrwyddwyr. Yn bwysig, nid yw’n rhestr gynhwysfawr ac nid yw CThEF byth yn cymeradwyo cynlluniau o’r fath, ni waeth beth mae rhai hyrwyddwyr yn ei honni.
Helpwch i ledaenu’r gair drwy ddefnyddio ein hadnoddau ymgyrch parod (yn agor tudalen Saesneg) yn eich cylchlythyrau, ar eich gwefannau ac ar draws eich sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gan gynnwys rhannu a hoffi ein negeseuon ar Facebook, LinkedIn a X. Mae pob neges yn helpu i amddiffyn mwy o bobl rhag cyngor treth gwael.
Atgoffir rhieni pobl ifanc i fynd ar-lein i ymestyn eu hawliad Budd-dal Plant erbyn 31 Awst 2025
Os oes gennych gyflogeion sydd â phlant, rhwng 16 a 19 oed, mae gwybodaeth bwysig y mae angen iddynt ei gwybod fel nad ydynt yn colli hyd at £1,354 y flwyddyn mewn Budd-dal Plant.
Mae’n rhaid i rieni gadarnhau a yw eu plant yn aros mewn addysg amser llawn, neu hyfforddiant, cyn y dyddiad cau sef 31 Awst 2025.
Gallwch helpu’ch cyflogeion i gael y taliadau y maen nhw’n gymwys i’w cael drwy eu hatgoffa i ymestyn eu hawliad am Fudd-dal Plant ar-lein neu drwy ap CThEF.
Mae’r llythyr y byddant wedi’i gael yn cynnwys cod QR defnyddiol sy’n mynd â nhw’n syth i’r gwasanaeth digidol o fewn arweiniad Budd-dal Plant pan fydd eich plentyn yn troi’n 16 oed (yn agor tudalen Saesneg). Yn yr arweiniad gallant hefyd wirio cymhwystra, neu gallant chwilio am ’ymestyn Budd-dal Plant’ a mewngofnodi i’w cyfrif ar-lein.
Os na fydd rhieni’n rhoi gwybod i ni erbyn 31 Awst 2025, bydd eu Budd-dal Plant yn dod i ben.
Os yw eich cyflogeion neu eu partneriaid wedi dewis peidio â chael taliadau Budd-dal Plant oherwydd eu hincwm, mae angen iddynt ymestyn eu hawliad o hyd. Mae’r swm y gall rhieni ei ennill cyn bod angen iddynt dalu’r Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel bellach wedi cynyddu i rhwng £60,000 ac £80,000.
Dylech annog eich cyflogeion i ddefnyddio’r ar-lein cyfrifiannell treth Budd-dal Plant (yn agor tudalen Saesneg) i gael amcangyfrif o faint o fudd-dal y byddant yn ei gael, a beth allai’r tâl fod. Mae’n bosibl y bydd hi’n werth iddynt nawr ddewis ailymuno â thaliadau neu wneud hawliad os nad ydynt wedi gwneud hynny o’r blaen. Mae’n gyflym ac yn hawdd i’w wneud drwy ap CThEF neu ar-lein.
Fformat HTML Bwletin y Cyflogwr
Ers mis Medi 2020, mae’n rhaid i ddeunydd a gyhoeddir ar GOV.UK neu ar wefannau eraill y sector cyhoeddus fodloni safonau hygyrchedd (yn agor tudalen Saesneg). Mae hyn er mwyn sicrhau y gall cynifer o bobl â phosibl eu defnyddio, gan gynnwys y sawl sydd â:
-
nam ar eu golwg
-
anawsterau echddygol
-
anawsterau gwybyddol neu anableddau dysgu
-
trymder clyw neu nam ar eu clyw
Erbyn hyn mae tudalen gynnwys, gyda chysylltiadau, ac mae modd sgrolio drwy’r dudalen yn llwyr. Mae’r erthyglau wedi’u rhoi mewn categorïau o dan benawdau, a hynny yn y Rhagarweiniad, er mwyn ei gwneud yn haws dod o hyd i’r diweddariadau a’r wybodaeth y mae gennych ddiddordeb ynddynt.
Mae’r fformat HTML yn caniatáu i chi wneud y canlynol (yn dibynnu ar eich porwr gwe):
-
argraffu’r ddogfen pe baech yn dymuno cadw ffeil ar bapur:
- dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ o dan y rhestr cynnwys a gallwch argraffu’r ddogfen ar eich argraffydd lleol
-
i gadw’r ddogfen fel PDF:
-
dewiswch y botwm ‘Argraffu’r dudalen hon’ a, chan ddefnyddio’r gwymplen ar yr argraffydd, dewis ‘Argraffu i PDF’ — sy’n caniatáu i chi gadw’r ddogfen fel PDF a’i ffeilio ar ffurf electronig
-
ar ddyfais symudol, gallwch ddewis y botwm ar gyfer rhagor o opsiynau, yna dewiswch yr opsiynau i allu cadw fel PDF
-
Cael rhagor o wybodaeth ac anfon adborth
Gwnewch yn siŵr eich bod yn cael y diweddaraf am newidiadau drwy gofrestru i gael ein negeseuon e-bost hysbysu (yn agor tudalen Saesneg).
Gallwch hefyd ein dilyn ar X (Twitter) @HMRCgovuk (yn agor tudalen Saesneg).
Anfonwch eich adborth am y Bwletin hwn, neu rhowch wybod am erthyglau yr hoffech eu gweld, drwy e-bostio GRP128613644@hmrc.onmicrosoft.com.