Canllawiau

SD3 Sut i fod yn eiddo a materion ddirprwy (fersiwn y we)

Diweddarwyd 21 March 2023

Applies to England and Wales

1. Dechrau

Mae’r canllaw hwn ar gyfer dirprwyon a benodwyd gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau am eiddo ac arian i bobl sydd yn brin o’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadu o’r math hwn eu hunain.

Mae bod yn ddirprwy yn gyfrifoldeb pwysig. Mae’r gorchymyn llys a anfonwyd atoch gan y Llys Gwarchod yn nodi ar gyfer pwy mae hawl gennych i wneud penderfyniadau ac ym mha feysydd yn union.

Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn deall y gorchymyn llys yn drwyadl. Os oes unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall, dylech gysylltu â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Os yw’r cyfan hyn yn newydd i chi ac yn teimlo braidd yn llethol, peidiwch gofidio; dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Os ydych angen help cyn gwneud penderfyniad, dylech ei drafod gyda’ch rheolwr achos yn OPG, aelodau o’r teulu neu ymgynhgorydd ariannol i gael eu barn.

Yn y canllaw hwn, rydym yn defnyddio straeon dirprwyon eraill i ddangos rhai pethau i’w hystyried wrth wneud penderfyniadau. Nid dyma’r atebion terfynol ond gallant roi syniadau i chi ar sut i weithredu.

Mae rhestr termau ar ddiwedd y llyfryn yn egluro termau nad ydych, efallai, yn eu deall.

Trwy gydol y canllaw hwn, rydym yn cyfeirio at ‘y person’ yr ydych yn gwneud penderfyniadau am eu heiddo a’u harian. Mewn mannau eraill, weithiau fe’u gwelwch yn cael eu galw – yn fwy swyddogol – ‘y cleient’

2.Beth mae Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yn ei wneud?

Mae’r OPG yn rhan o’r llywodraeth sydd yn eich cefnogi yn eich swyddogaeth fel dirprwy ac yn sicrhau eich bod yn gweithredu er lles pennaf y person.

Bydd gennych ddau gam cyswllt cynnar gyda’r OPG:

  1. Unwaith rydych wedi eich penodi yn ddirprwy, byddwch yn derbyn galwad ffôn fer, o gyflwyniad. Yn ystod y sgwrs, bydd rheolwr achos yn trefnu galwad hirach ‘setlo mewn’, a all bara am hyd at awr.

  2. Yn ystod yr alwad ‘setlo mewn’ bydd eich rheolwr achos yn trafod materion megis: * amodau eich gorchymyn llys * arian cyfredol y person * beth ddylech a beth na ddylech fod yn gwario arian arno

Mae gan yr OPG lawer o wybodaeth ddefnyddiol am fod yn ddirprwy ond ni all roi cyngor cyfreithiol nac ariannol – ar gyfer y materion hynny, siaradwch â chyfreithiwr neu gyfrifydd.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

BP 16185

Birmingham B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk


Llun i Gwener 9am–5pm, ar wahân i ddydd Mercher 10am–5pm

3. Eich camau cyntaf fel dirprwy

1. Dewch i adnabod y person rydych yn penderfynu ar ei chyfer/gyfer

Os nad oeddech eisoes yn adnabod y person rydych yn gweithredu ar ei rhan/ran fel dirprwy eiddo a materion, dylech ddechrau dod i’w hadnabod yn awr. Y rheol bennaf wrth wneud penderfyniadau eiddo ac ariannol ar gyfer y person yw bod yn rhaid i’r penderfyniadau fod er eu lles pennaf bob amser.

Rhaid i’ch penderfyniadau fod yn unol â maint ystad y person – eu heiddo a’u harian – ond mae yna bethau eraill i’w hystyried hefyd. Os oes gan y person alluedd meddyliol weithiau a dim bryd arall (‘galluedd amrywiol’), nodwch y mathau o benderfyniadau maent yn eu gwneud pa fo galluedd meddyliol ganddynt.

Os oedd gan y person alluedd meddyliol ar un adeg ond nid yn awr, dylech ystyried y mathau o benderfyniadau ariannol roeddynt yn eu gwneud cynt.

Gofynnwch i bobl eraill, megis ffrindiau agos a pherthnasau, am hoff bethau a chas bethau’r person, eu dymuniadau a’u credoau a’u penderfyniadau yn y gorffennol os bu ganddynt alluedd meddyliol ar un adeg. Defnyddiwch yr holl ffynonellau gwybodaeth hyn i gyfeirio eich penderfyniadau fel dirprwy’r person.

2. Trefnwch eich bond gwarant

Efallai bydd yn rhaid i ddirprwyon eiddo a materion dalu bond gwarant cyn bydd y Llys Gwarchod yn anfon eu gorchymyn dirprwy.

Pwrpas y bond yw diogelu ystad y person rydych yn gweithredu ar ei gyfer/chyfer os byddwch yn methu cyflawni eich dyletswyddau fel dirprwy. Bydd y llys yn dweud wrthych os bydd angen i chi dalu bond.

Mae’r llys yn gosod swm y bond ar sail pethau megis: * maint ystad y person * y math o fynediad sydd gennych i’r ystad

Rydych yn talu’r bond o gronfa’r person (neu medrwch chi ei dalu ac yna ad-dalu eich hun unwaith bydd gennych fynediad i ystad y person).

Os bydd angen i chi dalu bond, ni fedrwch ddechrau gweithredu ar ran y person nes eich bod wedi ei dalu.

Cwmnïoedd bondiau

Mae’r Llys Gwarchod yn argymell cwmni bondiau cydnabyddedig sy’n cael ei wirio yn gyson i sicrhau ei fod yn cwrdd â’r safonau cywir.

Medrwch ddewis cwmni bondiau arall ond dylech sicrhau ei fod yn cwrdd â’r safonau a osodir gan y llywodraeth – rhowch alwad i’r OPG am gyngor. Bydd llythyr oddi wrth y llys yn dweud wrthych sut i dalu eich bond.

Bydd gofyn i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod, nid OPG, os ydych yn meddwl bod eich bond wedi ei osod ar y lefel anghywir.

3. Derbyn a gwirio eich gorchymyn llys

Mae gorchmynion llys yn wahanol ar gyfer swyddogaeth pob dirprwy. Pan fydd y Llys Gwarchod yn anfon eich gorchymyn, sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r union fathau o benderfyniadau mae’n dweud y cewch eu gwneud ar ran y person.

Dyma’r mathau o benderfyniadau mae gorchmynion eiddo a materion yn cynnwys:

  • talu am ofal, er enghraifft cartref nyrsio

  • prynu neu werthu eiddo

  • gwneud buddsoddiadau

  • rhoi anrhegion

  • dapraru ar gyfer pobl sy’n ddibynnol

Darllenwch yn ofalus trwy’r gorchymyn llys i chwilio am wallau megis enwau wedi eu camsillafu. Os oes gwallau, cysylltwch ar unwaith â’r Llys Gwarchod er mwyn eu cywiro.

Am wallau mwy difrifol, rhaid i chi lenwi ac anfon ffurflen COP9 at y llys. Anfonch y ffurflen at y llys o fewn 21 niwrnod i’r gorchymyn gael ei anfon atoch.

Os nad ydych wedi dweud wrth y llys am unrhyw wallau o fewn 21 niwrnod, efallai bydd yn rhaid i chi dalu am gais arall i ddatrys y broblem.

Medrwch ond wneud penderfyniadau ar gyfer y person yn y meysydd mae’r LLys Gwarchod wedi eu hawdurdodi. Os ydych am wneud penderfyniadau eraill, bydd gofyn i chi wneud cais i’r llys i newid eich gorchymyn dirprwy.

4. Dywedwch wrth bobl mai dirprwy ydych chi

Bydd angen i chi roi gwybod i rai unigolion a sefydliadau mae’r person ynghlwm â hwy mai chi yw’r dirprwy. Gelwir hyn yn ‘gofrestru’r’ swyddogaeth dirprwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • Yr Adran Waith a Phensiynau ar gyfer pensiwn y wladwriaeth neu fudd-daliadau mae’r person yn gymwys i’w derbyn

  • banciau/cymdeithasau adeiladu/cwmnïoedd yswiriant bywyd/Cynilion Cenedlaethol a Buddsoddiadau

  • talwr unrhyw bensiynau prefab

  • cyfreithiwr sy’n dal ewyllys y person a/neu gweithredoedd eiddo

  • cartref gofal neu nyrsio, neu ysbyty

  • awdurdod lleol – ar gyfer budd-dal tai neu gymorth awdurdod lleol gyda ffioedd

Bydd angen i chi ddangos i unrhyw gyrff ariannol rydych yn delio â hwy ar ran y person:

  • copi gwreiddiol, wedi ei selio o’r gorchymyn dirprwy (efallai na fyddant yn derbyn llungopïau)
  • prawf o’ch enw a’ch cyfeiriad chi, a’r person

Os bydd angen i chi anfon eich gorchymyn dirprwy rywle pan yn cofrestru eich swyddogaeth fel dirprwy, dylech ofyn iddo gael ei anfon yn ôl atoch neu gallech redeg yn brin o gopïau.

Medrwch gael copïau pellach, yn costio £5 yr un, oddi wrth y Llys Gwarchod.

5. Sicrhewch asedau’r person a sefydlu cyfrif neu gyfrifon dirprwy

Unwaith bydd gennych fynediad i gyfrifon y person ac yn gwybod am ffynonellau eu hincwm a’u hasedau, medrwch wneud rhestr gyflawn o beth sydd yn eu hystad. Talwch unrhyw filiau sydd yn weddill a chanslo unrhyw daliadau os nad ydynt yn berthnasol bellach.

Cyfrifon ar wahân

Mae’r rhan fwyaf o ddirprwyon yn sefydlu cyfrif neu gyfrifon eu hun er mwyn osgoi drysu arian y person â’u harian hwy. Unwaith bod gennych gyfrif dirprwy ar wahân, gallech drefnu Debydau Uniongyrchol i’w gwneud yn haws rheoli taliadau rheolaidd y person.

Weithiau mae’r rheswm da dros beidio â chadw arian y person ar wahân. Er enghraifft, efallai mai chi yw dirprwy eich gwraig neu’ch gŵr a’ch bod wedi cadw cyfrifon ar y cyd ers sawl blwyddyn. Trafodwch gyda’ch rheolwr achos yn OPG ynghylch cadw cyfrif ar wahân, os ydych yn ansicr.

6. Talu unrhyw ffioedd dirprwy

Byddwch yn talu ffioedd am arolygu eich swyddogaeth fel dirprwy o gronfa’r person, nid eich un chi. Mae’r ffioedd yn cynnwys:

  • ffi untro’r dirprwy o £100
  • ffi arolygu blynyddol o £320

Os oes gan y person incwm isel, gallwch wneud cais am ‘eithriad’ (dim talu ffi) neu ‘gwtogiad’ (talu ffi is) ar gyfer ffioedd yr asesiad a’r arolygiad.

Ffi asesu

Ffi untro yw hwn ar gyfer asesu amgylchiadau swyddogaeth pob dirprwy. Mae’r OPG yn gofyn am ichi dalu’r ffi yn gynnar yn eich cyfnod fel dirprwy. Os ydych yn talu’r ffi cyn cael mynediad i gronfa’r person, medrwch ad-dalu eich hun yn ddiweddarach.

Ffi arolygu

Yn ogystal mae ffi blynyddol o £320 ar gyfer arolygu eich swyddogaeth fel dirprwy. Weithiau bydd hwn yn cael ei leihau – i £35 – ar ôl blwyddyn gyntaf eich cyfnod fel dirprwy os yw asedau’r person yn llai na £21,000 a bod dim angen am arolygiaeth fwy manwl.

Anfonir bil am ffi arolygu tua diwedd y flwyddyn ariannol, yn Ebrill. Yn eich blwyddyn gyntaf, bydd ond yn rhaid i chi dalu am y gyfradd o’r flwyddyn rydych wedi gweithredu fel dirprwy.

Gallwch ganfod rhagor am yr eithriadau a’r cwtogi ar y ffioedd, ynghyd â ffurflen gais i dalu llai

7. Dechrau cofnodi penderfyniadau a thrafodion

Mae cadw cofnodion ariannol yn un o ddyletswyddau dirprwy dan y gyfraith – rydych yn eu cynnwys fel rhan o’r adroddiad dirprwy byddwch yn cyflwyno o leiaf unwaith y flwyddyn.

Gan ddefnyddio’r gwasanaeth adrodd ar-lein (gweler isod), dylech ddechrau cofnodi trafodion a phenderfyniadau ynghylch eiddo ac arian y person cyn gynted ag y bo modd. Gall penderfyniadau gynnwys:

  • gwneud buddsoddiad ar ran y person

  • gwerthu rhai o’u hasedau

  • defnyddio cronfa’r person i brynu anrheg i rywun

Os oeddech wedi ymgynghori â phobl eraill ynghylch penderfyniad ariannol, dylech nodi hynny yn eich adroddiad ar-lein, hefyd.

Ble mae’n bosibl, dylech gadw derbynebau, datganiadau banc ac anfonebau fel cofnod o’ch gwario. Gall yr OPG ofyn i chi gyflwyno’r rhain pan fydd yn adolygu eich adroddiad dirprwy.

Nid oes angen i chi gadw cofnod o wariant y person ei hun os oes ganddynt lwfans bach neu arian poced.

8. Cyflwyno eich adroddiad dirprwy ar-lein

Fel mae eich gorchymyn llys yn nodi, rhaid i ddirprwyon gwblhau cofnod ar ddiwedd pob blwyddyn o’u swyddogaeth fel dirprwyon. Weithiau bod yr OPG yn gofyn i chi adrodd am gyfnod byrrach.

Rydych yn llenwi eich adroddiad dirprwy ar-lein. Mae’r gwasanaeth ar-lein yn eich galluogi i gofnodi penderfyniadau a thrafodion wrth i chi fynd yn eich blaen, sydd yn golygu bod llai i’w wneud ar ddiwedd y flwyddyn.

Medrwch gofrestru ar gyfer y gwasanaeth ar-lein cyn gynted ag y cewch eich rhif achos oddi wrth yr OPG.

Os ydych yn cael anhawster wrth adrodd ar-lein, gallwch alw tîm dirprwy yr OPG ar 0115 934 2700 (yn y Saesneg).

Mae’r OPG yn defnyddio eich adroddiad i wirio bod cronfa’r person yn cael ei wario er eu budd pennaf ac i fonitro eich ymwneud â’r person. Dylai eich adroddiad gynnwys:

  • penderfyniadau ariannol arwyddocaol rydych wedi eu gwneud ar ran y person

  • sut rydych wedi cael y person i ymwneud (os yn bosibl) yn y penderfyniadau

  • manylion yr holl arian mae’r person wedi ei gael yn ystod y flwyddyn

  • taliadau rydych wedi eu gwneud ar ran y person

  • gwerth cyfredol asedau a buddsoddiadau’r person

Bydd yr OPG yn anfon gair atoch i’ch atgoffa i gyflwyno’ch adroddiad dirprwy.

Os na fyddwch yn cyflwyno’ch adroddiad pan fydd yr OPG yn gofyn amdano, neu os oes gan yr OPG bryderon eraill amdano, byddwn yn adolygu eich swyddogaeth fel dirprwy. Yn y pen draw gallai hyn arwain atom yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod i gael gwared ohonoch fel dirprwy a phenodi dirprwy arall yn eich lle.

Mae gan God Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005 lawer mwy o fanylion ac enghreifftiau o sut medr dirprwyon weithredu.

Medrwch archebu neu lawrlwytho copi

4. Eich swyddogaeth fel dirprwy

Beth yw ystyr galluedd meddyliol?

Ystyr ‘galluedd meddyliol’ yw’r gallu i wneud penderfyniad neiltuol ar adeg pan fo angen gwneud penderfyniad o’r math hwn. Mae gan berson â galluedd meddyliol ddealltwriaeth gyffredinol, o leiaf, o:

  • y penderfyniad mae angen iddynt ei wneud

  • pam mae angen iddynt ei wneud

  • unrhyw wybodaeth sy’n berthnasol i’r penderfyniad

  • canlyniadau tebygol y penderfyniad

Dylent fedru dweud wrth bobl eraill am eu penderfyniad ar lafar, trwy ystumiau neu ffyrdd eraill megis offer sydd yn gweithio yn ôl llais.

Gall pobl wneud rhai mathau o benderfyniadau weithiau ond heb y galluedd meyddliol i wneud eraill. Er enghraifft, gall rywun benderfynu pa fath o nwyddau i’w prynu ond heb ddeall am wneud buddsoddiadau ariannol.

Galluedd Meddyliol: pump egwyddor

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 – sydd yn rheoli beth all dirprwyon wneud – yn gosod pum rheol am alluedd meddyliol. Mae’r rheolau yn effeithio arnoch chi fel dirprwy yn y ffyrdd hyn:

  1. Dylai’r person wneud penderfyniadau drostynt eu hunain oni bai eich bod yn medru dangos eu bod yn analluog i’w gwneud.

  2. Bydd angen i chi roi pob cymorth sydd ei angen ar y person i wneud penderfyniad cyn penderfynu na fedrant wneud y penderfyniad hwnnw.

  3. Os yw’r person yn gwneud penderfyniad sydd yn ymddangos yn annoeth neu’n rhyfedd. nid yw hynny yn golygu nad oes ganddynt y galluedd i’w wneud. (Mae llawer o bobl yn gwenud penderfyniadau annoeth o bryd i bryd.)

  4. Rhaid i unrhyw benderfyniad rydych yn ei wneud ar ran y person fod er eu budd pennaf – pwynt pwysig iawn yr eglurir yn fwy manwl isod.

  5. Dylai unrhyw beth rydych yn ei wneud ar ran person sydd yn brin o alluedd meddyliol darfu cyn lleied â phosibl ar eu hawliau sylfaenol.

Enghraifft: Dweud pan fo gan rywun alluedd meddyliol*

Mae gan Khaled anhwylder deubegynol ac yn y gorffennol mae wedi gwario’n wyllt sydd wedi ei adael mewn dyled dwfn. Mae’r Llys Gwarchod wedi penodi ei dad, Ali, fel ei ddirprwy ar gyfer ei eiddo a materion.

Mae Khaled wedi etifeddu peth arian oddi wrth ei ewythr, ac mae ei dad am wybod a all ef gyfrannu at benderfyniadau ar sut i’w wario. Mae ei dad yn meddwl mai’r ffordd orau o wario’r arian fyddai ei roi tuag at brynu ei fflat ei hun i Khaled fedru byw ynddi.

Yn y gorffennol, pan ofynwyd iddo am benderfyniadau ynghylch gwario arian mawr, roedd Khaled wedi dymuno prynu yn anaddas – o ystyried mor fach oedd ei ystad – megis ceir cy ym a gwyliau moethus. Y tro hwn, fodd bynnag, mae Khaled wedi dangos dealltwriaeth glir o blaid ac yn erbyn prynu ei fflat ei hun.

Mae Ali wedi penderfynu bod gan Khaled y galluedd meddyliol ar hyn o bryd i gyfrannu i’r penderfyniad ynghylch prynu eiddo. Mae Khaled yn cytuno bod prynu ei fflat ei hun yn ffordd dda o wario ei etifeddiaeth.

———

* Mae’r enghreifftiau yn y canllaw hwn yn defnyddio cymeriadau a sefyllfaoedd dychmygol i’ch helpu i wneud penderfyniadau fel dirpwry.

Sut medraf fi helpu’r person i wneud ei b/phenderfyniad ei hun?

Gall fod gan bobl alluedd meddyliol ran o’r amser ond nid gydol yr amser. Os yw’r person yn fwy bywiog gyda’r nos, er enghraifft, efallai mai dyna’r amser gorau i’w chynnwys mewn gwneud penderfyniadau.

Gall y person fod yn fwy ymatebol hefyd os ydych yn dewis y lleoliad gorau i ofyn iddo/iddo am benderfyniadau – yn eu cartref, efallai, yn hytrach na mewn amgylchedd anghyfarwydd.

Medrech hefyd ddefnyddio dulliau eraill i gyfathrebu. Ceisiwch ddefnyddio lluniau neu iaith arwyddo i egluro penderfyniad, er enghraifft.

Weithiau bydd y person ond angen ychydig mwy o amser er mwyn i chi egluro penderfyniad.

Enghraifft: Helpu rhywun i wneud penderfyniad

Cafodd Luke niwed i’r ymennydd yn dilyn damwain yn y gwaith a nawr mae e’n drysu ac yn rhwystredig ynghylch gwneud llawer o benderfyniadau. Mae’n byw gyda’i chwaer Marjorie, y mae’r Llys Gwarchod wedi ei phenodi fel ei ddirprwy ar gyfer eiddo a materion.

Mae’r Nadolig gerllaw ac mae Marjorie am i Luke ymwneud â phrynu anrhegion. Yn gyntaf mae’n gofyn i Luke gyda’r nos pa anrhegion yr hoffai eu prynu i bob perthynas. Fodd bynnag, mae’n ei chael yn anodd gwahaniaethu rhwng un perthynas ac un arall ac mae’n gynnwrf i gyd.

Mae Marjorie yn co o bod Luke yn fwy effro weithiau ar ôl brecwast. Yna mae’n gofyn iddo eto am yr anrhegion y pryd hynny. Y tro hwn mae Luke yn medru rhoi ei farn yn fwy clir o lawer ynghylch pa anrhegion i’w prynu i bob aelod o’r teulu.

Sut ydw i’n gweithio allan beth yw budd pennaf y person?

Dywed y gyfraith bod yn rhaid i chi weithredu er budd pennaf y person ar bob adeg. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud penderfyniadau er budd y person ac nid o angenrheidrwydd eich budd chi nac unrhyw un arall.

Wrth weithio allan beth yw budd pennaf y person, dylech gadw hyn mewn cof:

  • eu dymuniadau yn y gorffennol a’r presennol

  • eu credoau a’u gwerthoedd

  • barn aelodau o’r teulu a gofalwyr

  • a fedrent adfer eu galluedd meddyliol ac a fedrech oedi’r penderfyniad tan hynny

Ceisiwch beidio â dod i gasgliadau ynghylch y person budd pennaf yn unig ar sail eu hoedran, cefndig ethnig, eu golwg yn gyffredinol, rhyw neu rywioldeb.

Ac ni ddylech wahaniaethu yn erbyn y person – eu trin yn waeth – am unryw un o’r rhesymau hyn. Rhaid ystyried eu budd pennaf fel unigolyn bob tro.

Enghraifft: Ystyried credoau a gwerthoedd

Dyn ifanc yw Peter oedd yn astudio yn y coleg nes iddo gael damwain ffordd a achosodd niwed i’w ymennydd. Bellach nid oes ganddo’r galluedd i wneud unrhyw benderfyniadau arwyddocaol ynghylch trin ei arian. Mae’r Llys Gwarchod wedi penodi ei dad fel ei ddirprwy fel y gall fuddsoddi’r iawndal a gafodd yn dilyn y ddamwain.

Mae tad Peter yn gwybod bod gan ei fab wrthwynebiadau cry ion iawn ynghylch gweithredu ambell gwmni rhyngwladol. Felly mae e’n dewis cronfa foesegol. Er nad yw’n cytuno â daliadau ei fab, mae’n eu cadw mewn cof wrth ystyried beth sydd er budd pennaf Peter.

Am ragor ar y budd pennaf, gweler Pennod 5 Cod Ymarfer Deddf Galluedd Meddyliol.

5. Beth ddylwn ei wneud os…? Rhai penderfyniadau cyffredin fel dirprwy eiddo a materion

Mae mwy nag un dirprwy

Weithiau bydd y Llys Gwarchod yn penodi dau ddirprwy neu fwy ar gyfer yr un person.

Bydd y llys yn dweud wrthych sut i wneud penderfyniadau os nad chi yw’r unig ddirprwy. Bydd naill ai:

  • gyda’ch gilydd (a elwir, gan amlaf, ‘ar y cyd’), sydd yn golygu bod yn rhaid i bob dirprwy gytuno ar benderfyniadau
  • yn unigol neu gyda’ch gilydd (a elwir, gan amlaf, ‘ar y cyd ac yn unigol’), sydd yn golygu y gall dirprwyon wneud penderfyniadau yn unigol neu gyda dirprwyon eraill

Enghraifft: Gwneud penderfyniadau ar y cyd

Mae Brett a Lucy wedi eu penodi yn ddirprwyon ar y cyd ar gyfer eiddo a materion eu tad, Donald, sydd wedi datblygu clefyd Alzheimer ac yn symud i gartref nyrsio.

Rhaid i Brett a Lucy benderfynu ar beth i’w wneud â thŷ Donald. Gan eu bod ill dau wedi eu penodi yn ddirprwyon ar y cyd, rhaid iddynt gytuno ar bob penderfyniad ariannol a wnânt ar gyfer eu tad.

Mae Brett yn credu ei bod er budd pennaf Donald i werthu’r eiddo a buddsoddi’r arian ar gyfer gofal Donald yn y dyfodol. Mae merch Donald yn meddwl ei bod er budd pennaf ei thad i gadw’r eiddo, gan ei fod yn mwynhau ymweld a threulio amser yn ei hen gartref.

Ar ôl gwneud pob ymdrech i hel barn Donald, mae’r teulu yn cwrdd i drafod y materion gerbron. Mae’r dirprwyon yn gwrando ar farn aelodau eraill y teulu cyn cytuno mai’r peth gorau er budd pennaf eu tad fyddai cadw’r eiddo cyhyd â’i fod yn dal i fwynhau ymweld ag ef.

Rydw i eisiau hawlio costau fel dirprwy neu gael fy nhalu

Medrwch hawlio costau rhesymol am bethau sydd ynghlwm yn uniongyrchol â chy awni eich swyddogaeth fel dirprwy, megis galwadau ffôn, postio ac unrhyw gostau teithio angenrheidiol.

Fodd bynnag, ni chewch hawlio costau teithio am ymweliadau cymdeithasol yn unig â’r person, gan eu bod yn syrthio y tu allan i’ch dyletswyddau fel dirprwy ac yn dod o dan eich swyddogaeth fel ffrind neu aelod o’r teulu.

Ac ni chewch hawlio am yr amser rydych yn treulio yn cy awni eich dyletswyddau, oni bai eich bod yn ddirprwy proffesiynol. Ni chaiff dirprwyon ‘lleyg’ (heb fod yn broffesiynol) eu talu.

Ni fedr dirprwyon ddefnyddio eu safle er eu budd eu hunain. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ofyn i chi egluro eich costau yn eich adroddiad dirprwy.

Os ysytyrir bod eich costau yn afresymol, efallai bydd yn rhaid i chi eu had-dalu. Mewn achosion eithafol, efallai y cewch eich gollwng fel dirprwy (y Llys Gwarchod yn dileu eich swyddogaeth fel dirprwy).

Cofnodi eich treuliau wrth i chi fynd ymlaen gan ddefnyddio’r gwasanaeth adrodd ar-lein i ddirprwyon.

Enghraifft: Hawlio costau fel dirprwy

Mae Sophia yn ddirprwy eiddo a materion i’w brawd Roberto, a ddioddefodd niwed i’w ymennydd yn dilyn ffit epileptig ddifrifol. Erbyn hyn gan gan Roberto anhawster wrth wneud penderfyniadau o ddydd-i-dydd ac mae’n byw mewn cartref gofal.

Mae Roberto yn berchen ar fflat, sydd yn cael ei rhentu gan Sophia i helpu talu ei f oedd yn y cartref gofal a chostau eraill. O bryd i’w gilydd mae hi’n ymweld â’i chyfrifydd i drafod hyn ac agweddau eraill o’i swyddogaeth fel dirprwy. Gall Sophia hawlio costau ar gyfer yr ymweliadau hyn, gan gynnwys petrol ar gyfer y daith a chostau parcio – fel arall byddai hi allan o boced wrth gyflawni ei dyletswyddau dirprwy.

Fodd bynnag, ni fedr hi hawlio am dripiau teulu i ymweld â Roberto yn ei gartref. Ystyrir y rhain fel ymweliadau cymdeithasol yn unig ac nid yn rhan o ddyletswyddau Sophia fel dirprwy.

Rwyf eisiau gwnued anrheg o gronfa’r person

Gan amlaf mae gorchmynion eiddo a materion ond yn caniatáu i chi roi anrhegion cyfyngedig ar ran y person, a bydd OPG yn gofyn i chi egluro unrhyw anrhegion yn eich adroddiad dirprwy. Dywed y rhan fwyaf o orchmynion llys na fedrwch roi anrhegion oni bai ei bod yn achlysur arbennig megis pen-blwydd neu debyg.

Cyn rhoi anrheg, gofynnwch i’ch hun:

  • A fyddai’r person wedi dymuno rhoi anrheg fel hyn pe byddai ganddynt alluedd meddyliol o hyd?

  • A yw gwerth yr anrheg yn debyg i’r anrhegion mae’r person wedi eu rhoi i’r person hyn o’r blaen neu i bobl mewn sefyllfa debyg?

  • A yw’r anrheg o’r maint iawn i ystad y person – neu a yw’n rhy werthfawr, er enghraifft?

  • Sut mae sefyllfa ariannol y person wedi newid? Er enghraifft, efallai eu bod wedi symud i gartref nyrsio ac yn methu fforddio’r anrhegion y medrent eu fforddio cynt

Cofiwch, rhaid i anrhegion fod er budd pennaf y person, nid chi – felly byddai’n anghywir defnyddio cronfa’r person i brynu anrhegion mawr ar gyfer eich teulu agos eich hun, er enghraifft, pe na byddai’r person erioed wedi gwneud hyn.

Cyn i chi roi anrhegion mwy o ran maint, o arian neu eiddo – er enghraifft, fel rhan o gynllunio ar gyfer treth etifeddiaeth – rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd. Os ydych yn rhoi anrheg o’r math hwn heb ganiatâd, efallai bydd yn rhaid i chi ei ad-dalu.

Gallwch ddarllen mwy am roi anrhegion ar ran rhywun

Rwyf eisiau talu pobl broffesiynol i helpu trafod ystad y person

Fel dirprwy, medrwch gy ogi pobl broffesiynol megis cyfrifyddion a chyfreithwyr i helpu ymdrin â materion y person. Er enghraifft, byddai’n rhesymol talu cyfrifydd i ddrafftio ffur enni treth blynyddol y person pe byddai ganddynt bortffolio buddsoddi cymhleth.

Fodd bynnag, efallai na fyddai’n addas cy ogi cyfreithiwr i wneud rhywbeth syml fel talu f oedd cartref nyrsio’r person. Rhaid i wasanaethau yr ydych yn talu amdanynt fod yn gyson â’r dasg mae eu hangen arnynt a chronfa’r person.

Rwyf angen dechrau gweithrediad masnachol ar gyfer y person – ydw i’n atebol?

Os ydych yn dechrau gweithrediad masnachol gyda rhywun ar ran y person – er enghraift, llogi gweithiwr i drwsio tŷ’r person – ni fyddwch yn atebol yn bersonol am ei dalu.

Os ydych yn ymhel â chytundeb ysgrifenedig, mae angen i chi nod bod y cytundeb rhwng y person – yr ydych chi’n ei gynrhychioli – a’r person arall neu’r cwmni. Pan fyddwch yn llofnodi unrhyw gytundeb ar ran y person, dylech ei lofnodi fel dirprwy yn ‘gweithredu ar ran’ enw’r person. Er enghraifft:

Mae’r cytundeb hwn rhwng [enw’r person] yn gweithredu gan [eich enw] ac [enw’r person arall neu’r cwmni].

Rwyf eisiau gwerthu tŷ’r person

Oni bai bod eich gorchymyn llys yn dweud yn uniongyrchol y medrwch werthu tŷ neu eiddo arall y person mae’n berchen arno neu â chyfran ynddo, dylech wneud cais i’r Llys Gwarchod am ganiatâd. Os nad ydych yn gwneud, rydych yn mentro gweithredu y tu allan i’ch awdurdod fel dirprwy.

Mae’n costio £371 i wneud cais i’r llys – wedi ei dalu o gronfa’r person – a gall fod costau ychwanegol os bydd gwrandawiad llys. Gallwch wneud cais i dalu llai neu dim f am gais i’r llys os oes incwm isel gan y person.

Medrwch ganfod mwy am yr hyn sydd ynghlwm wrth werthu eiddo

Rwyf eisiau gwneud benthyciad o gronfa’r person

Anaml y caniateir benthyciadau dan orchmynion llys dirprwy. I wneud benthyciad o gronfa’r person, byddai angen i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod.

Os caniateir y benthyciad, mae’n debygol y bydd yn rhaid i chi greu cytundeb benthyciad, gan gynnwys taliadau llog.

Dywed y gyfraith bod yn rhaid i chi reoli arian y person hyd yn oed yn fwy gofalus na’ch arian eich hun.

Rwyf am brynu pethau i helpu’r person i deimlo’n well – nid rheoli eu harian yn unig

Mae rheoli arian y person er eu budd pennaf yn fwy na thalu biliau yn rheolaidd yn unig. Dylech hefyd ystyried gwario ar bethau fydd yn cynnal neu’n gwella ansawdd bywyd y person.

Dyma rai enghreifftiau:

  • dillad newydd neu drin gwallt

  • eitemau newydd ar gyfer eu cartref neu ystafell yn y cartref gofal

  • talu am gefnogaeth ychwanegol fel y gall y person fynd allan mwy, er enghraifft i gwrdd â ffrindiau neu berthnasau neu i fynd ar wyliau

Fel gydag anrhegion, rhaid i’w pwrcasau fod er budd pennaf y person ac yn gyson â gwerth eu hasedau.

Rwyf am drosgwlyddo fy nyletswyddau dirprwy i rywun arall

Er y medrwch ofyn am gyngor gan eraill – gan gynnwys arbenigwyr – am eiddo ac arian y person, dywed y gyfraith na fedrwch, fel arfer, ymddiried awdurdod (trosglwyddo) gwneud eich pendenderfyniadau i rywun arall.

Gall rhywun arall gymryd eich dyletswyddau dirprwy drosodd yn unig os dywed eich gorchymyn llys y medrant wneud mewn meysydd neiltuol.

Fel arall, yn y pen draw mae’n rhaid i chi fel dirprwy wneud y penderfyniadau a bod yn gyfrifol amdanynt.

Mae anghytuno ynghylch fy swyddogaeth fel dirprwy

Weithiau bydd dadlau ac anghytuno yn digwydd ynghylch y ffordd mae dirprwy yn ymdrin ag eiddo ac arian person. Gall dadleuon ddigwydd rhwng y dirprwy a’r person neu ag eraill sydd â diddordeb yn y person, megis aelodau o’r teulu.

Os ydych yn agored ac yn cynnwys eraill wrth wneud penderfyniadau, mae problemau yn llai tebygol o ddigwydd.

Dylai dirprwyon neu eraill sydd yn anghytuno geisio, yn y lle cyntaf, dod i gytundeb ymhlith ei gilydd. Os nad yw hynny’n gweithio, dylech gysylltu â’r OPG am arweiniad a chyngor.

Rwyf angen rhannu manylion personol am y person

Mae gan ddirprwyon ‘ddyletswydd cyfrinachedd’ i beidio â dangos manylion materion person oni bai:

  • bod y person wedi cytuno i hyn pan oedd galluedd ganddo/ganddi

  • bod yr OPG yn gofyn am wybodaeth

  • bod yna reswm da arall (er enghraifft, pe byddai’r person neu rywun arall yn cael niwed pe na byddech)

Dylech barhau i ymgynghori ag eraill – ffrindiau a theulu’r person, arbenigwyr ariannol neu arbenigwyr eraill – wrth gyflawni eich dyletswyddau dirprwy os yw er budd pennaf y person i wneud hynny.

Cofnodi unrhyw werthiannau, pwrcasau a dadleuon yn eich adroddiad dirprwy ar-lein pan fyddant yn digwydd – bydd yn ei gwneud yn haws pan fyddwch yn cy wyno eich adroddiad

6. Sut byddaf yn cael fy arolygu fel dirprwy?

Swyddogaeth y Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yw cynghori a chefnogi dirprwyon a diogelu pobl sydd yn brin o alluedd meddyliol rhag camdriniaeth neu ymelwa.

Mae’r OPG yn teilwra ei arolygiaeth o’ch swyddogaeth fel dirprwy i ateb eich anghenion chi a’r person.

Mae arolygiaeth yn cynnwys cyngor dros y ffôn gan yr OPG, cefnogaeth gan ymwelwyr proffesiynol ac adroddiadau dirprwy yn flynyddol neu’n fwy aml.

Medrwch alw canolfan gyswllt yr OPG ar 0300 456 0300 (yn y Saesneg) i drafod unrhyw un o’r materion a godir yn y llyfryn hwn.

Diogelu’r person

Swyddogaeth arall yr OPG yw diogelu’r person rydych yn gwnuud penderfyniadau ar ei rhan/ran. Camdrin y person yw unrhyw beth sydd yn mynd yn erbyn eu hawliau dynol a si l. Gall fod yn bwrpasol neu gall ddigwydd am nad yw dirprwy yn gwybod sut i ymddwyn yn gywir neu’n brin o’r cymorth cywir a’r gefnogaeth.

Gall camdriniaeth o swyddogaeth dirprwy eiddo ac arian gynnwys:

  • dwyn neu dwyll

  • camddefnyddio eiddo, meddiannau neu fudd-daliadau

  • rhoi gormod o bwysau ar y person

  • esgeulustra

Ymwelwyr y Llys Gwarchod

Weithiau bydd yr OPG yn trefnu bod ymwelwyr y Llys Gwarchod yn cwrdd â’r person a’u dirprwy(on) i weld sut mae’r swyddogaeth dirprwy yn mynd ac a oes angen rhagor o gefnogaeth arnoch. Yn anaml, gellir gofyn hefyd i ymwelydd ymchwilio i gamdrinaeth dybiedig o’r person.

Yn ogystal â siarad â chi a’r person, gall ymwelwyr gysylltu ag eraill sydd yn ymwneud â’r swyddogaeth dirprwy, megis aelodau o’r teulu neu fanciau.

Fel dirprwy, mae’n rhaid i chi dderbyn ymwelydd o’r llys a rhoi iddynt unrhyw wybodaeth maent yn ei geisio.

Ymchwiliadau

Os yw’r OPG yn credu nad ydych yn gweithredu er budd pennaf y person, byddwn yn ymchwilio. Gall ymchwiliadau gymryd peth amser, yn dibynnu ar ba mor ddyrys y maent. Tra bod ymchwiliad yn para, bydd yr OPG yn gweithio gyda phawb sydd ynghlwm er mwyn sicrhau bod budd pennaf y person yn cael y sylw dyledus.

Fodd bynnag, os yw’r OPG yn drwgdybio dirprwy o ddwyn neu o dwyll, gallwn adrodd am y mater wrth yr heddlu.

Canlyniadau ymchwiliad

Yn dilyn ymchwiliad, gall yr OPG arolygu eich swyddogaeth fel dirprwy yn fwy agos a chysylltu â chi yn amlach. Bwriad hyn yw sicrhau ein bod yn cynnig y lefel iawn o gefnogaeth ac yn gweithio gyda’n gilydd er budd pennaf y person.

Os bydd yr ymchwiliad yn canfod nad ydych yn gweithio er budd pennaf y person neu eich bod wedi camddefnyddio eich safle fel dirprwy, gall yr OPG wneud cais i’r Llys Gwarchod eich gollwng (dileu eich swyddogaeth dirprwy).

Os yw dirprwy yn camddefnyddio cronfa person, bydd y llys yn dweud wrth y cwmni bond i ‘alw mewn’ y bond. Bydd y cwmni bond yn talu peth arian i ystad y person ar unwaith fel nad yw’r person yn colli allan. Yna bydd yn ceisio adennill yr arian wrthych chi.

Diogelu

Ystyr ‘diogelu’ yw amddiffyn y person rhag niwed. Cyslltwch ag OPG os oes gennych bryderon ynghylch y person rydych yn gyfrifol am:

e-bost

opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk

ffôn

0115 934 2777

ffôn testun

0115 934 2778

Byddwn yn ateb eich galwad Llun i Gwener, 9am tan 5pm; Mercher, 10am tan 5pm.

Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu eich heddlu lleol os ydych yn meddwl bod rhywun wedi cy awni trosedd.

7. Newid eich swyddogaeth fel dirprwy

Rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os oes yn rhaid i chi:

  • newid eich swyddogaeth fel dirprwy, er enghraifft i wneud penderfyniadau nad ydynt yn y gorchymyn gwreiddiol

  • wneud penderfyniad untro neu rywbeth nad yw’n ymddangos ar y gorchymyn

  • adnewyddu eich swyddogaeth fel dirprwy (os oes dyddiad terfyn arno)

I wneud cais, rhaid i chi lenwi ffur en gais (COP1) a datganiad tyst (COP24) gyda manylion ariannol cyfredol y person a pham rydych yn gwneud y cais. Yna byddwch yn anfon y ffur enni i’r llys gyda siec am £371am y ffi cais, wedi ei dalu o gronfa’r person.

Medrwch wneud cais am help i dalu’r ffi os yw’r person yn derbyn budd-daliadu neiltuol neu ar incwm isel.

Am ffurflenni a gwybodaeth bellach am newid eich swyddogaeth fel dirprwy

8. Pryd mae swyddogaeth fel dirprwy yn gorffen?

Mae eich swyddogaeth fel dirprwy yn gorffen pan fydd un o’r pethau canlynol yn digwydd:

  • Mae’r person yn adfer galluedd meddyliol. Os yw hyn yn digwydd, llenwch ffurflen COP9 a’i hanfon at y Llys Gwarchod gydag unrhyw dystiolaeth atodol, er enghraifft llythyr meddyg.

  • Rydych yn penderfynu camu lawr. I wneud hyn, gwnewch gais i’r llys gyda ffurflen COP1. Bydd y llys yn cymryd camau i benodi dirprwy newydd

  • Mae’r person yn marw. Rhowch wybod i’r OPG, a byddwn yn egluro beth i’w wneud nesaf. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth, megis tystysgrif marwolaeth.

  • Mae’r dirprwy yn marw (os yw’n swyddogaeth dirprwy unigol neu un ar y cyd). Dylai’ch cyfreithiwr neu ysgutor ddweud wrth yr OPG, a bydd yn rhaid penodi dirprwy newydd

Ceir ffurflenni a gwybodaeth atodol bellach i roi terfyn ar eich swyddogaeth fel dirprwy. Neu ffoniwch OPG ar 0300 456 0300 (yn y Saesneg) neu’r Llys Gwarchod ar 0300 456 4600.

9. Rhestr wire dirprwy

Efallai byddwch yn dymuno argraffu’r rhestr wirio hon a’i chadw rhywle amlwg i’ch atgoffa o’ch tasgau fel dirprwy.

  • Rwyf wedi trefnu bond y Llys Gwarchod

  • Rwy’n deall amodau fy ngorchymyn llys a does dim gwallau ynddo (os oes yna wallau, rwyf wedi dweud wrth y Llys Gwarchod)

  • Rwyf wedi rhoi gwybod i’r sefydliadau ac unigolion cywir – banciau, cyfreithiwr y person – mai fi yw dirprwy’r person

  • Rwyf wedi trefnu cyfrif(on) dirprwy ar wahân (os yn addas)

  • Rwy’n deall beth ddylwn a beth na ddylwn i fel dirprwy wario arian y person arno

  • Rwyf wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth adrodd i ddirprwy ar-lein ac wedi dechrau cofnodi fy mhenderfyniadau a’m trafodion ac rwy’n cadw derbynebau

  • Rwy’n deall beth yw ystyr galluedd meddyliol a sut i wneud penderfyniadau er budd pennaf y person

  • Rwy’n gwybod am y ffioedd – ar gyfer asesiadau dirprwy ac arolygu – sydd angen i mi eu talu i’r OPG

  • Rwy’n gwybod bod angen i mi gyflwyno adroddiad dirprwy i’r OPG pan ofynnir i mi sut rwyf wedi gofalu am eiddo ac arian y person

10. Deall y jargon

Budd pennaf

Dylai dirprwyon, bob amser, ystyried pa weithredu sydd er budd pennaf y person wrth wneud penderfyniad. Dylech hefyd ystyried dymuniadau’r person yn y gorffennol a’r rhai presennol a meddwl am ynghynghori ag eraill. Am ragor ar y budd pennaf, gweler ‘Sut ydw i’n gweithio allan beth yw budd pennaf y person?’ o’r arweiniad hwn.

Camdriniaeth

Camdriniaeth yw rhywun yn troseddu yn ebyn hawliau dynol neu si l rhywun arall. Gall camdriniaeth fod yn un weithred neu’n weithredoedd a ailadroddir. Gall hefyd fod yn esgeulustod neu fethiant i weithredu. Mewn swyddogaeth dirprwy eiddo ac arian, gall camdriniaeth ddigwydd pan fydd rhywun yn perswadio person bregus i chware rhan mewn trafodion ariannol nad ydynt wedi, neu na fedrant, gytuno iddynt.

Cleient

Term a ddefnyddir weithiau ar gyfer y person heb alluedd meddyliol y mae’r Llys Gwarchod wedi eich penodi chi i wneud penderfyniad ar ei rhan/ran ynghylch eiddo ac arian.

Cod Ymarfer

Arweiniad i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol y gallwch archebu neu lawrlwytho. Mae’r cod yn cynnwys llawer o wybodaeth werthfawr ar gyfer dirprwyon.

Deddf Galluedd Meddyliol 2005

Mae’r ddeddf wedi ei chynllunio i ddiogelu pobl na fedrant wneud penderfyniadau eu hunain. Galli hyn fod oherwydd cy wr iechyd meddwl, anhawster dysgu difrifol, niwed ar yr ymennydd neu strôc. Pwrpas y ddeddf yw galluogi oedolion i wneud cynifer o benderfyniadau eu hunain ag y medrant ac i ddirprwy neu eraill wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Dementia

Term a ddefnyddir ar gyfer mathau gwahanol o salwch sydd yn effeithio ar yr ymennydd ac yn lleihau’r gallu i wneud tasgau bob dydd. Mae ‘dementia’ yn disgri o symptomau, nid y cyflwr ei hun. Mae’r symptomau yn cynnwys:

• colli’r cof

• anhawster wrth ddeall pobl a chanfod y geiriau cywir

• anhawster wrth gwblhau tasgau syml a datrys problemau mân

• newidiadau mewn hwyliau a tharfu emosiynol

Dirprwy

Rhywun a benodir gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran rhywun arall sydd yn brin o’r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniadau hynny eu hunain. Gall dirprwy gael ei benodi i wneud penderfyniadau am eiddo a materion ariannol, neu iechyd a lles, neu’r ddau.

Gall dirprwyon fod yn lleyg, megis aelodau o’r teulu neu ffrindiau’r person sydd yn brin o alluedd meddyliol. Neu medrant fod yn bobl broffesiynol, megis cyfreithwyr, cyfrifyddion neu weithwyr yr awdurdod lleol.

Eiddo a materion

Unrhyw feddiannau sydd yn berchen i berson (megis tŷ neu fflat, gemwaith neu feddiannau eraill), yr arian sydd ganddynt mewn incwm, cynilion neu fuddsoddiadau neu unrhyw wariant.

Esgeulusdod bwriadol

Methiant i roi gofal gan rywun sydd â chyfrifoldeb dros berson sydd yn brin o’r galluedd meddyliol i ofalu amdanynt eu hunain. Mae’n drosedd dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Eithriadau a chwtogiadau

Os oes gan y person incwm isel, gall y dirprwy wneud cais ar eu rhan am eithriad (dim talu ffi ) neu gwtogiad (talu ffi is) ar gyfer ffioedd asesiad ac arolygiad yr OPG.

Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad am rywbeth ar yr adeg mae angen gwneud y penderfyniad. Mae’r diffiniad cyfreithiol o rywun sydd yn yn brin o alluedd meddyliol wedi ei osod allan yn adran 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol. Am fwy ar alluedd meddyliol, gweler ‘Beth yw ystyr galluedd meddyliol?’ o’r canllaw hwn.

Gofal lleiaf rhwystrol

Os yw’r person yn brin o alluedd meddyliol, rhaid i benderfyniadau a wneir ar eu rhan barchu rhyddid gweithredu’r person a bod y dewis lleiaf rhwystrol. Mae hyn yn golygu cadw’r person yn ddiogel tra’n cyfyngu ar eu hawliau a’u rhyddid cyn lleied â phosibl.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Rhan o’r Weinydiaeth Gyfiawnder sydd yn diogelu pobl yng Nghymru a Lloegr nad oes ganddynt y galluedd i wneud penderfyniadau neiltuol eu hunain, megis ynghylch eu harian neu eu hiechyd.

Ymwelydd y Llys Gwarchod

Rhywun a benodir i adrodd i’r Llys Gwarchod neu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar sut mae dirprwyon yn cyflawni eu dyletswyddau.