Policy paper

Welsh version (HTML)

Updated 21 December 2022

Adroddiad dilyniant 2022 y DU i ymchwiliad 2016 gan Bwyllgor Hawliau Pobl ag Anableddau y Cenhedloedd Unedig

Dyma adroddiad dilynol Teyrnas Unedig Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon yn 2022 i Ymchwiliad 2016 gan Bwyllgor y CU ar Hawliau Pobl ag Anableddau (y Pwyllgor). Mae’r adroddiad hwn yn ymateb i’r argymhellion a gyhoeddwyd gan y pwyllgor yn ei adroddiad[footnote 1] ar yr ymchwiliad yn ymwneud â’r DU a gafodd ei gynnal o dan erthygl 6 o’r Protocol Dewisol i Gonfensiwn y DU ar Hawliau Pobl ag Anableddau.

Mae Llywodraeth y DU a llywodraethau datganoledig Cymru, yr Alban, a Gogledd Iwerddon yn rhannu ymrwymiad cryf i gynorthwyo a gwella bywydau pobl anabl. Mae’r adroddiad hwn yn darparu diweddariadau ar bolisïau a gwasanaethau a ddarperir gan lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig.

Argymhelliad 114a

Cynnal asesiad effaith gronnol o’r mesurau a fabwysiadwyd er 2010 y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn, yn berthynol i’r hawliau i fyw’n annibynnol a chael eich cynnwys yn y gymuned, diogelu cymdeithasol a chyflogi pobl ag anableddau. Dylai parti’r wladwriaeth sicrhau bod yr asesiad hwn wedi’i seilio ar hawliau, a’i fod yn cynnwys pobl ag anableddau a’r sefydliadau sy’n eu cynrychioli.

Yn unol â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus (PSED), mae’r llywodraeth yn ystyried effeithiau cydraddoldeb polisiau ar y rheini sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig yn ofalus. Mae hyn yn unol â’i rhwymedigaethau cyfreithiol yn ogystal â’i hymrwymiad cryf at degwch.

Mae Trysorlys Ei Fawrhydi yn ystyried effeithiau cydraddoldeb y mesurau unigol a gyhoeddir mewn digwyddiadau ariannol yn ofalus ar y rheini sy’n rhannu nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys, rhyw, hil ac anabledd. Mae hyn yn unol â’i rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus ac â’i hymrwymiad cryf at faterion cydraddoldeb.

Er 2010, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi dadansoddiad cronnol o effeithiau ei pholisiau treth, lles a gwariant cyhoeddus ar aelwydydd. Dangosodd yr asesiad diweddaraf a gyhoeddwyd yn Natganiad y Gwanwyn 2022,[footnote 2] yn y flwyddyn ariannol 2024 i 2025, y bydd y 60% tlotaf o aelwydydd yn derbyn mwy mewn gwariant cyhoeddus nac y byddant yn ei gyfrannu mewn treth. Ar gyfartaledd, bydd aelwydydd yn y dengradd incwm isaf yn derbyn dros £4 mewn gwariant cyhoeddus am bob £1 y byddant yn ei thalu mewn treth.

Y dadansoddiad cronnol dosbarthiadol hwn yw’r un mwyaf cynhwysfawr sydd ar gael, yn cwmpasu nid yn unig effeithiau trosglwyddiadau arian uniongyrchol rhwng aelwydydd a’r llywodraeth, ond hefyd effeithiau darparu gwasanaeth cyhoeddus llinell flaen.

Llywodraethau datganoledig

Yn ogystal ag asesiad effaith ansoddol penderfyniadau cyllideb yn erbyn yr holl nodweddion gwarchodedig o fewn Deddf Cydraddoldeb 2010,[footnote 3] mae Llywodraeth yr Alban hefyd yn ymgymryd ag asesiadau effaith wrth ddatblygu cymorth cyflogadwyedd. Mae’r rhain yn cynnwys sicrhau bod hawliau pobl anabl yn cael eu cynnal.

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydnabod budd ymagwedd integredig i asesiadau effaith fel modd o alluogi dealltwriaeth well o effaith penderfyniadau gwneud polisiau a gwariant.

Mae cyflwyno’r ‘ddyletswydd gymdeithasol-economaidd’ ym Mawrth 2021 yn galluogi Llywodraeth Cymru i roi ymrwymiad statudol i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb wrth galon gwneud penderfyniadau strategol. Mae’r Rhaglen Lywodraethu hefyd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i archwilio deddfwriaeth i fynd i’r afael â bylchau cyflog yn seiliedig ar nodweddion gwarchodedig, gan gynnwys anabledd.

Sefydlodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon Fframwaith Arfarnu Cyfansawdd Diwygio Lles i fesur effaith rhoi diwygio lles ar waith yn yr awdurdodaeth honno ac unrhyw fesurau lliniaru sydd wedi cael eu cyflwyno.

Argymhelliad 114b

Sicrhau bod unrhyw fesur a fwriedir o ddiwygio lles yn seiliedig ar hawliau, yn ategu’r model hawliau dynol o anabledd, ac nid yw’n cael effaith anghymesur a/neu andwyol ar hawliau pobl ag anableddau i fyw’n annibynnol, safon byw a chyflogaeth ddigonol. I atal y fath effeithiau niweidiol, dylai parti’r wladwriaeth gynnal asesiadau effaith cronnol yn seiliedig ar hawliau dynol o’r amrediad cyfan o fesurau arfaethedig a fyddai’n cael effaith ar hawliau pobl ag anableddau.

Mae Llywodraeth y DU yn credu bod y PSED yn Neddf Cydraddoldeb 2010 yn cyd-fynd â dull gweithredu sy’n seiliedig ar hawliau. Mae hyn oherwydd ei bod yn gosod dyletswydd gyfreithiol ar gyrff cyhoeddus i ystyried effaith polisiau ar bobl anabl, ac felly sut maent yn gallu byw eu bywydau.

Mae’n sicrhau bod materion cydraddoldeb, gan gynnwys hawliau pobl anabl, yn cael eu prif-ffrydio i mewn i bolisïau a rhaglenni llywodraeth a chyrff cyhoeddus eraill i gynorthwyo atal gwahaniaethu.

Yng Ngorffennaf 2021, cyhoeddodd y llywodraeth Ffurfio cymorth y dyfodol: y papur gwyrdd iechyd ac anabledd.[footnote 4] Archwiliodd sut mae’r system les (budd-daliadau) yn gallu ateb anghenion pobl anabl yn well trwy wella profiad hawlwyr o wasanaethau llywodraeth, gan alluogi byw’n annibynnol a gwella deilliannau cyflogaeth.

Cafodd y papur gwyrdd ei ffurfio gan brofiadau pobl anabl o’r system fudd-daliadau. Mae papur gwyn sydd i fod i gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yn 2022 yn adeiladu ar y gwaith hwn. Mae Llywodraeth y DU yn parhau i ymgysylltu â Sefydliadau Pobl Anabl (DPO) cyn hyn.

Llywodraethau datganoledig

Mae Deddf Nawdd Cymdeithasol (yr Alban) 2018 yn fframwaith ar gyfer ymagwedd seiledig ar hawliau dynol at ddarparu nawdd cymdeithasol, gan gynnwys cymorth anabledd. Mae Taliadau Anabledd Plant ac oedolion yn awr yn cael eu darparu gan Lywodraeth yr Alban yn unol â’i gwerthoedd o urddas, tegwch a pharch. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgysylltu’n helaeth â phobl anabl a rhanddeiliaid yn natblygiad cymorth anabledd. Mae hyn er mwyn sicrhau bod anghenion pobl anabl yn cael eu lleoli’n gadarn yng nghanol cymorth anabledd yn yr Alban.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ymgorffori asesiadau hawliau dynol fel rhan o’i cham nesaf o wella i’r broses Asesiad Effaith Integredig. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn adolygu Rheoliadau Cymru yn ymwneud â Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i sicrhau eu bod yn aros yn addas i’r pwrpas ac yn ystyried newidiadau ers iddynt gael eu cyflwyno yn 2011.

 Argymhelliad 114c

Sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth arfaethedig a neu fesur polisi yn parchu elfennau craidd yr hawliau a ddadansoddir yn yr adroddiad hwn: bod pobl ag anableddau yn cadw eu hannibyniaeth, dewis a rheolaeth dros eu man preswyl ac â phwy maent yn byw, yn derbyn cymorth priodol ac unigol, gan gynnwys trwy gymorth personol, a bod ganddynt fynediad at wasanaethau wedi’u lleoli yn y gymuned ar sail gyfartal ag eraill; bod ganddynt fynediad at gynlluniau cymdeithasol nawdd sy’n sicrhau diogelu incwm, gan gynnwys mewn perthynas â chost ychwanegol anabledd, sy’n gydnaws â safon ddigonol o fyw, a sicrhau eu cynhwysiad a chyfranogaeth lawn mewn cymdeithas; a bod ganddynt fynediad at ac yn cael eu cynorthwyo i gyflogaeth yn y farchnad lafur agored ar sail gyfartal ag eraill.

Mae Llywodraeth y DU yn gweithredu nifer o fesurau i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu cynorthwyo i fyw’n annibynnol a bod ganddynt safon ddigonol o fyw a chyflogaeth. Mae hyn yn ogystal â’r amddiffyniadau cyfreithiol a gynigir trwy Ddeddf Cydraddoldeb 2010.

Cymorth tai

Ymgynghorodd y llywodraeth ar ddiwedd 2020 ar opsiynau i godi hygyrchedd cartrefi newydd yn Lloegr, gan gydnabod pwysigrwydd cartrefi addas ar gyfer pobl hŷn ac anabl. Mae’r cynlluniau hyn yn cael eu hamlinellu yn ymateb y llywodraeth, a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2022. Bydd y llywodraeth yn ymgynghori ymhellach ar y newidiadau technegol i’r Rheoliadau Aseiladu i orfodi’r safon hygyrchedd M4(2) uwch, ar gyfarwyddyd statudol ac ar ei hymagwedd at sut y bydd eithriadau’n gymwys.[footnote 5]

Darparodd y Grant Cyfleusterau i’r Anabl (DFG) yn Lloegr £573 miliwn yn y flwyddyn ariannol 2021 i 2022 i gynorthwyo pobl hŷn a phobl anabl ar incymau isel, i addasu eu cartrefi i’w hanghenion. Cyhoeddodd y llywodraeth y papur gwyn diwygio gofal cymdeithasol oedolion - Pobl wrth Galon Gofal[footnote 6] - sy’n ymrwymo £573 miliwn ychwanegol y flwyddyn at y Grant Cyfleusterau i’r Anabl rhwng y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 a blwyddyn ariannol 2024 i 2025. Mae’n amlinellu sut mae’n sicrhau bod y Grant Cyfleusterau i’r Anabl o fudd i ragor o bobl mewn angen.

Ymrwymodd y papur gwyn hefyd i fuddsoddiad parhaus yn y Gronfa Tai Gofal a Chymorth Arbenigol (CASSH), a £213 miliwn dros y 3 blynedd nesaf. Mae hyn yn cydredeg â buddsoddiad £300 miliwn newydd i gysylltu tai ag iechyd a gofal, cynyddu’r cyflenwad o dai â chymorth a chynyddu gwariant lleol ar wasanaethau ar gyfer y rheini mewn tai â chymorth.

Cymorth awdurdod lleol

Mae Llywodraeth y DU yn trefnu bod hyd at £30 miliwn ar gael i helpu awdurdodau lleol yn Lloegr i gynyddu’r nifer o doiledau Changing Places yn sylweddol[footnote 7] ym mhob rhan o’r wlad. Dyrannodd Rownd 1 £23.5 miliwn i 190 awdurdod lleol ar draws Lloegr i gynorthwyo dros 500 o gyfleusterau toiled Changing Places. Bydd rownd 2, a lansiwyd yn Awst 2022, yn parhau i wneud siopau, strydoedd mawr a mannau cyhoeddus yn fwy hygyrch wrth ddyrannu’r £6.5 miliwn sy’n weddill i gael ei ddarparu erbyn diwedd y flwyddyn ariannol 2023 i 2024.

Mae rownd 2 yn adeiladu ar ddeilliant rownd 1 trwy dargedu’r ardaloedd hynny lle nad oes darpariaeth o gwbl ar hyn o bryd ac awdurdodau lleol sydd wedi’u mesur o fewn y 50% uchaf o angen yn ôl y mynegai angen wedi’i ddiweddaru.

Cymorth Gofal Cymdeithasol

Sefydlodd y Ddeddf Iechyd a Gofal 2022[footnote 8] fyrddau gofal integredig (ICBs) a phartneriaethau gofal integredig. Bydd hyn yn cael effaith gadarnhaol ar bobl anabl, yn enwedig â mynediad at wasanaethau, trwy sicrhau cymorth iechyd a gofal integredig ac wedi’i gydgynhyrchu i alluogi pobl i fyw bywydau gwell.

Yn 2022, cefnogodd Llywodraeth y DU welliant ar gam bil y Ddeddf Iechyd a Gofal. Cyflwynodd hyn ofyniad fod pob darparwr iechyd a gofal cymdeithasol sy’n cynnal gweithgareddau rheoledig yn gorfod sicrhau bod eu staff yn derbyn hyfforddiant penodol ar anableddau dysgu ac awtistiaeth. Creodd ddyletswydd hefyd i lywodraeth y DU gyhoeddi cod ymarfer, gan wneud darpariaethau am hyfforddiant ynghylch cynnwys, darparu ac arfarnu.

Mae Llywodraeth y DU yn diwygio gofal cymdeithasol i oedolion trwy fuddsoddiad £5.4 biliwn dros 3 blynedd, gan adeiladu ar fesurau yn y Ddeddf Iechyd a Gofal. Mae hyn yn cynnwys £3.6 biliwn i ddiwygio’r system codi tâl am ofal cymdeithasol a galluogi awdurdodau lleol i symud tuag at dalu cost deg o ofal i ddarparwyr, a £1.7 biliwn ychwanegol i gychwyn gwelliannau mawr ar draws gofal cymdeithasol i oedolion yn Lloegr, fel yr amlinellir yn y papur gwyn diwygio gofal cymdeithasol i oedolion.[footnote 9]

Mae Llywodraeth y DU yn cynnig creu dyletswyddau newydd i gomisiynwyr byrddau gofal integredig, i sefydlu a chynnal cofrestrau i ddeall y risg o argyfwng ar lefel unigol yn eu hardal leol. Mae’n rhaid i Fyrddau Gofal Integredig ac awdurdodau lleol ystyried cofrestrau wrth gwblhau eu swyddogaethau comisiynu. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cymuned digonol ar gael i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig sydd mewn perygl o gael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl. Bwriedir i hyn alluogi cynllunio gwell a lleihau derbyniadau i leoliadau cleifion mewnol.

Mae’r polisi ‘Adeiladu’r Cymorth Cywir’ yn amlinellu’r cymorth y dylai pobl ag anabledd dysgu a phobl awtisitig ei dderbyn i fyw bywydau annibynnol yn y gymuned, yn hytrach nac mewn ysbytai iechyd meddwl. Mae bwrdd darparu yn arolygu’r gwaith hwn, gan ddod â sefydliadau â’r gallu i wneud newid a datrys problemau hanesyddol ynghyd. Yng Ngorffennaf 2022, cyhoeddodd y llywodraeth gynllun gweithredu ‘Adeiladu’r Cymorth Cywir’.[footnote 10] Mae’n dod â gweithredoedd ar draws llywodraeth a gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i gryfhau cymorth cymuned a lleihau dibyniaeth gyffredinol ar ofal claf iechyd meddwl mewnol.

Cymorth cyflogaeth

Mae Llywodraeth y DU yn cynorthwyo pobl anabl i fyw bywydau annibynnol a dechrau, aros a llwyddo mewn gwaith. Mae cynlluniau’n cynnwys:

  • y Rhaglen Gwaith ac Iechyd
  • y rhaglen Cymorth Cyflogaeth Personol Dwys (IPES)
  • Mynediad at Waith
  • Hyderus o ran Anabledd
  • cymorth mewn partneriaeth â’r system iechyd, gan gynnwys Cyngor Cyflogaeth mewn gwasanaethau Gwella Mynediad at Therapi Seicolegol (IAPT)y GIG.

Er 2019, mae mwy na £40 miliwn wedi cael ei fuddsoddi i’r rhaglen Cymorth Cyflogaeth Personol Dwys. Mae’n darparu cymorth dwys i bobl anabl â rhwystrau cymhleth rhag gweithio, ac mae’n gallu cael ei ddarparu am hyd at 21 mis, gan gynnwys 6 mis o gymorth dwys mewn gwaith. Bydd yn darparu cymorth i 11,188 o bobl anabl i ganfod gwaith dros 4 blynedd.

Bydd Llywodraeth y DU yn darparu £1.3 biliwn o gyllid ar gyfer cymorth cyflogaeth i bobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd rhwng 2022 a 2025. Yn y papur polisi Gwella Bywydau: Dyfodol Gwaith, Iechyd ac Anabledd,[footnote 11] a gyhoeddwyd yn Nhachwedd 2017, gosododd y llywodraeth nod i leihau bwlch cyflogaeth yr anabl a chael un miliwn yn rhagor o bobl anabl mewn cyflogaeth erbyn 2027. Rhwng 2017 a 2022, cynyddodd y nifer o bobl anabl mewn cyflogaeth o 1.3 miliwn, gan gyrraedd y nod yn hanner yr amser.

Mae’r llywodraeth wedi symud ei ymrwymiad i ymgynghori ymlaen ar “wneud gweithio hyblyg yn ddiofyn oni bai fod gan gyflogwyr resymau da i beidio”. Caeodd yr ymgynghoriad ar 1 Rhagfyr 2021 a derbyniodd nifer sylweddol o ymatebion, yn cynnwys gan sefydliadau anabledd. Mae’r llywodraeth yn adolygu’r ymatebion a bydd yn ymateb yn y man.

Llywodraethau datganoledig

Bydd Llywodraeth yr Alban yn buddsoddi £10 miliwn mewn toiledau Changing Places[footnote 12] dros y tymor seneddol hwn i annog y datblygu a’r darparu o ragor o doiledau Changing Places ledled yr Alban, gan ganiatáu mynediad haws at ddigwyddiadau a lleoliadau awyr agored o gwmpas y wlad. Ym Medi 2020, ymrwymodd Llywodraeth yr Alban i sefydlu Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol gweithredol (NCS), a chyflwynodd ddeddfwriaeth ym Mehefin 2022 i alluogi ei greu.[footnote 13] Y Gwasanaeth Gofal Cenedlaethol fydd diwygiad mwyaf uchelgeisiol gwasanaethau cyhoeddus yr Alban ers creu’r GIG.

Mae iteriad cyntaf Llywodraeth yr Alban o ddarpariaeth cyflogadwyedd datganoledig, Fair Start Scotland (FSS), yn darparu cymorth wedi’i ganoli ar unigolyn, cyfannol i’r rheini sydd bellaf o’r farchnad lafur. Ers lansio yn 2018, mae dros 41,000 o ddechreuadau FSS wedi bod, gan gynnwys mwy na 18,000 o bobl anabl - 44% o’r holl gyfranogwyr. Mae darparu wedi cael ei estyn hyd Mawrth 2023, ac mae darparwyr gwasanaeth yn gweithio â Sefydliadau Pobl Anabl i wella’r cynnig cymorth yn barhaus.

Mae Llywodraeth Cymru yn datblygu cyfarwyddyd newydd ar gyfer Asesiadau Marchnad Tai Lleol (LHMA) ag awdurdodau lleol a chymdeithasau tai, gan gynnwys dadansoddiad o’r angen am gartrefi i grwpiau allweddol. Mae hyn yn cynnwys pobl anabl, pobl a chyflyrau iechyd meddwl, lleiafrifoedd ethnig, gan gynnwys menywod lleiafrifoedd ethnig, pobl hŷn a phobl ddigartref o fewn pob awdurdod lleol. Y nod yw deall:

  • argaeledd tai priodol
  • yr angen i’r dyfodol sy’n cael ei ragamcanu
  • prinderau ar gyfer pob grŵp allweddol

Mae cynllun newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflogaeth a sgiliau - Cymru gryfach, decach, wyrddach - a gyhoeddwyd ym Mawrth 2022,[footnote 14] yn rhoi ffocws newydd ar wella deilliannau marchnad lafur i bobl anabl a grwpiau eraill. Mae’n amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cymru at roi’r sgiliau a’r hyder i bobl gyflawni eu potensial heb ystyried cefndir, gan eu grymuso i wneud dewisiadau gwybodus i ganfod a sicrhau gwaith teg, cychwyn busnes, newid gyrfaoedd, symud ymlaen, a goresgyn rhwystrau ar hyd y ffordd.

Yn unol â’r ymrwymiadau yn y cytundeb ‘Degawd Newydd Ymagwedd Newydd’ mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn parhau â gwaith ar strategaeth anabledd newydd. Mae’r strategaeth yn cael ei datblygu yn unol ag ymrwymiadau’r DU o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau gan ddefnyddio ymagwedd gydgynllunio, â chyfranogaeth pobl fyddar ac anabl a’u sefydliadau cynrychioladol, gan gynnwys Sefydliadau Pobl Anabl. Bydd yn darparu fframwaith i ganolbwyntio ar ymdrechion casgliadol Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon i wella bywydau pobl fyddar ac anabl.

Ym Mehefin 2022, cynhaliodd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, mewn partneriaeth â Sefydliad Harkin, Gynhadledd Cyflogaeth Anabledd Rhyngwladol Harkin 2022 ym Melffast. Roedd 630 o gynrychiolwyr o dros 30 o wledydd yn bresennol ar gyfer 47 eitem rhaglen â phrif gyflwyniadau gan Fanc y Byd, Microsoft ac eraill. Ochr yn ochr â digwyddiadau ehangach ar gyfer uwch arweinyddion llywodraeth a busnes, sicrhaodd rhaglen waddol dros 400 o swyddi ar gyfer pobl anabl.

Argymhelliad 114d

Sicrhau bod cyllidebau cyhoeddus yn ystyried hawliau pobl ag anableddau; bod dyraniadau cyllideb digonol yn cael eu trefnu i fod ar gael i gwmpasu costau ychwanegol sy’n gysylltiedig â byw ag anabledd, a bod mesurau lliniaru priodol, â dyraniadau cyllideb priodol ar waith ar gyfer pobl ag anableddau sy’n cael eu heffeithio gan fesurau llymder.

Mae Llywodraeth y DU yn buddsoddi’n fawr mewn cynorthwyo pobl anabl mewn amrediad o feysydd. Er enghraifft, buddsoddodd Adolygiad Gwariant 2021 dros £4 biliwn mewn cynlluniau wedi’u targedu’n benodol at bobl anabl, gan gynnwys cymorth cyflogaeth a lleoedd ysgol ar gyfer plant ag anghenion addysgol ac anableddau arbennig (SEND).

Ymhellach, rhagwelir y bydd Llywodraeth y DU yn gwario tua £67 biliwn ar fudd-daliadau yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 i gynorthwyo pobl anabl a phobl â chyflyrau iechyd ym Mhrydain Fawr, naill ai’n uniongyrchol neu drwy drosglwyddiadau i Lywodraeth yr Alban. Trefnir i gyllid ychwanegol fod ar gael i Ogledd Iwerddon ddarparu’r un lefel o ddarpariaeth lles ag ym Mhrydain Fawr.

Mae Llywodraeth y DU yn cynyddu amrediad o fudd-daliadau anabledd a gofalwyr bob blwyddyn yn unol â chwyddiant. Mae’r rhain yn cynnwys Lwfans Gweini, Lwfans Byw i’r Anabl, Taliad Annibyniaeth Personol, Lwfans Gofalwr, Lwfans Anabledd Difrifol, a Budd-dal Anabledd Anafiadau Diwydiannol. Bydd pob un o’r budd-daliadau hyn yn cael eu codi yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023 yn unol yn fras â chyfradd chwyddiant 3.1% Mynegai’r Pris Defnyddwyr (CPI).

Cymorth costau byw

Mae Llywodraeth y DU yn darparu cymorth costau byw i aelwydydd gwerth dros £37 biliwn eleni. Mae hyn yn cynnwys taliad costau byw o £650 i bobl ar fudd-daliadau wedi’u profi am foddion. Yn ogystal, bydd 6 miliwn o bobl anabl cymwys yn derbyn taliad Costau Byw anabledd, untro o £150 i helpu â chostau ychwanegol.

Cyllidebau personol

Mae gan ofalwyr hawl i dderbyn cyllideb bersonol wedi’i hasesu i ateb eu hanghenion gofal a chymorth. Bydd cyllideb bersonol yn cael ei chytuno yng nghynllun asesu’r gofalwr a bydd yn gallu cynnwys, er enghraifft, trefnu gofal amnewid, treuliau neu ffïoedd teithio i ddilyn gweithgareddau hamdden neu addysg. Gellir gwneud taliadau uniongyrchol i:

  • bobl anabl 16 oed neu drosodd ag anghenion tymor byr neu hir
  • rhieni ag anableddau ar gyfer gwasanaethau plant
  • gofalwyr 16 oed neu drosodd

Mae’n ofynnol i awdurdodau lleol ymgymryd ag asesiad gofalwr ar gyfer unrhyw ofalwr sydd ag angen cymorth arno. Os yw gofalwr yn gymwys ar gyfer cymorth, mae gan yr awdurdod lleol ddyletswydd gyfreithiol i ateb yr anghenion hyn ac i baratoi cynllun cymorth â’r gofalwr. Mae’r papur gwyn Diwygio Gofal Cymdeithasol oedolion, a gyhoeddwyd yn Rhagfyr 2021, yn amlinellu sut bydd y llywodraeth yn gweithio â’r sector i wella’r gwasanaethau a ddarperir i gynorthwyo gofalwyr sydd ddim yn cael eu talu.

Yn y papur gwyn integreiddio iechyd a gofal cymdeithasol,[footnote 15] a gyhoeddwyd yn Chwefror 2022, mae Llywodraeth y DU yn ailgadarnhau ei hymrwymiad at gyllidebau personol fel modd o gynorthwyo integreiddio ar gyfer pobl, gan gynnwys pobl anabl sy’n defnyddio gwasanaethau gofal i gael y gofal cywir ar yr adeg gywir. Bydd gan staff iechyd a gofal cymdeithasol fynediad gwell hefyd at gofnodion iechyd a gofal pobl. Bydd cyllidebau wedi’u cronni a’u halinio yn caniatáu trosglwyddiadau cydlynedig rhwng y system iechyd a’r system gofal cymdeithasol, ac felly’n osgoi oediadau hanesyddol rhwng systemau. Bydd hyn yn sicrhau dolen ddibynadwy â’r GIG fel bod gwasanaethau’n cynorthwyo’r unigolyn.

Cyllido gofal cymdeithasol oedolion

Mae awdurdodau lleol Lloegr yn gyfrifol am gomisiynu gwasanaethau gofal cymdeithasol oedolion. Mae gofal cymdeithasol yn cynorthwyo oedolion o bob oed, gan gynnwys pobl ifanc sy’n symud i fod yn oedolion a’r rheini o oedran gwaith ag amrediad amrywiol o anghenion. Mae llywodraeth ganolog yn dyrannu cyllid rhwng awdurdodau lleol i sicrhau bod gan bob cyngor ddigon o gyllid i ddarparu gwasanaethau i’w preswylwyr. Mae’r dyraniadau cyllid yn cynnwys fformwlâu penodol wedi’u cynllunio i adlewyrchu anghenion cymharol gwahanol awdurdodau ac mae rhagor o gyllid yn cael ei ddyrannu i gynghorau ag anghenion cymharol uwch.

Trefnodd y Setliad Cyllid Llywodraeth Leol ar gyfer blwyddyn ariannol 2022 i 2023 fod £3.7 biliwn ychwanegol ar gael i gynghorau, sy’n cynnwys dros £1 biliwn yn benodol ar gyfer gofal cymdeithasol yn y flwyddyn ariannol 2022 i 2023. Mae hyn yn sicrhau bod cynghorau ledled y wlad yn gallu darparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys gofal cymdeithasol oedolion, ac yn cynorthwyo darparu rhaglen ddiwygio gofal cymdeithasol oedolion £5.4 biliwn y llywodraeth a gyhoeddwyd ym Medi 2021. Gweithiodd Llywodraeth y DU â dros 200 o randdeiliaid i ddatblygu’r cynlluniau hyn.

Grant Rhyddhau i’r Gymuned (CDG)

Mae’r Grant Rhyddhau i’r Gymuned yn darparu £74 miliwn ledled y DU i gynorthwyo rhyddhau o ysbyty i’r gymuned i bobl ag anabledd dysgu a phobl awtistig. Mae’r grant yn darparu cyllid ychwanegol i awdurdodau lleol i fynd i’r afael â ‘chostau rhedeg dwbl’, lle mae costau’n digwydd pan fydd rhywun yn glaf mewnol o hyd ag angen gwely ond mae pecyn gofal cymunedol hefyd yn ei le.

I sicrhau arolygiaeth o wariant Grant Rhyddhau i’r Gymuned gan awdurdod lleol, cyflwynodd Llywodraeth y DU declyn cofnodi data ar gyfer blwyddyn ariannol 2021 i 2022 a gafodd ei ddatblygu mewn cydweithrediad â llywodraeth leol, â’r nod o goladu data i ddangos effeithiolrwydd y grant. Bydd y sylfaen dystiolaeth yn helpu’r llywodraeth i ddeall sut mae’r grant wedi cael ei defnyddio a pha mor effeithiol mae hi wedi bod, a bydd yn ffurfio penderfyniadau’r dyfodol trwy hynny.

Llywodraethau datganoledig

Mae Strategaeth Genedlaethol yr Alban ar gyfer Trawsffurfio Economaidd[footnote 16] yn cynnwys gweithredoedd i ddarparu llewyrch economaidd mewn ffordd sy’n sicrhau tegwch ac sy’n cael effaith gadarnhaol ar ein hamgylchedd. Mae’n cynnwys gweithred benodol i sefydlu Canolfan Arbenigedd mewn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol o fewn Llywodraeth yr Alban. Mae Cronfa Byw’n Annibynnol yr Alban yn darparu dyfarniadau ariannol i bobl ag anableddau dwys a/neu gymhleth ag anghenion gofal dwys sy’n byw yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan gynorthwyo 2,435 o bobl yn Ebrill 2022. Mae Llywodraeth yr Alban wedi ymrwymo ymhellach i weithredu’r argymhellion a amlinellir yn yr adroddiad Coming Home Implementation[footnote 17] ynglŷn â phobl ag anghenion cymhleth sy’n treulio gormod o amser mewn ysbyty.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu eu cyllideb dai i ddarparu cymhorthion ac addasiadau cartref i bobl anabl o 17.66 miliwn ym mlwyddyn ariannol 2020 i 2021 i £19.5 miliwn yn 2022 i 2023. Mae hyn yn cynnwys cyllid ychwanegol ar gyfer asiantaethau Gofal a Thrwsio i ddarparu addasiadau cyflym i hwyluso rhyddhau o ysbyty a lleihau’r nifer o drosglwyddiadau wedi’u hoedi o ofal, yn ogystal â chwmpasu costau gwaith angenrheidiol cyn i addasiadau allu cael eu gosod, fel cynnal a chadw trydanol a gwres hanfodol neu waith atal tamprwydd.

Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn darparu cymorth ariannol ychwanegol i bobl sy’n dioddef colled ariannol yn dilyn ailasesiad o Lwfans Byw ag Anabledd i Daliad Annibyniaeth Personol neu sy’n apelio yn erbyn penderfyniad i beidio â dyfarnu budd-daliadau. Mae cymorth tebyg ar gael i ofalwyr pobl ag anabledd sy’n profi colli budd-dal. Mae’r cymorth hwn wedi cael ei estyn hyd at 31 Mawrth 2025.

Ar hyn o bryd mae tua 390 o bobl yn derbyn dyfarniadau’r Gronfa Byw’n Annibynnol (ILF) yng Ngogledd Iwerddon. Mae gwobrau’r Gronfa Byw’n Annibynnol yn cael eu dosbarthu i’r rheini sydd ag anableddau dwys a/neu gymhleth ag anghenion gofal dwys, gan alluogi’r rhai sy’n derbyn i fyw’n annibynnol yn y gymuned. Mae’r dyfarniad yn cael ei ddefnyddio naill ai i dalu am staff asiantaeth gofal, neu i’r derbynnydd gyflogi ei gynorthwy-ydd personol ei hun.

Argymhelliad 114e

Cyflwyno pob addasiad angenrheidiol i wneud pob gwybodaeth, cyfathrebiadau, gweithdrefnau gweinyddol a chyfreithiol yn hollol hygyrch i bob person ag anableddau mewn perthynas â hawliau nawdd cymdeithasol, cynlluniau byw’n annibynnol, a gwasanaethau cymorth perthynol i gyflogaeth/diweithdra.

O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae’n ofynnol i bob corff cyhoeddus, darparwr gwasanaeth a chyflogwr wneud addasiadau rhesymol i unrhyw elfen o swydd neu wasanaeth sy’n rhoi person anabl o dan anfantais sylweddol o gymharu a rhywun nad yw’n anabl. Mae hyn yn gallu cynnwys darparu gwybodaeth mewn fformatau amgen, neu lle’n briodol darparu gwasanaethau dehongli.

Mae Llysgenhadon Anabledd a Mynediad Llywodraeth y DU (DAAs) yn arweinyddion diwydiant sy’n helpu i yrru gwelliannau yn hygyrchedd ac ansawdd gwasanaethau yn eu sector ar gyfer pobl anabl, fel defnyddwyr yn ogystal â chyflogeion. Maent yn cwmpasu amrediad eang o sectorau preifat, gan gynnwys technoleg a hygyrchedd i’r we, recriwtio ac amgylchedd adeiledig.

Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022

Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain 2022[footnote 18] yn hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o Iaith Arwyddion Prydain (BSL) trwy ddarparu cydnabyddiaeth gyfreithiol, tra’n cadw pensaernïaeth Deddf Cydraddoldeb 2010. Mae’r ddeddf yn cydnabod BSL fel iaith o Brydain Fawr (Cymru, Lloegr, a’r Alban). Nid yw’n estyn y gydnabyddiaeth hon i Ogledd Iwerddon gan fod dwy iaith arwyddion wahanol yn cael eu defnyddio yng Ngogledd iwerddon - BSL a Iaith Arwyddion Iwerddon (ISL). Nid yw iaith Arwyddion Iwerddon o fewn cwmpas y Ddeddf.

Mae Deddf Iaith Arwyddion Prydain:

  • yn cydnabod BSL fel iaith o Brydain Fawr
  • yn rhoi dyletswydd ar Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU i adrodd ar hyrwyddo a hwyluso BSL gan adrannau gweinidogol
  • yn rhoi dyletswydd ar Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU i gyhoeddi cyfarwyddyd i adrannau gweinidogol ar hyrwyddo a hwyluso BSL yn gyffredinol ar draws eu cyfathrebiadau cyhoeddus

Mae Bwrdd Cynghori BSL yn cael ei sefydlu i lywio gweithredu’r Ddeddf o bersbectif pobl sy’n defnyddio BSL. Bydd yn cynnwys arwyddwyr BSL yn bennaf a bydd yn gweithredu yn BSL a Saesneg, â’r holl bapurau cyfarfodydd ar gael ar-lein.

Gwasanaethau cyflogaeth hygyrch a chymorth lles

Mae cyfathrebiadau sy’n hyrwyddo’r cynllun Mynediad at Waith ar gael mewn amrediad o fformatau, gan gynnwys fideos BSL a fersiynau hawdd eu darllen. Yn ogystal â gweithio â phob technoleg gynorthwyol gyffredin, bydd gan ddefnyddwyr ddewis o sianeli a theithiau a chymorth fydd yn gallu helpu i’w cefnogi i geisio am a hawlio grant.

Mae Mynediad at Waith yn trawsffurfio ei wasanaeth i ddarparu gwasanaeth digidol modern, effeithlon sy’n darparu profiad gwell i’r defnyddiwr. Mae hyn yn cynnwys galluogi defnyddwyr i gyflwyno hawliad ar-lein, lanlwytho tystiolaeth a chael yr hawliad wedi’i gydlofnodi’n ddigidol trwy borth cyflym a syml, yn ogystal â gweld hawliadau a gwariant grant a gyflwynwyd o’r blaen. Bydd ailgynllunio hefyd o’r cais ar-lein presennol, yn cynnwys rhyngweithredoedd mwy hygyrch, cynnwys gwell a chasglu data yn fwy strwythuredig.

Mewn ymateb i’r pandemig COVID-19, gwnaeth Llywodraeth y DU newidiadau i fudd-daliadau iechyd ac anabledd i ddiogelu iechyd hawlwyr a staff, ac i flaenoriaethu hawliadau newydd a pharhad dyfarniadau. Roedd newidiadau yn cynnwys cynnal asesiadau dros y ffôn, lle’n addas, yn ogystal ag asesiadau ar bapur, wyneb yn wyneb a fideo, a gallugoi trydydd partïon i ymuno ag asesiadau dros y ffôn ac wyneb yn wyneb yn ôl yr angen.

Hygyrchedd digidol

Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth (GDS) wedi sefydlu tîm monitro hygyrchedd i fonitro sampl o wefannau ac apiau symudol sector cyhoeddus am hygyrchedd. Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, Comisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon a’r Gwasanaeth Cymorth Cynghorol Cydraddoldeb wedi sefydlu proses adrodd am ddefnyddwyr trwy’r datganiadau hygyrchedd i’w gwneud yn haws i ddefnyddwyr anabl adrodd am faterion hygyrchedd ar wefannau sector cyhoeddus. Mae Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth yn parhau i hyrwyddo’r agenda hygyrchedd digidol ar draws y sector cyhoeddus a’r cyhoedd yn ehangach trwy gyfarwyddyd, cymorth a hyfforddiant.

Llywodraethau datganoledig

Mae Deddf Nawdd Cymdeithasol (yr Alban) 2018 yn gofyn i weinidogion yr Alban ystyried pwysigrwydd cyfathrebu mewn ffordd gynhwysol, gan sicrhau bod pobl ag anhawster cyfathrebu yn gallu derbyn gwybodaeth a mynegi eu hunain mewn ffyrdd sy’n ateb eu hanghenion. Mae’r ddeddf hefyd yn gofyn i weinidogion yr Alban sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn gyhoeddus mewn fformat hygyrch.

Mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i gyllido a chynorthwyo’r Gwasanaeth Trosglwyddo Fideo yn dehongli BSL YR ALBAN ar-lein. Mae hyn yn galluogi defnyddwyr Byddar a Dall Fyddar BSL i ffonio, trwy ddehonglwyr trosglwyddo fideo, rhifau sector preifat yn ogystal â rhifau statudol a thrydydd sector, 24 awr y dydd, 365 dydd y flwyddyn.

Yn 2004, cydnabu Llywodraeth Cymru BSL fel iaith yn ffurfiol. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu’r nifer o ddehonglwyr cymwys yng Nghymru,a sicrhaodd fod polisïau, rhaglenni a deddfwriaeth ar draws Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd cyfathrebiadau hygyrch.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori ar gyflwyno Fframwaith Addasiadau Tai Strategol i ddod â darparwyr addasiadau, gwasanaethau iechyd a gofal, proffesiynau perthynol i iechyd a phobl anabl ynghyd i wella gwybodaeth am a mynediad at wasanaethau sy’n cynorthwyo byw’n annibynnol, gan gynnwys addasiadau i’r cartref. Bydd y fframwaith yn gweithredu ar lefel ranbarthol ledled Cymru a disgwylir iddo gael ei weithredu o Ebrill 2023.

O dan y Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995, mae gan Wasanaeth Sifil Gogledd Iwerddon (NICS) ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol i bobl anabl.

Mae amrediad o hyfforddiant ar gael i staff NICS i’w helpu i gynorthwyo pobl Gogledd Iwerddon sy’n cyrchu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys modiwl e-ddysgu ymwybyddiaeth o anabledd penodol i staff llinell flaen a hyfforddiant ar gynorthwyo pobl bregus. Cafodd cynnyrch ymwybyddiaeth o awtistiaeth newydd ei lansio ym Mehefin 2022.

Mae NICS yn parhau’n ymrwymedig i fod yn sefydliad cyfeillgar i JAM (Just a Minute) i bobl ag anawsterau dysgu, awtistiaeth, neu rwystrau rhag cyfathrebu. Mae hyfforddiant ymwybyddiaeth o Gerdyn JAM ar gael i’r holl staff.

Argymhelliad 114f

Sicrhau mynediad at gyfiawnder, trwy ddarparu cyngor a chymorth cyfreithiol priodol, ac yn cynnwys trwy gymhwysiad rhesymol a gweithdrefnol i bobl ag anableddau sy’n ceisio unioni a iawndal am doriad honedig o’u hawliau sy’n cael eu cwmpasu gan yr adroddiad hwn.

Ym Mai 2020, cafodd newidiadau mewn deddfwriaeth eu gwneud i ddileu’r gofyn i geiswyr cymorth cyfreithiol â dyled, gwahaniaethu ac achosion anghenion addysgol arbennig geisio cyngor trwy wasanaethau ffôn y Cyngor Cyfreithiol Sifil, gan ailsefydlu mynediad ar unwaith at gyngor cyfreithiol wyneb yn wyneb yn yr achosion hyn.

Mae Deddf Cydraddoldeb 2010 yn diogelu pobl rhag cael gwahaniaethu yn eu herbyn oherwydd anabledd yn narpariaeth gwasanaethau ac mewn cyflogaeth. Yn yr un modd â’r holl ddarpariaethau o dan y ddeddf, mae’n fater i rywun sy’n credu ei fod wedi bod yn destun gwahaniaethu oherwydd anabledd, gan gynnwys methiant i ddarparu addasiadau rhesymol i geisio cyngor neu unioni yn bersonol. Gallant gysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS), llinell gymorth y llywodraeth a sefydlwyd i ddarparu cyngor arbenigol am ddim a chymorth manwl i bobl â phryderon gwahaniaethu. Gellir cysylltu â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb trwy eu gwefan, dros y ffôn neu ffôn testun. Mae gan y Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb y gallu i ymyrryd ar ran rhywun a darparwr gwasanaeth i helpu datrys mater. Mae’n gallu rhoi cyngor i bobl hefyd sy’n dymuno cymryd eu cwyn ymhellach ar eu hopsiynau.

Mae’r Gwasanaeth Cynghori, Cymodi a Chyflafareddu (Acas) yn darparu cyngor awdurdodol a diduedd am ddim i gyflogeion, ymgeiswyr a chyflogwyr trwy eu gwefan a llinell gymorth ffôn neu drosglwyddiad testun. Cynigir y cyfle i unrhyw un sy’n cysylltu ag Acas ddefnyddio’r gwasanaeth cymodi cynnar. Os nad yw’r broses yn mynd ymlaen i’r llys, bydd y Tribiwnlys Cyflogaeth yn penderfynu a oes gweithred o wahaniaethu wedi digwydd.

Yng Ngorffennaf 2021, lansiodd Acas ynghyd â’r Adran ar gyfer Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol hyb cynghori ar-lein i helpu pobl anabl yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban i ddeall eu hawliau yn y gwaith. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyngor ar gael trwy’r Comisiwn Cydraddoldeb ar gyfer Gogledd Iwerddon.

Mae defnyddwyr llys a thribiwnlys yn cael eu hannog i gysylltu â’r llys cyn unrhyw fath o wrandawiad i drafod yr addasiadau neu gymorth penodol sydd eu hangen arnynt, i alluogi eu hanghenion unigol i gael eu hateb. Mae gwybodaeth am addasiadau rhesymol ar gael ar GOV.UK.[footnote 19] Mae cyfarwyddyd addasiad rhesymol a chyfarwyddyd dysgu ac anabledd ehangach yn cael ei ddarparu i holl staff Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF. Mae pob cyfarwyddyd yn codi ymwybyddiaeth o’r materion y gall pobl â cholled clyw wynebu, a’r addasiadau rhesymol sy’n gallu eu helpu i gymryd rhan lawn mewn gwrandawiadau.

Yn 2021, dilynodd Llywodraeth y DU ei gyfraniad £5.4 miliwn i gynorthwyo’r sector nid-er-elw â £2 miliwn ychwanegol i reoli effeithiau parhaol COVID-19. Cynorthwyodd y Grant Cynaliadwyedd Sector 66 sefydliad nid-er-elw yng Nghymru a Lloegr am y flwyddyn ariannol 2021-2022. Yng Ngorffennaf 2022, cyhoeddodd y llywodraeth £3.2 miliwn mewn cyllid grant newydd i ymgyfreithwyr mewn gwasanaethau cymorth personol am y flwyddyn 2022 i 2023.i Bydd y cynllun hwn yn parhau i helpu sicrhau bod pobl bregus sy’n wynebu materion cyfreithiol sifil a theuluol yn gallu cael cymorth yn gynnar, gan leihau’r angen i fynd i lys.

Llywodraethau datganoledig

Ers i’r Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Hawliau Dynol (NTfHRL) gyhoeddi ei argymhellion ym Mawrth 2021 mae Llywodraeth yr Alban wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid ar fynediad at faterion cyfiawnder trwy ei Fwrdd Cynghori, Bwrdd Gweithredol a Bwrdd Profiad Byw, ochr yn ochr â nifer o drafodaethau gweithdy ar wahân, wedi’u targedu. Canolbwyntiodd y gweithdai hyn ar themâu atal, rhwymedïau heb fod yn farnwrol a llwybrau at rwymedi.

Cafodd canolwyr cofrestredig eu cyflwyno i’r System Cyfiawnder Troseddol yng Ngogledd Iwerddon yn 2013 i hwyluso cyfathrebu trwy gynorthwyo pob dioddefwr bregus, tystion, rhai dan amheuaeth a diffynyddion ag anawsterau cyfathrebu sylweddol i roi eu tystiolaeth orau yn ystod ymchwiliad yr heddlu ac mewn prawf.

Argymhelliad 114g

Ymgynghori ac ymgysylltu’n weithredol â phobl ag anableddau trwy eu sefydliadau cynrychiadol a rhoi ystyriaeth ddyledus o’u barn yng nghynllunio, gweithredu, monitro ac arfarnu unrhyw ddeddfwriaeth, polisi neu weithredu ar raglen sy’n berthynol i’r hawliau sy’n cael eu trafod yn yr adroddiad hwn.

Mae Llywodraeth y DU yn parhau i weithio’n agos â’r Consortiwm Elusennau Anabledd (DCC), sy’n cynnwys 9 o elusennau anabledd mwyaf y DU.[footnote 20] Eleni, mae’r DCC wedi ymgysylltu â’r Gweinidog dros Bobl Anabl a swyddogion ar draws llywodraeth ar faterion niferus, gan gynnwys y BIl BSL, y targed bwlch cyflogaeth anabledd, trosglwyddiad pobl anabl i fod yn oedolion, a chryfhau tystiolaeth a data ar bobl anabl a’r profiadau o fyw.

Mae Llywodraeth y DU eleni wedi dechrau gweithio â Fforwm Lloegr Sefydliadau Pobl Anabl. Wedi’i sefydlu yn 2021, mae’n cael ei redeg yn llwyr ar gyfer a chan Sefydliadau Pobl Anabl. Mae dros 35 o sefydliadau yn aelodau, yn gweithio â miloedd o bobl anabl ledled Lloegr. Mae’r fforwm yn gweithredu fel asiantaeth ymbarél ar gyfer gweithredu ar y cyd gan y Sefydliadau Pobl Anabl mwy a mwy gweithredol ledled Lloegr, gan ganiatáu gweithgaredd strategol lefel uchel gan y sector Sefydliadau Pobl Anabl.

Cydgynhychodd aelodau’r fforwm a Sefydliadau Pobl Anabl weithdai â swyddogion ar waith cynnar i wella ymgysylltu â’r llywodraeth. Bydd rhagor o waith dros y flwyddyn nesaf yn adeiladu ar y mewnwelediad o’r gweithdai hyn i ddyfnhau ac ehangu lleisiau Sefydliadau’r Pobl Anabl mewn datblygu polisi, yn enwedig o grwpiau sy’n cael eu tangynrychioli ar hyn o bryd.

Mae Llywodraeth y DU wedi parhau ei ddatblygiad o’r Rhwydwaith Rhanddeiliaid Rhanbarthol (RSN) yn Lloegr, yn cynnwys pobl anabl, eu sefydliadau, rhieni a gofalwyr. Mae cadeiryddion yn cynnal cyfarfodydd rhanbarthol i glywed materion a godir gan bobl anabl sy’n byw ledled Lloegr. Mae swyddogion yn cyfarfod â’r cadeiryddion bob mis i drafod y materion hyn a darparu rhagor o wybodaeth neu gysylltu’r cadeiryddion â’r cydweithiwr trawslywodraeth cywir. Yn fwy diweddar, mae’r Rhwydwaith Rhanddeiliaid Rhanbarthol wedi cael ei ganolbwyntio ar ymgysylltu â swyddogion ar draws llywodraeth ar y cynnydd yng nghostau byw, materion cludiant i bobl anabl, hygyrchedd palmentydd, a’r Ymchwiliad COVID-19, ymhlith materion eraill.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod pwysigrwydd rhoi lleisiau pobl anabl wrth galon datblygu polisi iechyd ac anabledd. Er enghraifft, ymgysylltodd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP) a’r Gweinidog dros Bobl Anabl â phobl anabl, pobl â chyflyrau iechyd a’u cynrychiolwyr mewn cyfres o ddigwyddiadau, a gynhaliwyd fel rhan o’r ymgynghori cyhoeddus yr ymgymerwyd ag ef yn dilyn cyhoeddi’r papur gwyrdd ar iechyd ac anabledd yng Ngorffennaf 2021. Cafodd dros 4,500 o ymatebion eu derbyn, gan alluogi i brofiadau pobl anabl o lywio drwy’r system fudd-daliadau a chymorth cyflogaeth yr Adran Gwaith a Phensiynau gael eu clywed.

Ymgynghorodd Llywodraeth y DU ar godi safonau tai hygyrch yn 2020, gan gyfathrebu opsiynau ar gyfer newid polisi a deddfwriaethol â phobl anabl a’u sefydliadau cynrychioladol. Mae’r prosiect a’r gwaith polisi hwn yn mynd rhagddo a bydd ymgynghori yn parhau ymhellach i geisio a chynnwys barn ar gynllunio, gweithredu ac arfarnu gweithredoedd, ynglŷn â thai newydd hygyrch.

Mae Llywodraeth y DU yn cydnabod gwerth cyfranogiad pobl anabl mewn cynllunio a dylunio polisi. Fel y mae cydraddoldeb yn cael ei brif-ffrydio ar draws llywodraeth, mae pob adran yn gyfrifol am ymgynghori ac ymgysylltu â phobl anabl a’u sefydliadau ar amrediad eang o faterion polisi sy’n cael effaith arnynt. Mae hyn yn cynnwys polisïau a deddfwriaeth sydd ddim yn benodol i bobl anabl, ond sy’n cael effaith arnynt ynghyd ag eraill mewn cymdeithas.

Er enghraifft, mae Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu’n helaeth ag amrediad eang o sefydliadau, gan gynnwys y rheini sy’n cynrychioli pobl anabl, i sicrhau bod prif faterion sy’n effeithio ar bobl anabl ar-lein yn gallu cael eu datrys trwy’r Bil Diogelwch Ar-lein.[footnote 21] Bydd yr ymgysylltu hwn yn parhau yn ystod cymeradwyo’r bil.

Llywodraethau datganoledig

Mae datblygu strategaeth cydraddoldeb anabledd newydd i’r Alban wedi dechrau â grŵp llywio o Sefydliadau Pobl Anabl. Bydd y strategaeth yn cael ei chydgynllunio â Sefydliadau’r Bobl Anabl, fydd yn ymgysylltu â’u haelodau anabl i sicrhau bod eu safbwyntiau’n cael eu hystyried yn ofalus.

Wedi’i lansio yn 2016, mae Fframwaith Teithio Hygyrch yr Alban[footnote 22] yn amlinellu gweledigaeth bod “Yr holl bobl anabl yn gallu teithio â’r un rhyddidd, dewis, urddas a chyfle a dinasyddion eraill”.  Cafodd ail gynllun darparu blynyddol y fframwaith[footnote 23] ei lansio yn 2021. Mae cynllun darparu blynyddol 2022 yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd.

Amlygodd yr adroddiad - “Wedi’u Cloi Allan: Rhyddhau bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru y tu hwnt i COVID-19”,[footnote 24] a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2021, yr anghydraddoldebau mae llawer o bobl anabl yn eu hwynebu yng Nghymru. Y prif ymateb sydd wedi bod i’r adroddiad yw sefydlu’r Tasglu Hawliau Anabledd gan y Prif Weinidog. Mae’r tasglu yn dod â phobl â sgiliau a phrofiad o fyw ynghyd, arweinyddion polisi Llywodraeth Cymru a sefydliadau cynrychioladol i fynd i’r afael â’r materion a rhwystrau a amlygir yn yr adroddiad, sy’n effeithio ar fywydau llawer o bobl anabl.

Allbwn y tasglu fydd cynllun gweithredu hawliau anabledd newydd i Gymru fydd yn cael ei gefnogi gan Uned Tystiolaeth Anghyfartaledd Anabledd a sefydlwyd o’r newydd. Roedd sefydlu’r uned yn cynnwys ymgynghori â phobl anabl a sefydliadau cynrychiadol. Bydd ymchwil dilynol yr ymgymerir ag ef gan yr uned yn cael ei wneud gan ddefnyddio technegau cydgynhyrchu ac yn cynnwys pobl anabl ar bob cam.

Mae strategaeth anabledd newydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon yn cael ei datblygu gan ddefnyddio ymagwedd cydgynllunio yn unol â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau Pobl ag Anableddau, â ffocws ar brofiad o fyw ac ymgysylltiad uniongyrchol pobl fyddar ac anabl â’u sefydliadau cynrychioladol. Cafodd 3 grŵp eu sefydlu i gynorthwyo a chynghori Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon mewn datblygu a chynhyrchu strategaeth:

  • y Panel Cynghori Arbenigol
  • y Grŵp Cydgynllunio Strategaeth
  • y Grŵp Gwaith Trawsadrannol

Argymhelliad 114h

Cymryd mesurau priodol i ymladd yn erbyn unrhyw ystrydebau negyddol a gwahaniaethol a rhagfarnau yn erbyn pobl ag anableddau yn gyhoeddus ac yn y cyfryngau, gan gynnwys bod dibynnu ar fudd-daliadau ynddo’i hun yn ddiffyg cymelliad cyflogaeth, rhoi ymgyrchoedd cyfryngau torfol eang ar waith, mewn ymgynghoriad â sefydliadau sy’n cynrychioli pobl ag anableddau, yn enwedig y rheini sy’n cael eu heffeithio gan y diwygiad lles, i’w hyrwyddo fel deiliaid hawliau llawn, yn unol â’r Confensiwn, a mabwysiadu mesurau i fynd i’r afael â chwynion o aflonyddu a throsedd casineb gan bobl ag anableddau, ymchwilio i’r honiadau hyn yn syth, dal tramgwyddwyr yn atebol a darparu iawndal teg a phriodol i ddioddefwyr.

Mae Llywodraeth y DU yn cymryd pob ffurf o droseddu casineb o ddifrif, gan gynnwys y rheini sy’n targedu pobl anabl. Mae’r fframwaith deddfwriaethol i fynd i’r afael â throseddu casineb yn cynnwys darpariaethau i’r llys gynyddu dedfryd lle cafodd y drosedd ei chymell gan elyniaeth at anabledd rhywun.

Gwrthfwlio

Mae’n gyfreithiol ofynnol i bob ysgol gael polisi ymddygiad sy’n atal bwlio. Mae Llywodraeth y DU yn darparu dros £2 miliwn rhwng Awst 2021 a Mawrth 2023, i 5 sefydliad gwrthfwlio i gynorthwyo ysgolion i fynd i’r afael â bwlio. Mae hyn yn cynnwys prosiectau sy’n targedu bwlio grwpiau penodol, fel plant ag anghenion addysgol arbennig a dioddefwyr bwlio’n perthyn i gasineb.

Bil Diogelwch Ar-lein

O dan y Bil Diogelwch Ar-lein newydd, mae’n rhaid i ddefnyddwyr neu bobl eraill sy’n cael eu heffeithio allu adrodd am gynnwys a gweithgaredd niweidiol, sarhad ar gam a chyfyngu yn hawdd, a phryderon ehangach am gydymffurfiaeth cwmni â’i ddyletswyddau rheoleiddiol. Mae defnyddwyr yn gallu disgwyl i gwmnïau weithredu mewn perthynas â’r cwynion hynny, gan gynnwys:

  • dileu cynnwys
  • sancsiynau yn erbyn defnyddwyr sy’n troseddu
  • gwrthdroi dileu cynnwys anghywir neu
  • newidiadau i brosesau neu bolisïau yn hytrach na iawndal ariannol

Mae Llywodraeth y DU hefyd yn diweddaru cyfraith trosedd i gyfrif am gyfathrebiadau niweidiol ar-lein, gan gynnwys y rheini sydd wedi’u cyfeirio at bobl anabl a ffigurau cyhoeddus. Gofynnodd Llywodraeth y DU i Gomisiwn y Gyfraith adolygu cyfraith trosedd sy’n bodoli ar gyfer cyfathrebiadau niweidiol ar-lein ac oddi ar-lein. Yn dilyn adroddiad terfynol Comisiwn y Gyfraith, mae’r llywodraeth yn dwyn y troseddau cyfathrebiadau newidiol, cyfathrebiadau ffug a chyfathrebiadau bygythiol ymlaen trwy’r Bil Diogelwch Ar-lein. Yn ogystal, mae’r llywodraeth hefyd yn dwyn trosedd newydd seibrfflachio a throsedd newydd o drolio epilepsi ymlaen.

Cynllun awtistiaeth

Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol y DU yn gweithio â rhanddeiliaid i ddatblygu a phrofi cynllun i wella dealltwriaeth a derbyniad cyhoeddus o awtistiaeth. Roedd hyn yn ymrwymiad yn y Strategaeth Genedlaethol i blant awtistig, pobl ifanc ac oedolion: 2021 i 2026.[footnote 25] Amlinellodd y strategaeth, a gyhoeddwyd yng Ngorffennaf 2021, hefyd ymrwymiadau eraill, gan gynnwys hyrwyddo pecyn hyfforddiant cydraddoldeb anabledd i weithredwyr cludiant; ac i ailgychwyn yr ymgyrch ‘mae’n daith i bawb’ i greu amgylchedd trafnidiaeth cyhoeddus mwy cynhwysol a chefnogol i bobl anabl.

Llywodraethau datganoledig

Derbyniodd Gorchymyn Trosedd Casineb a Threfn Gyhoeddus (yr Alban) gydsyniad brenhinol yn Ebrill 2021. Cyn gynted ag y bydd mewn grym, bydd y ddeddf yn cynnal trefniadau diogelu deddfwriaethol presennol yn erbyn troseddau a waethygir gan ragfarn yn ymwneud ag anabledd, ac yn creu trosedd newydd o gorddi casineb ar sail anabledd. Gan adeiladau ar hyn, cyfarfu’r Grŵp Partneriaeth Trosedd Casineb Strategol am y tro cyntaf yn Ebrill 2022. Gan gynnwys partneriaid a rhanddeiliaid darparu allweddol (yn cynnwys Sefydliadau Pobl Anabl), byddant yn gweithio i ddatblygu strategaeth trosedd casineb newydd i’w chyhoeddi yn ddiweddarach eleni.

Penododd Llywodraeth Cymru Cymorth i Ddioddefwyr Cymru fel y cyflenwr ar gyfer y ‘Ganolfan Cymorth Casineb i Gymru’ ar 1 Ebrill 2022. Mae’r ganolfan yn darparu cymorth ac eiriolaeth hygyrch, cyfrinachol, am ddim i holl ddioddefwyr trosedd casineb, gan gynnwys pobl anabl. Ym Mawrth 2021, lansiodd Llywodraeth Cymru ei hymgyrch gwrthdrosedd casineb o’r enw ‘Mae Casineb yn Brifo Cymru’ sydd wedi ymddangos trwy gyfathrebiadau digidol, hysbysebu wedi’i dargedu yn yr awyr agored, a hysbysebu teledu.

Mae swydd Darpar Gomisiynydd Dioddefwyr Troseddu wedi cael ei sefydlu yng Ngogledd Iwerddon. Rhan o rôl y comisiynydd yw cydnabod anghenion penodol dioddefwyr bregus a rhoi sylw penodol i ddioddefwyr trosedd casineb, gan gynnwys y rheini ag anableddau. Mae swyddogaethau’r comisiynydd yn cynnwys y gallu i gyfeirio cwynion at gyrff cyfrifol perthnasol o fewn Siarter y Dioddefwr a monitro canlyniadau’r rhain.

Argymhelliad 114i

Sicrhau yng ngweithrediad deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni, bod sylw arbennig yn cael ei dalu i bobl ag anableddau sy’n byw mewn incwm isel neu dlodi, pobl ag anableddau â risg uwch o eithrio, fel pobl ag anableddau seicogymdeithasol neu luosog, menywod, plant a phobl hŷn ag anableddau. Dylai’r mesurau hyn gael eu rhoi yn eu lle o fewn trefniadau cyfrannol ac anghyfrannol.

Mae cyrff sector cyhoeddus a’r rheini sy’n ymarfer swyddogaethau cyhoeddus yn cael eu hannog i ymgynghori â grwpiau anabl ac i gynnal dadansoddiad cydraddoldeb i ffurfio penderfyniadau ar eu polisïau a darpariaeth gwasanaeth. Lle mae dadansoddiad cydraddoldeb yn adnabod effeithiau anghymesur ar bobl anabl, dylai sefydliadau ystyried opsiynau ar gyfer dileu neu leihau’r tebygolrwydd o ganlyniadau negyddol. Gall hyn gynnwys addasiadau i’r ymagwedd gyffredinol, a mesurau i liniaru’r effeithiau anghymesur posibl neu drefniadau pontio.

Gan gynorthwyo adrannau ar draws llywodraeth i gydymffurfio â hyn, mae’r Uned Anabledd, sy’n ffurfio rhan o’r Hyb Cydraddoldeb yn Swyddfa’r Cabinet, yn ymgysylltu’n weithredol ag adrannau eraill Llywodraeth y DU ar ddatblygiad a gweithrediad amrediad o bolisïau, gan gynnwys y cynllun gweithredu iechyd meddwl ac adfer llesiant COVID-19[footnote 26] a phapur gwyn Ffyniant Bro’r Deyrnas Unedig.[footnote 27] Mae hyn yn helpu i sicrhau bod sylw digonol yn cael ei roi i anghenion amrediad eang o bobl anabl ar draws cymdeithas ar faterion sydd ddim o reidrwydd yn benodol i bobl anabl.

Llywodraethau datganoledig

Yn Ionawr 2021, cyhoeddodd y Bwrdd Cynghori Adnewyddu Cymdeithasol yr adroddiad - ‘Os nad yn awr, pryd?’.[footnote 28] Roedd yn cynnwys galwadau i weithredu sydd wedi parhau i gael effaith arwyddocaol ar waith Llywodraeth yr Alban a 69 o’r 77 argymhelliad yn cael eu dwyn ymlaen yn rhannol neu’n llawn. Er bod gwaith y bwrdd wedi gorffen yn awr, mae Llywodraeth yr Alban yn parhau i adeiladu ar y galwadau i weithredu, gan fanylu ar ei ffocws ar leihau tlodi ac anfantais a sefydlu ymagwedd hawliau dynol trwy ei Strategaeth Adfer o COVID-19.

Mae Llywodraeth Cymru yn cyllido Advicelink Cymru i helpu aelwydydd incwm isel i uchafu cronfeydd incwm a chyrchu eu hawliau i fudd-daliadau. Mae Llywodraeth Cymru yn rhedeg ail ymgyrch genedlaethol hawlio budd-daliadau lles ‘Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’. Mae nifer o ymgyrchoedd peilot wedi targedu negeseuon wedi’u teilwra a chymorth i annog hawlio ymhlith grwpiau sy’n lleiaf tebygol o fod yn hawlio’r cymorth ariannol mae ganddynt hawl iddo. Yn ogystal, gall pobl sy’n profi caledi ariannol eithafol fod yn gymwys am gymorth trwy’r Gronfa Cymorth Dewisol.

Mae strategaethau cynhwysiad cymdeithasol newydd Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, gan gynnwys strategaeth gwrthdlodi a strategaeth anabledd, yn cael eu datblygu gan ddefnyddio ymagwedd cydgynllunio. Bydd y strategaethau yn ystyried croestoriadedd ac yn anelu at ddod â ffocws i adnabod a mynd i’r afael â’r materion, rhwystrau ac anfanteision sy’n tanseilio cydraddoldeb cyfle, gan gynnwys y rheini sy’n ymwneud ag anghydraddoldeb incwm.

Argymhelliad 114j

Sefydlu mecanwaith a system o ddangosyddion seiliedig ar hawliau dynol i fonitro’n barhaol effaith y gwahanol bolisïau a rhaglenni’n ymwneud â mynediad a mwynhad pobl ag anableddau o’r hawl i amddiffyniad cymdeithasol a safon byw digonol, yr hawl i fyw’n annibynnol a chael eich cynnwys yn y gymuned, a’r hawl i waith, mewn ymgynghoriad agos â phobl ag anableddau a’u sefydliadau cynrychioladol ym mhob rhanbarth a gwlad sy’n cydymffurfio â pharti’r wladwriaeth.

Mae gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) bwerau gorfodi i orfodi cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010, gan gynnwys y darpariaethau anabledd, gwahaniaethu a hygyrchedd, ac i herio sefydliadau lle mae’n ofynnol. Os yw’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn amau corff cyhoeddus o gyflawni toriad o’r darpariaethau gwahaniaethu, mae ganddo’r pwerau i gynnal ymchwiliad a gweithredu i sicrhau bod y sefydliad yn osgoi rhagor o doriadau yn y dyfodol.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn cyhoeddi ystadegau fel mater o drefn ar ganlyniadau i bobl anabl ar draws meysydd gwahanol gan gynnwys cyflogaeth, addysg, cyfranogaeth gymdeithasol, tai, llesiant, unigrwydd a throseddu. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol hefyd yn darparu data ar ddangosyddion fel rhan o fonitro ar gyfer y Nodau Datblygu Cynaliadwy. Bydd Cyfrifiad 2021 yn galluogi amcangyfrifon wedi’u diweddaru o anabledd ac anghydraddoldeb cymdeithasol yn ogystal â galluogi adrodd ar groestoriadau â phob nodwedd warchodedig arall am y tro cyntaf.

Trwy weithredu argymhellion y Tasglu Data Cynhwysol, bydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn gwella casglu ac adrodd am ddata yn ymwneud ag anabledd, gan gynnwys trwy gynllun gwaith tîm Cydgordio Gwasanaeth Ystadegol y Llywodraeth.[footnote 29] Mae’r cynllun yn cynnwys gweithio â phrif randdeiliaid i sicrhau bod safonau anabledd yn ateb anghenion defnyddwyr, a phrofi gwelliannau a newidiadau posibl i ddyluniad y cwestiwn ar gyfer y safonau anabledd.

Llywodraethau datganoledig

Cyhoeddodd y Tasglu Cenedlaethol ar gyfer Arweinyddiaeth Hawliau Dynol (NTfHRL) ei argymhellion ym Mawrth 2021[footnote 30] ar gyfer fframwaith hawliau dynol newydd i’r Alban. Mae’r adroddiad yn gwneud 30 argymhelliad yn ymwneud â’r fframwaith arfaethedig. Fel rhan o ddwyn yr argymhellion gan y NTfHRL a chyrff monitro cytundebau’r Cenhedloedd Unedig ymlaen, bydd Bil Hawliau Dynol newydd yn cael ei gyflwyno i Senedd yr Alban.

Allbwn cynnar o’u Uned Tystiolaeth Anghydraddoldeb Anabledd yng Nghymru fydd cydgynhyrchu cwestiynau arolwg, gan alluogi cyfranogwyr ymchwil i hunanadnabod yn anabl gan rwystrau cymdeithasol ac i archwilio beth yw’r rhwystrau hynny. Bydd hyn yn amlygu cyfleoedd i ddefnyddio’r cwestiynau newydd a datblygu dealltwriaeth ddyfnach o raddau’r anghydraddoldebau ymhlith pobl anabl a heb fod yn anabl. Bydd hyn yn cynnwys sut mae rhwystrau cymdeithasol yn effeithio’n uniongyrchol ar allu rhywun i fwynhau amddiffyniad cymdeithasol, safon digonol o fyw, byw’n annibynnol ac i weithio.

  1. https://tbinternet.ohchr.org/_layouts/15/treatybodyexternal/Download.aspx?symbolno=CRPD%2fC%2f15%2f4&Lang=en 

  2. Spring Statement 2022: documents - GOV.UK 

  3. Equality Act 2010 - GOV.UK 

  4. Shaping future support: the health and disability green paper - GOV.UK 

  5. Supply of accessible homes to receive vital boost - GOV.UK 

  6. People at the Heart of Care: adult social care reform white paper - GOV.UK 

  7. Mae toiledau Changing Places yn doiledau hygyrch mwy ar gyfer pobl ag anableddau dwys â chyfarpar fel peiriannau codi, sgriniau preifatrwydd, newid maint oedolion. Mae’r Adran dros Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweithio mewn partneriaeth â Dystroffi’r Cyhyrau y DU (MDUK) gan ddod â’u harbenigedd, a gofyn i gyfleusterau ateb manylebau gosodedig a chael eu cofrestru gan y Consortiwm Lleoedd Newid. 

  8. Health and Care Act 2022 

  9. People at the Heart of Care: adult social care reform white paper - GOV.UK 

  10. Building the right support for people with a learning disability and autistic people - GOV.UK 

  11. Improving lives: the future of work, health and disability - GOV.UK 

  12. Mae’r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau wedi cyflwyno rheoliadau adeiladu newydd fel bod gan bob adeilad cyhoeddus newydd doiledau Changing Places. 

  13. National Care Service Bill published - gov.scot 

  14. Stronger, fairer, greener Wales: a plan for employability and skills 

  15. Health and social care integration: joining up care for people, places and populations - GOV.UK 

  16. Scotland’s National Strategy for Economic Transformation - gov.scot 

  17. Coming Home Implementation report - gov.scot 

  18. British Sign Language Act 2022 

  19. Equality and diversity - HM Courts & Tribunals Service - GOV.UK 

  20. Mae prif weithredwyr Fforwn Anabledd Busnes a Scope yn cydgadeirio’r DCC a’r aelodau sy’n weddill yn Leonard Cheshire, Mencap, Mind, Cymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, RNIB, RNID a Sense. 

  21. Online Safety Bill - Parliamentary Bills - UK Parliament 

  22. Going Further: Scotland’s Accessible Travel Framework 

  23. Scotland’s Accessible Travel Framework - Annual Delivery Plan 2021-22 

  24. Locked out: liberating disabled people’s lives and rights in Wales beyond COVID-19 

  25. National strategy for autistic children, young people and adults: 2021 to 2026 - GOV.UK 

  26. COVID-19 mental health and wellbeing recovery action plan - GOV.UK 

  27. Levelling Up the United Kingdom - GOV.UK 

  28. If not now, when? - Social Renewal Advisory Board report: January 2021 - gov.scot 

  29. https://gss.civilservice.gov.uk/policy-store/gss-harmonisation-team-workplan/#disability 

  30. National Taskforce for Human Rights: leadership report - gov.scot