Datganiad i'r wasg

Gweinidog Swyddfa Cymru ym Mhortmeirion a Plas Newydd

Y Farwnes Randerson yn cyfeirio at atyniadau gogledd Cymru fel “arweinwyr yn eu maes" all gystadlu â'r gorau yn y byd.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
Portmeirion

Portmeirion

Bydd Gweinidog Swyddfa Cymru y Farwnes Randerson heddiw (28 Awst) yn ymweld â Phortmeirion, y pentref a gwesty ym Mhorthmadog wedi’u crefftio’n hardd yn y modd Eidalaidd.

Mae’r pentref yn denu ymwelwyr o bedwar ban y byd – bu dros 200,000 yno yn 2013 - ac mae ganddo ddilyniant cwlt o’i rôl fel y lleoliad ar gyfer y gyfres deledu The Prisoner.

Dywedodd Robin Llywelyn, Rheolwr Gyfarwyddwr Portmeirion:

Mae Eryri yn amlwg iawn ar agenda yr ymwelydd tramor i Gymru, ac rydym yn gobeithio bod Portmeirion yn chwarae ei rhan o ran denu’r twristiaid hyn i ogledd Cymru.

Yna bydd y Gweinidog yn ymweld â phlasty mawreddog Plas Newydd ar y Fenai i grwydro’r tŷ a gweld y pwmp gwresogi chwyldroadol yno gaiff ei ynni o ddŵr y môr.

Mae’r system arloesol yn pwmpio ychydig o ddŵr y môr o’r Fenai, drwy bibellau o gyfnewidydd gwres, i fyny 30 medr o wyneb y clogwyn, i wresogydd y plas. Bydd y system, a osodwyd yn gynharach eleni, yn arbed tua £40,000 y flwyddyn i’r eiddo mewn biliau gwresogi.

Meddai Nerys Jones, Rheolwr Cyffredinol Plas Newydd:

Mae pwmp gwresogi Plas Newydd yn enghraifft arloesol o ddefnyddio ynni cynaliadwy ac rydym yn awr yn awyddus iawn i rannu’r hyn ‘rydym wedi’i ddysgu gydag eraill.

Plas Newydd

Plas Newydd

Dywedodd y Farwnes Randerson:

Mae Portmeirion a Plas Newydd yn arweinwyr yn eu meysydd ac yn cynnig cipolwg i dwristiaid o rywbeth arbennig iawn ym meysydd pensaernïaeth a gwyddoniaeth yn eu tro. Mae’r ddau yn denu ymwelwyr i’r ardal hynod hon o Gymru.

Mae angen i ni annog rheiny sy’n ymweld â Chymru ar gyfer Uwchgynhadledd NATO i gymryd y cyfle i edrych ar y cyfan sydd gennym i’w gynnig. Dwi’n edrych ‘mlaen at hyrwyddo’r rhain a’r niferus atyniadau gwych eraill ar draws Cymru i’r rheiny y byddai’n cwrdd â nhw drwy ddigwyddiadau NATO.

Find out more about NATO Summit Wales 2014 or follow the official Summit Twitter account @NATOWales

Cyhoeddwyd ar 28 August 2014