Skip to main content
Canllawiau

Swyddi gwag

Diweddarwyd 16 Medi 2026

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn recriwtio aelodau i ymuno â’i Phwyllgorau Cynghori Gwyddonol (SACs) a’i Chyngor Gwyddoniaeth. Mae gwaith recriwtio’n canolbwyntio ar feysydd arbenigol penodol y mae pob pwyllgor wedi’u nodi. Cyn gwneud cais, dylai ymgeiswyr wirio’r arbenigedd dan sylw ar gyfer pob rôl a phwyllgor, ac ystyried sut mae eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u profiad yn cyd-fynd â’r meini prawf dethol. 

1. Arbenigedd 

1.1 Pwyllgor Cynghori ar Fwydydd a Phrosesau Newydd 

1 swydd fel cadeirydd sy’n gofyn am brofiad o gadeirio grwpiau amlddisgyblaethol a hwyluso consensws ar gynhyrchion bwyd arloesol. 

5 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt yn y meysydd arbenigol canlynol: 

  • cynrychiolydd o’r diwydiant sydd â gwybodaeth am brosesau diwydiannol a phrosesau cynhyrchu 

  • arbenigwr asesu risg alergenigrwydd ac alergedd bwyd (anghlinigol) 

  • arbenigwr mewn dadansoddi proteomig a metabolomig 

  • geneteg planhigion a defnyddio technolegau genetig cysylltiedig 

  • arbenigwr astudio tocsicoleg dros gyfnod o 90 diwrnod. 

1.2 Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Anifeiliaid 

1 swydd fel cadeirydd sy’n gofyn am brofiad o gadeirio grwpiau amlddisgyblaethol a hwyluso consensws ar ddiogelwch bwyd anifeiliaid, gan gynnwys asesu deunyddiau bwyd anifeiliaid newydd a risgiau sy’n dod i’r amlwg. 

2 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt yn y meysydd arbenigol canlynol: 

  • treialon anifeiliaid, bwyd anifeiliaid, dyframaeth, monogastreg a threialon milfeddygol 

  • gwybodaeth ehangach am systemau amaethyddol a ffermio 

1.3 Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a’r Amgylchedd 

4 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt yn y meysydd arbenigol canlynol: 

  • patholeg neu docsicoleg gyffredinol gan gynnwys patholeg 

  • modelu, yn enwedig ystadegau a modelu dosau meincnod 

  • asesiadau cysylltiad 

  • niwrotocsigrwydd 

1.4 Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd 

2 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt yn y meysydd arbenigol canlynol: 

  • modelu risg gydag arbenigedd mewn modelu risg meintiol/cymhleth a dadansoddi ansicrwydd 

  • microbiolegydd bwyd cyffredinol  

1 swydd fel aelod lleyg

1.5 Cyngor Gwyddoniaeth 

1 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt yn y meysydd arbenigol canlynol: 

  • halogion cemegol mewn bwyd 

1 swydd fel aelod lleyg gyda dealltwriaeth o ddosbarthu a chynhyrchu bwyd. 

1.6 Pwyllgor Cynghori ar Wyddor Gymdeithasol 

5 swydd fel aelod llawn a/neu aelod cyswllt yn y meysydd arbenigol canlynol: 

  • economegydd iechyd cyhoeddus cymhwysol sy’n arbenigo mewn dulliau microeconomaidd, macroeconomaidd, ymddygiadol a gwleidyddol i’r economi 

  • ystadegydd cymhwysol sy’n arbenigo mewn methodoleg ystadegol, llunio polisïau a gwneud penderfyniadau 

  • gwyddonydd cymdeithasol sy’n arbenigo mewn dulliau ansoddol a chyfranogol 

  • gwyddonydd cymdeithasol sy’n arbenigo mewn methodoleg arolygon a dulliau digidol 

  • gwyddonydd cymdeithasol sy’n arbenigo mewn gwyddorau ymddygiadol 

Bydd galw hefyd am wybodaeth am un neu fwy o’r pynciau canlynol ar gyfer pob un o’r meysydd arbenigol uchod: 

  • arloesi bwyd, data a deallusrwydd artiffisial 

  • rheoli a chyfleu risgiau 

  • agweddau ac ymddygiadau defnyddwyr sy’n berthnasol i ddiogelwch bwyd 

2. Rolau 

2.1 Cadeiryddion  

Y cadeirydd yw’r prif bwynt cyswllt rhwng y SAC a’r ASB ac mae’n chwarae rhan allweddol yng ngweithrediadau ac allbynnau’r SAC. Mae gan y cadeirydd nifer o gyfrifoldebau, gan gynnwys gweithio gyda’r ASB i sicrhau bod amrywiaeth ddigonol o sgiliau, arbenigedd a phrofiad o fewn aelodaeth y SAC i gynnig heriau addas; sicrhau bod cyfle clywed gan bob aelod o’r SAC ac nad oes unrhyw farn yn cael ei hanwybyddu na’i hesgeuluso; adrodd am gyngor y SAC wrth yr ASB, gan gynnwys ei rhybuddio am dystiolaeth newydd sy’n debygol o effeithio ar bolisi presennol; a bod yn eiriolwr gweithredol dros amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd penodiad tymor cyntaf safonol o dair blynedd yn cael ei roi i gadeiryddion. 

2.2 Aelodau llawn  

Mae gan aelod llawn yr arbenigedd, neu’r profiad, technegol penodol sy’n ofynnol gan ei SAC ac mae disgwyl iddo fod yn arbenigwr cydnabyddedig yn ei bwnc. Dylai aelodau llawn ystyried archwilio, ac os oes angen, herio rhagdybiaethau sy’n ffurfio sail unrhyw gyngor gwyddonol yn rhan o’u rôl. Dylen nhw hefyd ystyried a yw’r cwestiynau sy’n ffurfio sail unrhyw gyngor gan y SAC o ddiddordeb i’r cyhoedd a phartïon eraill sydd â buddiant y tu allan i’r gymuned wyddonol. Bydd penodiad tymor cyntaf safonol o dair blynedd yn cael ei roi i aelodau llawn.  

2.3 Aelodau cyswllt  

Fel arfer, mae aelodau cyswllt yn unigolion sydd wedi datblygu arbenigedd sy’n berthnasol i gylch gwaith y pwyllgor ac yn gallu cyfrannu’n ystyrlon at drafodaethau. Ond, gallen nhw fod ar adeg cynharach yn eu gyrfa, heb eto fod ag ystod o brofiadau a chyfrifoldebau arweinyddol y byddai fel arfer yn ddisgwyliedig gan aelod llawn. Fel arfer, byddan nhw wedi dechrau sefydlu enw da i’w hunain yn eu maes, ac felly mae’n fwriad i unigolion ymgymryd â’r rôl, sydd â photensial i ddod yn aelodau llawn yn y dyfodol ac sy’n awyddus i ennill profiad o gyfrannu at waith pwyllgor cynghori gwyddonol. Bydd aelodau cyswllt yn cael eu penodi am dymor cychwynnol o ddwy flynedd. Ar ôl cwblhau eu tymor yn llwyddiannus, gallai aelodau cyswllt wneud cais am aelodaeth lawn drwy gystadleuaeth agored. 

2.4 Aelodau lleyg  

Mae aelod lleyg yn aelod llawn nad yw’n arbenigwr technegol ar y SAC, ond sydd yno i gynrychioli buddiannau defnyddwyr. Gall yr union rôl ei hun amrywio yn dibynnu ar gylch gwaith y pwyllgor y mae’r aelod wedi’i benodi iddo. Efallai y bydd yn gweithredu fel cyfaill beirniadol, cyfrannu profiadau o’r tu allan i’r aelodaeth broffesiynol, neu ddarparu safbwynt allanol, heb arbenigedd, i’r broses o wneud penderfyniadau. Gallai’r aelod hefyd helpu i sicrhau ansawdd allbynnau’r pwyllgor neu helpu i gyfathrebu gwaith y pwyllgor yn glir. Bydd aelodau lleyg yn cael eu penodi am dymor cyntaf safonol o dair blynedd. 

3. Pwyllgorau 

3.1 Cyngor Gwyddoniaeth 

  • Mae’r cyngor yn darparu mewnwelediad, her a chyngor strategol, lefel uchel, arbenigol i Brif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB ac i Fwrdd a gweithrediaeth yr ASB ar ei defnydd o wyddoniaeth i gyflawni ei hamcanion.  

  • Hefyd, mae’n sicrhau bod yr ASB yn nodi, caffael, integreiddio, a defnyddio’r dystiolaeth a’r arbenigedd gwyddonol gorau o bob disgyblaeth berthnasol i lywio a gwerthuso ei gwaith.  

3.2 Pwyllgor Cynghori ar Wyddorau Cymdeithasol (ACSS) 

  • Mae’n darparu cyngor strategol, arbenigol i’r ASB ar ei defnydd o’r gwyddorau cymdeithasol – gan gynnwys dulliau, prosesau a systemau newydd a rhai sy’n dod i’r amlwg i ddadansoddi data – er mwyn cyflawni amcanion yr ASB.  

  • Diben y pwyllgor yw helpu’r ASB i ddefnyddio’r gwyddorau a’r dulliau hyn er mwyn llunio a chyflawni ei hamcanion strategol, yn ogystal â deall ei heffeithiau.  

3.3 COT, ACMSF, ACNFP, ACAF 

  • Casglu gwybodaeth wyddonol ac asesu ei pherthnasedd er mwyn darparu cyngor a chymorth annibynnol, gan ganolbwyntio ar feysydd gwyddonol penodol sy’n berthnasol i waith yr ASB.  

  • Sicrhau bod cyngor yr ASB ar sail tystiolaeth wyddonol gadarn a’r dystiolaeth ddiweddaraf.  

  • Mae’r aelodau’n cynnwys academyddion arbenigol, ymarferwyr profiadol a chynrychiolwyr defnyddwyr.