Skip to main content
Canllawiau

Gwybodaeth ychwanegol

Diweddarwyd 16 Medi 2026

1. Cofrestr o arbenigwyr yr ASB  

Efallai y bydd ymgeiswyr sy’n cael eu gwahodd i gyfweliad yn cael eu gwahodd ar wahân i ymuno â Chofrestr o Arbenigwyr yr ASB. Mae hon yn rhestr o arbenigwyr y gall yr ASB alw arnyn nhw am safbwyntiau arbenigol i lywio gwaith yr ASB

2. Cyfle cyfartal 

Rydym yn annog ceisiadau gan unigolion dawnus o bob cefndir ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan. Mae byrddau a phwyllgorau cyrff cyhoeddus yn fwyaf effeithiol pan fyddant yn adlewyrchu amrywiaeth safbwyntiau’r gymdeithas y maent yn ei gwasanaethu. 

Rydym yn casglu data am nodweddion a chefndir ymgeiswyr fel y gallwn ni wneud yn siŵr ein bod ni’n denu ystod eang o bobl i’r rolau hyn a bod ein prosesau dethol yn deg i bawb. Heb yr wybodaeth hon, mae’n ei gwneud hi’n anodd gweld a yw ein gwaith allgymorth yn gweithio, a yw’r broses ymgeisio’n cael effaith annheg ar rai grwpiau ac a yw newidiadau’n gwneud gwahaniaeth cadarnhaol. 

Bydd yr ASB yn casglu eich ymatebion pan fyddwch yn cyflwyno’ch cais. Caiff y data ei ddefnyddio i gynhyrchu gwybodaeth reoli am amrywiaeth yr ymgeiswyr. Gallwch ddewis “mae’n well gen i beidio â dweud” ar gyfer unrhyw gwestiwn nad ydych yn dymuno ei ateb. Ni fydd y panel asesu’n gweld yr wybodaeth y byddwch yn ei ddarparu. Bydd y panel yn adolygu ceisiadau yn erbyn y meini prawf yn yr hysbyseb a’r cyfweliadau. 

3. Cynllun Hyderus o ran Anabledd 

Mae’r ASB yn gwerthfawrogi amrywiaeth, ac mae wedi ymrwymo i roi cyfle cyfartal i bawb ac i benodi pobl anabl. Rydym yn aelod o’r cynllun Hyderus o ran Anabledd, sy’n helpu i recriwtio a chadw pobl anabl. Bydd pob ymgeisydd sy’n gwneud cais o dan y cynllun ar gyfer un o’n penodiadau ac sy’n bodloni’r holl feini prawf hanfodol, yn cael cynnig cyfweliad. Ni fydd nodi eich bod chi’n dymuno i’ch cais gael ei ystyried o dan y cynllun yn effeithio’n negyddol ar eich cais mewn unrhyw ffordd. 

I fod yn gymwys ar gyfer y cynllun hyderus o ran anabledd, rhaid i chi fod yn berson anabl neu fod gennych gyflwr iechyd hirdymor, a allai fod yn gorfforol, yn synhwyraidd neu’n feddyliol, a rhaid iddi fod yn debygol y bydd yn para am o leiaf 12 mis. Nid oes rhaid i chi fod wedi’ch cofrestru fel person anabl i wneud cais o dan y cynllun hwn. 

Os ydych chi’n dymuno gwneud cais o dan y cynllun, sicrhewch eich bod chi’n llenwi’r adran hon o’r ffurflen fonitro. 

4. Addasiadau rhesymol 

Rydym wedi ymrwymo i wneud addasiadau rhesymol i sicrhau nad yw ymgeiswyr anabl, nac ymgeiswyr â chyflyrau iechyd corfforol neu feddyliol, neu anghenion eraill o dan anfantais sylweddol wrth wneud cais am benodiadau cyhoeddus. Gall hyn gynnwys newid y broses recriwtio i alluogi pobl sy’n dymuno gwneud cais i wneud hynny. 

Dyma rai enghreifftiau o newidiadau cyffredin:

  • sicrhau bod ffurflenni cais ar gael mewn fformatau gwahanol neu hygyrch
  • gwneud addasiadau i leoliadau cyfweliadau
  • caniatáu i ymgeiswyr gyflwyno eu sgiliau a’u profiad mewn ffordd wahanol
  • rhoi gwybodaeth fanwl ychwanegol am y broses ddethol / gyfweld ymlaen llaw er mwyn rhoi amser i ymgeiswyr ymbaratoi
  • caniatáu gweithwyr cymorth, er enghraifft dehonglwyr iaith arwyddion
  • sicrhau bod anifeiliaid cymorth yn gallu bod yn bresennol

Cewch gyfle i ofyn am addasiadau rhesymol pan fyddwch yn gwneud cais. 

I gael rhagor o fanylion, cyfeiriwch at ganllawiau’r llywodraeth

Cysylltwch â SACrecruitment@food.gov.uk os hoffech drafod unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen arnoch. 

5. Pwy sy’n gymwys i wneud cais?   

Ni all aelodau ddal unrhyw swyddi am dâl na swyddi proffil uchel di-dâl mewn plaid wleidyddol, ac ni chân nhw gymryd rhan mewn gweithgareddau gwleidyddol penodol ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar waith y Cyngor Gwyddoniaeth a’r SACs.     

Rydym yn croesawu ceisiadau gan aelodau presennol o SAC y llywodraeth; fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr restru penodiadau presennol perthnasol yn eu cais er mwyn nodi unrhyw draws-aelodaeth ac asesu unrhyw wrthdaro posib o ran buddiannau.   

Mae croeso i ymgeiswyr sydd wedi’u lleoli yn y DU ac yn rhyngwladol i gyflwyno ceisiadau. Rhaid i ymgeiswyr allu cyflawni dyletswyddau’r rôl drwy gydol cyfnod eu penodiad, gan gynnwys cymryd rhan mewn cyfarfodydd, ymgymryd â gwaith paratoadol, a chydymffurfio â phob un o’r gofynion sy’n gysylltiedig â’r penodiad. Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus a ydynt yn gallu bodloni’r gofynion ymarferol, cyfreithiol, rheoleiddiol a gweinyddol, a’r gofynion o ran treth mewn perthynas â’r rôl cyn gwneud cais. 

Bydd penodiad yn ddibynnol ar gwblhau gwiriadau a datganiadau perthnasol yn foddhaol. Bydd yr ASB yn pennu’r gwiriadau sy’n ofynnol ar gyfer pob penodiad, gan ystyried natur y rôl ac amgylchiadau’r ymgeisydd. Efallai y bydd y broses a’r dystiolaeth sy’n ofynnol yn wahanol pan fo’r ymgeisydd wedi’i leoli y tu allan i’r DU. 

6. Egwyddorion bywyd cyhoeddus  

Mae disgwyl i ddeiliaid swyddi cyhoeddus gadw at y Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus, a’u cynnal. Mae’r rhain fel a ganlyn:  

  • Anhunanoldeb – dim ond er lles y cyhoedd y dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu
  • Uniondeb – rhaid i ddeiliaid swyddi cyhoeddus osgoi ymrwymo eu hunain i bobl neu sefydliadau a allai geisio dylanwadu arnynt yn amhriodol wrth eu gwaith. Ni ddylent weithredu na gwneud penderfyniadau er mwyn iddyn nhw, eu teulu neu eu ffrindiau, elwa’n ariannol neu elwa mewn ffordd faterol arall. Rhaid iddynt ddatgan a datrys unrhyw fuddiannau a pherthnasoedd
  • Gwrthrychedd – rhaid i ddeiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau yn ddiduedd, yn deg ac ar sail teilyngdod, gan ddefnyddio’r dystiolaeth orau a heb wahaniaethu na rhagfarnu
  • Atebolrwydd – mae deiliaid swyddi cyhoeddus yn atebol i’r cyhoedd am eu penderfyniadau a’u gweithredoedd ac mae’n rhaid iddynt fod yn agored i bobl eraill graffu ar eu gwaith er mwyn sicrhau hyn
  • Tryloywder – dylai deiliaid swyddi cyhoeddus weithredu a gwneud penderfyniadau mewn ffordd agored a thryloyw. Ni ddylent guddio gwybodaeth rhag y cyhoedd oni bai bod rhesymau clir a chyfreithlon dros wneud hynny
  • Gonestrwydd – dylai deiliaid swyddi cyhoeddus fod yn onest
  • Arweinyddiaeth – dylai deiliaid swyddi cyhoeddus arddangos yr egwyddorion hyn yn eu hymddygiad eu hunain a thrin eraill â pharch. Dylent hyrwyddo’r egwyddorion a’u cefnogi’n gadarn, yn ogystal â herio ymddygiad gwael lle bynnag y mae’n codi  

7. Cod ymarfer  

Mae Cyngor Gwyddoniaeth a SACs yr ASB yn glynu wrth y Cod Ymarfer i Bwyllgorau a Chynghorau Cynghori Gwyddonol. Mae disgwyl i bob aelod weithio i’r safonau personol a phroffesiynol uchaf.   

8. Rheoli buddiannau allanol ac ystyried materion o ran enw da’r sefydliad 

Cyn i chi wneud cais, dylech ystyried y canlynol yn ofalus:   

  • unrhyw fuddiannau allanol a allai fod gennych, er enghraifft efallai fod gennych gyfranddaliadau mewn cwmni sy’n darparu gwasanaethau i’r llywodraeth
  • unrhyw faterion posib o ran enw da’r sefydliad sy’n deillio o’ch gweithredoedd yn y gorffennol neu ddatganiadau cyhoeddus yr ydych chi wedi’u gwneud
  • a/neu unrhyw rolau gwleidyddol sydd gennych neu ymgyrchoedd gwleidyddol yr ydych wedi’u cefnogi, a allai fwrw amheuaeth ar eich gallu i wneud y rôl yr ydych chi’n gwneud cais amdani  

Mae modd datrys sawl achos o wrthdaro buddiannau yn foddhaol, ac nid yw datgan gwrthdaro posib yn eich atal rhag cael eich gwahodd i gyfweliad. Os bydd eich enw’n cael ei ychwanegu at restr fer ar gyfer cyfweliad, byddwn yn gofyn i chi lenwi ffurflen datgan buddiannau a bydd y panel yn trafod unrhyw wrthdaro posib â chi yn ystod y cyfweliad hwnnw, gan gynnwys unrhyw gynigion a allai fod gennych i’w liniaru, gan gofnodi hynny yn eu cyngor i weinidogion. 

Ochr yn ochr â’ch datganiad eich hun, byddwn yn cynnal gwiriadau priodol, ac fel rhan o’r rhain byddwn yn ystyried unrhyw beth cyhoeddus sy’n ymwneud â’ch ymddygiad neu’ch gallu proffesiynol. Gallai hyn gynnwys chwilio trwy ddatganiadau cyhoeddus blaenorol a chyfrifon ar y cyfryngau cymdeithasol, blogiau neu unrhyw wybodaeth arall sydd ar gael yn gyhoeddus. Os bydd eich cais yn llwyddiannus, bydd gofyn i chi ddatgan pob buddiant perthnasol i Fwrdd yr ASB yn unol â’r Cod Ymarfer i Bwyllgorau a Chynghorau Cynghori Gwyddonol. Byddwn yn cyhoeddi’r wybodaeth sydd wedi’i darparu wrth gyhoeddi eich penodiad. 

9. Penodiad a hyd y penodiad 

Mae cadeiryddion, aelodau llawn ac aelodau lleyg yn cael eu penodi am dymor cyntaf safonol o dair blynedd, gan gynnwys posibilrwydd o gael eu hailbenodi am dymor pellach. Bydd unrhyw ailbenodi’n amodol ar werthusiad blynyddol boddhaol o berfformiad yn ystod tymor cyntaf y swydd.   

Caiff aelodau cyswllt eu penodi am dymor cychwynnol o ddwy flynedd. Os byddan nhw’n cwblhau’r tymor hwn yn llwyddiannus, gall aelodau cyswllt wedyn ddod yn aelodau llawn drwy gystadleuaeth agored.   

10.  Ein ffyrdd o weithio   

Mae’r Cyngor Gwyddoniaeth a’r SACs yn cynnal cyfarfodydd mewn amrywiaeth o fformatau gan gynnwys rhai wyneb yn wyneb, ar-lein a hybrid. Bydd gofyn i aelodau ddefnyddio Microsoft Teams a SharePoint yn effeithiol fel rhan o’u rôl, felly bydd angen mynediad at gyfrifiadur arnoch sydd â chysylltiad sefydlog i’r rhyngrwyd a chamera. 

11. Ymrwymiad amser  

Bydd yr ymrwymiad amser sy’n gysylltiedig ag aelodaeth yn amrywio yn ôl pa SAC penodol y bydd yr unigolyn yn cael ei benodi iddo, yn ogystal â natur a maint y gwaith y mae’r pwyllgor hwnnw’n ei ystyried. Efallai y bydd gofyn i aelodau hefyd roi barn ychwanegol rhwng cyfarfodydd, a ffurfio is-grwpiau’n achlysurol sy’n canolbwyntio ar bynciau penodol, tymor byr. Gallai’r ASB hefyd geisio cyngor gan bwyllgorau o bryd i’w gilydd neu mewn argyfwng.     

Fel amcan, gall aelodau ddisgwyl ymrwymo tua 20 diwrnod y flwyddyn ar gyfartaledd. Ar gyfer y Cyngor Gwyddoniaeth, yr ymrwymiad cyfartalog yw tua 10 diwrnod y flwyddyn, gan gynnwys mynd i bedwar cyfarfod. 

12. Tâl a threuliau    

12.1 SAC 

Nid yw swyddi SAC yn gyflogedig. Gallai aelodau hawlio tâl, treuliau teithio rhesymol a threuliau eraill, yn unol â’r canllawiau ar daliadau a threuliau pwyllgorau

12.2 Cyngor Gwyddoniaeth  

Mae aelodau’r Cyngor Gwyddoniaeth yn cael cydnabyddiaeth bob blwyddyn ariannol yn ogystal â threuliau rhesymol, yn unol â’r canllawiau ar gydnabyddiaeth a threuliau’r Cyngor Gwyddoniaeth

13. Codi pryderon 

Rydym yn anelu at brosesu pob cais cyn gynted â phosib a thrin pob ymgeisydd â chwrteisi. Os ydych yn teimlo bod eich cais wedi’i drin yn annheg, a’ch bod chi’n dymuno codi cwyn, dylech anfon e-bost i SACrecruitment@food.gov.uk yn y lle cyntaf.   

Os ydych chi’n dal i fod yn anfodlon a hoffech fynd â’ch cwyn ymhellach, dilynwch ein gweithdrefn gŵynion.

14. Diogelu data 

Bydd yr ASB yn defnyddio’ch data yn unol â’r Siarter gwybodaeth bersonol a Deddf Diogelu Data 2018.  

15. Manylion cyswllt  

Ar gyfer unrhyw ymholiadau ynglŷn â’r broses ymgeisio, cysylltwch â SACrecruitment@food.gov.uk.