Datganiad i'r wasg

Cymorth dros y gaeaf gwerth hyd at £600 i bensiynwyr Cymru

Mae taliadau o hyd at £600 yn mynd yn uniongyrchol i gyfrifon banc dros 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru am yr ail flwyddyn yn olynol.

Mae pensiynwyr ledled Cymru wedi dechrau cael hyd at £600 i helpu gyda biliau ynni y gaeaf hwn.

Bydd Taliadau Tanwydd y Gaeaf – sy’n cael hwb unwaith eto eleni o £300 ychwanegol fesul aelwyd fel taliad Costau Byw i Bensiynwyr – yn mynd i gyfrifon banc dros y ddau fis nesaf, gyda’r mwyafrif helaeth yn digwydd yn awtomatig.

Dywedodd Mel Stride, Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau’r DU:

Rydyn ni wedi cyflawni ein haddewid i haneru chwyddiant a byddwn yn parhau i gefnogi pobl ledled Cymru, gan gynnwys pensiynwyr a allai fod yn wynebu heriau penodol dros y misoedd oerach.

Yn ogystal â hyd at £600 i helpu ein pensiynwyr i aros yn gynnes y gaeaf hwn, rydyn ni’n rhoi hwb i bensiynau drwy’r Clo Triphlyg – gan gynyddu cyfradd lawn Pensiwn Newydd y Wladwriaeth dros £900 y flwyddyn nesaf.

Dywedodd David TC Davies, Ysgrifennydd Cymru:

Rydyn ni’n gwybod bod costau byw yn dal i effeithio ar bobl, ac mae Llywodraeth y DU eisiau gwneud popeth o fewn ein gallu i gefnogi’r rheini sydd fwyaf mewn angen. Mae’n newyddion da y bydd dros 600,000 o bensiynwyr yng Nghymru yn cael cymorth gyda’u biliau ynni y gaeaf hwn er mwyn iddyn nhw gadw’n gynnes.

Bydd yr arian yn ymddangos ar gyfriflenni banc gyda’r cyfeirnod talu yn dechrau gyda rhif Yswiriant Gwladol y cwsmer ac yna ‘DWP WFP’.

Mae’r rhan fwyaf o’r Taliadau Tanwydd Gaeaf yn cael eu talu’n awtomatig ond mae angen i rai pobl wneud cais, fel y rheini sy’n gymwys ond nad ydynt yn derbyn budd-daliadau na Phensiwn y Wladwriaeth ac nad ydynt erioed wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen. Mae’r taliadau’n darparu cymorth ychwanegol i bensiynwyr, y mae’r rhan fwyaf ohonynt ar incwm sefydlog ac yn methu â chodi eu hincwm drwy gyflogaeth sefydlog.

Daw dechrau’r tymor Taliadau Tanwydd Gaeaf yn sgil y taliadau Costau Byw £300 diweddar a wnaed gan yr Adran Gwaith a Phensiynau i dros 400,000 o aelwydydd cymwys ledled Cymru. 

Y taliad diweddaraf hwn yw’r ail o hyd at dri thaliad Costau Byw sy’n cael eu gwneud yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Mae’r taliadau hyn – sydd i gyd yn ddi-dreth ac na fyddant yn cael unrhyw effaith ar ddyfarniadau budd-daliadau presennol – yn dangos ymrwymiad Llywodraeth y DU i gefnogi teuluoedd incwm isel sy’n wynebu pwysau ariannol.

Mae pensiynwyr sy’n cael Credyd Pensiwn hefyd yn gymwys i gael y cymorth ychwanegol hwn. Mae’r dyfarniad Credyd Pensiwn cyfartalog bellach yn werth £3,900 y flwyddyn ac mae amser o hyd i’r rheini sy’n gymwys i wneud cais a chael y taliad Costau Byw o £300. 

Y rheswm dros hyn yw y gellir ôl-ddyddio hawliad cymwys am Gredyd Pensiwn dri mis ar yr amod bod y meini prawf yn cael eu bodloni drwy gydol y cyfnod hwnnw.

Gan gynnwys y mesurau a gyhoeddwyd yn Natganiad yr Hydref yr wythnos hon, mae cyfanswm ein hymrwymiad i leddfu pwysau costau byw wedi codi i £104 biliwn. Mae hynny’n cynnwys talu tua hanner cost y bil ynni cyfartalog ers mis Hydref diwethaf ac mae’n cyfateb i £3,700 yr aelwyd ar gyfartaledd.

Gwybodaeth Ychwanegol:

  • Mae’r Taliadau Costau Byw, sydd wedi’u rhannu ar draws 2023/24, yn werth hyd at £900 ar gyfer y rheini sy’n cael budd-daliadau sy’n seiliedig ar brawf modd. Mae rhagor o wybodaeth am y Taliadau Costau Byw ar gael yma: £2.2 biliwn mewn Taliadau Costau Byw a dalwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau dros yr wyth diwrnod diwethaf - GOV.UK (www.gov.uk)
  • Mae rhagor o wybodaeth i helpu pensiynwyr i gyfrifo faint y byddant yn ei gael ar gael ar GOV.UK: Taliad Tanwydd Gaeaf: Faint gewch chi - GOV.UK (www.gov.uk)
  • Mae’r rhan fwyaf o Daliadau Costau Byw Pensiynwyr yn cael eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr a dylid eu derbyn erbyn 26 Ionawr 2024.
  • Dylai’r rheini nad ydynt yn cael taliad erbyn 26 Ionawr 2024 gysylltu â’r Ganolfan Taliadau Tanwydd Gaeaf.
  • Bydd y mwyafrif helaeth o bensiynwyr yn derbyn eu taliad yn awtomatig, ond mae angen i rai pobl wneud cais:
  • Os nad ydych chi wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, dim ond os oes un o’r canlynol yn berthnasol y bydd angen i chi wneud cais:
  • os nad ydych chi’n cael budd-daliadau na Phensiwn y Wladwriaeth
  • yr unig fudd-dal a gewch chi yw Taliad Anabledd i Oedolion gan Lywodraeth yr Alban, Budd-dal Tai, Gostyngiad yn y Dreth Gyngor, Budd-dal Plant neu Gredyd Cynhwysol
  • os ydych chi’n byw yn y Swistir neu mewn gwlad AEE
  • Os ydych chi wedi cael Taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen, dim ond os ydych chi wedi gwneud un or canlynol ers eich taliad diwethaf y bydd angen i chi wneud cais:
  • gohirio Pensiwn y Wladwriaeth
  • symud i’r Swistir neu i un o wledydd AEE
  • Gellir gwneud cais am Daliadau Tanwydd Gaeaf dros y ffôn neu drwy’r post. Mae rhagor o wybodaeth am wneud cais ar gael yma: Taliad Tanwydd Gaeaf: Sut i wneud cais - GOV.UK (www.gov.uk)
  • I gael rhagor o wybodaeth am Gredyd Pensiwn, i ddefnyddio’r gyfrifiannell ar-lein am ddim, i weld a ydych chi’n gymwys neu i wneud cais, ewch i gov.uk/pension-credit neu ffoniwch 0800 99 1234.
  • Mae Credyd Pensiwn yn ychwanegu at incwm person hyd at isafswm o £201.05 yr wythnos ar gyfer pensiynwyr sengl neu £306.85 ar gyfer cyplau.
  • Gall pobl sy’n derbyn unrhyw swm o Gredyd Pensiwn hefyd gael cymorth gyda chostau eraill gan gynnwys rhent (drwy Fudd-dal Tai), y dreth gyngor a gwresogi. Mae pobl dros 75 oed yn gymwys i gael trwydded deledu am ddim.
Cyhoeddwyd ar 28 November 2023