100 diwrnod tan y dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad
Dim ond 100 diwrnod sydd gan gwsmeriaid Hunanasesiad i gyflwyno’u Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026, a thalu unrhyw dreth sydd arnynt.
- Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw 31 Ionawr 2027.
- Gall cwsmeriaid Hunanasesiad fynd ati nawr i gyflwyno’u Ffurflenni Treth ar-lein drwy GOV.UK, ac osgoi rhuthro ym mis Ionawr.
- Mae cymorth ac arweiniad ar gael ar GOV.UK i’r rhai sydd ei angen.
Gyda 100 diwrnod i fynd tan y dyddiad cau, mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog miliynau o gwsmeriaid Hunanasesiad i achub y blaen, ac i beidio â gohirio llenwi eu Ffurflenni Treth ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026.
Rhagwelir bydd tua 12 miliwn o bobl yn cyflwyno Ffurflen Dreth erbyn 31 Ionawr 2027, ac mae cwsmeriaid sy’n cyflwyno eu Ffurflenni Treth yn gynnar yn gallu:
- dysgu faint o dreth sydd arnynt cyn y dyddiad cau
- rhoi rhagor o amser i gynllunio’u cyllideb
- cael ad-daliad yn gyflymach os ydynt wedi talu gormod o dreth
- osgoi cosbau
Gall cwsmeriaid gyflwyno eu Ffurflenni Treth ar gyfer 2025 i 2026 ar GOV.UK. Os ydych yn ansicr a oes angen i chi gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad, gallwch ddefnyddio offeryn gwirio GOV.UK.
Meddai Myrtle Lloyd, Prif Swyddog Cwsmeriaid CThEF:
100 diwrnod sydd tan y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad, felly nawr yw’r amser delfrydol i fachu ar y cyfle a chyflwyno’n gynnar.
Mae arweiniad a chymorth ar gael ar GOV.UK i’ch helpu i gyflwyno’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad. Mae’n syml – ewch i GOV.UK a chwilio am ‘file my Self Assessment’, yna chwiliwch am y dudalen Gymraeg i ddechrau arni heddiw.
Mae’n rhaid i’r rhai sy’n newydd i Hunanasesiad gofrestru yn gyntaf er mwyn cael eu cyfeirnod Unigryw y Trethdalwr (UTR). Mae’n rhaid iddynt gael y cyfeirnod hwn er mwyn cwblhau a chyflwyno eu Ffurflenni Treth. A gall y rhai sydd angen rhoi gwybod i CThEF nad oes angen iddynt gyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad wneud hynny ar GOV.UK hefyd.
Mae ystod o gymorth ac arweiniad ar gael ar GOV.UK, gan gynnwys:
- help wrth lenwi pob adran o’ch Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- fideos sy’n esbonio sut i gwblhau eich Ffurflen Dreth Hunanasesiad
- cynorthwyydd digidol CThEF sy’n gallu ateb cwestiynau cyffredin am Hunanasesiad
Gall cwsmeriaid Hunanasesiad hefyd ofyn i asiant treth, ffrind neu aelod o’r teulu, neu sefydliad gwirfoddol i’w helpu.
Mae’n rhaid i’r rhai sydd wedi cofrestru ar gyfer y cynllun Troi Treth yn Ddigidol ar gyfer Treth Incwm barhau i gyflwyno’u Ffurflenni Treth Hunanasesiad gan ddefnyddio’u ffordd arferol, a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus erbyn y dyddiad cau, sef 31 Ionawr 2027.
Gall cwsmeriaid Hunanasesiad sydd ag incwm TWE gyflwyno’u Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein cyn 30 Rhagfyr, a chael unrhyw dreth sy’n ddyledus wedi’i chasglu drwy eu cod treth.
Yn aml, mae troseddwyr yn honni eu bod yn gweithio i CThEF er mwyn dwyn arian neu wybodaeth bersonol o dan enw rhywun arall. Dylai pobl gymryd yr amser i feddwl a yw’r cais yn un gwirioneddol cyn rhannu gwybodaeth bersonol. Ni ddylai pobl ddilyn cysylltiadau sydd mewn negeseuon annisgwyl, na rhannu eu manylion mewngofnodi ar gyfer CThEF. Mae rhagor o wybodaeth ynghylch manylion cyswllt gwirioneddol CThEF, a chyngor ar sut i adnabod sgamiau, ar gael ar GOV.UK drwy chwilio am ‘Gwe-rwydo a sgamiau’.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad.
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar bapur ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw 31 Hydref 2026.
Bydd cwsmeriaid gafodd y Taliad Tanwydd Gaeaf ar gyfer 2025, neu’r Taliad Gwresogi Gaeaf i Bobl o Oedran Pensiwn yn yr Alban, yn gweld bod manylion eu Taliad Tanwydd Gaeaf wedi’u rhag-lenwi yn eu Ffurflenni Treth ar-lein ar gyfer 2025 i 2026. Y dyddiad cau ar gyfer gwneud y taliad hwn yw 31 Ionawr 2027. Os nad yw’r taliad hwn yn ymddangos, bydd yn rhaid i’r cwsmeriaid nodi’r taliad â llaw. Bydd angen i’r sawl sy’n cyflwyno ar bapur gynnwys y taliad hwn ar eu Ffurflenni Treth papur. Bydd cwsmeriaid sydd ag incwm dros £35,000 yn ad-dalu’r taliad hwn drwy eu bil treth Hunanasesiad.
Bydd tua 300,000 o gwsmeriaid sy’n talu eu Tâl Treth Budd-dal Plant Incwm Uchel (HICBC) drwy Hunanasesiad yn gweld bod manylion ynghylch taliadau Budd-Dal Plant (manylion y cwsmer ei hun, neu fanylion ei bartner) wedi’u rhag-lenwi ar eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar-lein. Bydd hyn yn ei gwneud hi’n haws i gwsmeriaid sy’n agored i’r tâl hwn gwblhau eu Ffurflenni Treth yn gywir
Mae’n bosibl y bydd rhai cwsmeriaid yn gallu talu drwy gwasanaeth digidol TWE – ffordd syml a hawdd o dalu’r tâl yn fisol drwy eu cyflog, sy’n diwygio eu cod treth. I gael rhagor o wybodaeth am wasanaeth digidol HICBC TWE, ewch i GOV.UK.
Mae angen i berchnogion cryptoasedion yn y DU dalu Treth Enillion Cyfalaf ar unrhyw enillion a wneir o gryptoasedion sy’n uwch na’r lwfans rhydd o dreth, sef £3,000, a’i ddatgan yn eu Ffurflenni Treth Hunanasesiad ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu treth wrth werthu cryptoasedion ar GOV.UK.