Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

The Rt Hon Mel Stride MP

Bywgraffiad

Penodwyd y Gwir Anrhydeddus Mel Stride yn Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau ar 25 Hydref 2022.

Cyn hynny bu’n Arglwydd Lywydd y Cyngor ac yn Arweinydd Tŷ’r Cyffredin rhwng 23 Mai 2019 a 24 Gorffennaf 2019, ac yn Ysgrifennydd Ariannol i’r Trysorlys a’r Tâl-feistr Cyffredinol rhwng Mehefin 2017 a Mai 2019.

Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Ganol Dyfnaint yn 2010.

Addysg

Addysgwyd Mel yn Ysgol Ramadeg Portsmouth a Phrifysgol Rhydychen, lle cafodd ei ethol yn Llywydd Undeb Rhydychen.

Gyrfa wleidyddol

Ym mis Hydref 2011 penodwyd Mel yn Ysgrifennydd Seneddol Preifat i’r Gweinidog Gwladol dros Addysg Bellach, Sgiliau a Dysgu Gydol Oes, John Hayes. Yn ddiweddarach gwasanaethodd fel Chwip Cynorthwyol y Llywodraeth o fis Gorffennaf 2014 tan fis Mai 2015 ac fel Chwip y Llywodraeth (Arglwydd Gomisiynydd Trysorlys EM) o fis Mai 2015 tan fis Gorffennaf 2016.

Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau

Mae gan yr Ysgrifennydd Gwladol gyfrifoldeb am fusnes yr adran, gan gynnwys y Strategaeth Adrannol, cynllunio a pherfformiad, adrodd a gofynion llywodraethu. Mae ganddynt gyfrifoldeb uniongyrchol am wariant adrannol.

Mae’r DWP yn gyfrifol am weinyddu Pensiwn y Wladwriaeth a’r system budd-daliadau oedran gweithio, gan ddarparu cymorth i:

  • bobl o oedran gweithio
  • cyflogwyr
  • pensiynwyr
  • teuluoedd a phlant
  • pobl anabl

Mwy am y rôl hon

Adran Gwaith a Phensiynau