Datganiad i'r wasg

Pawb â phrosiect pres poced wedi’u hannog i sortio’u Ffurflenni Treth nawr

Mae CThEF yn annog unrhyw un sydd â phrosiect pres poced i wirio a oes angen iddo lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025.

  • Os ydych yn ennill dros £1,000 o incwm ychwanegol, mae’n bosibl y bydd angen i chi gofrestru ar gyfer Hunanasesiad.
  • Bydd cyflwyno Ffurflen Dreth nawr yn golygu y bydd gennych afael ar eich sefyllfa dreth ac yn gallu trefnu cynllun talu
  • Mae’n waith hwylus i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth drwy ddefnyddio gwasanaethau digidol CThEF

Mae unrhyw un sy’n ennill incwm ychwanegol drwy brosiect pres poced yn cael ei annog i wirio a oes angen iddo gofrestru ar gyfer Hunanasesiad – a chyflwyno’i Ffurflen Dreth nawr os oes angen.

Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog pawb sydd â ffrydiau incwm ychwanegol –  fel gwerthu pethau ar-lein, creu cynnwys digidol, cerdded cŵn a rhentu eiddo – i ddysgu am eu hymrwymiadau treth er mwyn osgoi rhuthro munud olaf cyn dyddiad cau mis Ionawr.

Y trothwy o £1,000 yw’r peth pwysicaf: mae’n bosibl y bydd angen i unrhyw un sy’n ennill dros £1,000 o’i brosiect pres poced gofrestru ar gyfer Hunanasesiad a llenwi Ffurflen Dreth. Mae hyn yn cynnwys enillion neu incwm o gryptoasedion.

Gall unrhyw un ddefnyddio’r offeryn gwirio ar GOV.UK i gael gwybod a oes angen iddo lenwi Ffurflen Dreth ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025. Mae’n rhaid i’r sawl sy’n newydd i Hunanasesiad gofrestru er mwyn cael eu Cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr.

Mae canllawiau syml ar gael i’r sawl sydd â phrosiect pres poced ar taxhelpforhustles.campaign.gov.uk.

Meddai Myrtle Lloyd, Cyfarwyddwr Cyffredinol CThEF ar gyfer Gwasanaethau i Gwsmeriaid:

P’un a ydych yn gwerthu pethau bach crefftus ar-lein, creu cynnwys digidol neu rentu eiddo, mae’n angenrheidiol eich bod chi’n deall eich ymrwymiadau treth. Os ydych chi’n ennill dros £1,000 o brosiectau pres poced, efallai y bydd angen i chi lenwi Ffurflen Dreth Hunanasesiad.

Drwy gyflwyno Ffurflen Dreth yn gynnar, bydd gennych bopeth dan reolaeth – byddwch yn gwybod faint sydd arnoch, ac yn gallu cynllunio’ch taliadau er mwyn osgoi rhuthro munud olaf ym mis Ionawr. Does dim angen i chi dalu’n syth ar ôl cyflwyno’ch Ffurflen Dreth – bydd gennych chi hyd at 31 Ionawr i setlo’ch bil treth.

Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar-lein a thalu unrhyw dreth sydd arnoch ar gyfer blwyddyn dreth 2024 i 2025 yw 31 Ionawr 2026.

Mae’n bwysig i gynllunio ymlaen llaw, yn enwedig os ydych yn unig fasnachwr neu’n landlord ag incwm cymhwysol dros £50,000, gan fod angen i chi ddechrau defnyddio’r cynllun Troi Treth yn Ddigidol (MTD) ar gyfer Treth Incwm o fis Ebrill 2026 ymlaen. Bydd gofyn i chi gadw cofnodion digidol ac anfon diweddariadau chwarterol gan ddefnyddio meddalwedd sy’n cydweddu.

Ewch i GOV.UK i gael ragor o wybodaeth am Hunanasesiad a sut i gyflwyno Ffurflen Dreth.

Rhagor o wybodaeth

Mae rhestr gyflawn o’r sawl sydd angen llenwi Ffurflen Dreth ac ystod eang o help a chymorth ar gael ar GOV.UK.

Fel arfer, ni fydd angen i’r sawl sy’n gwerthu eitemau personol diangen (hynny yw, nid ydynt yn masnachu) dalu treth ar yr incwm hwn.

Mae CThEF yn annog cwsmeriaid sy’n ennill dros y trothwy MTD ar gyfer Treth Incwm, sef £50,000, i gofrestru ar gyfer rhaglen brawf ar GOV.UK a mynd ati i baratoi. Gall asiantau hefyd gofrestru eu cleientiaid ar GOV.UK.

Gwybodaeth am gryptoasedion:

  • Mae angen i chi wneud yn siŵr eich bod yn nodi unrhyw enillion neu incwm a geir sy’n gysylltiedig â chryptoasedion.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn agored i Dreth Enillion Cyfalaf os gwnaethoch werthu neu gyfnewid unrhyw gryptoasedion. Mae hyn yn cynnwys gwerthu cryptoasedion am arian, cyfnewid un math o gryptoased am fath arall, defnyddio cryptoasedion i brynu rhywbeth, neu eu rhoi yn rhodd.
  • Mae’n bosibl y byddwch yn agored i Dreth Incwm a chyfraniadau Yswiriant Gwladol os cawsoch gryptoasedion o gyflogaeth, neu os oeddech yn rhan o weithgareddau sy’n gysylltiedig â chryptoasedion ac sy’n cynhyrchu incwm (e.e. benthyca a mentro).
  • Yn newydd ar gyfer blwyddyn dreth 2024/25: Mae adrannau penodedig yn cael eu hychwanegu at Ffurflenni Treth Hunanasesiad er mwyn datgan cryptoasedion ar wahân i Enillion Cyfalaf ac Ymddiriedolaethau ac Ystadau.
  • Mae’r arweiniad llawn ar drethu cryptoasedion ar gael ar GOV.UK drwy chwilio am ‘tax when you sell cryptoassets’.

Yn ôl mewnwelediad a gomisiynwyd gan CThEF, a chafodd ei gyhoeddi yn 2023, mae un ym mhob 10 o bobl yn y DU yn gweithredu yn yr economi gudd. Mae 65% o’r unigolion hyn fwyaf tebygol o fod yn gweithredu prosiect pres poced a heb fod yn ymwybodol i raddau helaeth y dylen nhw fod wedi’u cofrestru ar gyfer treth.

Updates to this page

Cyhoeddwyd ar 25 Mehefin 2025