Datganiad i'r wasg

Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn cyrraedd cytundeb gwerth £26 miliwn i sefydlu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb i gydweithio a darparu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru.

  • Bydd rhagor o swyddi a buddsoddiad yn dod i Gymru yn sgil llunio cytundeb i sefydlu Porthladd rhydd newydd
  • Rhaid i’r cynigwyr nodi sut bydd y Porthladd rhydd yn hybu’r economi leol, cefnogi swyddi diogel o ansawdd da a thrawsnewid i economi sero net
  • Bydd Porthladd rhydd Cymru yn cael ei gefnogi gan £26 miliwn o gyllid gan Lywodraeth y DU, i gyflawni cynlluniau i sicrhau ffyniant bröydd ar draws y DU

Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb i gydweithio a darparu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru (12 Mai 2022).

Gyda chymorth miliynau o gyllid gan lywodraeth y DU, bydd y Porthladd rhydd yn cefnogi adfywio cymunedau yng Nghymru drwy ddenu busnesau, swyddi a buddsoddiad newydd, yn ogystal â thyfu economi Cymru.

Rhaid i’r cynigwyr ddangos sut byddant yn creu cyfleoedd cyflogaeth o ansawdd uchel sy’n cynnig cyflogau ac amodau da ac yn bodloni ymrwymiadau’r llywodraethau ar y cyd o ran newid yn yr hinsawdd i gyrraedd sero net erbyn 2050.

Mewn cam pwysig arall o gydweithrediad, bydd swyddogion o Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn asesu’r ceisiadau ar y cyd mewn proses ddethol deg a thryloyw er mwyn sicrhau bod y safleoedd gorau posibl yn cael eu cyflwyno a’u bod yn sicrhau’r manteision gorau posibl i gymunedau ar draws Cymru.

Dywedodd y Prif Weinidog Boris Johnson AS:

Mae gan Gymru hanes balch o harneisio masnach a buddsoddiad rhyngwladol i dyfu ei heconomi a chreu swyddi a chyfleoedd da.

Roedd dau o’r porthladdoedd allforio glo mwyaf yn y byd yng Nghymru yn y ganrif ddiwethaf ac rwy’n siŵr y gallai Porthladd rhydd modern fod yr un mor effeithiol fel pyrth at gyflogaeth fedrus sy’n talu’n dda a ffyniant os ydynt yn cofleidio ymdeimlad y genedl o greadigrwydd, cymhelliant ac uchelgais.

Amdani!

Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove:

Rwyf wrth fy modd mai Cymru yw’r ardal ddiweddaraf yn y DU a fydd yn elwa o Borthladd rhydd newydd. Bydd agenda Porthladdoedd rhydd uchelgeisiol Llywodraeth y DU yn helpu i sicrhau ffyniant bro yn ein cymunedau arfordirol a chreu cyfleoedd newydd i bobl ar hyd a lled y wlad.

Ar y cyd â Llywodraeth Cymru, edrychaf ymlaen at weld cynigion arloesol yn cael eu cyflwyno sy’n dangos manteision amlwg i bobl Cymru.

Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi yng Nghymru:

Ar ôl llawer iawn o ymgysylltu rhwng ein llywodraethau, rwy’n falch ein bod wedi gallu dod i gytundeb â gweinidogion y DU i sefydlu Porthladdoedd rhydd yng Nghymru. Mae’r cytundeb hwn yn deg i Gymru, ac yn parchu cyfrifoldebau Llywodraeth Cymru mewn meysydd polisi datganoledig.

Fodd bynnag, rydym wedi dweud yn glir wrth lywodraeth y DU na fydd Porthladd rhydd yn cael ei weithredu oni ellir dangos drwy dystiolaeth a dadansoddiadau cadarn y bydd yn cefnogi ein hagenda gwaith teg ac yn sicrhau manteision hirdymor, cynaliadwy i Gymru, a gwerth am arian i drethdalwyr Cymru.

Mawr obeithiaf y bydd parodrwydd Llywodraeth y DU i weithio gyda Llywodraeth Cymru fel sefydliad cydradd ar Borthladdoedd rhydd yn gallu bod yn fodel cadarnhaol ar gyfer cydweithredu rhwng ein llywodraethau ar gynlluniau eraill yn y dyfodol.

Dywedodd Simon Hart, Ysgrifennydd Cymru:

Fel rhan o’n cynllun i sicrhau ffyniant bro cymunedau ar draws y DU, mae Porthladdoedd rhydd wir yn gallu trawsnewid.

Drwy greu miloedd o swyddi lleol a sbarduno buddsoddiad ar draws yr economi ehangach, mae Porthladdoedd rhydd yn dod â manteision a chyfleoedd i’r cymunedau sydd angen hynny fwyaf. 

Mae hwn yn gyhoeddiad hynod gyffrous i Gymru ac edrychaf ymlaen at weld ceisiadau gan gynifer o safleoedd â phosibl.

Mae’r llywodraethau wedi cytuno ar y cyd y byddent yn fodlon ystyried yr achos dros Borthladd rhydd ychwanegol yng Nghymru, pe bai cynnig gwirioneddol eithriadol yn cael ei gyflwyno. Byddai’r trefniadau cyllido ar gyfer Porthladd rhydd ychwanegol yng Nghymru yn amodol ar drafodaethau rhwng y llywodraethau.

Dywedodd Rishi Sunak, Canghellor y Trysorlys:

Bydd y cytundeb ffantastig hwn sy’n werth miliynau o bunnoedd yn sicrhau bod cymunedau Cymru yn sicrhau manteision ein cynnig Porthladdoedd rhydd sydd gyda’r gorau yn y byd – gan greu swyddi, ysgogi arloesedd a hybu buddsoddiad busnes wrth i ni sicrhau cyfleoedd i bob cwr o’r DU.

Bydd porthladdoedd rhydd yn ganolfannau ar gyfer masnach, arloesi a masnach ryngwladol, gan adfywio cymunedau drwy ddenu busnesau newydd, mwy o swyddi, buddsoddiad a chyfleoedd i drefi ac i ddinasoedd ar hyd a lled y DU.

Mae’r cytundeb hwn yn adeiladu ar gynllun uchelgeisiol hirdymor Llywodraeth y DU i ledaenu cyfleoedd yn fwy cyfartal ar draws y DU i gyd, fel y nodir yn y Papur Gwyn ar Ffyniant Bro.

Fel rhan o hyn, mae Cymru wedi derbyn £121 miliwn drwy’r Gronfa Ffyniant Bro, £46 miliwn drwy’r Gronfa Adnewyddu Cymunedol a £464,258 gan y Gronfa Perchnogaeth Gymunedol.

Mewn cynlluniau pellach i sicrhau ffyniant bro ar draws y DU, mae gwaith yn parhau ar gynlluniau a fyddai’n golygu darparu Porthladd rhydd newydd yng Ngogledd Iwerddon.

Rhagor o wybodaeth

Bydd rhagor o wybodaeth ar gael a byddwn yn ymgysylltu â phartïon sydd â diddordeb cyn cyhoeddi’r prosbectws.

Mae porthladdoedd rhydd yn ardaloedd arbennig o fewn ffiniau’r DU lle mae rheoliadau tollau ac economaidd gwahanol yn berthnasol. Mae porthladdoedd rhydd yn safleoedd sy’n canolbwyntio ar awyr, ar reilffyrdd neu ar borthladd môr neu gyfuniad o’r rhain, o fewn ffin allanol. Rhagor o wybodaeth am Borthladdoedd Rhydd.

Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cyhoeddi lleoliad 8 Porthladd rhydd yn Lloegr.

Darllenwch y llythyrau oddi wrth yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ffyniant Bro Michael Gove a Gweinidog yr Economi Llywodraeth Cymru Vaughan Gething yn amlinellu eu cytundeb i sefydlu Porthladd rhydd newydd yng Nghymru.

Edrychwch ar Bapur Gwyn arloesol y llywodraeth ar Ffyniant Bro.

Office address and general enquiries

2 Marsham Street
London
SW1P 4DF

E-bost correspondence@levellingup.gov.uk

General enquiries: please use this number if you are a member of the public 030 3444 0000

Media enquiries

E-bost newsdesk@levellingup.gov.uk

Please use this number if you are a journalist wishing to speak to Press Office 0303 444 1209

Cyhoeddwyd ar 12 May 2022