Datganiad i'r wasg

Hwb gwerth miliynau o bunnoedd i ddiwydiant bwyd Prydain

Bydd llywodraeth ganolog yn ymrwymo i brynu bwyd tymhorol, ffres yn lleol er budd ffermwyr a busnesau bach ym Mhrydain.

Cyhoeddwyd hwn o dan y 2010 to 2015 Conservative and Liberal Democrat coalition government
"Royal Welsh Show"

Royal Welsh Show

Heddiw (21 Gorffennaf), cyhoeddodd y Prif Weinidog David Cameron ac Elizabeth Truss, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd fod £400 miliwn o fusnes newydd posibl ar gael i ddiwydiant bwyd Prydain, fel rhan o gynllun economaidd hirdymor y llywodraeth i gefnogi busnesau Prydain.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog, a fydd heddiw yn cwrdd â ffermwyr a busnesau yn Sioe Frenhinol Cymru, y bydd y llywodraeth ganolog gyfan, o 2017 ymlaen, yn ymrwymo i brynu bwyd tymhorol, ffres yn lleol, fel bod yr holl fwyd sy’n gallu cael ei brynu’n lleol, yn cael ei brynu’n lleol. Gwneir hyn drwy safon newydd a symlach ar gyfer prynu bwyd a diod, ‘Y Cynllun ar gyfer Caffael Cyhoeddus’, a lansiwyd heddiw er budd miloedd o ffermwyr, busnesau bach, economïau gwledig a’r cyhoedd ym Mhrydain.

Mae’r sector cyhoeddus yn Lloegr yn gwario £1.2 biliwn bob blwyddyn ar fwyd a diod. Caiff hyd at £600 miliwn o hynny ei wario ar gynnyrch wedi’i fewnforio, y gellid cael gwerth £400 miliwn ohono o’r DU. Mae’r ymrwymiad gan lywodraeth ganolog i ddefnyddio’r safon newydd hon ar gyfer prynu yn golygu y bydd ychydig dros hanner y £400 miliwn ar gael i ffermwyr Prydain.

Yn ogystal â hyn, bydd y sector cyhoeddus ehangach yn cael ei annog a’i gefnogi i ddefnyddio’r fframwaith newydd hwn gan ddisgwyl y bydd yr holl ysgolion ac ysbytai, yn y dyfodol, yn cynnig cigoedd mwy lleol a llysiau a ffrwythau wedi’u casglu’n ffres.

Dywedodd y Prif Weinidog David Cameron:

Mae ein cynllun economaidd hirdymor yn ymwneud â chefnogi pobl ragweithiol sy’n bwrw iddi ac yn gweithio’n galed - ac nid oes neb yn gweithio’n fwy diwyd yng Nghymru a gweddill Prydain heddiw na’n ffermwyr.

Drwy agor y contractau hyn, gallwn eu helpu i greu mwy o swyddi, buddsoddi yn eu busnes a sicrhau bod pobl yng Nghymru yn byw’n iachach. Mae tair elfen lwyddiannus i hyn - a bydd yn golygu dyfodol mwy disglair i’n gwlad.

Dywedodd Stephen Crabb, Ysgrifennydd Gwladol Cymru:

Mae cyhoeddiad y Prif Weinidog heddiw yn atgyfnerthu ymhellach ein hymrwymiad i’n ffermwyr.

Fel Ysgrifennydd newydd Cymru rwy’n hollol sicr ei bod hi’n hanfodol cefnogi cymunedau lleol yng Nghymru wledig. Dyna pam bod y llywodraeth hon yn cefnogi busnesau a theuluoedd sy’n gweithio’n galed ledled Cymru drwy leihau costau ynni, gostwng trethi swyddi a rhewi tollau tanwydd i annog swyddi i gael eu creu, hybu twf a chodi safonau byw yn economi wledig Cymru.

Wrth gwrs mae mwy i’w wneud o hyd. Ond dim ond drwy ddilyn ein cynllun economaidd hirdymor y byddwn yn adeiladu economi wytnach ledled Cymru a’r DU gyfan.

Dywedodd Elizabeth Truss, yr Ysgrifennydd dros yr Amgylchedd:

Bydd y symud hwn yn golygu bod bwyd a gaiff ei weini mewn ffreuturau ar draws y sector cyhoeddus yn gallu bod yn fwy lleol, yn fwy tymhorol ac yn fwy blasus.

Bydd yn helpu i lywio twf yn niwydiant bwyd a diod rhagorol Prydain a bydd yn fuddiol i’r amgylchedd drwy greu llai o wastraff, bydd nifer fwy o bobl yn bwyta’r prydau bwyd a bydd llai o fwyd diflas yn cael ei adael ar ôl ar blatiau.

Mae hyn yn hwb enfawr i ffermwyr a chynhyrchwyr ym Mhrydain ac i fyfyrwyr, cleifion a chyflogeion sydd am fwynhau bwyd arbennig.

Bydd prynwyr yn y sector cyhoeddus bellach yn barnu darpar gyflenwyr ar sail pum maen prawf allweddol:

  • sut y caiff bwyd ei gynhyrchu a pha un a gaiff y bwyd ei gynhyrchu’n lleol
  • pa mor iach a maethlon yw’r bwyd a brynir
  • effeithlonrwydd y broses o gynhyrchu’r bwyd o safbwynt adnoddau, fel y defnydd o ddŵr ac ynni a chynhyrchu gwastraff
  • I ba raddau y mae’r bwyd a brynir yn cyflawni blaenoriaethau economaidd-gymdeithasol y Llywodraeth fel cyfranogiad busnesau bach a chanolig
  • ansawdd y gwasanaeth a gwerth am arian

Disgwylir i ffermwyr Prydain elwa o’r cynllun yn sylweddol am fod ffermwyr Prydain yn y sefyllfa orau i gyrraedd y safonau newydd llym hyn.

Yn ogystal â chefnogi bwyd lleol a chynaliadwy, mae’r safonau newydd yn blaenoriaethu caffael gan gynhyrchwyr llai o faint, a thrwy hynny yn helpu busnesau bach a chanolig i gyrraedd y farchnad sector cyhoeddus fuddiol.

Er mwyn cefnogi’r busnesau bach hyn ymhellach, bydd y Llywodraeth hefyd yn rhoi proses newydd ar waith ar gyfer prynu o fis Medi ymlaen, a fydd yn canolbwyntio ar borthol ar-lein. Bydd cwmnïau sy’n cofrestru ar y porthol hwn ac sy’n bodloni meini prawf y cynllun yn cael eu hysbysu’n awtomatig pan fydd contractau cymwys yn codi er mwyn tendro amdanynt. Byddan nhw wedyn yn gallu gwneud cais amdanynt drwy bwyso botwm.

Cynllun ar gyfer Caffael Cyhoeddus

Mae’r ‘Cynllun ar gyfer Caffael Cyhoeddus’ wedi’i gyhoeddi yn dilyn Adolygiad Dr Peter Bonfield o gaffael cynnyrch cyhoeddus, a gomisiynwyd gan Defra y llynedd. Mae’r cynllun eisoes wedi cael cefnogaeth ar draws y llywodraeth a’r sector ffermio a bwyd, yn cynnwys Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, y Ffederasiwn Bwyd a Diod a chwmnïau arlwyo mawr fel Compass a Baxton Storey sy’n cyflenwi bwyd ar draws y sector cyhoeddus.

Dywedodd Dr Bonfield:

Hoffwn i’r gwaith hwn newid sut mae pob sefydliad cyhoeddus yn ystyried y bwyd mae’n ei brynu – rydyn ni wedi cael cryn dipyn o gefnogaeth gan ysgolion, ysbytai, busnesau, arlwywyr a ffermwyr, sydd oll yn awyddus i fod yn rhan o’r dull newydd a chyffrous hwn o weithredu.

Mae’r awydd yno i newid - drwy greu’r amgylchedd iawn a rhoi’r adnoddau iawn i sefydliadau, bydd busnesau bach yn gallu gwerthu bwyd maethlon o’r safon uchaf i’r farchnad sector cyhoeddus. Dyma’r ffordd iawn o weithredu ar gyfer ein hiechyd, ein hamgylchedd a hefyd i fusnesau Prydain.

Enillwyr Technoleg Amaethyddol

Daw’r cyhoeddiad hwn wrth i 15 o brosiectau technoleg amaethyddol glywed y byddant yn cael cyfran o £18 miliwn o arian gan y llywodraeth a’r diwydiant i helpu i gyflymu cyfradd eu harloesedd amaethyddol a’u hyfywedd masnachol.

Bydd yr arian hwn yn helpu i gefnogi twf y sectorau technoleg a gwyddoniaeth amaethyddol yn y DU, sydd eisoes yn cyflogi bron 4 miliwn o bobl ac sy’n un o’r marchnadoedd sy’n tyfu gyflymaf yn y byd.

Bydd y 15 prosiect yn cael £12.1 miliwn o arian gan y llywodraeth gyda £5.7 miliwn o gyd-fuddsoddiad gan y diwydiant. Mae cwmnïau yn y DU yn eu harwain i gyd ac maent yn cwmpasu tri maes allweddol o’r sector amaethyddol - cnydau, da byw a dyframaeth.

Cyhoeddwyd ar 21 July 2014
Diweddarwyd ddiwethaf ar 21 July 2014 + show all updates
  1. Added links to Report and other published documents.

  2. First published.