Form

Nodiadau ar sut i lenwi’r ffurlen gais am help i dalu ffioedd (COP44B)

Updated 6 October 2023

1. Pwy all gael help i dalu ffioedd y Llys Gwarchod?

Efallai na fydd yn rhaid i chi dalu ffi’r Llys Gwarchod, neu efallai y byddwch yn cael rhywfaint o arian oddi ar y ffi:

  • os oes gennych ond ychydig bach o gynilion a buddsoddiadau (dan £3,000) ac yn derbyn budd-daliadau penodol
  • eich bod ar incwm isel
  • os oes gennych Gronfa Ymddiriedolaeth Plant

Weithiau gelwir help gyda ffioedd yn ‘dileu ffi’.

Yn y Llys Gwarchod, yn dibynnu ar y math o achos sy’n dod gerbron y llys, gallwn asesu cymhwysedd i gael help i dalu ffioedd.

Os ydych yn gwneud cais iechyd a lles, rydym yn edrych ar sefyllfa ariannol yr unigolyn sy’n gwneud y cais ar ran yr unigolyn bregus. Os ydych yn gwneud cais eiddo a materion ariannol, rydym yn edrych ar sefyllfa ariannol yr unigolyn bregus.

Os ydych yn cael eich cynrychioli gan gyfreithiwr ar ffurf cymorth cyfreithiol, ni fyddwch yn gymwys i gael help i dalu eich ffioedd. Mae’r cyfreithiwr yn gyfrifol am dalu ffi’r llys, a gall y cyfreithiwr gael ad-daliad yn ddiweddarach gan yr Asiantaeth Cymorth Cyfreithiol.

1.2. Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os nad oes gan plentyn alluedd meddyliol i wneud cais am fynediad at Gronfa Ymddiriedolaeth Plant, yna gall rhiant neu warcheidwad wneud cais i gael mynediad ar eu rhan.

Nid oes rhaid i chi dalu ffi i gael mynediad at Gronfa Ymddiriedolaeth Plant os yw’r plentyn dan 18 oed ac mae ganddo/ganddi llai na £3,000 neu incwm misol o llai na £1,170. 

1.3. Help i dalu ffioedd ar gyfer Cronfa Ymddiriedolaeth Plant

Os ydych yn gwneud cais i gael mynediad at Gronfa Ymddiriedolaeth Plant ar ôl pen-blwydd y plentyn yn 18 oed, gallwch wneud cais am help i dalu ffi’r Llys Gwarchod un ai:

  • os yw balans y Gronfa Ymddiriedolaeth yn fwy na £3,000
  • os oes gan y plentyn incwm misol sy’n llai na £1,170

Os nad ydych yn gymwys i gael help i dalu ffioedd, efallai y gallwch wneud cais i ddileu’r ffi mewn amgylchiadau eithriadol. Mae hyn yn ôl disgresiwn y llys, a bydd rhaid i chi gysylltu â’r llys ymlaen llaw.

Gwybodaeth am y sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi (cwestiwn 1)

Mae angen y manylion hyn ar y Llys Gwarchod i adnabod yr unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi, yn ogystal â’r achos.

2. Eich manylion personol (cwestiwn 2)

Os yw’r achos yn ymwneud ag iechyd a lles personol, byddwn yn asesu eich cymhwysedd i gael help i dalu ffioedd yn seiliedig ar sefyllfa ariannol y ceisydd. Fodd bynnag, os yw’r cais yn ymwneud ag eiddo a materion ariannol, bydd cymhwysedd yn seiliedig ar sefyllfa ariannol yr unigolyn bregus.

Fel arfer, gallwch ddod o hyd i’ch rhif Yswiriant Gwladol ar lythyrau o’r ganolfan waith, eich slip cyflog, neu eich P60. Os na allwch ddod o hyd iddo, defnyddiwch ein adnodd i’ch helpu chi ddod o hyd i Rif Yswiriant Gwladol coll.

3. Ynglŷn â beth mae’r cais (cwestiwn 3)

Mae angen i chi ddweud wrthym a yw eich achos Llys Gwarchod yn ymwneud ag iechyd a lles personol, neu eiddo a materion ariannol unigolyn bregus.

Os yw’r achos yn ymwneud ag eiddo a materion ariannol, dylai’r wybodaeth a ddarperir yng nghwestiynau 6 i 11 fod yn seiliedig ar amgylchiadau’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi.

Ni ddylech roi tic yn y ddau blwch. Os fyddwch chi’n gwneud hynny, mae’n bosib yr anfonir eich gohebiaeth yn ôl atoch.

4. Rhif yr achos (cwestiwn 4)

Mae’r Llys Gwarchod yn creu cyfeirnod ar gyfer pob achos.

Os ydych eisoes wedi gwneud cais, yna fe welwch y cyfeirnod ar lythyrau gan y Llys Gwarchod.

Os nad oes gennych gyfeirnod (gallai hyn fod oherwydd nad yw’r achos wedi dechrau eto) gadewch y cwestiwn hwn yn wag.

5. Os yw’r ffi eisoes wedi’i thalu (cwestiwn 5)

Gallwch wneud cais i gael rhywfaint neu’r cyfan o’r ffi yn ôl o fewn 3 mis i’r gorchymyn terfynol gael ei gyhoeddi gan y Llys Gwarchod os ydych yn credu bod y sawl a dalodd y ffi wedi bod â hawl i gael ffi ostyngol ar yr adeg y talwyd y ffi.

Os ydych yn gwneud cais am ad-daliad, atebwch gwestiynau 6 i 11 gyda gwybodaeth am yr amgylchiadau ariannol ar yr adeg talwyd y ffi. Gyda’ch cais dylech anfon:

  • prawf eich bod wedi talu’r ffi
  • tystiolaeth o’ch statws budd-daliadau ar yr adeg talwyd y ffi (er enghraifft, llythyr o’r ganolfan waith)
  • tystiolaeth o’ch incwm ar yr adeg talwyd y ffi

Gweler yr adran incwm am restr o’r dogfennau mae arnoch angen eu darparu.

6. Cynilion a buddsoddiadau (cwestiynau 6 a 7)

Yn dibynnu ar y math o achos, dechreuwch trwy gyfrifo cyfanswm cynilion a buddsoddiadau’r unigolyn y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi.

Os yw’r achos yn ymwneud ag iechyd a lles personol a bod gennych bartner, cofiwch gynnwys cynilion eich partner hefyd. Os yw’r achos yn ymwneud ag eiddo a materion ariannol, peidiwch â chynnwys incwm partner y sawl sy’n talu’r ffi (os oes partner).

Gweler gwybodaeth am eich statws os nad ydych yn siŵr a ddylid cynnwys cynilion partner.

7. Beth i’w gynnwys mewn cynilion a buddsoddiadau:

  • arian mewn ISA ac unrhyw gyfrif cynilo arall
  • cyfrifon cynilo ar y cyd sy’n cael eu rhannu â phartner
  • bondiau cyfradd sefydlog neu fondiau buddsoddi
  • unrhyw gyfandaliad (er enghraifft, taliad diswyddo)
  • stociau a chyfranddaliadau
  • cronfeydd ymddiriedolaeth (neu unrhyw fath arall o gronfa)
  • cronfa ymddiriedolaeth plant neu Junior ISA sydd wedi aeddfedu ac a allai fod wedi’i drosi i gyfrif tebyg neu gyfwerth oherwydd bod deiliad y cyfrif wedi cyrraedd 18 oed
  • ail gartrefi
  • unrhyw arian neu eiddo y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Mewn achosion eiddo a materion ariannol os oes gan yr un y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi fynediad cyfyngedig i gynilion dylech hefyd dynnu unrhyw ddyled a ddelir.

7.1. Peidiwch â chynnwys

Peidiwch â chynnwys y canlynol yn eich cyfanswm cynilion:

  • cyflog neu fudd-daliadau
  • pensiynau personol
  • gwerth cyfalaf busnesau hunangyflogedig
  • benthyciadau myfyrwyr
  • dyfarniad am ddiswyddo annheg
  • arian o’r cynllun digolledu am anafiadau troseddol
  • dyfarniad am esgeulustod meddygol neu anafiadau personol
  • unrhyw iawndal o dan gynllun statudol mewn perthynas â Mesothelioma
  • cronfa ymddiriedolaeth plant neu Junior ISA os nad yw deiliad y cyfrif eisoes yn 18 oed

Os oes gennych chi (mewn achosion iechyd a lles personol) neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi (mewn achosion eiddo a materion ariannol) lai na £3,000 mewn cynilion, byddwch yn gallu cael help i dalu’r ffi, cyhyd â’ch bod yn derbyn budd-daliadau penodol (gweler isod) a’ch bod ar incwm isel.

Os oes gennych chi, neu os ganddyn nhw, fwy na £3,000 mewn cynilion mae’n annhebygol y byddwn yn gallu helpu i dalu’r ffi.

Os ydych chi (mewn achosion iechyd a lles personol) neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi (mewn achosion eiddo a materion ariannol) yn 61 oed neu’n hŷn ac yn meddu ar £16,000 neu lai mewn cynilion, efallai y byddwch yn gallu cael help i dalu’r ffi.

8. Budd-daliadau (cwestiwn 8)

Gallwn helpu i dalu ffi Llys Gwarchod mewn achosion iechyd a lles personol os oes gennych llai na £3,000 o gynilion neu fuddsoddiadau ac yn derbyn un o’r budd-daliadau canlynol:

  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar incwm (JSA)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn seiliedig ar incwm (ESA)
  • cymhorthdal incwm
  • credyd cynhwysol (ac rydych yn ennill llai na £6,000 y flwyddyn)
  • credyd pensiwn - credyd gwarant

Byddwn yn cysylltu â’r Adran Waith a Phensiynau i gadarnhau eich bod chi, neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi (neu wedi ymwneud ag ef/hi ar adeg y cais) yn cael un o’r budd-daliadau hyn. Efallai y byddwn hefyd yn cysylltu â chi os bydd angen i ni weld tystiolaeth ychwanegol.

Os mai dim ond yn ddiweddar y mae budd-daliadau wedi dechrau cael eu derbyn (er enghraifft, yn ystod y dyddiau diwethaf), efallai na fydd ein staff yn gallu cadarnhau gyda’r Adran Waith a Phensiynau eich bod yn gymwys. Yn yr amgylchiadau hynny, dylech ddarparu llythyr gan y ganolfan waith.

9. Statws (cwestiwn 9)

Os yw’r achos yn ymwneud ag iechyd a lles personol ac mae gennych bartner, bydd ei sefyllfa ariannol ef/hi hefyd yn cael ei hystyried. Rhaid i chi roi manylion eu cynilion ac incwm. Fodd bynnag, os yw’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi hefyd yn  bartner i chi, yna ni ddylech gynnwys eu cynilion na’u hincwm.

Os yw’r achos yn ymwneud ag eiddo a materion ariannol, peidiwch â chynnwys incwm partner y sawl sy’n talu’r ffi (os oes partner).

Dewiswch ‘wedi priodi neu’n byw â rhywun ac yn rhannu incwm’ os yw’r unigolyn:

  • yn briod
  • mewn partneriaeth sifil
  • yn cyd-fyw fel cwpl priod neu mewn partneriaeth sifil
  • yn byw yn yr un cyfeiriad gydag incwm ar y cyd

Dewiswch ‘sengl’ os yw’r unigolyn yn dibynnu ar incwm ei hun.

10. Plant sy’n ddibynnol yn ariannol (cwestiwn 10)

Mae angen i chi roi manylion unrhyw blant sy’n cael eu cefnogi’n ariannol. Mae hyn yn cynnwys plant sydd:

  • o dan 16 oed ac yn byw gartref
  • rhwng 16 a 19 oed,  yn byw gartref, ac mewn addysg llawn amser (heb gynnwys astudio ar gyfer gradd neu gymhwyster addysg uwch arall) - gweler credyd treth plant pan fydd eich plentyn yn cyrraedd 16 mlwydd oed
  • plentyn nad yw’n byw gartref, ond y gwneir taliadau cynhaliaeth rheolaidd iddo ef/iddi hi

11. Cyfanswm incwm misol (cwestiwn 11)

Ysgrifennwch faint o arian sy’n cael ei dderbyn bob mis cyn i unrhyw dreth neu daliadau Yswiriant Gwladol gael eu didynnu.

Beth i’w gynnwys fel incwm:

  • cyflog
  • rhai budd-daliadau (gweler y rhestr peidiwch â chynnwys ar gyfer budd-daliadau ni ddylech eu cynnwys)
  • pensiynau (y wladwriaeth, gwaith neu breifat heb gredyd gwarant)
  • rhent gan unrhyw un sy’n byw gartref ac mewn eiddo rydych chi’n berchen arno
  • taliadau gan berthnasau
  • taliadau cynhaliaeth, er enghraifft gan gyn-briod/bartner
  • incwm o werthu nwyddau yn gyhoeddus neu’n breifat, yn cynnwys dros y rhyngrwyd

11.1 Lle i ddod o hyd i wybodaeth am eich incwm

Cyflog

Dylai cyfanswm misol (cyn taliadau treth ac yswiriant gwladol) fod ar slipiau cyflog.

Os telir yn wythnosol, lluoswch y cyflog wythnosol â 52, yna rhannwch ef â 12. Bydd hyn yn rhoi cyfanswm misol i chi.

Os ydych yn hunangyflogedig ac yn ennill swm gwahanol bob mis, rhannwch yr incwm blynyddol gros o’r flwyddyn ariannol ddiwethaf â 12. Defnyddiwch y swm hwn fel y cyfanswm misol.

Budd-dal Plant, Credyd Treth Gwaith a Chredyd Treth Plant

Fel arfer, gallwch ddod o hyd i’r swm misol ar dudalen olaf y llythyrau gan Gyllid a Thollau EF (CThEF) yn cadarnhau derbyn Budd-dal, Credyd Treth Gwaith neu Gredyd Treth Plant.

Lwfans Ceisio Gwaith (JSA), Lwfans Cyflogaeth a Chymorth ar sail Cyfraniadau (ESA), a Chredyd Cynhwysol.

Fel arall gallwch ddod o hyd i’r swm misol yn y llythyr gan yr Adran Waith a Phensiynau (DWP) yn cadarnhau derbyn y budd-dal. Dylech gynnwys Credyd Cynhwysol fel incwm dim ond os ydych yn ennill mwy na £6,000 y flwyddyn.

Pensiynau

Dylai’r swm pensiwn misol fod ar gyfriflenni pensiwn.

Datganiad Incwm a Gwariant Carcharor

Gallwch ddod o hyd i swm yr incwm misol ar ddatganiad incwm a gwariant carcharor os ydych yn garcharor.

11.2 Cynnwys incwm eich partner

Os yw’r achos yn ymwneud ag iechyd a lles personol a bod gennych bartner, cofiwch gynnwys unrhyw arian y mae’n ei dderbyn hefyd. Gweler gwybodaeth am eich statws os nad ydych yn siŵr a ddylid cynnwys cynilion eich partner.

11.3 Incwm misol arall

Os derbynnir arian o rywle arall (heb fod yn un o’r  budd-daliadau a restrir uchod neu yng nghwestiwn 8), gallwch ei nodi yn rhes olaf y tabl incwm, lle mae’n dweud ‘Incwm misol arall’.

11.4 Pobl sy’n byw y tu allan i’r Deyrnas Unedig

Dylid trosi’r cyfanswm incwm misol yn bunnoedd sterling (GBP) gan ddefnyddio’r gyfradd gyfnewid gyfredol. Bydd ein staff yn ystyried newidiadau bach yn y gyfradd gyfnewid o’r adeg y byddwch yn cwblhau’r cais i’r dyddiad y caiff ei asesu.

Peidiwch â chynnwys

Peidiwch â chynnwys y budd-daliadau hyn fel incwm:

  • Taliad Annibyniaeth y Lluoedd Arfog (AFIP)
  • lwfans gweini
  • bonws dychwelyd i’r gwaith
  • lwfans profedigaeth
  • blaendaliadau cyllidebu a delir dan gredyd cynhwysol
  • benthyciad cyllidebu
  • lwfans gofalwr
  • elfen gofalwr credyd cynhwysol
  • elfen gofal plant credyd treth gwaith
  • elfen gofal plant credyd cynhwysol
  • taliad tywydd oer
  • lwfans presenoldeb cyson
  • taliadau uniongyrchol a wneir o dan ofal cymunedol, gwasanaethau i ofalwyr a gwasanaethau plant
  • Lwfans Byw i’r Anabl (DLA)
  • elfennau anabledd ac anabledd difrifol y credyd treth plant
  • elfennau plentyn ag anabledd a phlentyn ag anabledd difrifol y credyd treth gwaith
  • elfennau plentyn ag anabledd a phlentyn ag anabledd difrifol y credyd cynhwysol
  • lwfans Anabledd Eithriadol o Ddifrifol
  • cymorth ariannol o dan gytundeb ar gyfer gofal maeth plentyn
  • taliad angladd
  • budd-dal tai
  • elfen credyd tai o gredyd pensiwn
  • elfen tai o gredyd cynhwysol
  • budd-dal anabledd anafiadau diwydiannol
  • taliadau cronfa byw’n annibynnol
  • elfen galluogrwydd cyfyngedig i weithio y credyd cynhwysol
  • Taliad Annibyniaeth Personol (PIP)
  • unrhyw bensiwn a delir dan Orchymyn Pensiwn Gwasanaeth y Llynges, y Fyddin a’r Llu Awyr (Anabledd a Marwolaeth) 2006
  • lwfans anabledd difrifol
  • Taliadau Budd-dal Tymor Byr (STBAs)
  • taliadau credyd cynhwysol ymlaen llaw
  • lwfans rhiant gweddw

11.5 Sut mae eich incwm yn effeithio a ydych yn gallu cael help i dalu ffioedd

Gallwn ddarparu cymorth gyda ffioedd, yn dibynnu ar y math o  achos, os mai dim ond ychydig bach o gynilion sydd  gennych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi a’ch bod yn bodloni’r gofynion incwm.

Rheini sengl

Rhaid bod ag incwm misol sy’n llai na £1,170 a £265 ar gyfer pob plentyn. Er enghraifft, rhaid i unigolyn sengl gydag un plentyn fod ag incwm misol sy’n llai na £1,435. Os oes gan unigolyn sengl 2 o blant yna yr incwm mwyaf yw £1,700.

 Rhan o gwpl

Rhaid bod ag incwm misol sy’n llai na £1,345 a £265 ar gyfer pob plentyn. Er enghraifft, os ydych yn rhan o gwpl gydag un plentyn rhaid bod gennych incwm misol sy’n llai na £1,610. Os oes gennych 2 o blant rhyngoch yna yr incwm mwyaf yw £1,875. 

Os yw eich incwm misol a cyfanswm eich cynilion yn llai na’r swm mwyaf, nid oes rhaid i chi dalu ffi. Os oes gennych fwy o gynilion neu’n ennill mwy na’r incwm mwyaf, efallai y byddwch yn gallu gwneud cais am help i dalu rhan o’r ffioedd.

Dilynwch y camau hyn i gyfrifo faint o arian y gallech ei gael oddi ar eich ffi:

  1. Dechreuwch gyda’r cyfanswm incwm misol a thynnu’r incwm mwyaf o’r cyfanswm. Gweler yr adrannau rhieni sengl neu rhan o gwpl i gyfrifo beth fyddai’r swm yma yn eich achos chi.
  2. Talgrynnwch y ffigwr i lawr i’r £10 agosaf. Er enghraifft, mae £428 yn dod yn £420.
  3. Rhannwch y swm hwn â 2 i gael y swm y mae’n rhaid ei dalu.

Gallwch ddefnyddio’r gyfrifiannell gostyngiadau mewn ffioedd EX160C i gyfrifo faint o arian y gallech ei gael oddi ar eich ffi Bydd angen i chi ddarparu siec am y swm rydych wedi’i gyfrifo a’i chyflwyno ynghyd â’ch  cais am help gyda ffioedd. Dylid gwneud sieciau’n daladwy i Wasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF.

11.6 Darparu tystiolaeth o incwm

Os ydych yn gwneud cais am gymorth gyda’ch ffi am eich bod chi, neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi, ar incwm isel, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth i’r Llys Gwarchod o incwm misol gros o unrhyw ffynhonnell a phob ffynhonnell am y mis cyn y cais am Help i Dalu Ffioedd.

Mae’r wybodaeth ganlynol yn esbonio pa fath o dystiolaeth sydd ei hangen ar y llys neu’r tribiwnlys:

Cyfriflenni banc

Bydd angen i chi ddarparu eich cyfriflenni banc am y 3 mis diwethaf i’r Llys Gwarchod. Gallwch ddarparu copïau o gyfriflenni banc ar-lein, ond rhaid i’r rhain fod ag enw deiliad y cyfrif arnynt.

Cyflogaeth â thâl

Os ydych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi mewn cyflogaeth ac yn derbyn tâl, bydd angen i chi ddarparu copïau o slipiau cyflog a gwybodaeth am waith am arian parod Y slipiau cyflog diweddaraf ddylai’r rhain fod, dim mwy na 6 wythnos oed.

Hunangyflogedig

Os ydych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn hunangyflogedig, bydd angen i chi ddarparu’r ffurflen dreth ddiweddaraf (hunanasesiad) a Chyfrifiad Treth Hunanasesiad gan CThEF.

 Pensiwn

Os ydych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi yn hawlio pensiwn y wladwriaeth, pensiwn preifat neu bensiwn galwedigaethol, bydd angen i chi ddarparu hysbysiad, llythyr neu adroddiad yn cadarnhau’r taliadau pensiwn.

 Budd-daliadau a chredydau eraill

Os ydych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef yn derbyn y a budd-daliadau neu’r credydau a restrir yng nghwestiwn 11, bydd angen i chi ddarparu llythyr hawlio yn cadarnhau faint sy’n cael ei dderbyn. Rhestrir y math o fudd-daliadau a chredydau na ddylid eu cynnwys fel incwm yn yr adran peidiwch â chynnwys

Incwm o rentu

Os ydych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi yn cael rhent am eiddo arall neu gan unrhyw un sy’n byw gyda chi neu ef/hi, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o’r rhent sy’n cael ei dderbyn, fel cytundeb tenantiaeth.

Incwm arall

Os ydych chi neu’r sawl y mae’r cais yn ymwneud ag ef/hi yn derbyn unrhyw incwm arall, fel stociau, cyfranddaliadau neu incwm o werthu nwyddau dros y Rhyngrwyd, bydd arnoch angen darparu tystiolaeth sy’n dangos faint o incwm a gafwyd, sut mae’n cael ei dderbyn, a pha mor aml. 

12. Manylion cyswllt

Darparwch eich manylion cyswllt llawn.

13. Llofnodi’r ffurflen (cwestiwn 13)

Mae’n rhaid i chi lofnodi a dyddio’r datganiad a’r datganiad o wirionedd i gadarnhau bod yr holl wybodaeth rydych wedi’i rhoi yn wir. Os canfyddir eich bod wedi dweud anwiredd yn fwriadol neu wedi bod yn anonest, gellir dwyn achos troseddol am dwyll yn eich erbyn.

Dim ond yr ymgeisydd  all lofnodi a dyddio’r datganiad a’r datganiad o wirionedd.

13.1 Lle i anfon eich cais

Anfonwch eich ffurflen gyflawn at:

Y Llys Gwarchod/Court of Protection
PO Box 70185
First Avenue House
42-49 High Holborn
Llundain
WC1A 9JA 
DX: 160013 Kingsway 7 

Beth fydd yn digwydd nesaf

Bydd ein staff yn anelu at brosesu eich cais o fewn 5 diwrnod gwaith. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, fe gewch bapurau’r llys yn y post.

Os bydd eich cais yn aflwyddiannus, neu os oes arnoch angen ddarparu mwy o wybodaeth, byddwn yn cysylltu â chi trwy lythyr. Er enghraifft, efallai y gofynnir i chi anfon tystiolaeth o’ch incwm.

Sut i apelio

Gallwch apelio os yw eich cais am help i dalu ffi Llys Gwarchod yn aflwyddiannus ac nid ydych yn cytuno â’r penderfyniad hwn.

Mae angen i chi ysgrifennu at Reolwr Cyflawni y Llys Gwarchod erbyn y dyddiad a nodir yn eich llythyr gwrthod (bydd hyn fel arfer tua 14 diwrnod o’r adeg y byddwch yn derbyn y llythyr). Dywedwch pam nad ydych yn hapus gyda’r penderfyniad a  chynnwys unrhyw dystiolaeth a fydd yn cefnogi eich apêl.

Byddwch yn clywed gan y rheolwr cyflawni o fewn 10 diwrnod gwaith.

Os bydd y rheolwr cyflawni yn gwrthod eich apêl, mae gennych yr hawl i gysylltu â ‘rheolwr gweithrediadau’ y Llys Gwarchod o fewn 14 diwrnod i’r dyddiad y gwrthodwyd eich apêl. Bydd yn edrych ar eich cais am apêl ac yn gwneud penderfyniad  terfynol.

Os ydych chi’n debygol o brofi caledi eithriadol

Os ydych chi’n credu nad ydych chi mewn gwirionedd yn gallu  fforddio talu ffi’r llys, neu os ydych chi’n wynebu amgylchiadau eithriadol eraill, gallwch ofyn i reolwr cyflawni’r Llys Gwarchod ystyried lleihau’r ffi neu hepgor yr angen i dalu’r ffi.

Fel rheol, bydd y Rheolwr Cyflawni ond yn cymeradwyo eich cais os ydych yn gallu dangos:

  • nad ydych mewn gwirionedd yn gallu fforddio talu’r ffi
  • Bod amgylchiadau eraill sy’n cyfiawnhau lleihau’r ffi neu hepgor codi’r ffi

Bydd amgylchiadau ymgeiswyr yn cael eu hystyried ar sail unigol.

Wrth ystyried a ddylid lleihau neu hepgor y ffi, bydd angen tystiolaeth ar y rheolwr cyflawni am eich amgylchiadau eithriadol, gan gynnwys pam na allwch fforddio talu’r ffi, neu pam fod amgylchiadau eraill sy’n cyfiawnhau ad-dalu’r ffi. Mae’n rhaid i chi ddarparu’r dystiolaeth hon ochr yn ochr â’ch cais.

Mae’r math o dystiolaeth y dylech ei darparu yn cynnwys (lle bo’n berthnasol):

  • manylion eich incwm
  • cynilion
  • treuliau
  • unrhyw wybodaeth berthnasol arall i gefnogi eich cais i ddileu ffi

Ni fydd eich ffi yn cael ei gostwng neu ei hepgor yn awtomatig oherwydd eich statws, er enghraifft os ydych yn ddi-waith, yn weithiwr tymhorol neu rhan-amser, yn fyfyriwr neu’n garcharor. Bydd rhaid ichi dal ddarparu tystiolaeth i gefnogi eich cais.

Os nad yw’r rheolwr cyflawni yn caniatáu eich cais am ddileu’r ffi mewn amgylchiadau eithriadol, yna gallwch apelio yn erbyn y penderfyniad hwn i’r rheolwr gweithrediadau. Yna bydd y rheolwr gweithrediadau yn ystyried unrhyw dystiolaeth rydych wedi’i chyflwyno’n flaenorol ac unrhyw wybodaeth bellach a gyflwynwch gyda’ch apêl. Unwaith y bydd y rheolwr gweithrediadau wedi gwneud ei benderfyniad terfynol, ni fyddwn yn gallu ystyried y mater ymhellach.

Beth i’w wneud mewn argyfwng

Os oes angen penderfyniad arnoch yn gynt na chyn pen 5 diwrnod  gwaith, gall y rheolwr cyflawni wneud penderfyniad ynghylch a oes modd i chi gael help i dalu’r ffi.

Mae argyfyngau’n cynnwys achosion sy’n cynnwys:

  • trais domestig
  • gwaharddebau
  • triniaeth feddygol ddifrifol
  • lle mae’n debygol y gellid symud yr unigolyn o’r awdurdodaeth
  • priodas dan orfod
  • lle mae pryderon ynghylch diogelu

Cysylltiadau defnyddiol

Y Llys Gwarchod

www.gov.uk/courts-tribunals/court-of-protection

Ffôn: 0300 456 4600

Dod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi

Cyngor ar Bopeth

Elusen a rhwydwaith o elusennau lleol sy’n cynnig cyngor cyfrinachol ar-lein, dros y ffôn, ac wyneb yn wyneb - yn rhad ac am ddim. Mae hyn yn cynnwys cyngor ar symud i ac aros yn y DU, gan gynnwys delio â fisas.

www.citizensadvice.org.uk

Sgwrsio ar-lein gydag ymgynghorydd Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm Ar gau ar wyliau banc 

Ffôn: 0800 144 8848 (Lloegr) 0800 702 2020 (Cymru)
Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am - 5pm.

Dod o hyd i wasanaeth yn agos atoch chi.

Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF

Mae Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlysoedd EF (GLlTEF) yn gyfrifol am weinyddu llysoedd a thribiwnlysoedd troseddol, sifil a theulu yng Nghymru a Lloegr.

www.gov.uk/government/organisations/hm-courts-and-tribunals-service

Cysylltu â gwasanaeth llys neu dribiwnlys

Cyllid a Thollau EF

Awdurdod trethi, taliadau a thollau y DU

www.hmrc.gov.uk/cymraeg/index.htm

Cysylltu â Cyllid a Thollau EF

Ffoniwch y llinell gymorth credydau treth: 0345 300 3900 (o fewn y DU) +44 2890 538 192 (tu allan i’r DU) Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am - 6pm.

Canolfan Byd Gwaith

Mae gennych hawl i gymorth a chyngor am ddim gan Ymgynghorydd o’r Ganolfan Byd Gwaith os ydych yn ddi-waith ac yn chwilio am waith.

www.gov.uk/contact-jobcentre-plus

Cysylltwch a’ch Swyddfa Leol