Canllawiau i ymgeiswyr: Recriwtio – Pwyllgor Cynghori Gwyddonol (SAC)
Canllawiau i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn ymuno â Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol a Chyngor Gwyddoniaeth yr ASB, gan gynnwys manylion am y rolau sydd ar gael a sut i wneud cais.
Dogfennau
Manylion
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn adran anweinidogol, annibynnol a sefydlwyd yn y flwyddyn 2000. Ein gwaith ni, fel y nodir yn y gyfraith, yw diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd. Rydyn ni’n gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon, ond rydyn ni’n gweithredu’n annibynnol ac yn agored, dan arweiniad gwyddoniaeth a thystiolaeth. Ein cenhadaeth sylfaenol yw bwyd y gallwch ymddiried ynddo. Beth rydyn ni’n ei olygu wrth ‘bwyd y gallwch ymddiried ynddo’? System fwyd lle mae bwyd yn ddiogel, mae bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, ac mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy.
Mae ein Pwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) a’n Cyngor Gwyddoniaeth yn hanfodol i waith yr ASB. Maen nhw’n chwarae rhan enfawr wrth ein helpu i flaenoriaethu ein gwaith a sicrhau bod ein cyngor i ddefnyddwyr yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn gywir.
Amserlen ar gyfer penodiadau i’r SACs
Dim ond amcangyfrif yw’r dyddiadau a gallan nhw newid:
| Dyddiad cau: | 12 Hydref 2026, 23:59 BST (amser y DU) |
|---|---|
| Cyfweliadau: | Disgwylir iddynt ddigwydd ym mis Tachwedd a mis Rhagfyr 2026 |
| Penodiadau: | I’w cadarnhau ym mis Chwefror 2027 |
| Cynefino (‘induction’): | Mawrth 2027 |
Updates to this page
-
Added “British Summer Time (BST)” to the closing time for clarity.
-
Monitoring form (page 14): corrected two responses to ensure the selected answers were accurate and appropriate.
-
Welsh language pages added to the page.
-
The link in the monitoring form has been updated.
-
Added translation