Ysgrifennydd Gwladol Cymru

The Rt Hon David TC Davies MP

Bywgraffiad

Penodwyd David T C Davies yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 25 Hydref 2022.

Bu’n Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol Cymru rhwng Rhagfyr 2019 a Hydref 2022.

Cyn hynny, roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cymreig rhwng 2010 a 2019. Cafodd ei ethol yn AS Ceidwadol dros Fynwy yn 2005.

Cefndir

Ganwyd David yn Llundain a chafodd ei addysg yn Ysgol Basaleg, ger Casnewydd yn ne Cymru.

Gyrfa wleidyddol

Yn 1999, etholwyd David yn Aelod Cynulliad dros Fynwy a daliodd y sedd tan 2007. Ers cael ei ethol i Senedd y DU, mae wedi bod yn aelod o nifer o bwyllgorau, gan gynnwys:

  • Y Pwyllgor Materion Cymreig
  • Y Pwyllgor Dethol ar Faterion Cartref
  • Y Grŵp Hollbleidiol Seneddol ar Tsieina
  • Y Grŵp Hollbleidiol Seneddol Prydeinig-Almaenig

Gyrfa y tu allan i wleidyddiaeth

Ar ôl gadael yr ysgol, aeth David i weithio i British Steel cyn ymuno â’r Fyddin Diriogaethol a gwasanaethu am 18 mis fel Gynnwr gyda Chatrawd Amddiffyn Awyr 104 ym Marics Rhaglan, Casnewydd. Gweithiodd hefyd i Burrow Heath Ltd, cwmni morgludiant ei deulu, yn ogystal â gwasanaethu fel Cwnstabl Gwirfoddol am 9 mlynedd gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig.

Bywyd Personol

Mae David wedi priodi Aliz ac maent yn byw yn Nhrefynwy gyda’u 3 o blant. Mae’n siarad Cymraeg yn rhugl.

Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn gyfrifol am gyfeiriad strategol cyffredinol Llywodraeth y DU yng Nghymru.

Mae’r cyfrifoldebau yn cynnwys:

  • Cyllid
  • Materion Cyfansoddiadol ac Etholiadol
  • Costau byw
  • Y Gymraeg
  • Ardaloedd Buddsoddi
  • Porthladdoedd Rhydd
  • Dur
  • Cronfeydd (ee Cronfa Blaenoriaethau Strategol, Cronfa Codi’r Gwastad)
  • Materion Cartref (polisi, mewnfudo, diogelwch)
  • Amddiffyniad
  • Chwaraeon
  • Materion Tramor (hy cysylltu â Llysgenhadon a phobl o dramor)
  • Cyhoeddiadau Bargen Twf Mawr
  • Penodiadau Cyhoeddus
  • Anrhydeddau

Mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn rhannu cyfrifoldeb gyda’r Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn y meysydd hyn:

  • Undeb
  • Llywodraeth Cymru / Senedd / Cyswllt y Cynulliad
  • Trafnidiaeth (wedi’i ddatganoli’n rhannol)
  • Masnach ryngwladol
  • Ymchwil a Datblygu, Arloesi
  • Amaethyddiaeth
  • Prydain Fyd-eang
  • Porth y Gorllewin
  • Y Trydydd Sector
  • Llywodraeth Leol

Mwy am y rôl hon

Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru

Rolau blaenorol yn y llywodraeth