Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cefnogi incwm dros 510,000 o bobl ledled Cymru

Ystadegau diweddaraf yn dangos cynnydd yn nifer y bobl yng Nghymru sy’n elwa o gynlluniau cymorth Llywodraeth y DU ar ddiwedd mis Gorffennaf

Income Support
  • Mae ffigurau’n dangos fod nifer o bobl yng Nghymru yn derbyn cefnogaeth drwy’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (CCIH) a Chynllun Cadw Swyddi yn sgil Coronafeirws (CCSC) wedi cynyddu fis diwethaf;
  • Mae 110,000 o bobl yn y wlad nawr yn elwa o’r grantiau i’r hunangyflogedig;
  • Mae mwy na 400,000 o swyddi yng Nghymru ar ffyrlo sy’n sicrhau y gall bobl ddychwelyd i’r gwaith yn dilyn yr achosion o’r coronafeirws

Mae ystadegau newydd yn dangos fod y gefnogaeth sydd wedi ei dderbyn gan gynlluniau cymhorthdal incwm y llywodraeth wedi cynyddu yng Nghymru fis diwethaf.

Mae’r Cynllun Cadw Swyddi y Coronafeirws (CCSC) a’r Cynllun Cymorth Incwm i’r Hunangyflogedig (CCIH) a gyhoeddwyd gan y Canghellor ar ddechrau pandemig y coronafeirws ym mis Mawrth fel rhan o becyn o fesurau i gefnogi swyddi, busnesau ac unigolion sydd wedi eu heffeithio gan yr achosion o’r coronafeirws.

Mae 22,400 fwy o bobl yng Nghymru yn elwa o’r cynllun ffyrlo nag oedd ym mis Mehefin, gan fynd â’r cyfanswm i 400,800.

Mae 2,000 fwy o bobl yn derbyn y grant CCIH gyda chostau’r CCIH yng Nghymru yn cyrraedd cyfanswm o £295 miliwn hyd yn hyn ar gyfer cyfanswm o 110,000 o geisiadau.

Yn ôl Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Our unprecedented support schemes have helped thousands of hard working people across Wales and protected Welsh businesses during the coronavirus pandemic.

Wrth i ni ddechrau ar gam nesaf yr adferiad economaidd, bydd ein ‘Cynllun ar gyfer Swyddi’ yn sicrhau y bydd swyddi yn cael eu creu a’u cynnal.

Meddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart:

Mae pandemig y coronafeirws yn parhau i fod yn her ddigynsail, ond mae Llywodraeth y DU yn parhau i ddarparu cefnogaeth ar lefel digynsail i sicrhau adferiad economi Cymru cyn gynted â phosib.

Mae ein cynlluniau cefnogaeth wedi cefnogi bywoliaethau miloedd ar draws Cymru. Mae hyn yn cynnwys cymhellion megis y Bonws Cadw Swyddi a’r cynllun Bwyta Allan i Helpu Allan rydym yn cefnogi busnesau a gweithwyr wrth i ni gael yr economi i symud eto.

Mae’r ystadegau heddiw yn dangos y dadansoddiad rhanbarthol diweddaraf o gefnogaeth ar draws y wlad hyd at 31ain Gorffennaf, ac mae defnydd o gymorth y CCSC rhwng gwledydd a rhanbarthau’r DU ar y cyfan yn gymesur i gyfran cyflogaeth pob gwlad a rhanbarth.

Bydd y CCSC yn para tan ddiwedd mis Hydref yn parhau i gefnogi swyddi a busnesau wrth i bobl ddychwelyd i’r gwaith.

Mae ceisiadau ar gyfer ail grant CCIH yn agor yr wythnos hon gyda’r sawl sy’n gymwys i hawlio ail grant terfynol o hyd at £6570.

Mae’r ddau gynllun yn rhan o gynllun economaidd cynhwysfawr i unigolion a busnesau gan gynnwys benthyciadau, grantiau, gohirio treth incwm, cymorth rhentu, lefelau uwch o Gredyd Cynhwysol a saib morgais.

Mae’r Canghellor wedi gosod allan y ‘Cynllun ar gyfer Swyddi’ i gefnogi, diogelu a chreu swyddi ar hyd a lled y wlad gan gynnwys y Bonws Cadw Swyddi i annog busnesau i gadw eu gweithwyr sydd ar ffyrlo.

Nodiadau i olygyddion

  1. Mae ystadegau swyddogol y Cynllun Cadw Swyddi yn Sgil y Coronafeirws a’r Cynllun Cadw Swyddi y Coronafeirws yn cael eu diweddaru’n fisol a gellir eu gweld yma https://www.gov.uk/government/collections/hmrc-coronavirus-covid-19-statistics

  2. Ceir fwy o wybodaeth am y CCSC yma https://www.gov.uk/guidance/claim-for-wages-through-the-coronavirus-job-retention-scheme.cy

  3. Ceir fwy o wybodaeth am y CCIH yma https://www.gov.uk/guidance/claim-a-grant-through-the-coronavirus-covid-19-self-employment-income-support-scheme.cy

  4. Mae’r data a ddarparwyd yn y datganiad hwn yn mynd hyd at ganol nos ar 31 Gorffennaf 2020.

Cyhoeddwyd ar 24 August 2020