Skip to main content

Amdanom ni

Rydym yn hyrwyddo cystadleuaeth ac yn diogelu defnyddwyr gyda nod terfynol clir – twf economaidd a ffyniant aelwydydd.


Mae gennym staff yn Llundain, Caeredin, Belfast, Caerdydd, Manceinion a Darlington.

Hyrwyddo cystadleuaeth

Pan fydd cystadleuaeth yn gweithio’n dda, mae pawb ar eu hennill. Ein huchelgais yw hyrwyddo amgylchedd lle gall pobl fod yn hyderus eu bod yn cael dewisiadau gwych a bargeinion teg, lle gall busnesau cystadleuol sy’n gwneud bargeinion teg arloesi a ffynnu, a lle gall economi’r DU gyfan dyfu’n gynhyrchiol ac yn gynaliadwy.

Video: Why competition is good for business

Ein cyfrifoldebau

Byddwn yn hyrwyddo cystadleuaeth ac yn diogelu defnyddwyr gyda nod terfynol clir ⁠ – twf economaidd a ffyniant aelwydydd ⁠ – mewn nifer o ffyrdd:

  • rydym yn ymchwilio i uno sydd â’r potensial i arwain at ostyngiad sylweddol mewn cystadleuaeth. Os yw uno yn debygol o leihau cystadleuaeth yn sylweddol, gall y CMA ei rwystro neu orfodi rhwymedïau i fynd i’r afael â’r pryderon hynny.
  • rydym yn cymryd camau yn erbyn busnesau ac unigolion sy’n cymryd rhan mewn cartelau neu ymddygiad gwrth-gystadleuol
  • rydym yn diogelu pobl rhag arferion masnachu annheg, gan gynnwys mewn achosion lle mae triniaeth annheg yn awgrymu y gallai fod problem systemig yn y farchnad.
  • rydym yn ymchwilio i farchnadoedd cyfan os ydym yn credu bod problemau defnyddwyr neu gystadleuaeth
  • rydym yn annog y llywodraeth a rheoleiddwyr eraill i ddefnyddio cystadleuaeth yn effeithiol ar ran defnyddwyr
  • rydym yn cynnal apeliadau rheoleiddiol mewn perthynas â materion fel rheolaethau prisiau
  • rydym yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl a busnesau ynghylch hawliau a rhwymedigaethau o dan gyfraith cystadleuaeth a defnyddwyr
  • rydym yn darparu cyngor technegol, adrodd a monitro mewn perthynas â marchnad fewnol y DU, drwy Swyddfa’r Farchnad Fewnol
  • rydym yn darparu cyngor, adroddiadau a gwaith monitro mewn perthynas â chymorthdaliadau’r llywodraeth, trwy’r Uned Cyngor ar Gymorthdaliadau

Mae’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd (CMA) yn adran annibynnol anweinidogol. Mae ein gwaith yn cael ei oruchwylio gan Fwrdd, ac yn cael ei arwain gan y Prif Weithredwr a’r uwch dîm. Gwneir penderfyniadau mewn rhai ymchwiliadau gan aelodau annibynnol o banel CMA.

Ein cynllun blynyddol

Bob blwyddyn rydym yn cyhoeddi ein cynllun blynyddol, sy’n amlinellu’r blaenoriaethau sy’n sail i’n gwaith.

Dywedwch wrthym am broblemau neu faterion cystadleuaeth

Mae’n bwysig ein bod yn clywed am unrhyw broblemau mewn marchnadoedd, neu gyda sefydliadau penodol, ond ni allwn bob amser ymateb yn fanwl i gwynion unigol.

Darllenwch ein canllawiau ar sut mae’r CMA yn ymdrin â gwybodaeth a chwynion am ragor o wybodaeth.

Gweithio i’r CMA

Mae’r CMA yn lle cyffrous i weithio, ac mae gennym ni amrywiaeth o rolau rydym ni’n recriwtio ar eu cyfer.

Gofynnwch i rywun o’r CMA siarad yn eich digwyddiad

Dylid cyflwyno ceisiadau am siaradwyr neu banelwyr CMA mewn digwyddiadau gan ddefnyddio ein ffurflen gais am siaradwr.

Noder bod ceisiadau am y Prif Weithredwr a’r Cadeirydd fel arfer yn gofyn am o leiaf 3 mis o rybudd. Fel arfer mae angen o leiaf 1 mis o rybudd ar siaradwyr eraill.

Llenwch y ffurflen yn gywir a chynnwys cymaint o fanylion â phosibl.

Ni allwn sicrhau y byddwn yn cynnig rhywun i siarad neu y bydd unigolyn penodol ar gael. Os na allwn gynnig yr unigolyn rydych chi’n gofyn amdano, byddwn yn ceisio cynnig unigolyn arall ar gyfer eich digwyddiad.

Os na allwch ddefnyddio ein ffurflen, anfonwch e-bost atom yn cmaspeakerrequest@cma.gov.uk.

Amrywiaeth a chynhwysiant mewn digwyddiadau

Mae Strategaeth Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant y CMA yn flaenoriaeth allweddol i’r sefydliad. Rydym yn benderfynol o hyrwyddo cyfle cyfartal ac rydym yn cydnabod amrywiaeth y staff sy’n gweithio yn y sefydliad, a’r defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill sy’n rhan o’r gymuned ehangach yr ydym yn gweithio gyda hi.

Felly, rydym yn awyddus i ddeall y camau y mae trefnwyr wedi’u cymryd i sicrhau amrywiaeth a chynhwysiant ymhlith siaradwyr a phanelwyr eu digwyddiadau. Gwnewch yn siŵr bod cwestiynau’n cael eu hateb mor llawn â phosibl. Os ydym yn credu nad yw’r digwyddiad yn ymddangos yn gynhwysol, efallai y byddwn yn ceisio mwy o wybodaeth i ddeall sut y mae amrywiaeth wedi’i hystyried cyn dod i benderfyniad ar y cais am siaradwr.

Am unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â’r ffurflen gais am siaradwr, e-bostiwch cmaspeakerrequest@cma.gov.uk.

Darllenwch siarter gwybodaeth bersonol (in English) y CMA i ddarganfod sut rydym yn casglu, defnyddio a rhannu gwybodaeth bersonol yn y CMA.

Gwybodaeth gorfforaethol

Cyrchwch ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydym ni’n eu cyhoeddi’n rheolaidd yn ein cynllun Cyhoeddi (in English). Dysgwch am ein hymrwymiad i’r cynllun iaith Gymraeg (in English). Mae ein Siarter gwybodaeth bersonol (in English) yn esbonio sut rydym ni’n trin eich gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol (in English).

Gwybodaeth gorfforaethol

Cael mynediad at ein gwybodaeth

Swyddi a chontractau

Darllenwch am y mathau o wybodaeth rydyn ni'n ei chyhoeddi'n rheolaidd yn ein Publication scheme. Dysgwch am ein hymrwymiad i Welsh language scheme. Mae ein Personal information charter yn esbonio sut rydyn ni'n ymdrin â'ch gwybodaeth bersonol. Darllenwch ein polisi ar Social media use.