Bron i 2,000 o sgamiau Hunanasesiad wedi dod i’r amlwg
Mae CThEF yn annog pobl i fod yn wyliadwrus rhag sgamiau wrth i’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad agosáu.
- Mae 1,704 o sgamiau Hunanasesiad wedi cael eu hadrodd i CThEF yn ystod y 12 mis diwethaf. Mae’r rhain yn cynnwys tua 900 o sgamiau sy’n gysylltiedig ag un sgam penodol ynghylch ad-daliad treth.
- Yn ystod y 12 mis diwethaf, hyd at 31 Hydref, daeth cyfanswm o 95,340 o adroddiadau ynghylch sgamiau posibl i law CThEF.
- Mae CThEF yn annog pobl i fod yn wyliadwrus rhag sgamiau wrth i’r dyddiad cau ar gyfer Hunanasesiad agosáu.
Mae Cyllid a Thollau EF (CThEF) yn annog cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn wyliadwrus rhag sgamiau, yn enwedig gan fod 1,704 o adroddiadau ynghylch sgamiau Hunanasesiad wedi dod i’r amlwg.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, daeth cyfanswm o 48,119 o adroddiadau i’r amlwg ynghylch sgamwyr yn honni eu bod yn gweithio i CThEF.
Bydd sgamwyr gan amlaf yn targedu trethdalwyr wrth iddynt baratoi i gyflwyno’u Ffurflenni Treth Hunanasesiad, gan eu bod yn fwy tebygol o ddisgwyl cael e-byst, negeseuon testun neu ohebiaeth arall ynghylch eu materion treth yn ystod y cyfnod hwn.
Ym mis Awst 2026, cafodd CThEF wybod am bron i 900 o achosion a oedd yn gysylltiedig ag un sgam. Gwnaeth y sgam hon ddefnyddio e-byst a oedd yn cynnwys atodiad maleisus i gyfeirio cwsmeriaid at wefan GOV.UK ffug a oedd wedi’i dylunio i ddwyn gwybodaeth bersonol a gwybodaeth ariannol.
Roedd yr e-bost yn honni bod ad-daliad treth ar gael i’w hawlio, ac yn gofyn i’r darllenydd roi manylion personol er mwyn profi pwy ydyw ac i rannu ei fanylion banc. Roedd yr wybodaeth honno wedyn yn gallu cael ei defnyddio gan y sgamwyr i gael mynediad at gyfrifon banc neu dwyllo ymhellach.
Gwnaeth CThEF fynd ati i stopio’r gweithgarwch twyllodrus hwn a diogelu miloedd o gwsmeriaid rhag cael eu twyllo.
Mae CThEF yn annog cwsmeriaid Hunanasesiad i fod yn wyliadwrus, ac i wirio unrhyw e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn sy’n honni eu bod oddi wrth CThEF ar GOV.UK er mwyn sicrhau bod y cysylltiadau hyn yn ddilys.
Ni fydd CThEF yn gwneud y canlynol ar unrhyw adeg:
- cysylltu â chwsmeriaid drwy e-bost, neges destun neu dros y ffôn er mwyn rhoi gwybod iddynt am ad-daliad neu i ofyn iddynt hawlio un
- gofyn am wybodaeth bersonol neu wybodaeth ariannol drwy e-bost neu neges destun
- gadael negeseuon llais ynghylch camau cyfreithiol neu’r posibiliad o’ch arestio
Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno Ffurflen Dreth Hunanasesiad a thalu unrhyw dreth sy’n ddyledus ar gyfer blwyddyn dreth 2025 i 2026 yw 31 Ionawr 2027. Gall cwsmeriaid gyflwyno’u Ffurflenni Treth yn ddiogel ar-lein ar GOV.UK.
Meddai Lucy Pike, Prif Swyddog Diogelwch CThEF:
Rydym yn ymwybodol bod sgamwyr yn defnyddio’r cyfnod yma i dwyllo cwsmeriaid Hunanasesiad. Maent yn cynnig ad-daliadau ffug i dwyllo pobl i rannu gwybodaeth bersonol ac ariannol.
Cymerwch eich amser cyn ymateb i unrhyw neges sy’n honni ei bod oddi wrth CThEF. Ewch ati i wirio manylion y neges ar GOV.UK er mwyn sicrhau ei bod yn ddilys. Bydd rhoi gwybod am sgamiau yn ein helpu ni i’w stopio ac i ddiogelu pobl eraill rhag cael eu twyllo.
Yn ystod y 12 mis diwethaf, hyd at 31 Hydref, mae CThEF hefyd wedi nodi 1,024 achos o gamddefnyddio brand CThEF, ac wedi mynd ati i gau 8,713 o wefannau twyllodrus i lawr, yn ogystal â 221 rhif ffôn a oedd yn gysylltiedig â gweithgarwch twyllodrus.
Dylai unrhyw un sy’n cael neges amheus sy’n honni ei bod oddi wrth CThEF roi gwybod i ni am y cyswllt hwn. Dylent anfon unrhyw e-byst ymlaen at phishing@hmrc.gov.uk, anfon negeseuon testun at 60599, neu roi gwybod am alwadau ffôn ar GOV.UK.
Rhagor o wybodaeth
Rhagor o wybodaeth am Hunanasesiad.
Mae cyngor y llywodraeth ynghylch sgamiau ar gael ar GOV.UK.
Gall unrhyw un sydd â’r hawl i gael ad-daliad ei hawlio’n ddiogel ar GOV.UK, neu drwy ap CThEF sy’n rhad ac am ddim.