Canllawiau

SD4 Sut i fod yn ddirprwy penderfyniadau ynghylch iechyd a lles (fersiwn y we)

Diweddarwyd 21 March 2023

Applies to England and Wales

1.Dechrau

Mae’r canllaw hwn ar gyfer dirprwyon a benodir gan y Llys Gwarchod i wneud penderfyniadau iechyd a lles i bobl sydd yn brin o’r galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau o’r math hyn eu hundin.

Mae bod yn ddirprwy yn gyfrifoldeb pwysig. Mae’r gorchymyn llys a anfonwyd atoch gan y Llys Gwarchod yn nodi ar gyfer pwy yr ydych wedi eich awdurdodi i wneud penderfyniadau ac ym mha feysydd yn union.

Sicrhewch eich bod yn darllen ac yn deall y gorchymyn llys yn drwyadl. Os oes yna unrhyw beth nad ydych yn ei ddeall, cysylltwch â Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG).

Os yw hyn oll yn newydd i chi ac yn teimlo braidd yn llethol, peidiwch gofido, dydych chi ddim ar eich pen eich hun. Os ydych angen cymorth wrth wneud penderfyniad, trafodwch hyn gyda’ch rheolwr achos yn yr OPG neu’r gweithiwr gofal neu aelod o deulu’r person yr ydych yn gwneud penderfyniadau ar ei rhan/ran.

Yn y canllaw hwn rydym yn defnyddio straeon dirprwyon eraill i ddangos rhai pethau i’w hystyried pan yn gwneud penderfyniadau. Nid dyma’r atebion terfynol ond byddant yn rhoi syniadau i chi ar sut i weithredu.

Mae rhestr termau ar ddiwedd y llyfryn hwn yn egluro termau nad ydych, efallai, yn eu deall.

Trwy gydol y canllaw hwn, rydym yn cyfeirio at ‘y person’ rydych yn gwneud penderfyniadau iechyd a lles ar ei chyfer/gyfer. Mewn mannau eraill fe’u gelwir – yn fwy swyddogol – y ‘cleient’

2.Beth mae’r OPG (Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus) yn ei wneud?

Mae’r OPG yn rhan o’r llywodraeth sydd yn eich cefnogi yn eich swyddogaeth fel dirprwy ac yn sicrhau eich bod yn gweithredu er budd pennaf y person.

Bydd gennych ddau gam cyswllt cynnar gyda’r OPG:

  1. Llythyr byddwn yn ei anfon atoch unwaith yr ydych wedi eich penodi fel dirprwy, yn awgrymu amser ar gyfer ein galwad gyflwyno ‘setlo mewn’ ynghylch swyddogaeth dirprwy.

  2. Yr alwad ‘setlo-mewn’ ei hun, fydd yn para tuag awr, pan fydd eich rheolwr achos yn trafod pethau megis:

  • amodau eich gorchymyn llys

  • anghenion iechyd a gofal y person

  • sut i wneud penderfyniadau fel dirprwy

Mae gan yr OPG lawer o wybodaeth ddefnyddiol ynghylch bod yn ddirprwy ond ni fedr roi cyngor meddygol na chyfreithiol – ar gyfer y rhain, dylech siarad â gweithiwr meddygol proffesiynol neu gyfreithiwr.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

BP 16185

Birmingham B2 2WH

Ffôn: 0300 456 0300

E-bost: customerservices@publicguardian.gov.uk

Llun i Gwener 9am–5pm, ar wahân i ddydd Mercher 10am–5pm

3.Eich camau cyntaf fel dirprwy

1. Dod i adnabod y person rydych yn gwneud penderfyniadau ar ei chyfer/gyfer

Os nad oeddech eisoes yn adnabod y person rydych yn gweithredu ar ei chyfer/gyfer fel dirprwy lles personol, dylech ddechrau dod i’w hadnabod yn awr. Y brif reol wrth wneud penderfyniadau iechyd a lles ar gyfer y person yw bod yn rhaid i’r penderfyniadau hynny fod er eu budd pennaf bob amser.

Os bu galluedd meddyliol gan y person ar un adeg ond nid yn awr, meddyliwch am y mathau o benderfyniadau roeddynt yn arfer eu gwneud – am y bwydydd a’r dillad roeddynt yn eu hoffi, am eu hamgylchedd yn eu cartref neu eu gweithredoedd hamdden neu gymdeithasol, er enghraifft.

Os oes gan y person alluedd meddyliol weithiau a dim bryd arall (‘galluedd amrywiol’), nodwch y mathau o benderfyniadau maent yn eu gwneud pan fydd ganddynt alluedd meddyliol.

Gofynnwch i bobl eraill, megis ffrindiau agos a pherthnasau, am hoff bethau a chas bethau’r person, eu dymuniadau a’u credoau a’u penderfyniadau yn y gorffennol os bu ganddynt alluedd meddyliol ar un adeg. Defnyddiwch yr holl ffynonellau gwybodaeth hyn i’ch arwain wrth wneud eich penderfyniadau fel dirprwy’r person.

2. Derbyn a gwirio eich gorchymyn llys

Mae gorchmynion llys yn wahanol ar gyfer swyddogaeth pob dirprwy. Pan fydd y Llys Gwarchod yn anfon eich gorchymyn, sicrhewch eich bod yn gyfarwydd â’r union fathau o benderfyniadau mae’n dweud y cewch eu gwneud ar gyfer y person.

Penderfyniadau cyffredinol mae gorchmynion iechyd a lles yn eu cwmpasu yw:

  • ble mae’r person yn byw

  • gyda phwy maent yn byw

  • eu gofal o ddydd-i-ddydd, gan gynnwys diet a gwisgo

  • cydsynio i driniaeth feddygol a deintyddol ar gyfer y person

  • trefniadau gofal y person

  • gweithgareddau hamdden neu gymdeithasol y dylent gymryd rhan ynddynt

  • cwynion ynghylch gofal neu driniaeth y person

Darllenwch yn ofalus trwy eich gorchymyn llys i wirio am wallau megis enwau wedi eu camsillafu. Os oes yna wallau, cysylltwch â’r Llys Gwarchod ar unwaith i’w cywiro.

Am wallau mwy difrifol, bydd angen i chi gwblhau ffurflen COP9. Anfonwch hon at y llys o fewn 21 niwrnod i’r dyddiad yr anfonwyd y gorchymyn atoch chi.

Os nad ydych wedi dweud wrth y llys am y gwallau o fewn 21 niwrnod, gellir codi tâl arnoch am gais arall i gywiro’r broblem.

Medrwch ond wneud penderfyniadau ar ran y person yn y meysydd mae’r Llys Gwarchod wedi eu hawdurdodi. Os ydych yn dymuno gwneud penderfyniadau eraill, bydd angen i chi wneud cais i’r llys i newid eich gorchymyn dirprwy.

Y Llys Gwarchod

Ffôn: 0300 456 4600

E-bost: courtofprotectionenquiries@hmcts.gov.uk

Llun tan Gwener 9am tan 5pm

3. Dywedwch wrth bobl mai diprwy ydych chi

Bydd angen i chi ddweud wrth bobl a sefyliadau neiltuol mae’r person ynghlwm â hwy mai chi yw’r dirprwy. Gelwir hyn yn ‘gofrestru’r’ swyddogaeth dirprwy. Dyma rai enghreifftiau:

  • gweithwyr iechyd proffesiynol megis meddygon a nyrsys

  • gweithwyr cymdeithasol

  • darparwyr gofal

  • darparwyr addysg

Os bydd angen i chi anfon eich gorchymyn dirprwy rywle pan yn cofrestru eich swyddogaeth dirprwy, gofynnwch iddo gael ei anfon yn ôl atoch neu gallech reden yn brin o gopïau. Medrwch gael copïau ychwnaegol, sydd yn costio £5 yr un, oddi wrth y Llys Gwarchod.

4. Cyfrannu i gynllun gofal y person (os oes un ganddynt)

Cynllun gofal yw cytundeb rhwng y person – gyda’ch cymorth chi – a gwasanaethau iechyd neu gymdeithasol yn amlinellu anghenion y person a’r gefnogaeth a’r gofal y dylent ei gael. Mae gan y rhan fwyaf, ond nid pob person â dirpwry iechyd a lles gynllun gofal. Gall y cynllun gofal fod yn fyr neu’n fanwl iawn, yn dibynnu ar amgylchiadau’r person.

Dylech chi a’r person fod yn ymwneud pan fydd y cynllun yn cael ei ysgrifennu. Os nad oes gan y person y galluedd meddyliol i gytuno i’r cynllun gofal, mae fyny i chi ei lofnodi ar ei rhan/ran.

Fel dirprwy, medrwch:

  • drafod y cynllun ac awgrymu unrhyw newidiadau

  • ofyn am i’ch sylwadau, ar sail eich gwybodaeth o’r person, gael eu cynnwys yn y cynllun gofal

  • ofyn am gopi o’r cynllun gofal – gall fod o gymorth i chi wneud penderfyniadau ar gyfer y person

Ond ni ddylech:

  • newid y cynllun gofal – nid oes genncyh yr awdurdod

  • ofyn dro ar ôl tro i’r staff gofal am gopïau o ddogfennau megis cofnodion dyddiol, logiau ac asesiadu risg – sicrhewch bod eich galwadau yn rhesymol a rhowch amser i’r staff ymateb

Os oes gennych bryderon ynghylch y cynllun gofal, dylech eu trafod gyda rheolwr y cartref gofal, gweithiwr cymdeithasol neu feddyg.

Enghraifft: Gweithio gyda chynllun gofal*

Menyw ifanc yw Margaret â phroblemau iechyd meddwl difrifol. Ei mam, Sheila, yw ei dirprwy ac mae’n ei chynorthwyo i wneud llawer o’r penderfyniadau iechyd a lles na fedr Margaret ei hun eu gwneud.

Mae tîm o feddygon, staff gofal a gweithwyr cymdeithasol wedi paratoi cynllun gofal i gynorthwyo gofalwyr Margaret i weithredu er ei budd pennaf.

Mae’r cynllun gofal yn cwmpasuy meddyginiaethau sydd wedi eu rhagnodi i Margaret, ei chynorthwyo gyda’i gofal personol a gweithgareddu eraill, gan gynnwys therapi celf.

Roedd y tîm wedi gwneud eu gorau i gael Margaret i ymwneud â chynllunio ei gofal ond mae ei meddyg wedi ei hasesu a datgan nad oes ganddi’r galluedd i gytuno i lawer agwedd o’i chynllun gofal. Fel ei dirprwy, gall ei mam gytuno neu anghytuno gyda’r rhannau hynny o’r cynllun na fedr Margaret.

———

* Mae’r enghreifftiau yn y canllaw hwn yn defnyddio cymeriadau a sefyllfaoedd dychmygol i’ch cynorthwyo i wneud penderfyniadau fel dirprwy.

5.Cadwch gofnod o’ch penderfyniadau ar gyfer y person

Mae’n rhan o’ch dyletswydd fel dirprwy i gadw cofnod o’r penderfyniadau pwysig am iechyd a lles yr ydych yn eu gwneud ar ran y person. Bydd angen i chi gynnwys y cofnodion hyn pan yn cyflwyno eich adroddiad dirprwy.

Dechreuwch gadw cofnod ysgrifenedig cyn gynted ag y medrwch o’r penderfyniadau rydych yn eu gwneud ynghylch gofal y person.

Gall y penderfyniadau gynnwys:

  • symud y person i fyw mewn cartref gofal

  • newid i ddiet y person, wedi ei drafod gyda staff y cartref gofal

  • cydsynio i driniaeth feddygol y person, megis sgan neu lawdriniaeth

  • cytuno i weithgaredd hamdden newydd – megis mynd am dro yn y wlad neu noson ddawns

Os oeddech wedi ymgynghori â phobl eraill ynghylch penderfyniad iechyd a lles, nodwch hynny hefyd.

Does dim angen i chi gofnodi pob penderfyniad byddwch yn eu gwneud o ddydd i ddydd, megis prydau bwyd rydych wedi eu paratoi ar gyfer y person ar ddiwrnod neilltuol neu bob taith rydych yn ei dewis ar gyfer y person. Os ydych yn ansicr a ddylid cofnodi penderfyniad neu beidio, dylech ei gynnwys rhag ofn.

6.Talu unrhyw ffioedd dirprwy

Rydych yn talu ffioedd yr OPG am arolygu eich swyddogaeth ddirprwyo o gronfa’r person, nid eich un chi. Mae’r ffioedd yn cynnwys:

  • ffi untro o £100 am saes dirprwy

  • ffi arolygu blynyddol o £320

Os oes gan y person incwm isel, medrwch wneud cais am ‘eithriad’ (dim talu ffi ) neu ‘gwtogiad’ (talu ffi is) am y ffioedd asesu ac arolygu.

Ffi asesu

Ffi untro yw hwn ar gyfer asesu amgylchiadau pob swyddogaeth dirprwy. Mae’r OPG yn gofyn am i chi dalu’r ffi yn gynnar yn eich swyddogaeth dirprwy. Medrwch ad-dalu’r ffi o gronfa’r person os oeddech wedi ei dalu eich hun.

Ffi arolygu

Mae ffi ynyddol i’w thalu hefyd i dalu am gostau arolygu eich swyddogaeth dirprwy.

Anfonir bil am ffioedd arolygu tua diwedd y flwyddyn ariannol, yn Ebrill. Yn eich blwyddyn gyntaf, rydych ond yn gorfod talu am y gyfran o’r flwyddyn yr ydych wedi gweithredu fel dirprwy.

Cewch wybod rhagor am eithriadau ffioedd a chwtogi, ynghyd â ffurflen gais i dalu llai.

7.Ysgrifennu eich adroddiad dirprwy

Fel mae eich gorchymyn llys yn nodi, rhaid i ddirprwyon gwblhau adroddiad ar ddiwedd pob blwyddyn o’u swyddogaeth dirprwy. Weithiau bydd yr OPG yn gofyn i chi adrodd yn fwy aml.

Mae’r OPG yn defnyddio’r adroddiad i weithio allan faint o gefnogaeth y gall fod ei angen arnoch fel dirprwy ac i sicrhau eich bod yn gweithredu er budd pennaf y person. Dylai eich adroddiad gynnwys:

  • penderfyniadau arwyddocaol rydych wedi eu gwneud ynghylch iechyd a lles y person gydol y flwyddyn – er enghraifft, trefnu pigiadau ffliw neu waith deintyddol pwysig.

  • sut gawsoch chi gan y person i ymwneud (os yn bosibl) yn y penderfyniadau

  • gyda phwy arall y buoch yn ymgynghori ynghylch gwneud penderfyniadau

Bydd yr OPG yn anfon ffurflen adroddiad atoch i’w chwblhau cyn mae fod ei chy wyno. Os na fyddwch yn anfon eich adroddiad pan fydd yr OPG yn gofyn amdano, neu os oes gan yr OPG bryderon eraill amdano, byddwn yn adolygu eich swyddogaeth dirprwy.

Yn y pen draw gallai hyn arwain atom yn gwneud cais i’r Llys Gwarchod gael gwared ohonoch fel dirprwy a phenodi dirprwy arall yn eich lle.

Os mai chi yw dirprwy’r person ar gyfer penderfyniadau eiddo ac arian hefyd, medrwch gyflwyno’r adroddiad hwnnw ar-lein yn awr. Bydd dirprwyon lles personol yn medru adrodd ar-lein cyn hir – cewch wybod pryd.

Mae gan God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol (MCA) 2005 lawer mwy o fanylion ac enghreifftiau ynghylch sut medr diprwyon weithredu.

Medrwch archebu copi neu ei lawrlwytho.

4.Eich swyddogaeth fel dirprwy

Beth yw ystyr galluedd meddyliol?

‘Galluedd meddyliol’ yw’r gallu i wneud penderfyniad penodol ar yr adeg mae angen iddo gael ei wneud. Mae gan berson â galluedd meddyliol o leiaf dealltwriaeth cyffredinol o:

  • ‘r penderfyniad y mae’n rhaid iddynt ei wneud

  • pam mae angen iddynt ei wneud

  • unrhyw wybodaeth berthnasol i’r penderfyniad

  • canlyniadau tebygol y penderfyniad

Dylent fedru dweud wrth bobl eraill am eu penderfyniad ar lafar, trwy ystumiau neu ffyrdd eraill megis offer sydd yn gweithio yn ôl llais.

Gall pobl wneud rhai mathau o benderfyniadau weithiau ond heb y galluedd meddyliol i wneud penderfyniadau eraill. Er enghraifft, gall rhywun benderfynu beth hoffent ei gael i ginio ond heb ddeall pam y dylent gael triniaeth feddygol neilltuol.

Galluedd meddyliol pump egwyddor

Mae Deddf Galluedd Meddyliol 2005 – sydd yn rheoli beth gall dirprwyon ei wneud – yn gosod pum rheol ynghylch galluedd meddyliol. Mae’r rheolau yn effeithio arnoch chi fel dirprwy yn y ffyrdd hyn:

  1. Dylai’r person wneud penderfyniadau drostynt eu hunain oni bai eich bod yn medru dangos eu bod yn analluog i’w gwneud.

  2. Dylech roi’r holl gymorth sydd eu angen arnynt i wneud penderfyniad cyn penderfynu na fedrant wneud y penderfyniad hwnnw.

  3. Os yw’r person yn gwneud beth sy’n ymddangos yn benderfyniad annoeth neu ryfedd, nid yw hynny’n golygu eu bod yn brin o’r galluedd i’w wneud. (Mae llawer o bobl yn gwneud penderfyniadau annoeth o bryd i’w gilydd.)

  4. Rhaid i unrhyw benderfyniad rydych yn ei wneud fod er eu budd pennaf – pwynt pwysig iawn a eglurir yn fwy manwl isod.

  5. Dylai unrhyw beth rydych yn ei wneud ar ran person sydd yn brin o alluedd meddyliol gyfyngu cyn lleied â phosibl ar eu hawliau sylfaenol.

Sut medraf i gynorthwyo’r person i wneud penderfyniad ei hun?

Gall fod gan berson alluedd meddyliol ran o’r amser ond nid drwy’r amser. Os yw’r person fel arfer yn fwy bywiog gyda’r nos, efallai mai dyna’r adeg orau i’w cynnwys mewn penderfyniadau.

Gall y person hefyd fod yn fwy ymatebol os ydych yn dewis y lleoliad iawn i ofyn am benderfyniadau – gartref, efallai, yn hytrach na mewn amgylchedd anghyfarwydd. Gallech hefyd ddefnyddio ffyrdd eraill i gyfathrebu. Ceisiwch ddefnyddio lluniau neu iaith arwyddion i egluro penderfyniad, er enghraifft.

Weithiau bydd y person ond angen mwy o amser i chi egluro penderfyniad.

Enghraifft: Cynorthwyo rhywun i wneud penderfyniad

Roedd Michael wedi dioddef niwed difrifol i’w ymennydd yn dilyn damwain yn y gwaith a nawr mae’n drysu ac yn mynd yn rhwystredig ynghylch gwneud llawer o benderfyniadau. Mae e’n byw gyda’i chwaer, Sally, sydd wedi ei phenodi gan y Llys Gwarchod fel ei ddirprwy lles.

Cyn ei ddamwain, roedd gan Michael gryn ddiddordeb mewn ffasiwn ac mae ganddo gasgliad mawr o ddillad. Mae Sally yn meddwl y byddai’n dda i Michael benderfynu beth y dylai wisgo bob dydd – mae’n meddwl y gallai wneud iddo deimlo’n well. Fodd bynnag, pan mae hi’n gofyn iddo am hyn yn y bore wrth iddo wisgo, mae’n cael y dewis yn ddryslyd ac mae’n gynnwrf i gyd.

Mae Sally’n cofio bod Michael weithiau yn ymddangos yn fwy effro a medrus yn ddiweddarach yn y dydd. Mae’n ceisio gofyn iddo gyda’r nos pa ddillad yr hoffai wisgo y diwrnod canlynol. Nawr gall Michael egluro’n fwy clir o lawer beth yr hoffai wigs.

Sut ydw i’n gweithio allan beth yw budd pennaf y person?

Dywed y gyfraith bod yn rhaid i chi weithio er budd pennaf y person bob amser. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi wneud penderfyniadau er budd y person ac nid o angenrheidrwydd eich budd chi nac unrhyw un arall.

Wrth weithio allan beth yw budd pennaf y person, cofiwch:

  • eu dymuniadau yn y gorffennol a’r presennol

  • eu credoau a’u gwerthoedd

  • barn aelodau’r teulu a gofalwyr

  • a fyddant o bosibl yn adfer eu galluedd meddyliol ac a fedrech oedi’r penderfyniad tan hynny

Cyfarfodydd budd pennaf

Os yw penderfyniad o fewn eich maes cyfrifoldeb chi, a’i fod yn ddyrys neu ar bwnc na wyddoch chi lawer amdano, medrwch alw ‘cyfarfodydd budd pennaf’.

Fel rhan o’r cyfarfodydd hyn, mae grŵp o bobl sydd yn ymwneud â gofal y person yn dod ynghyd i rannu eu barn ar y dull gorau o weithredu. Gall y broses hon eich helpu i wneud penderfyniad er budd pennaf y person.

Eraill sydd yn gwneud penderfyniadau

Dydych chi ddim yn penderfynu popeth ar gyfer y person – medrwch ond gwneud penderfyniadau yn y meysydd a nodir gan eich gorchymyn llys.

Mae’r gyfraith yn rhoi grym gwneud penderfyniadau i’r person, hefyd. Er enghraifft, gall meddyg benderfynu a yw triniaeth er budd pennaf y person neu gall perthynas wneud penderfyniadau o ddydd i dyed.

Am benderfyniadau nad ydynt yn disgyn arnoch chi, efallai bydd yr un sy’n gwneud penderfyniadau yn ymgynghori â chi. Os ydych yn anghytuno â phenderfyniad y meddyg, er enghraifft, medrwch ofyn i’r Llys Gwarchod ei ystyried.

Dylech osgoi dod i gasgliadau am fudd pennaf y person yn unig ar sail eu hoedran, cefndir ethnig, ymddangosiad cyffredinol, rhyw neu rywioldeb.

Ni ddylech wahaniaethu yn erbyn y person ychwaith – eu trin yn waeth – am unrhyw un o’r rhesymau hyn. Dylech ystyried budd pennaf y person fel unigolyn bob amser.

Am ragor ynghylch budd pennaf, gweler pennod 5 o God Ymarfer y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Penderfyniadau na all unrhyw un eu gwneud ar gyfer y person

Mae rhai penderfyniadau personol iawn na all unrhyw un eu gwneud ar gyfer y person. Fedrwch chi ddim:

  • atal triniaeth sydd wedi ei hanelu at gadw’r person yn fyw (‘triniaeth cynnal-bywyd’)

  • penderfynu pwy mae’r person yn ei briodi neu ysgaru

  • atal y person rhag cael cyswllt gyda phobl

  • penderfynu ar gyfer pwy mae’r person yn pleidleisio mewn etholiad cyhoeddus

5.Beth ddylwn i ei wneud os…? Rhai penderfyniadau cyffredin fel dirprwy lles personol

Mae mwy nag un dirprwy

Weithiau bydd y Llys Gwarchod yn penodi dau ddirprwy neu fwy ar gyfer yr un person.

Bydd y llys yn dweud wrthych sut i wneud penderfyniadau os nad chi yw’r unig ddirprwy. Bydd naill ai:

  • gyda’ch gilydd (a elwir, gan amlaf, ‘ar y cyd’), sydd yn golygu bod yn rhaid i’r holl ddirprwyon gytuno ar benderfyniadau

  • yn unigol neu gyda’ch gilydd (a ewlir gan amlaf yn ‘ar y cyd neu’n unigol’), sydd yn golygu y gall dirprwyon wneud penderfyniadau ar eu pennau eu hunain neu gyda dirprwyon eraill

Rwyf angen penderfynu lle mae’r person yn byw

Gall eich gorchymyn llys ddatgan y medrwch chi, fel dirprwy, benderfynu lle mae’r person yn byw. Dylech benderfynu hyn trwy weithio gyda theulu, ffrindiau a darparwyr gofal eraill.

Dylech:

  • ymchwiilio i lety sydd yn gymwys ar gyfer y person, os ydynt yn talu am eu gofal eu hunain

  • os nad yw’r person yn talu am eu gofal, gweithiwch yn agos gyda’r awdurdod lleol i sicrhau bod eu llety yn gweddu orau i’w hanghenion; os oes problem, trafodwch hi gyda gwasanaethau cymdeithasol a staff gofal

  • llofnodwch y dogfennau angenrheidiol ar ran y person

Ond ni ddylech:

  • symud y person i le arall heb ymgynghori ac eraill megis aelodau o’r teulu, gweithwyr iechyd proffesiynol, staff gofal a gwasanaethau cymdeithasol

Os oes anghytundeb, efallai gall cyfarfod budd pennaf helpu ei ddatrys. Os nad yw hynny’n helpu, efallai bydd angen i chi ofyn i’r Llys Gwarchod benderfynu.

Enghraifft: Gwneud penderfyniadau ar y cyd ynghylch trefniadau byw

Mae Stephanie a Simon wedi eu penodi yn ddirprwyon lles personol ar y cyd ar gyfer eu brawd, Anthony, sydd ag anawsterau dysgu difrifol. Arferai Anthony fyw gyda’i rieni, ond maent wedi marw.

Un o dasgau cyntaf Stephanie a Simon yw penderfynu lle dylai Anthony fyw. Oherwydd eu bod wedi eu penodi yn ddirprwyon lles personol ar y cyd, rhaid iddynt gytuno ar bob penderfyniad iechyd a lles maent yn eu gwneud ar gyfer eu brawd.

Mae Simon yn meddwl bod anawsterau Anthony ynghylch gofalu amdano ei hun yn ddigon difrifol fel y dylai symud i gartref gofal. Mae Stephanie yn dweud y byddai bwy gyda dieithriaid yn peri gofid i Anthony ac mae hi’n meddwl y byddai’n well pe byddai’n byw gyda Simon neu hi – os medrent ddelio â hyn.

Ar ôl gwneud pob ymdrech i gael barn Anthony, mae’r teulu’n cwrdd i drafod y materion gerbron. Mae’r dirprwyon yn gwrando ar aelodau eraill y teulu cyn cytuno y byddai er budd pennaf Anthony i symud i gartref gofal, ble gall gael y gofal sydd ei angen arno.

Mae’r teulu yn cytuno i ymweld yn aml ag Anthony yn ei gartref newydd.

Mae angen i fi weithio’n gyson gyda darparwyr gofal

Mae darparwyr gofal sydd yn debgyol o gael cyswllt rheolaidd gyda chi a’r person yn cynnwys:

  • gweithwyr cymorth

  • gweithwyr preswyl

  • cymorth yn y cartref

  • cynorthwywyr personol

  • staff nyrsio

Mae gan ddarparwyr gofal cofrestredig ddyletswydd i ddarparu gofal ar gyfer y person, yn dilyn y cynllun gofal.

Efallai bydd y person mewn cartref gofal eisoes pan fydd y gorchymyn llys yn dechrau. Os felly, bydd gan weithwyr proffesiynol y cartref gofal eisoes gyfrifoldeb am ofal dydd-i-ddydd y person.

Dylech:

  • ddweud wrth y staff am ddymuniadau’r person yn y gorffennol a’r rhai presennol ynghylch eu gofal i’w helpu i deilwra eu cymorth

  • os yn bosibl, ceisiwch gael y person i drafod ynghylch eu gofal eu hunain

  • codwch unrhyw gwestiynau neu bryderon sydd gennych ynghylch y cynllun gofal ar unwaith; peidiwch â gadael iddynt grynhoi

Ond ni ddylech:

  • ddweud wrth staff am gynnig gofal nad yw wedi ei gytuno. Gellir newid cynlluniau gofal – ond rhaid cytuno ar hyn ymhlith pawb perthnasol

Enghraifft: Gweithio gyda darparwyr gofal

Menyw oedrannus â chlefyd Alzheimer yw Emily; mae’n byw mewn cartref gofal. Ei brawd, Bert, yw ei dirprwy lles personol.

Mae Emily yn dioddef niwed mân wrth grwydro o gwmpas y cartref yn oriau mân y bore. Mae Bert yn gofidio y gallai hyn ddigwydd eto. Mae e’n gofyn i nyrs a oes modd goruchwylio Emily yn fwy manual.

Dywed y nyrs y medrant osod synwyryddion symud a larymau drws yn ystafell Emily i dynnu sylw’r staff os bydd hi’n crwydro yn y nos. Fel hyn, ni fyddai hi dan glo ond byddai’r staff yn medru gweithredu pe byddai’n gadael ei hystafell.

Mae Emily, Bert, rheolwr y cartref gofal a meddyg Emily yn trafod pa ddull o ymateb fyddai’n cyfyngu leiaf ar ryddid a hawliau Emily. Maent yn pwyso a mesur y manteision a’r anfantesion ac yn cytuno mai gosod synwyryddion a larymau fyddai er budd pennaf Emily.

Creu llyfr stori

Un ffordd o helpu darparwyr gofal i ofalu am y person mewn dull mwy personol yw i baratoi ‘stori fy mywyd’ gyda lluniau a gwybodaeth am gefndir y person. Gall gynnwys:

  • swyddi maent wedi eu cael a’u cy awniadau

  • beth maent a beth nad ydynt yn eu hoffi

  • eu hoff fwydydd a cherddoriaeth

  • pobl sydd yn bwysig yn eu bywydau

Rwyf angen gwneud penderfyniadau ynghylch diet a gwisg y person

Dylai penderfyniadau ynghylch gofal o ddydd-i-ddydd gynnal y person ac ni ddylai gael ei ddefnyddio fel modd o reoli eu hymddygiad, hyd yn oed os yw’n anodd. Cofiwch bod y Llys Gwarchod wedi rhoi’r grymoedd hyn i chi i barchu hoffterau’r person.

Dylech:

  • siarad â’r person ynghylch eu hoff fwydydd a dillad (os yn bosibl)

  • ddweud wrth y staff neu ddarparwyr gofal am hoffterau’r person ac unrhyw ofynion crefyddol ynghylch diet a gwisg

  • brynu’r brandiau dillad roedd y person yn eu hoffi a thrafodwch hyn mewn cyfarfodydd cynllunio neu adolygu; os oes problem gyda’r dillad mae staff y cartref gofal yn eu gwisgo am y person, trafodwch hyn gyda’r staff a’r rheolwr

Ond ni ddylech:

  • fynd a’r person i’w hystafell a newid eu dillad ar bob ymweliad
  • ddal yn ôl unrhyw fwyd neu ddiod a roddwyd i’r person gan y darparwyr gofal heb yngynghoriad

Enghraifft: Gwneud penderfyniadau ynghylch diet

Mae gan Jacob dementia ac mae’n byw mewn cartref nyrsio. Cyn colli galluedd, nid oedd byth yn bwyta pwdin ar ôl pryd o fwyd. Fodd bynnag, mae wedi sylwi ar bobl eraill yn y cartref gofal yn mwynhau pwdinau ac mae’n dweud wrth staff ei fod yntau am ddechrau bwyta pwdinau.

Carol mab Jacob yw ei ddirprwy lles personol. Mae Carol yn go dio am ei dad yn ennill pwysau, am fod ganddo gy wr ar ei galon. Mae Carol yn gofyn i reolwr y cartref nyrsio roi’r gorau i gynnig pwdinau i’w dad.

Mae’r rheolwr yn awgrymu cyfarfod gyda Jacob a Meddyg Teulu Jacob. Mae’r pedwar ohonynt yn eistedd ac yn cytuno y gellir cynnig ffrwythau i Jacob a phwdin bach ar ôl cinio. Mae hyn yn golygu y gall Jacob fwynhau ei fwyd heb waethygu cy wr ei galon.

Mae angen i mi wneud penderfyniadu ynghylch gweithgareddau hamdden a chymdeithasol y person.

Pan yn gwneud penderfyniadau o’r math hwn, meddyliwch am hoffterau’r person yn y gorffennol a sut maent yn ymateb yn awr yn ystod gweithgareddau.

Dylech:

  • os yn bosibl, gynnwys y person mewn trafodaethau ynghylch gweithgareddau hamdden a’r tripiau byddent yn eu hoffi

  • drefnu gweithgareddau roedd y person yn arfer eu gwneud, megis trip i’r theatr, sinema, sŵ, bingo, parc neu gyngerdd

  • roi gwybod i staff y cartref gofal os oes yna bethau nad oedd y person yn hoffi eu gwneud

Ond ni ddylech:

  • gau’r person allan o drafodaethau ynghylch eu gweithgareddau hamdden a chymdeithasol, hyd yn oed os yw hi’n anodd eu dwyn i mewn

  • eu hatal rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau hamdden a chymdeithasol y byddent yn eu mwynhau

Enghraifft: Penderfynu ar weithgareddau cymdeithasol

Mae Isabella, menyw ifanc ag anawsterau dysgu difrifol, yn byw gartref gyda’i rhieni – sydd yn ddirprwyon iddi – ac yn mynychu canolfan weithgareddau sawl diwrnod yr wythnos.

Byddai staff y ganolfan yn hof mynd â rhai o’r bobl sydd yn mynychu ar drip. Maen nhw’n siarad â rhieini Isabella.

Mae ei rhieni yn meddwl y byddai trip yn dda iddi. Fodd bynnag, maent yn go dio am fod Isabella yn gallu teimlo’n ofnus pan fydd pobl ddieithr o’i chwmpas.

Mae’r staff yn ceisio cynnwys isabella yn y penderfyniad ond nid yw hi’n ymateb. Yna mae rhieni Isabella a’r staff yn cwrdd ac yn cytuno bod trip er ei budd pennaf, cyhyd â bo gweithiwr cynnal yn mynd gyda hi i gynorthwyo os bydd yn gofidio gormod.

Gofynnir i mi gytuno i driniaeth feddygol i’r person.

Rhaid i’ch penderfyniadau ynghylch triniaeth y person fod yn unol â’r gorchymyn llys, er budd pennaf y person a’u cyfyngu cyn lleied â phosibl.

Dylech:

  • lofnodi ffurflenni ‘cydsynio i’r driniaeth’ ar ran y person – gan gofio eu dymuniadau yn y gorffennol

  • rannu unrhyw hoffterau mae’r person wedi son amdanynt neu eu hysgrifennu gyda staff gofal

  • sicrhau bod gan y staff gopïau o unrhyw benderfyniad ymlaen llaw i wrthod triniaeth (gelwir hyn weithiau yn ‘gyfarwyddeb ymlaen llaw’ neu ‘ewyllys y byw’) neu unrhyw ddatganiad ysgrifenedig o ddymuniadau a hoffterau, megis datganiad ymlaen llaw

  • ddilyn dymuniadau’r person, hyd yn oed os ydych yn angytuno â hwy

Ond ni ddylech:

  • osod eich dewisiadau meddygol eich hun – rhaid i chi wneud penderfyniadau ar sail hoffterau’r person yn y gorffennol a’u budd pennaf

  • drin y person eich hun neu newid meddyginiaeth a ragnodwyd neu driniaeth – rhaid i chi gytuno ar newidiadau gyda staff gofal iechyd

  • os yw’r person mewn cartref gofal, newid padiau dal dŵr, roi meddyginiaeth neu newid rhwymau heb ofyn i’r rheolwr

Cofiwch: yr allwedd i weithredu er budd pennaf y person yw i weithio gyda phawb arall sydd ynghlwm â’u gofal.

Enghraifft: Penderfynu am driniaeth

Mae gan Peter anawsterau dysgu difrifol ac ni fedr gyfathrebu yn dda. Ei rieni yw ei ddirprwyon iechyd a lles.

Mae Peter yn clwyfo ei goes tra yn yr awyr agored; mae baw yn y clwyf. Mae’r meddyg eisiau rhoi pigiad tetanus iddo ond mae’n ymddangos bod Peter yn ofni’r nodwydd ac mae’n brwydro yn ei herbyn.

Mae’r meddyg yn trafod gallu Peter i wneud ac i ddeall penderfyniadau gyda’i rieni. Maent yn credu nad yw’n deall y risg i’w iechyd, er eu bod wedi ceisio egluro. Ni fedr Peter wneud y penderfyniad.

Mae’r meddyg yn penderfynu ei bod er budd pennaf Peter iddo gael y brechiad. Mae’n gofyn i nyrs gysuro Peter ac, os oes angen, i’w rwystro trwy dal ei ddwylo, tra ei bod hi’n rhoi’r pigiad iddo.

Rwyf angen rhannu manylion personol am y person

Mae gan ddiprwyon ‘ddyletswydd cyfrinachedd’ i beidio â datgelu manylion materion y person oni bai:

  • bod y person wedi cytuno i hyn pan oedd ganddynt alluedd

  • bod yr OPG yn gofyn am yr wybodaeth

  • bod yna reswm da arall (er enghraifft, gall y person neu rywun arall gael niwed os na fyddwch yn gwneud)

Dylech ddal i ymgynghori ag eraill – ffrindiau a theulu’r person, arbenigwyr meddygol neu arbenigwyr eraill – wrth gyflawni eich dyletswyddau fel dirprwy os yw er budd pennaf y person i wneud hynny.

Rwyf am drosglwyddo fy nyletswyddau fel dirprwy i rywun arall

Er y medrwch ofyn am gyngor gan eraill, megis meddygon a staff gofal, am iechyd a gofal y person, dywed y gyfraith na all dirprwyon fel arfer ymddiried awdurdod (trosglwyddo) gwneud penderfyniadau i rywun arall.

Gall rhwyun arall gymryd eich dyletswyddau dirprwy yn unig os bydd y gorchymyn llys yn dweud y medrant wneud mewn rhai meysydd.

Fel arall, yn y pen draw mae’n rhaid i chi fel dirprwy wneud y penderfyniadau a bod yn gyfrifol amdanynt.

Rwyf eisiau hawlio costau fel dirprwy neu gael fy nhalu

Gall dirprwyon iechyd a lles hawlio costau rhesymol am bethau sydd yn gysylltiedig yn union â gweithredu eich swyddogaeth fel dirprwy, megis galwadau ffôn, costau postio ac unrhyw gostau teithio angenrheidiol.

Ni fedrwch hawlio costau teithio am ymweliadau cymdeithasol yn unig â’r person, am fod y rhain yn disgyn y tu allan i’ch dyletswyddau fel dirprwy a dan eich swyddogaeth fel ffrind neu aelod o’r teulu.

Ni fedrwch ychwaith hawlio am yr amser rydych yn treulio yn cy awni eich dyletswyddau, oni bai eich bod yn ddirprwy proffesiynol. Ni chaiff dirprwyon ‘lleyg’ (heb fod yn broffesiynol) eu talu.

Bydd angen i chi hawlio treuliau oddi wrth bwy bynnag sydd yng ngofal arian y person. Fe allant fod yn ddirprwy ar gyfer penderfyniadau ariannol, wedi eu penodi ar wahân gan y Llys Gwarchod, neu rywun arall.

Dylech gadw derbynebau a datganiadau banc fel cofnod o’ch gwario.

Ni fedr dirprwyon ddefnyddio eu sa e er eu budd eu hunain. Gall Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) ofyn i chi egluro eich treuliau yn addroddiad y dirprwy.

Os ystyrir bod eich treuliau yn afresymol, efallai bydd yn rhaid i chi eu had-dalu. Mewn achosion eithafol, gellir eich gollwng fel dirprwy (y Llys Gwarchod yn cael gwared ar eich swyddogaeth fel dirprwy).

Mae anghytundeb ynghylch fy swyddogaeth fel dirprwy

Weithiau bydd dadlau ac anghytuno yn digwydd ynghylch penderfyniadau dirpwy iechyd a lles. Gall dadleuon ddigwydd rhwng y dirpwy a’r person neu gydag eraill sydd â diddordeb yn y person, megis aelodau o’r teulu.

Os ydych yn agored ac yn cynnwys eraill yn eich penderfyniadau, mae problemau yn llai tebygol o ddigwydd.

Dylai dirprwyon ac eraill sydd yn rhan o’r dadlau geisio yn gyntaf dod i gytundeb ymhlith ei gilydd.

Os nad yw hynny’n gweithio, cysylltwch â’r OPG am gyngor.

Bydd angen i chi gofnodi unrhyw anghydfod, a manylion o’r ffordd y cawsant eu datrys, yn eich adroddiad dirprwy.

6.Sut byddaf yn cael fy arolygu fel dirprwy?

Swyddogaeth Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus (OPG) yw i gynghori a chefnogi dirprwyon a diogelu pobl sydd yn brin o alluedd meddyliol rhag camdriniaeth neu ymelwa.

Mae’r OPG yn teilwra ei arolygiaeth o’ch swyddogaeth fel dirprwy i gwrdd â’ch anghenion chi a’r person. Mae arolygiaeth yn cynnwys cyngor dros y ffôn oddi wrth yr OPG, cefnogaeth gan ymwelwyr proffesiynol ac adroddiadau dirprwy yn flynyddol neu’n fwy aml.

Medrwch alw canolfan gyswllt yr OPG ar 0300 456 0300 i drafod unrhyw un o’r materion a godir yn y llyfryn hwn.

Diogelu’r person

Swyddogaeth arall yr OPG yw diogelu’r person yr ydych yn gwneud penderfyniadau ar ei rhan/ran. Mae camdrin person yn unrhyw beth sydd yn mynd yn erbyn eu hawliau dynol a sifil. Gall fod yn fwriadol neu gall ddigwydd am nad yw dirprwy yn gwybod sut i ymddwyn yn gywir neu’n brin o’r cymorth cywir a’r gefnogaeth.

Gall camdrin swyddogaeth dirprwy iechyd a lles gynnwys:

  • trais, megis gwthio neu roi slap i person

  • cynnwys y person mewn gweithredoedd rhywiol heb eu caniatâd

  • bygwth y person

  • gwthio eich credoau eich hun ar y person

  • cosbi’r person am iddynt fod yn ‘ddrwg’

  • atal y person rhag cysylltu â phobl eraill

  • esgeuluso’r person, megis peidio â darparu meddyginiaeth neu fwyd

Ymwelwyr y Llys Gwarchod

Weithiau bydd yr OPG yn trefnu bod ymwelwyr y Llys Gwarchod yn cwrdd â’r person a’u dirprwy(on) i weld sut mae’r swyddogaeth dirprwy yn mynd ac a oes anen rhagor o gefnogaeth arnoch. Ar achlysuron prin, efallai bydd gofyn i ymwelydd ymchwilio i gamdriniaeth dybiedig o’r person.

Yn ogystal â siarad â chi a’r person, efallai bydd ymwelwyr yn cysylltu ag eraill sydd ynghlwm â’r swyddogaeth dirprwy, megis aelodau o’r teulu neu staff meddygol.

Fel dirprwy, mae’n rhaid i chi dderbyn ymwelydd o’r llys a rhoi unrhyw wybodaeth mae’n gofyn amdano.

Ymchwiliadau

Os yw’r OPG yn credu nad ydych yn gweithredu er budd pennaf y person, byddwn yn ymchwilio. Gall ymchwiliadau gymryd peth amser, yn dibynnu ar ba mor ddyrys y gallant fod.

Tra bod ymchwiliad yn para, bydd yr OPG yn gweithio gyda phawb sydd ynghlwm i sicrhau bod budd pennaf y person yn cael y sylw dyledus.

Fodd bynnag, os yw’r OPG yn drwgdybio dirprwy o gamdriniaeth neu esgeulustod, efallai byddwn yn adrodd am y mater wrth yr heddlu.

Canlyniadau ymchwiliad

Yn dilyn ymchwiliad, gall yr OPG arolygu eich swyddogaeth dirprwy yn fwy agos a chysylltu â chi yn fwy aml. Mae hyn er mwyn sicrhau bod yr OPG yn cynnig y lefel cywir o gefnogaeth ac yn gweithio ar y cyd a chi er budd pennaf y person.

Os yw’r ymchwiliad yn canfod nad ydych yn gweithredu er budd pennaf y person neu eich bod wedi camddefnyddio eich sa e fel dirprwy, gall yr OPG ofyn i’r Llys Gwarchod eich gollwng fel dirprwy (cael gwared ar eich swyddogaeth dirprwy).

Diogelu

Ystyr ‘diogelu’ yw gwarchod y person rhag niwed. Cysylltwch â’r OPG os oes gennych bryderon ynghylch y person rydych yn gyfrifol am:

e-bost

opg.safeguardingunit@publicguardian.gov.uk

ffôn

0115 934 2777

ffôn testun

0115 934 2778

Byddwn yn ateb eich galwad Llun i Gwener, 9am tan 5pm, ar wahân i ddydd Mercher, 10am tan 5pm.

Ffoniwch 999 os oes rhywun mewn perygl uniongyrchol neu’ch heddlu lleol os ydych yn meddwl bod rhywun wedi cyflawni trosedd.

7.Newid eich swyddogaeth fel dirprwy

Rhaid i chi wneud cais i’r Llys Gwarchod os oes yn rhaid i chi:

  • newid eich swyddogaeth dirprwy, er enghraifft i wneud penderfyniadau nad ydynt yn y gorchymyn gwreiddiol

  • wneud penderfyniad untro ar rywbeth nad yw wedi ei gynnwys gan y gorchymyn

  • adnewyddu eich swyddogaeth dirprwy (os oes dyddiad terfyn Arno)

I wneud cais, mae angen i chi lenwi ffurflen gais (COP1) a datganiad tyst (COP24) gyda manylion arian cyfredol y person a pham rydych yn gwneud y cais. Yna rydych yn anfon y ffurflenni i’r llys gyda siec am y ffi o £371, wedi ei dalu o gronfa’r person.

Medrwch wneud cais am gymorth i dalu’r ffi os yw’r person yn cael budd-daliadau neilltuol neu os yw ar incwm isel.

Am ffurflenni a gwybodaeth ynghylch newid eich swyddogaeth dirprwy

8.Pryd mae swyddogaeth dirprwy yn gorffen?

Mae eich swyddogaeth dirprwy yn gorffen pan fydd un o’r pethau canlynol yn digwydd:

  • Y person yn adfer galluedd meddyliol. Os yw hyn yn digwydd, llenwch ffurflen COP9 a’i hanfon at y Llys Gwarchod gydag unrhyw dystiolaeth atodol, er enghraifft llythyr meddyg

  • Rydych yn penderfynu camu i lawr. I wneud hyn, gwnewch gais i’r llys gyda ffurflen COP1. Bydd y llys yn cymryd camau i benodi dirprwy newydd.

  • Mae’r person yn marw. Dywedwch wrth yr OPG, a byddwn yn egluro beth i’w wneud nesaf. Bydd angen i chi gyflwyno tystiolaeth, megis tystygrif marwolaeth.

  • Os yw diprwy yn marw (os yw’n swyddogaeth dirprwy unigol neu ar y cyd). Dylai eich cyfreithiwr neu ysgutor ddweud wrth yr OPG, a bydd yn rhaid penodi dirprwy newydd

Medrwch ganfod ffurflenni a gwybodaeth atodol i roi terfyn ar eich swyddogaeth dirprwy. Neu ffoniwch OPG ar 0300 456 0300 (yn y Saesneg) neu’r llys gwarchod ar 0300 456 4600.

9.Rhestr wire dirprwy

Efallai byddwch eisiau argraffu’r rhestr wirio hon a’i chadw yn rhywle amlwg i’ch atgoffa o’ch tasgau fel dirprwy.

  • Rwyf wedi dod i adnabod y person, gan gynnwys siarad â’u ffrindiau a’u teulu os oes angen

  • Rwy’n deall amodau fy ngorchymyn llys ac nid oes gwallau ynddo. (Os oedd yna wallau, rwyf wedi dweud wrth y Llys Gwarchod)

  • Rwyf wedi rhoi gwybod i’r unigolion a’r sefydliadau cywir – megis meddygon, gweithwyr cymdeithasol a staff gofal – mai fi yw’r dirprwy

  • Rwy’n cadw cofnod o’m penderfyniadau iechyd a lles fel dirprwy

  • Rwy’n deall sut mae gweithio gyda darparwyr gofal proffesiynol

  • Rwy’n deall beth yw ystyr galluedd meddyliol a sut i wneud penderfyniadau er budd pennaf y person

  • Rwy’n gwybod am y ffioedd – ar gyfer asesu ac arolygu dirprwyon – sydd yn rhaid i mi eu talu i’r OPG

  • Rwy’n gwybod bod yn rhaid i mi gy wyno adroddiad i’r OPG pan ofynnir i mi wneud i ddangos y penderfyniadau iechyd a lles rwyf wedi eu gwneud fel dirprwy

10.Deall y jargon

Budd pennaf

Dylai dirprwyon, ar bob achlysur, ystyried pa weithredu sydd er budd pennaf y person pan yn gwneud penderfyniad. Dylech hefyd ystyried dymuniadau’r person yn y gorffennol a’r presennol a meddwl am yngynghori ag eraill. Am ragor ar y budd pennaf, gweler ‘Sut ydw i’n gweithio allan beth yw budd pennaf y person?’.

Bwrdd diogelu oedolion

Mae’n rhaid i bob awdurdod lleol gael bwrdd diogelu oedolion. Mae byrddau diogelu yn adolygu achosion lle drwgdybir bod rhywun yn cael ei gamdrin/chamdrin neu esgeuluso.

Camdriniaeth

Mae camdriniaeth yn digwydd pan fydd rhywun yn troseddu yn erbyn hawliau dynol neu hawliau si l rhywun arall. Gall camdriniaeth gynnwys un weithred neu gweithredoedd a ailadroddir. Gall hefyd fod yn esgeulustod neu fethiant i weithredu.

Cartref gofal

Cartref sydd wedi ei gofrestru gyda’r Comisiwn Ansawdd Gofal, neu’r Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol yng Nghymru, sydd yn dapraru llety â gofal personol megis cymorth gyda golchi a gwisgo. Mae cartref gofal gyda nyrsio – a elwir hefyd yn ‘gartref nyrsio’ – yn darparu gofal nyrsio a phersonol.

Cartref nyrsio

Cartref gofal sydd yn darparu gofal nyrsio (gyda, gan amlaf, o leiaf un nyrs gofrestredig ar ddyletswydd). Gelwir hefyd yn ‘gartref gofal gyda nyrsio’.

Cleient

Term a ddefnyddir weithiau ar gyfer y person sydd yn brin o alluedd meddyliol y mae’r Llys Gwarchod wedi eich penodi chi i wneud penderfyniadau iechyd a lles ar ei rhan/ran.

Cod Ymarfer

Mae canllaw i’r Ddeddf Galluedd Meddyliol. Medrwch archebu copi neu ei lawrlwytho Mae’r cod yn cynnwys llawer o wybodaeth ddefnyddiol i ddirprwyon.

Cynllun diogelu

Mae asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol, yn creu cynllun i ddiogelu person heb alluedd meddyliol sydd, yn eu barn hwy, mewn perygl o niwed.

Cynllun gofal

Cytundeb ysgrifenedig sydd yn gosod allan sut i ddarparu gofal ar gyfer y person rydych yn gwenud penderfyniadau ar eu cyfer.

Dementia

Term a ddefnyddir ar gyfer gwahanol fathau o salwch sydd yn effeithio ar yr ymennydd ac yn lleihau’r gallu i wneud tasgau dyddiol. Mae ‘dementia’ yn disgri o’r symptomau, nid y cy wr ei hun. Mae symptomau yn cynnwys:

  • colli cof

  • anhawster wrth ddeall pobl a chanfod y geiriau cywir

  • anhawster wrth gwblhau tasgau syml a datrys problemau mân

  • newidiadau mewn hwyliau a tharfu emosiynol

Dirprwy

Rhywun a benodwyd gan y Lys Gwarchod i wneud penderfyniadau ar ran person arall sydd yn brin o’r galluedd meddyliol i wneud y penderfyniadau hynny ei hunan. Gall dirprwy gael ei benodi/phenodi i wneud penderfyniadau ynghylch iechyd a lles, neu eiddo ac arian, neu’r ddau.

Gall dirprwyon fod yn lleyg, megis aelodau o’r teulu neu ffrindiau’r person sydd yn brin o alluedd meddyliol. Neu medrant fod yn broffesiynol, megis cyfreithwyr, cyfrifyddion neu weithwyr yr awdurdod lleol.

Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005

Cynlluniwyd y ddeddf hon i ddiogleu pobl na fedrant wneud eu penderfyniadau eu hunain. Gallai fod oherwydd cy wr iechyd meddwl, anhawster dysgu difrfol, niwed ar yr ymennydd neu strôc. Pwrpas y ddeddf yw i alluogi oedolion i wneud cynifer o benderfyniadau ag y medrant drostynt eu hunain ac i ddirprwy neu eraill wneud penderfyniadau ar eu rhan.

Eithriadau a chwtogiadau

Os oes gan y person incwm isel, gall y dirpwry wneud cais ar eu rhan am eithriad (dim talu ffi) neu gwtogiad (talu ffi is) ar gyfer f oedd asesu ac arolygu yr OPG.

Esgeulustod bwriadol

Methiant i weithredu gofal gan rywun â chyfrifoldeb am berson sydd yn brin o alluedd meddyliol i ofalu amdanynt eu hunain. Mae hyn yn drosedd dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.

Galluedd meddyliol

Y gallu i wneud penderfyniad am fater neilltuol ar yr adeg mae’n rhaid gwneud y penderfyniad hwnnw. Gosodir y dif niad cyfreithiol o berson sydd yn brin o alluedd meddyliol yn adran 2 y Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005. Am ragor ar alluedd meddyliol, gweler ‘Beth yw ystyr galluedd meddyliol?’ o’r canllaw hwn.

Gofal cartref

Gofal yn y cartref sydd yn cynorthwyo pobl i ymdopi gydag anabledd neu salwch a’u galluogi i gadw eu hannibyniaeth.

Gofal lleiaf cyfyngol

Os yw person yn brin o alluedd meddyliol, rhaid i benderfyniadau a wneir ar eu rhan barchu rhyddid gweithredu’r person a bod y dewis lleiaf cyfyngol. Mae hyn yn golygu cadw’r person yn ddiogel tra’n cyfyngu cyn lleied â phosibl ar eu hawliau a’u rhyddid.

Gweithiwr achos

Pobl sy’n cael eu talu i gynnal pobl a all fod yn oedrannaus neu’n sâl, neu sydd ag anawsterau corfforol neu ddysgu, neu broblemau emosiynol neu gymdeithasol, gyda thasgau bob dydd.

Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid

Trefniadau i atal pobl sydd yn brin o alluedd meddyliol rhag cael eu cyfyngu yn ddiangen pan fyddant mewn ysybyty, cartref gofal neu drefniant byw gyda chymorth.

Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus

Rhan o’r Weinyddiaeth Gy awnder sydd yn diogelu pobl yng Nghymru a Lloegr a all fod yn brin o’r galluedd i wneud penderfyniadau neilltuol drostynt eu hunaim, megis ynghylch eu hiechyd neu eu harian.

Ymwelydd y Llys Gwarchod

Rhywun sydd wedi ei benodi/phenodi i adrodd i’r Llys Gwarchod neu Swyddfa’r Gwarcheidwad Cyhoeddus ar sut mae dirprwyon yn cy awni eu dyletswyddau.