Gweithdrefn gwyno
Ein nod yw delio ag aelodau'r cyhoedd yn deg ac yn briodol. Rhowch wybod i ni os ydych chi'n teimlo nad ydym wedi cyrraedd y safon honno.
Darllenwch ein polisi cwynion (in English) i ddarganfod sut rydym yn delio â chwynion gan y cyhoedd am ein hymddygiad.
Os ydych chi’n amau bod busnes wedi torri cyfraith cystadleuaeth neu gyfraith defnyddwyr, darllenwch ein canllaw ar wneud cwyn a beth sy’n digwydd nesaf (in English).
Ein safonau ar gyfer ymdrin â chwynion am y CMA
Rydym yn glynu wrth Egwyddorion Trin Cwynion yn Dda (in English) a nodir gan yr Ombwdsmon Seneddol a Gwasanaeth Iechyd.
Ein nod yw:
- ateb pob cwyn gychwynnol o fewn 30 diwrnod gwaith i’w derbyn – os nad yw’n bosibl i ni ateb o fewn 30 diwrnod gwaith, byddwn yn egluro’r oedi, yn ateb unrhyw bwyntiau y gallwn, yn rhoi gwybod i chi pryd y gallwch ddisgwyl derbyn ateb llawn, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y cynnydd
- ateb yr holl bwyntiau a godwyd gennych, yn gywir ac mewn Cymraeg clir
- ateb pob galwad ffôn (gan gynnwys cwynion) o fewn 30 eiliad – os byddwch yn gadael neges, ein nod yw cysylltu â chi o fewn un diwrnod gwaith
- bod yn deg, yn gwrtais ac yn gymwynasgar bob amser, gan gynnwys rhoi gwybod i chi gyda phwy rydych chi’n siarad, os gofynnwch
- ceisio eich rhoi mewn cysylltiad â rhywun arall os na allwn ddatrys eich ymholiad yn uniongyrchol
- delio ag unrhyw gŵyn yn unol â’n gweithdrefnau cyhoeddedig
- gwneud popeth o fewn ein gallu rhesymol i sicrhau bod ein gwasanaethau ar gael i bawb
Rydym yn cydymffurfio â phob gofyniad rhyddid gwybodaeth (in English) a diogelu data (in English). Byddwn yn rhoi rhesymau i chi yn ôl yr angen os na allwn gydymffurfio â cheisiadau am fynediad at wybodaeth.
Cofnodi cwynion a chyfrinachedd
Byddwn yn cofnodi pob cwyn a dderbyniwn fel y gallwn fonitro’r mathau o broblemau, y ffordd orau o’u datrys a pha mor hir rydym yn ei gymryd i ddelio â nhw. Mae hyn hefyd yn ein helpu i edrych yn agosach ar sut y gallwn wella ein darpariaeth gwasanaeth ein hunain.
Bydd pob cwyn a dderbynnir yn cael ei thrin yn gyfrinachol ac yn unol â gofynion Deddf Diogelu Data 2018 a’r Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016.
Ni fyddwn yn ateb e-byst, galwadau na llythyrau anghwrtais neu ddifrïol.
Sut i wneud eich cwyn
Gallwch wneud eich cwyn yn ysgrifenedig, dros y ffôn neu drwy e-bost:
Ffôn: 020 3738 6000
E-bost: general.enquiries@cma.gov.uk
Gallwch ysgrifennu at:
Complaints Manager
Contacts Team
Competition and Markets Authority
The Cabot,
25 Cabot Square,
London
E14 4QZ
Barn defnyddwyr
Rydym yn gwella ein gwasanaethau drwy wrando ar eich barn ac ymateb iddi. Rydym hefyd yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ar ein gweithdrefn gwyno, er mwyn sicrhau ei bod yn gweithio mor effeithlon ac effeithiol â phosibl. Anfonwch y rhain atom yn y cyfeiriad uchod.
Gofynnwch i ni os hoffech gael copi o’n polisi cwynion mewn print bras.