Skip to main content
Canllawiau

Y broses ar gyfer gwneud cais a dethol

Diweddarwyd 16 Medi 2026

1. Ynglŷn â recriwtio ar gyfer SAC 

Diolch am eich diddordeb mewn dod yn aelod o Gyngor Gwyddoniaeth a Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). 

Rydym yn recriwtio ar gyfer nifer o swyddi gwag ar draws ein Cyngor Gwyddoniaeth a SACs, gan gynnwys cadeirydd, aelod llawn a/neu aelod cyswllt ac aelod lleyg mewn ystod o feysydd arbenigol. 

Cyn gwneud cais, rydym yn argymell eich bod chi’n gwneud y canlynol: 

Rydym yn croesawu ceisiadau gan unigolion o ystod eang o gefndiroedd proffesiynol, gan gynnwys y byd academaidd, sefydliadau ymchwil, y diwydiant, gofal iechyd, sefydliadau defnyddwyr, y trydydd sector, ac ati. 

Caiff ceisiadau eu hasesu yn seiliedig ar y dystiolaeth a ddarperir yn erbyn y meini prawf dethol. Rydym yn cydnabod y gallai ymgeiswyr fod wedi ennill arbenigedd a phrofiad perthnasol drwy amrywiaeth o lwybrau gyrfaol. Os yw eich arbenigedd a’ch profiad yn cyd-fynd â’r gofynion yn yr hysbyseb, rydym yn eich annog i wneud cais hyd yn oed os nad ydych wedi gwasanaethu ar SAC o’r blaen. 

Edrychwn ymlaen at weld eich cais. 

2. Dyddiad cau 

Cyflwynwch geisiadau cyflawn drwy e-bost i SACrecruitment@food.gov.uk erbyn 23:59 BST (amser y DU) ar 12 Hydref 2026

Ni fydd ceisiadau a ddaw i’n llaw ar ôl y dyddiad cau yn cael eu hystyried. 

Ar ôl y dyddiad cau, caiff ceisiadau eu hasesu yn erbyn y meini prawf dethol. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad. 

3. Sut i wneud cais 

3.1 Cyflwyno’ch cais 

I wneud cais, anfonwch y dogfennau canlynol drwy e-bost i SACrecruitment@food.gov.uk

  1. CV

  2. Datganiad ategol

  3. Ffurflen datgan buddiannau gyflawn

  4. Ffurflen fonitro gyflawn 

Cofiwch gynnwys y pwyllgor a’r rôl yn llinell bwnc yr e-bost. Er enghraifft: ‘Cadeirydd yr ACNFP’, neu ‘Aelod lleyg y Cyngor Gwyddoniaeth’. 

Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un swydd wag, mae’n rhaid i chi gyflwyno e-bost ar wahân ar gyfer pob cais. Gallwch ddarllen canllawiau pellach yn Adran 3.2 isod.

3.2 Gwneud cais am fwy nag un swydd wag 

Mae croeso i ymgeiswyr wneud cais am fwy nag un maes arbenigol o fewn SAC ac am rolau ar fwy nag un pwyllgor, ar yr amod bod eu harbenigedd yn cyd-fynd â gofynion y swyddi gwag. 

Os ydych yn gwneud cais am fwy nag un maes arbenigol o fewn yr un SAC ac am yr un rôl, dim ond un cais y mae angen i chi ei gyflwyno. Yn eich datganiad ategol, nodwch yn glir pob maes arbenigol yr hoffech gael eich ystyried ar ei gyfer. 

Mae ceisiadau am swyddi cadeirydd wedi’u cyfyngu i un SAC. Er enghraifft, mae’n bosib cyflwyno cais naill ai am rôl cadeirydd yr ACNFP neu rôl cadeirydd yr ACAF, ond nid am y ddwy rôl. Fodd bynnag, mae’n dal i fod yn bosib i ymgeiswyr sy’n gwneud cais am rôl cadeirydd wneud cais am swyddi gwag eraill nad ydynt yn rhai cadeirydd, lle mae eu harbenigedd a’u profiad yn cyd-fynd â’r gofynion yn yr hysbyseb. 

Os ydych yn dymuno gwneud cais am swyddi gwag ar draws SACs gwahanol neu am rolau gwahanol, dylech wneud y canlynol:

  • cyflwyno cais ar wahân am bob SAC a rôl
  • anfon pob cais mewn e-bost ar wahân
  • cynnwys y SAC a’r rôl yn llinell bwnc yr e-bost (er enghraifft, aelod llawn ACNFP

Cewch ddefnyddio’r un CV, Datganiad o Fuddiannau a ffurflenni monitro ar gyfer mwy nag un cais, ar yr amod bod yr wybodaeth yn gywir ac nad oes angen unrhyw newidiadau i deilwra’ch cais. Fodd bynnag, mae angen datganiad ategol unigryw ar gyfer pob cais. 

Bydd y panel recriwtio’n asesu pob cais ar wahân.

3.3 Sesiwn rhannu gwybodaeth ar-lein

Bydd Tîm Recriwtio i SACs yr ASB yn cynnal sesiwn rhannu gwybodaeth ar-lein i ddarpar ymgeiswyr ddydd Gwener, 18 Medi 2026, rhwng 11:00am a 12:00pm.

Bydd y sesiwn hwn yn rhannu gwybodaeth am y canlynol:

  • y swyddi gwag sydd ar gael
  • gwaith y Cyngor Gwyddoniaeth a’r SACs
  • y broses o wneud cais a’r broses asesu
  • paratoi cais

Bydd aelodau presennol o’r pwyllgorau a chydweithwyr yr ASB sy’n helpu’r pwyllgorau ar gael i ateb cwestiynau.

Gall darpar ymgeiswyr gofrestru am y sesiwn drwy ddefnyddio’r ffurflen Microsoft hon a chyflwyno cwestiynau ymlaen llaw er mwyn eu trafod nhw yn ystod y sesiwn.

3.4 Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial  

Gall Deallusrwydd Artiffisial fod yn offeryn defnyddiol i helpu eich cais. Fodd bynnag, mae’n rhaid i bob enghraifft a datganiad a ddarperir fod yn wir, yn ffeithiol gywir ac yn seiliedig yn uniongyrchol ar eich profiad eich hun. Os byddwn yn canfod achosion o lên-ladrad (cyflwyno syniadau a phrofiadau pobl eraill, neu syniadau a gynhyrchir gan ddeallusrwydd artiffisial, fel eich rhai eich hun), efallai y byddwn yn tynnu ceisiadau yn ôl. 

3.5 Newidiadau i’ch amgylchiadau 

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i’r ASB os bydd eich amgylchiadau’n newid, yn ystod y broses ymgeisio a’r broses asesu. Mae hyn yn cynnwys unrhyw wybodaeth sydd wedi’i darparu neu a ddylai fod wedi’i darparu gennych chi yn eich cais. 

4. Datganiad ategol 

Ar ddechrau eich datganiad ategol, rhowch y canlynol: 

  • eich enw llawn
  • y pwyllgor rydych yn gwneud cais amdano (COT, ACSS, ac ati)
  • y rôl rydych yn gwneud cais amdani (cadeirydd, aelod llawn neu aelod lleyg)
  • y maes/meysydd arbenigol penodol yn hysbyseb y SAC sy’n cyd-fynd â’ch cais
  • yn ogystal â’r maes/meysydd arbenigol rydych yn gwneud cais amdanynt, rhowch restr o hyd at dri maes arbenigol pellach sydd gennych sy’n berthnasol i waith y pwyllgor
  • a fyddech yn barod i gael eich ystyried ar gyfer rôl arall, lle bo’n berthnasol, er enghraifft, aelod cyswllt yn lle aelod llawn, neu aelod llawn yn lle cadeirydd 

Wedyn, dylai’ch datganiad ategol egluro sut rydych yn bodloni pob un o’r meini prawf dethol ar gyfer y rôl rydych yn gwneud cais amdani. 

4.1 Ysgrifennu datganiad ategol cryf 

Cyfyngwch eich ymateb i uchafswm o 500 gair fesul maen prawf ac ysgrifennwch acronymau yn llawn y tro cyntaf y byddwch yn eu defnyddio. 

Er mwyn helpu’r panel recriwtio i asesu’ch cais: 

  • defnyddiwch bob maen prawf dethol fel pennawd
  • rhowch enghreifftiau clir sy’n dangos sut rydych yn bodloni’r maen prawf dethol
  • eglurwch eich cyfraniad personol wrth ddisgrifio gwaith cydweithredol
  • canolbwyntiwch ar y dystiolaeth sydd fwyaf perthnasol i’r rôl a’r maes/meysydd arbenigol rydych yn gwneud cais amdanynt
  • dangoswch effaith neu ganlyniad eich gwaith lle bo modd

Yn aml, mae ceisiadau cryf yn darparu tystiolaeth o’r canlynol:

  • arbenigedd sy’n berthnasol i’r swydd wag yn yr hysbyseb
  • cyfraniad at grwpiau cynghori, pwyllgorau neu weithgorau
  • y gallu i ddadansoddi tystiolaeth neu ddata cymhleth
  • barn annibynnol
  • y gallu i gydweithio a chyfathrebu â chynulleidfaoedd arbenigol a chynulleidfaoedd heb arbenigedd 

5. CV 

Rydym yn argymell uchafswm o dair tudalen i’ch CV, ac eithrio atodiadau. Sicrhewch fod eich CV yn cynnwys y canlynol: 

  • teitl ac enw llawn
  • cyfeiriad e-bost cyswllt sydd orau gennych
  • rhif ffôn cyswllt sydd orau gennych
  • cymhwyster ar y lefel uchaf
  • manylion am eich aelodaeth bresennol â chyrff, cymdeithasau, sefydliadau, ac ati
  • hanes cyflogaeth gan gynnwys eich rôl bresennol neu’ch rôl ddiweddaraf a’ch prif gyfrifoldebau
  • cewch rannu manylion am hyd at bedair rôl neu gyflogwr blaenorol
  • hefyd, cewch gynnwys hyd at 10 cyhoeddiad perthnasol felatodiad 

6. Ffurflen datgan buddiannau 

Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar lenwi’r ffurflen datgan buddiannau yn y ffurflen

Sicrhewch fod pob buddiant perthnasol yn cael ei ddatgan. 

7. Ffurflen fonitro 

Fel rhan o’r ffurflen fonitro, bydd gofyn i chi wneud y canlynol: 

  • rhoi gwybodaeth am amrywiaeth i helpu i nodi unrhyw rwystrau anfwriadol i wneud cais ac i ddeall a oes angen camau pellach i annog ceisiadau gan ystod ehangach o ymgeiswyr
  • gwirio’ch manylion personol, a’u cadarnhau, i sicrhau bod eich cais yn gywir ac yn gyflawn
  • gofyn am addasiadau rhesymol, os oes angen, neu nodi a ydych yn dymuno gwneud cais drwy’r cynllun Hyderus o ran Anabledd
  • cwblhau unrhyw ddatganiadau gofynnol, gan gynnwys y rhai sy’n ymwneud â Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus ac unrhyw fuddiannau neu amgylchiadau a allai effeithio ar hyder y cyhoedd yn eich penodiad

Mae gwybodaeth am amrywiaeth yn cael ei chasglu ar wahân i’ch cais. Ni fydd y panel recriwtio yn ei gweld ac ni fydd yn rhan o’r broses ddethol. 

Bydd gwybodaeth arall a ddarperir yn y ffurflen fonitro, fel manylion personol, ceisiadau am addasiadau rhesymol a datganiadau gofynnol, yn cael ei defnyddio i weinyddu’r broses recriwtio ac efallai y bydd staff perthnasol yr ASB yn ei hadolygu lle bo angen. 

8. Y broses recriwtio 

Mae’r broses recriwtio yn cynnwys y canlynol: 

  • cyflwyno ceisiadau 
  • asesu ceisiadau (sifft) 
  • cyfweliad (gan gynnwys cyflwyniad) 
  • argymhelliad y panel recriwtio 
  • rhoi gwybod am y canlyniad i ymgeiswyr 

Byddwn yn rhoi gwybod am y diweddaraf i ymgeiswyr drwy gydol y broses a byddwn yn hysbysu pob ymgeisydd o ganlyniad ei gais. 

8.1 Asesu ceisiadau (sifft)  

Bydd eich cais yn cael ei asesu yn erbyn y meini prawf dethol. Bydd y panel recriwtio yn chwilio am dystiolaeth glir a pherthnasol sy’n dangos sut mae eich arbenigedd a’ch profiad yn bodloni gofynion y rôl. 

Byddwn yn rhoi gwybod i chi a ydych ar y rhestr fer ar gyfer cyfweliadau. 

Os bydd nifer fawr o geisiadau, efallai na fyddwn yn gallu darparu adborth unigol ar y cam hwn. 

Bydd eich holl wybodaeth yn cael ei phrosesu yn unol â’r Siarter gwybodaeth bersonol a Deddf Diogelu Data 2018.  

8.2 Cyfweliad   

Byddwn yn gwahodd ymgeiswyr ar y rhestr fer i gyfweliad. 

Mae’r cyfweliad yn gyfle i chi ehangu ar yr enghreifftiau y gwnaethoch chi eu rhoi yn eich cais a thrafod sut mae eich profiad a’ch arbenigedd yn bodloni’r meini prawf dethol ar gyfer y rôl. 

Byddwn yn gofyn ystod o gwestiynau i’ch galluogi i ddangos y nodweddion, y sgiliau a’r profiad sydd eu hangen. 

Bydd gofyn i chi hefyd baratoi a chyflwyno cyflwyniad 5 munud ar bwnc a ddarperir cyn y cyfweliad. Eich dewis chi yw pa fformat i roi i’r cyflwyniad. Cewch ddefnyddio sleidiau PowerPoint neu adnoddau gweledol eraill, ond nid oes angen y rhain. 

Darperir pwnc y cyflwyniad ymlaen llaw i ganiatáu digon o amser ar gyfer paratoi. 

Cynhelir cyfweliadau yn rhithwir gan ddefnyddio Microsoft Teams. Byddwn yn anfon gwybodaeth ar sut i ymuno â’r cyfweliad ymlaen llaw. Os nad yw Microsoft Teams wedi’i osod ar eich cyfrifiadur, gallwch ymuno drwy eich porwr gwe heb orfod gosod y rhaglen. 

Bydd y panel recriwtio’n ystyried pob ymgeisydd yn ofalus, a bydd y rhesymau dros benderfyniadau yn cael eu nodi. Caiff cofnodion eu cadw’n unol â’r Siarter gwybodaeth bersonol a Deddf Diogelu Data 2018.

Addasiadau rhesymol

Os oes angen addasiadau rhesymol arnoch ar gyfer y cyfweliad, rhowch wybod i ni yn y ffurflen fonitro er mwyn gallu ystyried trefniadau priodol, a’u trafod â chi. Efallai y byddwn yn cysylltu â chi i drafod eich gofynion ymhellach. 

Gall enghreifftiau gynnwys addasiadau i fformat y cyfweliad, trefniadau cyflwyno, cymorth cyfathrebu, neu ofynion ychwanegol sy’n ymwneud ag anabledd neu gyflwr iechyd.

8.3 Dethol ac asesu 

Wrth asesu addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y swydd wag y gwnaeth gais amdani, bydd y panel yn ystyried cryfder cyffredinol y dystiolaeth a ddarparwyd, gan gynnwys y canlynol: 

  • pa mor berthnasol yw’r arbenigedd a’r profiad
  • cryfder y dystiolaeth wrth gyfeirio yn ôl at y meini prawf dethol
  • ansawdd yr enghreifftiau a ddarparwyd 

Bydd ceisiadau gan aelodau lleyg yn cael eu hasesu mewn ffordd sy’n adlewyrchu natur wahanol y rôl a gwerth safbwynt aelod lleyg. 

8.4 Sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu   

Bydd y panel recriwtio’n defnyddio’r system sgorio isod yn ystod y sifft i asesu addasrwydd ymgeisydd ar gyfer y swydd wag y gwnaeth cais amdani. 

Sgôr Beth mae hyn yn ei olygu Canlyniad y sifft
A: bodloni’r meini prawf yn llawn. Tystiolaeth ysgrifenedig gref a chlir yn erbyn pob maen prawf dethol, yn ogystal â chyd-fynd yn amlwg â’r prif faen prawf. Gwahodd i gyfweliad.
B: bodloni’r prif faen prawf; angen ei asesu ymhellach. Bodloni’r prif faen prawf ond mae’r dystiolaeth ar gyfer un neu fwy o’r meini prawf dethol yn eu bodloni’n rhannol, yn wan neu’n aneglur a gallwn ei hasesu’n rhesymol yn y cyfweliad. Gwahodd i gyfweliad.
C: nid yw’n bodloni’r meini prawf. Nid yw’n darparu tystiolaeth ar gyfer y prif faen prawf neu nid yw’n darparu tystiolaeth ddigonol ar gyfer dau neu fwy o’r meini prawf dethol. Heb ei roi ar y rhestr fer.

8.5 Penderfyniadau a chanlyniadau wrth benodi 

Bydd y panel recriwtio’n cynnwys aelodau perthnasol y pwyllgor ac aelod annibynnol. Ar gyfer rolau cadeirydd a’r Cyngor Gwyddoniaeth, bydd Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB yn cadeirio’r panel. 

Yn dilyn y cyfweliadau, bydd y panel yn ystyried pob ymgeisydd yn erbyn y meini prawf dethol ac yn argymell penodiadau’n seiliedig ar y dystiolaeth a ddarparwyd drwy gydol y broses recriwtio. 

Byddwn yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd, sydd wedi’i wahodd i gyfweliad, am ganlyniad ei gais. Lle bo hynny’n ymarferol, efallai y byddwn yn rhoi adborth i ymgeiswyr sydd wedi’u gwahodd am gyfweliad. 

Bydd ymgeiswyr a ddewiswyd ar gyfer penodiad yn cael eu gwahodd yn ffurfiol i ymuno â’r pwyllgor. 

Bydd gofyn i ymgeiswyr llwyddiannus gadarnhau eu bod yn derbyn y penodiad yn ysgrifenedig. 

Bydd penodiadau’n amodol ar gwblhau’r gwiriadau a’r datganiadau perthnasol yn foddhaol. 

Fel rhan o’r gweithgarwch recriwtio hwn, efallai y byddwn yn creu rhestr wrth gefn o ymgeiswyr y gellir eu penodi. Bydd ymgeiswyr ar y rhestr wrth gefn wedi dangos yr arbenigedd, y sgiliau, yr wybodaeth a’r profiad sy’n ofynnol ar gyfer y rôl, ond efallai na fyddwn yn cynnig penodiad iddynt ar unwaith. Bydd y rhestr wrth gefn yn parhau i fod yn ddilys am hyd at 12 mis o ddyddiad cadarnhau penodiadau ac mae’n bosib ei defnyddio i lenwi swyddi gwag yn y dyfodol ar gyfer y Cyngor Gwyddoniaeth a swyddi SAC, gan gynnwys rolau aelod cyswllt, aelod llawn, aelod lleyg a chadeirydd, pe bai cyfleoedd addas yn codi yn ystod y cyfnod hwnnw. Nid yw lle ar restr wrth gefn yn gwarantu penodiad, ond mae’n rhoi cyfle i ymgeiswyr gael eu hystyried ar gyfer swyddi gwag yn y dyfodol heb orfod ailymgeisio. 

9. Meini prawf penodol i’r rôl 

Fel arfer, bydd ymgeiswyr llwyddiannus yn dangos y canlynol: 

  • arbenigedd sy’n berthnasol i’r swydd wag
  • sgiliau pwyso a mesur cadarn a meddwl dadansoddol
  • y gallu i gyfrannu at drafodaethau cymhleth
  • sgiliau cyfathrebu effeithiol
  • cydweithio 

Mae meini prawf dethol manwl ar gyfer pob rôl wedi’u nodi isod. 

9.1 Cadeirydd   

1. Arbenigedd a statws proffesiynol – prif faen prawf

Awdurdod cydnabyddedig mewn maes gwyddonol, technegol neu reoleiddiol sy’n uniongyrchol berthnasol i’r pwyllgor, a bod hanes cryf o lwyddiannau ar lefel genedlaethol neu ryngwladol. Gallech brofi hyn drwy rolau uwch neu arbenigol, corff arwyddocaol o waith cyhoeddedig neu ymarferol, cydnabyddiaeth gan gymheiriaid neu sector, a rhwydweithiau proffesiynol sefydledig y gallwch dynnu arnynt i lywio gwaith y pwyllgor.

2. Arweinyddiaeth a barn wyddonol

Arweinyddiaeth amlwg o grwpiau gwyddonol, technegol neu arbenigol, a bod gennych y sgiliau pwyso a mesur cadarn sydd eu hangen i lywio trafodaethau mewn sefyllfaoedd cymhleth neu ansicr. Hanes cryf o asesu, dehongli a thynnu casgliadau dibynadwy o ddata gwyddonol neu dechnegol, gan gynnwys pwyso a mesur tystiolaeth wrthgyferbyniol a llunio safbwyntiau cytbwys y gellir eu cyfiawnhau.  

3. Ffurfio a chyflwyno cyngor i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau

Profiad o lunio cyngor clir, cytbwys, sy’n seiliedig ar dystiolaeth a’i gyflwyno i uwch-swyddogion sy’n gwneud penderfyniadau, bwrdd neu debyg. Y gallu i symleiddio trafodaethau cymhleth, amlddisgyblaethol yn argymhellion awdurdodol y gall y rhai sy’n gwneud penderfyniadau, gan gynnwys Bwrdd yr ASB, eu deall a gweithredu arnynt.  

4. Cyfathrebu ac ymwybyddiaeth o faterion perthnasol

Sgiliau cyfathrebu datblygedig, a’r gallu i gyfleu materion cymhleth ac weithiau dadleuol yn glir ac yn gredadwy i gynulleidfaoedd arbenigol a heb arbenigedd, gan gynnwys y cyhoedd a’r cyfryngau lle bo angen. Ymwybyddiaeth ar sail gwybodaeth sydd ar gael o’r materion diogelwch bwyd, gwyddonol neu reoleiddiol sy’n berthnasol i gylch gwaith y pwyllgor.   

9.2 Aelod llawn/cyswllt   

1. Gwybodaeth a phrofiad arbenigol – prif faen prawf

Gwybodaeth a phrofiad arbenigol amlwg o un neu fwy o’r meysydd arbenigol gofynnol ar gyfer y pwyllgor(au) y gwneir cais amdanynt, wedi’i ategu gan hanes da o lwyddiannau ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, er enghraifft gwaith ymchwil, cyhoeddiadau, gweithgarwch ymarferol neu broffesiynol, neu rolau arbenigol, wedi’i ategu gan rwydweithiau proffesiynol da yn y maes. 

2. Profiad cynghori amlddisgyblaethol

Profiad o gyfrannu at grwpiau amlddisgyblaethol sy’n ystyried cwestiynau gwyddonol neu dechnegol cymhleth, wedi’i ategu gan gymryd rhan weithredol mewn pwyllgorau, gweithgorau, paneli neu fforymau tebyg, lle roedd mewnbwn arbenigol yn llywio cyngor neu gasgliadau ar y cyd.  

3. Sgiliau dadansoddol a sgiliau pwyso a mesur annibynnol 

Sgiliau dadansoddol a phwyso a mesur cryf, a gallu amlwg i integreiddio a dehongli gwybodaeth gymhleth, meddwl yn annibynnol a ffurfio casgliadau ar sail tystiolaeth ynghyd â pharodrwydd i herio’n adeiladol a bod yn agored i herio gan eraill.  

4. Cydweithio a chyfathrebu

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu datblygedig a dull gweithio cydweithredol, a’r gallu i ymgysylltu’n effeithiol â chyd-arbenigwyr a chyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn glir i gynulleidfaoedd heb arbenigedd.  

9.3 Aelod llawn/cyswllt y Cyngor Gwyddoniaeth   

1. Gwybodaeth a phrofiad arbenigol – prif faen prawf

Gwybodaeth a phrofiad arbenigol amlwg mewn un neu fwy o’r meysydd arbenigol gofynnol ar gyfer y pwyllgor(au) y gwneir cais amdanynt, wedi’i ategu gan hanes da o lwyddiannau ar lefel genedlaethol neu ryngwladol, er enghraifft gwaith ymchwil, cyhoeddiadau, gweithgarwch ymarferol neu broffesiynol, neu rolau arbenigol, wedi’i ategu gan rwydweithiau proffesiynol da yn y maes.  

2. Profiad o gynghori amlddisgyblaethol

Profiad o gyfrannu at grwpiau amlddisgyblaethol sy’n ystyried cwestiynau gwyddonol neu dechnegol cymhleth, wedi’i ategu gan gymryd rhan weithredol mewn pwyllgorau, gweithgorau, paneli neu fforymau tebyg, lle roedd mewnbwn arbenigol yn llywio cyngor a chasgliadau ar y cyd.  

3. Sgiliau dadansoddol a phwyso a mesur annibynnol 

Sgiliau dadansoddol a phwyso a mesur cryf, a gallu amlwg i integreiddio a dehongli gwybodaeth gymhleth, meddwl yn annibynnol a ffurfio casgliadau ar sail tystiolaeth ynghyd â pharodrwydd i herio’n adeiladol a bod yn agored i herio gan eraill.  

4. Cydweithio a chyfathrebu

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu datblygedig a dull gweithio cydweithredol, a’r gallu i ymgysylltu’n effeithiol â chyd-arbenigwyr a chyfathrebu gwybodaeth gymhleth yn glir i gynulleidfaoedd heb arbenigedd.  

5. Arbenigedd a rhwydweithiau eang

Arbenigedd a rhwydweithiau eang, sy’n cynnwys mwy nag un ddisgyblaeth sy’n berthnasol i’r ASB, wedi’i ategu gan brofiad o weithio rhwng meysydd gwyddonol, technegol neu broffesiynol, neu’n cysylltu’r meysydd hyn â’i gilydd, yn hytrach nag arbenigedd unigol.  

6. Safbwynt y defnyddiwr a’r dinesydd

Safbwynt ar fuddiannau defnyddwyr a dinasyddion ar sail yr wybodaeth sydd ar gael, yn ogystal â phrofiad o sut mae deall, cynrychioli ac adlewyrchu’r buddiannau hyn mewn cyngor gwyddonol neu strategol.  

9.4 Aelod lleyg   

1. Dealltwriaeth o waith y pwyllgor a bod â diddordeb ynddo – prif faen prawf

Dealltwriaeth wirioneddol o waith y SAC y gwneir cais amdano, a bod â diddordeb ynddo hefyd, wedi’i ategu gan wybodaeth, rhwydweithiau a phrofiad perthnasol (a all fod ar lefel genedlaethol neu ryngwladol) sy’n eich galluogi i ymdrin â phwnc y pwyllgor yn hyderus.  

2. Cyfrannu safbwynt lleyg a chyhoeddus

Profiad o gyfrannu at grwpiau amlddisgyblaethol neu gyfrannu at benderfyniadau o safbwynt lleyg neu safbwynt heb arbenigedd, gan gyflwyno safbwyntiau’r cyhoedd neu ddefnyddwyr i drafodaethau ar gwestiynau gwyddonol neu dechnegol cymhleth.  

3. Sgiliau dadansoddol a phwyso a mesur annibynnol

Sgiliau dadansoddi a phwyso a mesur cryf, a gallu amlwg i integreiddio a dehongli gwybodaeth gymhleth, meddwl yn annibynnol, a gofyn cwestiynau adeiladol, manwl ynghyd â pharodrwydd i herio ac i fod yn agored i herio gan eraill.  

4. Cyfathrebu a chydweithio

Sgiliau rhyngbersonol a chyfathrebu datblygedig a ffordd o weithio cydweithredol, a’r gallu i ymgysylltu a chyfathrebu’n effeithiol ag ystod eang o gynulleidfaoedd, gan gynnwys gwyddonwyr adnabyddus, a helpu i sicrhau bod cyngor y pwyllgor yn glir ac yn hygyrch. 

10.  Rhestr wirio cyn cyflwyno 

Cyn i chi gyflwyno’ch cais, gwiriwch eich bod wedi gwneud y canlynol: 

  • atodi’ch CV
  • atodi’ch datganiad ategol
  • atodi’ch ffurflen ddatgan buddiannau gyflawn
  • atodi’ch ffurflen fonitro gyflawn
  • nodi o leiaf un maes arbenigol o’r hysbyseb
  • teilwra’ch datganiad ategol i’r rôl
  • dangos sut rydych yn bodloni’r meini prawf dethol
  • cynnwys y SAC a’r rôl gywir yn llinell bwnc yr e-bost (er enghraifft, aelod llawn ACNFP)

11. Cwestiynau a manylion cyswllt 

Os oes gennych gwestiynau am y swyddi gwag, y broses ymgeisio, y canllawiau ymgeisio neu broses cyflwyno’ch cais, cysylltwch â SACrecruitment@food.gov.uk

Os oes angen help arnoch gyda’ch cais, cysylltwch â’r tîm cyn 11 Hydref 2026, lle bo modd, er mwyn caniatáu digon o amser i’r tîm ymateb cyn y dyddiad cau.