Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU yn cyflawni dros Gymru yn Sioe Frenhinol Cymru

Sefydliadau o Gymru a Whitehall i ddod ynghyd ar stondin C221 yn ystod digwyddiad dathlu canmlwyddiant

Bydd pobl a chwmnïau sy’n byw, yn gweithio ac yn gwneud busnes yng Nghymru yn cael cyfle i glywed mwy am yr holl fanteision a gwasanaethau sydd ar gael iddynt drwy gynlluniau Llywodraeth y DU, wrth i adrannau gynnal eu harddangosfa fwyaf erioed yng nghanfed Sioe Frenhinol Cymru.

Yn seiliedig ar y thema ‘Cyflawni dros Gymru’, bydd adrannau o Lywodraeth y DU yn cynnwys Swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion gwledig (DEFRA), yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), DVLA, yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dod ynghyd ar rodfa C, stondin 221 i gynnig cyfres o ddigwyddiadau, gweithgareddau rhyngweithiol a gwybodaeth am y cymorth sydd ar gael i bobl yn y gwaith a gartref.

Dywedodd Alun Cairns, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Ledled y DU ac ym mhob cwr o’r byd, mae cynrychiolwyr o adrannau o Lywodraeth y DU yn gweithio’n ddiflino i ddarparu pob math o gefnogaeth i’n dinasyddion a chymorth mewn gwledydd lle mae ei angen yn ddirfawr.

Yn ystod blwyddyn arbennig i Sioe Frenhinol Cymru, mae’n bleser gweld cynifer o adrannau’n cael eu cynrychioli i godi ymwybyddiaeth o’r cyfleoedd sydd ar gael i deuluoedd, busnesau a phobl sy’n gweithio ym mhob rhan o Gymru.

Dywedodd Ysgrifennydd yr Amgylchedd, Michael Gove:

Mae’n bleser gennyf fod yma yn ystod y 100fed Sioe Frenhinol Cymru, un o’r digwyddiadau amaethyddol mwyaf a gorau y flwyddyn, yn y rhan hardd hon o Gymru.

Mae Sioe Frenhinol Cymru yn arddangosfa gwych ar gyfer ansawdd y da byw, bwyd, diod a chynnyrch ffermio yng Nghymru, a dylai’r holl arddangoswyr yma fod yn falch o’u cyflawniadau. Yr wyf yn edrych ymlaen yn fawr iawn i weld popeth sy’n cael ei gynnig.

Dyma rai o uchafbwyntiau’r wythnos:

Dydd Llun

Gweithgarwch y Gweinidogion:

  • Bydd Ysgrifennydd Gwladol Cymru Alun Cairns yn ymuno ag Ysgrifennydd yr Amgylchedd Michael Gove mewn cyfarfodydd gyda nifer o rhanddeiliaid amaethyddol a ffermio.

Ar stondin Llywodraeth y DU:

  • Ar gychwyn y digwyddiad pedwar diwrnod yn Llanfair-ym-Muallt, bydd yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) yn rhoi gwybodaeth am eu gwaith yng Nghymru, yn cynnwys y Cyfrifiad sydd ar droed yn 2021.

Ar y stondin ddydd Mawrth:

  • Cyfle i sefyll prawf platiau cofrestru DVLA i gadarnhau eich bod yn ddiogel i fod ar y ffyrdd.
  • Dewch i drafodaeth panel ‘Food is GREAT’ fore Mawrth wedi’i chyflwyno gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru gyda chyflenwyr bwyd a diod enwog o Gymru er mwyn cael cymorth i gymryd y camau nesaf ar eich taith allforio.
  • Yn y prynhawn, mae’r Adran dros Faterion Digidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yn cynnal sesiwn rhoi cyngor ar fand eang.

Ar y stondin ddydd Mercher:

  • Bydd yr Adran dros Ddatblygu Rhyngwladol yn arddangos yr offer a ddefnyddir ledled y byd i fynd i’r afael i’r heriau yn cynnwys tlodi, clefyd, ansicrwydd a gwrthdaro. Gallwch gymryd rhan yng ngweithgarwch clirio ffrwydron tir Ymddiriedolaeth Halo a siarad â chynrychiolwyr o Sure Chill, y mae eu technoleg rhewi yn achub bywydau dramor.

Ar y stondin ddydd Iau:

  • Cyn Wythnos Prydain Fawr Werdd ym mis Tachwedd, ymunwch â chynrychiolwyr o’r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ganfod sut gallwch chi a’ch busnes elwa o Strategaeth Ddiwydiannol Llywodraeth y DU.
Cyhoeddwyd ar 22 July 2019